Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
4d. y r «ti. OOMMRYDD Y PLANT: Gwerslyfr i IMoabarthiadau Cymraeg. Wedi ei ysgrif- onnu a'i drefnu o dan nawdd Undob Ysgolion M.C. Lerpwl. Gan y Parch. OWER EILIAN OWEN. MOSBS O'r Cawell a'r Mor Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gas PEDR Hm. 3d. yr un. ALflN, scf Barddoniaeth Rydd JOHN BLACKWELL, gyda Rhagymadrodd gan LEWO CAERNARFON. 4JO F A CHAD IF am Eisteddfod Fawr Llan- golfefi, 1858. Y prif fuddugwyr, eu lhm a'u gorehest. 2d. yr un. ADRfJlJDIAD Y COMISIWN EGLWYS- 19. CrynhodI ac Adolygiad. Gan y Parife, 0: L. ROBERTS. M0838 BACH Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIE. „ € WBST1YNA U AR YB EPISTOL AT Y RidOF-"iINIAID. Gan y Parch. GRIFF- ITH ELLIS, M.A., Bootle. Rhan II pemoelau 9-10. Y Ddrama. PWY BIA U'l? GADA,IPL ? Drama ddig- rifcl gan DEWl MAlO FEIRION. Amlen, 9d. .M03M& O'r Cawell a'r Mor Coeh. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gaat PEDR HIR. Amlen, 4d. MOSMS BACH Drama at wasanaeth ^Gobeithluoedd. Gan PEDR HiR. 2d. raw. ..EAI YVA U DETHOLEDIG ar gyfer Cyfar- fodiyctd neilltuol. 75 o rai Cymraeg, ac 2# « rai Saesneg. Mown amlen, 5s. 6d. 7 .&it_t. -1Ii BAA Llyfrau Adrodd. COBTM HW YL Llyfr Newydd o Adrodd- jadou, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BBTTHON. 154 o ddarnau, 200 tudalen. Y Sylltaid goreu a helaetliaf yn yr iaith. TignSefdd Argraffiad. Amlen. Llian, 1 /6. Y MQRTHWYL saith ugain o Adrodd- iadáU. 200 tudalen. Amlen. TR AIL FORTHWYL saith ugain o Atireddiadau. 200 tudalen. Amlen. T ddau FORTHWYL wedi eu rhwymo ynghyd, mewn llian hardd, 2 i6. Caneuon. 1/- yr. un. BUMMING MAES (King oj the Meadow). SSat i Bass. Yn y ddau Nodiant. Geiriau Opaaaaraeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. Y 0ARREG FILLTIR (The Old Mile Mewn dau gyweirnod—Tenor neu Bn. Yn y Ddau Nodiant-Geiriau Cym- raogasaesneg. Gall JOHN HENRY, R.A.M. o. 6d. yr un. CL9* GWYL DEWI SANT (The Praise of tJt. David's Day). Song and Chorus Tit y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Sawsmeg. JOHN HENRY, R.A.M. DOLtf FWYN (Aly Fairest Dolly)., Can i Ikethod. Gan PEDR ALAW. Yn y Ddau N-odiant. Geiriau Gymraeg a Saesneg. HEM AELWYD FY MAM (The Old Haorth Stone). Mewn dau gyweirnod- Teftor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant. 8eiritm Cymareg neu Saesneg. Gall JOHN ISIEY, AT THE CROSS (TYrth y Groes). Can Orftgredig mewn dau gyweirnod Sop- raaso a Tenor, neu Contralto a Bass. Yn y ijWfeira Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saes- Mg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. J* WW ACTION SONG-THE LITTLE SOLDIERS (Y Milwyr Bychain), a THE LITTLE NURSES (Y Maniau Bychain.) Y geiriau a'r gerddoriaeth gan PEDR ALAW. TajMe Solffa, 2d. yr un. Hen Nodiant, 60,. yr un. SJlb-lI NE (Sister of the Dawn). Four-par t StnIg (S.A.T.B.). By JOHN HENRY,R.A.M- N-d Notation. .S3LMNE {Sister of the Dawn). Part-Song aswwiged for S.A.S.A. English and Welsh w#?ds4by JOHN HENRY, R.A.M. Arranged socially for the Juvenile Choir Com. potion of the Royal National Eisteddfod of Wales, Liverpool, 1900. Tonic Solffa, M. Old Notation, 4:d. ANWHEM GYNULLEIDFAOL- mWREGYSA DY GLEDDYF, ol 9ADARN. JOHN HENRY, R.A.M. Tonic §«!&a, lid.; Hen Nodiant, 4d. Hen Lyfrau. LLTFR GWEDDI Y CATHOLIG, neu ymarferion y bywyd Cristionogol yn ol alfcrawiaethau gwir Eglwys lesu Grist, Argraffwyd yn Lerpwl, 1837. Ychydi. Wiau (lledr), 1/6. HUGH IIBIS & SOBS, Swyddfa'r "Brthon, I 356-8 STANLEY RO., Liverpool. Annual XMAS SALE OF JEWELLERY I Comprising j Bracelets Scarf Slides Earrings, Brooches, Pins or Studs, Guards. Signets, Pendants, Alberts. ALSO HIGHEST-GRADE Watches & Diamond Rings I 10 to 12/6 less in every S THAN ORDINARY PRICES. Including a Portion of a Manchester and Bir- mingham Dealer's Stock of Stylish Diamond Rings and Bracelets. SALE PRICE LIST, FREE. 6%30 LOW Hill,, uQ!iM u,UU Lun mu. OPEN ALL SAT. CLOSED WED. AT 1 Davies's 18ct. Diamond Rings Usual Price. Sale Price S2 DIAMONDS—5-stone Dia- mond 18ct., -hoop, neat 1 setting, lustrous gems 19/6 C3 DIAMONDS & RUBIES, 18- ct., very neat, elegant, Half- Hoop,Double -cutgeins, very Q"l /A I lustrous a:i?/' U DIAMONDS & SAPPHIRES 5 gems, heavy 18-ct. Ha'f- hoop all lustrous geyns rare bargain. B i S4 DIAMONDS, 5 stones, Half- hood, stylish claw, 18-ct gold, double-cut gems; rare « fire and lustre 1 It) £5 DIAMONDS, 5 first-water large lustrous gems, fine, white quality, heavy solid 18-ct. claw half-hoop others at ?2/10/ ?3/2/ and CO/c, &2/10/ I £6 DIAMONDS, fine 5-stone, large diamonds, each gem of great beauty, heavy 18-ct. 2 2' 19 gold claw set 1- S8 DIAMONDS, superb quality, carved claw setting, fine <r Q /xtr gems, rare lustre, 18-ct. gold ?0 ,1 Q £10 DIAMONDS, 3-stone Cross- over Ring, 18-ct. platinum  r  setting rare lustre 51 E12 DIAMONDS, 5-stone half- hoop, large, fine, lustrous stone, neat carved claw  D  setting 6/18/- £21 DIAMONDS, very large 5. stone Diamond half-hoop, fiery gems, very exceptional Ð -i r value, 18-ct. great bargains iU/il Oc' AT 20/-1 LUCKY WEDDING RINGS OR' /J 22-CARAT PURE GUINEA GOLD,  GOVERNMENT HALL MARKED. ?? heavkst & Best 35 WITH ?-DOZ. TEASPOONS, &c. UP. Davies's, 30 how Hill, L'pool. Size Card Post Free. Perfect Fit Guaranteed. Davies's Miscellaneous Bargains Usual Price SOLID GOLD ONLY Sale Price 21/-NECKLET, Diamond Cut Links 10/6 20 /-LOCKET, oval, engraved, hall-marked 7 /6 21 /-SIGNET RING (Gent's), shield, heavy 9/6 20 /-LINKS, oval, engraved, hall-marked 8/11 17/-SIGNET (Lady's), shield top, strong 7 /6 ISf-PIN, real Diamond centre 9/6 £ 3-BANGLE RING, 18-ct., wide, heavy £1 16/ £ 2-SIGNET Gent's), 18-ct., solid gold shield 18/6 30/-BROOCH, real Diamond centre 10/6 35/-BRACELET, stiff, wide, engraved. 16/6 £ 6-SCARF SLIDE, 2 large Diamonds & centre Sapphire. 29/6 ;E7-DIAMOND STUD, forms pin, fine white stone ;£2/9/- Sale Price 25/- Usually £2/5/- Gold Curb & Padlock Bracelet. Fashionable massive flexible Curb and Padlock Solid Gold BRACELET, stamped every link (the widest at the price), complete in velvet case. Also ditto at 29/6, usual S3. Also the following BARGAINS IN BASKET PATTERNS at 10/- reduction in every 9, as follows: 26/ 35/ 46/ 55/ also very fine 9-bar Basket Bracelet, now ;C;3/12/6, usual 97. Reliable and undoubted quality only. Approval. Payments. Over 200 Bracelets to select from. Heavy Lucky Wedding Rings 22-CARAT PURE GOLD. Special 20/- Special (USUALLY 27/9). A Presentation with each Ring. DAVIES'S, 3 o L W wnw I L LIVERPOOL
0Big-yLleifia fO Big y Lleifiad…
0 Big y Lleifia fO Big y Lleifiad Sef Byd a Helynt Cymry Lerpwl. Galwad David Street Daeth eglwys David Street at ei gilydd yn gynulleidfa gref iawn nos Sul ddiweddaf i ddatgan ei llais gyda golwg ar alw bugail, yn ddilynydd i'r Parch. J. Roberts, M.A., Caer- dydd. Yr oedd y brodyr hyn yno dros y Cyfarfod Misol y Parchn. O. J. Owen, M.A., Rock Ferry R. W. Roberts, B.A.,B.D., Peel Road; W. O. Jones, Woodchurch Road; Mri. J. J. Thomas, Princes Road, a Robert Thomas, Garston. Wedi'r bleidlais, cododd y Parch. O. J. Owen i hysbysu fod yr eglwys wedi rhoi galwad gref i'r Parch. D. D. Will- iams, Manchester. Y mae Mr. Williams, fel y gwyddis, yn lienor a thraethodwr Eis- teddfod o fri cenedlaethol; yn fawr ei ym- drech a'i sel dros y bobl ieuainc ac y mae gobaith cryf ymysg yr aelodau y cydsynia a'r alwad. «• I "Dwedwch Air. Yr oedd Mr. Wm. Jones, A.S., yn bwrw'i ben wythnos gyda Mr. Thos. Roberts, Y.H., yn West Kirby, dros y Sul diweddaf ac a aeth i'r oedfa yn y capel Cymraeg, lie y prcv gothai y Parch. J. H. Howard, yr hwn a ofynnodd i'r Seneddwr hyglod godi ar y diwedd a dweyd gair wrth y bobl. Gwnaeth yntau, ac yn Gymraeg wrth gwrs, nes oedd y lie yn gynnes o bared i bared. Gan gyfeirio at y rhyfel, sylwodd ei fod ef yn un o gyn- ryehiolwyr y wlad hon yn y Gynhadledd Heddwch fawr a gynhaliwyd yn Berlin dair neu bedair blynedd yn ol; ac a gredai fod Llywodraeth Prydain, beth bynnag am un Germani, yn hollol o ddifrif yn y Gynhadledd honno ac o raid y bu iddynt droi i ryfela. Canmolodd Gymry ieuainc y cynulleidfa- oedd am ddod ymlaen i ymrestru mor barod ac mor lliosog ei rhif ac a roes air o galondid i fab Mr. Thos. Roberts oedd yn bresennol yn yr oedfa, ac sydd newydd gael comisiwn yn y Royal Welsh Artillery, ac sydd hefyd a brawd ddo yn y Fyddin. Hen arfer dda yw hon, sef gofyn i ddyn ddwedyd gair yn y Seiat ar ol, yn enwedig pan fo hwnnw'n air mor dda ac mor fiasus ag a gafwyd heno gan yr aelod troa Arfon. < *», I Rhoi'r dotiau yn eu lie. Beirniadaeth Feiblaidd oedd testun anerch- iad cyfarwydd y Parch. T. J. Rowlands, M.A., B.D., wrth agor ail ran tymor Cymdeithas Lenyddol eglwys Laird Street, Birkenhead, nos Iau ddiweddaf; Mr. R. J. Griffith, Primrose Road, yn y gadair. Cafwyd trem fras a chryno dros d wf graddol yr Ysgrythyr- au, nes eu dyfod yn Feibl cysegredig yr Iddewon, ac yna'n llusern a llewyrch holl genhedloedd y ddaear. Diddorol i'r eyn- hulliad, ac agoriad llygaid i amryw, oedd yr enghreifftiau a sgrifennwyd ar y blackboard o'r ambell fefl a llygriad a lithrodcl i'r Oraclau Dwyfol drwy gamgyflead y dotiau, sef y llafariaid Hebraag,ac a gymysgent ystyr ac a ddifethent neges ambell adnod dda. Diolch- wyd iddo am ei draethiad dysgedig gan Miss Kate Roberts, B.A., Mri. Rowlands, Em- manuel Evans, Wm. Edwards a J. H. Jones, a theimlid mai pwnc mawr oedd y pwnc mai da oedd tynnu'r caead oddiarno fel y gwnaed heno ac mai gwell fyth fy ddai cael cyfres o ddarlithiau neu gyfarfodydd arno, gydol y gaeaf, or mwyn cyfarwyddo'n pobl yng ngwir ystyr a gwerth Beirniadaeth Fefblaidd, a chael lie i'w chasgliadau teg a phrofedig yn addysg yr Ysgol Sul. Y mae eisiau rhoi'r dotiau yn eu lie y fan honno hefyd. Rhan fawr a jftiwysig o waith y Deyrnas yw rhoi dotiau'r H,in Lyfr, a barn a meddyliau ei ddarllenwyr, yn eu lie. 'Doedd dim modd rhoi'r dotiau dyrys yma yn eu lie i gyd mewn un noson ac felly, da chwi, Mr. Rowlands, rhowch dair neu bedair ncson arall ati cyn yr elo'r gaeaf a'i hirnos hei bio.. M ? ,g « ??.? ?St -x y- -I I Beth a wnaed'ya y Pwyllgor? jjyma rai petnau a wnaed ym Mhwyllgor Gweitliiol y Gymdeithas Genedlaethol a gyfarfu yn y Royal Institution. Colquitt Street, nos Wener ddiweddaf, tan lywydd. iaeth Mr. David Jones, Waterloo, ei chadeir- I ydd :— I-Pasio i dynnu enw Dr. Kuno Meyer oddiar restr ei his-lywyddion, tan synnu'i fod o, o bawb, wedi ffromi a phwdu wrth y genedl fu mor dirion wrtho, ac a roes le mor fawr iddo ar hyd y blynyddoedd. Cafodd ami i gyhoeddiad a gwledd gan y Gymdeithas bydd yr. i) hir cyn y caiff o yr un arall, ar ol glafoeri ei gynddaredd mor sarhaus. 2.-Llawenhau'n ddiolchgar wrth glywed Mr. Robert Roberts, Y.H., y trysorydd, yn tystio fod y casgliad a wnaed at waddoli tri gwely yngKn a'r ysbyty Cenedlaethol Cymreig, sydd yn Netley ar hyn o bryd, yn cyrraedd 9600. Rhyw gallpunt arall sy'n ofynnol eu cael at wneud y swm i fyny; a phan gofir mai i leddfu poen a chau clwyfau'r Cymry dewr a gwympant ar faes y gwaed yr eiff yr arian, diau y daw'r gweddill angenrheidiol i law ar fyrder. Teg dweyd i'r eglwysi, er lluosoced eu galwadau, wneud yn rhagorol, ac fod degau eraill, tlawd a chyfoethog, wedi gwneud eu rhan er boddhad a Ilawenydd mawr y Pwyllgor. 3—Pasio pleidlais o gydymdeimlad a Mr. John Morris, Y.H. (Mri. Morris a Jones) sy'n aelod mor ffyddlon o'r PwyIIgor, ac yn gefn mor gryf ac ewyllysgar i'r Gymdeithas o'r cychwyn cyntaf yn y flwyddyn 1884. Efe wedi ei gystuddio a'i gornelu ers rhai wythnosau, ond yn graddol wella, da gennym glywed. 4Pasio i hebgor y cinio arferol Ddydd Gwyl Ddewi am eleni, oherwydd trybested y rhyfel, a boddloni ar -gylinal cyfarfod gwahanol ei ffurf ond cystal ei flas. {;yJ | Yr Ysbyty Cymreig. Dymuna'r trysorydd (Mr. Robert Roberts, Y.H.) arnom gydnabod y tanysgrifiadau can- lynol a ddaeth i'w law er y rhestr ddiweddaf David Williams, Park Road. 1 1 0 J. P. Edwards, Laird Street 5 0 0 j David Jones, Waterloo 20 0 0 j J. H. Jones, BRYTHON 0 2 6 Chwiorydd eglwvs M. C. Edge La, ne5 0 0 Canwyr Carolau Stanley Rd. (M.C.) 6 0 0 H. J. Williams, Birkdale. 5 0 0 Capt. Thos. Hughea. 0 10 6 Ac ebe'r trysorydd ymhellach Y mae geimyf bellach yn agos i E600 mewn llaw. Mae wedi eu hanfon i Arglwydd Faer Caerdydd, sef digon i waddoli dau wely, un a elwir Tate Bed, a'r Hall Gwely Cymry Lerpwl. Mae amryw addewidion eto heb eu cyflawni, yn agos i f,60,-fol pan delir y rhain, y bydd y swm yn ddigon agos i waddoli gwely arall. Beth pe bae'r eglwysi yn cynorthwyo tipyn yn y mater hwn ? Da gennym weled fod personau, fel y chwiorydd o Edge Lane, a'r cyfeillion o Stanley Road, yn cyfrannu o'r symiau a gawsant tua'r Nadolig at y gwaith da yma. Cyn pen ychydig o wythnosau, pan a'r Fyddin newydd allan, mae'n sicr y bydd yn dda wrth bob gwely ellir ei gael, a bydd yn ddiamou amryw o'n eydgenedl ymysg y rhai fydd vn dda wrthynt. Cofiwch amdanynt. Hyn ac Arall. Bydd y Parch. H. Ridehalgh Jones, M.A., bugail eglwys Saesneg M.C. Breeze Hill, yn dechreu ar ei waith fel caplan gyda'r milwyr, gan aros am y mis yng nghyffiniau Aldershot. Gwnaeth yr eglwys hon yn gampus gydag ymrestru, canys ymunodd dro-3 ddeugain o'i haelodau a'r Fyddin. Dioleli ir cyfaill Mr. W. A. Lloyd (alan Alwen) am ei lythyr ar y penhillion y gofyn- nai Mr. H. E. Williams yn eu cylch ond yr oedd amryw atebion i'r un perwyl wedi ei cvsodi eisoes vn Fjetan y Gol., tudal. 4-5. Y mae'r dystiolaeth a ddygodd y Parch. J. Hughes, M.A., Fitzclarence Street, i'r diweddar Mr. Wm. Owen, Monarvon, wrth ei gladdu ddydd Sadwrn diweddaf, yn werth ei chodi a'i choffhau'r fan yma. Ni welodd o neb erioed, ebe fo, yn y ddinas na'r wlad, rnwy gofalus a thosturiol o'r tlodion. Fe ofalai amdanynt pan oeddynt yn fyw, drwy fynnu cael meddyg atynt os yn wan neu'n afiach; fe ofalai amdanynt pan fyddent wedi marw, drwy ddwyn traul eu claddu, a honno'n gladdedigaeth parchus a gweddaidd ymhob ystyr; ac a orffennai drwy fynnu gosod carreg ar eu bedd, a honno'n garreg dda ac i ddal. Dyna dro bach teiinladwy i'r byw a ddi. gwyddodd yn Ysgoldy Bankhall y dydd o'r blaen, lie y bwydid nifer o blant tlodion yr ardal a digonedd o luniaeth da a danteithus. Toe, dyna sylwi ar un eneth fach yn hollti ei phlatiad yn ddau a'i chyllell a'i llwy ac yn synfyfyrio ennyd uwch ei ben. Dyma un o'r chwiorydd ati gan ofyn pam y gwnai hynny. 0, Hon-a-hon yn y fan a'r fan," ebe'r fechan, sydd heb damaid, a meddwl yr oeddwni amgadw'rhanneriddihi." Bwyt- ewch o i gyd jich hun, mechan i," ebe'r chwaer a weinyddai ami, ac fe ofalwn i y caiff eich cyfeilles fach blatiad llawn iddi hithau." k Y mae'r Parch. T. Price Davids, Martin's Lane, Liscard, wedi cael ei ddewis yn llywydd y Liverpool Buard of Cozigi-egational Alinisters ac mewn cyfarfod o'r Bwrdd hwnnw, a gyn- haliwyd yn y Junior Reform Club ddydd Llun diweddaf, traddododd anerchiad blasus ac addysgiadol iawn ar Pages from my Pastoral Experiences. K An Editor's Heart Thoughts oedd tlstun anerchiad Golygydd Y BRYTHON gerbron Cymdeithas yr Adult School, yn eu sefydliad newydd, Beechcroft, Holly Bank, Birken- head, nos Lun ddiweddaf; Mr. Theo. Will. iams, M.A., un o athrawon yr Institute, yn y gadair. •fc Y mae Ceridwen, geneth fach dair ar ddeg oed Mr. Robert Parry, (Madryn), Keble Road, Bootle, wedi ysgrifennu drama fach, a honno wedi ei pherfformio gan blant yr ysgol. Heddyw ac yfory (dydd Mercher a dydd Iau) y mae Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion yn cyfarfod yng nghapel yr Woodlands, Birkenhead. Daw hanes y gweithrediadau yn y rhifyn nesaf. k Bydd yn dda gan ei hen gyfeillion yn Lerpwl glywed fod Mr. R. Hughes-o eglwys Webster Road gynt, a David Street cyn hynny—wedi cael ei benodi'n oruchwyliwr cangen Aber- tawe dros Gwmni Yswiriol y Royal Exchange. Bu ef ar Lannau'r Mersey am ddwy flynedd ar bymtheg cyn cael ei ddyrchafu i Gaerdydd, ac oddiyno bellach i Abertawe. Yn yr hysbysiad am gyngerdd a the parti. eglwys Donaldson Street, a welir ar tudal. 8, ceir enw Mr. R. O. Thomas, Dinorwig, fel un o gantorion y cyngerdd. Y mae R.O.T. yn denorydd ieuanc sydd yn cripio'n gyflym i fri ac enwogrwydd a diau yr echyb llawer o Gymry'r ddinas y cyfle i'w glywed yno ar nos Sadwrn ola'r mia. Dyma ddywed yr Athro David Williams, M. A., Aberystwyth, yn ei adolygiad ar Forgiveness, gwaith y diweddar Barch. Thomas Davies, B.A., Bootle, gynt, ond a fu farw yn Awstralia bell; y llyfr i'w gael yn swyddfa'r BRYTHON) yn Nhraethodydd Ionawr Y mae'n fyw o'r dechreu i'r diwedd, ac yn wynebu pob cwestiwn yn deg a chyda Ilygad llydan-agored. Ynddo y mae Tom Davies,' un o'r cymeriadau puraf a gonestaf a fagodd Methodistiaeth Cymru erioed, er wedi marw, yn llefaru eto." •5b Gwelsom y cyfaill Mr. Wm. Williams— Wadham Road, Bootle, gynt, Caernarfon bellach—yma am dro'r wythnos hon, i weld ei hen gyfeillion a'i gynhefin. Y mae'n edrych yn dda, ac yn .offi Caernarfon a'i phobl a'i phregethwyr ac fel y diweddar Ddr. Jolu-i Hughes, pan aeth yntau o Lerpwl yno, yn canmol y llwybrau a'r encilion tan gamp sydd o gwmpas yr hen dref i fyfyrio a rhoi cyfle i ddyn gael o hyd iddo'i hun yn y byd vma. Daliwch eich golwg ar lithoedd Pen y Bryv, sydd a'r gyntaf o'i gyfres ar tudal. 2, a'r lleill i ddilyn maes o law. Pan ddelo'r por- treiadau, diau y bydd llawer wrthi'n dyfalu a dyfalu prun o'n Hoelion Wyth ydyw liwal, tybed, sydd tan ei lathen ddisgrifiadol ? DAU TU'R AFON. Mae eglwys Breeze Hill wedi rhyddhau ei gwoinidog, yP arch. H. Ridehalgh Jones, M.A. am fis o amser, i'w alluogi i fyned i weithio ymy-g y milwyr. Cafwyd cyfarfodydd neill. tuol o rymus y Sul diweddaf ac ar ddrfyn oedfa'r hwyr, cododd y gjnulleidfa ar eu traed a chanwyd God be with you. till we fflÆet again gyda dwyster a ddangosai gariad yr holl aelodau tuag at eu bugail. Nos Lun, cynlial- iwyd cyfarfod neilltuol, pryd yr anrhegwyd v gweinidog a Travelling Rug ar ran y Brother- flood. Bydd Mr. Jones i ffwrdd am fis, ac ar hyn o bryd mae ef gyda'r rhan honno o'r fyddin sydd yn Weston super Mare, a bydd yn dda ganddo glywed oddiwrth rywrai sydd ganddynt gyfeillion neu berthynasau ymys., y milwyr yno. Y DIWEDDAR MR. WILLIAM OWEN, MON- —N°S Fawrth, y 12fed cyf., bu farw Mr. Wilham Owen, Monarvon, Deane Road, yn yr oedran teg o 73. Brodor o'r Bont- newydd, Arfon, ydoedd, hoif ia.wn o ardal ei faboed, a chymerai ddiddordeb dwfn yn y Cartref i Amddifaid sydd wedi ei sefvdiuyno. Daeth i'r de oddeutu hanner can mIynodd yn ol, a bu n dra llwyddiannus fel adeiladydd. Gwr tawel, addfwyn, diymhongar ydoedd Mr. Owen, -gwr yn caru'r encilion, ond yn gwneud gwaith mawr, a hynny'n ddidrwst a digyffro. Aelod ydoedd o eglwys Fitz- clarence Street ac er pellter fiordd a mynyck wendid, parhaodd yn hynod ffyddlon hyd y diwedd. Nid ydoedd yn wr cyhoeddus ond pwy all fesur y gwaith da a wnaeth ymysg tlodion ardal Fitzclarence Street? Bu'a drysorydd i Bwyllgor y Tlodion am flyn- yddau, ac yr oedd ganddo dalent arbeanig at y gwaith hwn. Estynnai'r cynhorthwy i'r anghenus yn y ffordd oreu, heb friwio eu teimladau; nid fel ambell un yn rhoddi ei gardod i dlawd fel pe bae'n taflu asgwrn i gi. nes peri i'r derbynnydd ei ffieiddio. Bydd ei wobr yn fawr, oblegid nid proffes gyhoeddus uchel sydd yn derbyn cymeradwyaeth y Barnwr, ond porthi'r newynog, diodi'r sych- edig, dilladu r noeth, etc., a hynny'n 8nw'r Gwaredwr fel y gwnaethai Mr. Owen a ohred pawb ai hadnabu mai cvfarchiad v Barnwr iddo fydd Pa. was, da a ffyddlon," ÇIMld. wyd ei weddillion ddydd Sadwrn diweddaf ym mynwent Anfield Road, yng ngwydd tyrfa fawr 01 g?'feilhon a 1 «ydnabod. G was an ?Parerhn ?? y t? ac y y fynwent gah y Parchn. John Hughes, M.A., David Joneki, J. Hughes-Morris, Edge Lane. Y prif alar- wyr oedd Mrs. Owen (gweddw); Mri. W. Ke OJ! wen a J. Francis Owen, ?.J? ?'a/?, meibion; Miss J. Frances Owen merch Mr. Robert Owen, Caer (brawd) Mr. R. Francis Williams, Manchester, brawd' yng-nghyfraith; Mr. W. Butterworth (South. port), Eustace Butterworth (eto), J. Fr?c? w[ir» S (Bangor), neiod; Mri. Richard I-Iuglie,s (Liverpool), Wm. Edwards (Rhos y bol), cefndyr. Swyddogion egUyys Fiteelar- eniCQ? T' Mri. Sobii Evans, Richard Jones, Hugh Lloyd, Robert Roberts, Y.H., Stephen Ro?rts; eglwys Edge Lane: vr Henadur R. E. Jones, X'?" Dr. ?- ?- Bennet Jones, t' Griffith i avie9' Owen Williams, R. 0. ?K ,.? Henry Davies, Hywel I. Jones, David Robert; hefvd Mri. J. E. Jones, H. R. Hughes, David Williams, J. J. WiUiams. W "???s, Owen Rowlands, William H llhams (Brae Street); a Iluaws o gyfoillioa fitzclarence Street, Edge Lane, ac erailt Nawdd y ?? fo dros ? weddw a'r P? = ?coHt odd M?r rs. Owen briod hawddgar, a'r plant dad tinon a gofalus. Yr amddiffvn Dwyfol fyddo dros y mab ieuengaf—Mr. J. Francis Owen, sydd wedi ymrestru g" yda'r Royal Marines, i ymladd dros ei wlad. Yn awylo Mr. Peter Lloyd Jones, Bootle, yr oedd trefn- iadau'r angladd. Ffestiniog a Meddygfa Newydd CAWSOM ar ddeall fod ym mwriad Morris Evans a'i Gwmni, Ffestiniog, wneuthur meddygfa yn Ffestiniog, fel y gallont roddi eu gwasanaeth i rwyddhau ac ychwanegu'r gwaith da a wneir ar gleifion, ac er addysgu oraill i allu trin gwahanol anhwylderau y cyfansoddiad dynol, fel trwy wasanaeth y cyfryw y gall bechgyn a genethod ioualno wneud gwaith a ystyrrir gan y mwyafrif sydd yn amhosibl ei wneud. Wedi i mi holi amryw gwestiynau, cefais atebiad boddhaol iddynt, a hynny oddiwrth bersonau oedd yn adna- byddus i mi, y rhai droes yn syndod i mi eu gweled. Deil Mr. Morris Evans fod Y" hawdd gwella holl anhwylderau'r corff trwy symud yr achos ohono, a rhoddodd enghreiff- tiau yn cael eu gwneud gan ddynion cyflivdin, a hynny mewn achosion difrifol; a'r hyn deimlem dan ei sylwadau oedd, mai gresymt na buasai'r lie yn barod heddyw, tra rnas cymaint o ddioddefwyr yn ein byd. Cefais fod ei ddull yn syml, effeithiol, a synhwyrol, wedi cael ei eglurhad ef arno, ac mai anodd enwi un anhwyldeb nad oes prawfion wrth law y gellir ei wrthsefyll. Gofynnais a oedd yn credu mewn gwirionedd fod modd gwella'r Darfodedigaeth. Ydwyf, mor wirioneddol ag y credaf mai chwi sydd o'm blaen yn awr. Rhoddodd hefyd ei reswm pam y bu medd- ygon mor aflwyddiannus yn y gorffennol, saf fod yr hyn a gvmerir trwy'r genau ym aneffeithiol i gyrraedd y drwg fyddo'n llechu yn yr ysgyfaint (lungs). Fod ei driniaeth ef, nid yn unig yn cyrraedd y lungs yn gyflymach, ond hefyd yn tynnu allan o'r gwaed yr amhur- edd oedd ynddo, felly yn Iladd y germs trwy eu Uwgu yn ogystal a gwella cartref afiaeh y germs, fel nas gallont fyw yn hwy yno. Rhydd hefyd bwysigrwydd mawr ar y dull goreu i drin ei gyffuriau, ac hefyd y dylai pawb fod ym alluog i wella anhwylderau ei deulu a'i gyd- nabod, neu mewn geiriau eraill fod y dawm iachau yn eiddo i chwi. Credaf i mi ddysgu mwy o geography fy nghorff fy hun mewm hanner awr nag a ddysgais erioed o'r blaen, ac y byddai yn fendith i filoedd gael cyfle yn y lie newydd fwriedir ei adeiladu.