Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Reliable and Superior Watches. Daily Wound. Tested, and Timed. WE ARE OFFERING HIGH-GRADE WATCHES WHICH TELL THE CORRECT TIME, DISPLAYING ON DIALS NAMES OF WORLD WIDE REPUTE. At Less than MaKers' Prices. PRICE LIST POST FREE. Davie& s,30 Low Hill "Top of London Road and Prescot Street, and 2 minutes from Hippodrome). Closed at 1 on Wednesdays. Open all day Saturday. Davies's Price £ 13/18/6. Usual £25. Benson's ISct. Gold Hunter. BY WORLD-FAMED MAKER, J. W. BENSON (Maker to his Majesty the King), iLudgate Hill, London. BEST LONDON- MADE VERY HEAVY SOLID 18-CARAT HALL-MARKED GOLD THROUGHOUT, i-PLATE ENGLISH KEYLESS LEVER HUNTER, quite new last year, warranted in PERFECT CONDITION, AS NEW. FITTED WITH BENSON'S highly-adjust- ed CHRONOMETER BALANCE, for all temperatures and positions MOST ACCU- RATE TIMEKEEPER, EXTRA JEWELLED, Patent Keyless, and all ,<s' Benson's Improvements GUARAN- TEED 25 YEARS a chance to secure a 125 watch for £ 13 /18 /6 approval. Also 18-CT. "KEW" HUNTING WATCH, WITH CLASS A KEW CERTIFICATE, by RUSSELL AND SON, Church-street, Liverpool. Our price, £ 13 /18 /— usual £ 30. MONTH'S TRIAL. Davies's Price £ 5/18/6. Usual £ 16. Real Gold Russell Hunter. -GENT'S GENUINEi HIGH-GRADE, FULL JEWELLED, HEAVY SOLID GOLD, HALL-MARKED THROUGHOUT, ENG- LISH, f-plate, Patent KEYLESS CHRONO- METER LEVER HUNTER BY THOS. RUSSELL & SON, Church Street, Liverpool. GREENWICH TIMEKEEPER in all tem- peratures and positions, 16 RUBIES BREQUET Spiral Spring, NON-MAGNET- IC will withstand SHOCK, JAR, or ELECTRICITY; medium size, strong plain polished damp and dust proof cases. NEW THIS YEAR (proof). MONTH'S TRIAL. Makers' and our warranty for 25 YEARS. Also Solid Gold full jewelled WALTHAM KEYLESS LEVER HUNTER; our price £ 5/18 /6, usual 916. Approval. Small de- posit secures. £ 3/7/6. Usual £ 9. Russell's Gold Expanding Bracelet Watch. HIGH-CLASS PERFECT LEVER LATEST SOLID GOLD WATCH BRACELET, Patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL & SONS, Church Street, Liver- pool (Makers to Royalty). 18 RUBIES Chronometer Balance, Brequet Spring, Patent Keyless, and latest improvements. KEEPS PERFECT TIME. Warranted by makers and ourselves 25 years. New this year; proof. Approval. Others by noted makers at £ 2/7/6, £ 2/14/ £3 ¡ItS 1- and £ 4/10/ All Bargains. 23/6, Usually L3131. Russell's Silver Keyless Lever GENT'S RELIABLE HIGH-GRADE STERLING SILVER LEVER, OPEN FACE, CRYSTAL GLASS, by RUSSELL & SON, Church Street, Liverpool, i-PLATE CHRONOMETER BALANCE, PATENT KEYLESS ACTION, Ruby Jewelled, Non- Magnetic Nickel Movements clear plain dial and gold hands; plain damp and dust proof cases (NEW 1914); ACCURATE TIMEKEEPER; our guarantee and makers' for 25 years; exceptional offer; carriage paid. S4 Gent's Gold Double Curb. 45/- —STYLISH GOLD DOUBLE CURB, Stamped Every Link, 2 swivels and bar; reliable quality. Also others as follow Solid Gold Neat Curb, 25 Double Fetter, 32/ Double Curb, 36/ Graduated Single Curb, 39 Double Curb, 45/ Also very Iíeavy Single Solid Gold Curb, £ 3 /5 usually 7 Guineas. Also Solid Gold Double Curbs at L3 16 and 94 /12 Also 12-Guinea very heavy Double Curb, now 16 /18 an extraordinary bargain. EVERY CHAIN GUARANTEED. m03 Lady's Solid Gold Guard £ -■i L/iQ°//0 n —FASHIONABLE GENUINE SOLID GOLD. Stamped and Warranted Sparkling Long Guard, the favourite DIAMOND CUT, equal to new. Also another at 29/6. Also another, Plain Round, Square-edge Links, at 36/ usually £ 3/15/ and another Heavier Diamond Cut, 39/ usually 14; SPECIALLY RE- DUCED. Also massive Round BELCHER GUARD, £ 2/5 usually M. Also Beautiful SECRET LINK, £ 2/19/ usually £ 6; and large DIAMOND CUT BELCHER GUARD £ 3/5/ usually t7; and Very Heavy SECRET LINK, £ 4/15/ usually f9. LARGE SELECTION. Money returned if not as represented. Deposit reserves. Ex- changes. Payments.- 0 DAVIES'S, LOW HILL
[No title]
0 Big y Lleifiad I
0 Big y Lleifiad I Sef Byd a Helynt Cymry Lerpwl. BODLON AR EU BYD.—Darllenwch lythyr Mr. Edward Jones (un o Gymry Lerpwl) ar tudal. 4, gael ichwi weld byd mor dda a chlwyd mor gysurus gafodd Pals y Gogledd yn y Rhyl, na pherigl i'r glana'i foes gael difwyno dim ar ei gymeriad. Ac felly ewch atynt. -<õo- -<õo- -<õo- BECHGYN ALLANSON.-Cymry yw'r rhan liosocaf o wasanaethyddion Mri. Allan- son, Grange Road, sef un o soipau mwyaf Birkenhead, ac y mae dros ugain ohonynt wedi ymfyddino, a'u meistri'n ymddwyn yn dra anrhydeddus tuagatynt o ran cyflog a chadw'u lie nes y deuont yn ol, os deuant hefyd druain. Y maent yn fechgyn buchedd- ol iawn at ei gilydd, ac yn gapelwyr cyson. -9- Y CYMRY FEL SIOPWYR.— Pam y mae'r Cymry'n sgleinio fel siopwyr led y byd i gyd, a phob ffirm yn awyddus eu cael yn anad yr un o genhedloedd Prydain ? Dyma f'ateb i :— Am eu bod yn fwy byw eu dychymyg a llithricach o dafod, ac felly'n gallu disgrifio'r nwydd hwn a'r teclyn arall nes glan-feddwi dyn i'w brynnu, ei eisiau neu beidio. 3t-- FAINT 'SYDD OHONOCH ?-AlI rhyw- un roi rhyw amcan imi faint o Gymry—yn feibion ac yn ferched—sy'n gwasanaethu yn siopau Glannau Mersey ? Rhyw flys ysgrif- ennu Llythyr Penagored atynt sydd arnaf, a hynny nid i'w dwrdio na'u cynghori, ond i gyfleu tipyn o 'mhrofiad a'm helynt am y chwe mis a dreuliais i mor drwstan tu ol i'r cownter pan yn grwt. Fe welais i wmbredd o ddwy ochr y natur ddynol yn y lie hwnnw, ac ni fydd y bysedd yma byth yn llonydd nes cael ei ddweyd ar goedd byd. DAGRAU'R DEWR.—Yr oedd miloedd pobl Birkenhead ar riniog eu drysau ddydd Iau diweddaf, i weld cryn fil o fechgyn y Cheshires yn gado am faes y gad ugeiniau ohonynt yn las-fechgyn tyner eu hoedran a thirion eu gwedd, a'r dagrau'n hidlo lawr grudd ambell un wrth sbio ar wyneb y fam a'i hymddug-am y tro olaf hwyrach. Y lleill wrthi'n troedio'n dalsyth, ac yn chwibanu Tipperary'n berffaith ddihidio'u golwg. Ond pe gwyddech y cwbl, hwyrach mai hwy oedd ddyfna'u hiraeth yn y diwedd, canys y mae ambell un yn fwy ei lywodraeth arno'i hun na'r lleill ohonom, ac fel eos John Blackwell, yn medru canu yn y nos, "a'i gwenyn cuddio'i gofid." Sut bynnag, golwg go anodd ei dal oedd hon, ac ambell wyneb yn gorfod troi tua'r pared i guddio'i feddalwch calon. Ronyn llai dewr serch hynny. »5? WYRES P AT ROB AS.—Y mae Mrs. Kirkpatrick Oxton Street, Walton, yn wyres i Patrobas, y bardd addawol o Nefyn a fu farw cyn cael amser i ddarigQs awenydd mor dda ydoedd. Cymhellir hi i gyhoeddi barddon- iaeth ei thaid, ac os yw'r darnau eraill yn hafal i hwnnw am Mair a'i Baban," sef yr Iesu, hwy haeddent ddod i olwg y genedl i gyd, canys yno, os da y cofiaf, y mae o yn s6n am y mawr-ryfeddod o weld y Creawdwr yn sugno bron Ei greadur. + Chwi welsoch oddiwrth yr hysbysiadau mai'r Parch. Wm. Prytherch, Abertawe, a'r Parch. D. Jones, Edge Lane, sydd i gadw cyfarfod pregethu eglwys M.C. Waterloo nos Sadwrn a'r Saboth nesaf. CAEL COMISIWN.-Y mae Mr. J. Frederick Venmore—sef mab Mr. a Mrs. James Venmore, Anfield Road-ac oedd hyd yma'n breifat gyda'r Pals yn Lerpwl-wedi cael comisiwn milwrol, sef yn 2nd Lieutenant gyda'r Fyddin Gymreig, sydd a'i phencadlys yn Llandudno. Bydd felly'n gwasanaethu tan y Brigadier-General Owen Thomas, ac y mae Mr. D. Da vies, A.S., yn gyrnol yn yr un frigad. 3t- GAIR Y BYWYD PR BECHGYN.— Diolch i Mr. Arthur Venmore, ysgrifennydd Cangen Lerpwl, am gopi o'r Testament bach Cymraeg y mae Cymdeithas y Beiblau yn ei ddosbarthu'n rhad i bob milwr a'i derbynip, a. chryn bedwar cant ohono wedi eu rhannu eisoes i'r amcan hwnnw rhwng capeli ac eglwysi Cymraeg Lerpwl a'r cylch. Peidied neb a. chamgymeryd, yr un pryd, fod y Gangen Cymreig yn cael y copiau'n rhad gan y Fam-Gymdeithas; nac ydyw, o lawer; canys y maent yn costio'n agos i swllt y copi i'r Gangen Gymreig, ac yn argraffiad hynod o ddel a hwylus ei logellu yn y boced leiaf bron, ao yn ddigon ysgafn, er trymed y gwirionedd- au sydd ynddo, i'r Lleifiad ei godi a'i gario i bobman heb ysigo dim ar ei phig. Un tlws iawn yw'r Testament Bach, ac un tlws iawn hefyd oedd y drychfeddwl o'i gyhoeddi a'i roi mor rad, sef am ddim. 3t- YR HOELION WYTH HEB DDAR. FOD.—Y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. (gweinidog yr eglwys) a'r Parch. J. Roger Jones, B.A. (Spellow Lane) a gadwai gyfarfod pregethu Wesleaid Claughton Road, Birken- head, nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Cynull- iadau da, a'u hastudrwydd achlust yn brawf digamsyniol fod bias a grym yn y Genadwri. Cefais innau ddwy o'r oedfaon ac a ddy- wedais wrthyf fy hun, Nac ydyw, 'dyw'r Hoelion Wyth ddim wedi darfod dod i lawr i Gymru o'r Efail Fry," canys prin erioed y clywais ddau gennad ieuanc yn gwisgo'r Efengyl mewn gloywach iaithnae yn ei thra- ddodi gyda mwy o braffter meddwl a difrifwch ysbryd, a chyda'r llydanrwydd athrawiaethol y IS-n fel y gele wrth anhebgorion yr Iechydwr- iaeth heb gyndynnu'n giaidd dros lawer o bethau dynol a darfodedig a fwsoglodd am dani, nes ei chuddio'n fynych, fwy na heb. Goddefwch i mi roi pluen fach yng nghap codwr y gan yn y capel hwn canys yr oedd y canu, nos Sul yn enwedig, yn fywiog a pber- aidd iawn i'r glust a'r galon. LLAW A GO RED LLETY'R EOS.- Clywsom fod ein cyd-ddinesydd Mr. John Morris, Y.H., wedi cyfrannu pum cant o bunnau at glirio dyled Capel Coffa Henry Rees sy newydd ei godi mor hardd yn Llansannan. Llaw agored at bopeth crefydd a Chymru yw Haw yswain tirion Llety'r Eos. -9- -< -9- ARLWY PRINCES ROAD.-Diolch i ysgrifennydd Cymdeithas Lenyddol Eglwy. M.C. Princes Road am gopi o'u rhaglen y gaeaf. Gwelaf rai testynau a darlithwyr y carwn ei clywed; ac os caf gyfle fodd yn y byd, fe hedaf hyd atoch rai o'r nosweith- iau hynny, os bydd yno gadair wag i ddis- tedlyn fel y fi. < Y mae'r elw geir oddiwrth gyngerdd macwy. aid iieu ddisgyblion Mrs. Howard Stephens sydd i'w gynnal nos Fercher nesaf yn y Yamen Rooms, Bold Street, i'w gyflwyno i gyd i gangen Lerpwl o Drysorfa Ryfel Tywysog Cymru. Chwi welwch holl fanylion y cyng- erdd blynyddol rhagorol hwn ymysg yr hys- bysiadau ar tudal. 6. CYMRY LERPWL AM DRI GWELY. —Dymuna Mr. Robert Roberts, Y.H., trysor- ydd Casgliad Lerpwl at yr Ysbyty Cenedl- aethol Cymreig, gydnabod y tanysgrifiadau ychwanegol a ganlyn :—Alfred Ernest Tate, Gresford, JE50 Ellis W. Jones, Waterloo JE5 Lewis E. Jones, Loid Street, jE5 Evan Morgan, Edge Lane, Y,5 Robt. Roberts, Y.H., Judges Drive, t5 Stephen Roberts, Norwood j Grove, f, 1 /1 R. Oswald Jones, Anfield, 5/ Mrs. M. A. Parry, Oakfield, £ 5/5/ Thos. Parry, Walton Breck Rd., £ 2/2/ Y mae Mr. Roberts eiseos wedi derbyn dros JE470, a chanddo addewidion am E120 arall, nes fod felly agos ddigon mewn llaw i waddoli dau wely. Ei arfaeth ef a'r Pwyllgor ydyw cael digon i waddoli tri, a diau y'u ceir. Drwy ddylanwad caredig y Cyrnol Thos. Gee, y mae teulu haelfryd Mri. Tate wedi cyfrannu E250-sef digon i waddoli un gwely j —eu hunain. Hai ati i gyfrannu'r gweddill! jI Saboth, Tachwedd 17, bu farw Laura, j annwyl briod David R. Roberts, 476 Prescot ( Road, Old Swan, ac ail ferch y diweddar Mr. W. C. Jones, Pengwern Hotel, Ffestiniog, j a Mrs. Jones, Gwynlys, Rhyl. Claddwyd ym j mynwent Anfield ddydd Mercher diweddaf. Daeth cynhulliad da ynghyd i dalu'r gymwyn- j as olaf iddi. Bu'n wael am amser maith, ond dioddefodd y cyfan yn dawel a dirwgnach. Gwasanaethwyd gan yr Hybarch 0. Evans, D.D., a'r Parch. D. Jones, Edge Lane. Sylwodd Dr. Evans ei fod yn gwybod trwy brofiad chwerw beth oedd colli rhai annwyl iawn, ac felly yn gallu cydymdeimlo a'r priod-, annwyl, y plant bach, a'r perthynasau. Bu'r i chwaer yn aelod o eglwys Annibynol Balmoral Road o ddechreu'r achos ac er ei bod yn methu dyfod i'r moddion oherwydd gwendid, ymdrechai ddysgu'r iaith Gymraeg i'w phlant bach, yn ogystal a'u hyfforddi yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Bu farw ynghanol ei dyddiau. Ei haul a fachludodd, a hi eto yn ddydd." Yr oedd y perthynasau can- lynol yn yr angladd Mr. David R. Roberts (priod), W. John Roberts (mab), Nancy a Dorothy Roberts (merched), Mr. W. J. Jones, Ffestiniog (brawd), Mrs. Dr. Roberts, Ffes- tiniog (chwaer), Miss Jones, Ffestiniog (cyf- nither), Mr. R. W. Roberts, Colwyn Bay (brawd-yng-nghyfraith), Mrs. D. O. Roberts (chwaer-yng-nghyfraith), Miss Davies, Liver- pool, ac hefyd Thomas Clarke, M.D. Durning Road Herbert Evans; Mr. Evan Lloyd, Liscard; Mr. Edward Green (cenhadwr dinesig); Alaw Madog, etc. Mae Eglwys Balmoral Road wedi colli chwaer arall-Mrs. Ann Davies, gynt o 17 Clint Road. Daeth i'r ddinas yn 1858, ac ymaelododd yn Eglwys Salem dan weinidogaeth Gwilym Hiraethog, ac yma y bu ar hyd y biynyddoedd tan ych- ydig fisoedd yn ol pan symudodd i'r Bala. Yr oedd yn nith i'r Parchedigion Robert Ellis a Humphrey Ellis, ac felly yn wyres i'r Hybarch Thomas Ellis, Llangwm. Claddwyd yn Llangwm Tachwedd 4ydd.-J.E. JIWBIL MARTIN'S LANE, LisCARD.-I ddathlu rhyddhad o gaethiwed dyled, a fu yn gorwedd ar yr adeiladau, cynhaliwyd cyfar- fodydd arbennig yngtyn a'r Eglwys uchod y Saboth diweddaf, pryd y sicrhawyd gwasan- aeth y Seneddwr galluog, y Parch. J. Hugh Edwards, A.S. Yn y bore, wedi anerchiad byw ynJSaesneg i'r plant, cafwyd pregeth rym- us yn Gymraeg. Yn y prynhawn, traddod- odd anerchiad yn Saesneg, yn fwyaf arbennig i'r bobl ieuainc, gan seilio ei sylwadau ar y geiriau hynny o'r proffwyd Hosea, Ephraim sydd deisien heb ei throi." Testyn rhyfedd I Ie, yn ddiau ond tynnodd y gwr galluog wersi byw ac addysgiadol oddiwrtho, perffaith gymwysiadol i'r dyddiau rhyfedd hyn. Dyma oedd baich ei anerchiad,—cydbwysedd yn natblygiad cymeriad. Yr oedd yr anerch- iad yn dryfrith gyfoethog o ddarluniau byw i gludo'i genadwri gartref, a gwyr yn dda pa fodd i ddefnyddio y digrif a'r difrif yn feistrol- gar yn ei draddodiad. Pery ei ddisgrifiad digymar o'r hen wraig ar lwyfan y rheilffordd, yn disgwyl yn bryderus am ddyfodiad ei mab adref o'r rhyfel, yn annileadwy ar got pawb a'i clybu. Gwnelai les anhraethol i'n cyfeill- ion ieuainc a ymunant a'r Fyddin y dyddiau hyn pe byddai i Mr. Edwards ei hargraffu yn bamffledyn, fel y'i darllenid gan bob un o'n milwyr ieuainc. Yn yr hwyr, pregethodd yn Saesneg, nes swyno y gynulleidfa fawr a lanwai yr addoldy hyd yr ymylon. Gedy Mr. J. Hugh Edwards ddylanwad ar ei ol, mewn canlyniad i'r cyfarfodydd arbennig y Saboth yma, nas dileir yn fuan, ac edrychir yn ol ymhen blynyddau i ddod, a chyfrifir Saboth Jiwbil yr eglwys mewn gwirionedd yn Saboth deheulaw y Goruchaf. Eiddunwn i Mr. Ed- wards flynyddau lawer eto i wasanaethu ei Dduw a'i genedl yn y pulpud a Senedd ein gwlad. Parheir y cyfarfodydd ddydd Mer- cher, a cheir gair amdanynt hwy yr wythnos nesaf.-EY.H.J. 1, Y lOfed cyfisol, bu farw gwraig adnabyddus i gylch eang o Gymry Lerpwl, sef Mrs. Jones, annwyl briod Mr. Elias Jones, Oakley Cottage, Oakfield. Yr oedd hi yn nodedig am" hardd- lwch corff a thegwch gwedd," a phopeth ynglfn a, hi yn amlygiad o urddas a boneddigeidd- rwydd. Hefyd nodweddid hi gan grefyddol- der ysbryd dwfn. Rhoddai fawr bris ar iddi gael ei bedyddio gan Henry Rees,ac ni flinai'n son amdano. Mynych yr adroddai am ddy- lanwad ei bresenoldeb ar blant. Yr oedd ei chartref yn dy agored i weinidogion y Gair, a byddai Mr. Rees yn ami ynddo. Nid oedd raid i'r fam ond dweyd fod Mr. Rees wedi dod i mewn, na byddai'r plant yn rhoddi eu chware heibio, ac yn eistedd yn llonydd a distaw. Manteisiodd yn fawr ar ei weinidogaeth, mewn cyfoeth profiad, ac mewn chwa ith. Efe a'r diweddar Barch. D. Charles Davies a fu'r prif offerynau i beri iddi feithrin parchedigaeth dwfn at bethau sanctaidd, ac i feddwl. Dar- lIen odd lawer hyd y diwedd ar lyfrau anodd, a meddai syniad clir am eu cynnwys a'u teil- yngdod. Rhoddai fawr bwys ar addysg gref- yddol i'r plant, a bu mewn gohebiaeth ag Esgob Lerpwl ac aelodau o'r Llywodraeth ar y pwnc. Cafodd ei phlant ei hun y budd o'i hesiampl a'i chyngor, a bu ymhob peth yn goron i'w gwr. Mae ein cydymdeimlad yn fawr ag ef yn ei gystudd a'i alar. Gweinydd- wyd yn ei hangladd gan y Parchn. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., J. Hughes, M.A., a J. Owen. LAIRD STREET.-Cynhaliwyd y cyngerdd blynyddol yn yr eglwys uchod nos Fercher, Tachwedd 18fed. Daeth cynulleidfa dda ynghyd. Cadeiriwyd gan John Owen, Ysw., New Brighton, a longyfarchodd yr eglwys ar ei chamre llwyddiannus o'r cychwyn hyd ddyfod- iad ei gweinidogion yn awr, ac edrychai ymlaen gydag eraill at lewyrch mwy eto yn y dyfodol agos. Y datgeiniaid oedd Miss E. Williams (contralto), Liscard -:y hi yma y tro cyntaf, ac yn cael ein cymeradwyaeth mwyaf calonnog, a gobeithiwn ei gweld yma'n fuan eto y tenorydd Mr. Tom Roberts, Seacombe a'i gyfaill Mr. Newton Edwards (baritone), hysbys hyd lannau'r Mersey ac mewn amryw ardaloedd yng Ngogledd Cymru, fel dau sydd yn deall ei gilydd i'r dim ar y llwyfan canu, ac a godasant y cyfarfod i gywair lied uchel. Yr oedd Alun Thomas hefyd yn neilltuol o dda gyda'i benhillion, ei ddewisiad yn hollol chwaethus a phan yn canu'r darn eithriadol dlws hwnnw, Hwiangerdd Sul y Blodau (Eifion Wyn), yr oedd astudrwydd y gwran- dawiad yn brawf fod cynulleidfaoedd ein cyngherddau yn gwerthfawrogi pethau cain a sylweddol yn llawer mwy na phethau ysgafn- ach a salach a geir weithiau yn y cyfeiriad hwn Dal ati, Alun, nes cyrraedd perffeith- rwydd, y mae gennyt lais a dawn neilltuol o hapus i ragori gyda'th benhillion Edrychem ymlaen am wledd gan Madame Gladys Will- iams, ac ni'n siomwyd dyblai'r gynulleidfa wrth ei chlywed yn perfformio Married a Month; yr oedd ei darnau gwladgar, Call to Arms a Kai8er and God, yn gelfydd dros ben, ac un o'r pethau mwyaf effeithiol oedd ei gwaith yn canu emyn o waith ei diweddar dad Gwilym Alltwen, ar alaw Chvynfan Prydain. Diolchodd y Parch. T. J. Rowlands, M.A., B.D., a Mr. T. O. Vaughan yn gynnes i Mr. Owen am lywyddu, am ei anerchiad, a'i rodd dywysogaidd i'r drysorfa i'r cyfeilwyr, Miss Lizzie Roberts, A.L.C.M., a Mr*. Owen, Gorwyl i'r ysgrifenyddion diwyd, Mr. D. C. Evans a Mr. Alun Thomas ac i bawb a gynorthwyodd i ddwyn oddiamgylch y fath- gyngerdd llwyddiannus. CYFARFOD CTSTADLETJOII ANFIELD ROAD. —Cynhaliwyd hwn nos Fawrth, Tachwedd 24. Tyrfa liosog a chyfarfod llewyrchus, a nifer fawr o gystadleuwyr. Llywydd, y Parch. J. Owen, a Mr. S. E. Roberta yn arwain. Beirniad y canu, Mr. G. W. Hughes, G. & L., a'r adrodd, Mr. Philip Jones. Cyfeilydd, Miss Jennie Hughes, A.T.C.L. Swyddogion y Pwyllgor: cad., Mr. Ernest Hughes; trys., Mr. J. Vaughan Hughes ysgr., Mri. W. Gratton Thomas a N. Oswald Jones (yr olaf yn cymryd lie Mr. Gwil- ym Madoc Jones, sydd wedi ymuno A'r Fyddin). Diolchwyd i bawb gan y Mri. R. T. Williams ac R. Llanfor Roberts. Y rhain oedd y buddugwyr :—Rhyddiaeth Hanes Eglwys Anfield Road Isaac Davies, Will- mor Road. Stori Fer Isaac Davies a J. Morris, Prenda Road. Traethawd i Ferched Mrs. R. Madoc Jones. Traethawd i rai tan 21: Grace Jones, Milman Road, a -Janet Evans. Eto, dan 16: 1, M. L. Jones; 2, Oswyn Jones 3, Gwladys Jones. Llythyr at gyfaill: 1, Katie Roberts; 2, Gwladyg Jones a Wilfred Jones. Barddoniaeth.- Dernyn, Troion yr Yrfa" Mrs. Jones, Miriam Road Telyneg, Y Gamfa R. O. Hughes, Edge Lane. Cyfieithu Emyn i'r Saesneg: J. W. Roberts (Arvon Hope). Englyn, "Yr Ymfudwr Evan Evans, Edge Lane. Cerdd.-Cor Plant: Smith St. (R. Llanfor Roberts). Pedwarawd ,t" Ti wyddost Parti Newton Edwards. Unawd Contralto, Rhosyn yr Haf" Lizzie Thomas, Anfield. Unawd Tenor, Gwlad y Bryniau" Thomas Roberts, Seacombe. Unawd baritone, Gwlad y Delyn New. ton Edwards. Unawd i blant Bugeilio'r Gwenith Gwyn 1, Lili Davies 2, Ethel Roberts 3, Gwladys Jones. Eto, dan 12, Beth yw nod dy fywyd ? 1, Wilfred Jones 2, Arthur Jones 3, Katie Roberts. Ar y berdoneg, i rai dan 15: 1, Mona Aspen; 2, Eunice Jones 3, Katie Roberts a Gwladys Jones. Adrodd i rai dros 16, Y Rhywbeth Rhyfedd Misses Grace Jones a Gwladys Morris.. I rai dan 18, Dadl Gwladys Jones, Miriam Road, a Katie Roberts, Kirkdale Vale. I rai dan 12, Paid rhoi fyny" 1, Edward Hughes; 2, Gwen Humphreys 3, J. Morris Jones. Cyfieithu: Miss N. V. Rees, Anfield Road. Gwybodaeth Gyff- redinol: 1, Oswyn Jones; 2, Norman Herbert; 3, D. Roberts a Wm. Phillips, Venmore St. Dictation Cymraeg: dan 16: 1, Gwladys Jones 2, Hubert Jones 3, Myf. Phillips. Ysgrifennu (i ysgol Anfield Road),—dan 10 oed 1, Arthur Jones 2. Wilfred Jones. Dan 13 1, Gwladys Jones 2, Ivor Watter- son Thomas. Dan 16: 1, Oswyn Jones; 2, Johnny J ones. Eto (i ysgol Smith Street) dan 10: 1, Emma Rice 2, Emrys Lewis. Dan 13: 1, J. Morris Jones 2, Nellie Dod. Dan 16: 1, Ethel Beagby; 2, Ellen Davies. Photography Mr. O. Jones. Pencil Sketch J. R. Davies. Cyfleth triagl Annie Jones, York House. Lunch Cake Ella Roberts. Cushion Cover: 1, Miss J. Williams; 2, 2, Miss B. Owen. Table Centre Elsie Price. CVMRU FYDD ANFIELD.-Amheuthun oedd cael un noswaith, mewn awyrgylch Gymreig o leiaf, os nad yn hollol felly mewn iaith. Ar y 10fed cyfisolj breintiwyd ni ag anerchiad gwresog ar Ddelfrydau Cymreig gan y Parch. G. R. Jones, B.A.,B.D., Dad- ansoddodd elfennau cymeriad y Cymro, ac ni phetrusodd ddinoethi ei wendidau'n gystal a chanmol ei ragoriaethau. I bob ymddangos- iad, yr oedd yn llawn o anghysonderau, tra mewn gwirionedd y perthynent o angenrhaid i'w anianawd cynhennid. Er hynny, yr oedd ei chwaeth a'i ddyheadau o nodwedd goeth a dyrchafedig, a'r cwbl yn cael ei lefeinio a nawi grefyddol. Cafodd yr anerchiad dderbyniad cynnes, a diolchodd y Mri. Oswald Roberta ac Ernest Hughes yn wresog iddo. Dr. Hugh Jones a lywyddai, a diolchodd y darlithydd iddo yntau. Ar y 17eg cyf., cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Gymdeithas, yn cael ei ddilyn gan gyfarfod adloniadol. Arweiniwyd gan Mr. Henry Jones, C.D. Llawenydd oedd deall fod y Gymdeithas yn parhau i gynhyddu yn yr aelodaeth ac yn ariannol, ac fod argoel am well tymor eleni nag erioed. Etholwyd y swyddogion am y flwyddyn ganlynol, y prif swyddi fel cynt, gyda dewis Mr. H. Russell Edwards yn ysgrifennydd cyffredinol. Diolch- wyd i swyddogion y flwyddyn flaenorol gan y Mri. Harold Hughes a Win. Thomas. Under the presidency of Mr. J. Herbert the following excellent programme, kindly provided by Miss Lily Roberts, was gone through and highly appreciated: Songs, "Love is im- mortal," and Somewhere a voice is calling," Miss Furnival; Dewch i'r Frwydr," and England," Mr. Bob Roberts monologues, "Mixed and Muddled," and "The Street Watchman's Story," Mr. Arthur Evans, A highly diverting sketch was also performed, entitled Our at 'Ome day." The humour of the situations was hugely enjoyed by the audience, the characters all being adequately sustained as follows: Mrs. Snobson, Miss Hodgkinson Henrietta, her daughter, Miss K. Jones Sabina, the maid, Miss G. Jones, Afterwards the company partook of refresh- ments tastefully prepared by the ladies of the Society, Miss Fanny Jones' services for years past in this connection deserving special praise. Messrs. Arthur Venmore and Rd. Williams proposed a hearty vote of thanks to all who had contributed to the evening'* enjoyment. CYMDEITHAS GENEDLAETHOL GYMRKI# WIDWES A RUNCORN.-Nos Iau, Taeh. 19, yng nghapel M.C. Runcorn, cafwyd darlith gan y Parch. Edmund Griffith, Lerpwl, am Cipdrem ar ddyrchafiad ein Cenedl o 1874 i 1914. Ymdriniai'n feistrolgar ar adclyog, gwleidyddiaeth a chrefydd Cymru. Dyma ddarlith newydd Mr. Griffith, ac y mae yn ychwanegiad pwysig at y nifer o ddarlithoedd a draddodir ganddo o dro i dro. Y llywydd ydoedd Mr. Evan Thomas, Widnes. Diolch- wyd i'r llywydd a'r darlithydd gan y Parofe. J. H. Hughes a Mr. O. Thomas, Runcorn.
ER COF.
ER COF. ER SERCROG GOFFADWRIAETH am Eo* y Berth (Pencerdd Cerdd Dant), a ymadaw. odd a'r fuchedd ddaearol Tachwedd 17.1, 1913. Yr Ap a'r Teulu.
jV ¡Rhiwmatic ac Arhwl. deb…
V Rhiwmatic ac Arhwl. deb y Kidney. Triniaeth Rad. Y MAB rhiwmatic yn ganlyniad urle aoid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw'r achos pennaf o boen yn y cefn, lumbago,sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, carreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright'a disaaso. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn oyflym gymeryd lie meddyginiaethau ar ol yr oes "ey'n ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o focsea o Dabledi Estora yn cael eu CYNNYG TN RHAD er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad- meddyginiaeth oneat at y Kidney am brin gonest, Is. I id. y boes o 40 o dabledi, neu 6 bocs am 69. Cyflenwir hwy gan y rhaa fwyaf o fferyllwyr. Y mae'r cynnyg hwn o un bocs llawn ym parhau mewn grym i ddarllenwyr Y BRYTHOW am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ac ar yi amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allaa a'i anfon gyda 3d. mewn stamps, onitd fe anwybyddir y ceisiadau; a'r amcan ydyw, diogelu rhag rhai nad oes amynt angen am y cynnyg. Cyfeiriad Estora Co., 132 Charing Cross Road, London, W.C
Advertising
LLETY: Lie cyfforddus i ddau gyfaill. JLJ 42 Downing Road, Bootle. fc——— WALTER ROBERTS &CG., Colliery Agents, LIVERPOOL. 4 BOOTLE AND DISTRICT. Those who want to BUY or SELLa Basinsm. oonsait W. H. JONES, Business Transfer Specialist, 260a STANLEY RD., BOOTLE. Buyers can Safely rely on the particulars issued from this Office. — No charge to Buyers. CAN FILWROL TN ATEB I'R AMSER. GWRON AID CYMRU- (Heroes of Cymru)-BARITONE. Yn y ddau nodiant a'r ddwy iaith. Y Gymraeg gan CAIIGFRTN and the English by GLADOWEE. The muic by the popular J. PETERS (Alan Âlaw). Ar werth gan H. EVANS & SONS, Liverpool; net CYNALAW, Cardigan Pris 1