Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
HAVE You TRIED KEENORA SELF RAISING FLOUR P Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of suc- cess if you use Keenora Self-Raising Flour. Makes deliriously light Pastry, Cakes, Scones, BUllS, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you will be delighted. I
Advertising
BEATY BROS'. LTD. The Celebrated Tailors. GREAT CONCESSION. Suits to Measure, T HIS  And until ID K Y. 26/6 end of Jany. 7/6 Trousers 7/6 ELEVENTH YEAR.-Everything JUST AS USUAL, except that the value is unquestionably better than in previous years, SUITS <0?/? SUITS to measure. ?V/ ? to SmUeIaTsSure. EVERY POINT CAREFULLY CONSIDERED First Rate Materials, Sound Workmansbip Excellent Trimmings, and an assured Fit. BEATY BROS. I td., London Rd. & Church St., L'pool ■ A yw'ch ^Llygaid yn eich blino ? pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arjiyf^dd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael en hedrych rhag blaen; eirgwaethygu wna'u ke,tgrulueo. Gallwn ni, gyda'n hofFer gwyddon- .01, ddweyd wrthych os oes amoch angen gssj^diau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barSi fwyaf o les i chwi. Gahvch hcddyw- ARCHER & SONS Eyesight Specialists. 73 LORD STREET. I Sefydiwyd 1848. LIVERPOOL- .Pbone-392S Bank. W. Btiitii & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AtBO MX 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. JI MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc. .PhoDe-580 Bootle. Appreciated fo* 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond" PUme. iagkioaable, Chippendale Rosewood Case, comp ete Iro* Frame, Metal Pressure Bar and Bridge, Check Actios, beautiful tone and touch, unequalled value. 23 Guineas "Arthur Day Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame, ChetSk Action, beautiful finish, tone and touch remttrkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artistic case, Overstrung Full Iron Frame# Underdamper Check Action, an instrument to pleasa the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. musioli Instrument*, Music Fittings of all kinds, Strings. Records. Records-, LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS Gramophones all prices.. BOND CO., 4 Lime Street, Liverpool. IF YOU WANT REALLY GOOD Hm BOOTS TRY hUNTS, 49 Paradise St; Liverpool The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool te select from, for Ladies 6 Gentlemen, Youths and Boys School Boots to great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottlee, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER. LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc- IORIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica. Lumbago 42c Burns. Scalds, Cuts, Bruises &c > ALWAYS BANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WOkDERRJL. Get a Bottle at once fromil your Grocer or Chemii Price I/lid. 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG. N.WALES. ROBERTS io EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
I Trem 1-' 0 ! Ryfel Erchyll'!¡
Trem 1-' 0 Ryfel Erchyll'! Y RHYFEL erchyll, fyth a hefyd onid yw erbyn hyn yn ddiflastod i son amdano ? Felly y tyb rhai, ac nid ychydig eu nifer. Drwg gennym ein bod yn ysgrifennu'r hyn all fod yn wrthwynebus i neb. Fod y rhyfel yn "erchyll" aeddyfpawh. Anodd meddwl am dano na theimla dyn fod ei galon yn fathrfa i ddychryniadau a gofidiau trwrn eu sang. Ac ni wyddom ni pa fodd y gallai neb lefaru nac ysgrifennu ar y mater i fodloni ei deimlad. Un camgymeriad dybryd a wneir yw meddwl mai hoffter o'r hanes a bair i rai son cymaint amdano. 0 helaethrwydd y galon y llefara'r genau." Gwir hynny. Eto, nid a difyrrwch y llenwir calon dyn bob amser. Mae hi'n ami yn "Hawn o ofid, llawn o wae, a llawn euogrwydd du." Gobeithiwn nad yw ein calon yr un fath a'r ffenestr sydd i'r ystafell. yr ydym ynddi,—yn gollwng y goleuni mwyn i fewn, ond yn cau allan y gwynt a'r glaw a'r oerni, Dyna gamp ffenestr; ond nid camp calon ddynol, yn hinsoddau y bywyd cymdeithasol. Ni fyn cariad Cristionogol gau arno'i hun mewn moethusrwydd nac anystyriaeth, pan glywo swn drycin oddiallan. Mae cydymdeimlad yn agored i bob tywydd daro arno, ac ni red dan do rhag unrhyw dymestl fo'n curo ar Frawdoliaeth Dyn. Deil ei hun ar led i ddrycin yn gystal a hindda, corwynt oer yn gystal a heulwen haf. Yn eu holl gystudd efe a gystuddiwyd" dyna galon fawr, agored, y Mesia. A than fedydd ei hysbryd hi y gallodd Paul hefyd ddywedyd, Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan ? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi ? Gwneuthurwr pebyll oedd efe, a. phabell hefyd oedd ei Phariseaeth. Yr oedd yn grefftwr campus ar "weithredoedd da," yn ol rheolau defod a seremoni. Derbyniai ei sect ei hun i fewn, ond ai allan i erlid y rhai oedd o ffydd Tesu. Ond cafodd weledigaeth a'i newidiodd am byth, a hynny yn wyneb yr Hwn y buasai'n ei erlid. Derbyniodd y Groes i fewn i'w fywyd, a chyda hi fe welodd fod yr holl fyd dynol yn dod, ac mai rhaid oedd cael lie digon eang i'r cyfan. Paciodd ei babell Phariseaidd i fyny, bwriodd hi i dan y galon a fflamiai mewn cydymdeimlad a phob dyn a chenedl ar wyneb daear. 0 hynny allan, yn lie ymnythu'n foethus a hunanfwynhaol ym mhabell fechan sect, aeth ei enaid mawr allan i'r awyr agored, i dderbyn a ddeuai arno o'r cwmwl a'r heulwen, drycin a hindda, fel un o'r teulu mawr yr oedd y Tad Nefol yn eu ceisio iddo'i hun, heb dderbyn wyneb neb mwy na'i gilydd-o ran Ei groeso trugarog iddynt. Cafodd ei hun ynghanol torf aneirif oedd allan mewn tymestl o drallod ac ing, a chlywodd hwynt yn griddfan am ollyngdod "Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cyd-ocheneidio ac yn cydofidio hyd y pryd hwn." Dyma blant y cyd-ofid," ac ni chlywsai clust Phariseaeth byth mo'u gweddi, ac ni feddyl- iasai Pharisdacl byth ei fod yn un ohonynt. Ond yr oedd Paul, erbyn hyn, wedi cael bywhau, dyfnhau, ac ehangu ei galcn a'i hagor i'r cydfyd mawr. Canfu unoliaeth y cread yng ngoleu'r Ymgnawdoliad, cyn i wyddonwyr ei weled yng ngoleuni gwyddon- iaeth a chanfu ddeddf ymddatblygiad a'i galon, cyn i Darwin ei chafod a'i ben. Ac mae'r galon Gristionogol o hyd yn rhy eang i ymbabellu mewn sectau na phleidiau, ie -ft,a c,i,ei?,hedloedd. chwaith. Pie bynnag y mae'r galon a dderbyniodd y Groes i fewn iddi, teimla wrth ei derbyn hi, y rhaid derbyn y Germaniaid, yr Awstriaid, y Tyrc- iaid, yr Hungariaid, a'u cefnogwyr i gyd, yn gystal a'r Prydeiniaid, y Ffrancod, y Rwsiaid, y Serbiaid, a'r Japan ia id, a'u cefnogwyr hwythau. Fe deifl y galon Gristionogol ei hun yn agored i bedwar pwynt y byd, gan gyfranogi, mewn cydymdeimlad, a dynolryw ymhob man, a gweddio drostynt i gyd. Mae'r ddrycin fawr sy'n curo ar Ewrop a'r byd, yn yr Armagedon hon. yn euro ar galon pob Cristion gwirioneddol, ac fe a hwn ar ei liniau ynghanol y dymestl-i gyd- ocheneidio a cbvd-ofidio," mewn dyhead a gweddi am doriad y wawr ar y nos, a fchangnef hindda, ar yr wybr sy'n fflamio gan fellt, yn siglo gan ru taranau Beth bynnag fo'i syniad am achos a hynt y rhyfel, a'i glod neu ei anghlod i'r naill oolir neu'r llall, mae'r ffaith fod dynion yn y brwydrau, y bywydau gwerthfawr a gollir, yr ebyrth mawrion a wneir, a'r trueni annhraethadwy a achosir ar iwv a aebosir ar bob Ilaw-a hyn i gyd yn parhait ymlaen yn ei rwysg a'i rym !—y mae, ni gredwn, yn cyhoeddi Ichabod" ar galon unrhyw Gristion a "gauo ei dosturi i fyny, neu a gauo arno'i hun yn dawel ym mhabell ei farn bersonol am gymeriad y rhyfel, neu hyd yn oed ei gyfvindrefn foesegol (ethics). r.
I Trem 11-Ysbryd, et Gweithredoedd.
I Trem 11-Ysbryd, et Gweith- redoedd. Dywedwn eto fod rhai, yn ol ein barn ni, yn rhy barod i briodoli culni calon i'r neb a gredo yn yr angenrlieidrwydd am i Germani gael ei gorchfygu yn y rhyfel hwn, a bod Prydain yn iawn wrth arnddiffyn ei hun. Clywsom oflrymu llawer o weddiau yn ystod y misoedd diweddaf. Clywsom eiriau con- demniol ar Germani. Clywsom weddio am i'r gelyn,ycredid ei fod yn ymosod yn anghyfiawn a chreulon, gael ei orchfygu. Ond clywsom yr un pryd weddio dros y gelynion, ac addefiadau o bechodau'n cenedl ein liunain. Clywsom, yn ddiau, weddio ar ran v.dioddef wyr yn y trychineb ofnadwy hwn. Clywsom weddio am i derfyn buan ddod ar y rhyfel, ac i heddweh, yn ol ewyllys Duw, gael ei sefydlu'n ddiogel. Ni chlywsom neb yn diolch i Dduw am ryfel, fel y moddion priodol i benderfynu cwerylon rhwng -ceii hadloedd a theyrnasoedd, eithr yn gresynnu fod y byd eto heb ddeall yn well na hynny. Pe credem fod rhyfel yn angenrheidiol fel amod dyrchafiad pobloedd a chenhedloedd, rhaid fyddai inni dderbyn dysgeidiaeth anfoesol a barbaraidd Bernhardi, a Germaniaid eraill. Dysgant hwy nad all cenhedloedd dyfu ond ar yr amod o ryfela. Os credant eu credo proffesedig, maent wrth eu bodd o'r diwedd; canys nid yw rhyfel iddynt hwy ond crud i wroniaid, yn cael ei siglo gan fagnelau, a griddfannau'n hwian-gerddi. Os oes coel ar a ddywed Caiser ei hun, myn ei fod yn Ddialydd dros Dduw ar genhedloedd eraill Ewrop—nad ydynt ar ei ochr ef. Am eu bod yn ymladd drosto, fe gyfrif yr Awstriaid yn annwyl gariadus frodyr, a'r Tyrciaid yn fendigedig. Dyna fel yr edrych ef ar yr Armagodon. Da gennym ninnau fod ymysg y rhai a edrychant yn wahanol ami. Y inae Un a farn rhyngom, ac iddo Ef y cyflwynwn y ddedfryd derfynol, beth bynnag fo honno. Ond er gwrando a darllen llawer a meddwl goreu y gallwn, cawn ein hun yn dod i'r un casgliad o hyd,mai Germani a, gynheuodd yr oddaith ofnadwy hon. Addef- wn, unwaith eto, nad ym yn cyfrif hyd yn oed Loegr yn agos i lan oddiwrth ysbryd rhyfel. Nid oes wlad dan haul yn ddieuog ohono. Yn wir, nid yw America felly. Mewn araith hwyliog a draddododd yr Arlywydd Wilson y dydd o'r blaen, ym- ffrostiai yn safle'r Unol Daleithiau fel gwlad a garai hedd, ac a allai edrych i lawr ar y trueiniaid oedd mewn rhyfel a'i gilydd. Cai weledigaeth ar deyrnasoedd Ewrop yn apelit at y Tý Gwyn am help i ddod allan o'u pen- bleth ddiymadferth. Ond mae America, cyn belled ag y cynrychiolir hi gan Dr. Wilson, yn cofleidio'r delfryd materol a gorddodd ysbryd Germani i gychwyn y trychineb hwn. Bu hi'n ddigon distaw yn wyneb creulonderau
Advertising
< < < < < $ >< < <;>< < $ >< < 0 <^><$><$> <S>^<S> <$><$>  $EDWARD I W!LU?MS ? <$> <t>  ? "?ans Kouse, | GENERAL DRAPERS <$> AND MILLINERS, ❖ S 195/7 & 199 LONDON ROAD, <$> LIVERPOOL. ❖ —— o GREAT <$> GBEAT ❖ I Annual Sale t | NOW PROCEEDING. | <$. ===== <$> I 5ee Windows for Bargains. t 0' v Closed at 1 o cloch o? Wednesdays. <?<$>  ??<$>??????????????<??????<?????????