Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TO SECURE HAPPY I HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP I THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
) HAVE You TRIED I KEENOtiA I SELF RAISING FLOUR P Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of sue cess if you use Keenora Self-Raising Flour. Makes deliciously light Pastry, Cakes, Scones, Buns, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you will be delighted. SOLE AGENTS—- MORRIS and JONES, LIVERPOOL & MANCHESTER.
Trem I-" Tywysog Llywodraeth…
Trem I-" Tywysog Llywodraeth yr Awyr." SYLWASOM yn y Drych diweddaf am ryw bethau y mae'r rhyfel presennol yn brawf arnynt. Y mae felly, yn ddiamheuol, ar offer rhyfel, ar gadfridogaeth rhyfel, ar wytnwch i ddal a deheurwydd i daro mewn rhyfel, ac ar adnoddau ariannol a materol o bob math i gyflenwi gofynion rhyfel. Ac fe bwysleisiwyd y ffaith amlwg hon, ar ol hynny, gan y Germaniaid yn bur bendant. Daeth nifer o Zeppelins dros y mor—o leiaf ryw fath ar awyr- longau,—ac o'u crombil fe fwriwyd pelenni ffrwydrol ar Great Yarmouth, .King's Lynn, Sandringham, a lleoedd eraill, gan ddinistrio bywyd ac eiddo hyd y gallent. Mae gan y Zeppelin lygad craff iawn i weled llawer o bethau yn Lloegr, ac ymddengys fod. cyfundrefn ysbiol Germani yn llawn llygaict." Ond pan fo'r Zeppelin yn nofio uwchben trefi'n Hynys ni, ni wel wahaniaeth rhwng ael- wyd ddiniwed hen bobl a chaerfa filwrol, na rhwng mam yn cofleidio'i baban a milwr yn gwasgu gwn. Llwyddodd ar y rhuthr hwn i ladd pobl ddiniwed, ac archolli mwy na hynny. Ymddengys, o'r diwedd, fod eyefrwybod y byd Cristionogol yn dechreu cyffroi a llidio yn erbyn y barbareidd-dra hwn. Cyfyd cri con- demniol arno o'r gwledydd amhartiol, gan ei gyfrif yn llofruddiaeth ddigymysg. Teimlodd Germani fod y cri yn gofyn gair o eglurhad ac amddiffyniad. Ond llesg yw'r amddiffyniad hwnnw, fel y rhai a roddid am y creulonderau yn Belgium. Ni fu erioed greadur mor chwyddedig ei ben, a chyfynged a chaleted ei galon, a'r German heddyw. Ymddengys ei fod yn hawlio daear a nef iddo'i hun. Fe ddywed yn agored fod Cynhadledd Hague, erbyn hyn, yn ddim, pob ymrwymiad a wnaeth hi yno'n ddim, nad yw cadw gair a chyf- amod yn ddim yn y byd-o leiaf, iddo ef. Cyfrwys iawn y dywed nad oedd Cytundeb Hague yn cymryd i fewn awyrlongau mewn rhyfel. Trwy feined lie y gall cydwybod yr Ellmyn hwn fynd Ond mae'n syn ei fod yn son am y gwahaniaeth rhwng yr hyn y penderfynwyd arno yn Hague a'r hyn na phenderfynwyd arno. Pa wahaniaeth iddo ef ? Onid sgrap o bapur oedd y cyfamod ysgrifenedig a seliedig ? Gan hynny, nid yw ei wahan- iaeth rhwng ymrwymiad a dim ym- rwymiad ond y peth a eilw'r Sais yh distinction without a digerence-y gwahan- iaeth rhwng chwech a hanner dwsin. Y ffaith syml yw, i'r Caiser a'i weision droi'r Ddeddf Foesol o'r neilltu ar ddechreu'r rhyfel, ac nad yw mewn grym o gwbl yn ei Fyddin na'i Lynges hyd yn hyn. Mae ei ddeddfau i foes a chrefydd ar hyn o bryd, fel ei gyflegrau, yn made in Germany," ac mor haearnaidd a hwythau. Gobeithiwn yr ymgeidw'r Pry- deiniaid rhag y demtasiwn o efelychu'r Ellmyn yn y peth hwn, ac y teimlant rym rhwymedigaeth ddynol, hyd yn oed wedi i'r Gelyn fwrw ei ergydion trwy ei ffurf ysgrifenedig ohoni. Cyhoeddodd Amos wae ar Tarsis am na chofiodd y cyfamod brawdol ac fe dyb rhai mai nid un ysgrifenedig a ffurfiol oedd hwnnw, eithr fel y cynhwysid ei egwyddor yng ngreddfau brawdoliaeth ddynol. Ond mae'r Ellmyn heddyw wedi dod allan yn llwyr o bob greddfau moesol, ysbrydol, a dyngarol, ac yn byw yn hollol yn ei filwr- iaeth, gan weithio allan ei arwyddair melltigaid mai Gallu yw lawnder, ac mai ei dasg yw dinistrio Prydain-Prydain yn anad neb—rywsut. Dyma dywysog llywodraeth yr awyr." Pan fo efe yn nofio uwchben, yn ei Zeppelin, ni fyn fod gan ddyn, pwy bynnag fo, hawl i godi ei drwyn tua'r nen, na ddylai efe fwrw bomb arno. 4 o
Trem III-Syr David Beatitude.
Trem III- Syr David Beatitude. Dyma newydd wedi ein cyrraedd o'r mor, ac amhosibl peidio a throi'r Drych arno am eiliad neu ddau. Bore ddoe (Saboth) troes nifer o longaurhyfel y gelyn allan o'u lloches, gan gyfeirio, unwaith yn rhagor, tua Glannau Lloegr. Wrth gwrs, nid arddangosiad chwareus oedd yn eu bryd, ac nid ceisio cyfle brwydr agored a'n Llynges ni oedd eu hamcan. Gellir bod yn bur sicr mai eu nod oedd taro trefi cyraeddadwy i'w hergydion a braw a dinistr, gan feddwl dianc yn ol yn ddianaf fel cynt. Beth bynnag, y tro hwn, caw- sant eu siomi'n aruthr. Gwelsant gestyll nofiedig Lloegr yn mygu'n y pellter, ac yn gwneud amdanynt. Gwyddent mai nid mamau a babanod a phobl ddiamddiffyn oedd yn y rhai hyn, eithr gwn ar gyfer gwn, milwr ar gyfer milwr. Gwelsant yr hyn a barodd iddynt droi'n ol. Yn lie gyrru dychryn ar eraill, dychryn a'u daliodd hwynt. Ceisiasant ddianc, ond bu raid iddynt sefyll brwydr. Dyma'r Bluecher-y Hong ryfel gyda'r fwyaf a feddent-wedi ei suddo i'r dyfnder, a dwy eraill wedi eu niweidio'n ddifrifol. Nid melys i ni y meddwl am y cannoedd Ger- maniaid a gollodd eu bywyd yn y frwydr ond yr ydym yn llawenhau ddarfod i breswylwyr Glannau Lloegr gael eu har- bed rhag difrod arall ar fywydau ac eiddo, ac i allu'r gelyn cynddeiriog gael ei wanhau i raddau. Pwy a wyr sawl cynulleidfa o addolwyr a arbedwyd rhag i'w cysegrodd droi'n feddau iddynt ? a sawl cartref a waredwyd rhag ei droi'n Rama ? Un o brif wroniaid Mor y Gogledd hyd yma yw'r Llyngeswr Syr David Beatty. Yng nghyfrif miliynnau o galonnau gwladgar a dyngar, y mae'n deilwng o'i gyfenwi'n David Beatitude J
Advertising
BEATY BROS LTI). The Celebrated Tailors. GREAT CONCESSION. Suits to Measure, ====== THIS And until DAY. end of Jany. 7/6 Trousers 7/6 ELEVENTH YEAR.-Everything JUST AS USUAL, except that the value is unquestionably better than in previous years, SUITS SUtTS ??/? to SUITS to measure. U U to asure. EVERY POINT CAREFULLY CONSIDERED First Rate Materials, Sound Workmanship Excellent Trimmings, and an assured Fit. BEATY BROS. ltd., London Rd. & Church St., L'pool A yw'ch Llygaid yn eich blino ? 1 Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu'gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwnni,gydalnhoffergwyddon- l ol, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw- ARCHER & SONS Eyesight Specialists, 173 LORD STREET. I Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL. 'Phone—3925 Bank. W. mm & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AUIO Al 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. ji MILITARY S OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc.— 'Phone—580 Bootle. Appreciated for 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. fashionable Chippendale Rosewood Case, complete Iron Frame, Metal Pressure Bar and Bridge, Check Action, beautiful tone and touch, uuequalled value. 23 Guineas Arthur Day Piano. i Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame, Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas "Bond" Piano. Latest style, artistic case, Overstiung Full Iron Frame, Underdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music hngs' kinds, Strings. Records. Hecords, LARGE SELECTION OF WELSH RE??. i Gramophones all prices, ormophones all prices. BOND D CO., ¥. 4 Lime Street, Liverpool* IF YOU WANT REALLY GOOD- ■BOOTS bUNTS, 49 Paradise St i Liverpool The Largest Stock ol Boots and Shoes In LIverpool te select from, for Ladles Gentlemen, Youths and Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago Burns, Scalds, Cuts, Bruises ac ALWAYS HANDY IN THE "HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Chemii Price 1/1 ide tis 2/6 Or direct from— MORRIS EVANS & Co., THEMANUFACTORY. FESTINIOG, Ni WALES. 1 ROBERTS G EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirRdale Rd., Liverpool Telephone 2193 Royal.
Trem ll-Pedwar Arf. I
Trem ll-Pedwar Arf. I Ae, erbyn hyn, mae'r Ellmyn yn bostio fod ei holl offer rhyfel wedi eu profi, ac i'w foddlonrwydd mwyaf. Sonia am bedwar arf. Yn awr," meddai, mae ein pedwar arf yn barod gennym, ac fe enillwn fuddugoliaeth lawn ar for a thir." Wedi'r rhuthr ar lannau Lloegr mewn awyrlongau y dywedid hyn. Ymddengys mai'r pedwar arf oedd y Gwn a ddymchwelodd Namur ac Antwerp, y llongau is-ddyfrol, y rhyfel- longau-fel y profwyd hwynt yn arbennig yn eu rhuthr ar lannau Lloegr,—ac, yn olaf, yr awyrlongau. Yn awr, nid fel ysgafnbeth y cyfrifwn yr ymffrost. Nid yn segur y treuliodd gweithfeydd rhyfel y Germaniaid y chwe mis, mwy na'r blynyddoedd cyn hynny. Yn hytrach, buont yn brysurach nag erioed. Cawsant amser a chyfleusterau i arbrofi llawer ar eu hoffer rhyfel ar dir a mor, o dan y dwr ac yn yr awyr. Ofer anwybyddu effeithiol- rwydd eu hoffer, na dewrder a deheurwydd eu dynion yn eu trin. Er ein hanwybod- aeth o beth o'r fath, digwyddasom ddisgyn i'r gred fod adnoddau Germani ar gyfer y rhyfel hwn yn fwy nag y meddyliai llawer, a'r gwaith o'i gorchfygu'n fwy anodd. Onid oedd hi wedi paratoi ? Ni chipiwyd ni ymaith gan broffwydoliaethau disglair rhai gohebwyr a gymrent ennill Ileol yn brawf o ennill eyffredinol. Gallant hwy wybod llawer o bethau na wyddom ni ond mae i ninnau ryw fantais i ddeall cwrs cyffredinol y rhyfel. Y dydd o'r blaen, gwelsom un a gyfrifir yn awdurdod ar faterion rhyfel yn cydnabod ddarfod iddo ef, fel llawer eraill, gamgymeryd trwy dybio nad allai Germani fforddio ymladd yn y Gorllewin a'r Dwyrain yr un pryd. A chamgymeriad ydoedd. Mae Germani yn gryf hyd heddyw ar y naill ochr a'r llall, ac yn llwyddo i gadw'r rhyfel braidd yn llwyr o'i therfynau ei hun. Cyhoeddir fod ganddi atgyfnerthion cryfion ar gyfer Gorllewin a Dwyrain. A hawdd y credwn mai gwir hynny. Dyma hwy, ar hyn o bryd, yn cadw'r Cynghreiriaid yn ol ar bob tu, ac yn galw ymlaen atgyfnerthion. Gwaetha'r modd, ymddengys fel petai America'n gogwyddo'n hytrach i'w ffafr, cyn belled ag yr a'i gweithrediadau masnachol diweddar. Ac am Lynges Germani, mae hi eto'n aros ei chyfle. Yn awr, pan ddywed Germani ddarfod i'w phedwar arf gael eu profi i'w boddlon- rwydd hi, dywed ddigon i beri inni gredu ei bod am eu dwyn i'r prawf eithaf y gall ei roi arnynt. Mae hi, yn sier, bellach, ym min cynnyg at rywbeth mawr a phen- derfynol. Ac mae mor wir a dim na waeth ganddi yn y byd pa foddion a ddefnyddia. Ni waeth ganddi pa long i'w suddo, pa berson i'w ladd, na pha adeilad i'w ddinistrio. Ni waeth ganddi, chwelth, pa aberth a wna er mwyn ceisio cyrraedd ei hamcan. Ac mae gwyl geni'r Caiser yn ymyl. Wedi'r' ewbl, mae'r Ellmyn hefyd yn sentimental. 0 leiaf, fe Wyr hyd yn oed y dosbarth mwyaf athronyddol filwrol yn Germani fod y bobl gyffredin felly, ac y gellir gwneuthur defnydd o achlysur fel gwyl geni William i ysbrydoli'r milwyr i wrhydri. Os na wneir rhywbeth mawr ac anghyffredin y dyddiau nesaf, bydd yn rhaid inni gredu, wedi'r cwbl, fod Germani'n ymwybodol o wendid,-a bod arni ofn A rhaid cofio mai nid Germani'n unig fu'n gweithio overtime yn ystod y chwe mis diwedd- af. Bu'r Prydeinwyr, y Ffrancod, a'r Rwsiaid yr un mor brysur. Un peth hollol sicr yw hyn,—fe dry'r Ellmyn y ddyrnod olaf y bydd ganddo nerth iddi i daro Prydain a'r ail beth, cyn sicred a hynny, ydyw,-fe waria Prydain ergyd olaf ei nerth hithau i droi'r Gelyn yn ol. Gwyddom y tosturia, neu y llidia, rhai wrthym am ddeisyf ar Dduw am i Brydain orchfygu Germani. Ymddengys Üni y mynnai'r cyfryw oddef ohonom ei* goresgyn, ac i'n gwragedd a'n plant gael eu llofruddio, yn hytrach nag inni godi pastwn, nac hyd yn oed ddwrn, i rwystro'r gelanedd canys pa wahaniaeth, o ran egwyddor, sydd mewn taro a dwrn a tharo a dur ? Os yw'r cyntaf yn Gristionogol, a'r ail ddim, yna, petai gan ddyn ddim ond llaw gelfyddydol,—fel y mae llawer cyfaill anffodus,—ac iddi fach dur yn lie dwrn, byddai'n anghristionogol iddo amddiffyn ei hun a'r bach hwnnw Yr ydym, bellach, yn tynnu at henaint, a gallai y gollyngai ergyd o wn Ellmyn ein hysbryd o'i babell glai yn fwy esmwyth na'r ffordd y gwneir os cawn ddirwyn ein heinioes yn naturiol i'r pen; ond ym- dyngheefwn i'n gwraig a'n plant y defn- yddiem unrhyw foddion yn ein meddiant i atal eu llofruddio gan y diefligrwydd Ger- manaidd sy'n anrheithio gwledydd yn y rhyfel hwn. Sonia'r Caiser am ei ffydd yn Nuw; ond nid yw ei holl SÔIl ond cabledd, pan gefnoga lofruddio babanod. Dyma ddilynydd i Herod, a llawer gwaeth na Herod ei hun. Sonier am Foeseg (Ethics) fel y mynner ond fe ddylai pob dyn dynnu ei foeseg trwy da* y cariad a enynnoddDuw yn ei galon tuag- at ei deulu ei hun. Ac oni ddylid dai eraill, y tu allan i'r cylch hwnnw, yng ngoleuni yr un safon ? Os dylem am- ddiffyn ein cartref rhag ymosodiad llofrudd, dylem, ni a gredwn, wneuthur ei* goreu i amddiffyn ein cymdogion a'. gwlad. Ysgrifennwn o hyd o dan yr argyhoeddiad mai Germani sydd wedi achosi'r rhyfel, ac mai yn ysbryd a dull y bwystfil anwar o'r coed y cyflawTaa lawer o'i weithredoedd hyd yn hyn. Boed i eraill eu rhyddid i farnu'n wahanol; ond fel hyn y barnwn ni, yn ol y goleuni—neu'r tywyllwch !—yr ydym ynddo. A da gennym feddwl nad yw'r dosbarth yr ydym o'r un farn a hwy yn ychydig o nifer nac yn isel eu safle na'u parch fel Cristion- ogion. Er pob gallu a fedd y gelyn, yr ydym hyd yn hyn yn hyderus am fuddug- oliaeth arno. Rhaid dymchwelyd pyrth uffern," ac un o'i phyrth hi, yn ddi- amheuol, yw Milw-riaeth Prwsia. $$$