Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ARGRAFFU LLYFHAU j Mae cyhoeddwyr y Brython wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lyfrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac nid aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd llawer o bethau wedi codi, fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn llawn waith yn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r 'Brython,' 356-8 Stanley Road, Liverpool. TELEPHONE 5»1 bootle
Y (jot, Oddicartref
Y (jot, Oddicartref Troi am Fachynlleth a'r Penrhyn. Ochi am y Merlyn. Ni welais i byth mo'r merlyn chwim er pan aed ag o oddiarnaf yn slei a diarwybod yn y nos ddechrau mis Awst diweddaf i Ffrainc a Rtwiders. Ys gwn i ydyw o ar dir y byw, ac yn debyg o ddod yn ei ol i'w hen gynhefin? t mae yma lawer gwell blewyn a phorfa iddo ar ffriddoodd Cymru nag sydd yn Fflanders ai Hannwn ddiffaeth. 'Dyw hynny ddim byd i ohwi, hwyrach eithr y mae'n beth mawri mi weld ei le'n wag mor hir, na dim o awn yr hen giciwr anesmwyth yn gweryru am &i wair a'i ebran, Y fo ydyw'r unig un sydd gen i ar fy helw, a fo sy'n hel hynny bach o damaid wy'n gael ar hyd y blynyddoedd. Fe wn i yn eithaf da hefyd mai sbio i lawr arno fo'n rhyw banner tosturiol y.bydd meirch porthiannus y Plas, ao yn rhy ffiaidd gan- ddynt hwy sgleiniog bori yn yr un cae a rhyw forlyn mynydd gwladaidd a di-glip fel y fo, a rhawn ei fwng a'i garn a'i gynffon heb deimlo min gwellaif gwareiddiad a dysc er y dydd y'i gaaied ym mol y clawdd ar Foel Fechan gerllaw i Las Ynys yr hen Fardd Cwsc, bendith arno I Na hidia mo'nynt, yr hen Ferlyn y mae'n well gen i dy weld di yn dy 'flerwch i d na oherbyd dau-geffyl yr un Plas a welais hyd yma 1 ac er fod ceffylau'r cefnog yn prancio heibiom ill dau ym malchter eu mwng, wrth fynd a llwyth Lloegr hyd y dolydd a'r gwaatadedd, mil gwell gen i ydyw neidio i'r hen gar lIusg, heb na chwip na choitsmon, a mynd gyda thi i hel cnwd Cymru ar lethrau mynyddig a phonciog yr Hen Wlad. Ghwarddweh ohwi t y mae gen i gystal hawl ifcn ffansi ag 8Y gennych chwithau 'dwy'n eiddigeddu'r un ohwrligwgan wrthych; y cwbl sydd arnaf i ei eisiau ydyw rhyddid a llonydd i fynd y ffordd a phryd y mynnof, Ie, 'r hen ferlyn annwyl! Ys gwn i a ydwyt ar dir y byw bellach, ynteu a ydyw bidog a bwlet yr Armagedon wedi'th yrru i'th nef oedd set i branoio am dragwyddoldeb ar ffriddoedd sweet a sanctaidd y Plas TTchajdle na ddaw'r un o giperiaid y Caisar pygddu i godi post oer a deddfol y Trespassers will be prosecuted ar ffordd dy garlam gwyllt. Os wedi mynd yr wyt, dyna hi wedi darfod arnaf fi, a'th ddilyn fydd raid i minnau'n fuan bellach, ac i'r unfan a thithau, gobeithio, canys ni fedrwn ibyth fyw hebddot mwy, pe cynhygient farch hardda'r Brenin o stabl Buckingham imi yn dy le. Eithr os byw dydi, gweryra a thafl dy garnau fr entrych, ac fe waria'm hatling olaf ih nol adref. Ao os digwydd i un ohonoch ohwi daro arno o fy mlaen, neidiwch ar ei gefn a marchogwch yma, achos y mae twmpath mawr o wahoddiadau iddo fo a finnau o'r wlad, draw ao yma eithr wiw imi gychwyn hebddo fo, oblegid arno fo y byddant hwy'n gwrando ac nid arnaf fi a fo sydd arnynt disiau i weld, ac nid y fi fwbach sad a di-sut. Disgyn yng Nghroesoswaiit. I A mi yn mynd i roi 'mhensil yn 'y mhoced, dyna awn carnau cloff ar fuarth Y BRYTHON, a beth ydoedd ond yr hen ferlyn wedi honcio adref bob cam o Ffraine, wedi cael sgriffinio'i, grimog a'r shrapnel, a chael ei ollwng adref am bythefnos o orffwys a gwella cyn dych- welyd i Faes yr Ofnadwyaeth yn Fflanders. Diolch am dy weled, er mor llesg a Hipa'th olwg a thyrd efo mi yn y tren i ddanfon Y Gadair Wichlyd i Fachynlleth a'r Penrhyn, canys yno y doi di atat dy hun os y doi di'n rhywle. Ffwrdd a ni'n dau, brynhawn dydd Iau, Rhag. y 17eg, gan chwyrnellu i ddechreu o Birkenhead i Groesoswallt. Awr i aros fan honno am dren ymlaen ar ffordd y Cambrian, a dyma bicio i swyddfa'r Oswestry Advertizer, i weld Tudor Williams, mab y diweddar Thos. Williams, cynhullydd cyfarwydd a Ilengar y Byegones hynafiaethol a gyhoeddid yn y papur da hwnnw, a chyfaill y mwynheais lawer o'i gymdeithas gu pan weithiwn innau yn y Library ac ar y Salopian yn y dref honno ugain mlynedd a mwy'n ol. Llefnyntala sgwar ei yscwydd oedd John Tudor y pryd hwnnw caredig a llydan ei wen bob amser a dyma'r wen ar ei wyneb heddyw mor lydan ag erioed, ond ei fod o bellach yn dad i dylwyth o blant, ac un o'r rheiny'n balff dwy lath a thair modfedd gyda'r Fyddin dros ei wlad. Bobl bach on'd yw chwarter canrif yn dalp mawr o'n hoes fach ac wedi siglo Haw a sbio i fyw llygad y naill y Hall, mor esgud y craffem ar y blew brith yn y gwalltiau oedd un mor oleu, a'r llall mor ddu, yr adeg honno Eithr paid a phoeni, Tudor, canys megis y dywedais lawer tro o'r blaen, fe'i dywedaf eto: Os yw'r galon yn gwynnu gyda'r gwallt, pin draen am bopeth arall y byd a'i helynt. £ K I Llwch Wm. Sbiwch yma, bobl dirion Croesoswallt! Bach a wyddoch fod llwch un o feirdd mwyaf Cymru'n llechu mor anghofus ym mynwent eich plwyf, sef llwch William Llyn,-ein bardd mwyaf rhwng Dafydd ab Gwilym a Goronwy Owen. Bu yma'n offeiriadu am ugain mlynedd, sef o 1560 i 1580 a phe gennyf awr arall wrth gefn cyn y tren, euthwn at y Ficer i ofyn am gael gweld y Register lie y dywedir ei gladdu ar y dydd olaf o Awst, 1580; ac hwyrach y gwelswn beth o'i sgrifen ef ei hun rhwng cloriau'r cofnodion gwerthfawr hynny. Os mynnech brawf ei fod yn fardd mawr, ac yn medru crynhoi cymaint doethineb i gwpled ag a fedrai ei efelychwyr ei grynhoi i gywydd, hwdiwch ddyfyniad neu ddau:- Doe yn wych yn dwyn iechyd,— A heddyw'r pridd arr y pryd. Byw'n gymwys heb hen gamau A bar i hil dyn barhau. Trugarhewch trwy garu hedd, Tra gwrol yw trugaredd. Oer oedd weled ar ddeulin Wylo gwaed lie bu alw gwin, A braw lie bu orawen, A gwaedd yn amlach na gwen. Ac nid ochi a marwnadu'n ddwys a fedrai'n unig, megis y gwiria'i bedair llinell hysbys i dlysni grudd rhyw ferch neu'i gilydd :— Gwyn yw'r haul gwanwr heli, Gwen uwch ton gwynnach wyt ti; Gwen yw gaenen ar y gweunydd, Gwennach yw graen gwen y'ch grudd. Dyna ddigon, rhag i mi ymdroi a cholli'r tren. *—» y Hen Gymraes yr Atgyfarfod. I Ond 'does dim modd gado'r dref heb gofio mai o Lanforda, ar ei godre, y cododd yr hynafiaethwr gwiwglod Edward Llwyd mai ar ol un o feibion Llywarch Hen y galwyd pentref Preesgweene, rhyngom a Gobowen draw. Llawer gwaith y cerddais i fyny i Selattyn a Chyrn y Bwch, lie y mae siroedd Dinbych a'r 'Mwythig, nid yn ymgusanu, end yn taro yn erbyn ei gilydd lie y mae Clawdd Offa i'w weled am filltiroedd yn atgof o gyf- lafan gas a gwaedlyd rhwng Cymry a Saeson yr hen oesoedd a lIe y mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn ymaflyd codwm mor gyndyn ers cyd o amser. Cofiaf fod ar ben y Bwch un diwrnod pur boeth ac er mwyn cael esgus i wybod os oedd yr hen Gymraeg yn cadw'i lie ar ben y Clawdd, ac nid o tano, ffwrdd a mi at fwthyn gerllaw i ofyn, yn fy iaith i fy hun, Welwch chwi'n dda roi llymaid o laeth enwyn i drempyn sychedig ? Cewch, 'n eno'r taid, dowch i fewn," ebe'r wreigan garedig mewn Cymraeg mor lydan ddilediaith a minnau. A dyna Ile bum yn.ymlenwi o fendith y fuwch a brechtan fara amyd. Wrth godi i fynd, a rhoi oil bach yn ei dwrn, gwelwn^olwg go gwla ar ei hwyneb. Sut y mae'r iechyd ? meddwn. Symol, symol," ebr hithau'n ol, "y mae rhyw atgyfarfod arnaf." Yr oedd atgyfarfod yn air anghynefin i mi Feirionwr, ac a'm gogleisiodd yn fawr. Nid oeddwn yn hoffi holi'r manylion ganddi hi ond tybio'r oeddwn i ar y pryd mai dwr poeth y diffyg treuliad oedd ar y wreigan j druan, a'i bod hi'n ei alw'n atgyfarfod am ei fod yn repeatio i fyny ac i lawr ei chorn. Eithr wedi holi hwn ac arall ar ol hynny, deall- ais mai chill a feddyliai, sef yr ias boeth bob yn ail ac oer honno a gripia dros ddyn pan fo annwyd wedi gafael yn ei feingefn. Taith a dalodd yn dda i mi am ei dringo oedd honno, canys cefais laeth enwyn y wlad yn lie glastwr y dref, a chefais o hyd i air da-nas gwyddwn V o'r blaen-am yr hen ias rynllyd honno sy'n rhingyli a rhagredegydd yr Angau mor fynych. Byddwn yn sbio o ben Cyrn y iswcu 0Ua. Llansilin, lie y gorwedd llwcii Huw Morus, Pont y Meibion ond byth y caf fy niircin os yr af i ddechreu son am yr hen Ereniiin- fardd duwiol os deubig hwnnw. 3t 3t, Am £ glwys^Seion a'i Phobi. j Yn eglwys Seion (M.C.) yr addolwn pan yng Nghroesoswallt, tan fugeiliaeth T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth bellach, os iawn y cofiaf. Byth y'i gwelais wedyn; ond y mae fy mharch iddo'n fawr o hyd, dywedwch wrtho a'r llyfr hwnnw ar Sant Paul a roes i mi'n an- rheg wrth ado'r dref yn peri imi gofio'r ami awr ddiddan, fywiog a dreuliais yn y Gym- deithas Lenyddol honno wrth ddadlu a dysgu sefyll ar fy nhraed yn erbyn diwinyddion selog Seion. Y mae ami un ohonynt bellach yn y bedd, ac wedi cael cyfle ers blynyddau i fynd at Paul ei hun yn y Drydedd Nef i ofyn iddo beth yn y byd mawr oedd o'n feddwl wrth yr adnodau c'ledion a cheinciog hynny yn y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid barodd i Galfiniaid ae Arminiaid Cymru a'r byd golli cymaint o'u gras wrth ymryson crasineb uwch eu pennau. Ie," ebe Tudor fel tae, I C, nd pe buasai'r "Apostol wedi sgrifennu n hollol glir a diamwys, nes na fuasai modd i neb wa- "haniaethu mewn barn ar ei eiriau, 'chawsech chwi a finnau mo hanner yr hwyl a gaem yn y dosbarth darllen nos Lun a'r Gymdeitlaas Lenyddol nos Iau a dyna Ie dwl ac annifyr fuasai'r Ysgol Sul pe pawb 'r un tarn. 'Does dim byd tebyg i geisio torri cnau c'ledion yr hen Baul at hogir dannedd diwinyddol. A pheth arall, onibai ei fod o yn dywyll a dyrys fel y mae, fe gollsem ni'r argraffwyr a hwy- thau'r diwinyddion gyfie i ennill ein clod a'n cynhaliaeth wrth gyhoeddi a sgrif- onnu esboniadau arno. Yn debyg i'r fel y mae hi gyda deddfau'r Senedd yna y maent wedi eu geirio mor ddyrys a deubig nes fod raid cael cyfreithiwri'whesbonio, os eu hesbonio hefyd. Ac amwysedd anorffen y gyfraith yw ei gogoniant yn ei olwg ef." Wir, yr wyt ti'n siarad yn dda, Tudor k 15b I Dosbarth John Evans a'r ddau M.A. Os cywir fy nghof, yr oedd Owen Owen, M.A., yr Higk School-sef arolygydd Bwrdd Canol Cymru bellach-yn flaenor yn Seion ar y pryd, ond ei gyd-flaenor, sef y diweddar Mr. John Evans, M.A., a gadwai ysgol arall yn y dref, oedd fy athro i yn yr Ysgol Sul, ac yr awn ato ambell noson waith i gael fy rhoi ar ben y ffordd sut i dreiglo'r amo o'r amare ac yn y blaen. Y mae'n gof gennyf glywed ar y pryd fel y byddai ami i bregethwr ofnus yn crynnu rhag dorian feirniadol y ddau M.A. wrandawai tan fondo'r pulpud; ond pan ddeuai'r Parch. Hwn-a-Hwn yno i'w gy- hoeddiad, fe fyddai un o'r frawdoliaeth hen ffasiwn a di-goleg yn barod i weiddi fel y gwaeddodd rhywun arall ar achlysur cyffelyb Hidia befo nhw, 'ngwas i. Dos yn dy "flaen; 'does yr un ohonynt nhw at wasband dy glos di Dyn galluog oedd John Evans, ond od ryfeddol ei ffordd, ac yn synfyfyrio mewn uchelderau athronyddol rhy bell i gorachod fel y ni ei gyrraedd, 'rwy'n ofni. Dosbarth da at ei gilydd oedd ei ddosbarth, ac yn fraint i fychan fel y fi gael drachtio o sten dysg a diwylliant dyn mor llawn. P'sawl gwaith y'i clywais yn son am I. D. Ffraid, y gwr a droes Paradise Lost Milton i Gall Gwynfa'r Gymraeg. Ya gwn i a oedd o yn perthyn iddo ? Dichon fod rhywrai a etyb, ac a foddia 'nghywrein- rwydd am f'hen athro. Ie, dosbarth difyr oedd ei ddosbarth, llydain eu gorwel, goddef- gar a charuaidd eu hysbryd, ac heb ynddo'r un o'r porcupines bach cecrus hynny sy'n tybied fod nefoedd gwybodaeth a gwirionedd i gyd yn eiddynt hwy fod Duw wedi dweyd ei gyfrinach i gyd wrthynt hwy a'u tebyg, ac nad oedd ganddo'r un gair wedi ei adael i'w ddweyd wrth yr." anffyddiaid dwl a dryg- ionus a feiddiai wahaniaethu oddiwrthynt. A'u helpo gadewch iddynt bwdu a sorri yn eu seler dywell. Os na fedro dyn fod yn hawddgar a gostyngedig wrth drafod Efengyl anfeidrol Duw, y peth goreu ydyw ei drochi dros ei ben a'i glustiau yng-nghrochan Gras, a'i adael i ferwi'r fan honno nes stwytho a meddalu ei bigau drain. A phan fo'n barod i'w godi o'i Grochan, siawns na fydd o yn ddigon o ddyn a Christion i beidio a cholli ei reswm a'i ras (os oedd ganddo rywfaint o'r ddau, i'w colli) wrth gethru a glafoeri dros ei shiboleth diwinyddol. Lie addysg- iadol ac yn foddion gras ydyw dosbarth Ysgol Sul lie y bo athro duwiol a medrus a digon o addfwynder gostyngedig yn yr ael- odau, heb ddim o anffaeledigrwydd y Mr. Cul Anwybodus hwnnw, sydd eto heb ddysgu ABC Efengyl ei Feistr. as2 Saeth o Fwa'r Eglwysbach. I Ie, a chan gofio, yng Nghroesoswallt yr adeg honno y clywais i John Evans, Eglwys- bach-(pa ddiben colli amser i gydio'r Parch. dianghenraid wrth enw fydd fyw mor hawdd a hir hebddo ?)—yn dweyd sylwtebyg i hwn ar bregeth noson waith ie, sylw tebyg i hwn cofiwch, canys ni sgrifennais i ddim ohono, ac nid wy'n cofio'i eiriau,—dim end eu hergyd: Dyna beth peryglus ydyw dawn a dylanwad, bobol! Canys oni wn i am amboll i frawd o bregethwr a ddamniwyd gan ei ddawn, ac a fuasai ar gael a chadw heno yn y Nef onibae iddo ymollwng i falchio yn ei lais a'i lifeiriant ? Canys wrth weld fel y medrai blygu'r bobol fel brwyn a gwynt ei hyawdledd, a'u gyrru i chwerthin bob yn ail ag wylo a'i stori ddwys a'i sylw ysmala, fe aiff y dyn i ymbesgi ar ei hunan- fawrhad, ac i greu'r achos er mwyn gweld yreffaith." Yn debyg i fel y gwelsoch ambell cricketer, ar ol rhoi batiad go bell i'r bel, yn edrych arni'n chwyrlïo dros y cae, a'r miwsig melys hwnnw-clap y gynulleidfa edrychwyr-yn dod iddo gymaint allai drwy'i ddau glust. Addefwn y gwir, gyfeillion, y mae cryn lawer gormod onid oes, 'n awr ?—o'r hunan- fawrhad yma yng ngwaed pawb ohonom, lien a lleyg; a phan godom ar ein traed i bregethu, neu y gostyngwn ddeulin i weddio, neu yr eisteddom mewn cadair i sgrifennu, neu pa botil bynnag y geiwir arnom i'w gyflawni'n gynoeddus, os teimlwn yr hen Hunan hyll yma yn nesu atom, i andwyo'n gwaith, goll- yngwn y saetii uciiod o fwa'r Eglwysbach yn syth i'r galon, ac odid fawr na red y gwaed du a drwg allan drwy'r twll. Efengyl Crist yw'r unig beth all wella'r heart disease sydd arnoch chwi a finnau. Vlwyd a thifiynf-) 8.-rerogi Crist arni Gyda Mr. a Mrs. Jenks y lletywn yng Nghroesoswallt; y hi'n Gymraes, yntau'n Sais, a'r ddau'n dduwiol a charedig tuhwnt wrth lencyn swil a hawdd ganddo wrido fel y fi. Cadwai ddyledswydd bob dydd, gweithio overtime neu beidio ac If we are not permitted to meet and see each other's faces in this world, do grant "us, our dear Lord, to meet and stand "together for aye at the foot of Thy Throne—in the next," ebe'r hen weddiwr serchog, a chryndod yn dod i'w lais, wrth ymbil a Duw am ei fab oedd draw ym mhellteroedd y byd, tua San Francisco neu rywle. 'Eill dyn-er i hwnnw fod yn bitw o newyddiadurwr oer a diffrwyth, —ddim bod yn hir ar aelwyd felly-oedd mor lawn o berarogl Crist—heb i beth ohono, beth bynnag, lynnu wrtho a mynd yn ddyfnach na'i ddillad. A phe deuai'r ddyledswydd honno yn ol i holl aelwydydd Cymru fe glywech y Byd a'r Eglwys yn snwffian mwy o'i Phersawr oddiar fywyd ei phlant. •5s k I Lie cwrddo dau IIf. Dydd Sul a diwrnod ffair fyddai oreu gennyf o'r saith yng Nghroesoswallt. Dydd Sul, am y ceid gado pethau'r byd hwn a chael seiat fer gyda phethau'r Byd Arall, sy mor wahanol i'w gilydd a diwrnod ffair, am y clywid mwy o glee hyfryd y Gymraeg yno'r diwrnod hwnnw. Ffermwyr mynyddoedd Cymru wedi dod i lawr i gyndyn fargeinio â ffermwyr gwastadedd Mwythig ac yn y blaen, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt ag sy rhwng defaid mawrion a blonhegog y dolydd a defaid bychain ond mil blasusach clogwyni'r Hen Wlad. Ddiwrnod ffair, mewn tref sydd ar ffin dwy wlad, dyna deithi'r ddwy genedl yn dod i ymyl ei gilydd a lie cwrddo dau lif, bydd y dwr gan amlaf yn llwyd a budr ond gyda phrun y daw mwyaf o'r baw, bernwch chwi. 3P;Q I Rhai o'm Gymdelthion Cu. John Hughes—brawd Hugh Maurice Hughes, awdur Ceinion Berwyn, a pherthyn- as i Geiriog-oedd fy nghydymaith mynych o oedfaon Seion; efe'n ei fedd, minnau'n fyw, am ryw reswm neu gilydd Cyfaill cu oedd John, a bardd da oedd ei frawd, ond a fu farw yn New York cyn braidd gyrraedd anterth ei awen. Llawer orig a dreuliais ar aelwyd Mr. Roberts y draper, oedd yn gaeth gan afiechyd ers blynyddau, ond a anghofiai ei boen, er ei chymaint, os troech i ddadlu ac ameu un o'r Pum Pwnc. Pan ddelo'm tro innau i fynd i wely cystudd, gorwedd a gaffwyf gyda chymaint gras ac amynedd a ffydd yn y Cystuddiwr Tirion ag oedd ganddo fo. Yn fy myw y medraf gofio enw'r hen lane a gydgerddai a mi mor fynych, a hynny am ei fod yn Gymro mor benboeth a finnau, ac yn hoffio'r frawddeg honno am Bryderi yn anad yr un sydd yn y Mabinogion-" A'i fwyd oedd Saeson Y mae nyth ac aelwyd G. A. Edwards, M.A. —bugail eglwys Saesneg Salop Road—ar odre'r dref ond pe'r awn yno, ac y dech- reuai'r Gwilym diddan hwnnw danio'i getyn ac ymollwng i siarad, fe gollwn fy nhren ac felly, hawddamor, Gwilym, nes y cwrddwn eto, bryd bynnag y bo hynny. Gobeithio fod y praidd yn cadw'n wlanog, diddig a didwlc. Hwy ddylent, beth bynnag, a hwythau'n cael eu cadw mewn cae mor fras ac yn pori at eu clustiau ym meillion y Drefn. Wedi dweyd Dydd da wrth Tudor, a gweld Thos. Williams ei dad yn sbio arnaf drwy lygaid gloywon y mab, ffwrdd a fi i orsaf y Cambrian, rhwng lleddf a lion wrth glywed atgofion Croesoswallt yn codi'n un cor cymysg yn fy mron lawn. 'Doeddwn i ddimyn meddwl ymdroi mwy na rhyw hanner colofn gyda Chroesoswallt wrth ddechreu'm llith; eithr beth a wnaf ? 'doedd gen i ddim help yr hen ferlyn tuthiog aeth a fi, er mwyn stwytho'i grimog. Os y bydd o a finnau ar dir y byw, fe ddaw hanes gweddill y daith i Fachynlleth a'r Penrhyn gynted gellir. Llygad y Wawr J.H.J. I
——o Rhiwmatic ac Arhwl= deb…
——o Rhiwmatic ac Arhwl= deb y Kidney. Triniaeth Rad. I Y MAE rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r eymalau, effaith gormod o uric acid yn y eyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw'r achos pennaf o boen yn y cefn, lumbago,sciatica., gowt, annhrefn y dwfr, carreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's diseasa. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaothau ar ol yr oes -sy'n ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o focses o Dabledi Estora yn cael eu CYNNYO YN RHAD er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad naeddyginiaeth onest at y Kidney am bris gonest, Is. lid. y bocs o 40 o dabledi, neu 6 bocs am 6^. Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae'r cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i ddarllenwyr Y BRYTHON am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ac ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda 3d. mewn stamps, onit6 fe anwybyddir y ceisiadau a'r amcan ydyw, diogelu rhag rhai nad oes arnynt angen am y cynnyg. Cyfeiriad Estora Co., 132 Charing Cross Road, London, W.C
t^fetan y Gol.
t^fetan y Gol. Cofi-ed pawb fo'n anfon i'r Ffetari tpiai dyti-ta'r gair sydd ar ei gencm;— i N'ITIi,iori GAU A NYTfiuR GwiR. i i —1— { Am Glwyd a Lluniaeth y Pals. I At Olygydd Y BRYTHON I MR. GOL. Ymddengys eich bod yn cymryd diddordeb mawr yn y Pals, fel eu gelwir. Buasai'n dda gennyf pe y buasech gyda mi ddydd Sadwrn ar ol y Nadolig, gael i chwi dynnu darlun destlus —fel y medrwch chwi— o'r Cartref y maent ynddo yn Knowsley Park. Cartref," meddwn. Ie, y mae'r hogiau druain yn ymdrechu ei wneud mor debyg i Gartref Oddicartref ag sy fodd. Bythynod coed ydynt, a'u sylfeini rhyw lathen a hanner oddiwrth y ddaear, a da iawn hynny, oblegid gwlyb a lleidiog iawn yw honno. Yr oedd y bechgyn wedi gwisgo'r bythynod yn hardd erbyn y Nadolig. Mae i bob bwthyn el enw, megis Noah's Ark, The Vicarage, The Adelphi, The A rcadia, ac yn y blaen. Buinyn Arch Noah," ond ni welais i yr un anifiai yno, na'r un o'r gwragedd. Yr oedd y meib* ion yn brysur iawn y diwrnod hwn,—rhai'* glanhau'r ty, eraill yn gloewi eu hesgidiau, ac arall yn canu'r piano. Bum trwy bob eongl o'r lie oddigerth tý'r meddyg, a welais i neb o'r hogiau'n tywyllu ei ddrws heddyw ond mi wn iddo fod yn brysur iawn,-cafodd y llawer ohonynt annwyd trwm. Chwi syn- nech, Mr. Gol., pe gwelsech y peiriannau coginio sydd yno,—popeth i'r dim, yn grochanau pres, a phob un ei orchwyl ei hun. Rhai i'r te, eraill i'r tatws a'r maip, a'r moron, arall i'r uwd, a'r llall i'r pwdin a phe y gwelsech chwi y tunelli o gig a rostid, a'r plateidiau gaffai'r hogiau a chwarae teg i'r cogydd, fe gynhygiodd blatied i minnau., Pwdin tapioca oedd yno heddyw, ac nid a llwy y'i codid o'r crochan, ond a chwpan brEI fawr, ac fe welais ami un o'r hogiau yn ail helpio ei hun. Wirionedd i, wyddwn i ddim yn iawn prun ai crio ai ynteu chwerthin a wnawn i. Gallaswn wneud y ddau, wrth weled yr hogiau yn golchi'r llestri a chlirio'r byrddau, lawer ohonynt mi wyddwn yn dda heb olchi cwpan de erioed o'r blaen. Peth arall hefyd a enynnodd dosturi ynnof oedd gweled ugeiniau 0 geibiau a rhawiau, i dorri'r ilosydd (trenches),-hogiau heb erioed afael mewn dim trymach na chwilsyn ysgrifennu o'r blaen. Ond y mae'r holl orchwylion hyn yn dygymod a'r meibion ac yn eu tynnu allan, nes gwneud dynion a milwyr ohonynt, os daw rhaid. Yr oedd yr hogiau yn dweyd wrthyf pe y buaswn yno ddydd Nadolig y buasai'r olygfa yn y cogdy yn wahanoi, am fod y da pluog yn helaeth yno, y twrci a'r hwyaid a'r gwyddau ond digon da nad euthum i ddim, achos ni buasent ond yn' tynnu dwfr o'm dannedd,—hynny o ddannedd a feddaf. Dywedent hefyd iddynt fod allan rhyw ddiwrnod yn curo'r twmpathau i'w arglwyddiaeth Iarll Derby, ac fod yna gwpwl o betris i gael eu hanfon i rieni'r bech- gyn a byth o'r fan yma, dyma glamp o ffesant i minnau heddyw'r b( re' No.2 a 3Com- pany sydd yn Knowsley, ac yn Prescot y mae No. 1. Gelwais yno hefyd wrth ddod adref mewn rhyw hen adeilad mawr y maent hwy yno, a'r cwbl o dan yr unto, mewn gwahanol ystafelloedd, ond i gyd yn bwyta yn yr un lie. Yr oedd yno ddarparu mawr nos Sadwrn ar gyfer cyngerdd mawr oedd i'w gynnal yno. Mae lliaws mawr o Gymry'n heglwysi yn y No. 1 yma. Rhyw air fel hyn yn Beir a brysiog, a hynny ar ran amryw o hogiau Cymru. Anfonwch air o hanes eich hym- weliad i'r BRYTHON," meddent. Gan gofio, Mr. Gol., cymerais yn fy mhen dri neu bedwar nos Sul yn ddiweddar i weled yr hogiau yma'n troi yn ol gyda'r tren, ar ol eu week ends. Fel y gwyddis, yr oedd yma fil a mwy o demtasiynau yn barod i'w derbyn, y tafarnau a'u drysau yn agored led y pen nos Sadyrnau ac am oriau y Sul; ond teg dweyd, er imi fod yn fanwl iawn, na welais gymaint ag un o'r cannoedd lawer oedd yn dychwelyd yn ol a'r mymryn lleiaf o arwydd diod arno. Wel, y mae hyn yn gysur mawr i'w rhieni,—luaws ohonynt yng Nghymru a'u calonnau'n ddigon trist. Wel, nawdd Duw fyddo dros eu cymeriadau. D. JONES. I Y Lawryf Wyrdd. At Olyqydd Y BRYTHON SYR,-Wedi darllen ysgrif eich gohebydd D.O.G. yn eich rhifyn diweddaf ar A.rch- iagon a geiriau eraill," gwelais air arall ddefnyddir am archiagon, sef yw hwnnw, Diagon. Gwelir ef mewn penhillion a yrgrif ennwyd gan un o feirdd Arfon, Dafydd Ddu Eryri, fel y tybir a dyma'r ddwy linell lie y digwydd :— Lie rhoes y Diagon flodeugerdd. Diddymu'r Diagon o'i degweh. Y diagon hwnjw Edmwnd Prys. Ond yr hyn sy'n rhoi trafferth i mi yw'r frawddeg uchod sydd uwchben y llythyr hwn. Nid yn gymaint pa un ai y lawryf wyrdd neu y llawryf wyrdd sydd oreu, eithr yn hytrach paham na ddywedir "y llawryf werdd." Onid yw llawryf o ran cenedl yn dilyn y rheol gyffredin yn y Gymraeg ? Y mae cenedl enwau coed yn fenywaidd, e.g. ffawydden, poplysen, cedrwydden, gwinwydden, etc. Ac felly, onid y llawryf werdd "sy'n gywir, yn ol dull y Gymraeg ? A fydd rhyw ddar. llenydd o'ch greal ddaed a thaflu goleuni ar hyn o fater ?—Yr eiddoch, etc. Dygwyl y Blychau, 1914 A.A.
Advertising
Gomeip y Plait. G WERSLyFR I DDOSBARTHIADAU CYMRAEG Wedi ei ysgrifennu a'i drefnu dan nawdd Undeb Ysgolion M.C, Lerpwl, gan OWEN EILIAN OWEN. Pris 4c., drwy'r post 5c Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython. 4