Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

HOT GOSTEG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HOT GOSTEG. I Mr. Rd. Jones, Oakland, Calijfomia.— Diolch am eich cerdyn Nadolig, mor dlws ei ddiwyg a chu ei eiriau, ac a blannodd yr Eluned acw'n syth yn ei halbum. Diolch am bob rhodd a thrugaredd ddaw yma, er gwaetha'r German a'i submarine Satanaidd. Tal. o Eifion, San Francisco.—Cyhoeddwyd eich Tipperary Gymraeg cyn i'r cywiriad ein cyrraedd. Mawr dda i chwi am gadw'n Gymro mor gynnes a chwithau ar encil mor bell o Ben y Morfa ers hanner canrif. Mynych y crybwyllai'r diweddar Wilym Alltwen eich enw wrthyf pan alwn i'w weld yn ei gystudd. Bum yn eich henfro'r dydd o'r blaen, sef wrth fedd Dafydd y Garreg Wen ym mynwent Ynys Cynhaearn, ac heibio Cwt y Bugail, hen gartref Edwart Samuel, y Cymro a gyfieith- odd lyfr yr Hugo Grotius i Gymraeg mor gampus. Rhaglen Toronto.-Diolch i Mr. L. E. Price, Cefn y Gader, Llanelidan, am anfon copi o raglen Eisteddfod Dydd Calan Toronto yma, my mor dlws ei diwyg a'i hargraff, ac yn dangos mor dynn y glyn Cymry Canada wrth yr ias gystadlu a gawsant gan yr Hen Wlad i fynd gyda hwy i'w cadw'n gynnes yn eu heth a'u hoerfel dros y mor. Dr. Edward Broome (Bangor gynt) yw beirniad y canu, a'r Proff. J. H. Michael, M.A. (un o Hoelion Wyth, os ieuanc, y Wesleaid pan tu yma i'r Werydd) yn barnu'r Adrodd a'r Llenyddiaeth a John Hughes, un o blant Llanelidan sy dros y Werydd ers tua deng mlynedd, yn ysgrifen- nydd yr wyl o'r dechreu. Yr unig air anhoff gan ein clust ni ar y rhaglen ydyw'r donated-The prize donated by So-and-So. Given ydyw'r goreu o lawer, ac yn fwy xwynol, os llai ei awn a'i wynt, na'r donated, wfft iddo

Advertising

..DYDDIADUR. I

Cyhoeddwyr y Cymod Y Saboth…

I Ffetan y Gol. I

Advertising

fin Canadt ym ttanceinion.

[No title]

Advertising