Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Cymry Amlwg. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymry Amlwg. H. Cernyw Williams. FE ellid annerch yr uchod fel Dr. Cernyw Williams, canys cynhygiwyd gradd Doethawr Diwinyddol iddo rai blynyddoedd yn ol gan awdurdodau Coleg Americanaidd. Ond nid yw efe 'i hun yn arddel y teitl. Dengys hynny wyleidd-dra eithriadol a phrawf na buaaai gaaido ef ei hun law mewn ceisio'r anrhydedd hwnnw. Gelwir braidd bob gweinidog, yn nhrefi'r America, yn Ddoctor,pa un bynnag a fedd y gradd ai peidio. Prin, yn hytrach, yw'r urdd hon yn Nghymru ar hyn o bryd ac ni liosogir hwy yn gyflym gan ein Prifysgol sin hunain. Y rheswm tybiedig am hyn yw sectyddiaeth a chenfigen--dau o blaon y Cymry ofna'r naill blaid, o'r gallu gwein- yddol, irhag i'r Hall ei blaenori yn rhif ei harweinwyr cydnabyddedig. Ac yn hytrach na rhoddi'r anrhydedd i Gymry'n dringo i fyny yn y maes hwn, oynhygir ef i ddieithr- iaid fo wedi ei gael era talm gan Brifysgolion eraill, a rhai yn nesu at ben eu taith. Dichon hefyd fod tuedd i edrych yn ysgafn, neu gyda gwen o dosturi, ar y graddau tramor erbyn hyn, oblegid disgynnant weithiau ar ben personau nad esgynasent i safle doethorion ym marn ac ymddiried eu gwlad. Ni fedd y dyn cyffredin, ychwaith, fantais bob ainser i wybod pa un ai Athrofa brofedig a byd-hysbys 0 Ddwyrain yr America, ynteu "Coleg" newydd-anedig ac anghenus o un o Daleith- iau'r De-Orllewin, sy'n cynnyg y teitlau diwinyddol ac athronyddol. Modd bynnag eredwn na warafunai neb a edwyn ddawn a llafur Mr. Williams iddo wisgo'r anrhydedd pe wedi dewis felly. Dengys drwy ei enw canol o ba le yr hanyw -plwyf yr Athro Syr Henry Jones, ac enwog- ion eraill. Pery'r gyfathrach rhyngddo a'r Proff. trwy dreigl y blynyddoedd, a chyd. nebydd y gW8ini4og a'? atlifonydd eu dyled i'w gilydd cydweithwyr ydynt yn yr ym- 4hwil am y gwirionedd ao am y pethau nid ysgydwir. Nid yw'r gweinidog hwn yn ddieithr nac ofnus yn rhodfeydd preifat yr athronydd: cadwodd drwydded i'w tra- mwy'n achlysurol ynghanol ei brysurdeb gyda'i ddyledswyddau uniongyrch a phriod. Mae'r un mor gartrefol, os nad yn fwy felly, ym mro hud a lledrith Barddas. Cyfan- soddodd lu mawr o ddamau barddonol, gan gadw safon uchel ynddynt i gyd. Os na dderbynnir ef gan y prifeirdd i'r rheng flaenaf, bu'n un o'r rhai amlaf ei gynhyrchion cyhoedd edig yn y cylchgronnau a'r papurau, a gofalai fod popeth a gyhoeddai yn ddyrchafedig ei ehwaeth ac yn eneiniedig ei ddn. Casglodd ynghyd ddefnydd cyfrol o Hymnau ac Odlau, a gellir galw ei odlau yntau'n rhai ysbrydol -yn gyfryw y medrai y saint eu canu trwy i-as i'r Arglwydd. Enillodd ei hymnau le yn y gwahanol gasgliadau enwadol, a chenir hwy'n fynych yng nghysegrleoedd ei wlad. A pha fraint uwch all fod yng ngliyrraedd bardd ? Gall emyn fod yn waaanaethgar, bid sicr, heb iddo ddod trwy'r porth cyfyng i'r emyn-lyfrau.; bydd i gynnwys yr Hymnau tiC Odlau hyn roi diddanwch a chysur i ddarllenwyr hen ac ieuainc ar yr aelwyd fartref, a throi yn gyfrwng i fynegi profiad personol llawer a'u dysgant ar y c6f. Yn ei Ragdraeth dywed Elfed fod yn emynau Cemyw lewyrch i'r deall yn gystal a gwres i'r galon y mae coethter yn gyfrodedd &'u my-irwydd gwellhant ac adnewyddant bob meddwl cywir. Wele un o rai cyntaf y llyfr, yn esiampl o ddull yr awdur Gwelsom ei seren ef yn y Dwyraiia (Matth. ii, 2). Ffydd a genfydd yn y nefoedd Seren Ceidwad dynol ryw Dyma'r decaf drwy'r wybrennoedd, 1 Gyda'i gwrid o Pdwyfol ryw Tuft Bethle'm Y cyfeiria'r Seren ha*. Wrth ei goleu pereriniou Deithiant o'r Dwyreinfyd draw Golud nef geir yn eu calon, Trysor daear yn eu llaw Dedwydd ydynt, Wedi cwrdd a Cheidwad dYJi. 0eir rhyw seren eto'n tywye Enaid ufudd ato ef Ceisiwn drwy y llwybrau dyrys Am oleuni pur y nef Dedwydd derfyn Fydd terfynu gyda Duw. Pan benderfynodd Bedyddwyr Cymru fod yr adeg wedi dod i ddarpar Llyfr Emynau newydd eto, i Mr. Cemyw Williams yr ym- ddiriedwyd gwaith pwysig y golygydd ac fe deimla pawb yn hyderus y try efe allan ddetholiad fvdd yn bur ei chwaeth, yn eang ei gydymdeimiad, ac yn ysbrydol ei naws. Trwy weinidogaethu yn efengyl Mab Duw yng Nghorwen a'r cylch am dros ddeugain mlynedd, a phregethu bron yn gwbl sefydlog i'r un cynulleidfaoedd droa yr holl gyfnod, eafodd gyfle a symbyliad i ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, a dwyn allan o drysorau dihysbydd yr Ysgryth- yrau bethau newydd a hen. Nid rhyfedd gan hynny i wr mor efrydgar dyfu'n esboniwr, ac ya gyfryw ddehonglydd fed? wisgo aig am esgyrn esboniadaeth yn ymborth i'w ddar- llenwyr. Gellid meddwl fod swyn neilltuol iddo yn loan y Difeinydd, oblegid cynhyrch- odd gyfrolau esboniadol a thraethodol ar ei Efengyl a'i Epistolau. Tra'n dangos gallu beirniadol cryf ar lawer pwynt, lie bo eisiau hynny, nid anghofiodd ddeiliaid yr Ysgol Sul a'u hanghenion cyffredin ymgadwodd yn lew gyda'r pethau buddiol; darparodd lawlyfrau clir o ran syniad, darllenadwy o ran arddull, a defosiynol o ran awyrgylch. Ni chododd y rhesel yn rhy uchel i'r defaid man allu ymestyn ati am gynhaliaeth lesol. 0 eabonio Efengyl loan, adnod ar ol adnod, symudodd ymlaen i draethu ar brif bwyntiau Cristionogaeth yng ngoleu'r Efengyl honno. Yr achlysur i hynny fu gwahoddiad Pwyllgor Athrofa'r enwad iddo draddodi eyfres o ddarlithoedd i'r myfyrwyr. Dewisodd yntau "Grist y Bedwaredd Efengyl" yn bwnc ymdriniaeth y dosbarthiadau a chyn pen hir ad-drefnodd y darlithiau, ac ychwanegodd atynt, a chyhoeddodd hwynt yn gyfrol dan y teitl Bannau Ffydd. Dewiswyd Bannau Ffydd yn deitl i'r Ilyfr, am yr ystyrrid fod rhai o brif bynciau Cristionogaeth, a gyfleuir o'n blaen yn yr Efengyl hon, megis yr Ymgnawd- oliad, y Marw, a'r Adgyfodiad, yn ymddyreh afu fel mynyddoedd uchel ynghanol y gwirioneddau cylchynol." Mewn dwsin o benodau eir dros yr holl bethau pwysicaf yn yr Efengyl, gan gynnwys Ffaith yr Ymgnawd- oliad, Cynnwys ac Arwyddocad yr Ymgnawd- oliad, Teitlau Crist yn yr Efengyl, Dysgeid- iaeth yr Efengyl, Moeseg yr Efengyl, a Distawrwydd yr Efengyl. Gwelir yma 61 darllen manwl ar lenyddiaeth hen a diweddar y materion, a chymaint a hynny o 61 meddwl eglur a goleu. Dangosir gwerth a chyfoeth yr Efengyl yn glir, a chyfaddaster ei dysgeid- iaeth i anghenion yr oes hon-fel i bob oes arall. Hawdd coelio yr awdur pan ddywed fod Efengyl loan yn hoff faes efrydiaeth ganddo era blynyddoedd. Datblygiad naturiol o'r efrydiaeth hon fu'r un ar Berson a Gwaith yr Ysbryd Glan, a'r Arweinydd Dwyfol hwnnw yw testyn llyfr olaf Mr. Williams. Paratoad effeithiol at ei gyfansoddi oedd aros gyda chronicl loan o eiriau'r lesu mewn perthynas i'r Ysbryd—yr addewid amdano dan wahanol enwau, a'r gwaith amrywiol a briodolai iddo. Nid yw Henyddiaeth ddiwinyddol y Cymry mor gyfoethog yn yr adran am yr Ysbryd Glan ag ydyw gyda rhai agweddau eraill ar yr efengyl. Diau yr ystyrrir y gyfrol hon'yn gyfraniad gwerthfawr, ac efallai yn rhag- redegydd i eraill. Nid ydym eto, ychwaith, wedi hysbyddu llafur llenyddol Mr. Cernyw Williams gwelwn fod ganddo lyfryn ar y cenhadwr William Carey, Holwyddoreg Ys- grythyrol, Gemau y Beirdd-yn cynnwys prif ddarnau barddonol clasurol yr iaith, o Ddafydd ap Gwilym hyd yn awr, Christ the Centre--sef cyfrol o bregethau yn Saesneg, a Chofiant Dr. Hugh Jones, Llangollon-a ddar- Ilenasom gyda hyfrydwch. Pwy o'n holl weinidogion fu ddiwytach a'i ysgrifbin, nac sy'n barchusach ymysg ei gyd-drefwyr ar gyfrif gwasanaeth cyson trwy gydol oes faith gydag addysg, dirwest, a chwestiynau cym- deithasol eraill, yn gystal ag yn ei bulpud trwy'r blynyddoedd ? Bu hefyd yn nodded i lenorion a beirdd ieuainc y fro gall llu o'r cyfryw ar hyd a lied y wlad ei alw'n dad, a meddant barch diffuant iddo. Erys argraff ei feddwl a delw ei bersonoliaeth ef arnynt hwythau dron byth, 0 CLWYDYDD. I o

i YSlAFELL Y BEIRDD I

Dyma Gerdyn Cymraeg1

Advertising