Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

MESUR BYR. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MESUR BYR. Bu'r Henadur vVm. Anthony farW 11 sydyn o gl.efyd. y galon ym Mhwllheli ddydd Mercher diweddaf, ar ben ei drigain mlwydd oed. Efe'n hysbys fel creawdydd ? datblygydd y Bwllheli Jiewydd sydd ohoni heddyw, ac a ddaeth yno i ddechreu tua deng mlynedd ar hugain yn ol. Bu'n feer y dref saith mlynedd, yn henadur bum mlynedd ar hugain, yn ustus hedd- wch y sir wyth mlynedd y fo, yn y flwyddyn 1888, a gynhygiodd fod gofyn i Mr. Lloyd George ddod allan fel ymgeis- ydd am Fwrdeisdrefi Arfon yr oedd yn un o sylfaenwyr Cyngrair Rhyddfrydol Cenedlaethol a sefydlwyd yn Aberystwyth yn 1895; yn ddiacon gyda'r Annibyn- wyr a. gedy briod a phump o blant. ■9 Yr oedd Mr. Anthony yn wr o egm a gvreithgarwch tuhwnt i neb bron a does dim modd gwell teyrnged i'w ysbryd effro ac anturiaethus na dal y Bwllheli Newydd sydd yno heddyw gyferbyn a'r Hen Bwll- heli fyddai yno ddeugain mlynedd yn ol- Dyna wahaniaeth Gwir y deil ambell heol yn gul ac afiach ei thai, ac nad yw'r hen balmant clap—testun rheg a melltith trueiniaid y traed tendar "—ddim wedi llwyr ddiflannu ond y mae'r dref a'i bau a'i chyrrion wedi eu harddu a'u traws- gyweirio nes bod yn un o gvrchfannau mwyaf poblogaidd y gwyr-dyfod fisoedd yr haf. Gt Ac y mae rhai 20 i thrigolioti yn teimlo fod yn bryd bellach i Bwllheli sythu am gael yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917. Ni chafodd hi mo'r wyl erioed hyd yma. Ond rhaid torri crib y Caiser, cael pen ar y rhyfel, a chael Ewrop ati ei hun, cyn dechreu meddwl am ddim byd felly. Y mae popeth da wedi ei gau a'i geulo tan hynny ond pan ddelo'r amser i godi'r argae, dyna ryferthwy o gyfarfodydd ac afiaith drama ac Eisteddfod a lifeiria dros yr Hen Wlad vr adeg honno 3 Wrth gilio o gadair Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy, yng Ngholwyn Bay ddydd Mercher diweddaf, dywedodd y Parch. John Richards, Penmachno, mai cam yn ol ac ar y goriwaered fyddai "gosod unrhyw dreth ariannol ar eglwysi'r Cyfundeb, ac mai dal ati i "ddibynnu'n llwyr ar yr egwyddor wirfoddol fyddai oreu." Mown trethi gosodedig felly y caiff penaethiaid llygadog yr Eglwys Wladol gyfle i edliw i'r Ymneilltuwyr eu bod hwythau hefyd, pan eiff hi'n gyfyng ac i'r pen arnynt, yn troi i bwyso ar arian gorfod. 3 Y Parch. E. O. Davies, B.Sc., Llandud- .0, yw llywydd newydd y Cyfarfod Misol hwnnw a rhoed arno ef a'r Parchedigion 0. Gaianydd Williams (y Ro Wen) a Robert Williams (Glan Conwy) i lunio penderfyniad yn erbyn cynhygion dibris digywilydd Syr Henry Lunn parth ^ynnu'r Dadwaddoliad allan o Fesur Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Fe wnaed hynny, gan ofyn i'r Llywodraeth ddal yn ddisyfl at y Mesur fel y mae. Gwae hi oni wnelo 3 Dyma r newydd oedd ym mhapurau ,dydd Gwener diweddaf, sef fod Miss Dilys Roberta—merch Syr John a Lady Rob- erts, Caernarfon-wedi ei dyweddio ac -i'w phriodi maes o low d'r Capt. Rd. Lloyd George, mab Canghellor y Trysorlys. Cyfreithiwr yw Syr John, a chlerc Cyngor Sir Gaernarfon a swyddog ar staff y Brigadier-General Owen Thomas a'r Fyddin Gymreig yn Llandudno yw Capten Rd. Lloyd George. 3 Golwg go ddu a gymerai. r Canon Edwards-Rees, Manchester, wrth siarad o blaid Cronfa Fugeiliol (Pastoral Aid Society) yr Eglwys Wladol yn Llandudno ddydd Mercher diwdedaf. Sylwai fod arwyddion dirywiad ym mywyd moesol yr holl fyd gwareiddiedig, a hynny'n dilyn a ,deillio o lacrwydd calon. Ar gynnydd yr oedd troseddau ymhob gwlad ond Pry- dain, ac nid yw hithau heb achosion penbleth a phryder, ar wahan i'r rhyfel. Sut yr oedd y wlad i gael ei hachub ? Ai drwy addysg ? Nage. Ai drwy eugenics? Nage. Ai drwy amgenach tai ? Nage. Ai drwy Sosialaeth ? Nage, canys er i'r Sosialydd ddweyd, Pasiwch gyfreithiau i atal pob anghyfiawnder," canys pan fo'r bobl yn ddigon da i basio ac ufuddhau i gyfreithiau felly, ni fydd arnynt angen cyfraith yn y byd. Crefydd yw'r unig beth eiff at wraidd y drwg, a Nage fydd yr ateb am bob ffordd a diwygiad ond y ffordd a'r diwygiad a ddaw drwyddi hi. Bu'r Parch. Evan Evans, rheithor Llan- sadwrn, Mon, farw ddydd Iau diweddaf, yn saith a thrigain oed. Yr oedd yn hynafiaethwr hyddysg iawn, a chanddo gasgliad o greiriau Mon tuhwnt i ddim .-a geid drwy'r holl ynys. S400 yn y ilwyddyn yw gwerth y fywoliaeth. 3 Y mae'r Parch. Benjamin Evans, curad 'Felinheli, wedi cydsynio i dderbyn per- soniaeth Llanddona, Mon. e Dyfarnwyd E300 yn Llys Sirol Tre- ffynnon ddydd Iau diweddaf, i Mrs. Ellen Evans, Afon Goch, Trelogan, oddiar Gwmni Glo Point of Ayr, fel iawn am golli ei gwr a fu farw fel ffrwyth damwain a ddigwyddodd iddo yn y pwll hwnnw. Yr oedd i gael ugain punt yn syth, a'r gweddill yn ol dwybunt yn y mis. 11 Yr oedd Rowland ac Edward Williams —dau frawd -yn byw yn ffermdy Hafod y Cae, Ganllwyd—o flaen y fainc yn Nol- gellau dydd Iau diweddaf, ar gyhuddiad o ddwyn dwy ddafad eiddo Lewis Price, Dolmelynllyn. Oedwyd eu prawf am wyth niwrnod. 8 Y mae Mr. R. Stirrup wedi. ei godin 2nd leutenant yn 12fed Bataliwn y Royal Welsh Fusiliers yng Ngwrecsam. Cyn ymuno a'r Pals yn Llandudno fis Medi diweddaf, yr oedd yn efrydydd ym Mhrifysgol Bangor; bwriadai fynd i'r weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr; ac y mae'n frawd i Mrs. Tecwyn Evans, Birkenhead. e Yr Arglwydd Farnwr J. Eldon Bankes syddwedi ei ddyrchafu'n Ar gl wy dd Far n w Llys Apel, yn lie y diweddei* Farnwr Kennedy. Y mae'n drigain oed, ac yn byw yn Sychtyn, ar odre'r Wyddgrug. 3 Daeth gair i'r Wyddgrug fod y Lance- Corporal Isaac Williams—un o weithwyr y dref honno gynt—wedi cael ei ladd yn y rhyfel yn Ffrainc. Gyda Chatrawd North- ampton yr ydoedd, ac a fu drwy ryfel De Affrica o flaen hon. 3 Yr oedd y penderfyniad a basiodd Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd, a gynhal- iwyd yn Henllan yr wythnos ddiweddaf, yn un cryf a phlaen ei air yn erbyn ymyriad Syr Henry Lunn a Mesur Dad- waddoli a Dadgysylltu'r Eglwys yng Nghymru, a chystal a dweyd wrtho am feindio'i fusnes ei hun, nad oedd o a'i gynffonwyr yn gwybod dim yn iawn am danom fel cenedl, ac mai codi cythreuliaid yn lle'u bwrw allan oedd ffrwyth ei ymyr- iad busneslyd. Eithaf gwir pfe 8 Y mae yna deulu ym Mhwllliell- Dobson-sydd a phymtheg o'i aelodau gyda'r Fyddin. 3 Bu'r Parch. T. E. Jones, rheithor Hope, Sir Fflint, farw bore ddydd Gwener di- weddaf, wedi dim ond rhyw ddiwrnod o gystudd. Mab iddo ef yw Mr. Austin Jones, y bargyfreithiwr sy'n ymgeisydd Toriaidd am Fwrdeisdrefi Arfon, sef ethol- aeth Mr. Lloyd George. 3 Ni all dim siarad heb anadlu ond gramoffon ac onid am fod cymaint o'r gramoffon ynnom y mae'n gweddiau'n ddi-rym ? ebe'r Parch. E. Tegla Davies, yn ei ysgrif alluog a gwir dda yng Nghen- inen lonawr ar Weddi a Rhyfel. a Y mae'r Swyddfa Ryfel wedi anfon at awdurdodau Caernarfon yn gofyn iddynt dderbyn a lletya o bumcant i fil o ffoedig- ion Belgiaidd yn ol chweugain y pen yr wythnos o dal. 3 Y mae Cymrodorion Casnewydd ar. Wysg (Newport) wedi pasio penderfyniad cryf o gondemniad ar waith yr awdur- dodau milwrol yn penodi Sais (neu Ameri- canwr, mewn gwirionedd), sef Syr Hamar Greenwood, A.S., yn ben swyddog ar Fataliwn Gwent perthynol i'r Fyddin Gymreig ac yn datgan eu dig a'u gofid wrth weled arwyddion digamsyniol fod yna ragfarn yn erbyn laith a chenecii- aetholdeb Cymru yn rhengau uchaf y Fyddin a'r Llywodraeth. Cyfeirid hefyd fod yr un peth i'w gael yn gweithio mor fustlaidd o annioddefol yngljha a'n Llyfr- gell Genedlaethol yn Aberystwyth, lie yr oedd bechgyn dysgedig a disglair y genedl yn ymadael nes nad oedd yno neb werth rhawnen i ymgynghori ag ef ar lenydd- iaeth ucha'n gwlad. Ond sylwodd yr Henadur S. N. Jones, Y.H., fod achosion y drwg yn Aberystwyth ar fin cael eu symud. Yn hen bryd. Dim dimau arall ati nes y gwneir. 3 Bu'r Preifat Bendall, Tai Bach, ger Port Talbot, farw ddydd Sul diweddaf, yn wyth a phedwar ugain oed. Ymladdodd drwy'r Crimea, sef ym mrwydrau diangof Sebastopol, Inkerman, a'r Alma, lie y gwnaeth y Gatrawd Gymreig y fath enw iddi ei hun. Credir mai y fo oedd yr ola'n fyw o'r haid ddewr honno, haid y bu rhywun yn adrodd ei hanes hi a'i gorchestion mewn nofel flasus yn yr Herald Cymraeg ddeugain neu 1wy o flynyddau'n ol. O'r 132 ymunodd a'r Fyddin yn Llan- rug, Sir Gaernarfon, caed fod 114 yn Ymneilltuwyr, nes gadael dim ond deunaw i'w galw'n Eglwyswyr. Arithmetic gwreiddiol iawn yw un Llanelwy pan all dynnu 70 y cant o Eglwyswyr allan o ffigyrau fel hyn. Niwl sel yr Esgob Edwards sy'n lleithio'i lechen, nes fod dim modd i'r dyn wneud ei sum yn iawn. <3 Y mae gwaith y deucant a hanner o Pals Llandudno yn cerdded drwy drefi a phen- trefi Sir Gaernarfon a Sir Feirionydd, ac yn cael seindorf mewn ambell le i chwythu eu cyrn arian o'u blaenau, yn tynnu pob gwrach a phlentyn i ben y drws, i rythu a gwrando. Buwyd yn Ffestiniog, Penrhyn Deudraeth,Harlech,Porthmadog, Cricieth, Llanystumdwy, Pen y groes, a rhes o fannau eraill cydrhwng. Ac os na ym- unai'r bachgen wedi clywed Band Nantlle yn cwafrio Rhyfelgyrch Gwyr Harlech, rhaid nad oedd ganddo ddafn o waed nac enaid i'w dwymno. Y mae un o ohebydd- ion Y BRYTHON ymysg y 250, a disgwyliwn lith lawn a disgrifiadol o'r daith gyda hyn. Cofiwch, Edward Jones, a rhowch ddigon o flaen ar eich pensil hir. Dedfrydwyd Geo. H. Stapleton—llarvc tftir ar litigeiii oed ac wedi cael rddYRg i.wn.-i flwyddyn o garcliar a llafur caled ym Mrawdlys Sir Ddinbych ddydd Llun diweddaf am dorri i siop yng Ngwrecsam gyda'r arncMi o Ip,dra.tp;. Hanes du oedd iddo, er ei ieuenged a dywedodd y cyfreithiwr erlynol mai newydd ddod o'r car char yr ydoedd, a'i fod wedi ymuno a'r Royal Welsh Fusiliers pan gyflawnodd y trosxsdd. Estynnodd Staple ton nodyn i Farnwr y Fainc, ond dyma 'r ateb Ilym a gafodd i hwnnw :— Dywedwch i chwi ymollwng i feddwi, PC os y cewch un eyfle'n rhagor i ymsythu, yr ymunech a'r Fyddin ond yn anffodus i chwi, nid oes ar y Fyddin ddim eisiau trafl diles fel y chwi." Bu cwest ar Miss Sarah Griffiths-hen ferch ddwy ar bymtheg a thrigain oed- ym Mhwllheli ddydd LIun diweddaf. Byw ei hun yr oedd, mewn bwthyn ar odre'r dref, ar flwydd-dal yr hen a rhyw dair wythnos yn ol, diflannodd o'i thy drwy'r ffenestr tua hanner nos ac er pob ehwilio, ni ddeuwyd o hyd iddi nes y daeth Mr. David Jones ar draws ei chorff ar un o feysydd ei fferm ddydd Sul di- weddaf, gryn chwe milltir o Bwllheli. "Ac yr oedd golwg enbyd arni," ebe Mr. Jones yn y llys. > Dyma newydd drwg, ond a ddisgivylid, o'r Bala,sef fod Mr. J. C. Evans, M.A., prifathro'r Ysgol Sir, wedi marw. Di- hoenodd yn hir, druan. Llenwodd swydd ysgolfeistr yn y Bala am dair blynedd ar ddeg ar hugain a chyn hynny, bu'n athro yn Ysgol y Friars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, tan y diweddar Esgob Lloyd. Yn Ysgol Ramadeg Dol- gellau y cafodd ei addysg a chwith fydd gan ei hen ysgolorion-sy bellach led y byd—fydd clywed nad yw eu hen feistr mwy. (it Bu Mr. R. E. Jones, pennaeth cangen yr Wyddgrug o Ariandy'r National Provinc- ial, farw nos Lun ddiweddaf, yn drigain oed, o'r niwmonia. Eglwyswr a Cheid- wadwr ydoedd o ran ei gred, ac yn un o'r gwyr mwyaf hysbys yng nghylchoedd ariannol Gogledd Cymru. 3 Dywedodd Mr. W. Twigge Ellis, y cyf- reithiwr, bethau llym a chryfion iawn yn Llys Llanrwst ddydd Llun diweddaf, sef fod yn warth meddwl nad oedd dim cymaint ag un ustus heddwch yn byw ac ar gael ar ochr Sir Gaernarfon i'r afon rhwng Conwy a Betws y Coed, bellter un filjtir ar bymtheg a phan fyddai eisiau ynad i arwyddo rhyw bapur neu beth, fod yn rhaid helcyd a theithio'r holl ffordd i'r Betws neu 'ynteu i Gonwy, gan beri coll amser ac arian. Gobeithiai weld arglwydd-raglaw'r Sir yn cgdi tani i wella pethau rhag blaen, a pheri i Drefriw gael yr un fraint ag a gaiff trefi eraill. 3 Bu Mr. Marmaduke, clerc tref Aber afon, farw ddydd Sul diweddaf, yn ddeu- naw a thrigain oed, ac wedi llenwi r swydd honno ers deuddeng mlynedd a deugain. --0-

ICymanfa Bedyddwyr IDlibych,…

Advertising