Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

< O ig y I Lleifiad. ¡

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

< O ig y Lleifiad. PAWB fI: BWT. I Amcan Pig y Llcifiad ydyw bod yn ddrych, mor lawn a chywir ag y gall, o fyci a helynt Cymry Lcrpwl a dau tu'r afon, lie y mae deng mil ar hugain ohonom, f\vy neu I ii, yn gwneud ein goreu o'r ddau fyd. A phe'r estynnech eich llinyn mesur ymlaen heibio Huyton a Whiston a Phrescot a St. Helens a'i Junction, ac Earlestown a Widnes a Warrington a Wigan ac ymlaen nes cyrraedd Man- chester, ni synnwn i ddim na chaecli o iryd, rhwng y cwbl, i banner can mil o bobl Hen Wlad y Menyg Gwynion, wedi eu hatt fel halen gan Ragluniaeth fawr y Nef i gadw crefydd Lancashire rhag pydru. Y mae'r Cyfrin, gohebydd Manceinion, yn gofalu am ei gylch ef yn gampus, fel nad oes dim o bwys yn digwydd y ffordd honno nad yw ef feinglust yn clywed ac yn pe(K,,io'r hanes yn dwt a diddorol i'w fasged- aid wythnosol. Y mae'n annichon i'r Lleiftad, er cy- maint ei hawydd i hynny, glywed pob peth a hedeg i bob man. Cofiwch fod arni eisiau cadw clwyd Y BRYTHON yn Ian, a gofalu am gael digon o fwyd iach i'r miloedd BRYTHONiaid sy'n clwcian mor uchel am eu pryd bob bore dydd Iau, ac a tidwrdiant mor groch onis cant. Ae felly, yr wyf mor hy' a gofyn a fyddwch chwi, bobl y Capeli a'r Llannau, gwyr y pwyllgorau a'r cyngherddau a'r oyfarfodydd, bechgyn y siopau a'r swydd- feydd, a phawb ymhob cylch a chysylltiad, inor garedig a rhoi help Haw inni gael y aewyddion i fewn ac mewn pryd. Y mae amryw byd yn gwneud hynny sisoes, drwy'n galw at y phone a gofyn inni, Glywsoch chwi am y peth a'r peth ? Na ddo," ebem ninnau ac wedyn dyna ddal i ymgomio ar y phone am cael y cwbl o'r many lion yn glau i Big y Lleiftad. Eraill yn gofalu ysgrif- ounu eu paragaff a'i anfon ymlaen. Y mae gan rai o'r eglwysi ddyn gosod- edig at y gwaith o anfon pob newydd a ddigwyddo ynglyn a'u corlan hwy; byddai'n dda pe gwnelai'r holl eglwysi'n gyffelyb, canys y mae yma groeso i bob aewydd, nac o bwys yn y byd gen i o ba eglwys nac enwad y delo, cyd ag y byddo yn gywir a theg ei gyhoeddi. Ac os cyf- sowidiwn ac y cwtogwn weithiau, cofiwch mai o raid a gorfod y gwnawn hynny, ac nid o fympwy'n y byd, er mwyn closio'r Aewyddion at ei gilycld, a chael Ile, ibawb fo'n ymofyn am set yn Seiat Y BRYTHON. Diolch i'r llu cyfeillion ffyddlon, draw ax yma ar Lannau Mersey, sy'n ein eefnogi mor gyson ar hyd y blynyddau, ac yn anfon popeth o'u cylch hwy ymrodd- ed eraill atynt i wneud yn gyffelyb a kanes eu heglwys a'u cylch hwythau. Ond i bawb anfon ei bwt, ni welsoch chwi arioed golofn mor flasus fydd Pig y Lleifiad i Gymry Lerpwl a'r wlad hefyd. Dyma fi wedi rhoi'm hachos gerbron •ystal ag y medrwn; dyma fi'n Ian oddiwrth waed pob enwad a phlaid a'r owbl sydd gennyf i'w ddweyd wrth eistedd i lawr ydyw hyn COFIWCH ANFON, BAWB M BWT S Lle'r huna Griffith Ellis. I Y mae ami i Gymro annwyl ei goffa yn kttno tan ei garreg ym mynwent Anfield, *nd yr un anwylach gan bawb o bob plaid ac enwad na'r diweddar Barch. Griffith I Ellis, M.A., sydd a cholofn o ithfaen newydd gael ei gosod ar ei fedd gan ei weddw, ac arni'r hyn a ganlyn :— Er Cof Serchog am y Parchedig Griffith Ellis, M.A., Pregethwr yr Efengyl yng Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd am hanner eanrif, a gweinidog Eglwys Stanley Road, Bootle, am 38ain mlynedd. Perchid ac anwylid ef fel dyn, fel pregethwr meddylgar, fel bugail ffydd- lon, ac fel gweithiwr ac arweinydd ym mho b mudiad crefyddol. Gwasanaethodd ei genedl hefyd fel Ilenor ac fel diwygiwr cymdeithasol. Ganwyd yn Aberllefenni, Sir Feirion- ydd, Medi 10, 1844. Bu farw yn Bootle, Gorffennaf 14, 1913. Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn gyfrannu gair y Gwirionedd." -2 Tnr. ii. 15. Jkr wyneb arall i'r golofn ceir a ganlyn :— Er Cof Serchog am Leta Eleanor merch hynaf y Parch. Griffith Ellis, M.A., a Mary Ellis. £ Ganwyd Hydref 26, 1877 t Hunodd yn yr lesu, Medi 6, 1897. T mae hunell Mr. Ellis y nesaf un i'r eiddo Dr. Owen Thomas, canys yr oedd wedi deitllyfu a threfnu ers llawer blwyddyn gael gorwedd yn nes na neb arall at yr efengyl- ydd diangof hwnnw. Da 'rwy'n cofio mai wrth gladdu Leta Eleanor y dywedodd y diweddar Ddr. Hugh Jones y sylw byw a, chofiadwy hwnnw, sef wrth ofidio, mewn anerchiad ar lan ei bedd, iddi gael ei chymryd ymaith yn ei blodau-yn ugain oed :— Ond o ran hynny, nid lie i fyw ydyw'r U byd yma, ond lie i ddysgu byw" <. gan awgrymu mai rhyw brentisiaeth a fwriwn yn y fuchedd hon, ac mai yn y Byd Arall y byddwn yn ddigon o feistri ar y gelf i fedru byw'n dragywydd heb frrir mwy. Glywsoch chwi un. gwell na. fo ? Naddo, erioed! Gwilym Matliafarn, fe addawsoch chwi y deuech gyda'r Lleified i ddangos beddi'r Cymru cu ac enwog sy'n aros csniad yr Utgorn Diweddaf ym mynwerttydd Ler- pwl. GYTrwch gerdyn i ddweyd pa bryd y byddo'n fwyef cyfleus i chwi rhyw ddydd Iau neu ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn a wnai'r tro i mi. Gorchwyl go brudd fydd mynd at mnryw o'r beddau- megis bedd Mr. HaiTy Evans yn Smith- down Road ond y mae yna lawer gwers a gwirionedd y byddai'n werth eu rhoi ar gof-a-chadw. Fe wyddoch chwi ymhle yr hUlle; pawb o ddim pwys. 8 Canmlwydd Thomas Gee. Dethlid canmlwydd geni'r Parch' Thomas Gee, Dinbych, drwy gapeli ttc Ysgolion Sul Cymru y Saboth diweddaf, a gwnaed yn gyffelyb yn ysgolion e phul- pudau Cymreig Lerpwl a'r cylch. Tal- wyd y warogaeth uchaf i'w athrylith a'i lafur anferth fel sylfaenydd Y Faner, gan ei gadw am flynyddoedd yn un o brif bspurau ei genedl. Fel diwygiwr gwleidyddol a wnaeth gymaint ag odid i'r un Cymro i hy- rwyddo rhyddid gwladol ac eglwysig. Fel gwr galluog ei hun ond mwy na hynny, fel darganfyddwr pob galluog arall, a chael gwasanaeth » chynhorth- wy blaenion y genedl gyda'i waith a'i arfaethau ef ei hun. Fel pregethwr grymus, holwr Ysgol diguro, a phleidiwr pob eglwys wan cystal a'r gref. Fel cyhoeddwr llawer o'r lenyddiaeth oreu a mwyaf bendithiol a gafodd Cymru, yn ddiwinyddol ac Ysgrythyrol a chenedlaethol; a gwario'i filoedd o bunnau ar ddwyn Y Gwyddoniadur Cymreig drwy'r wasg, nes fod ei gyn- nwys wedi bod yn gynhaliaeth a goleuni i'r holl genedl, bob plaid ac enwad. Ac yn olaf, fel dyn a Christion cryf a diamwys ei air cwbl gadarn ei farn heb arno ofn dyn na dosbarth o ddyn- ion a feiddiai arddel ei argyhoeddiad, yn wyneb pob gwawd a gwrthwynebiad, a chanddo alluoedd a grym personol oedd yn gryfach a mwy dylanwadol hyd yn oed na'i alluoedd meddwl, 3 I Cysgwch, da chwi I Yn clywed am dynged a galltnM Searbro ac Yarmouth ac yn y blaen yr ochr arall i j Loegr yma, yr oedd rhai o bobl ofnus a merchetaidd y Mersey wedi mynd i grynnu I a cholli eu cwsc rhag i longau'r Germaniaid glecian rhyw ganol nos ar Lerpwl a'r glannau yma, ac yn ddisgwyl clywed Twr New Brighton a'r ddau Leifiad melyn I eu haden sydd ar Liver Buildings y Pier- head, a Chapel M.C. Princes Road, yn disgyn yn deilchion nes lladd ugeiniau o bobl; ond na, chwi ellwch roi'ch pen ar eich gobennydd yn dawel, canys 'does dim rhithyn o berigl y daw'r un o Dread- noughts y Caiser byth heibio Trwyn Caergybi heb i ddau lygad Lewis Jones, gwyliwr cyflymgraff Ynys yr Hilbre, Weet Kir by, eu gweled ddeugain milltir ymlaen Haw. Y mae chwarter canrif a mwy o wylio'r mor a,c o edrych drosto wedi gwneud y ddau lygad hynny'n ddigon main a barctitaidd eu golygon i wanu drwy'r niwl trwchaf, nes gweld drych- feddwl drwg a dieithr yn hedeg heibio, heb son am weld llong ddrwg a dieithr. Ac felly, cysgwch, da chwi, gwnewch lai o dwrw, a diolchweh i Ragluniaeth am roi'r fath ddau lygad ym mhen Lewis Jones. r Y Pedwar At-dyniad, Gwelais raglen cyngerdd yr Undeb Corawl—(" Cor Harry Evans," fel y myn y wlad ei alw am byth bellach)-sef y cyngerdd gwladgar sydd i'w gynnal yn y Philharmonic nos Sadwrn wythnos i'r nesaf a mentraf ddweyd na fu deunydd gwell bias ac arlwy erioed ar raglen. Yr at-dyniad cyntaf ydyw fod y C6r ei hun i ganu saith o ddarnau-Cymreig Gwyddelig, Ysgotig, ac yn y blaen, a Rest, Soldier, Best J. H. Roberts a The river floweth strong Dr. Rogers yn eu mysg. Yr ail at-dyniad ydyw hwn fod Sein- dorf lawn ac enwog y Grenadier Guards wedi eu llogi, ac i'n gogleisio a. detholiad o gerddoriaeth felysa'r byd, yma ac oddiar y Cyfandir, heblaw Qu bod hwy a'r C6r i ganu anthemau'r Cynghreiriaid a Soldier's Chorus Faust. A phan gofiwch fod y cor a gwyr y cyrn yn rhifo tri chant, dyna ganu fydd hwnnw Mr. Chas. Tree, y bass bydenwog, fydd y trydydd at-dyniad,—y fo i ganu pum can a'i ddyfnlais dihafal. Y pedwerydd at-dyniad, ac yn glo a choron ar y cwbl, ydyw hwn mai at y Drysorfa Ryfel yr eiff yr holl elw, sef i glydu a lleddfu poenau pawb sy'n dioddef erddom mor fawr yma ac ar faes y gwaed. HYN AC ARLL. I Gohirio'r Ddawm.-Y mae'r Ddawns Gymreig-y Welsh Bachelors' Ball, fel y gelwir y sefydliad blynyddol a phoblog- aidd hwnnw—wedi cael ei ohirio am eleni a hynny am fod y pwyllgor, bob aelod ohono, wedi ymuno a'r Fyddin, ac wrthi'n amddiffyn eu gwlad yn y naill adran neu'r llall ohoni. DongyH yr hysbysiad ar tudal. 8 mai nos Sadwrn nesaf y mae cyngerdd eglwys Donaldson Street i fod, ac mai tenor y noson fydd Mr. R. O. Thomas, Dinorwig, canwr ifanc addawol iawn, ac sydd a son mw amdano yn cvrraedd yma. o'l flaen. Yn dyfod.-Gwelir oddiwrth Golofn y Cyfrin, Manceinion, fod y Parch. D. D. Williams, Moss Side, wedi cydsynio a'r ttlwad i fugeilio eglwys David Street, ac y bwriada ddechreu gyda'i gorla;n newydd yn Ebrill. Daw ei lun a gair am ei yi'fa yn y Brython nesaf. S Y mae Mr. A. H. Chambers, Toronto, Cnada-Aef mab ein cyd-ddinesydd Hr. Heber H. Chambers-yn ymgeisydd am avrydd Gohebydd Seneddol yn Neddfwrfa Talaith Ontario. 3 De; gan Lerpwl a'r cylch ydyw meddwl y cant gyfle i glywed Plant y Pentre-sef C6r hyglod Mr. R. T. Edwards-unwaith eto, sef yn St. George's Hall, nos Sadwrn neeaf. Y cantorion i gyd, yn fechgyn a genethod, i ymddangos ar y llwyfan yng ngwisg hardd a hudol y cenhedloedd cyfeillgar a ni sy'n ymladd air y Cyfandir. Byddant yn werth eu clywed—a'u gweld a clxofiwch fod yr holl elw i'w gyflwyno at anghenion y Rhyfel. 8 DAU TU'R AfON. TRINITT ROAD (A. ).—Bur eglwya uchod yn ethol diaconiaid, ? dyma enwau y pedwar a ddewiswyd: Mri. W. Owen, 31 Queen's Road; D. Davies, 11 Beach Street Owen Jones, 47 Imison Street, John Thomas, 63 Viola Street. "Wt are •• seven," neu 01 dewisir, 'Roedd aaith ohonom gyda mam." Gall teulu Mr. a Mrs. Kelly ddweyd y naill neu'r llall o'r llinellau uchod,—saith o blant a'r fam sydd yn gwneud i fyny'r Melba Concert Party a hwy fu'n cadw cyngerdd ardderchog yn yr Y.M.C.A., Foley Street, Nos Fercher yr 20fed. Tro call iawn wnaeth gofalwyr- am yr achos cenhadol, Smith Street, yn trefnu i gynnal ail gyngerdd y tymor yma, achos buasai ystafell genhadol Smith Street yn rhy fechan o lawer. Wyddoch chwi, syr, buasech wrth eich bodd yn gwrando Cor yr Aelwyd yn odrodd etc, yn actio. Nid wyf yn cofio enwau'r cwbl Olp plant bach yma, ond yr oedd yno Theo, May, Melba, Russell, Queenie, Frankie,— o ie, Doris, dyna y saith Wir, yr oedd y leiaf, geneth fach tua thair oed, prin y gallesid ei gweled ar y llwyf&n, gan ilior fach oedd, ond yr oedd hi yno ac yn gwneud ei rhan yn gampus. Mr. Evan Williams, Oakfield, oedd y cadeirydd, a lie y gallesid cael ei ffyddlonach a mwy hael- ionus ? Fe fagodd yntau dyaid o blant, ac y maent heddyw yn anrhydedd, nid yn unig i'r teulu, ond i'r dref ac i Gymru mae Mr. James Williams vn un o athrawon Coleg Bangor, a Mr. Isaac Williams yn dysgu plant yn yr ysgolion dyddiol (ac ar y Sul yn dysgu plant bach Smith Street), a'r mab arall yn dysgu trin y cledd." Ar y diwedd, diolchwyd yn gynnea i'r cadeirydd a'r cor, gan y Parchn, John Owen ac Ivor Hael Jones, a Mr. John Edwards. Fel y sylwyd, hwn ydoedd yr ail gyngerdd yn y tymor, a'r amcan yw cael offeryn cerdd newydd i'r ystafell, un deilwng o'r lie, a'i chael hefyd ar yr un tir a'r ystafell-wedi talu amdani a'r drydydd waith yw'r goel. Y maent am dreio unwaith eto, dipyn bellach ymlaen. Clywais eu bod am gael yr offeryn newydd i ganu tuag Ebrill neu Mai-adeg f gog. -Un oedd yno. WEST KIRBY.-Trem trwy Ddrych Atgof oedd testun darlith Pedrog yn y capel Cymraeg nos Fercher, a'r gynulleidfa yn eu dwbl yn mwynhau atgofion ysmala yr athrylithgar fardd. Y Parch. J. H. Howard lywyddai, a Mr. A. R. Fox ddiolchai am yr arlwy amheuthun. A phe bai Pedrog a'i ddrych enwog Yn chwilio'r byd o ben i ben, Ni chanfyddai neb ddiolchai Yn well na Mr. Fox "y Den." A chyda'r englyn canlynol y diweddodd ti ara-wd ddiolch i Pedrog N'odau Ilwyr enaid lion—yw hylifol Afiaeth Pedrog hylon, pj Dylifai'i frwd hyawdl fron g Arabedd diarhebion. Caed gwledd o de a phob danteithion o flaen y ddarlith, ar draul priod hawddgar y bardd o'r Den," a'r elw mawr oddi- wrth y naill a'r llall yn cael ei drosglwyddo i drysorydd yr eglwys, sef Mr. G. P. Jones, Cartref," yr hwn, mewn araith hynod hapus, a ddjolchodd i Mrs. Fox am ei charedigrwydd diddiwedd i'r achos Cym- raeg yn West Kirby. Drwg gennym gofnodi marwolaeth yr addfwyn Mr. John Davies, y Moorings, yn 69 mlwydd oed. Brodor o Sir Ddinbych ydoedd, ond wedi treulio'r pymtheng mlynedd diweddaf yn West Kirby, a phrofai'r dorf liosog a pharchus ddaeth i'w angladd ddydd Sadwrn gymaint y parch a goleddid tuagato. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parchn. J. H. Howard ac O. J. Owen, M.A. Garddwr celfydd ryfeddol ydoedd wrth ei alwedig- aeth, ac un o'r cymeriadau mwyaf dy- munol. Dioddefodd lawer oddiwrth an- hwylder y galon, a hynny yn dawel a di- rwgnach. Teimlir colled fawr amdano yn y capel Cymraeg, lle'r oedd yn aelod ffyddlon iawn, ac yn un o'r athrawon mwyaf goleuedig. Gwnaed coffa teilwng ohono y Saboth, yn yr ysgol, a thrachefn yn oedfa'r hwyr, pryd y traddodwyd pre- geth briodol iawn i'r amgylchiad prudd gan y Parch. Joseph Davies, Birkenhead, oddiar yr adnod, Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw," a theimlid gan bawb oedd yn bresennol fod John Davies wedi sylweddoli gwirionedd y testun tuhwnt i bob amheuaeth, e bod ei fywyd glan wedi harddu llwybrau crefydd a gadael arogl peraidd o'i ol. Chwaraewyd y Dead March ar yr organ gan Mrs. Fox ac wedi pasio pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw oeclrannus yn ei hunigrwydd mawr ymwahanodd y gynulleidfa ddwys mewn hiraeth am un nad anghofir yn fuan. WESLEAID SPELLOW LANH.—Dan nawdd Guild y Bobl leuainc, cynhaliwyd cyngerdd rliagorol yn y capel uchod, Nos Fercher, lonawr 20. Trefnwyd y cyngerdd gan yr Avenue Male Voice Choir (Mynydd Seion), yr hwn, dan ar- weiniad Mr. Fred Roden, a ganodd bedair gwaith gyda chwaeth a medrusrwydd. Canwyd unawdau'n gampus gan Miss Annie Hughes (contralto), Mr. Griff Owen (tenor), Mr. Frederic George (baritone), a phenhillion gan Mr. H. Parry-Jones, ac l adroddwyd yn fedrus gan Miss Nell Williams, Uu raid i r cwbl ymddangos yr ail waith, gan mor gymoradwy y gwnaethant eu rhan. Cyfeiliwyd yn alluog gan Miss Gwennie Parry-Jones, Cadeiriwyd gan Mr. Ivor Davies (mab y diweddar Gwilym Dafydd). Yr oedd y capel yn orlawn, a mynd anghyffredin ar y gweithrediadau o'r dechreu i'r diwedd. Diolchwyd ar y terfyn gan Mr. Ellis Owen a'r Private Demef?! HBATHFIELD ROAD.-Cyfarfod eithr- iadol o ddiddorol a lhvyddiannus gafwyd yn yr ysgoldy uchod nos Fercher, yr 20fed eyfisol, pryd y perfformiwyd y ddrama Helynt a Heulwen gan gwmni Martin's Lane, Liscard. Yr oedd yr adeilad yn orlawn pan gododd y Parch. D. Adams, B.A., i ddatgan gofid yn herwydd absenol- deb anorfod y cadeirydd, Mr. Owen Owens, a sylwodd ei fod er hynny wedi danfon swm anrhydeddus iawn at yr achos, ac wedi dangos caredigrwydd cyffelyb or blaen. Cymerwyd y gadair yn ei le gan Mr. T. A. Lloyd, ac wedi ychydig eiriau pwrpasol gadawodd i'r ewmni ddechreu lieb gGxii atnser, Per- fformiaci rhagdyol gafwyd, a mfewf oedd rttwynhad y rhai a'i clywodd. Yr oedd disgwyl mawr wrth y cwmni, aC ni siom- wyd neb. Profodd yn noson ddifyr dros ben. Ni chlywir dim ond canmoliaeth uchel i'r Cwmni ar bob Haw. Ar y terfyn, diolchodd M-r, Admins a Mr; j: E: Yinim i Mr. Owen OWêfiS; Mr. T. A. Lloyd j ae cwmni am eu gwasanaeth gwerthfawr. Yr oedd Mr. Pierce Jones, awdur y ddrama, yn y cyfarfod ac ar wahoddiad y cadeir- ydd, rhoddodd air o galondid i'r cwmni, gan ddweyd eu bod wedi mynd rhagddynt i raddau sylweddol er pan fu'n eu gwrando o'r blaen, ac fod 61 llafur mawr ar eu gwaith. Ar ol i'r cadeirydd gydnabod y diolchgarwch iddo ef, atebwyd ar ran y cwmni gan Mr. Herbert Jones i'r perwyl hyn fod tri cymhelliad wedi dod a hwy i Heathfield Road, sef 1. Cariad at Bglwys Grore5 Street, ac awydd am ad-dalu peth o'u dyled iddi am ei charedigrwydd iddynt yn y gorffennol; 2. Awydd am hyrwyddo'r Ddrama Gymraeg 3. Awydd am ddangos eu hunain ond o'r tri, mai'r cyntaf oedd y cymhelliad mwyaf. Diolch i Mri. Wm. Jones a Charles Owena am eu llafur yngtyn A chodi'r llwyfan.-A.M.D. LAIRD STRHBT,—Nos Fercher, yn y Gymdeithas Lenyddol, o dan lywyddiaeth y gweinidog, caed dadl, A ddylid ad-drefnu ein ffurf-wasanaeth crefyddol I Dylid- R. J. Griffiths Na Ddylid-Evan Will- iams. Dadleuid y dylai'r gynulleidfa gydadrodd y bennod ar ddechreu'r oedfa, a chydadrodd Gweddi'r Arglwydd ar derfyn pob oedfa; ac o'r ochr arall dywedid fod rhai pobl yn anfoddlon, ac eisiau newid yr hen drefn. Cymerwyd rhan ymhellach yn y ddadl gan Mri. J. A. Jones, H. Williams, R. E. Roberts, R. Rowlands, J. Evans, E. Evans, Hugh Jones, David Evans, Miss Kate Jones, a Mrs. W. Thomas. Caed mwyafrif dros adael pethau fel y maent.-Nos Iau, yn y Seiat, caed anerchiadau ar y Genhadaeth gan y Parch, a Mrs. J. W. Roberts, Sylhet. Hon oedd y waith gyntaf i ni glywed Mrs. Roberts, a gwnaeth argraff dda. Bu Mr. Roberts yn rhoddi anerchiad o'r blaen i ni rai misoedd yn ol, ac hefyd yn gwasan- aethu am Saboth. Fel y gwyddis, un o blant Chatham Street ydyw ef. Mwyn- hawyd ei draethiad yn fawr yn Laird Street. Deallwn ei fod yn gadael yr eneth hynaf yn y Rhyl.—B.J.G. EGLWTS M.C. EDGE LANH.—Nos Lun ddiweddaf, cafwyd darlith addysgiadol a diddorol gyda limelight illustrations, ar Taith trwy Khasia, gan y Parch. E. H. Williams. Yn absenoldeb Mr. Edward E. Morris, Parkfield Road, yr hwn oedd yn analluog i fod yn bresennol oherwydd gwaeledd ei dad, Mr. John Morris, Y.H., llywyddwyd gyda'i ddeheurwydd arferol gan y Parch. D. Jones. Daeth cynhulliad da, a chafwyd cyfarfod gwir ragorol. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Williams am ei ddarlith gan y Parch. J. H. Morris a Mr. Griffith Davies; i Mr. J. W. Davies, Waterloo, am ei garedigrwydd yn rhoddi ei wasanaeth gwerthfawr gyda'i lusern i'r boneddwr caredig, yr hwn yn ol ei arfer a ofalodd fod y plant yn cael eu lie I yn y cyfarfod a hefyd i'r ysgrifen- nyddion, Miss Owen, Monarfon, ft Mifts Williams, Laurel Road, am ou llafw diflino gyda'r trefniadau. Er i Mr. Morris fod yn analluog i fod yno, derbyniwyii rhodd hael oddiwrtho, gyda'i ddymuniad- au da am Iwyddiant y cyfarfod, .'r achos cenhadol yn gyffredinol. Ac wrth gyd- nabod caredigrwydd Mr. Morris, omlyg- wyd y cydymdeimlad llwyraf Ai ef yn ei bryder a'i drallod, gan ddymuno ftdferiaei buan i'w annwyl dad. o

Ffetan y Gol.

Advertising