Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TO SECURE HAPPY I HOMES, USE i CRO sslwLEY S DRY SOAP I THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT I REMOVER. I
Advertising
USE KEENORA SELF-RAISINS FLOUR for Pastry, Scones, &c., &c.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE Tp ATT <Q CELEBRATED TAlLORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., LIVERPOOL. Closed on Wednesdays at I Jhm. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaidyn eich blino? Yw pethau?n troCrannrftwac #«slwig? Dyna arwyd4 a rW buud'or lygad, a dylech gael eu bedtych Aaff Mae<t? en ?ae&ygu WD?'aheagemuso. Ga!h?m?dai'ahoSM tr?tdo?lddweydwTth?ch<Moeaafnoch ao £ «n gwydrau ac os feUy, etch cySenwi a't rhai a barai fwyaf 0 lea i chwi. Galwch beddyw: ARCHER A SONS Eyesight Specialists. 73 LORD STUCET, Sefvdlwvd I848. LIVERPOOL- gI 'Phone-392S Bank. w. Giimi & sod, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AlBO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc.- 'Phone—580 Bootle. Appreciated fo.. 114 Ye-ars. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. hhionll ble Chippendale Rosewood Case, complete Iron Frame, Melal Pressure Bar and Bridge, Check Aetion, beautiful tone and touch, uuequal led value 23 Guineas "Arthur Day" Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame, Check Action, beautiful finisb, tone and touch aemarkably fine. 28 Guineas Bond Piano. Latest style, artistic case, Overstrung Full Iron Frame, 1 nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Mmrioal Instruments, Music Fittings of all kinds Strings. Records. Records > LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS Gramophones all prices, « BOND 6 CO., 54 Lime Street, Liverpool. IF YOU WANT REALLY GOOD kBOOTS TRY bUNTS, 49 Paradise St; Liverpool The Lalpat Stock of Boote and thoeo tm UTMpoet t« The from, for LadiM & Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SBLTXBR WATRR. LBMONADI .aT CINOBR ALB. Ito., ate. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago Burns, Scalds, Cuts, Bruises ALWAYS HANDY IN THB HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WOMDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Ohemi. Price l/lid. Q 2/6 Or diract from- MORRIS EVANS & Co., nM.-M,&NUFACrORY, FESTINIOG. N. WALES, ROBERTS if) E j* A* mz&'m ab m 64 Ktrftdaie Rd., L,s «er?>oo! Telephone: 2193 Royal.
Trem I-Y Gorllewin- I
Trem I-Y Gorllewin- I WRTH gwrs, y Rhyfel sydd yn llond pob man yma. Cafwyd rhai dyddiau o seibiant cym- harol yn y llinell faith trwy Belgium a Ffrainc. Cafwyd peth cyffelyb o'r blaen droion a gwy- ddom beth a olygai. Prin y deellid ef gan swyddogion a phenaethiaid y Cynghreiriaid ar y cyntaf a thybiasant mai arwydd ydoedd o wanhad ac encil yn y Germaniaid. Ar achlysur felly y cyhoeddwyd yn swyddogol un- waith, o leiaf, Yr ydym yn teimlo'n bod yn cael buddugoliaeth." Ond yn union wedyn, cyhoeddid fod y gelyn yn derbyn atgyfnerth- ion cryfion. Yn dilyn hynny, ceid hanes rhuthrgyrchoedd mileinig ar y Cynghreiriaid, ac yn enwedig ar safle'r Prydeinwyr a'r Belgiaid. Nid anfynych y clywem ddarfod i'r gelyn, o leiaf dros amser, fylchu ein rhengau ac ennill tir. Ceid ef yn ddigon cryf i daro'n drwm ar amryw bwyntiau yn y llinell faith, a chlywid hyd yn oed fod yr ymladd yn ei angerdd ar hyd y llinell. Nid yn dywedyd hyn yr ydym o ofn fod y gelyn i gael goruchaf- iaeth, eithr fel rheswm am inni beidio a thynnu casgliad cyfeiliorn oddiwrth y ffaith fod y Germaniaid yn cymryd eu hanadl atynt, a meddwl eu bod eisoes wedi eu trechu, neu wedi torri eu calon. Yr ydym yn llwyr argy- hoeddedig mai gyda mawr ofal y dylem ddar- llen yr adroddiadau cyffredin am hynt y rhyfel, a bod rhai gohebwyr yn cyhoeddi barn am yr holl sefyllfa oddiwrth yr hyn a ddi- gwydd mewn cylch cyfyng-er iddynt hwy fod mown cysylltiad agos ag, ac efallai yng ngolwg, yn gystal ag yng nghlyw, rhai ymladdfeydd. Mae gan y Germaniaid eu cynllun o ryfela, a ffordd i fellt y taranau. Hyd yn hyn, mae eu gosteg yn darogan ymgyrch newydd ffyr- nicach, hyd y gallont. Fel y gofynnodd W.N." yn ei gywydd nerthol i'r Ystorm, gellir gofyn hefyd am y Germaniaid,— Beth ffurfir, gelir o'n gvitydd, Yn isterau distawrwydd ? Dyma eisoes adroddiadau am atgyfnerthion cryfion, o ddynion a gynnau mawrion, yn cyrchu i gyfeiriad yr Ypres a Dixmude, a chanddynt grefftwyr arbennig i'r gwaith o symud anhawster y gorlifiadau a drowyd arnynt. Cawsant eu curo'n ol y ffordd yma o'r blaen, ac nid annhebyg y bydd iddynt daro'u pennau syfrdan yn erbyn y gwaliau plwm a dur eto. Dywedir fod gynnau mawr Ffrainc a Llcegr erbyn hyn yn fwy nerthol nag y buont. Ond hyn a gredwn,—ni fydd i'r gelyn roi i fyny'r ymdrech i fylchu'r rheng- au gwrthwynebol, ceisio cyrraedd Calais, neu 0 leiaf ennill brwydr a dery ddychymyg pobl a'i disgleirdeb, gan nad beth fo'i gwir werth. Teimla'i bod yn hen bryd iddo gyflawni rhyw orchest rwysgfawr unwaith eto, modd y gallo Berlin osod chwyddwydr arni, a'i gweld yn fuddugoliaeth a bair i Ffrainc a Phrydain deimlo fod eu cwymp hwy yn ymyl. Teim- lwn yn bur hyderus, bellach, fod gennym ddigon o allu i gadw'r gelyn yn ol o gyrraedd ei n6d terfynol, ond yn son yr ydym am y duedd sydd mewn rhai i gam-gyfrif, yn ein tyb ni, ei adnoddau atgyfnerthol, a'i benderfyniad i ymladd hyd yr eithaf. Nid oes neb, erbyn hyn, yn teimlo'n fwy na Germani fod ei bywyd yng nghlorian tynged. Tra byddo'i llynges heb ei phrofi, ac y metho ei gwrthwynebwyr ei churo'n ol i'w gwlad ei hun yn yfflon, ni fwrir allan o Filwriaeth Germani yr ym- deimlad o uchafiaeth hollalluog. Parha, cyfaredd y gorchestion a gyflawnodd ar y cyntaf ar ei chalon am amser wedi iddi golli yn ei nerth, megis y gwnaeth eiddo Samson wedi torri ei wallt; ac fel Samson, hefyd, hi a gyfyd, eilwaith a thrachefn, gan wynebu'r gelynion a' dywedyd, "Mi a af allan, ac a ymysgydwaf fel cynt." Mae'n groes i natur pethau i ddisgwyl gweld y gelyn hwn yn rhoi i fyny cyn rhoi cyflawn brawf ar bob dyfais a gallu a fedd i orchfygu yn y rhyfel hwn, ac yn ddiamheuol i goisio cyrraedd Lloegr. Wedi suddo miliynnau aneirif o arian y wlad i Filwriaeth, a pharatoi ar gyfer Armagedon, gan barhau ymlaen, ddydd a nos, i ychwanegu at ei offer rhyfel, a yw yn debyg yr a'r Kaiser i fewn i'w encil dr-uenus, nes y danfonir allan, yn gyntaf, bob gallu a moddion a fedd i daro'i wrthwynebwyr ? Petae wir y stori fod y Kaiser yn awgrymu am i genhedl- oedd amhartiol ymyrryd gyda golwg ar heddwch, ni fedrem gredu yn ei ddidwylledd eithr, yn hytrach, ei fod yn ceisio rhyw fantais i ymbaratoi ar gyfer dwyn ymlaen ei arfaeth i ddarostwng y rhai y methodd gerdded tros- tynt mor rwydd ag y disgwyliodd. Y newydd sy newydd ein cyrraedd yw fod bywiogrwydd cethin yn Ffrainc a Belgium un- waith eto, a'r gynnau mawrion, o'r ddeutu, yn taranu dinistr ar ei gilydd.
Trem IS—Dwyr«in- I
Trem IS—Dwyr«in- Mae brwydr fawr ac ofnadwy yn cael ci hymladd yno. Yn ol eu harfer, adfywiodd y Germaniaid yn fuan, a chychwynasant yn sydyn i wyneb byddinoedd goresgynnol Rwsia, a chyda nerth a addefir gan Rwsia ei hun. Egfur yw fod cynllun y brwydrau'n wahanol gan y ddau Allu. Cydnabyddir fod athrylith drefniadol o'r radd uchaf yn arwain lluoedd Rwsia. Ei ffordd ef yw cadw'r llinell hirfaith, o tua 500 milltir, yn gymesur gref ond ymddengys fod y Germaniaid yn crynhoi lluoedd aruthr i gyffiniau Warsaw. Llwydd- odd y Germaniaid i ennill tir yn yr ymosod cyntaf y tro hwn. Ceir gweled a fu i'r Rwsiaid gadw byddin yn y cein, i'w galw aHan yn yr awr briod. Cynnil iawn yw adroddiad swyddogol Rwsia ar y frwydr hyd yn hyn, ac mae Berlin yn Uai brolgar nag y bu'n ddl- weddar. Ymddengys pob plaid, yn ol y newyddiaduron, dipyn yn bryderus, ac yn dai eu hanadl wrth ddisgwyl am yr hyn sy'n digwydd draw. Soniem am Samson. Mae colofnau mawrion y deml y cais y Samson o Berlin ei dymchwel yn bur bell oddiwrth ei gilydd-Dwyrain a Gorllewin Ewrop,—a gall y bydd iddo ysigo'i hun wrth ymestyn cy- maint. Ceir gweld. Ond dywedwn eto, fod gwaith y Germaniaid yn anfon cymaint o atgyfnerthion i'r brwydrau mawrion yn y Dwyrain a'r Gorllewin yn brawf nad ydynt, hyd yma, wedi dihysbyddu eu hadnoddau mewn dynion nac arfau na chynhaliaeth. Er lleied a wyddom am y mater, braidd na feiddiwn, am dro, broffwydo,cyn y bydd i'r Germaniaid droi cefn ar Ffrainc a Belgium, y bydd i frwydr fawr ddigwydd ar y mor. o
Newydd Moel
Newydd Moel 'DOES nemor ddim diddorach gan rai pobl na newydd moel, heb siHaf o sylw nac ebwch o farn wyntog neb ar ei ol. O'r gor' u, dyma i chwi dwmpath o bethau y byddai'n anodd cael eu moelach Y mae Syr Thos. Roberts, Plas y Bryn, wedi estyn hanner cant o bunnau'n rhad rodd at gynnal y ffoedigion Belgiaidd a glwydir mor gynnes yng Nghaernarfon. Dim ond rhyw ddwy fil yw poblogaeth Dolgellau ni waeth ichwi ar y ddaear prun, y mae 170 ohonynt wedi ymuno a'r Fyddin, ac yn ysu am gael torri crib y Caisar. 15b Y mae ynadon Caernarfon wedi dweyd wrth dafarnwyr y dref honno am beidio ag estyn yr un dafn o'u diodydd melltigaid i'r un ferch cyn hanner dydd nac ar ol hanner awr wedi wyth y nos. 'Does odid neb allan o waith yn Llandudno, a hynny am fod cynifer o'i phobl wedi mynd i ffwrdd i'r Fyddin. Y mae'r Canon Nicholas, Rheithor Fflint, wedi cynnyg 150 o gyfrannu Bane y London City and Midland-cyfwerth a £ 1,500—i gychwyn trysorfa gynorthwyol i glerigion rheidus EsgobaethLlanelwy. Dywed Mr. Moreton, swyddog iechyd, fod mynwent Bangor Is y Coed, y naill du i Wrecsam, yn rhy lawn o gyrff, ac fod dwr pwmp a ffynnon yr ardal yn cael ei aflanu ganddi. *3? Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fyn- ydd," ebe'r hen air. Ym mhapurau dydd Iau diweddaf, ceid hanes fod David Hughes a Griffith Jones—dau longwr o Fourcrosses, Pwllheli,—ar fwrdd yr Emden pan redwyd y long-ladrad honno i'r lan ar Ynys y Cocos. Yr oedd y ddau ar ddwy long wahanol a suddwyd ganddi ac a gwrddasant y naill y llall am y tro cyntaf ers blvnyddoedd lawer mewn lie mor rhyfedd ac mewn ffordd mor ddiddisgwyl. Mr. W. Jones, A.S., Llew Tegid a'r Brigadier-Gen. O. Thomas sydd i annerch cyfarfod milwrol ym Methesda heno (nos Fercher), a mawr ddisgwyl y bydd haid o'r chwarelwyr ieuainc yn cydio yn y cledd. Caed corff John Gibson, un o benaethiaid Pwll Glo'r Vauxhall, Ruabon, yn y gamlas ger Berwyn, ddydd Iau diweddaf. Un o bobi Lerpwl ydoedd ac ni wyddid sut y daeth i'r fath ddiwedd. Y mae Sir Fflint wedi hel £ 7,217 atjy drysorfa ryfel. Mewn cwest ar Margaret Twigg—hen wreigan bedwar ugain a thair o Nefyn, ddydd Iau diweddaf, tystiwyd idd ei chael ar lawr llofft ei thy, ac wedi marw o wendid y galon, ebe'r meddyg, yr hwn a ddywedai ei bod hi yn mynnu cael byw ei hun, heb neb ar ei chyful. k Dywedir mai John Pilot, sef yr hen rychor pur adnabyddus fu farw'r dydd o'r blaen yn y Drenewydd, a fu'n achlysur darganfod dyfroedd rhinweddol a phroffidiol Llandrin- dod. Y fo fyddai'n gyrru'r goach rhwng y ddwy dref hynny yn 1867, sef cyn gwneud y ffordd haearn ac un noson dyma fo'n breu- ddwydio gweld dwr yn bwrlymu ar smotyn neilltuol o ystad y Rock House. Gynted ag y gwawriodd y bore, dyna fo'n brysio yno, ac yn gweled dwr sulphur yn pistyllio o'r graig. Aeth at y perchennog cafodd o £50 am ei wybodaeth, a'r Hall ffortiwn. k Y mae H. Milford, Gwasg Prifysgol Rhyd- ychen, wedi cyhoeddi Cofiant Cymraeg i'r diweddar Ddr. Griffith John, arwr cenhadol China, o waith y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, sef Golygydd y Tyst. 15b Y mae'r miloedd milwyr Cymreig sydd yn Northampton wedi cael gair eu bod i'w aymud i rywle ar fyrder-tua maes y gwaed mae'n debyg; a nos Fawrth ddiweddaf, rhoed cyngerdd-ffarwel iddynt, o drefniad Mrs. Herbert Lewis, a doniau tan gamp o Lundain yn canu ac adrodd. Caed anerchiadau gan Mrs. Lloyd George a Mrs. Tom Ellis, a chan y cadeirydd, Mr. Herbert Lewis, A.S., yr hwn a sylwodd iddo fod ym Merlin rai misoedd yn ol* "ac y gobeithiai y gwelid hwythau'r milwyr Cymreig yno cyn bo hir." Ceisiai dirprwyaeth oddiwrth Gyngor yr Eglwysi Rhyddion gan ynadon yr Abermaw beri fod cau tafarnau'r dref am naw y nos na'u hagor tan 10.30 y bore; ond gwrthod ymyrryd ddarfu'r Fainc, gan ddywedyd mai Meirion oedd sir lana'r deyrnas drwyddi o ran rhif el meddwon cyhuddedig. k Bu Mr. C. E. Munro Edwards, Coed Celyn, Dolgellau, farw'n drigain a dwy ddydd Sadwrn diweddaf. Dibriod ydoedd, ao yn fab y diweddar Mr. Chas. Edwards, Dolserau, A.S. dros Windsor yn ei ddydd. k i Y mae'n perthyn i fataliwn y Rhondda o'r Fyddin Gymreig 91 o fechgyn Traedrhiw- fuwch-pentref glofaol a dim ond 95 o dai. Oes rhywle drwy'r deyrnas all guro hynyna ? k Ebe Syr Watcyn Wyn wrth gyfarch cyfar- fod ymrestru yn Nhrallwng ddydd Llun die weddaf Y mae'n ddyledswydd ddiamheuol ar glerigion y Llan a gweinidogion y Capel bregethu efengyl ymrestru (recruiting gospel) ag ydyw i bregethu Efengyl Crist. Y mae'n ddyledswydd at Dduw a dyn iddynt gael y pen cyntaf sy fodd ar y rhyfel, a'r unig ffordd i hynny ydyw cael y dynion. 9k Bu Mrs. Esther Davies, Vauxhall Cottages, Llanelli, farw nosJSul ddiweddaf yn gant a phedair mlwydd oed. Yr oedd yn weddw ers trigain mlynedd ac wedi gweled pum pen coronog yn eistedd ar Orsedd Prydain. 3PR Y mae Mrs. Parker—chwaer Arglwydd Kitchener-yn ysgrifennu i'r papurau parth y llymeitian enbyd sydd yn andwyo cynifer a 30 i 40 y cant o'n milwyr rhag bod yn addas i fynd i faes y rhyfel, ac yn awgrymu fod dwy- blaid Ty'r Cyffredin yn cytuno i wahardd diod feddwol i bawb drwy'r wlad i gyd tra paro'r rhyfel megis y mae yn Rwsia. Iechyd iddi Y mae'r Parch. D. R. Evans, curad, Rhyl, wedi cael ei benodi i fywoliaeth Nantglyn.
Advertising
We undertake to cure your Skin Complain with our Vansyr Skin Treatment The guaranteed cure for Eczema and all k(n affections YOUR MONEY RETURNED if no cure ia effected Price, 2/6. Trial Size, ) /I post free. D. H EVANS M.PS, Pharmacist 148 Lodge Lane, Liverpool.,