Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Lyfrau.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Lyfrau. I Heb fytnpwy wrth feio, I Na gweniaith wrth gaamol. I The Fates of the Princes of Dyved. Cenydd Morus, Aryan Theosophical Press. Fe gred llawer ar hyn o bryd y dylid cloddio I yn chwarel y Mabinogion a'r hen feirdd am symbolism at wasanaeth celf Cymru, fel y symbolism, at wasanaeth celf Cymru, fel y cloddiodd Yeats a Synge yn hen lenyddiaeth y Werddon am feini at adeiladu'r ddrama Wyddelig newydd. Dyna amcan Mr. Morus, os nad ydym yn ei gamddeall, yn The Fates of the Princes of Dyved chwarae teg iddo am gynnyg. Ond cyn gwneud hynny fel y dylid, rhaid ar wybodaeth eangach na'r eiddo Mr. Morus o'r Hen Gymraeg ac o hanes arferion a sefydliad- au Cymreig. Cyfieitha ef Prif fardd yn primitive bard, yn lie chief bard dywed mai'r un yw hwyl yn hwyl llong a hwyl pregethwr," heb sylweddoli mai o'r Lladin zelum-Saesneg zeal, y cafwyd yr olaf fel hyn y cyfieitha Y Ddraig Goch a Ddyry- Gychwyn! "-The Flamebright Dragon has arisen—Go forward Mae Mr. Morus braidd yn ddibris o ysgolheigdod There are two methods of criticism the H ànalytical and the synthetic. The former is all the rage these days, at least in Wales. Its end would seem to be a barren scholarship one analyses the Good, the Beautiful, and the True into the dust heap." Dyna ddweyd go eithafol, ac annheg hefyd, ni gredwn. Mae Syr John Rhys eto'n fyw prin y gallwn sylweddoli fod Syr Edward Anwyl wedi ei dderbyn i'r Brifysgol fry mae Ymadawiad Arthur Gwynn Jones yn swyno'n Oalonnau fel cynt, ac y mae llu o feirdd yng • Nghymru'n yfed melys win ein hen lenydd- iaeth. Gwiriondeb yw dweyd fod yr un o'r rhai hyn yn bwrw'r da a'r tlws a'r gwir i'r domen. Cyn rhuthro i adeiladu teml wych i'n dyhead cenedlaethol dylem bwyso a phrofi a dewis ein meini, cherwydd ni thai hi ddim i bentyrru hen gerryg a tharo i'r mur y talp o graig nesaf i law. Dyna duedd Mr. Morus yn The Fates of the Princes of Dyfed mae'r Mabinogion, Taliesin, Beirdd Morganwg ac Allen Raine yn blith drafflith ar draws ei gilydd, er fod Mr. Morus yn ameu na ddylid pwyso'n rhyw drwm iawn ar the druidical writings of the School of Glamorgan." Benthyciodd Mr. Morus lawer o gyfieithiad Lady Guest, ac ar adegau mae yn ei arddull gryn dipyn o ysbryd yr hen chwedleuwyr gwreiddiol, ond yn amlach o lawer nid oes dim nodweddiadol Gymreig yn ei arddull na'i stafbwynt. Barna ef am Tennyson a Malory Tennyson charged the Arthurian legend with criticism of nineteenth century life Malory charged it with criticism of the life of the Middle Ages. Malory and 45 Tennyson both attained wonderful results no doubt, from the literary standpoint; but I think that from the standpoint of a "lover of Ancient Wales and Ancient Welsh traditions and ideals, they both made a failure of it on the whole." Digon gwir ond gallwn ninnau gredu fod Mr.Morus wedi defnyddio'n hen draddodiada11 i bregethu'r Theosophy y mae'n ei hastudio yn Ughaliffornia bell, a'i fod yntau, i raddau,wedi methu. Er hynny, predwn ei fod yn nes i lwyddo nag y bu Tennyson a Malory, am ei fod wedi sylweddoli The atmosphere of our mountains calls. for some older glamor, some magic more "gigantic and august you must have Gods and Warriors and great Druids, not curled and groomed Knightlings at their jousts and amours." Os oes rhaid cymharu Mr. Morus &g unrhyw un a geisiodd egluro ysbryd a thraddodiadau Cymru yn Saesneg, cymharer ef ag Owen Rhoscomyl. Mae gan yr olaf wybodaeth bersonol bron o'r hen wroniaid,a medr ddweyd eu hanes mewn Saesneg egniol, cryno, syml, tebyg i iaith Brut y Tywysogion. Nid yw'n pentyrru na gwastraffu geiriau, ac ni foddlona ar un gair ond yr un angenrheidiol. Gwendid Mr. Morus, o'i gymharu, yw gor-geinder ei ymadrodd a'i duedd at dlysni yn hytrach na grym wrth weu hanesion y cewri fu. Ond dywed yneb a fynno, y mae'r llyfryn worth ei ddarllen er fod mwy o Theosophy ynddo'n ami nag o ysbryd Cymru Fu. Dylid Hongyfarch yr awdur ar stori Rhiannon a Phryderi, ac ar 'ambell i gan, fel hon a glywodd Pwyll, Pendefig Dyfed, yn Annwn Was there never whisper wandered through your quiet hours and dreaming Of a land all lovely seeming with the wild white rose a-bloom, And, the harebells bending heavy when the dews of June are gleaming In the foxglove fields of Cemais where the white waves boom ? Its from Teifi side to Tywi side the hills are filled with yearning For their chieftains sw;ft returning from the sun-forgottec strand And the light about the High Crown in the King's town unburning, Till you turn, Pwyll Pen Annwn, to your own loved land. Hoffem weled cyfrol o ganeuon fel yr uchod o waith Mr. Morus. Pe digwyddai iddo gy. hoeddi un, dymunem arno adael i neb ond R. Machell dynnu'r lluniau iddo ni welwyd ers blynyddau lawer luniau mor geIfydd mewn llyfr Cymreig ag sydd yn The Fates of the Princes of Dyved. GWILYM PEREDUR JONES Prifysgol Lerpwl Dr. Griffith John Arwr China. Gan y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Cyhoeddedig gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Pris, 28. DYMA'n ddiddadl un o'r cyfrolau mwyaf diddorol yn yr iaith. Bu'i ddarllen i ni yn bleser pur a digymysg. Yr oedd Dr. Griffith John yn un o'r cenhadon mwyaf medrus a llwyddiannus yn yr holl faes cenhadol, ac y mae hanes ei fywyd, ei lafur,a'i anawsterau, a'i Iwyddiant fel cenhadwr yn China am lawn hanner can mlynedd, yn rhamant berffaith. Adnabyddir ef trwy'r holl fyd cenhadol fel un o'r arwyr pennaf. Rhestrir ef gyda Moffat, Morrison, Livingstone, Chalmers, a bydd ei enw fyw'n hir. Diddorol cofio mai'r ddau Ewropead mwyaf eu dylanwad yn China yn ystod yr hanner canrif. diwedd eo yw'r ddau genhadwr Cymreig, Dr. Griffith John a Dr. Timothy Richards,—y ddau wedi eu hanrhydeddu gan yr un brifysgol-Edin- burgh. Dywedir fod rhai o lyfrau Dr. John wedi gwerthu yn China wrth y miliynnau o goplau. Pan y mae'r byd yn cydnabod Dr. John a'i lafur, buasai'n waradwydd iddo fod heb fywgraffiad yn iaith ei dadau. Yn y gyfrol hon y mae Mr. Hughes wedi cyflenwi'r diffyg yn ardderchog. Dylai gael cylchrediad helaeth ymysg y genedl yn gyffredinol. Nis gallwn dalu iddi deyrnged uwch na dweyd ei bod yn deilwng o'r awdur a'i gwrth- rych. Bydd bechgyn a merched Cymru yn gyfoethocach i wynebu'r dyfodol a'i ofynion mawrion wedi darllen y gyfrol hon.—O.L. Gyda Min yr Hwyr gan J. J. Drefnewydd. Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Hughes Brothers, Dolgellau. LLyprt o ganiadau syml a diymhongar, o nod- wedd emynol yw hwn, ac ar destynau Ysgry- thyrol agos i gyd. Mae naws hyfryd ar yr holl waith, ac mae ysbryd duwiolfrydig yn anadlu trwy'r cwbl. Ni cheir yma arwydd o ymdrech at y dieithr a'r dychmygfawr o gwbl. Yn wir, teimlir weithiau y gallasai'r awdur gyfansoddi'n fwy gofalus, a bod ambell bennill yn ymylu ar y cyffredin o ran arddull. Ond er pob diffyg, mae calon brofiadol yn curo ymhob darn, ac yn gwresogi pob can. Nid allai neb o ysbryd crefyddol hynaws ddarllen y llyfr hwn heb deimlo'i fod yn deffro ei natur oreu, a'i ysgogi at y da, y prydferth, a'r gwir. Ac nid bychan.yw gwerth hynny Atgofuwch Anghof, o Lanbedr-y-Cenin a Chaer- hun gan y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug. Dolgellau Hughes Bros. Llyfryn nodedig o ddiddorol yw hwn, yn cynnwys cyfres o benodau disgrifiadol o olyg- feydd, ac o hanesion difyr am fro mebyd yr awdur. Ysgrifennwyd y cwbl mewn arddull dirodres a naturiol, megis y gweddai i'r math yma ar lenyddiaeth. Mae'r gyfran o hanesion a weodd yr awdur i'w ysgrifau o gwr pellaf ei gof yn nodedig o ddiddorol erbyn hyn, ac yn peri i'r darllenydd sylweddoli'r cyfnewid fu ar fywyd, arferion, a syniadau o hynny hyd yn awr. Mae rhai o'r ystoriau yn rhagorol. Y neb a ddarlleno'r llyfryn hwn, ca drem ar ddarn pur glir o gyfnod lied bell yn ol-erbyn hyn-ym mywyd yr henfro dawel, Llanbedr- y-Cenin. Nid hawdd y gellid treulio hwyrnos ddifyrrach na thrwy ymlonyddu mewn congl,a darllen y gwaith hwn. Gresyn na cheid chwaneg o ysgrifenwyr medrus i wneuthur cymwynas gyffelyb a pharthau gwledig eraill, fel nad elo hanesion diddan ac adeiladol i grombil difancoll. -0

Basgedaid o'r Wlad.

Advertising