Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Gyda'r Milwyr Cymreig yn Northampton.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyda'r Milwyr Cymreig yn Northampton. I'B DIM o GAPLAN.—Ymwelais eilwaith a gwersyll y Milwyr Cymreig yn Northampton yr wythnos ddiweddaf. Chwith oedd colli cwmni melys y Parchn. Peris Williams, J. H. Williams a R. Parry Jones. I lenwi'r gwagle, cefais gymdeithas hyfryd y Parchn. Thomas Lloyd, Llanberis, ac Idwal Roberts. Parha'r Parch. D. Hoskins, M.A., yn ei sefydlowg- rwydd a-'i serchowgrwydd. Cefais y fraint o fod y cyntaf i'w longyfarch ar ei benodiad yn gaplan-yn commissioned chaplain. Os yw gwasanaeth a chymhwyster yn elfennau o bwys, nid oes neb teilyngach na Mr.Hoskihs. Fel dyn, Cristion a phregethwr y mae yn gaplan o'r fath oreu, a llawenhawn yh ei benodiad. Daeth y Parch. Thomas Lloyd i'w gynorthwyo am dymor, ac anodd fuasai taro ar ei ragorach i'r gwaith. Y ma,e'r Parch. Idwal Roberts wedi ei benodi yn gaplan ar y 6th Battalion Royal Welsh Fusiliers, a dymunwn iddo lwyddiant mawr yn ei waith. BLAS AR OEDFA GYM [tA-Eq-Daeth nifer dda o'r milwyr i'r Parade Cymreig 9.30, yng nghapel y Bedyddwyr. Pregethwyd yn effeithiol hynod gan y Parch.. E. J. Parry, gweinidog Wesleaid Abermaw, a ddaethai i ymweled a bechgyn y Bermo. Dymunol oedd gweled Mr. Humphreys Owen, capten yn y 7fed Gatrawd R.W.F., gyda'i adran yn yr oedfa. Gall y swyddogion Ymneilltuol wneud llawer i sicrhau llwyddiant y Parade Cymreig os mynnant. Dyma gyfle iddynt brofi eu ffyddlondeb i Ymneilltuaeth. Er nad yw'r Ysgol Sul mor lewyrchus ag y bu (oherwydd fod cynifer yn yr East Coast), caf- wyd hamdden hyfryd gyda'r bechgyn yn y prynhawn. Cenid emynau gyda bias a than eneiniad, a chaed gair tarawgar a bendithiol cyn ymwahanu gan y Parch. Thomas Lloyd, Terfynwyd yr ysgol gan y milwr Rd. Jones, drwy weddi daer a dwys. Yn yr hwyr daeth tyrfa fawr o'r milwyr i'r oedfa Gymraeg yn Neuadd y Dref. Cefais y fraint o bregethu iddynt, a chafwyd gair ar y terfyn gan y Parchn. L. Lloyd a Ceitho Davies. Cyfeilydd yr holl gyfarfodydd Cymreig yw y milwr W. B. Griffith, Abermaw, a gwna ei ran yn wych. Arweinir y moddion gan y Parch. D. Hoskins. WRTIIWELY'K CLWYFEDIG.—Treuliodd Y Parchn. T. Lloyd, Idwal Roberts a minnall ran helaeth o un prynhawn yn ymweled a'r cleifion yn y North Wales Red Cross Hos- pital, lie y nyrsid tua 14 o'n bechgyn. Achosion cymharol ysgafn ddygid i'r Ysbyty hwn, a Chymry ofalai amdanynt. Yr oedd yn dda ganddynt ein gweled. Un digalon a welsom yno. Ofnai ef na chaffai wella. Dygpwyd un bachgen—newydd dderbyn archoll drwy i'w geffyl ei daflu-i mewn pan oeddym yno. Llanc cryf ydoedd, a diau wedi gwella bellach. Perthyn i'r Milwyr Cymreig y mae yr Ysbyty yma. Y PaETH EI WAED 0 GAERDYDD.- Brynhawn arall, aethom ein tri drwy Infirm- ary fawr, y" King Edward's Memorial," fel ei gelwir yn Northampton. Rhifai'i chleifion a'i chlwyfedigion gannoedd lawer. Deuthom o hyd i Gymry yno, a chawsom ymddiddan & phob claf Cymreig, heblaw ami i Sais ac estron. Galwasom heibio i'r clwyfedigion oedd yno, hynny yw, y rhai y gallesid eu gweled. Yr oedd un Cymro ymhlith y rhai hyn. Cymro o waed ae ysbryd o Gaerdydd, ond nid o iaith. Yn Ypres y clwyfwyd ef— yn ei fraich yn bennaf. Prin y bydd yn abl i ddefnyddio llawer arni mwy. Yr oedd v eais cyntaf heb fod yn hollol lwyddiannus i symud y shrapnel o'i gnawd, ac yntau pan alwasom wedi bod dan driniaeth eilwaith, ac yn dra phoenus. Bron nad oedd yn ddicach wrth y surgeon nag wrth y Germaniaid. Cymro o dymer uchel ydoedd. Diau iddo ymladd yn ddewr. Tipyn o waith gawsom i geisio'i gysuro a'i gymodi a'r lie. Hyderwn y caiff ei fraich fod o wasanaeth iddo eto, er nad all byth mwy fynd i'r gad. Buan y cyr- haeddo Gaerdydd, oblegid gwn y gwellha hynny fwy arno na dim arall. YN SIRIOL JIB OWAKTHA'I FRIWIATT.—Yn yr un ward cawsom wr ieuanc fu yntau hefyd yn Ypres, a than operation yn Northampton Nid oes obaith i mi gael mynd i'r ffrynt eto," meddai. Yr wyf wedi fy andwyo am byth," ychwanegai. Fel yr ofnai, tebyg y bydd yn cripple weddill ei oes, oblegid yr oedd ei goes ac un ochr wedi eu malu. Er hyn oil, siaradai yn siriol a chalonnog. Wedi ymddiddan ychydig ag ef, a dweyd stori Philip Snowden wrtho, gadawsom ei wely fe pe baem wedi bod dan gawod o haul yn lie ym mhresenoldeb galanas rhyfel. Gwna ei ysbryd ardderchog ef yn goncwerwr eto, er na chaiff gymryd rhan eto yn y rhyfel hwn. Yr oedd dau arall o glwyfedigion, ond rhai heb eu hanafu mor dost as wedi codi, yn ymyl, ac yn cadw cwmni ei gilydd, a chawsom beth hamdden gyda hwythau. Derbynnid ni yn siriol gan bob claf a chlwyfus ac er mwyn ymweled a chynifer ag a ellid euthom ein tri ar wahan oddeutu'r wards. Cawsom olygfa hyfryd o'r un ward,—caplan yn cynnal moddion a phre- gethu yn fyr, a'i gynulleidfa i gyd yn gorwedd ar welyau cystudd a phoen, tua hanner cant ohonynt. Nis gallwn gredu na fendithiwyd yr oedfa ddistaw, ddwys, honno. Yk. IKSTJ'n LLOND Y LLE.-Mewn ward arall, daeth cantores enwog i roi c&n i'r dioddefwyr, a diau i'w chan ysgafnu eu poen a lleddfu eu gofid. Tros ysgwydd y caplan a'r gantores, gwelem gwyneb yr lesu yn gwenu ac yn bendithio. Er gwaethaf rhyfel, er gwaethaf cystudd a phoen, dwg Ef ei waith gogoneddus i ben. Llenwid yr Infirmary a'i bresenoldeb grasol. Ddimbyeb, TRO Trvws. Cymro o "Ddimbyeh," chwedl yntau, gawsom ar un gwely. LIonnai wrth glywed Cymraeg. Efe sydd ers llawer blwyddyn yn gofalu am geffylau General Lindley—cadfridog y Division Cymreig o'r Territorials—gwr o safle anrhydeddus. A oes rhywrai yn galw i'ch gweled ? gofynnem iddo. Oes, rai," meddai, ac y mae'r Cadfridog yn galw bob dydd,—ni fydd byth yn methu. Efe ddaeth a'r llyfrau yna i mi." Chwarae teg i'r Cadfridog, onite ? Pa mor brysur bynnag, beth bynnag fydd yn galw, gofala lia chaiff dim ei atal i alw heibio ei was ffyddlon yn yr Ysbyty bob dydd i edrych pa fodd y mae arno. Clod i'w ben a'i galon. Yr eedd y Cymro o Ddimbach yn gwella'n dda pan welsom ef. Er fod rhai a llyfrau ganddynt, sylwasom nad oedd Destament gan neb bron yn yr Infirmary, a threfnwyd i wneud y diffyg hwn i fyny i Gymry a Saeson, ac ymddangosent yn llawen ac awyddus i sicrhau'r llyfr, a neb yn fwy felly na llanc clwyfedig o Abertawe. CEISIO CYRRAEDD EU CALoN.-Er fod dau beth yn milwrio yn erbyn—dim ond un ystafell gan ddyn, a honno yn ddim ond lodging-gellir gwneud tipyn i groesawu bechgyn mewn lie fel Northampton. Cefais y pleser o estyn croeso i ami un o'n bechgyn yn fy llety. Yr oedd fy lletywraig yn chwaer garedig a chynnesgalon, ac ni warafunai weini ar fy ymwelwyr." Cafwyd hamdden yn y ffordd hon i ymddiddan a rhai mewn ffordd na fuasai modd heb hynny. Nid oes gennyf end gobeithio i'r oriau hyn brofi mor felys a bendithiol i'r bechgyn ag y buont i mi. Ffordd hwylus ac effeithiol i gael ymgom a'r bechgyn, yn enwedig rhai nad ellir cael hamdden a hwy yn eu billets, ydyw casglu tri neu bedwar neu ychwaneg ohonynt, a threulio hanner awr yn eu cwmni uwchben 'paned o goffi neu de. Heblaw gwrthweithio hudol- iaeth y dafarn, gellir troi cafe yn aelwyd dros dro, ae anfon "gair" ymhellach adref i'r galon. Nid lie dwl yw y Dafarn-heb y ddiod, a dyna yw y Cafes a'r Tai Dirwestol-i gyfarfod dynion ieuainc oddicartref 09 yn dymuno eu lleshad. PEIDIWCH A'U LLITHIO &'R DDIOD.- Credaf fod y rhan fwyaf-yn wir, agos y ewbl —o fechgyn Cymru yn Northampton yn ddirwestwyr. Ni chyfarfyddais ond ag un Cymro dan ddylanwad y ddiod, ac Irish- Welsh oedd hwnnw, a'r Irish yn fwy na'r Welsh yn ddiau, a yfodd y ddiod. Waeth prun, yr oedd y Cymro ynnom yn ein cydio. Er na addawodd yn bendant na chyffyrddai'r ddiod mwy, addefai ei fai a thueddai i ddi- wygio. Pwy wyr na ffynna gair caredig ar yr heol ger drws tafarn ? 0 leiaf, nid aeth yn ol i'r dafarn er iddo gychwyn yn ol. Y mae llu mawr o'r bechgyn wedi arwyddo dirwest, a chymryd y card a baratowyd gan chwaer Arglwydd Kitchener yn addo ymgadw oddi- wrth bob math ar ddiodydd meddwol yn ystod y Rhyfel. Mudiad rhagorol yw hwn, a gwyddom am enghreifftiau pan fu dangos y Card o help dirfawr i'r bechgyn. Ni chaniateir diod i'r milwyr cyn hanner dydd nac ar ol wyth ar gloch y nos, a bendith neilltuol yw hyn mewn tref lie y gwersylla o ugain i ddeng mil ar hugain o filwyr. Mantais anhraethol i'n bechgyn yw addysg y Band of Hope a'r Eglwys ar y mater hwn, a chad want yn ffyddlon i'r hyfforddiant a gawsant yng Nghymru. Na foed i neb gartref eu "croesawu" drwy gynnyg diod iddynt. Clywsom am rai na chyffyrddasant a diod oddicartref wedi eu darostwng a'u gwaradwyddo gan eu cyfeillion (?) pan yn ymweled a'u hen ardal am ddeuddydd. Nid cyfeillion mohonynt, ond gelynion ein bech- gyn dylent gywilyddio am eu hymddygiad angharedig. Rhodder croeso heb y ddiod, a gwneler ef yn gynhesach fyth i ddangos nad y ddiod sy'n gwneud croeso. CANU'R TRI THANT.—Tra yn bugeilio,r bechgyn cawsom lawer o foddhad a gobeithiaf iddynt hwythau gael ami fendith. Yr allweddau goreu i gysegr-leoedd calon y Cymro ydyw Cartref," Crefydd," a Christ." Tarawyd llawer tant tyner wrth eu cyffwrdd,a rhoisant drwydded i ni ar eu hunion i gymundeb gwirioneddol a dyrchafol. Nodweddir y bechgyn gan ddifrifwch. Nid ysbryd rhyfelgar a'u cymhellodd i ddwyn arfau. Nid ysfa am dorri hen gysylltiadau bywyd a'u temtiodd i listio. Meddant argyhoeddiad eu bod allan i ymladd dros eu gwlad a'u Duw, ac y mae dylanwad hyn yn amlwg a daionus arnynt. Meddant barch dwfn i grefydd. Credant mai crefydd Crist yw'r cymhwyster goreu i fyw ac i farw, a chaiff gweinidog a gwirionedd ffordd ddirwystr i'w calonnau. Maes godidog i wir weinidog yw gwersyll y milwyr heddyw, ac nid oes well cyfie yn un gwersyll, ni gredwn, nag yng ngwersyll y milwyr Cymreig. Taened Duw ei aden dros ein bechgyn. Gwneler hwy yn "filwyr da i lesu Grist," ac yn gyfryngau arbennig helaethiad Ei Deyrnas Ef. RHYFEDD, RHYFEDD !-Tarawodd y Caplan Hoskins ei law ar fraich milwr braf. Dyma Gymro eto," meddai wrthyf. Cyflwynodd fi iddo. Cyfarchodd yntau fi wrth fy enw. Wedi craffu arno, Evan Pierce meddwn. "Ie," atebai. Wedi hynny melys a maith fu 'r ymgom. Bu ef yn fy nosbarth pan oedd- wn yn pupil teacher flynyddau maith yn ol. Deallais fod ganddo ddau fab (fel fy hunan) wedi uno a'r fyddin, er dechreu'r rhyfel, ac un ohonynt er fy syndod yn yr un gatrawd ar Salisbury Plain a mab i minnau! Nid oedd- ym wedi cyfarfod ein gilydd ers pymtheng mlynedd, ac yn awr dyma fo yn M.P.—yn Military Police y 7fed gatrawd: Royal Welsh Fusiliers, yn Northampton Digwyddodd tro rhyfedd pan oedd Mr. E. J. Parry a minnau yn chwilio am fechgyn y Bermo. Holem am fachgen o Weslead o Harlech. Galwasom mewn ty i holi. Daeth milwr siriol i'r drws, Cymro o Sir Feirionydd. Wedi i ni ddweyd ein neges, daeth allan i'n hebrwng at lety'r oyfaill o Harlech. Wrth gefnu, dywedodd "Mae gen innau chwaer yn bregethwr Wesla Dyna hwyl wedi hyn. Katie ? meddwn. Ie," meddai. Yr oedd Katie wedi bod yn fy nghyfarfod plant yn Nyffryn Ardudwy, ac yn un dan ofal Mr. Parry yn ei gylchdaith bresennol. Methodist yw y brawd, ond meddyliai dipyn o'i chwaer, y pregethwr Wesla," a'r hyn y cytunem. Cafwyd Saboth dedwydd, pregethodd y Caplan Idwal Roberts yn y Parade y bore daeth nifer dda i'r Ysgol Sul, a phregethodd y Parch. Thomas Lloyd dan eneiniad yn yr hwyr. Yr oedd mynd ar y canu, dan arweiniad Serg.-Major J. Roberts, Bedyddiwr selog o Fangor. Mae efe a Serg. Maldwyn Jones-Weslead ffyddlon o Hirael, Bangor—yn cario dylanwad ar fechgyn y R.G.A., Arfon. Trefnwyd i gael cyfarfod canu am hanner awr o fiaen yr oedfa nos Sul nesaf, dan arweiniad SerjMajor J. Roberts. Ymddengys yn ol gair a gefais wedi dychwelyd oddiwrth y Parch. Thomas Lloyd (Rhag. 19eg) y bydd chwalfa fawr ar y Cymry sydd yn Northampton,—rhai yn myned i Bury St. Edmunds, eraill i Cambridge. Lie bynnag y bont, erfyniwn am barhad gweddiau Cymru ar eu rhan a pharhad o'u earedigrwydd iddynt. I Bangor P. JONJli ROBSBTC

MINION MINAI.

Advertising