Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Ffetan y Gol. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. I Hen Fynwent y Llan. I At Olygydd Y BRYTHON I SYB,—Weithiau, fe fydd rhai o'cli goheb- wyr o'r wlad yn codi englyn oddiar garreg fedd a'i yrrn i'r BRYTHON. Er nad ydyw yn naturiol, nac ychwaith yn iawn i ni fod byth a hefyd yn meddwl am awr yr ymddat.odiad a'r dyfodol tyvvyll, eto credaf fod rhyw snvyti rhyfedd ym mynwent y Llan i'r Cymro bob amser. Onid oes rhyw gysegredigrwydd rhyfedd yn hofran dros hon ? Yma y mae tevrn y dychryniadau yn cadw ei gaethion ynghyd mewn rhyw gyfartalwch dieithr ond fod gan ludw'r cyfoethog ei gofadail farmor, tra y llecha llwch y tlawd dan y garreg ddi- addurn neu y dywarchen las. Yma y mae trwst cymfleithas yn distewi, a'r atgofion yn deffro. Beth amser yn ol, cefais y fraint o droi i mewn i fynwent y plwyf lie ym ganed, os nad i weled fy hen gydnabod, eto i syllu ar y bedd- faen neu y dywarchen dan yr hon y gorwedd y sawl fu un pryd yn cydlwybro a mi yn y bywyd marwol hwn. Euthum ymlaen ar hyd y llwybr graian rhwng canghennau yr Yw tywyll ym mrigau duon y rhai y cwynfanai'r gwynt ei alarnad ar ol y meirwon darllen wn yr enwau ar y meini fel yr elwn ymlaen, nes y cyrhaeddais mewn unigedd syn at aelgerth bedd lie y gorwedd gweddillion gwr ieuanc deallus a duwiol, ac un o'm cyfoedion aawylaf. Wrth ei ben yr oedd earreg o farmor gwyn a'i thop wedi ei naddu ar lun croes Crist, ar yr hon y pwysai coeden rhosyn a'i blodau yn arogldarthu'r lie. Y mae fy nghyfaill yn fyw yn fy nychymyg er y diwrnod y olywais am ei farwolaeth, a Tybiaf wrth fyned heibio,-caf ei weld Ond cof oer amdano Rhyw lawr trist, ar lawer tro, Gaeaf enaid gaf yno Wel, y mae ef yn fyw i Dduw. Boed hedd i'w lwch Draw, wrth ochr mur y fynwent, deuthum heibio i fedd hen lafurwr tlawd, a charreg arw wedi ei gosod uwch ei ben, ac arni ddwy lythyren ei enw wedi eu torri gan law anghelfydd un o'i gydnabod. Gorchuddid ei bridd gan dwmpathau gwellt, wedi eu britho gan lygaid y dydd a briallu gwyllt, oddiar rudd y rhai y sych haul y dydd ddagrau gwlith y nos ac er sathru ei fedd ac ysigo o'i las- wellt gan ddyn, gwylir ef yn ofalus gan angel Duw Ar fy llaw dde y mae bedd un o gy- byddion pennaf y plwyf, ac ychydig wellt garw a mathredig yn tyfu drosto, heb gymaint a charreg wrth ei dalcen i gofnodi ei enw a'r ar y bu farw. Nis gallodd fynd a dim o'i aur gydag ef trwy ddor y bedd a dyma fo yn dlawd, enaid a chorff, i dragwyddoldeb bellach Folly ymlwybrwn ymlaen heibio i feddau pob oed a sefyllfa dyma lodes fach yn plannu clychau gwanwyn, a phwysiau haf ar fedd ei mam ac ychydig ymhellach, cyr- haeddais y Uannerch gysegredig lie y gorwedd yr hyn sydd farwol o'r rhai a'm gwyliodd I innau yn nyddiau fy mhlentyndod. Ond yma, aeth fy mynwes yn rhy lawn gan deim- ;!adau, ac felly nid oes gennyf ond ymlwybro yn ol tua'r llidiart yn synfyfyriol. Ond torrwyd ar fy nistawrwydd myfyrgar gan swn canu emynau gyda'r awel ar fy nghlyw, a chnul dwfn ac araf hen gloch y Llan,—un arall o wyr ieuainc y Llan yn eael ei roi yn oer glai y glyn a dyma'r liobl, r mewn cynhebrwng—yn canu ac Weithian na foed hiraethu—neu dduboen Ddiobaith alaru Am y saint, ein ceraint cu, A hunasant yn lesu. Ah byth ni anobeithiaf—rhuadgawr Yr udgorn diweddaf Gyfyd Ion anwylion Naf Oddiyno yn ddianaf Ffarwel, fynwent hon Gan Dduw na fydd i gampwyr y Dadgysylltiad dy ddifwyno DANIEL O. JONES Sef ton Square, Lerjnvl

AR GIP.

Advertising

BIRKENHEAD.

Gore Cymro: yr ua Oddicartre.