Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

I Niwl, yn ei ddrwg a'i dda.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Niwl, yn ei ddrwg a'i dda. Swp o Ystyriaethau. Codi niwl, cau hyd y nen. RHAID i ni sy'n byw yn nyffrynnoedd a chym- oedd rhamantus Maldwyn, ac ar lannau'r Hafren groyw loyw (oblegid ryw nant y mynydd ydyw hithau pan ddeffry'n faban yng nghesail oer Plunlumon) dalu tipyn o dreth am y tlysni a'r arddunedd i gyd-a threth *y niwl ydyw hwnnw. O'r afon ei hun y cyfyd y fantell laith a'i gorchuddia, a throsti hi ei hun yr erys fel rheol ond ambell dro myn lapio'r dre' i gyd o dan ei phlygion, ac nid oes modd ei gomedd trwy deg na thrais. A dau fath ar niwl (fel ar blant) sydd; niwl ysgafn gwyn, a niwl trwm llwydfelyn afiach a'ch rhwystra i weled cam o'ch tramwy." Niwl sydd fel gwrthban gwlyb yn closio fwyfwy atoch, ac yn cau'n dynnach amdanoch, er gwaethaf pob ymgais o'ch eiddo i'w ysgwyd ymaith. Hawdd perswadio'ch hun am eiliad beth bynnag mai ar heolydd y Brifddinas yr ydych, ond nid yw'r niwl llwydfelyn yma mor Ilwyd nac mor felyn a'r niwl breiniol hwnnw. Y mae natur a nod- wedd y ddau yr un mae'n debyg-oherwydd niwl afon ydyw'r ddau, ond nid yw niwl Llundain yn y gystadleuaeth a hwn am lendid, wrtb lwc. Nid yw pob niwl unrhyw niwl. Arall yw niwl afon, ac arall yw niwl llyn, a niwl arall sydd ar y mor, ac arall ar y mynydd. + Rhai o'r boreau godidoca' i mi fyddai croesi Pont y Borth cyn i'r haul glirio'r tarth. Nid oedd y niwl mor ddwys na welech chwi'r creigiau agosaf atoch, a'r dwr yn sglein- io ugeiniau o droedfeddi islaw'r uchelgaer uwch y weilgi." Gwyddwn yn eithaf da fod y Tiwb a'r Gorach Goch ar y dde, a chymerwn hwynt yn ganiataol fel popeth arall yn fy mhlentyndod. Yno hefyd gwy- ddwn fod Twr y Marquis yn codi'i ben i herio byd. Fe synnai'r hen arwr yn fawr weled cymaint o dro ar fyd mewn cynlluniau brwydro er ei ddyddiau ef. Rhyw ymladd wyneb agored canol maes oedd hwnnw, nid ryw sgelcian yn ogofeydd a thyllau'r ddaear. Mae gwahaniaeth enbyd rhwng Waterloo a'r Aisne. I fyny draw ar y chwith gwyddwn fod y Boncan Fawr, a Phoncan Begi, a Phonciau'r Moorings, y lie bum yn gware gynt." Ac i fyny'r afon gwyddwn fod y Clin hithau yn gorffwys yn dawel ar y dwr gan droi ei thrwyn yn ara' deg hefo pob lli'. Fe ddaliodd hi bwys y dydd a'r gwres, ond cai hithau fraw pe gwelai submarines yn ymweu o'i chwmpas. 'Fyddfi torpedo fawr o dro a gwneud coed tan ohoni. Ar lannau Mon mae'r Ynys Faelog ac Ynys Dopig ac Ynysoedd Craig y Don. Gwn eu bod yno, ond cuddir hwynt gan y niwl. Y peth a'm swynai oedd bod mor uchel ynddo, fel be bawn yn rhodio drwy'r cymylau uwchlaw'r byd. Yno'n unig dros y Menai y mae'r math arbennig yma ar niwl. k Niwl arall y bum yn ei ganol ar gopa'r hen Blunlumon yr haf diweddaf. Niwl yn gwlychu oedd hwn, ac yn penderfynu nad anghofiech ef am eich hoes, yn ymgofleidio amdanoch yn blyg ar ol plyg, ac yna heb rybudd yn y byd yn cilio, ac yn datguddio am ennyd fer y garnedd ar y copa, cyn ymruthro'n ddistaw wedyn dros y llechweddau mawnog. A dyna niwl Bau Aberteifi wedyn. Un o'r golygfeydd harddaf ydyw'r tarth ar y tonnau n'r haul yn t'wynnu drwyddo, nes ei ariannu. Ymddengys y Bermo fel rhyw dref hud-feI Cantre'r Gwaelod a'i ledrith dud ei hunan, cyn swnio'r cnul. Ac fel y chwrlia'r trfn hyd lannau'r bau bron yn ymyl y dwr, mae rhyw dlysineb byd arall yn disgleirio ar y cyfan i gyd. Mae dwy wedd ar y niwl, ac y mae ei waith a'i swydd yn ddyblyg. Ychwanegu gogoniant a chuddio popeth anolygus ar y naill law, a chuddio a chelu prydferthwch ar y Haw arall—cuddio a datguddio. Mae yn werinol iawn ac nid yw dderbyniwr wyneb, oherwydd ymlapia'i hualau amgylch ogylch tyrrau eglwysi drudfawr a ffenestri capeli llwydion, palasdai a thlotai yn ddiwahan- iaeth. Ni chilia o'r ffordd i undyn byw, a 'thoes Kao'i debyg am ddilyn dyn i bobman. Ymwthia'i ffordd i mewn i'r tai, fel ysbryd trwy dwll y cle i'r ty. Mae'n cuddio doluriau Natur-ydyw, ac mae'n cuddio erchyllterau ofnadwy hefyd dan ei fantell laith. Tew wyd a glwth tad y glaw Tyddyn a mam wyt iddaw ac mae'n dyddyn a mam i lawer gweithred erchyll hefyd, ac i lawer galanas a difrod. Ond er mai ei brydferthwch sy'n swyno calon a llygaid bardd, ni feddwl y morwr am ei swyn ond am ei berygl yn unig. Clywais fy nhad yn dweyd droion fod arno fwy o ofn niwl tua Phen Tir yn nhueddau Lloegr, na stormydd gwyllt y Werydd a chorwynt ysgubol Cape Horn. Nid anodd sylweddoli'r dyddiau hyn mor ofnadwy ydyw ymladd ar dir a mor yn ei ganol -ai yn y trenches ar lannau Yser ai ar donnau Mor y Gogledd-niwl afon a niwl mor. A pha un bynnag ai niwl afon ai niwl llyn ("Mi glywais lawer o son am y Bala, syr," chwedl yr anfarwol Domes ac ymhlith rhyfeddodau fyrdd y dref, mi glywais innau son am ei niwl), ai niwl mor, pan y mae dyledswydd a bywyd yn arwain trwy ganol ei fwrllwch, mae'r tlysineb yn darfod, mae'r swyn yn pallu, mae rhemynt hud yn tewi' a mabinogi nos y ddrycin' yn dechreu siarad. Gwyddom ni yng Nghymru lawer am y niwl yma. Y mae copau a brigau a thrumau Eryri a Chader a Phlunlumon a'u pennau yn ei ganol yn ddigon ami, a'u dyffrynnoedd hefyd o ran hynny. Nid rhyfedd felly i'n hemynwyr yn y niwl weled darlun o'u profiad. 'Does dim gair o son am brydferthwch y niwl ganddynt hwy. Rhaid troi am hwnnw i feirdd Natur sy'n gogoneddu llwch y llawr." Dyna Hugh Jones, Maesglasau,—" Cuddio mae'r niwl rhwystro i mi weld pen y mynydd a rhaid imi gael ei symud, onitA fedra i ddim mynd ymlaen," meddai un bore wrth weld Cader Idris wedi'i hulio, ac am hynny 0 tyn y gorchudd yn y mynydd hyn, Llewyrched haul Cyfiawnder gwyn. Nid yn unig fe welent ynddo ddameg o rwystrau'r credadun i weld pen ei daith, ond dyma'r enw ar anobaith ac ansicrwydd, a I phryder ac amheuaeth ac ofn ar bob math. Dyma ran o ddychryn marwolaeth, a rhaid cael rhyw oleu nad adnabu'r byd i dreidd- io drwy'r caddug hwnnw. Y mae'r sant yn gwybod yn iawn beth wna i niwl a nos ddi- flannu ar ororau deufyd. Rho weld Dy groes yn yr Iorddonen gref, Drwy'r niwl, cyfeiria'm golwg tua'r nef. Er eu cysur, cofiant mai dros amser y mae niwl. Nid yw'n dragwyddol. Mae'n dianc o flaen pelydrau'r haul. Y nos mae'n hoffi fel rheol, ac fe ddaw'r bore pan chwslir ef, a dyna fore gogoneddus Tarth a niwl yn cyd-ddiflannu Ag oedd wedi cydgrynhoi. Tarewir nodyn sicrwydd diwyro ar unwaith. Mae ei ffydd yn glir,— Daw, fe ddaw y wawr wen oleu, Nes bo'r cwmwl du yn ffoi. Rhyw edrych ac ymestyn ymlaen ato y mae Williams, a chydag ef gannoedd o bererinion yng Nghymru, ac yn gorfoleddu wrth weld wyneb y wawr yn agoshau a gwar y nos, wrth iddi ddianc am ei bywyd. Dyma'r bore Wy'n ei weled draw trwy ffydd. Gyda'r un hyder symbylir ni gan ffydd seintiau'r oesoedd i edrych ymlaen at weled chwalu niwl Iwrop, a chyda'r wawr sy mor sicr o ddod, weled Iwrop newydd yn ym- ddyrchafu ar fedd yr hen, i fywyd newydd, ac i weledigaothau newydd, pan na ddysgant ryfel mwy. J. HELEN ROWLANDS Y Drefnewydd. YMSON NADOLIG I YN isel iawn i barthau'r ddaear trof I weled gorsedd Mab Deheulaw'r Tad. Mae engyl lu yn syllu yma'n fud, A phlygu glin wna pob addolwr mad. Mi welaf Ddoethion byd yn chwilio'n hir A dyfal iawn am Dduw'n Waredwr drud. A'i Seren Ef yn arwain drwy'r nosweith- iau du A heibio palas uwch Ei isel grud. Dysg yno arllwys fynn ei thrysor llawn. Ei gemau hi nid ynt ond sorod gwael Nes bwrw'i choron yno ger Ei fron, I'w derbyn eilwaith gan y Rhoddwr hael. Ei briffyrdd Ef a rodia hithau mwy, Ei olud Ef fydd ymchwil calon lan. Ar belmynt aur Ei lathraidd gannaid wawr Yng nghwmni sereiff gwyl hi gwyd ei chan. I ganol Doethion byd daw'r Bugail blin, A fflam ei angerdd cryf yn puro'i fron. Penlinia yntau wrth y preseb llwm, Ei unig rodd yw ef ei hun—a'i ffon. Can's offrwm ef ei waith i Fab y Dyn, Yn aur a thus a myrr y troes ei aberth ef. Sancteiddiwyd bellach waith a dwylo Duw, Mae gweithdy'r Saer yn 11awn o salmau'r nef. Yn rhodd ar ddydd Nadolig gwyn y Crist, Anturiaf fi gyflwyno f'hun i gyd. Gwn na chais ddim heb roddi mwy yn ol, A grym Ei breseb gaf i goncro'r byd. J. HELEN ROWLANDS I

Rhiwmatic ac Arhwl. : deb…

Advertising

I "PWDIWCP FY IBYWTDI"