Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
TREM IV-Y BRENIN. I
TREM IV-Y BRENIN. I NADOLIG BRENHINOL Ceir yn ein byd ni lawer o frenhinoedd. Brenhinoedd am dro ydynt ar y goreu, er cy naint yw rhwysg rhai ohonynt. Mynd a doi y maent, ac fe gyfansoddodd Esaia feddargraff yr eiff pob un ohonynt hwy i orwedd dano Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant." I lawr, yn y fan yna, yn fud ae yn farw, y bydd Pennau Coronog presennol Ewrop bob un cyn hir. Ond y mae'r gwir a'r unig Frenin, er wedi marw, eto'n fyw. Ganed Ef er gallu marw, bu farw er gallu atgyfodi, adgyfododd i fod yn Frenin—"yn Ben uwch- lawpobpeth i'rEglwys." Beth yw diwrnod ar awrlais, a'n miliynnau blynyddoedd haul, i Dad Tragwyddoldeb Dyn bach mewn cadachau," a'r Duw mawr a'n Hiachawd- wr "J Efe yw'r Alffa a'r Omega. Nid aeth erioed allan o'i fyd, neu ni fuasai byd hebddo- Nid trychineb a ddigwyddodd yn Ei gefn yw'r Armagedon. Amhosibl Mae Duw yn llond pob Ile, A'i tØynw ymhob man. I bwy bynnag y daeth y rhyfel yn ddiar- wybod, nid iddo Ef. Pwy bynnag oedd heb ddarpar ar ei gyfer, nid Efe. Nid byd wedi torri'n rhydd o law ei wir Frenin yw'r Armagedon fawr. Ymweithia'i arfaethau tragwyddol Ef o tan, uwchlaw, a thrwy'r cyfan. Canys Bachgen a aned i ni, Mab a rodd- wyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwyddief,a gelwir ei enw Ef Rhyfeddol, Cynghcirwr, y Duw Cadarn, Tad tra- gwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar "heJaethrwydd ei lywodraeth ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth Ef, i'w threfnu hi, ac i'w chadarnhau a barn ac a chyfiawnder o'r pryd hwn, a hyd byth. Sel Arglwydd y lluoedd a wna hyn." 0 Nadolig gogoneddus Caffed pawb brofi dy fod iddynt yn-wel, mae'n anodd arfer y gair llawen a "mrry ar hyn o bryd,— ond caffed pawb dy Fendith gyfoethocaf -0--
Ffetan y Gol. I
Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n an/on i'r Ffetan I mai dyma'r gair sydd ar ei genau;— I NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. I I- Cael teitl ond ennill anrhydedd- I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Nid rhy gryf Y Gole Coch yn eich rhifyn diweddaf, mae'n ddiau, ar y teitlau Amer canaidd.Nid oes a fynnom aitheilyngdod neu annheilyngdod y cyfryw, i neb, nac o neb, i'r rhoddion hyn eithr carwn awgrymu fod rhai heb fod yn bregethwyr yn llawn mor deilwng a hwythau o'r teitlau bondigrybwyll hyn, mor bell ag y maent yn arddangosiad o deilyngdod mewn gwaith a chymeriad. Y farn gyffredin yw fod gan bregethwr fwy o fantais, fel y cyfryw, i sylw rhyw ddosbarth, na'r lleygwr. Fel dosbarth, mae gan bre- gethwyr fantais ar leygwyr i gyrraedd pinacl bri a theitl ond mewn cymhariaeth, tybiwn y dywed hanes wrthym mai yr olaf yw'r teil- yngaf o'r D.D."—gan nad o ba le y daw Wedi'r cyfan, y lleiaf o angen teitl yw'r teil- yngaf o hono er hynny, anrhydeddir yr annheilwng yn amlach na'r teilwng. Ar er gwneud cyflawnder a phawb,a pheidio a cham- arwain neb, onid yw prifysgol llais y wlad a theilyngdod disect yn ceisio dweyd mai ei theitl hi, wedi'r cyfan, sy'n safonol a gwerth ei wisgo ? Peth y gellir ei gael yw teitl, ond peth y rhaid ei ennill yw anrhydedd. Y GOLEU GLAS. Archiagon a geiriau ereili. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Wrth adolygu rhifyn Hydref o'r Beirniad yn ddiweddar yn Y BRYTHON, cyfeir- ia eich adolygydd at y gair Archiagon a ddefnyddir gan y Parch. Tecwyn Evans yn ei ysgrif ar yr Emynau, ac awgrymir fel pe bae'r gair yn ddieithr iawn i'r adolygydd ei hun ac i mi, ymddengys ei sylwadau fel po bae'n awgrymu hefyd mai gair diweddar yw archiagon gair gwneud o eiddo Mr. Evans neu ynteu o eiddo rhyw eir-wneu thur- wr carbwl, diofal, anghelfydd ac anwybodus. Boed hysbys i'r adolygydd fod y gair hwn yn hen air. Defnyddid ef yn gyson gan y di- weddar Ganghellor Silvan Evans yn hytrach na'r gair arall a welir ac a glywir yn awr mor gyffredin—archddiacon. Fel hyn y dywed y Canghellor yn ei Eiriadur—"Archiagon, -laid archdeacon. More naturalised than Archdeacon, and therefore a preferable form" cae yna, yn ol ei arfer daw'r dyfyniadau, megis- ,(I) Myfi Gwallter, archiagon Rhydychen." Brut Tysilio (2) A'r archiagon Emwnt Prys, ydoedd ei hun yn fardd."—Carnhuan- awc (3) A gofyn a wnaeth i'w archiagon a glywai ef y cyfryw."—Sior Trefor. Felly -gwvbydder mai nid gair diweddar, creadig- -aeth newydd, yw Archiagon ond hen air, girerth ei ddefnyddio yn hytrach na'r ffurf arall, ArchWiawn, Mae'r adolygiad yn gywir pan ddywed mai gwrywaidd yw cenedl awyrgylch oblegid y rhan enwol, sef cylch, sy'n llywodraethu cenedl y gair ac nid y rhan ansoddeiriol ohono. Tybir fod awyrgylch yn fenywaidd oblegid dylanwad y rhan gyntaf o'r gair, yn union fel y tybir yn fynych fod croesbren yn fenywaidd oblegid cenedl croes, a bod canhwyllbren yn fenywaidd oblegid cenedl cannwyll. Ond dywed eich adolygydd fod awyr yn ogystal a cylch yn wrywaidd, yr hyn nad yw gywir. Y gwir yw, fod cenedl awyr yn amwys. Defn- yddir ef yn Deuteronomium yn wrywaidd- awyr buan tra yn yr Apocrypha, ceir ef yn fenywaidd- aln hanadl a wasgerir fel awyr deneu." Defnyddir ef gan W. Owen Pughe mewn un man yn wrywaidd, ac mewn man arall yn fenywaidd-awyr du, awyr las. Gwel I Silvan Evans s.v. awyr. Sylwa'r Geiriadur- wr fod y gair yn digwydd yn y ddwy genedl, ond yn fwyaf cyffredin yn y fenywaidd ac fe gofia pob llenor mai benywaidd yw'r gair ym I mrawddeg gyntaf y Bardd Gwsc-" trwv'r awyr deneu awel a'r tes ysplennydd tawel. Drachefn, a ddylid ysgrifennu Y llawryf gwyrdd neu ynteu "y lawryf gwyrdd Ymddengys i mi fod yr ateb yn dibynnu yn hollol ar y modd yr edrychir ar y prif enw yn y frawddeg, neu mewn geiriau eraill pa fodd yr at-abir y gofyniad,—prun yw'r gwreiddiol, lawryf neu lawryf ? Diau fod y ddau ddos- barth yn cydnabod gwreiddyn y gair yn y ffurf Lladin, laurus. Tybia'r naill ddosbarth y dylid cadw 'r I yn y Gymraeg fel y ceir yn y Lladin, tra y tybia'r dosbarth arall y dylid troi'r I i'w ffurf chwyrnol, yn ol yr egwyddor gyffredin yn y Gymraeg, megis pan ddaw lamina yn llafn, longa yn llong, lorica yn llurig, Luna yn Llun, litiera yn llythyr, etc. Ef allai y gellir dweyd fod y ddwy ffurf yn gywir; ond gwell a mwy cydweddol Ag arfer- iad y Gymraeg yw ysgrifennu y llawryf gwyrdd." Mor bell ag y cofiaf, nid yw'r ffurf y lawryf yn dod o gwbl ond unwaith yn y Beibl Cymraeg, sef yn Salm xxxvii, 35; ac ef allai mai gwell yw edrych ar y ffurf hon fel yn groes i'r rheol gyffredin yn hytrach nag yn unol ag arferiad ein hiaith. D.O.G. I Clwyfedigion Cymreig yn Ysbytai Lerpwl- I At Olygydd Y BRYTHON SYR,—A wyr rhai o ddarllenwyr Y BRYTHON am filwyr Cymreig yn un o. ysbytai'r cylch yma, sydd wedi eu clwyfo yn y rhyfel ? Mae'n sicr fod yna amryw pe'r ymholem Ymddengys fod y clwyfedigion gyrhaedda Southampton yn cael eu dodi yn yr Hospital Train gyntaf io'n barod, pa le bynnag y bo'n mynd felly dichon i frodor o Gaerdydd gael ei anfon i Newcastle-on-Tyne, a brodor o Fanceinion i Abertawe. Nos Fawrth ddi- weddaf, aeth parti ohonom i gadw cyngerdd yn un o ysbytai'r ddinas, fel y mae'n arferiad gennym tua'r adeg yma bob blwyddyn, sef yr ysbyty newydd yn Eaton Road, Knotty Ash, lie y mae llawer o filwyr clwyfedig yn mynd a dod bob wythnos. Tarewais ar Gymro yn eu my sg-yr unig Gymro yno hyd yn hyn, gwr ieuanc o Gwm Ogmor, Morgannwg, yn per- thyn i'r 1st Welsh Regiment, ac wedi bod drwy'r brwydrau i gyd, o Mons i'r Marne,ac yn ol i'r Aisne, hyd Ypres, lle'i clwyfwyd. Ar un adeg yr oedd yn un o un ar bymtheg adawyd yn fyw allan o bedwar cant o'r gatrawd a amgylchwyd gan y gelyn (Dyma'r dydd y lladdwyd y Capten yr hwn, wedi ei glwyfo yn dost, a ddaliodd ati i'r diwedd gan weiddi Stick it, Welsh "). Mawr oedd ei lawenydd wrth daro ar Gymro nos Fawrth, ar ol bod yn yr ysbyty am agos i dair wythnos, heb weled yr un Cymro o gwbl, ac erfyniodd yn daer ar inni ei weld eto. Aethom yno drachefn ddoe, a threuliasom awr ddiddorol iawn gyda'r brawd a'r milwyr eraill. Fy rheswm, Mr. Gol., am ddefnyddio colofn Y BRYTHON yn yr achos yma ydyw, i geisio cael rhyw drefn i alw yn y gwahanol ysbytai yn gyson i weld ein cydwladwyr sydd ef allai yn bell oddicartref, ynghyda chyflwyno rhyw fan anrhegion defnyddiol iddynt. Y mae ychydig ohonom yn y rhan yma o'r dref yn dechreu ar y gwaith,a buasai yn dda gennym ddod i gyffyrddiad ag eraill sydd yn barod i ymuno a ni, A fydd y cyfryw cystal a gohebu a—Yr eiddoch yn ffyddlon, 14 Kemlyn Road, J. W. ROBERTS Anfield (Arvon Hope) "Tipperary" yn Gymraeg. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL FE YR,—Un o ryfeddodau y rhyfel arswydus hwn ydyw mabwysiad telyneg Wyddelig-It'8 a long way to Tipperary-fel rhyfelgan Prydain ar for a thir. Cydnabydd- ir fod mympwy'r gan yn dyner, yn syml a deniadol; ond fel cyfansoddiad prydyddol, chwith a thrwsgl a chyfnewidiol ydyw ar y goreu yn y mesur. Apelia'r gerddoriaeth, er hynny (yn enwedig yn y gydgan) at chwaeth cerddgar y werin-y milwyr Prydeinig yn neilltuol-oherwydd ei sigliad rhyfelgyrchol. Dyna," meddai cyfaill Ysgotaidd, oedd flyn- yddau'n ol yn uchgapten ym myddin Prydain, "ydyw dirgelwch poblogrwydd can Tipper- ary." Ond dylid cydnabod fod rhywbeth hynod ddeniadol yn llyfnder (limpidness) y gair Tipperary, sy'n cyfrannu'n helaeth i boblogrwydd y gerdd. Bod a fynno am hynny, y mae catrodau Cymreig yn awr yn y gadlu Brydeinig, a dyfelais y byddai eyfieith- iad, ac aralleiriad mewn rhan, Cymraeg o'r rhyfelgan yn dderbyniol ganddynt. Dylan- wadwyd fi, gan hynny, i gyfieithu ac addasu'r gan heb ddistrywio unpeth ond y weddnod Wyddelig yn y gwreiddiol. Amgeuaf ffrwyth fy llafur. Ef allai y bydd yn dderbyniol gennych fel cyfraniad i'ch colofnau o wlad bell Califfornia.—Yr eiddoch yn serchog, TALIESIN EVANS (Tal o Eifion). Oakland, U.D.A. Rhag. 5, 1914. MAE Y FFORDD 'N HIR I ABERAERON Addasiad Rhyfelgan Prydain, Tipperary," i Gatrodau Cymru. FRY i Lundain grymus daeth Cymrodor ffraeth a gwych Aur balmantai'r strydoedd hen, A llawen oedd pob drych. Canaid cerddi gorfoleddus Ei gwroniaid hi A gyfododd hiraeth yn ei galon— Leddfdon yn ei gri Cydgan- Mae y ffordd 'n hir i Aberaeron- Mae y daith 'n hir a blin Mae y ffordd 'n hir i Aberaeron Lie preswylia'm mwynaf fun Yn iach i fryniau Cymru— Ffarwel i'w glannau hi; Mae y daith 'n hir, hir i Aberaeroa Lie mae nghalon i 'Sgrifodd Guto lythyr serch At Morfydd dirion, chweg "Ac os," meddai, "na dderbyniweh ef Atebwch 'n union deg As, os digwydd gwall sillebiaeth, Nae anghofiwch hyn Fod yr inc yn brin a theneu A gwael iawn yw y pin! Cydgan-" Mae y ffordd 'n hir," etc. Atebiad prydlon Morfydd fwyn I Guto oedd fel hyn "Twm Cwm Mabon sy'n fy annog I'w briodi-mi a fyn Tyr'd yn ol i Aberaeron, Neu arnat fydd y bai, Can's Cariad sydd yn fy ngwirioni— Gobeithiaf nad wyt lai Cydgan- Mae y ffordd 'n hir i Aberaeron- Mae y daith 'n hir a blin Mae y ffordd 'n hir i Aberaeron, I Lie preswylia'm mwynaf fu* Yn iach i fryniau Cymru— Ffarwel i'w glannau hi I Mae y daith 'n hir, hir i Aberaeron Lie mae nghalon it"
! )win 64(IP461 ym lanueimon.
)win 64(IP461 ym lanueimon. COLOFN Y CYFRIN. DYMAR 'DOLIG /-Wele'r dydd i ddy- muno'n dda i'n gilydd, ac i ddeisyf tang- nefedd i bob dyn! ond diau mai dyma Nadolig rhyfeddaf yn hanes Iwrop, oblegid y cymyl dinistr ordoa'r gwledydd. Faint bynnag o lawenydd ddaw i'n rhan ni, cofiwn am warchodwyr ein hynys ar dir a mor, ac am deuluoedd y cadeiriau gweigion, y lluoedd digartref a'r genedl ddi-wlad. Er na wyddom ni fawr ond trwy glywed am y trychineb, eto mae cri miloedd o glwyfedigion yn y dref hon bron wrth ein hymyl. Gofid fydd amlycaf y Nadolig hwn, nid can. Maddeued y Parch. J. Cynddylan Jones i mi am roddi yn y fan hon frawddeg o'i weddi pan oedd yma beth amser yn ol Yr ydym ni yn credu dy fod yn iawn, Arglwydd ond wyddom ni ddim sut yr wyt yn goddef hyn pan allet ag anadl dy enau ysgubo holl annuwiolion y blaned ymaith o'th wydd." Mae Cariad heddyw'n wylo, Gwareiddiad drodd ei gefn, Brawdoliaeth sy'n ochneidio, A'r byd gan Wae'n ddi-drefn. Er hyn mae clych Nadolig Yn dweyd ag unsain gref, Fod eto fore gwyn yn dod, A Heddwch gydag ef. UN 0 GEWRI GROEG.-Arwydd da o gyfeillgarwch ac edmygedd ydyw i eglwys alw ar weinidog fu yma am ysbaid i ddod i ddar- iithio ar ol ymadael. Dyna wnaeth eglwys Gore Street wrth gyrchu'r Parch. J. Roger Jones, B.A., Lerpwl, cyn-weinidog y Gylch- daith hon, i draddodi darlith nos Sadwrn. Origen oedd ei destyn, ac yr oedd ei ddarlith yn ddiddorol ac yn gloddfa o wybod- aeth am yr hen awdur Groegaidd sydd a'i waith a'i hanes wedi bod mor gudd i'r werin. Dechreuodd ei fywyd bron ar derfyn yr ail ganrif, ac a ferthyrwyd am bleidio Cristionog- aeth, pan yn 69 oed, yng nghanol y drydedd ganrif. Yr oedd yn nodedig o syml a gos- tyngedig, ac yn meddu athrylith ardderchog ei gloewder. Rhoddodd y darlithydd hanes ei yrfa, a'i syniadau, a'i ddylanwad ar feddyleg hyd y dydd hwn. Trwy ddiwydrwydd a dyfalwch gwnaeth esboniadau ar yr Ysgrythyr ac ysgrifau rhagorol eraill ar grefydd. Mae cyfeiriadau mynych amdano yn Hanes y Ffydd gan Charles Edwards, a argraffwyd am ychweched waith yn 1822 gany Parch. Peter Williams, Ficer Llanbedrog. Y mae hwn yn llyfr prin iawn yn awr. Un peth hynod ynglýn a'r llyfr hwn hwn ydyw fod y gyfrol wedi ei chyflwyno i Rd. Edwards, Nanhoron, efe ar y pryd yn Gyrnol ar Filisia Sir Gaernar, fon, ac y mae yn y gyfrol restr o'r rhai a achlesent lenyddiaeth Cymru gan mlynedd yn ol. Gwelir fod llawer o swyn hyd yn oed yn y pethau sydd yn dwyn rhyw gysylltiad a ffrwyth meddwl Origen. Dim ond i mi uaweya ioa y rarcn. j. n. Jones wedi cymryd agos i ddwy awr i draddodi ei ddarlith, gwelir ar unwaith ei fod wedi ymchwilio'n llwyr i bopeth cysylltiedig a'i destyn ac yr oedd ei draddodiad mor effeithiol fel nad amlygodd neb o'i wrandawyr arwyddion blino, ond yn hytrach fel arall. Yr oedd yn wledd cael gwrando. Y cadeirydd oedd Mr. John Jones, Levenshulme, yr hwn agyfeirioddat ygolled a gaiff eglwysi bychain trwy.farwolaeth cyf- eillion ffyddlon fel David Rees o Gore Street. RHAG TROTHWY TAFARN.—-Yn ddi- weddar, penderfynodd Pwyllgor Dirwestol eglwys Moss Side fod deisyfiad yn cael ei anfon o gam i gam hyd i'r awdurdodau uchaf am i'r un rhagorfraint a roddwyd i Gymru gael ei hestyn hefyd i Loegr,—sef, atal pob cymdeithas gyfeillgar a chlybiau Ilafur, os yn gysylltiedig a'r Ddeddf Yswiriol, rhag cynnal eu cyfarfodydd cyson mewn tai trwyddedol. Trosglwyddwyd y penderfyniad i Gymdeithas y Merched a'r Undeb Dirwestol, fel y gallont hwythau ei hyrwyddo ymlaen. Mae Cym- deithas Ddirwestol y Saeson yn y rhanbarth wedi ei groesawu,ac anfon copi i'w cynrychiol- ydd Seneddol, ac i'r Awdurdodau Yswiriol a Mr. Asquith. Y mae mawr angen am ddi- wygio'r drefn bresennol, oblegid mynych y gwelir aelodau eglwysig, a gwragedd tros eu gwyr, a merched ieuainc tros eu tadau, yn gorfod myned i'r ffauau ffiaidd i dalu'r cyfran- iadau. Dylai pob cymdeithas ddirwestol gymryd hyn mewn llaw. Plenydd a'ch Alliance, rhowch help Haw, petae ddim ond er mwyn Cymry ieuainc trefi Lloegr. CNEUEN LA WN.-Dyma englyn H. Eryddon Roberts i'r Gneuen a gafodd ei wobrwyo yng nghyfarfod cystadleuol Moss Side Hardd yw plisg Cneuen wisgi,—gywrain, A gwrid heulwen arni [gron, Ei llawn, iach gnewyllun hi Yw'r maeth ir am ei thorri. EIN CYRDDAU AGOS.-Yrunig gyfar- fodydd arbennig a gynhelir yr wythnos hon, hyd y gwn, ydyw cyfarfod blynyddol y Bed- yddwyr, Upper Medlock Street, nos Nadolig, a fydd fel arfer, yn dipyn o gyngerdd a thipyn o gyfarfod cystadleuol tebyg i'r rhai difyr a gaed ar hyd y blynyddoedd. Hefyd bydd gan eglwys Victoria Park de a chyngerdd nawn a hwyr y Sadwrn. Dyma'r cyntaf o safon led uchel yn y cartref newydd. Gyda Haw, gwelir hefyd fod Eisteddfod yr Annibynwyr wedi cael ei throi allan gan y milwyr o'r Chorlton Town Hall. Cynhelir hi y tro hwn yng nghapel Booth Street.
-MACHYNLLETH.-I
MACHYNLLETH. I Y GADATR WICHLYD.—Noson a hir ddis- gwyliwyd, a noson a hir gofir, fydd nos 1au ddiweddaf (Rhag. 17) yma, canys dyna' noson y cafwyd cyfle i glywed Gol. Y BRYTH- ON yn darlithio ar Y Gadair Wichlyd gerbron Cymdeithas Lenyddol Undebol y dref. Yn y Glyn Dwr Institute y cynhelid y cyfarfod Mr. D. E. R. Griffith, Bane y London & Provincial, yn llywyddu a'r Mri. Meredith Jones ac Evan Lewis yn diolch am y wledd. Carasem ddywedyd llawer, eithr gwn na chaiff ymddangos. Blinderau a phrofedigaethau golygyddion a gwasg Cymru oedd baich y ddarlith, ac ami i fflangell chwern i'r hymbyg- oliaeth a gais ei gwneud yn drostan i'w dal hwy, sychedig am sylw a chlod, gerbron y byd. Dameg gyfrin drwyddi, ond a'i hergyd yn amlwg. Goddefed hyn o bluen iddo fo a'i bapu Pan oedd Gwili'r bardd drosodd yn America flwyddyn neu ddwy'n ol, gofynnodd un o lenorion Cymreig y Taleithiau iddo prun oedd y papur goreu, a phrun roddai'r myneg- iad croywaf a choethaf i'n hysbryd cenedl aethol, a dyma'r ateb y bardd heb betruso dim-" Y BRYTHON." Y COR CYRN.- Y mae yma ysfa am gael seindorf o gyrn pres neu arian i'r dref, ac ar ddiwedd y cyfarfod uchod, buwyd yn trafod y cynllun. Rhwydd hynt i Ap Meredith a'r cyfeillion eraill yn eu hamcan da ac angen- rheidiol. Ap GWYDDON A'I FACWYAID.-Gwyddoch mai'r Dr. Rees (Ap Gwyddon), Caersws, sy'n cadw'r barrug Seisnig rhag rhewiCymreigiwch Bro Bowys yma a nos Fercher ddiweddaf (sef y noson o flaen y GoL) yr oedd o a Miss Nancy Richards (Pen y bont fawr) a Mr. H. R. Humphreys a'r Misses Humphreys a Pugh yn cadw cyfarfod cynnes a melys tu- hwnt dan nawdd Cymdeithas Cyfeiliog, a'r Parch. Cunllo Davies yn llywyddu. Bu Ap Gwyddon yn darlithio ar hen arferion y Cymry, ac yn mynd dros gyfnod diddan y Gannwyll Frwyn a'r Delyn a'r Hirnos Gaeaf ac yn y blaen, a'r lleill yn melys-ganu ar dant a llafar i'w egluro a'i roi ar ddangos i'r gen- hedlaeth ddandiaidd a ready-made sydd ohonom yng Nghymru heddyw. I JOHN JONEB (Gwladwr.) I
C. loanou'r Afan. I
C. loanou'r Afan. I Saron Newydd Port Talbot.-Dydd o lawen I chwedl oedd hwn i Fethodistiaid Pen y cae, Rhag. 17. Daeth tyrfa barchus ynghyd o flaen y capel am 2.30 y prynhawn, i weled Mrs. Lewis, un o aelodau hynaf yr eglwys, yn troi allwedd y drws i agor y capel, sydd wedi ei helaethu a'i ailwneud oddifewn i gyd. Gweddiwyd yn afaelgar ar riniog y deml gan y Parch. David Hughes, Glyn nedd. Llywydd- wyd yn y capel gan T. Davies, Ysw., Pontar- dulais,—hen frodor o'r lie, a rhoddodd urddas ar ei waith. Dechreuwyd gan y Parch. Edward Owen (Glyncorrwg gynt) yn wir effeithiol. Achubwyd y cyfle hwn i ddad- orchuddio coflech deilwng i'r diweddar Barch. Thomas Powell, ftfn weinidog yr eglwys am ugain mlynedd, ond a alwyd adref i lawenydd ei Feistr rhyw flwyddyn a hanner yn ol. Aed trwy'r seremoni brudd-felys hon gan Mr. Thomas Evans, blaenor hynaf yr eglwys, a Mrs. Powell—gweddw'r diweddar Barch. T. Powell. Dygwyd tystiolaeth uchel i gymeriad Mr. Powell gan Mri. Thomas Evans a David Evans (blaenoriaid), y Parchn. J. Lloyd Thomas (M.C.), Bryn John Griffiths (A.), Wern, Port Talbot; Pugh Beavan (B.) E. C. Phillips (U.M.), Port Talbot; a Wm. Jones (Treforris), Llywydd Cymdeithasfa'r De, yr hwn a ddymunai na ddelai yr un German yn agos i ddinistrio'r ty prydferth hwn. Gweithred brydferth oedd eiddo dwy ferch Mr. a Mrs. Lewis, Llethr, yn cyflwyno Cwpan Fedydd yn rhodd i'r eglwys, ac Edna fach yn dweyd fel hyn wrth ei chyflwyno Yr wyf yn cyflwyno y gwpan hon yn rhodd i eglwys Saron ar ran Marion fy chwaer a finnau." Gwelsom y gweinidogion hyn yno y Parchn. David John,B.A. (M.C.), Tai bach J. E. Rees (Ap Nathan), (M.C.); T. Ogwen Griffiths (A.), Tabernacl; John Morgan (B.), Calfaria; Thomas (A.), Tai bach; Jones (B.), Tai bach. Cynllunydd y capel newydd yw Mr. Evans, Port Talbot, a'r adeil- adydd yw Mr. Rees Nicholas, blaenor ae. arweinydd y gan yn Saron. Llongyfarchwyd hwy am "harddu lie ei gysegr Ef," gan y Mri. Thomas Jenkins a Hopkin Morgan. Fe fydd dyled y capel yn £ 1,500. Wyneba'r eglwys ar y gorchwyl caled o symud y ddyled yn llawen. Arhosed Duw yr hen Saron yn Dduw y Saron newydd, a Rhosyn Saron a wasgaro'i berarogl yn eneiniad ar yr eglwys weithgar hon. Dibennwyd y cyfarfod hyfryd trwy weddi gan y Parch. J. Owen Jones (Hyfreithon), Cwmafon. Pregethodd y Parch. Wm. Jones (Treforris), Aberdulais, yn yr hwyr, gyda'i ddawn berorol. Nos Sadwrn, Sul, a'r Llun, pregethodd y Parchn. D. S. Owen, B.A., Llanelli; J. Margam Jones, M. A., Merthyr a James Llewelyn,Pen y bont. Proff-wydVr Gaeaf.Anerchwyd Cymrodor- ion Dyffryn Afan, Rhag. 15, gan y Parch. Wm. Evans (Wil I fan), Penybont ar Ogwy, bardd coron Eisteddfod Genedlaethol 1913, ar ei hoff destyn Barddoniaeth. Cafodd dý llawn o Gymry twymgalon i glustfeinio arno'n tra- ddodi cenhadaeth yr awen. Llywyddwyd gan Ap Nathan. Diolchwyd iddo gan y Parch. D. Marlais Davies, B.A., Seion, Cwm- afon, dilynydd ei dad, y Dr. Dan Evans, yn Seion a chefnogwyd gan ei hen ysgolfeistr, Mr. Rees Nicholas, prifathro Ysgol y Cyngor, Cwmafon. Clywsom i'r Parch. J. Owen Jones (Hyfreithon) gael yr awel ar ei hwyl wrth ddarlithio ar Twm o'r Nant yng Nghastell- nedd, Rhag. 14, i gynulleidfa gref,dan lywydd- iaeth y Parch. B. T. Jones, Bethlehem Green. Hefyd y Parch. D. Miall Edwards, M.A., yr athro galluog o Aberhonddu, wrth annerch cymdeithas ddiwylliadol Seion, Cwmafon, ar bwnc echrys y dydd, "Rhyfel," dan lywydd- iaeth y Parch. Marlais Davies, y gweinidog. Cafodd y gymdeithas hon ddarlithiau gwych yn ystod y tymor, a mwy sydd eto i ganlyn" o hyn i'r gwanwyn. Ytnsi-o-n e 'n bardd.-Dyma ymson ein bardd y Parch. J. Owen Jones (Hyfreithon) ar NADOLIG, 1914. I TRA r byd yn ei ddagrau Yn gloewi ei gledd, Nadolig a'i wenau Gyhoedda mewn hedd Fod Brenin tangnefedd,— Y Bod dwyfol fawr, Yn frawd ar Ei orsedd I ddyn ar y llawr. Mae'r Seren a'r Preseb, Ac engyl y nef, Yn dweyd mewn anwyldeb Wrth weled ei wyneb, Mai'n Brawd ydyw Ef. Ni ganwn trwy'n dagrau Er ised ein trem, Anghofiwn ofidiau Wrth grud Bethlehem 7 Y Baban a anwyd Sydd Dduw yn ein cnawd,— Ein natur sancteiddiwyd, Mae inni yn Frawd. Mae'r Seren a'r Preseb, ate. Ni gofiwn ei eni Dan ganu yn awr, Tangnefedd ddaeth inni, Drigolion y llawr II Fe chwydda'n gorfoledd] Wrth gofio a gawd,— Tywysog Tangnefedd Sydd inni yn Frawd. },{a'r Seren a'r Pretteb, I Ac engyl y nef, I Yn dweyd mewn anwyldeb, Wrth weled Ei wyneb, Mae'n Brawd ydyw Ef. J. OWEN JONES (Hyfreithon). Clustfeinio am Gan Bugeiliaid Bethlehem Mawr yw y darpar gogyfer a'r Nadolig mewn llawer dull a modd hyd y glannau hyn. Gyda'r ewbl, disgwyliwn fendith bugeiliaid Bethlehem yn ystod yr wyl. I i S-BRYD SIENCYN PENHYDD
I Cois yr Undeb Newydd I
I Cois yr Undeb Newydd I I Ac Atebiad yr Hen Un. I YN eu cynhadledd ddiweddar yng Nghaer- dydd, amlygodd yr Undeb Newydd o Ym- neilltuwyr Cymru eu hawydd am fod cwlwm cyfeillach a chydweithrediad cydrhyngddynt ag Undeb Eglwysi Rhyddion Efengylaidd y Deyrnas. Fforddolwyd yr apel ar ran yr Undeb, gan yr ysgrifennydd, y Parch. James Evans; eithr dyma gyfieithiad o'r ateb a gafodd o Lundain gan y Parch. F. B. Meyer, dros yr Undeb Cyffredinol, a thros y Pwyllgor Gweithiol Cymreig sy ynglyn a'r Undeb hwn- nw :— I A hwythau wedi ymosod cymaint arao, a'r holl ymdrechion a wnaed i ysgar y Cyng- horau Cymreig oddiwrth y Cynghreiriau, ya gystal ag oddiwrth y Pwyllgor Gweithiol Cymreig ar Cyngor Cenedlaethol, y mae'n bur syn gan y Pwyllgor Gweithiol Cymreig feddwl fod sylfaenwyr yr undeb newydd yn ceisio cael eu cydio wrth Undeb y buont mor ddyga i'w ddatgan fel un gwrth-genedlaethol. "Os yw'r Pwyllgor Gweithiol yn iawn-ddeall yr apel, ystyr y cyswllt (yr affiliation) ydyw datod a dinistrio'r Cynghreiriau y sydd yr awrhon, er mwyn iddynt gael eu disodli gan rai r Undeb newydd. Gan nad awgrymwyd mo'r dymunoldeb o hyn gan yr un e Gynghorau na Chyngrheiriau Cymru, ni all y Pwyllgor Gweithiol Cymreig ddim cymell y Cyngor Cenedlaethol i wneud dim yn amgea na gwrthod yr ymbil am gael ei gydio wrtho. A dymuna'r Pwyllgor ddywedyd ymhell- ach: Fod cyfansoddiad y Cyngor Cenedl- aethol yn gwahardd cydnabod neb ond cynghorau a chynghreiriau ac ynddynt gyn- rychiolwyr dilys a dewisedigyr eglwysi, ac nad ywr Pwyllgor Gweithiol Cymreig yn cyd- nabod neb ond cynrychiolwyr dilys a dewis- edig gan y Cynghreiriau Cymreig, swyddogion prif enwadau Eglwysi Rhyddion Cymru, yng nghyda chynrychiolwyr fo'n byw yng Nghym- ru, ac a anfonir gan y Cynghorau Cymreig i'r Gymanfa Gyffredinol ac a etholir ar Bwyllgor Cyffredinol y Cyngor Cenedlaethol. Gan fod y Pwyllgor Gweithiol Cymreig yn gorff otholedig ar y drefn a'r sylfaen uchod,ni all wneud dim yn amgen na gwrthod tros- glwyddo peirianwaith y cynghorau a'r cyng- hreiriau i unrhyw undeb o'r tuallan nac i unrhyw fagad o bersonau unigol, ac ni all gydsynio a r cynhygiad fod unrhyw un yn cael ei osod yn ysgrifennydd dros ysgrifenyddion y pum cyngrair y sydd ar hyn o bryd ond drwy bleidlais y cyfryw gynghreiriau. Cynhwysir Cymru eisoes-a hynny i gyd, —gan y pum cyngrair hunan-lywodraethol, r rhai, trwy eu cynghorau a'r Pwyllgor Gweith- iol Cymreig, a gynrychiolant Fudiad Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yng Nghymru. Nid yw'r enw Undeb Cenedlaethol yn ddim am. genach na dwbl drefniad (duplication of organ- isation), heb ganddo yr un mal s o wasanaeth nad yw'n cael ei gynnwys eisoes ac sydd felly n achlysur traul trwm heb unrhyw fudd na lies yn iawn am hynny. Y mae'r Pwyllgor Gweithiol Cymreig yn annog y Cynghorau i sefyll yn ffyddlon o du eu Cynghreiriau, ac ymuno i wneud eu heithaf i lethu'r ymgais hon at beri rhwyg mor an- ffodus ar adeg pan y mae cymaint angen i Eglwysi Rhyddion Cymru gau eu rhengau a chrynhoi eu nerth, a dymuna roi pwys neill- tuol ar y ffaith mai amcan y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn nhre'r Amwythig, yn ystody misoedd diweddaf, ydoedd :— )1) Cadw a diffyn undod Cyngor Cenedl- aethol yr Eglwysi Rhyddion, er lies cyffre- dinol Lloegr a Chymru a (2) darpar cyn- rychiolaeth lawn a gweithrediad llawn i ddyheadau a mudiadau cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng pwyllgor etholedig gan Gymru a chyfrifol i Gymru. Y mae'r amcan hwn eisoes wedi ei ddiogelu, ac y mae gan y Pwyllgor Cymreig hawl cyflawn parth popeth perthynol i Gymru. Ac felly, dyma ni, fel cynrychiolwyr a benod- wyd gan y Pwyllgor Gweithiol Cymreig, yn rhoddi'r ffeithiau a'r rhesymau hyn o flaen y wlad, er mwyn cyfiawnhau'r cam a gymerwyd. THOMAS HUGHES, Felinheli (Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol Cymreig)' "DAVID DAVIES, Penarth. HENRY WILLIAMS, Casnewydd-ar-Wysg.
BIRKENHEAD
BIRKENHEAD CYFARFOD PP-EGETHLT.-Cynhaliodd eglw ys Parkfield ei chyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, pryd y traddodwyd pregethau grymus i gynnulleidfaoedd astud, gan y Parchn. W. E. Prytherch a D. Tecwyn Evans, B.A., Mawr fwynhawyd y wledd, a disgwylir y bydd ffrwyth lawer. Rhannwyd envelopes i aelodau'r eglwys, a hyderir y ceir casgliad da at yr achos. MILWYR IEUAINC.—Mae oddeutu ugain o wyr ieuainc eglwys Parkfield wedi ymuno a'r Fyddin a'r Llynges. Anfonwyd gan fonedd- igesau yr'eglwys barseli o wahanol bethau i'r gwyr ieuainc at y Nadolig. Mae llythyrau diolchgarwch eisoes wedi dod oddiwrth amryw ohonynt. Cedwir mewn cysylltiad a'r milwy r ieuainc drwy lythyrau o wythnos i wythnos. CYFARFOD BORE NADOLIG.-Bwriedir cyn- nal cyfarfod fore dydd Nadolig dan nawdd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Birkenhead, yng nghapel Vittoria Street el eni. Mae rhaglen ragorol wedi ei threfnu gan yr ysgrif- ennydd, sef Mr. Evan Evans, Laird Street, a disgwylir cynhulliad lliosog, a chyfarfod ben- dithiol. Gwna'r Cyngor hwn ei waith yn ddistaw mae yn fyw i bynciau crefyddol y cylch. Pan benoda y Cyngor frawd i'w gynrychioli, megis mewn cyfarfod sefydlu, disgwylia y Cyngor am i'r brawd gael chwarae teg i ddweyd ei neges drostynt.
Advertising
COF A CHADW am Eisteddfod rawr Llan ffollen, 1858. Y prif fuddugwyr. en Hun a'n gorehest. Pris, 8c. Swyddfa'r i- BrythoD," LERPWL
Advertising
Dyngarwch, fel y diflannont am byth o dy ddisgleirdeb -0- -10- -0 1