Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

VSUFELL Y BElRDD I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

VSUFELL Y BElRDD I Y syrJijrchion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf. I eirio PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool. Jingo.-Diolch i chwi, ond mae amryw wallau cynghanedd yn y darn, ac ni wyr neb beth a wnai'r Emprwr pe deallai hynny. Yr Hen Kaiser Creulon.—GwaJl yn y cyrch—" 0 ddial fe ddylid." Mae englyn gwallus ei gyrch yn waeth na chot a thwll yn ei chesail. Yr Archelyn.-Mae'r gerdd yn cynnwys lliaws o wallau o ran iaith a mydryddiaeth, ac mae hi'n afresymol o faith—tua chant a hanner o linellau. CYMERADWY.-Iolo Caenarfon, Emden, etc., Cydymdeimlad, etc I SIOM Y BYD OFER yw tyn ymafael—am y byd, Sioma bawb o'i gaffael Gobaith gwyw ei bethau gwael,— Geudeb sy'n rhwym o'u gadael PEDROG HYAWDLEDD. Pababl tan, bri llwyfanydd,—oracl iaith, Datglowr clust gwrandawydd A llif aur y lleferydd, Ar y dorf yn cario'r dydd. YR ADRODDWR. I TRAETHWR clir o gywir gais,-mown agwedd, Mynegiant ac iawnlais; Byw oslef yn ei bwyslais, A thon ei lith yn ei lais. Caerffili. Celyst. Y RHYFEL. I WELE ryfel, arafwn—Ha dinistr Dynion a ganfyddwn Daeth yn wae y dwthwn hwn, Arw Sodom, arswydwn. Dinistr yma adwaenir,—a chwalfa Uchelfur pob rhandir j Lleisiau i'r nef ddyrchefir, Gynnau a than, gwae'n ei thir. Aelwyd marwolaeth ac elor—a'r gwaed Ar ergydion didor Dig hyf yma'n dygyfor, A'i anrhaith maith fel y m6r. Hon gwyd arswyd i'w orsedd,-a'i halaeth Hyd i aelwyd rhianedd Uda'r wlad yn hendy'r wledd, Garai fawl a gorfoledd. Yn awr hiraeth troi o'i oror—wnai'r dewr, I'w oar daith uwch dyfnfor. Yn ei gwyll e ga'i allor, A'i weddi wael ga Dduw lor. Y dorf a'u hegni gyda'r fagnel-fawr Fwriant dan i'r gorwel; Yno cwyn yr estron eel Awr ochain oedd aruchel. Lie bu'r mel Heibiai'r miloedd-gwenwynig, Gan wanu'r tyrfaoedd Yn awr angau eu rhengoedd Yn eu stwr mal fforest oedd. Dwg ofid ofnadwy gyfwng—i'w llawnt Ac i'w llys annheilwng Uffern oil wedi'i gollwng, I lanw blys gelyn blwng. Orig leddf ger y gladdfa-ym min hwyr Mewn hiraeth ga tyrfa Weis gwych, eu cymwynas ga' Anwyliaid yr hun ola'. Ei thrueni a'i thrywaniad—erys I arall ddehongliad E faidd y glew ar fedd gwlad Oesau hir eto siarad. Llanberis. Meilir WYN. I'R GAD, IEUENCTYD CYMRU. YNG nghanol swn byddinoedd Yn ymdaith tua'r gad, Mae adsain y rhyfeloedd Yn ysbrydoli'n gwlad,— Nes ennyn brwd awyddfryd < Mewn llu mynwesau lion, A llama ein hieuenctyd I'r gad y funud hon. Apelia utgorn rhyfel Yn union atoch chwi, I roi eich n6d yn uchel, Fel milwyr dewr eu bri; A gwneud eich bywyd hefyd Am oruchafiaeth lan, A dyna'r ffordd, ieuenctyd, I wared Gwlad y Gan Rhowch urddas ar wahoddiad Drwy ufuddhau yn awr, Nes clywir eich cerddediad Yn deffro gyda'r wawr A Ilanw'r gad Brydeinig A byw ysbrydiaeth glir, Nes seinio'n fendigedig "I'r Gad dros f6r a thir. Ro Wen IOAN af lOAN,

Y TRYDYDD 0 GYRDDAU LERPWL.

[No title]

Advertising