Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Gydar Milwyr Cymriig I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gydar Milwyr Cymriig I YnggNgbaergrawnt bellach 1 YN Cambridge y ceir y rhan fwyaf o'r hyn a adnabyddir fel y Welsh Division bellach. Symudodd y cwbl o Northampton ddydd Llun diweddaf, ac y maent erbyn hyn wedi cyrr- aedd byd y Prifysgolion-prawf lied sicr eu bod yn myned rhagddynt. Dywedir yma y bydd y rhan o'r Division sydd ar hyn o bryd yn yr East Coast yn dod i Gaergrawnt ryw- bryd yr wythnos nesaf, neu o leiaf yr wythnos ddilynol. Pan ddaw y rhai hyn bydd yma amryw filoedd yn cael eu hychwanegu at y Cymry sydd yma eisoes. Prysur ia wn ydym y dyddiau hyn yn darpar ar gyfer anghenion moesol ac ysbrydol ein cydgenedl yma. Da fydd gennych ddeall ein bod yn cael pob cyn- horthwy yn y gwaith hwn gan weinidogion ac dref. Yn hyn, mae gwahaniaeth amlwg rhwng Eglwysi YmneilltuolCaergrawnt rhagor rhai lieoedd y buom ynddynt. Dwy oedfa fydd gennym yfory, sef y Welsh Church Parade am 9.30. Cynhelir hwn yng nghapel Emanuel, addoldy'r Annibynwyr yn Trum- pington Street. Anodd taro ar le mwy cyfleus. Am 6.30, mewn ysgoldy eang per- thynol i Eglwys y Bedyddwyr yn St. Andrew Street, y cynhelir cyfarfod yr hwyr. Yng nghyfarfod y bore bydd y Parch. Idwal Roberts yn pregethu, rhaid i minnau geisio gwneud hynny yn yr hwyr. Heddyw, drwy'r glaw i gyd, yr ydym (y Parch. Idwal Roberts a minnau) wedi cerdded y dref hon drosti, gallem feddwl. Nid gwaith hawdd ydoedd dod o hyd i'r gwahanol gatrodau, a threfnu eu cael i'r cyfarfodydd. Cawsom bob rhyddid a chroeso gan y swyddogion, ac yr oedd y mil- wyr wrth fodd eu calon oblegid i ni eu dilyn yma. Pa aberth bynnag a olyga hynny, yr oedd cyfarchiad cynnes, a'r diolch calonnog a gawsom heddyw, yn fwy na digon o dal am y cyfan. Parch. Idwal Roberts, Clynnog, Parch. Parry, Abermaw. Parch. P. Bangor. Parch. D. Hoskins, C'arfon. Parch. T. Lloyd, Llanber,s Neithiwr-nos Nadolig-yr oeddym yn ein liystafell yn ceisio darpar ar gyfer gwaith drannoeth. Yn sydyn. clywem ganu Lead, kindly L ght. Wedi gwrando, dyma droi at ein gilydd mewn syndod, ac ebe fy nghyfaill, "Dyna ganu teilwng o Gymru Yn sydyn, wedi ychydig ddistawrwydd, dyna oil ganu. Er ein syndod, yr hen d6n Aber- ystwyth a glywid y pryd hwn, a hynny ar y geiriau Beth sydd i mi yn y byd ? Wedi gwrando ennyd, yr oeddym ein dau ar ein traed yn rhuthro am y cyntaf tua'r drws. Gwelsom ar unwaith oddeutu hanner cant o fechgyn glan Cymru'n canu a'u holl egni. Gellwch feddwl na buom yn hir heb fod yn eu canol, yn ymuno yn y gan. Yr oedd y bech- gyn wrth eu bodd pan. welsant eu bod wedi I dod o hyd i ni, ac wedi llwyddo i'n codi allan. Da fuasai gennym pe caniatai amser i roddi hanes yr yniadawiad o Northampton. Cafwyd A=er da yno, fel y gwyr Cymru i gyd. Ond y mae popeth da yn dod i ben yma, ac felly y bu yn hanes cysylltiad y milwyr Cymreig a Northampton. Traddodwyd y bregeth olaf gan wr y teimlem i gyd yn dra dyledus iddo- y Parch. D. Hoskins, M.A. Yr oedd y cyn- hulliad lliosog yn dystiolaeth i werth ei waith. Cafwyd oedfa nad a o gof neb ohonom yn fuan. Ar ddiwedd y cyfarfod, cynhygiodd yr ysgrifennydd, a chefnogodd y Parch. Ceitho Da vies mewn araith wresog, bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Hoskins am ei wasanaeth llafurus a bendithiol tra yn Northampton, ynghyda dymuniad cywir am ei Iwyddiant ymha le bynnag y gwel Rhagluniaeth yn dda ei arwaih iddo. Cododd pawb ar eu traed i ddangos pa mor awyddus oeddynt i ymuno yn y diolchgarwch hwn. Y mae Mr. Hoskins erbyn hyn wedi cyrraedd Caernarfon, a bydd yn dechreu ar ei waith fel caplan y Fyddin Gymreig yn Llandudno ddydd Calan. Diau y bydd y wlad yn barod i ymuno a mi mewn dymuno iddo flwyddyn newydd dda yn ystyr uchaf y gair. Hyderwn y cofia'r wlad, pan y mae y gweithwyr yn symud, fod yn bwysig i'r gwaith fyned rhagddo. Bu Cymru ar ei gliniau ymhlaid y brodyr lafuriodd mor ddyfal yn Northampton. Cofier ninnaueto. Y mae ein hanawsterau'n cynhyddu, a'r gwaith, os rhywbeth, yn ychwanegu. Teim- Iwn ein gwendid, ac nid oes gennym ond syrth- io ar yr Hwn sydd abl i gynorthwyo. Os bydd rhyw ohebiaeth neu rodd yn cael ei hanfon yma, sylwer ar y cyfeiriad.-Cofion cu. THOS. LLOYD Gainsborough House, THOS, LLOYD I Mill Road, Cambridge.

Advertising

Crt-binio a fVSydvlu. I

Advertising