Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Annual XMAS SALE OF JEWELLERY. Comprising Bracelets Scarf Slides Earrings, Brooches, Pins or Studs, Guards. Signets, Pendants, Alberts. ALSO HIGHEST-GRADE Watches & Diamond Ringi 10/- to 12/6 less in every tS THAN ORDINARY PRICES. Including a Portion of a Manchester and Bir- mingibaaa Dealer's Stock of Stylish Diamond Rings and Bracelets. SALE TRICE LIST, FREE. Date's, 30 Low Hill OPEN ALL SAT. CLOSED WED. AT 1* Davies's 18ct. Diamond Rings. Usual Priee. Sale Price. £2 DLOlONDS-5-etone Dia- moBd 18ot., ?-hoop, neat 19 6 setting, lustrous gems iy/0 f,3 DIAMONDS & RUBIES, 18- efj,, very neat, elegant, Half- Heop,Double-cu*G[ems, very C"\ /A lustrous <" 1 TC £ 4 DIAMONDS & SAPPHIRES i gems, heavy 18-ct. Ha!f- hoop all lustrous gems is ,0 rare bargain £ 4JDIAMONDS, 5 stones, Half- hood, stylish claw, 18-ct gold, double-cut gems rare   fire and lustre *1//I 10C £ 5fDIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, fine, white quality, heavy solid 18-ct. claw half-hoop others at £ 2/10/ £ 2/2/ and r»0/R/ 12/10/ DIAMONDS, fine 5-stone, large diamonds, each gem of great beauty, heavy 18-ct. on ;iq > gold claw set £8 DIAMONDS, superb quality, MrTed claw setting, fine    gems, rare lustre, 18-ct. gold fa3 £ 10 DIAMONDS, 3-stone Cross- ever Ring, 18-ct. platinum c c >1 Lo a/ setting rare jE12 DIAMONDS, 5-stone half- hoop, large, fine, lustrous stone, neat carved claw  /I Q, setting 6118/- £ 21 DIAMONDS, very large 5- wtone Diamond half-hoop, fiery gems, very exceptional value, 18-ct. great bargain* 10 /15- I AT I 20/- LUCKY WEDDING RINGS OR J 22-CARAT PURE GUINEA GOLD, 1 GOVERNMENT HALL MARKED. 1- Heaviest & Best 3 5 WITH ? DOZ. TEASPOONS, &a. UP. Davies's, 30 how flili, Ii'pooi :Size Card Post Free. Perfect Fit Guaranteed. Davies s Miscellaneous Bargains Usual Price SOLID GOLD ONLY Sale Priee 21 /-NBOKLET, Diamond Cut Links 10/6 -20 /-LOSKET, oval, engraved, hall-marked 7/6 21 f-SIfiNET RING (Gent's), shield, heavy 9/6 20 /-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17 f-SiieNET (Lady's), shield top, strong 7/6 18 /-PIN, real Diamond centre 9/6 £ 3-BANGLE RING, 18-ct., wide, heavy;Cl 1.6 £ 2-SIGNET Gent's), 18-ct., solid gold ► shield 18/6 30 f-BItoOCH, real Diamond centre 10/6 35 /-BRACELET, stiff,. wide, engraved. 16/6 £ 6-S«ARF SLIDE, 2 large Diamonds & centre Sapphire. 29/6 £ 7-DIAMOND STUD, forms pin, fine white stone .£2 /9/- Sale Price 25/- Usually £ 2/5/- Gold Curb & Padlock Bracelet. Fashionable massive flexible Curb and Padlock Solid Gold BRACELET, stamped every link (the widest at the price), complete in velvet ease. Also ditto at 29/6, usual JE3. Also the following BARGAINS IN BASKET PATTERNS at 10/- reduction in every f, as follows: 26/ 35/ 46/ 55/ also very fine 9-bar Basket Bracelet, now £: 112 /6, usual JE7. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to select from. Heavy Lucky Wedding Rings 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special (USUALLY 27/9). A Presentation with each Ring. DAVIES'S, 30LOWHILL, LIVERPOOL
I DAU TU'R AfOY
I DAU TU'R AfOY Clywir cor o fechgyn ieuainc yr Woodlands, Birkenhead, yn canu emynau Cymraeg a Saesneg y nosweithiau hyn wrth ddrysau'r ardal, er mwyn hel at drysorfa ryfel Maer y Dref. Yr oedd yno gor o Saeson ar waith cyffelyb nid nepell oddiwrthynt; ond fe wyddwn, chwarter milltir cyn cyrraedd atynt, prun oedd y cor Cymraeg gan gymaint mwynach a melysach eu lIeisiau. Hanner nos y clywais i hwy nos Sadwrn ddiweddaf, wrth basio, na rhyfedd yn y byd gweld y cymdogion yn codi o'u gwelyau ac yn ail wisgo amdanynt at ddod i'r drws. Ifc Y mae bagad o ieuenctyd eglwy. M.C. Stanley Road yn gwneud peth tebyg, sef canu carolau wrth ddrysau pobl gefnog Bootle at gryfhau trysorfa yr Yebyty Cymreig ac achosion dyngar eraill. Bendith arnynt h Dim peryg' y cant annwyd droa amean roor dda a chynnes. Nos LAWJN.—Dyna |gynhaliwyd gan Gymdeithas Lenyddol M.C. Stanley Road nos Wener ddiweddaf. Canwyd gan Miss Laura Jones a Mr. Tom Owen, a pharti'r carolau dan arweiniad Mr. J. D. Jones adroddodd y Mri. Wm. Bulkeley a H. Parry Jones a chyfeil- iodd Miss L. Kyffin Williams. Yn y cystadl- euaethau, enillwyd ar ganu ponhillioa ac adrodd ystori gan Mr. J. D. Roberts yr oedd cadair yn wobr i'r un a wnai'r englyn goreu i'r Kaiser y Parch. W. Wilson Roberts a'i henillodd, ac urddwyd ef gyda rhwysg. Cadeiriwyd gan Mr. Daniel Will- iams, a diolchodd y Parch. O. Lloyd Joaes, M.A., B.D., yn enwedig i Mr. John Hughes, am drefnu'r cwrdd difyr. TRINITY ROAD (A.).-Rhagfyr 19eg, cyn- haliwyd Sale of Work yn y lie uchod. Dech- reuwyd trwy weddi gan y Parch. J. Vernon Lewis, B.A., Park Road. Agorwyd gan y Cynghorydd J. R. Barbour. Caed gair ymhellach gan y Parchn. W. Thomas, Marsh Street; O. L. Roberts, Tabernacl; J. O.Williams (Pedrog), a W.Roberts, Trinity Road. Trodd y tywydd yn hynod o an- fanteisiol ar y dechreu, a theneu oedd y cyn- hulliad, ond gwellhaodd yn fawr ymhellach ymlaen. Dangoswyd haelfrydedd mawr gan y Cynghorydd Barbour a'i briod wrth y byrddau. Yn yr hwyr, caed cyngerdd. Cymrwyd y gadair gan Mr. Gronow, trysorydd Cyngor Tref Bootle, a chaed rhodd a chan ganddo. Bu raid cael cncôr, a chanodd Lead, kindly Light. Dyma'r rhai gymrodd ran Miss Edie Lloyd a Miss Blodwen Davies a Mr. Tom Owen-bu raid iddo yntau ail-ganu bob tro. Adroddwyd gan Miss Myfanwy Thomas a Freda Jones. Cyfeiliwyd gan Miss L. Kyffin Williams. Diolchwyd gan y Parch. W. Roberts a Mr. Roberts, Bedford Road. Y Saboth, cynhaliwyd cyfarfod chwarterol a chaed newid hapus iawn ar yr enllyn v tro hwn y bore, pregethwyd gan y Parch. J. Vernon Lewis, B.A., Park Road y prynhawn gan y Parch. G. Wynne Griffith, B.A., B.D. (M-C-), Douglas Road a'rhwyr gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. (W.), Birkenhead. Pregethu grymus ac effeithiol. II CYMRY LERPWL A'R RHYFEL.—Y mae clod nid bychan yn ddyledus i'r chwiorydd caredig yn eglwysi Cymreig Lerpwl fu wrthi mor ddiwyd y misoedd diweddaf yn ceisio ysgafnu'r telerau o dan y rhai y bu ein morwyr a'r milwyr dewr yn cyflawni eu dyledawyddau Trwy gyfrwng swyddfa yr Arglwydd Faeres,. paratowyd ac anfonwyd allan dros bum mil o nwyddau clyd a defnyddiol. Deallwn fod amryw o eglwysi'r cylch, yn ychwanegol at hyn, yn anfon allan roddion Nadolig i'r Cymry ieuanc ymrestrodd o'u heglwysi. Tua ehanol y misnesaf ,bwriedir ail gychwYJt gwaith yr eglwysi gyda'i gilydd yn gyffredinol. Heblaw'r llafur a'r gost cysylltiedig a'r hyn sydd wedi ei wneud gyda'r nwyddau, y mae swm sylweddol o arian wedi ei anfon i mewn I i'w rannu yn ol yr angen gan y Pwyllgor, ac I allan o'r ewm hwn deallwn fod dros £32 wedi eu talu drosodd tuagat leddfu dioddefaint y Belgiaid tlodion sydd yn ein dinas, tuagat yr Ysbyty Cymreig, ac fel rhoddion i'r milwyr sydd ar faes y gyflafan. Bydd yn dda gan lu glywed am lwyddiant Miss Muriel Eiluned Thomas, merch fechan Mr. a Mrs. Thomas, Evelyn Road, Seacombe, yn pasio arholiad y London College of Music, ac yn cael first class pass. Muriel yn un o ddisgyblion Miss Cissie Lewis Williams, A.L.C.M. KENSINGTON,-Cafodd Cymdeithas y Bobl Ieuainc yno, yn eu dau gwrdd diweddaf, ddau i amheuthun Miss Jones (Myfanwy Meirion), fu mewn un cyfarfod, a chafodd ei hanerchiad ei werth- fawrogi gan bawb. Bu Miss Jones, am lawer o flynyddoedd, mewn cysylltiad a chenhad- aeth yn Llundain, ac o'i phrofiad ynglyn a'r gwaith rhagorol hwnnw y cafodd y rhan fwyaf o ddefnyddiau ei hanerchiad diddorol ac adeiladol. Er mor brudd oedd llawer ffaith a adroddai, ceid ambell lygedyn digrif rhwng y rhai hynny. Er enghraifft, mynnai un Wyddeles ei bod o waed Cymreig "—am ddarfod iddi gael ei buch-frechu o waed rhyw fath ar greadur Cymreig. Mae Miss Jones yn llenores fedrus, a chyhoeddodd gyfrol dra diddorol ar hanes ei chenhadaeth ynglyn a'r Bridge of Hope, yn Llundain. Y Parch. W. A. Lewis oedd y Hall fu'n annerch y Gymdeithas, ac Awr gyda Gheiriog oedd ei destun. Nid oedd bosibl i neb ond un oedd wedi astudio Ceiriog yn drwyadl draethu mor ragorol amdano. Yn sicr, yr oedd y ddarlith hon, fel eraill o eiddo Mr. Lewis, yn wledd lenyddol gwerth ei chael. Gresyn na fyddai i ychwaneg o'n pobl ieuainc ymgydnabyddu mwy a gweithiau'r prifardd telynegol, ac anodd gael gwell arweiniad i hynny na gwrando'r traethiad clir, deheig, a chyflawn hwn o eiddo un a roddodd amser i'w efrydu, ac a fedd fedr i gyfleu ei nodweddion a'i ragoriaethau. Dr. Peter Price, Rhos, a bregethai dair gwaith yng nghapel Kensington y Saboth diweddaf, i gynullaidfaoedd mawrion. Yr oedd y Doctor yn nerthol iawn ym mhob oedfa a'r un Saesneg mor rymus a'r un. Heblaw fod y weinidogaeth yn gref, yr oedd i gyd yn nodedig o amserol. YR YSBYTY QYMREIG I Dymuna'r Trysorydd (Mr. Robert Roberts I Y.H Judges Drive) gydnabod derbyniad y anysgri fiadau eanlynol ar T rheatr fiaenorol I D. E. Roberts, Walton Breck rd. 110 Owen Rowlands, Edge lane 1 1 0 J. E. Jones, Priory road 0 5 0 j Cymdeithas Cymry Fydd Anfield, trwy law Mrs. H. Russell Ed- wards. 10 12 5 Ladies' Auxiliary, Eglwysi Rhydd- ion Lerpwl, trwy law Mr. Arthur Venmore 7 7 0 David Williams 1 1 0 Capt. Thomas Hughes 0 10 6 Mae'r holl dderbyniadau erbyn hyn agos yn E650, a da fyddai cael o leiaf £ 100 eto, er mwyn gwaddoli tri gwely gan Gymry Lerpwl. TE A CHYNGERDD PEEL ROAD.-Dydd Mercher a dydd Iau diweddaf y dathlwyd hwn eleni, ac yn lied agos i'r Gwyliau, pan y mae enllyn yn beth cyffredin. Ond wedi eu myned heibio, ymddengys y wledd frith yn debyg iawn i'r tamaid bach hwnnw a biga'r Ffrancwr i godi bias at ei ginio, sut bynnag y mae hi arno yrwan. Ond am ddylanwad y canu a glywaom, tarawyd y dine wladgar yn y cywair uchel, arhosol, sobr, bair i ddynion weled urddas yn eu dinasyddiaeth. Caed gwaaanaeth y ddwy gantores hysbys, Miss Sephora Hughes, Manchester, a Miss Annie Davies, Penrhyn deudraeth, ac nid oes angen eu canmol,—dim byd ond dweyd iddynt ganu, ac i'r gynulleidfa wneud y rhan arall. Aeth yn ddadl rhwng dau brydydd yng ngwres yr hwyl, ynghylch pa un o'r ddwy a ganai oreu, ac ebai un Annie Davies—dewis da ond ebai'r cidwm arall fel fflach:- Siff yw arian Sephora Yddau frawd a gadwai gydbwysedd yny canu oedd Mr. G. J. Roberts, y baritone o Dal y sarn, a Mr. Griff Owen, tenor ac ehedydd Bootle yma. Canodd y pedwar hyn hefo'i gilydd, ac wedyn bob yn ddau drwy'i gilydd, ac fesul un heb ei gilydd, ond yn ddieithriad i lawn foddhad y dorf, a disgwyliad eu cyfeill- ion. Er mwyn hamdden iddynt gael anadl ffres i'w cyrn, deuai Mr. J. Salisbury ymlaen i adrodd a bwrw drwy ei ddiddanion nes yr oedd y bobl bron ar dagu'n chwerthin. Y mae dawn y cyfaill hwn mor newydd i ni ym Mootle, a difyrrion Cymraeg mor amheuthun, fel yr haedda ef sylw cyfarfodydd dyfodol. Cyngerdd campus drwyddo, a gwerth gan bawb ei ail-fwynhau, ond yr unig un y ceir. cyfle agos i'w hail-wrando ydyw llais Annie Davies, a byddai'n worth bod yn gynnar yn Crosshall Street i edrych a gan hi y My Land odidog honno. Llywyddwyd y cwrdd gan Stephen Ashcroft, Ysw., Waterloo, gwr o Sais sy'n caru'n cenedl ni. Nos Iau, daeth tro'r plant, ac ni fu pall ar wirfoddolwyr yn y gwaith. Yr oedd yno bron bob math ar ddawn, rhai'n canu, rhai'n dadleu a'i gilydd, eraill yn adrodd, a rhai wedi gwisgo'n hynod i gael gwell argraff. Caed help unwaith neu ddwy gan rai hyn, megis pan ganodd Mr. Henry Jones, ac yr adroddodd Mr. John Davies ac hefyd pan aeth Mrs. Jones, Holywell Street, i'r llwyfan i areithio ar "Ddistawrwydd," ac a roddodd enghraifft ymarferol ohono, ond nad oedd neb arall distaw yn y lle'r pum munud hynny. Dyma restr y plant a wnaeth rywbeth neu'i gilydd ar y llwyfan y tro hwn Mrs. Davies, Orrell, a'i pharti; Ella Williams, John Will- iams, Blodwen Davies, Gwladys Williams, Lilly Salisbury, Maggie Linden, Thos. Price Roberts, Maggie Davies, Maggie Roberts, J Gwladys Jones, Edith Wynne, Maud Roberts, Cassie Roberts, Gwen Jones, Maggie Jones, Maggie Edwards, Edgar a Gwladys Salisbury. Doniau cymysg o Peel Road ac Orrell. Rhoddodd y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D., ei nawdd ar y llwyfan yn y ddau gyfar- fod, a'i help i rwyddhau gwaith lie byddai angen. Diolchodd Mri. Richard Davies a John Williams yn fyr a phwrpasol i'r chwior- ydd am yr holl drafferth, y golchi a'r berwi a'r cario a'r cludo sy'n ynglyn a'r gwleddoedd hyn. Llywydd cyngerdd y plant ydoedd v Bonwr Wm. Pierce, Cymro yn ol ffydd, gwaed a ddeddf, er ei fagu yma, ac sy'n ddi- wyd ddi-ildio dros bob daioni :— Dyfal wasanaeth deufyd Yw'r wers gan Bierce i'r byd. Y DIWBDDAR MR. RICHARD PARRT.— Rhag. 12, 1914,yn nh$" ei ferch yn Kensington, Lerpwl, bu farw Mr. Riohard Parry, Rock Ferry, ar ol cystudd trwm am amrywfwyth- nosau, yn 69 mlwydd oed. Chwith iawn gennym feddwl ei fod wedi ei symud o'n plith ac na chawn weled ei wyneb na chlywed ei lais mwy, a hynny mor fuan ar ol ei gydswyddog, Mr. John Williams. Yr oedd yn enedigol o Walchmai, Mon, ond wedi ei fagu gydag ewythr iddo yn Llanrug, ger Caernarfon. Bu am rai biynyddoedd yn gweithio yn chwarelau Dinorwig. Y pryd hwnnw yr oedd yn wr ieuanc hardd o gorff a dichlyn ei rodiad. Pan tua 27 oed, aeth i Widnes. Dychwelodd i Gymru, ac wedi rhai blynyddau daeth yn ol i Loegr—i Liverpool y tro hwn, ac ymaelododd ef a'i deulu yn David Street., Yn 1888 daeth drosodd i Rock Ferry, a bu mewn cysylltiad a'r eglwys honno fel aelod am 26 o flynyddau. Dewiswyd ef yn ddiacon yn yr eglwys tua 12 mlynedd yn ol, a gwasanaethodd fel aelod a swyddog gyda ffyddlondeb diball. Rhaid y byddai rhywbeth anarferol yn ei amgylchiadau neu yn stad ei iechyd i beri iddo fod yn ab- sennol o unrhyw gyfarfod crefyddol, ac yr eedd yno bob amser yn brydlon. Yr oedd llwyddiant teyrnas y. Gwaredwr yn agos at ei galon-yr oedd yn un o'r rhai sydd yn meddwl am ei enw Ef." Collodd ei fab Richard—gwr ieuanc rhinweddol a gobeithiol —ugain mlynedd yn ol, a bu farw Mrs. Parry ei briod, yr hon oedd yn wraig ragorol, ddeu- ddeng mlynedd yn ol. Mae yn aros dri mab a dwy ferch-un o'r meibion yn Neheudir Cymru, a dau yn New Zealand, y cwbl wedi priodi ac yn anrhydedd i'w rhieni. Claddwyd ddydd Mercher. Cafwyd gwasanaeth yng nghapel Rock Ferry ar y ffordd i'r fynwent. Wedi canu'r emyn, Ar ol gofidiau dyrys daith," darllenwyd rhannau o Salm 37 gan y Parch. W. M. Jones, ac anerchwyd y cyn- hulliad gan y Parch. O. J. Owen, M.A. Yna gweddiodd y Parch. Lodwig Lewis, a chanwyd yr emyn, 0 Fryniau Caersalem." Wedi hynny aethpwyd tua'r gladdfa. Cymrwyd y gwasanaeth yno gan y Parch. David Jones, Edge Lane, a therfynwyd gyda'r Fendith Apostolaidd gan y gweinidog. Yr oedd yn bresennol hefyd y Parchn. W. Henry, John Owen (Anfield), T. J. Williams, (Rock Ferry), Mri. Griffith Davies, Owen Williams, D. Roberts a Hywel I. Jones-blaenoriaid Edge Lane, Mri. J. Jones, Alma Bank E. Ed. I wards, Haddon Road T. J. Humphreys, J. I Price, J. Williams, G. J. Hughes, etc., etc.
I - AR GIP.
I AR GIP. 1 anymanan fel Bardd a Gherddor oedd testyn trafodaeth Cymrodorion Colwyn Bay nos Wener ddiweddaf; Mr. Henry Jones a Mr. T. R. Roberts (Asaf/j yn traethu arno y Cynghorydd D. O. Williams yn y gadair a Mr. D. Llewelyn Davies a Mr. Evan Jones, Colwyn, yn canu ac adrodd teleidion Tany- marian ynghanol cymeradwyaeth y dyrfa, oedd a'i Haw tan ei chlust ar hyd y noson. Y mae'r Parch. Thos. Evans, Caergybi, wedi cydsynio a'r alwad i fugeilio eglwysi M.C. Pensarn a'r Gaerwen Bu ef yn Veinidog eglwys Peel Road, Bootle, flynyddau'n ol. Y mae tref Daniel Owen—sef yr Wyddgrug —wedi codi mwy o filwyr gogyfer a'r rhyfel hwn nag odid i'r un dref drwy Gymru. ee Dyna waith da. a wnaeth v Parch. D. J. Bowen (A.), Cafn, sef mynd at guard y tren, ar daith yr wythnos ddiweddaf, i gwyno fod Robert Griffiths, The Lodge, Whittington, yn bytheirio iaith aflan ac anweddus yn y cerbyd lie r oedd dwy ferch ac yntau'n gorfod ei wrando. Deuwyd a Griffiths o flaen ei well yng Nghroesoswallt ddydd diweddaf; ac er i w gyfreithiwr geisio'i wyngalchu drwy ddweyd fod ganddo bum mab yn y Fyddin, ei ddirwyo wnaed i ddwy bunt, heblaw £2/16/- o gostau—dirwy eitha'r gyfraith. Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, buwyd yn anrhegu'r Parch. John Edwards ar ei waith yn ymneilltuo o ofalaeth eglwys M.C. Saesneg Colwyn Bay, a fugeiliodd dros saith mlynedd ar hugain. Cafodd anerchiad gelfydd ei gweithiad, a phyrsaid o aur a'i briod hithau frooch aur. Colwyn Bay bach iawn ydoedd pan ddechreuodd Mr. Edwards ar ei waith rhagor ydyw heddyw. TS. k Dirwywyd Rd. Perry, ffermwr a henadur ar Gyngor Sir Drefaldwyn, am greulondeb at ei foch. Dywedid yn Ilys Or< e.soswaUt fod y diffynnydd yn arfer a gwifro clustiau'r moch i'w cadw rhag crwydro a phan alwodd yr Arolygydd-sef yr inspector heibio, dyma Perry'n cythru ati i dynnu'r gwifrau nes rhwygo clustiau'r cread- uriaid druain. Dywedai'r Arolygydd fod y gwifro hwn yn hen arferiad gan ffermwvr yr ardal; end am y rhwygo a'r anafu y cwynai ef. 'Fuaswn i yn meddwl, wir Yr oedd hi'n ddiwrnod rhannu'r gwobrwvon i blant disgleiriaf Ysgol y Sir, Treffynnon, ddydd Gwener diweddaf; a chaed peth go anghyffredin, sef clywed M. Verbrugge, un o Felgiaid mwyaf adnabyddus tref Ostend, yn traddodi anerchiad o ddiolchgarwch yn yr iaith Ffrangeg, i Gymru a Phrydain drwyddi draw am eu croeso Cristnogol a chynnes tu- hwnt i ffoedigion dolurus a digartref y wlad fach ddewr os satherdig honno. CoIIasom ein cwbl, ond ein hanrhydedd," ebe Verbrugge, ond gallent fforddio colli'r cwbl cyd ag y cadwent hwnnw. Cymer eysur, Verbrugge annwyl ni fydd yr un wlad ddedwyddach, na harddach na chlodusach yn Iwrop a'r byd o hyn ymlaen n Belguim. Bydd clod y lleill yn fawr, ond dy glod ti yn fwy na hwy i gyd. Swn llifio a morthwylio a churo hoelion enbyd sydd yn y Rhyl a'r ardal, sef swn oannoedd o weithwyr yn gweithio ddydd a nos, heb aros braidd i lyncu tamaid, ar godi'r gwersyll newydd enfawr i'r miloedd milwvr sydd yno'n awr ac a ddaw yno eto. Telir deg a dimai r awr iddynt, na digon ohonynt i'w cael am gyflog cyetal. k Pobl dosturiol a thyner eu calon ywGwarch- eidwaid Llanelwy, ac yn gofalu yn e-nad neb fod tlodion y Ty yn cael tipyn o amheuthun gyda'u prydau bwyd ddydd Nadolig. A gwelwn fod y Iluniaeth sydd i fygu mor fiasus yr olwg o'u blaenau yleni yn ddigon a chodi blys ar ddyn fynd yno, both bynnag am aros yno. Rhai croendeneu ac eiddigue iawn o'i gilydd yw trefi gan y m6r yma ac asgwrn y gynnen sy rhyngddynt heddyw ydyw hwn cwyno fod un dref yn cael mwy na'r llall-ac na'i haeddiant—o'r milwyr i'w clwydo a'u cysuro—am dal, wrth gwrs. Cwyna pob Llandudno, hefo'i douddeng mil o boblog- aeth, y fod Aberystwyth—hefo dim ond wyth mil-yn cael llawer mwy yn ol yr her- wydd. 'Does yr un dewin all ddal y ddesgil hon yn wastad. Y mae pwyllgor wedi ei ffurfio yn Llundain -8, Mrs. Lloyd George yn ben arno—i hy- rwyddo a hybu'r gwaith da o gael gan ferched Cymru benbaladr-yn hen ac yn ieuanc, yn wreng a bonedd-i baratoi pob math or nwyddau a dillad a'r mil myrdd cysuron sy a chymaint rhaid wrthynt ar y milwyr Cymreig a phob cenedl yn ffosydd oerion Ffrainc a Fflanders y dyddiau hyn. Y mae swn y piano yn eithafpeth mewn ty, pan fo Haw gynefin yn ei thrin ond dyma i chwi swn mwynach fil own clic y gweill yn gweu hosanau a menyg a chrysau a dillad isaf ac yn y blaen i'r bechgyn gynhygiodd eu bywyd ac sydd yn treulio'u Nadolig at eu hanner mewn dwr-a gwaed Ati, o ddifrif, enothod annwyl a da clywed fod No. 11 Downing Street yn llawn at y drws eisoes o'r parseli trugaredd hyn, ar eu ffordd i'r ffrynt. Y mae dau fachgen Mr. Lloyd George wedil cael codiad swydd yn eu catrawd. Yr hynaf, sef y 2nd Lieut. Rd. Lloyd George, wedi ei godi'n gapten dros dro ym Mataliwn Gymreig y Brifddinas a'i- frawd Gwilym yntau wedi ei godi'n lieutenant yn yr un gatrawd. Y mae pumcant o filwyr y Fyddin Gymreig, sef o'r Deheudir, wedi cyrraedd Colwyn Bay. Pennaeth Byddin y Do yw'r Brigadier-General Ivor Phillips, sy'n balff o wr ymhell tros ddwylath o daldra. Daeth gair i Gonwy fod y Preifat T. C. Orris wedi marw yn Ysbyty Boulogne. Byddai Orris yn blismon yn Heddlu Sir Gaer- narfon y Goldstream. Guards oedd ei gat- rawd a fo oedd y milwr talaf yn y Fyddin i gyd. Bu'r Brenin wrth erchwyn ei wely pan ymwelodd a Ffrainc y dydd o'r blaen, ac a ysgydwodd law dirion iawn a'r milwr mawr. Aeth fferm y Coppice, Pool Quay, y naill da i Drallwng, yn ffiam a ffagl nos Sul ddiweddaf, a chymaint fu'r goeleerth ar y teisi gwair ac yd ac yn y blaen nes y llosgwyd gwerth cannoedd o bunnau. Ond yr oedd y cwbl wedi ei y8- wirio, o drugaredd. Wrth chwyrnellu eu goreu glas tuag yno, dymchwelodd y peiriant diffodd o Drallwng mewn I6n gul, ond cyr- haeddodd mewn pryd, heb funud wrth gefn, i arbed y tý rhag mynd yn oddaith gyda'r gweddill. Bu Ilythyru go gras rhwng Mr. McKenna a'r HenadurA bel Williams, Sir Gaemarfon, yr hwn a ddondiai'r Ysgrifennydd Carterfol am fod mor ddigynnyg i wneud y Ddeddf Newydd parth Cau'r Tafarnau yn ystod y Rhyfel ym llawer mwy effeithiol nag y mae, ac fod trigol- ion goreu'r ardaloedd drwy'r wlad yn frochue iawn wrtho. Baich atebiad Mr. McKenna ydoedd, ei fod ef ei hun mor eiddgar a neb dros sobrwydd, ond mai pwnc o'i basio, a chad y bil fel yr oedd, ydoedd, neu ynteu ei golli'ia gyfangwbl. Hefyd, yr oedd Mr. Williams ym chwanocach i weld diffyg a thwll yn y bil nag ydoedd i weld ei werth a'i fendith. Merch hynaf Mr. Lloyd George rannai'r gwobrwyon yn Ysgol Ganolradd Porthmadoj ddydd Mercher diweddaf ac wrth fynd dros hanes y tymor, dywedodd y Prif Athro fod hanner cant o gyn-fechgyn yr Ysgol wecti ymuno a'r Fyddin, ac fod yn eu mysg beir- iannydd o'r Mynyddau Creigiog, sef y Rocky Mountains pell, lle'r oedd newydd daro ar wythien hoff o aur pan ddaeth Indiad heibï. iddo gan ei hysbysu am y Rhyfel. Heip betruso funud yn hwy, dyma fo'n gollwng ei gaib, ac yn troi tuag adref, ac y mae bellaeh yn 2nd Lieut. gyda'r Fyddin Brydeinig. Y mae nifer o'r milwyr newyddion sydd yng; N gwrecsam yn cael eu lletya mewn tai tafarnau ond y maent i'w symud i dai annedd ar ol y Gwyliau. A goreu po gyntaf. y\ Fe wyr pobl yr Orsedd a'r Eisteddfod yn dda pwy yw M. Jaffrennou, sef Taldir, y bardd a'r lienor Llydewig. Wel, y mae ef gyda'r Fyddin Ffrengig ar dechreu'r rhyfcl wedi ei anafu a bod adref am beth amser, ond bellach yn ei ol ar faes y gwaed. Dyry air uchel i wroldeb milwyr Prydain, a dywed mor falch ganddo ydyw ymladd ochr yn ochr 6 Chymry yn eu hymgais unedig i dorri crib y Caiser a'i griw yscymun. "0. M. Edwards Llydaw y byddis yn galw Taldir, oblegid ei ymdrechion clodwiw i gadw hen iaith ei wlad yw fyw, a phorthi gwerin Llydaw a llenydd- iaeth iach-ddiddan. i t" Dyma ddau ddewisol y genedl i bregethu ym mhulpud y City Temple ddydd Gwyl Ddewi y flwyddyn nesaf, sef y Parch. Ddr. Peter Price, M.A. (A.), Rhosllannerchrugog, a'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. (W.), Birkenhead. Yr oedd hi'n gyfarfod blynyddol Cym- deithas Commercial Travellers Caer a Gogledd Cymru yng Nghaer yr wythnos ddiweddaf, pryd y dewiswyd swyddogion ac yn y blaen. Tybed fod yr un urdd ffyddlonach y naill i'r llall na hon yr un fwy gofalus o'i haelodau anffodus a rheidus, ac yn hawddgar a chy- mwynasgar i bawb tuallan i'w hurdd a'. hetholedigaeth yr un pryd. k Yn Llanelwy, ddydd Iau diweddaf, eYIl- helid cynhadledd fiynyddol Cymanfa Ddir- westol Gorllewinbarth Sir Ddinbych, Syr J. Herbert Roberts yn cael ei ail ddewis yn llywydd, a Mr. H. Edwards (Huwco Penmaen) yn cael ei ail-ddewis yn ysgrifennydd. Caed trafodaeth fuddiol a diddorol iawn ar Beth all caredigion Dirwe8t ei wneud i gynorthvyo v achos yn y cyfwng mawr hwn ? Dangosodd Mr. Sumner, cynrychiolydd cangen y Rhyl o'r Y.M.C.A., beth wnaethai'r Sefydliad da hwnnw dros Sobrwydd a Chrefydd a Chysur y Fyddin draw ac yma drwy Brydain ae ar y Cyfandir, ac ebe fo Pob parch i'r amryfal enwadau, roee eu hysgolion at wasanaeth y milwyr, ond us rheswm pam na thynnent y milwyr i fewn ''i'r mannau hynny ydoedd" hyn fod ar y dynion ofn i bobl gethru a phregethu iddynt beunydd a byth." Mr. Wm. Jones, A.S., oedd prif siaradwr y cyfarfod, ae a ddywedai fod Rwsia drwy wahardd y vodka meddwol, a Ffrainc, drwy wahardd yr absinthe melltiga d, wedi symbylu Prydain i'w dilyn mewn diwygiad dirwestol yn y Fyddin. Yr oedd penaethiaid y Fyddi. a'r Llynges—o Arglwydd Kitchener a'r Llvngesydd Jellicoe i lawr-yn ochri troe ddirwest, na neb drwy'r wlad wedi ei wrth- wynebu ond pobl farus y Fasnach eu hunaia. @ Nefoedd ar y ddaear," ebe un o wragedd Rwsia am gyflwr y wlad honno ar ol gwa- harddiad y vodka. Y mae'r Parch. Eynon Davies yn y Tyst yn rhoi'r fonclust a haeddai i Esgob Llanelwy am ei sen enllibus yn y Times fod 70 y cant o'r rhai ymunodd a'r Fyddin yng Nghymru yn Eglwyswyr, ac nid yn Ymneill- tuwyr. Ebe'r Eynon :— Mae llythyr yr Esgob, fel y gacynen, a cholyn yn ei gynfion. Pwy erioed welodd lythyr o'i waith nad oedd cicio Ymneilltuaeth ynddo yn rhywle ? Haer. a'r Esgob yn y llythyr hwn fod 70 v cant o'r recruits presennol o Gymru yn Eglwys- wyr Mae ffatri gelwyddau Llanelwy yn sefydliad hen. Mae cangen aral], o dan yr un ysbrydoliaeth, gan y Kaiser yn Berlin. Nid oes neb yn coelio Berlin, bellach. Pa sawl un sydd yn coolie Llanelwy ? 'Seventy per cent' yn wir n. 0.
Family Notices
GEM. HUGHEs-Rhagiyr 12, yn Fernleigb, Worcester Road, Bootle, priod Mr. J. R. Hughos, M.A., ar fab.
Advertising
YN EISJAlJ. YN EISIEU.-Bachgen wedi cael addysg JL dda, mewn Cyfrifdy (Counting House). Ymofyner trwv lythyr, W. H. Watts A- Co., Ltd., Compton House, Liverpool. CAN FILWROL YN ATEB I'R AMSER. GWRONfA-ID CYMRU (Heroes of Cymru) -BARITONIC. Yn y ddau nodiant a'r ddwy iaith. Y (Jyrrmiee can CADIFOK and the English by GIKNDOWEK The music by the popular J. PETERS (Afan Alaw). Ar werth gan H. EVANS & BONi, Liverpool; net GTKALAW, Oardoipa Pria 11-