Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

. FFETAN Y GOL.. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFETAN Y GOL.. I Cofted pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genati, I NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR, 1 Atheistiaeth ein Colegau. 1 At Olygydd Y BRYTHON f SYR,-Û dan y penawd uchod, fe welir yn eich rhifyn am Hydref 29 y gwyn ganlynol a godwyd o Darian y Gweithiwr :— Dywedodd y Parch. T. C. Williams,M.A. ym Methel, Aberdar, fod Prifysgol Cymru yn up-to-date ymhob dim, ond nad oedd lathen o le o fewn i'r adeiladau gwychion a chyfleus hyn i fyfyrwyr weddio Duw a'i addoli. Dywedodd ymhellach na enwir enw Duw o fewn i'w muriau ond i'w sarnu gan ambell athro estron, os nad o waed, o ysbryd. Colled annhraethol i Gymru a'r byd fydd ei haddysg os yw i gymeryd ei Duw oddi- arni. Ein gobaith ni yw y ca y meibion C a'r merched ieuainc dysgedig o Gymru a gynrychiolant ddelfrydau y genedl bob cadair a ddaw'n wag yn y dyfodol." Dyna ddweyd plaen, beth bynnag, heb ddim o'r mwmian amwys a deubig hwnnw fydd yn gyrru dyn i gosi'i ben wrth ddyfalu prun ai'ch llwfr-ganmol ai'ch llwfr-gondemnio y bo'r dyn. Fe wyr ein Colegau pa beth a ddywedwyd, a dyma gyfle iddynt ateb." Ae o dan y penawd Addysg grefyddol yn Ysgolion y Bwrdd," yn y Times, gwrs o flyn- yddoedd yn ol, fe welwyd cwyn o'r un natur gan Dr. Edwards, Esgob Llanelwy,—fel y canlyn Y mae'r Blue Book (1888) ar Addysg Grefyddol yn Ysgolion y Bwrdd yn c, amlygu yr hyn a wna Methodistiaeth Calfinaidd yn y mater hwn. Sir Fon a Sir Aberteifi yw'r ddwy Sir yng Nghymru lie y mae Methodistiaeth yn gryfaf. Yn Sir F6n, allan o 29 o Ysgolion y Bwrdd, ni ddarllenir y Beibl mewn 11 ac yn Sir Aberteifi, allan o 34 o Ysgolion y Bwrdd, ni ddarllenir y Beibl mewn 26. Ar y Haw arall, yn Sir Faesyfed, lie nad yw'r Methodistiaid braidd yn bod, fe ddarllenirjy Beibl ymhob un o Ysgolion y Bwrdd." A yw'r Parch. T. C. Williams, M.A., neu unrhyw un arall o'n harweinwyr crefyddol, yn barod i gondemnio y fath Atheistiaeth Fethodistaidd yn ein hysgolion dyddiol ?—Yr eiddoch, ROBERT EVANS. 38 Winterbrook Road, Herne Hill, S.E., Llundain. Tecwyn If vans a'n Hcmynau, At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.—Yr wyf bob amser yn edrych gyda phleser at yr adolygiad geir yn Y BRYTHON ar gynnwys Y Beirniad, a olygir mor ddeheig gan yr Athro J. Morris Jones. Ond y tro hwn siomwyd fi yn fawr. Nid am fy mod yn anghytuno, tae fater am hynny, a'r adolygydd o barthed i'w sylwadau cyffredinol ar y rhifyn. Ond yn hytrach am ei fod wedi pasio erthygl y Parch. D. Tecwyn Evans mor ddisylw. Hoffwn yn fawr, Mr. Gol. pe baech yn llwyddo i berswadio'r adolygydd i ysgrifennu llith arall o feirniadaeth deg a manwl ar erthygl y cyfaill Tecwyn. Y mae'r pwnc yn un mor bwysig, am y rheswm fod ein hemynau yn dylanwadu cymaint ar grefydd ein gwlad, ac yn elfen mor hanfodol i Iwydd a. thymer ein haddoliadau cyhoeddus. Gresyn na bai mwy o sylw wedi ei dalu'n gynt i ddiwinyddiaeth ein hemynau. Ni ildiaf i neb mewn edmygedd o Bantycelyn, 80 mewn parch i gymeriad yr emynydd o Ddolwar Fechan. Ond dylid cofio fod llawer I o ddwfr y Fyrnwy wedi ymdywallt i'r Hafren er yr adeg y canai Ann Griffiths. Dyweder a fynner, symud wna'n'daear rhag ei blaen. Ac nid yw hyd yn oed diwinyddiaeth yn gallu aros yn yr un man o hyd ond rhyfedd mor araf y mae golygwyr ein hemynlyfrau cyn dyfod i gydnabod hyn. Gorfodir" ni i ganu o Saboth i Saboth ddiwinyddiaeth y mae llawer ymhob cynulleidfa wedi canu'n iach iddi ers blynyddau. Teimlaf yn dra diolchgar i Tecwyn am alw sylw at anafau sydd yn hacru llawer o'n hemynau. Gallwn basio heibio heb boon mawr enghreifftiau o gystrawen wallus neu ffugrau anafus, ond nid mor hawdd dygymod a'r caledwaith o ganu A'i daro gan gleddyf ei Dad, neu Fe groesodd filiau'r nef yn llawn, Heb ofyn dim i mi, neu Cyfiawnder wrth hir ofyn lawn Ei daliad yn gyflawn a gadd. Pe bae'r bardd wedi aros gydag ymadroddion Beibl, fel y sylwa Mr. Tecwyn Evans, ni fyddai'n bosibl beio arnynt. Ond pan y maent yn canu diwinyddiaeth gyfundrefnol sydd yn wrthodedig gan fwyafrif ein cynull- eidfaoedd, y mae'n hen bryd i rywun wrth- dystio. A yw hi'n rhy ddiweddar i apelio at olyg- wyr llyfrau emynau y Bedyddwyr a'r Anni- bynwyr sydd wrth y gwaith o baratoi argraffiadau newyddion i'r enwadau uchod ? Gobeithio yn fawr nad yw hi yn rhy ddiwedd- ar i wneud hyn. Piti garw fyddai iddynt barhau'r diffygion y cyfeirir atynt. Nid oes dim fel emynau am ymglymu a serchiadau pobl, a thrwy hynny anwylir cyfeiliornadau a chysegrir gwendidau ein tadau yn y ffydd. Mae dylanwad can ac emyn dda yn cyrraedd ymhell iawn. Nid rhyfedd i ryw gadfridog ddweyd y buasai'n well ganddo ysgrifennu can dda nag anrhydedd ennill brwydr. Pe cawn ni ( falu am gerddi addas i'w canu, gan blant a phobl. ni'm dawr (ebe rhyw Ffrancwr) pwy luniai'r cyfreithiau." Y mae hyn yn wirionedd neilltuol am ddylanwad Emynau. Dibynna crefydd ein heglwysi yn y dyfodol- yn fawr arnynt. Gresyn os bydd iddynt gyflwyno syniad camarweiniol am Dduw, am ddyn, am amcan y corff a bywyd cymdeithasol dynion. Hoffwn i rywun neu rywrai mwy eu dylanwad na fi ami JO at bob enwad yng Nghymru am rl. a doethineb neilltuol pan yn apwyntio personau i baratoi casgliad o emynau at eu gwasanaeth addol- iadol. Da fuasai gennyf pe cymerid y mater yma i fyny yn ddifrifol gan yr enwadau. Os na ellir cael un llyfr cenedlaethol at was- anaeth yr holl enwadau, chwynner llawer ar y rhai presennol. Nithio'r gau a nythu'r gwir fyddo arwyddair pob golygydd sydd wrth y gwaith ar hyn o bryd. Diolchwn yn galonnog i Tecwyn am gcdi'r mater yma i'r gwynt. HOFFWR EMYN. Cwestiyno'r Parch-Jameo Evans. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR,-Danfonwyd i mi gan gyfaill amryw lythyrau sydd wedi ymddangos yn Y BRYTHON mewn perthynas a mudiadau'r Eglwysi Rhyddion yng Nghymru. Gwelaf wrth eu darllen fod yna lawer iawn o anneall- twriaeth yn cael ei ddangos yn y drafodaeth, a rhai pethau ymddengys i mi yn anghywir. Felly, caniatewch i mi, fel aelod o'r Pwyllgor Gweithiol, y West Wales Federation, ac hefyd fel un o'r aelodau cyntaf o'r Advisory Com- mittee etholwyd gan y Federation uchod, i geisio egluro rhai pethau fel y maent yn adna- byddus i mi. Ceisiaf wneud hyn gyda'r unig amcan o osod pethau yn weddol glir gerbron yr eglwysi. Yn gyntaf, galwodd Dr. Meyer yr Advisory Committee i gyfarfod ag ef yn yr Amwythig. Yn hwnnw bu llawer iawn o siarad a dadleu o berthynas i'r Pwyllgor Canolog a'r Consultative Committee, a'r ddyled oeddynt wedi mynd iddi drwy gy- hoeddi llyfrau a phamfiledau ar gyfer dathlu 1662. Daethpwyd i'r penderfyniad, er mwyn cael cyd-ddealltwriaeth, i geisio gan rai o'r Pwyllgor Canolog gyfarfod a rhai o'r Advisory Committee, a galwyd hwnnw yn Amalgamated Committee (maddeuwch i mi am enwi'r holl Committees yma, ond dyna sut y gelwid hwy), ac yr oedd y Pwyllgor hwn i dynnu allan gynllun i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Cyffredinol yn yr Amwythig y cyfarfod dilynol. Ond oherwydd afiechyd Dr. Meyer, ni chyfarfu hwnnw hyd Mawrth 23, 1914. Methais a bod yn bresennol yn hwnnw, am fy mod yn rhwym mewn lie arall. Cynllun Dr. Meyer oedd cael un pwyllgor mawr yn cynrychioli pob Cyngor yng Nghymru, fod y llywydd am y flwyddyn, ynghydag ysgrifennydd y National Council, i fod yn aelodau ohono, yn rhyw fath o ddolen gydiol rhwng Cymru a Lloegr a bod y gwaith fyddai'n cael ei drefnu gan y pwyllgor hwn (oedd i rifo tua 20) i'w gario allan gan ysgrif- enyddion y gwahanol Federations y byddai'r cynlluniau'n cael eu cario allan. Er eng- hraifft, dywedwch fod y pwyllgor hwn-sef y Welsh Ef xecutive-yn trefnu fod yna ymdrech neilltuol i gael ei gario ymlaen o fewn cylch y Mid- Wales Federation, yna byddai'r pwyllgor yn trefnu i weithio drwy ysgrifennydd y Mid- Wales Federation, ac felly yn y blaen drwy Gymru i gyd. Y gwir amdani yw, ni awgrymodd Dr. Meyer mewn unrhyw fodd ei fod am ymyryd o gwbl a'r trefniadau, ond yn unig fol y dywodais ei fod yn aelod ohono fel dolen-gydiol rhwng Cymru a Lloegr ond gwelwyd nad oedd gweithio drwv'r ysgrifen- yddion yn taro a rhai oedd yno, ac amlwg ddigon oedd fod yna ymdrech i'w gwneud i gael un ysgrifennydd, yn herwydd yr oedd y Pwyllgor Canolog ar eu cyfrifoldeb eu hunain wedi ethol ysgrifennydd, ac wedi addo cyflog o E200 y flwyddyn iddo, a chredaf mai o'r fan yma y cododd yr anhawster i gael un pwyllgor mawr dros Gymru. Teg hefyd ydyw dweyd nad oedd gan y Pwyllgor Canolog ddim hawl i fod yn bresennol, ond eu bod wedi cael can- iatad drwy garedigrwydd Dr. Meyer a chyf- eillion eraill i Gymru. Yn bersonol, nid wyf hyd heddyw wedi deall pwy y mae'r Pwyllgor Canolog yn ei gynrychioli, ac nis gwn am neb arall sydd yn gwybod. Y gwir amdani yw, yr oedd cynhadledd fawr Caerdydd yn hollol ddialw amdani, ac fe wel yr eglwysi yn fuan iawn fod hyn yn wir. Fel y mae'n amlwg bellach nad oedd a fynno'r Pwyllgor Canolog a'r Federations o gwbl ond yn anffodus i ni yn y De, yr oedd Mr. James Evans yn ysgrif- ennydd y West Wales Federation ar y Pwyllgor Canolog, ac yr oedd hyn yn achosi llawer iawn o ddyryswch ymhlith yr eglwysi, llawer yn ddiau yn credu mai un oedd y ddau, ac mai at yr un amcan yr elai'r tanysgrifiadau ond ymhen amser, gwelwyd fod cyllid y West Wales Federation yn mynd yn llai, ac yn suddo'n ddwfn i ddyled,fel nad oedd dim digon o arian i dalu treuliau teithio na phwyllgor na siaradwyr. Ond yr oedd cyllid y Pwyllgor Canolog yn chwyddo. Sut mae cyfrif am hyn ? Dyma un ffordd am fod Mr. Evans, fel ysgrifennydd y ddau fudiad, yn trefnu i gario gwaith a chynlluniau'r Pwyllgor Canolog yng nghyfarfodydd blynyddol y Federations, er nad oedd yr un berthynas rhwng y Federa- tion a'r Pwyllgor Canolog. Cawn fod rhaglen y Federation wedi ei newid heb ymgynghori a Phwyllgor y Federation, a gwaith y Pwyllgor Canolog yn cael ei gario ymlaen, a chasgliadau yn cael eu gwneud yng nghyfarfodydd blyn- yddol y West Wales Federation. Nodaf ddwy enghraifft, sef Caerfyrddin a Llandyssul. Dywed Mr. Evans yn ei lythyr, Hydref 29ain Gan fod y Federal on o'r dechreu wedi gwrthwynebu cynlluniau Dr. Meyer, ac wedi cefnogi'r Pwyllgor Canolog, nid oes dim an- ghyson mewn bod yn ysgrifennydd i'r ddau." A fydd Mr. Evans cystal a nodi unrhyw gof- nodiad yn hanes West Wales sydd yn cyfreith- loni y geiriau uchod o'i eiddo ? Yr wyf wedi dilyn holl gyfarfodydd West Wales yn ystod y saith mlynedd diweddaf, ac nis gwn i am unrhyw wrthwynebiad i Dr. Meyer. Credaf ei fod yn annheg a'r West Wales Federation i ledu'r fath both ar draws gwlad. Dywed hefyd yn yr un llythyr ei fod wedi ei ail-ethol yn ysgrifennydd gydag unfrydedd mawr Oni ofynnwyd iddo gan amryw i ymddi- swyddo,ac oni siaradodd rhai am ei anghyson- deb yn cadw'r. ddwy swydd ? Dywed hefyd fod y Federation wedi cymeradwyo yr holl Gynghorau i anfon cynrychiolwyr i'r cyn- hadledd i ffurfio'r Undeb Cenedlaethol." Dim o'r fath beth, ac fe wyr Mr. Evans hynny Y peth a benderfynwyd ydoedd fod y cwestiwn yn cael ei anfon yn ol i'r Cynghorau, ac iddynt ddod ag adroddiad i'r cyfarfod nesaf. Nid dyma'r tro cyntaf i ni beidio å. chydweled a chofnodion ysgrifennydd West Wales.Yr eiddoch, D. M. DAVIES. Waunarluydd, Abertaive. Undeb Gwthio yn lie Undeb Gwadd. At Olygydd Y BRYTHON SYR,-Pan dderbyniais sypyn o bapurau oddiwrth swyddogion Undeb Cenedlaethol Eglwysi Efengylaidd Cymru echtoe, dywedais y peth a fu a fydd, a'r peth a wnaed a wneir." Gymru druan dyna dy hanes er cyn co'. Pan fyddai tywysog yn llywodraethu gyda medr a llwydd mewn rhan o'r wlad, codai un arall ac anelai am ei goron a'i orsedd. Megis cynt y mae eto. Onid oedd gennym ''Undeb Eglwysi Rhyddion yn gweithio yn esmwyth ers deunaw mlynedd a hynny, mi gredaf, am ei fod, ac nid er ei fod, mewn cys- ylltiad ag Eglwysi Rhyddion Lloegr. Hawdd fuasai ychwanegu ar hyn, ond af heibio yn awr. Tra'rceddyr Undeb uchodyn gweithio yn hwylus heb orthrymu na gormesu ar adnoddau na rhyddid yr eglwysi, wele Undeb arall yn cael ei wthio ar eglwysi ein gwlad tra y mae'r cyntaf mewn grym ac awdurdod. Enghraifft o frwydrau'r tywysogion. Dy- wedir mai "Undeb" ydyw hwn wedi atgyfcdi o falurion "Pwyllgor Ymgyrch y Dadgysylltiad." Dylasai'r Pwyllgor hwnnw farw a'i gladdu i ddechreu cyn cyrraedd ohono atgyfodiad y cyfiawn. Ymddengys i mi fod yr hen Bwvllgor wedi llwyddo i sicrhau yr hyn y methodd Paul a llawer ar ei ol ei gael, sef mynd heibio i'r diosg at yr arwisgo," fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd." A chyda llaw, hawlia'r hen bwyllgor gryn lawer gormod o glod gyda mater y Dadgysylltiad. Yr oedd y pwnc hwnnw wedi ei benderfynu yng Nghymru cyn iddo ef ddechreu ar ei waith ond os ydyw am dder- byn y clod am Ddadgysylltiad, teg iddo hefyd ydyw derbyn yr anghlod am y Dadwaddoliad. Credaf y dylid cael gwybod pa nifer o Eglwysi Cymru a gynrychiolid yng Nghaerdydd, ddydd Mercher, Tach, y 4ydd, pan bender- ynwyd sefydlu yr Undeb hwn. Gwn yr anfonwyd llythyrau gwahodd i'r eglwysi cyn cynhaliad y gynhadledd i beshderfynu'r cwestiwn. Dylasai mwyafrif yr eglwysi gael eu cynrychioli, onite "Undeb" yn cael ei wthio arnynt ydyw, ac nid yn caal ei wahodd. Megis nad oes gwerth mewn deddf wladol os na fydd yn ffrwyth dyhead y wlad, felly hefyd nid oes dim gwerth yn yr Undeb hwn os nad yw yn ffrwyth dyhead yn yr eglwysi. Credaf y bydd gwrthwynebiad cryf iddo pan ddealla'r eglwysi y disgwylir iddynt gyfrannu mil o bunnau'n flynyddol am olew i'w olwyn- ion. 0 berthynas i'r pwyntiau sydd ar raglen yr Undeb, sef Cau y Tafarnau yn gynarach," Ymgyrch Purdeb a Moes," Gwerthu Papurau ar y Saboth, Darpariaethau Cref- yddol ar gyfer y milwyr," mae'r eglwysi yn gweithio yn egniol gyda'r materion hyn cyn ffurfiad yr Undeb, ac yn gwneud eu goreu i godi milwyr," yr hyn sydd bwysicach na'r cwbl yn yr argyfwng presennol, a'r hyn nad yw ar raglen yr Undeb o gwbl. Beth yw'r ysfa sydd ar rai o arweinwyr crefyddol ein gwlad am bwyllgorau, cynadleddau, undeb- I au, etc., etc. ? Onid oes gennym ddigon a gormod o lawer o'r pethau hyn yn barod, fel eglwysi ac enwadau yn y wlad ? Ac y mae llawer ohonynt yn diweddu mewn mwg. Ychydig amser yn ol, galwyd cynhadledd fawr ym Mangor. Rhoddwyd gwys a gwa- hodd i holl bregethwyr Cymru ddod ynghyd. Utganwyd yr utgorn drwy Dde a Gwynedd. Yr oedd angen penderfynu pa fodd i bregethu yr efengyl yn hen wlad y cymanfaoedd," a hynny yn yr oes oleu hon. Cynhaliwyd y gynhadledd, cafodd amryw eu say, dychwel- wyd adref. Both fu'r dylanwad ymarferol ? Pwy all ateb ? Ie, pwy ? Llai o drefnu gwaith nas cyflawnir, a mwy o gyflawni gwaith nas trefnir, ydyw un o anghenion crefyddol ein gwlad y dyddiau hyn, yn ol barn yr eidd- och yn bur, TRYFAN JONES. Llys Meddyg, Dinbych. Cantata'n eisiau. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-A wyr rhywun o'ch darllenwyr cerddorol am gantata Gymraeg gymwys i'r plant, ar wahan i GantataW Adar Doctor Joseph Parry ? Carwn yn fawr gael gwybod yn fuan trwy gyfrwng Y BRYTHON, neu trwy anfon i'r cyfeiriad isod, a byddwn ddiolchgar iawn.-Yr eiddoch, J. OWEN JONES (Hyfreithon). Cwmafon, De Cymru.

Gyda'r Clawdd.

Advertising