Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
vmr GOSTEG. 1
vmr GOSTEG. 1 Y Gynulleidfa--o'r Pulpud.-Diolch am I ymson wreiddiol, finiog, y Parch. J. Pulpuded- ig Jones; hi ddaw yr wythnos nesaf. Mor hy' a gofyn, ymhle'r oedd y testyn ? Eglwys Gymraeg West Kirby.—Yn y nesaf, yn ddiffael. Y Milwyra'r Y.M.C.A.—Drwg gennym fod yn annichon cael lie i'ch ysgrif. oherwydd y dreth drom sydd ar ein gofod cyfyng.
- - - - - I i Cytioeddwyr…
Cytioeddwyr y Cymod Y Saboth nesaf. Y METHODISTIAID CALFINAIDD fsmoES ROAD—10 a 8, L Lewis DAVID STREET—10.30 a 6 G W Griffith JrITZCLARENOB ST—10 a J W (.'Wen DOUGLAS ROAD—10 a 6, R Prrs Owen, Llangefni CHATHAM ST-10-30 a 6, G R Jones, Spellow Lane OKOSSHALL ST.—10-30 a 6, W M Jones AHFIKLD ROAD-10.30 a 6, R W Roberts KIWSHAM PARK—10 a 0, 0 Lloyd Jones BOOTLB-JO a 1 R Aethwy Jones PAEKFIELD—10-30 a 6, J T Davie". Llanidloes SEACOMBE—10-30 a 6. H Harris Hughes GAKSTON—10-30 a 6. W 0 Jones BOOK FERRY-10.30 a 6. 0 J Owen W ALTON-10.30 a 6, D Jones WATERLOO-10.30 a 6. T J Rowlands PBBL ROAD—10.30 a 6, J Owen EDGE LANE—10.30 a 6, E J Evans WEBSTER ROAD-10-30a 6. J HUbLes LAIRD STREET—10.30 a 6, W Henry WooDCHtTRCH RD—10.30 a 6. J Daniel Evans NBW BRIGHTON-10.30 a 6. J E Davies, Treffvnnon WEST KIRBT-ll a 6-30. J H Morris V BOUTHPOPT-10.30 a 6, R Davies HXTTTON QUARRY-10.30 a 6. Lewis Andrews WHISTON—10-30 a 6 John R Morris BT. HELINIVS-D T Jones, Lerpwl ST. HELENS JUNCTION—J Peron Jones BANKHALL—8.15, -Cyfarfod Gweddi KLLESMERE PORT—10.30 a 6, RulqcoRi-10 a 6, H H Jones, Rhiwabon UPPER WARWICK STREET—8-15 ASHTON [N MAKBJLFIJ:LD-]t a 6, J S Roberts, Bolton LOWER IVY ST-8, BKHLMERSDALB—10.30 a 6, D Wyre Lewis, Rhoi WLGAN- -2-30 a 6, J H Hughes, Widnes SMITH STREET-6-15, Chwaer Evans MIDDLESBROUGH—10-30 a 6, R P Jones SUNDERLAND—10-80 a 4, M R Moses SPENNYHOOR—10-30 a 6, J T Williams BLDON—10-30 a 6-30 T J Owen KASINGTON—10-30 a 6. J Jones YB AOHOSION SBTBNIO. OAKFIELD ROAD—10.45 a 8.30, D J Jones, Pontardnlals BVERTON BROW—10.45 a 8.30, E H Williams India OATBARINB ST—LI A 8-30, J Talog Davics SPSLLOW LANE-ll a 6-30. BREEZE HILL-11 a 6.30, H RidehaIgh Jones ORREM., BOOTLE-11 a 8.30. J Howell Evans LISOARD—10.45 a 6.30 Prifathro Prys, Aberystwyth WALKER RD-10.45 a 8.30 J H Howard VB. ANNIBYNWYR IABMNALOL-10.45, T Price Davies 6-30, O L Roberts PAM ED-10-30, J 0 Williams 6. J Vernon Lewis fltovi ST-10.30, W Roberts, 6-15, D Adams QUITO* ED-10.30 a 1615, D fthydderch. Capel Seion (ft. MERSEY ST.—10.30 a 6. Rhys T Williams MAnsE LANii-io.30, G J Williams, 6, Albert. Jones KENSINGTON—10.30, J Vernon Lewis «, J 0 Williams TRINITY RD—10.30, D Adams 6 W Roberts LisCARD-1045, 0 L Roberts 5*15, T Price Davies VrrroRiA ST-10-30, Albert Jones 8-15, G J Williams BALMORAL RD-1 0 30 a Peter Lloyd HEATHFTELD RD-1 0-30, Ysgol 2-30, D Adams BARLESTOWN-10.30 A S.-IO, W W Jones, Manceinion PUSOOT—10-30 a 6, R Eame., Mancelnion BOUTUPORT-11 A 8-30, Lloyd, Ashton-in-Makerfield OOLBORNB—10-30 a 5.30, David Hughes, Bootle ASHTON-IN-MAKRTIRLD—10-30 a 6-80, T 0 Jones, XHATTO Oyfarfod Gweddi Lerpwl Y WBSLRATD. OAKVIELD—10.80, J Roger Jonw, 6, T Isfryn Hughes Bnuow LANs-i 0.30. R W Jones a JT Roger Jones Boona-10.30, W R Williams It W Jones BDOt HILL—10.30, David Jones ft, W B Williams KNOWSLEY RD-10.30 T I Hnahe. 6, D Tecwyn Evans nilfDD 8810B-I0.80, Edward Davies 6. L Edwards Bnut.JIU-IO.SO a 8 Gwel hysbysiad WIDNE8—10.80 a 8. H Williams SAISTOK—2.80. L Edwards I, Pryee Hoghea BGRRXOXT-1046. L Edwards t. Edward Davies T BBDYDDWTB- BTEITON VtLLAON-10 80, a 8. D Powell FLORSEBANX SOAI)-10.30 a t W M Joaea. Rbi., bol BousnELD Sr—10.80 a « Mjrles GtlfiUu WOODLANDS—10.80, B Lloyd 6.16. H R Roberts NDGM LANE—10.80, H & Roberts e. BALLIOL ROAD-IO.M. Peter Willlana 8, J Davlet <tAOOMH—!e.<& 8.11. R U.,4 PAUOMTO* DUTB—I«-M, L W Lewt. t. B W WyMe BGLWYS BTDD T VTXBY CAtnmft STRICT—10-M, W O 7MM 6 R Thosas iftax PARK 621-10-80. A Thomas 4. P Dsvta BOOTLE- 10-80, Gweddi 170IMM BIREENHEAD—10.80, D Davies 6, IL T Roberts DOITALDSON ST—10-90 a S. W A Lewis TB BOLWTB SBVYDLBDIO Bzwr 81J, a 6.30, X D Hashes UUIr SANT—10.46 » 8.80. WiQiftm GWOR DUlaOt S ANT—11 ft 8.80, W Wlfliams YDIftD BAxi-li a 0.80 J DavJM
Advertising
LIVERPOOL I The 4 SHAFTESBURY, MOUNT PLEASANT. About 4 mint, walk from Lime it. & OetUraX Station A hakIuI Temperance Hotel. Modente ehftigM rob: "Shaftaboy Hotel. irpooL" Plums lUll Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to efteh purchaser of a ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD. LIVERPOOL FSngw ilize Cud pod fn*. Close on Wednesday* at I o'clock. If you want The most Comprehensive POLICIES u" THE BEST TERMS, write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Bead Office I St. Mildreds House Poultry LONDON. E.C. Branch Office G14 Exchange S'ldt LIVERPOOL I JAMES H. SCOTT, General Manager II
CYt FAELIAD LAIRD ST. I
CYt FAELIAD LAIRD ST. I Y Parch. T. J. Rowlands, M.A., B.D. It-Ei Groesawu a'i Sefydiu. j Bagad gofalon bugail.—Goronwy Owen. SEFYDLTD y gwr ieuanc hawddgar a hyddysg uchod o Lanfechell, Mon, yn weinidog ar eglwys M.C. Laird Street, Birkenhead, nos Fercher ddiweddaf. Brithid y gynulleidfa ag aelodau'r chwaer-eglwysi y tu yma i'r afon ac wedii'r Parch. J. D. Evans (Garston) ddechreu trwy ddarllen a gweddio, gafaelodd Mr. David Jones, Bootle;—sef llywydd y Cyfarfod Misol-yn yr awenau, gan lenwi'i le fel cadeirydd yn ffraeth a phert, ae yn batrwm o bwrpasol a digwmpas. Ac ebe fo, wrth groesawu'r gwr ifanc Y mae o yn gryn ysgolhaig. Wel, 'dwn i fawr am wybodaeth fy hun, ac nid wy'n sicr ei bod hi fawr o both heb rywbeth arall gyda hi. Ond rwy'n bur sicr o hyn lie caffo Dysg afael ar ddyn fyddo'n Bregethwr hefyd, y gwneifi hi well a chyfoethocach pregethwr ohon" Son sydd ymhobman y dyddiau hyn am adgyfnerthion (reinforce. ments) a mynd i'r ffrynt. Wel, y mae Sir Fon yn gyrru digon o bregethwyr i'r ffrynt beth bynnag a dyma un arall wedi dod i'r ffrynt yn Lerpwl o'r Hen Sir, ac a fydd yn reinforcement gwerth ei gael i'r eglwys hon a'r holl gylch. Hysbysodd Mr. David Evans, ysgrifen- nydd yr eglwys, iddo dderbyn llythyrau yn gofidio am eu habsenoldeb oddiwrth y Parchn. H. H. Hughes, B.A.,B.D., J. Hughes, M.A., J. Owen, D. Tecwyn Evans, B.A. (W.), Ifor Hael Jones, L. Lewis, O. J. Owen, M.A., Jos. Davies (B.). Jacob Hughes (St. Winifred), Mri. J. Evans (Shrewsbury Road), Jas. Ven- more, Y.H., oddiwrth Bwyllgor y Genhadaeth Dramor, a'r Parch. F. B. Harvey (W.). Ac yna rhoes grynhodeb taclus o hanes yr achos a'r alwad, yn cynnwya y prif ffeithiau a ganlyn :— Sefydlwyd yr eglwys yn Laird Street yn 1906, a'i haelodau'n rhifo 56 ar y pryd. Dechreuodd y Parch. S. G. Evans, B.A., ei bugeilio ym Medi, 1906. Bugeiliodd hi saith mlynedd, a chynhyddodd ei rhif i 197 ac 80 o blant. Helaethwyd yr adeiladau, a chasglodd yr Eglwys gymharol fechan y swm o £ 3,838/6/1 o'i chychwyn hyd ddi- wedd 1913. Bu'r alwad i Mr. Rowlands yn un hollol unfryd, ac nid oedd arnynt ronyn o ofn am eu dewisiad. Deil y Cymry i gartrefu yn y pen yma i'r dref, ac i bob golwg, cynnydd mawr a chyson o'n blaen yn y dyfodol. Siaradodd pedwar ar ddeg neu bymtheg o frodyr ar ol hyn, ac ofer disgwyl i ni allu gwneud dim mwy na gwasgu aylwedd eu hanerchiadau i'w henaid a'u hergyd fel hyn Yr oedd Mri. Parry Edwards a Rd. Will- iams yn bresennol dros Libanus a Jerusalem, sef y ddwy eglwys a fugeiliai Mr. Rowlands ym Môn; a dygodd y ddau dystiolaeth i'r anwyldeb eithriadol oedd rhyngddynt a'u gweinidog, ac mai loes pur lem ao anodd plygu iddi oedd gorfod ei ollwng. Daethai atynt ym M6n yn fawr ei glod o'r Colegau ond fe gafodd rhywbeth yn Llanfachell nas cawsai yn unman arall;—cafodd drwythiad o'r nawe a'r aidd ysbrydol hwnnw a erya hyd heddyw, o drugaredd, yn hen ardal John Elias a John Roberts Tai Hen. Do, fe brofodd bethau anghyffredin yno,—pethau a'i gwnaent yn fendith i'r gorlan newydd yn Laird Street, ac i blant ao ieuenctyd yr eglwys yn anad neb. Ao nid llai'r warogaeth a dalodd y ddau i gymeriad ac addfwynder enillgar ei briod, Mrs. Rowlands. Croesawai'r Parch. W. M. Jones el ar ran Undeb Eglwysi Rhyddion Cymreig Birken- head Mr. Robert Roberts ar ran mam-eglwys Parkfield; a'r Parch. W. O. Jones ar ran y chwaer-eglwys yn Woodchurch Road. Baich anerchiad y Parch. J. H. Howard ydoedd am iddynt beidio a disgwyl i Mr. Rowlands fod ymhob Band of Hope na helcyd i bob rhyw bwyllgor bach, canys bydd arno angen amser i wneud pregethau ac i gyflawni gwaith cyhoeddus o'r tuallan. Rhy brin ac o'r golwg yw'r Cymry ar Fyrddau Cyhoeddus y dref; 'doedd yr un ohonynt, hyd y gwyddai ef, ar Bwyllgor Trysorfa Tywysog Cymru. Yr oedd yn bryd i'r cylch Cymreig fod yn fwy effro i hawliau a dyledswyddau dinesig. Rhowch iddo gyfle yn y cyfeiriad hwn, canys gwn fod ynddo ddigon o adnoddau i wneud ei ol ar y dref cystal ag ar eich eglwys chwi'r fan hyn. Caed gair byr gan y Parch. S. G. Evans, B.A.,—sef o chwith-atgof am ei brofiad fel cyn fugail yr eglwys ac o'i ddymuniad uchaf a graslonaf i'w ddilynydd addawol. Mr. W. Hijghes-.Tones, Y.H., a'r Parch. Owen Parry oedd yn bresennol dros Gyfarfod Misol Mon y cyntaf yn sylwi, starch fod Mr. Rowlands yn fachgenaidd ac addfwyn iawn yr olwg, mai nid corsen hyblyg mohono, -—na, yr oedd yn ddyn o argyhoeddiadau cryfion, ac ynddo nerth a phlwc i'w harddel Ydyw, y mae yn ddyn drwyddo ac y ma' dynoliaeth dda a buchedd anrhydeddus yn dweyd mwy na dim a ddywedir o bulpud nac unman. Cawsoch ddyn ifanc fydd yn fendith i chwi ac am ei briod, 'does neb a feirniedir yn fwy na gwraig gweinidog, eithr ym Mrs. Rowlands chwi a gewch wraig hawddgar eithr- iadol, na byth air ar ei hoi o unman lle'r elo. Beirniedwch ef os mynnwch, ebe'r Parch' Owen Parry, Cemaes, cyd ag y gwneloch hynny mewn ysbryd cariad ond peidiwch byth a mynd ati i chwilota beiau. Pob parch i ymweled-peth dyladwy iawn ond nid hynny mo'r prif beth ac os y'i gwneir yn beiriannol a defodol,—sef drwy gynllunio i dreulio pum munud yn nhy'r distadl, a deng munud a mwy yn nhv'r rhai amlycach, nid Ilesol a diberygl mo hynny. Gobeithiai'r Parch. R. Aethwy Jones, M.A., wrth ei groesawu dros y Cyfarfod Misol, y byddai Mr. Rowlands wedi dod iddi fel hyn, yn aros yn Laird Street yn ddigon hir i wneud ei 61 yn ddigamsyniol arni. Dyma'r chwech- ed bugail o Fon a sefydlwyd yn ddiweddar yn Lerpwl a'r cylch a Phwy rydd i lawr wyr mawr M6n ?" sef pwy a'u rhifai, nid pwy a'u sathrai—dyna feddwl Goronwy yn y geiriau. Dywedasai rhai o'r siaradwyr blaenorol am ddyledswydd. yr ymweled a chymell rhai i'r moddion ie, popeth yn iawn ond pregethu yw gwaith pennaf pregethwr; ac ni waeth iddo heb a hel pobl i'r capel os na fyddganddorywbeth gwerth iddynt ei glywed ar ol eu hel. Yr oedd weithian yn bur hwyr a dim ond gair byr a gaed gan y Parchn. R. R. Hughes, B.A., G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., a'r Parch. McQueen, bugail yr Eglwys Bres- byteraidd gyferbyn a chapel Laird Street. Diolchodd Mr. Rowlands yn fyr ac yn wylaidd i'r holl siaradwyr am y geiriau gras- usol a ddywedasid amdano, gan ddatgan ei chwithtod am Lanfechell a'r pwerau ysbrydol a brofasai yno, ond gan gredu'r un pryd mai Ysbryd Duw, ac nid dim is na llai, oedd wedi ei arwain, ac mai y Fo oedd wrth y llyw. Teimlai ei hun yn bur ddibrofiad; ond fe wnai ei oreu i bregethu Efengyl y Duw byw ac er iddo adael corlan gynnes iawn, iawn, credai ei fod wedi dod i gorlan arall gynhesed a charediced a hithau. Ac felly, wedi i'r Mri. Wm. Thomas a J. Morgan ddiolch i'r siaradwyr, ac i'r Parch. Wm. Owen (Webster Road) weddio, y diben- nodd y cyfarfod-cyfarfod a flaenorid a gwledd odea danteithion hael yn yr ysgoldy. 2-Am ei dras a'i yrfa addysg. I Aed golud y ddaear i'r sawl all chwenycho, Ond rhodder agoriad gwybodaeth i mi -Emry8 I'r Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., y mae innl ddiolch am y braslinelliad taclus a ganjyn o dras a gyrfa addysg y bugail newy d Henyw o gyff Monwyson pur o du ei dad a'i fam. Od oes le anwylach ym M6n na'i gilydd, y darn ohoni o Ddulas i Foelfre yw hwnnw. Onid dyma fangre'r Trimab o ddoniau tramawr "—" Morrusiaid mwya'r oesau," yn ol tystiolaeth y Prifardd Job ei hunan,—ac onid dyma Fro Goronwy Owen ? Yn y llecyn hwn y cartrefai hynafiaid ein gwrthrych, ac oddiyma y symudodd ei rieni i Borthaethwy flynyddau'n ol, ac yno y trigant heddyw. Capten yw ei dad, wedi bod flyn- yddoedd lawer yn gwneuthur ei orchwylion mewn dyfroedd dyfnion," ac erbyn hyn wedi ymneilltuo oddiwrth ofalon a phryder morwr- iaeth i dreulio ei noswyl yng nghwmni ei briod. Oblegid y mae mam y gweinidog ieuanc hithau yn fyw ac iach, ac yn un o ferched mwyaf annwyl a charedig yr Hen Ynys. Nis gwn am odid wraig ddaw i fyny yn well na hi a safon Lemuel frenin i wraig rin- weddol. Y mae i Capten a Mrs. Rowlands dri o blant, dau fab ac un ferch,—William, Thomas a Helen. Gweinidogion yr Efengyl yw William a Thomas. Gweinidog fuasai Helen hefyd onibae iddi ddigwydd cael ei geni yn eneth. Mewn eglwys Saesneg bwysig gyda'r Presbyteriaid yn Awstralia y gwas- anaetha William gyda llwydd a pharch. Athrawes Ffraneaeg yn y Drefnewydd ydyw Helen. Cafodd darllenwyr Y BRYTHOX flas ar ffrwyth ei hysgrifell mewn dwy yagrif ddoniol dro yn ol. A "melys, moes mwy yw eu cri. Caffed amynedd ei pherffaith waith." Daw Cymru i wybod mwy am Lena ar fyr o dro. Ond yn awr am risiau gyrfa ein gwrthrych,—Erbyn hyn y mae ef yn ymyl deg ar hugain oed. Cadd ei addysgu gyntaf yn Yagol y Bwrdd ym Mhorth Aethwy. Yn 1897 aeth i Ysgol Ramadeg Beaumaris gydag ysgoloriaeth a ddaliwyd ganddo am saith mlynedd hyd 1904. Ao ef yno, aeth drwy arholiad yr Oxford Local, yn nawfed ar yr holl restr. Yna cadd dystysgrif gyntaf y Bwrdd Canol, gyda saith distinction. Y flwyddyn ddilynol, cymerodd y senior gyda distinctions mewn Saesneg, Ffrancaeg, Groeg a Lladin. Yn 1903 cadd dystysgrif anrhydedd yn y Clasuron gyda distinctions yn Lladin a Groeg. Nid syn iddo yn 1904 gael ysgolor- iaeth yn y Clasuron i Goleg yr Iesu, Rhyd- ychen. Bu yno am bedair blynedd, am y tair olaf ohonynt daliai ysgoloriaethau gwerth Cl 13 y nwyddyn. Yn 1906, aeth drwy arhol- iad caled y Classical Moderations gydag anrhydedd yr ail ddosbarth. Ac yn 1908, cymerodd radd B.A. gydag anrhydedd yn y Clasuron. Bedair blynedd yn ddiweddarach, cadd ei M.A. o'r Brifysgol. Heb aros yn hwy gyda'i gwrs addysg, digon dweyd iddo dreulio tair blynedd yn y Bala, iddo gael y Pierce Scholarship, ac iddo fyned trwy borth cul arholiad terfynol B.D. Prifysgol Cymru yn 1910. Dechreuodd bregethu flwyddyn cyn gadael Rhydychen, a derbyniwyd ef yn aelod o Gyfarfod Misol MÖn yn 1908. Yn niwedd 1911, derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Llanfechell a Jerusalem, M6n. Ordeiniwyd ef yn 1912. Yng ngwanwyn y flwyddyn ddi- weddaf, priododd a Miss Mair Davies, merch y diweddar Hugh Davies, Pen y bryn, Pen- machno. Un diymhongar, syml, ieuanc ei ysbryd a'i ymddangosiad, ydyw ein cyfaill; yn Hawn tan a brwdfrydedd, a symudiadau'i gorff a'i feddwl yn chwim. Medd ddiddordeb mewn cant a mil o wahanol gyfeiriadau. Pre- getha yn rhigil a derbyniol yn Saesneg a Chymraeg. Medr lawer ar ganu a lien, ac y mae iddo urdd bardd yn ol braint a defod Ynys Prydain. Medd ddawn ddiail i ddysgu plant ac i arwain pobl ieuainc i feysydd toreithiog gwybodaeth Feiblaidd. Edmygwn ddoethineb a chrafiter eglwys Laird Street yn ei dewisiad. Ni bydd edifar ganddi y I cam a gymerodd yn ei alw yn unfryd i'w bugeilio. Bendith Duw fo arno ef a'r eglwys.
Advertising
cymnu A'R IRMYIFIFIYI. Cynhelir CYFARFOD ynglyn a'r argyfwng presenllol yn YSGOLDY CAPEL M C STANLEY ROAD, BOOTLE, NOS FAWRrH NESAF, TACHWEDD 24ain. Cymerir y Gadair am 8. gan Henadur Dr. R. E. Roberts, Y. FF. Siaradwyr :— Brigadier General Owen Thomas, y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., Be eraill. Cenir ac Adroddir yn ystod y Oyfarfod. GWAHODDIAD CYNNES I HOLL GYMRY'R ARDAL,
tin 0 ioadl ym lanseinion.
tin 0 ioadl ym lanseinion. COLOFN Y CYFRIN. HANES EIN BEIBL CYMRAEG.- Tan lywyddiaeth Mr. E. Morris Lloyd y dar- lithiodd y Parch. John Felix yng nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol nos Wener. Ei destyn oedd Y Beibl Cymraeg, ei hanes, a'i ddylanwad. Yr oedd y ddarlith yn ddiddorol iawn ac addysgiadol dechreuodd Mr. Felix trwy nodi yn fyr y cyfieithwyr, a'r cyfieith- iadau oedd cyn y rhai Cymraeg, gan ddangos fod y Saeson wedi ein blaenori ni 184 mlyn- edd, a'r fantais a gafwyd ynglyn a'r Beibl trwy fod cymaint o'r bobl wedi gorfod ffoi am eu bywyd i'r Cyfandir yn nheyrnasiad y Frenhines Mari. Sylwodd hefyd ar y tyb- iaethau fod rhannau o'r Ysgrythyr wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg yn iore iawn, ond nid oes fawr o sail i'w cywirdeb un ydyw, y cyf- eiriadau Ysgrythyrol a briodolir gan rai o Taliesin; a'r llall, y Beib] oedd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn 1282. Rhoddwyd aden newydd dros Brotestaniaeth pan ddaeth Elizabeth i'r orsedd, a thrwy ei gorchymyn hi y dechreuodd y symudiad i gael Beibl Cym- raeg. O'r fan hon, cymerodd y darlithydd olwg lied fanwl a chyflawn ar y gwahanol gyfieithiadau a gafodd ein cenedl, a'r personau cysylltiedig a hwy, gan gydnabod llafur y cwbl, gyda dymuniad am i'n cenedl gofio mwy ar enwau rhai mor deilwng am wasanaeth amhrisiadwy. Buom yn esgeulus iawn o goffhad y rhai a wnaeth fwyaf o wasanaeth i'n gwlad. Er na ddaeth cyfieithiad o'r Testament Newydd gan Wm. Salesbury yn boblogaidd, bu o werth mawr, ac erys o wasanaeth mawr eto mewn llawer ystyr, yn enwedig y modd y ceir syniad trwyddo am ystyron geiriau arferedig y cyfnod hwnnw sydd yn wahanol yn ein dyddiau ni, megis y gair prudd," cyfystyr a call yn ein hamser ni; "maddeu," gollwng i ffwrdd; "maddeu gwraig," ysgaru "maddeullong,"eigollwng i'r mor cyfoeth dyn," yn golygu ei ardal frodorol. Nid oes neb, meddai'r darlithydd, a wyr pa bryd na pha le y bu Wm. Salesbury farw. Y prif bersonau eraill y cyfeiriwyd atynt oeddDr.Rd. Davies,Dr. John Davies oFallwyd, a'r Esgobion Morgan a Parry. BubeddWm. Morgan am agos i dri chan mlynedd heb garreg goffa. Dau brif ddylanwad y Beibl Cymraeg oedd cadw ein hiaith yn fyw er cymaint ei gelynion, a chrefyddoli ein gwlad. Yr oedd dull tarawiadol a brawddegau pert Mr. Felix yn ychwanegiad at ei draethiad hanesiol, ac oherwydd hynny yn ein galluogi i'w mwynhau yn fwyfwy a'i chofio. Cynhyg- iwyd y diolch gyda sylwadau pellach ar y testyn gan y Parchn. M. Llewelyn a J. H. Hughes. GWAITH MZ.ISTR.-Rhoddodd yparch. D. D. Williams ddarlith iaelodau Cymdeithas Lenyddol Moss Side nos Fercher yr wythnos ddiweddaf ar Gymru yn Oes Elizabeth. Atod- iad oedd hon i eraill a draddododd o dro i dro am y cyfnodau blaenorol. Maent yn gasgliad cryno o ffeithiau mewn hen ysgrifau prinion. Mae Mr. Williams yn eithriad diamheuol gyda hanesyddiaeth, a'i gof yn ddihysbydd. GWLEDD AGOS.-Mae Cyngerdd yr Annibynwyr yn Chorlton Road ddydd Sadwrn nesaf; hwn yn ol pob tebyg fydd cyngerdd mwyaf y tymor, oblegid yr atalfa a rydd y rhyfel ar amrywiol bethau cyhoeddus. Da gan lawer fydd deall na fydd cyfres flynyddol faith y Cyngerddau hyn, a ddechreuodd yn 1876, yn cael ei bylchu. Dylai'r cyngerdd hwn gael cefnogaeth pawb am y ddau reswm uchod, ac am fod y rhai hyn i ganu yno :— Sephorah Hughes, Annie Davies, J. Watcyn Hughes, R. Halkyn Roberts, a'r doniol Owen Grant i adrodd. GAIR YN Iel BRYD,—Crybwyllais yn y rhifyn diweddaf am G6r Moss Side yn canu i'r milwyr yng ngwersy llfa Heaton Park, a rhai o'r unawdwyr; gellir ychwanegu Mr. R. G. Davies, gynt o Lerpwl, atynt, yntau wedi canu yno; hefyd Miss Florrie Davies wedi cyfeilio i'r cwbl. Am i mi adael yr enwau uchod allan, der- byniais lythyr heb enw priodol, yn galw fy sylw at hynny. Da gennyf ddweyd mai nid trwy ryw amryfusedd y gwnaed. Os na allaf fod yn bresennol yn unrhyw le i roddi fy adroddiad fy hun, cyhoeddaf yr hanes fel y caf ef gan arall, ac os bydd enwau yng ngholl, wiw ychwanegu heb sicrwydd. Er mai llythyr caredig yw yr un dienw hwn, nid yw hynny yn dileu'r ystaen o anfoneddig- eiddrwydd diraddiol a edy ar ei berchennog. Da gennyf ddweyd na dderbyniais o'r blaenyn ystod naw mlynedd o ohebu i'r BRYTHON,yr un llythyr heb enw priodol, caredig nac angharedig ond mae firwd o lythyrau yn fy nghyrraedd yn barhaus oddiwrth garedigion hysbys na arbedant drafferth er mwyn y byhoedd. -0--
Y Cyfnodolion Cymreig.
Y Cyfnodolion Cymreig. AT y rhai sydd yn casglu r uchod, mae llawer o gyfrolau ac ol-rifynnau o'r cyfnodolion Cym. reig canlynol ar werth yn swyddfa'r BRYTHON. -y Traethodydd, copi cyflawn, cyfrolau, ac ol-rifynnau Y Geninen, Cymru, Y Lienor, Cymru Fydd, Y Cronicl, Y Drysorfa, Y Dysg- edydd, Cymru'r Plant, Y Lladmerydd, Wales, Trysorfa'r Plant, Y Llusern, Y Gymraes, Y Mis, Y Dehonglwr, Cyfaill yr Aelwyd, Y Frythones, Cronicl yr Y sgol Sabothol, Y Winllan, Y Dyngarwr, Y Tyst Dirwestol, Y tfewyddion Da, The Monthly Treasury Y Cymro, The Welsh Weekly, Y Brython.
Advertising
I BGRWICKS I II BAKING PONDER Y GORAU VN Y BYD T V 1-1 11. Eglwys Annibynnol Martin's Lane' L1SCARD. Cyfarfodydd Jiwbili, TACHWEDD 22ain, 1914. Pregethir gan y Parch. J. HUGH I DWARDS, A.S.. 10-45 (Cymraeg), 6-15 (Saesneg), 9-SO, Gwasanaetji i'r Bobl Ieuainc. Anerchiad Saesneg gan y Parch. J. HUGH ED WARDS. Cyfarfod Cyhoeddus nos Fercher. IACH WED D 25ain, am 7-30. Traddodir anerchiadau gan amryw o. Weinidogion y cylch. YAMEN ROOMS. BOLD STREET* LIVERPOOL. WEDNESDAY Evening, 2nd DEC. at 8. Doors open at 7-30. -CONCBRT- BV THE STUDENTS OF Mrs. Howard Stephens assisted by the Liverpool Cecilian Ladies Choir. Conducted by Miss Gwladys Pritchard. AT THE PIANO Miss GwJadys Pritchard Miss Gwen ritchard, L.I.b.M. L,R.A.M. The proceeds will be j?cM to the Liverpool Branch ,????CO/?<.t??HB/FM?. Tickets Reserved, 2/- ?n?esprved 1/- ? 8' How^rd Stephen., 290 Anfield Road, Liverpoo!; or Concert .Direc'tion— Rush worth & I^per Ltd., Box cmce. 21 Banett St^vTrpool Eglwys M C Waterloo. CYFARFOD Pregeiftu Bigogioi JOS Sadwrn a'f SaDotti, Taen. 28 a'r 21. Trefn y moddion Nos Sadwrn, am 7, a'r Saboth am 10-30. y Parch.W. E. Prytherch, Abertawe Saboth am 2-30, Y Parch. David Jones, Edge Lane Saboth am 6, y Parchedigion David Jones a W. E Prytherch. GWAHODDIAD CYNNES I BA WB. Capel Wesleaid Claughton Road, BIRKENHEAD. Cyahelir Cyfarfod Pregethu HANNEB-BLYNTDDOL yn y Capel uched, NOS SADWRN A'R SUL, Tach. 21 a 22,1914 Gwawanaethir gaa y Parch. J. ROUER JONES, B.A. a'r Parch. D. TECWYN EVANS, B. A. Trefn yr Odfeuoa s Nos Sadwrn am 7, Parch. D. Tecwjrn Evans, BoA., Sul-Bore am 10-30 „ n h Prynhawa am 2-30, Parch J. Rogoi Jones, B.A. n Nos am 6 » DALIER SYLW. a EISTEDDFOD tBETHE8DA, 0 IONAWR, 1915. MAJB yr^ oluchod wedi gohirio hyd Mnaaf amhenodol.Testynau yn sefyll yr un. LEWIS JONES, Yag Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS GEE, GAN — THOMAS GWYNN JONES. Cynawysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyu ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn Ilian hardd, Cyhoeddedig gan GEE a i FAB. Cyf., Dinbych | ■ 1 Printed and Published by the Pro prletors, Hugh Evans and Sons, 356.8 Stanley Road, Liverpool, in the County of Lancaster, Tel. 591 BOOtIC4