Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
BARDDONIAETH GORONWY OWEN. ChwechedAre;ralfiad. Gvda Bywafpaffiad byrr gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, Is Swyddfa'rJ"Brython," Lerpwl.
I tin G-nedi ym Mancainion.i
I tin G-nedi ym Mancainion. Dyddiadur. CHWEFROL 5-Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 19-Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol MAWRTH 27—Cymanfa y Gobeithluoedd I Cenhadon y Sul Nesatv Y METHODISTIAID OALFINAIDD. Moss SIDE-Hl.30 a 8-30. D D Williams PENDLETON—10.30, R Lloyd, Bala fI, Robert Williams HEYWOOD ST-10-80. R Williams fl. E Wyn Roberts VICTORIA PK—LO.sn, E Wyn Roberts 6, Richard Lloyd LEIGH—10-30 a 6 WARRINGTON—10.30 a 6, FARNWORTH—2.30 a 6, BARLESTOWN—10.30 a 5.45. ASHTON-UNDER LYNE—2.30 a 6, S B Jones, Oldhaw BLACKBURN- EOLWYS UNDEBOL ECOLES—11 a 6-30, YR ANNIBYNWYR 0HORLTON RD-10.30, M Llewelvn, ti.15, BOOTH ST -10.30, q 6-15. M Llewelvn LD DUNCAN ST., -8ALPORD-10-30 a 6-15, J Morris QUEEN'S RN—10-30 a 6-15, HOLLINWOOD—10.30 a 6.15, WEASTB—10.45 a II W W Jones Y BEDYDDWYR UP. MEDLOOK ST.—10.30 a 6. J H Hughes LONGSIGHT—10.30 a 6.30, ROBIN'S LANE, SUTTON-IO.30 a 5.30 I COLOFN Y CYFRIN. i DRAMA I GYMBU.-Caed deffiniad clir o'r hyn sydd yn angenrheidiol mewn drama, trwy ddarlith ragorol Mr. Richard Williams, Pendleton, nos Wener ddiweddaf, yng nghyf- arfod y Gymdeithas Genedlaethol. Er mwyn amgyffred y testyn trwy enghreifftiau, elfen- nodd y darlithydd ddwy ddrama nodedig, sef Antigoni gan Roegwr a Macbeth gan Shakes- peare, a dangosodd y gwahaniaeth rhyng- ddynt. Yr hyn sydd yn cynhyrchu y ddrama mewn bywyd ydyw'r rhyddid sydd tufewn i ddyn yn ymfrwydro a'r ddeddf a'r caethiwed sydd y tuallan iddo. Mae gan y nofel ei mynegiad o fywyd, ond ei hawclur sydd yn disgrifio popeth, a phob agwedd ar y cymer- iadau. Disgrifio mae y nofel, ond bywyd yn digwydd yw y ddrama. Yn rhan olaf ei ddarlith ceisiodd Mr. Williams ateb y cwest- iynau,A oes gwerth i ni gael Drama i Gymru ? A oes teimlad o angenrheidrwydd yn y Cymro amdani ? Cyn ateb yn gadarnhaol, gofyn- nodd amryw gwestiynau eraill gwerth eu hystyried, megis, A oes dawn drama gan y Cymry ? Tybed ai awydd am nowydd-deb sydd ynnom, am ein bod yn dechreu blino ar de parti a chyfarfod llenyddol, etc. ? Onid barddoniaeth a cherddoriaeth fyddai oreu i ni ? I gyfarfod y cyfryw gwestiynau, dang- osodd yn eglur fod gofyn mawr am rywbeth gan ein cenedl. Mae ein bywyd llenyddol yn rhy gyfyng, nid yw gyfied a'n bywyd. Mae'r ddrama yng ngwaed ein cenedl. Ceir hi yn y Mabinogion, Pwyll Pendefig Dyfed, a Pher- edur, yn arbennig. Daw'r ddrama i'r golwg ym marddoniaeth y Canol Oesoedd. Hefyd yn y deffroad llenyddol a cbrefyddol. Mae hanfod ein harwrgerddi yn perthyn i'r ddrama ac felly y pulpud dyna oedd nodwedd hen bulpud Cymru. Nodwedd y ddrama oedd gan yr Tnterliwd, methodd hi oherwydd fod drama uwch a rhagorach y pulpud yn ei lladd, yn anuniongyrchol. Ceir y ddrama hefyd yn ein caneuon gwerin. Mae elfennau'r ddrama yn y Cymro, nid natur freuddwydiol yn unig sydd ganddo, ond natur fyw hefyd. Mae'r disgwyliad am i'r ddrama ddod i Gymru yn ddyhead ynnom, ond peidiwn a'i disgwyl mewn llawn dwf cyn iddi gael amser i ddat- blygu. Mae gennym gymwysterau campus, gwerin deg, a gwerin o ddifrif. Rhaid i ni fod yn Gymry iawn, nid yn hanner Saeson, i roddi iddi ei He priodol, oblegid rhaid i'r ddrama fod yn Gymreig, ac nid yn ddim arall, i roddi mynegiad o'n bywyd i ddeffro ein hymwy- byddiaeth i'n hanian Gymreig yn ei gwerth a'i naturioldeb. Mae ei heisiau hefyd i Gymru i'n dysgu i siarad yr iaith Gymraeg mae'n gywilydd na siaredid hi yn well,—iaith mor goeth, mor ragorol, mor gyfoethog; iaith calon ac awen. Cadeirydd y ddarlith oedd y Cynghorydd Rhys J. Davies,—yntau yn gwneud sylwadau difyr a phriodol iawn, a rhoddodd glod uchel i allu llengar y darlith- ydd, yr hwn sydd yn ei gyflawn haeddu. Diolchwyd yn ddoniolg-an Mr. E. D. Evans, a'r Parch. M. Llewelyn. DRINGO'N UWCH.—M&e Mr. Rees Griffiths, B.A.,B.D., Now College, Llundain, wedi cael gal wad i weinidogaethu un o eglwysi mwyaf Cymru, sef Bethania, Dowlais, hen faes y Parchn. T. Rhondda Williams a Peter Price, M.A.,D.D., Rhos. Gyrfa ddisglair yw eiddo Rees o'r dechreu. Efe yw llywydd y •Students' Representative Council, Prifysgol Llundain, eleni,—yr anrhydedd uchaf all ddod i ran myfyriwr yn nhymor ei efrydiaeth. Clerc yn y llythyrdy yma oedd Rees cyn i weinidog a swyddogion eglwys Booth Street ddweyd mai pregethwr ddylai fod, ac mor wir y bu eu gair. Ewythr iddo yw Mr. Evan Morgan, un o ddiaconiaid y Tabernacl, Ler- pwl, a chynlywydd Undeb Annibynwyr Ler- pwl, Manceinion, a'r cylch. MA N10N.—Penderfynodd^TJyngor y Gym- deithas Genedlaethol adael heibio Cinio Gwyl Ddewi am y tro hwn.-Rhay ofn fod rhywun wedi camgymeryd fy sylw yr wythnos ddi- weddaf ar gyfarfod adloniadol capel Victoria Park, dealled pawb mai y Sadwrn nesaf, Chwefrol 6, y mae i fod.
-O—« Undeb folwysi Annibynnol…
O—« Undeb folwysi Annibynnol 11 Liverpool, I Manchester,?a'r amgylchoedd- 1 CYNHALIWYD Cynhadledd ynglyn a'r uchod yng nghapel Chorlton Road, Manchester, ddydd Mercher diweddaf. Daeth cynhulliad da ynghyd. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan yr Hybarch Ddr. Owen Evans. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol gan yr ysgrifennydd, y Parch. 0. L. Roberts, a chymeradwywyd hwynt. Cafwyd anerch- iad rhagorol gan Mr. Evan Morgan, wrth ymddeol o'r gadair, a chyflwynwyd diolch cynhesaf y Gynhadledd iddo am ei sylwadau pert ac amserol. Yn ddilynol, croesawodd ei ddilynydd, y Parch. J. Vernon Lewis, B.A., B.D., Park Road. Cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Lewis, yn cydnabod yr anrhydedd a oddwyd arno. Rhoddwyd adroddiad gan yr ysgrifennydd o ymweliad y pwyllgor cyfar- wyddol ag Ashton-in-Makerfield. Rhoddodd y trysorydd, Mr. John Edwards, adroddiad o'r cyfrif ariannol am y llynedd. Ar gymerad- wyaeth y pwyllgor cyfarwyddol, pasiwyd i roi grant* i Trinity Road (Bootle), Vittoria Street (Birkenhead), Salford a Queen's Road, Manchester. Pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad a theuluoedd y diweddar Mr. Wm- Jones, Price Street, Birkenhead, a Mr. Griffith, Salford. Hysbyswyd fod yr eglwysi yn Martin's Lane a Trinity Road wedi dewis diaconiaid newydd, a chyflwynwyd eu henwau i'r Gynhadledd. Llongyfarchwyd Mr. a Mrs. John Evans, Grove Street, ar ddathliad eu priodas aur, a dymunwyd iddynt brynhawn- ddydd teg a hyfryd. Datganwyd llawenydd fod eglwys Martin's Lane wedi cynnal ei Jiwbil, a dymunwyd ei llwydd yn y dyfodol. Pasiwyd penderfyniadau ar Yr Eglwysi a'r Rhyfel," "Undeb EfengjdaMd Cymru," "Cylchlythyr Syr Henry Lunn." Terfyn- wyd trwy weddi gan y cadsirydd. Yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parchn. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D.. Liverpool, a G. J. Williams, Birkenhead. Yr oedd y cyfeillion yn Chorl- ton Road wedi darparu yn hael ar gyfer yr ymwelwyr, a diolchwyd yn gynne,siddynt am hynny.—J.M. g| 0 FYNYDD LLA NDEGA L— Bu Mr. Daniel Lloyd, Douglas Hill, Bethesda, farw ddydd Mercher diweddaf, Tonawr 27ain, ac a'i cleddid ddydd Sadwrn ym mynwent St. Ann's Bethesda. Y Parchn. R. M. Jones (Glas- goed), W. Jones (A.), J. T. Job, a H. Jones Davies (Tregarth) yn cymryd rhan. Yr oedd yn 68ain oed, ac yn fab y diweddar Mr. Rd Lloyd, hysbys led y wlad fel Archddiacon Sir Gaernarfon. Bwriodd brentisiaeth fel bancer yn Lerpwl ond a ddychweloddwedi hynny at ei dad ac a ddilynodd y busnes ym Mynydd Llandegai. Yr oedd yn flaenor yn eglwys M.C. Hermon bu'n Warcheidwad y Tlodion ac yn overseer am dymor hir ac yr oedd yn nodedig drwy'r ardal a'r sir am ei garedig- rwydd a'i haelioni. Efe oedd trysorydd cronfa gynorthwyol Chwarelwyr y Cae adeg y streic, a chwith fydd gan lawer amdano. Merch iddo ef ydyw priod y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., Stanley Road, Bootle. STYFAMOD LLANIDLOES.—Dyma'r ddau ddedwydd a wnaed yn un wrth allor Llan- idloes, ac y daeth y bloc yma'n rhy hwyr i'w ddodi gyda hanes y briodas a welir ar tudal. 3.
Y Prifthro Ellis Edwards.I
Y Prifthro Ellis Edwards. I —— Yn marw ddydd Mawrth. I CHWITH gan Gyfundeb y Methodistiaid a'r holl wlad oedd clywed i'r Parch. Ellis Edwards, M.A.,D.D., Prifathro Coleg y Bala, farw ddydd Mawrth yr wythnos hon, yn ei unfed flwydd ar ddeg a thrigain, ac i'w gladdu yfory (ddydd Gwener) ym mynwent Llanycil, i gydorffwys a'r cewri addysg a chrefydd oedd yno o'i flaen. Nid oes amser na lie heddyw'r bore i ddywedyd dim am ei yrfa daw hynny, gan rywun a'i hadwaenai'n dda, yn y rhifyn nesaf.
Gore Cymro; yr unOddieartreI
Gore Cymro; yr unOddieartre I CYMDEITHAS LENYDDOL W ARRINGTON.- Ionawr 18, cawsom ddau bapur rhagorol, y cyntaf gan Miss Bessie Williams ar Garedig- rwydd gwnaeth berffaith chwarae teg a'r testyn, a darllenodd ei phapur yn hamddenol a hyglyw. Yr olaf, gan Mr Robert Thoma s ar Robert Jones Llanllyjnicafwyd mwynhad yn gwrando ar Mr. Thomas yn rhoddi yohydig o hanes digwyddiadau ei fywyd, ei garwriaeth, ac yn enwedig rhai o'i ddywediadau. Diolch- wyd gan Mrs. R. Parry Jones a Mrs. W. T. Williams. 1 nawr 25ain, cyfarfod am- rywiaethol, gofalwyr Mri. R. Roberts a J. Griffiths. Cymerodd y rhai canlynol ran Adrodd, Cywydd y Daran, Mr. E. T. Edwards darlleniad, Ychydig o hanes y diweddar William Ellis, Maentwrog, gan Mrs. John Jones, a theimlad pawb ydoedd yr hoffent dreulio'r noson gyda'r testyn, gan mor ddifyr ydoedd. Can, Dagrau'r Jesu, gan Mr. Wm. Hughes, cyfansoddedig gan ei dad, y diweddar Alaw Manod. Treuliwyd y rhan ddiweddaf o'r cyfarfod yn gwrando ar bapur y Parch. R. Parry Jones ar Berthynas yr Eglwys a'r Ysgol Sabothol,—papur y werth i bob eglwys ac athro ei glywed. Diolchwyd gan Mr. Evan E. Hughes a Mr. J. Griffiths. Cymerwyd y gadair yn y ddau gyfarfod gan Mr. W. T. Williams, YR., a lenwodd ei swydd yn ol ei arfer. yn gryno ac i bwrpas.— R.E. WHISTON.—Bore dydd LIun, Ionawr 25am, bu farw Mr. Moses Jones, Bretherton Road, Whiston, wedi oes faith-yr oedd dros 80 oed. Cafodd iechyd da a pharhaodd i weithio hyd o fewn ye ydig wythnosau i'w farwol- aeth. Daeth yma o ardal Mostyn tua 30 mlynedd yn ol; bu yn gweithio o dan y ddaear yng nglofeydd Whiston, wedi hynny yn y British Insulated Wire Works. Ym- aelododd yn eglwys Huyton Quarry, wedi hynny Whiston. Braidd erioed y clywsom ei lais, eto yr oedd yn aelod da, yn ffyddlon i' r holl foddion ar hyd y blynyddau. Claddwyd ef y dydd Sadwrn dilynol, ym Mynwent Huyton, yng ngwydd tyrfa o'i berthynasau a'i gydnabod. Gwasanaethwyd wrth y tv ac yn y fynwent gan ei weinidog, y Parch. J. Will iams. Canwyd Byddrnyrdd o ryfeddodau yn effeithiol iawn ar lan v bedd, Mr. Ben Roberts, Prescot, yn a,rwaiii.-E. W.
Advertising
Coupon Rhad^Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). BYDD I'A GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House, Poultry LONDON, E.C. dala £ 100 (can punt) i g mT-ychiolyld cyfreitbio a phersonol y f¡8W; a fe'n ddiles-dd-iliwr y coupon hwn, 08 y b i iddo fo neu hi gaol eu lladd yn hollol ac ya uniongvrchol drwy dlam vain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren Ul,ryw Gwmni BeilSordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gubyd Trwydd°dig a Llbg yo yr h .n v bo'r dal wr yn cael ei gludo fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyni edig bob amser i'r amodau arb?nn'g a ganlyn sydd i'w ystyried fel rhaa a chyfjan o'r cytundeb (a) Fod y marw'n d s-wydd o fewn deng niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain I b) fod rhybudd ohoni n cael ei roi i'r G>mdeithas o fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llun iain; (c fod y cyfryw dystiolaeth les- ymol parth aclios y fariolaeth yn cael ei gyfiwyno ag fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr -eiii 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag inc yn y lie darpa-edig gogyfer a hynny (c) na bo'r Gymdeithas yn gvfrifol i fwy nag un person parth mwy nag un coupon yn y papar hwn l1a'r un cyhoeddiad arall (f) na bo'r ys. wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonau tai ddeuddeg na thros-ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i codir. ArwycLdnoà y Daliwr Trigfoa I Danysgrifwyr, Raid i dderbynwyr cyson y papur hwn ddi n arwyddo'r Coupon os ca'r Gymdeithas lgwb 1 sicrwydd a phrawfel fod ya cael eu anfon iddynt yn ddifwlch. GERAINT AC ENID A Chaniadau Eraill GAN Machreth. Cynhwysiad: DARNAU CYNGANEDDOL.-Geraint ao Enid.—Y Celt.—Telynau Duw.—Y Cdr Asgellog.—Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor.— I'r Athro J. Morris Jones, M.A., ar ol darllen ei Ganiadau.-Dychweliad Arthur.- Elis Wyn o Wyrfai.—Dr. John Thomas.— Herber.—Yng Ngorsedd Eisteddfod y RhyL —Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd.- Telyn Cymru.-Peroriaeth.-Yr Ehedydd. —Can yr Angylion.—Y Parch. William Nicholson.-N ac Oeda.—Edifeirwch.— —Wrth fynd i orffwys.—Ar ol Noswaith Dymhestlog.—Gwynt Garw.—Y Tri Llanc. -Yr Wybren Hwyrol.—Dau Weinidog.— Alawon Cymru.—Y Gwynfryn.—Ci y BugaiL-Ewyllys Adda i'w Blant. D YR.IA U.-Taith ac Oedfa. Derwen Arthur.—Crwydro Bum.—Y Delyn Friw.— Wyt Ti'n Cofio.—Morfudd.-—Hwiangerdd. —Can y Forwynig.—Palmwydd a Helyg.— Cyfaill y Tlawd wyt Ti.—Emyn Priodas. CYFIEITI-IIADAU AC EF ELY CHI AD- A U.-Hervé Riel.-Ymae Gwrid ar ruddiau'r Rhosyn.—Mae'r Ffrwd yn llifo'n gref, fy mftn.Y Bardd a'r Baban.—Y Nefol Gan. Ychydig sopiau yn weddill. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r Brython," Lerpwlfc Ar werth gan yfLlyfrwerthwyr. Llian Pris 2/6 Exi A. NS 50NS, j56 3,6,,5 ta-n i cy R-a i IVEKPOOL.
IWilli Hira
gryn bum cant o gwmpas y dorian drist. Wele restr y plethion—y wreaths-a orchuddiai ac a amgylchai'r arch :—Mrs. Morris, Miss Morris, Mr. J. Evan Morris, Mr. Edward Morris, Miss Gwen Morris, Mr. a Mrs. G. T. Evans ac Ivor Mrs. E. P. Jones, Mr. J..E. Buckley Jones, Rhyl Liverpool Trade's Protection Society Cvmdeithas Lien a Chan Eglwys David Street Office Staff, 14areliottse Staff, Domestic Staff; Cymdeithas Genedl- aethol Lerpwl Trafaelwyr Lerpwl-Mri. D. Thomas, W. O. Williams, T. R. Jones, — Lenton, T. Hughes, Thos. Williams, D. H. Jones, L. W. Winn, John Jones Mrs. J. W. Shrimpton ac Elsie, Redditch Mr. a Mrs. Hugh Roberts, Grassendale Mr. G. W. Chadwick, Wilmslow; Mr. a Mrs. H. D. Lloyd Jones, Waterloo Mr. a Mrs. W. J. Burgess, Parkfield Road Mr. a Mrs. John Thomas a'r teulu, Sefton Park; Mr. a Mrs. R. E. Jones, Aigburth Mr. a Mrs. Robert Jones, Princes Park; Mr. a Mrs. John Will- iams a'r teulu, Eastfield Drive Mri H. E. Hughes Dr. H. M. Henderson, Sefton Park L. S. a Mr. Johnston3; Alice a Norley Mr. Kilgour a Rennie Rooke Mr. a Mrs. W. H. Davies, Wallasey Mr. Wm. Evans, Bentley Road Mr. a Mrs. W. J. J ones Mr., Mrs. a Miss Lloyd Hughes, New Brighton; Mr. Pelling Mr. a Mrs. Rupert H. Brunner, Sefton Park; Mr. J. F. Burns, Llundain Mr. J. F. Turner Mr. a Mrs. David Lewis ac Ethel, Colwyn Bay Gordon, Woodruff & Co.; y Parch, a Mrs. E. O. Davies, Llandudno Anglo American Oil Co., W. M. Hughes-Lloyd; Mrs. Jones, Tyrol Mr. a Mrs. Chrime, Fresh- field; Mr. R. H. Jones, Seaforth; Mr. a Mrs. James Venmore Mr. a Mr. David Jones, Waterloo Mr. Wm. Venmore Mr. H. R- Hooper, Stanley Street Mr. a Mrs. R. J. Williams, Bangor Wele'r prif alarwyr :— Mri. J. Evan Morris, Edward E. Morris (meibion), J. E. Buckley Jones, G. T. Evans (brodyr yng nghyfraith), G. Ivor Evans, Aber- gele John Roberts, Tyddyn Pare David Lewis, Eithinog," Colwyn Bay Dr. David Lloyd, Dinbych Dr. E. H. Jones, Rhyl; Mri. T. D. Jones, Rhyl; Hugh Edwards (H. & G. Edwards), Lerpwl Dr. T. O. Jones, Rhuthyn Mri. Arthur Venmore, Lerpwl Darnel Evans, Khyl y larcim. ii.. James Jones, M.A., Rhyl; J. Williams, Huyton R. Parry Jones, Warrington J. D. Evans, Garston R. Williams, Tywyn David Jones, Rhuddlan E. Jones, Try fan Mri. Robert Williams, Tan y fron Trevor Davies, Rhudd- las Colonel Thos. Gee, Dinbych Syr J. Herbert Roberts, Bar., Abergele Mr. R. W. Jones, Dinbych Mrs. Roberts, P.O., Nant- glyn Mri. Morgan Williams, Llanelwy; T. E. Evans, Nantglyn J. W. Jones, Pentre celyn; G. F. Smith (Reinachs, Nephew & Co.) R. J. Williams, Ysw., Maer Bangor Mri. Ed- Willrams, Colwyn Bay; Josiah Williams, Pwllheli Mr. Wm. Venmore, y Parchn. R. J. Williams a Lodwig Lewis, yn cynrychioli'r Genhadaeth Dramor y Parch. W. Henry a Mr. David Jones, Bootle, yn cynrychioli'r Cyfarfod Misol Mri. Jas. Venmore, Ellis W. Jones, R. Saunders Jones, yn cynrychioli'r Welsh Assurance Trust Mri. D. L. Davies, G. W. Edwards, J. R. Roberts, E. E. Will- iams, R. G. Roberts, H. Lloyd Thomas, John Owen, Price Jones, Lewis Williams, Edwin Edwards, Ishmael Humphreys, yn oynrychioli Eglwys David Street. Ac wele, eraill oedd ymysg y dyrfa y Parch. G. H, Havard, M.A.,B.D., Rhyl; Mri. J. R. Jones, Rhyl; G. Caradog Rees, Birkenhead; Aneurin O. Evans, Dinbych W. R. Evans, Rhuthyn Arthur Venmore, Lerpwl; y Parch. T. D. Jones, Penmaenmawr; Mri. Robert Roberts, Bootle W. Vickers, Con- nah's Quay; R. T. Foulkes, Bagillt D. Davies (Lever Bros.) W. Hewson, Lerpwl; George Travis, Lerpwl; — Walker (Appleton, Machin & Smeles), Sanny (Anderson & Coltman) R. Atcherley, Lerpwl; J. F. Turner, L rpwl; J. Thompson (R. B. Green & Co.); Hugh Edwards, Liverpool; D. White Phillips, Ffestiniog; J. G. Kydd, Frodaham John Jones, Abergele J. W. Roberts (Libby, McNeill & Libby) Joseph Williams (Cleeve Bros.) R. G. Roberts, Liverpool; Thos. Hughes, Prestatyn Pryce Williams, Colwyn Bay F. Gibson, Liscard John Williams, Fflint; H. M. Williams, Caer- narfon Dr. Robert Roberts, Rhuallt; Mri. F. Dowell, Rhuthyn Morris, Bryn Bach Mr. a Mrs. Lewis Lewis, Foryd Mr. R. Howell Jones, Clwyn Dun. Staff y ffirm yn Lerpwl Office Staff-Mri. P. Lloyd Hughes, W. H. Davies, R. T. Davies, W. J. Jones. H. Roberts,,G. McKerrow, M. Little, J. W. Evans, A. R. Jones, J. Price, E. S. Davies, Robert Williams, D. E. Roberts, Rd. Davies, M. H. Jones, H. R. Hughes (Acnt.) Tra- vellers T. R. Jones, H. F. Lenton, D. Thom- as, E. T. Roberts, D. O. Roberts, W. O. Will- iams, T. Williams, D. H. Jones, J. G. Owen, T. Hughes, J. W. Winn, John Jones, G. S. Cavers Warehouse Staff: Robert Jones, Jacob Roberts, W. Williams, Robert Hughes, Alf. Price, J. Davies, Hugh Jones, John H. Jones, Robert Price, W. E. Jones, Ed. Jones, H. E. Davies, W. O. Jones, J. Maloney, C. Gallagher, Arthur Roberts, R. R. Williams. Staff y ffirm ym Manchester Mri. Edward Evans, John Williams, E. W. Thomas, Ed. Williams, G. W. Jones, R. Edwards, R. Jones, O. C. Jones, W. H. Roberts, J. B. Davies, Sam Williams. Holl drefniadau'r angladd, yn Lerpwl a Llansannan, yng ngofal Mr. Peter Lloyd Jones (Stanley Road). Teyrnged y ddau gyn-jveinidog. I A dyma deyrnged dau gyn-weinidog eglwys DAvid Street i Mr. Morris:- ANNWYL GYFAILL.—Gofynnwch i mi ys- grifennu gair o goffhad am y diweddar Mr. John Morris, a phleser prudd i mi ydyw cyd- synio, 'er nas gwn yn iawn pa beth fyddai'n fuddiol. Yr oedd mor fyw ac mor siriol pan welais ef ddiweddaf, fel y mae yn anodd dygymod a'r syniad ei fod wedi ein gadael. Cefais ugain mlynedd o gydnabyddiaeth agos ag ef, ac er cystal yr argraff a wnaeth y cyfar- fyddiad cyntaf ag ef arnaf, yr oedd wedi tyfu yn fawr yn fy syniad erbyn diwedd y tymor hwnnw, fel cyfaill cywir a thyner, ac fel cymeriad gonest a dihoced. Cynysgaeddwyd ef gan natur a dynoliaeth dda, a bu gras yn gweithio ar honno nes ei wneud yn foneddwr Cristnogol yng ngwir ystyr y gair. Nid wyf yn meddwl i ras y nefoedd gael cymaint o drafferth gydag ef ag a geir gydag ambell i ddyn. Gwnaeth gymwynasau fyrdd i dlod- ion, a theuluoedd mewn cyfyngderau, a hynny mewn modd mor dawel a didrwst fel na wyddai neb amdauvnt ond y rhai y disgynnai y fendith i'w rhan. Ymddangosai ei enw mewn adroddiadau yn fynych, fel cyfranwr haelionus at wahanol achosion daionus ond ni fyddai byth am weled ei enw ynglyn a'i roddion, ac er ei waethaf y cylchredid ei enw felly: a chyfrannodd lawer mwy nag a welir mewn adroddiadau, yn ddirgel heb i'w enw gael ei argraffu ar bapur, eithr yn hytrach ei gerfio'n ddwfn ar lech calon llawer gwraig weddw nes gwneud iddi lawenvcliu. Yn ei holl gyfla\vniadau gellir dweyd amdano Ni waedda ac ni ddvrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol." Disgynnai ei roddion fel cawod gyfoethog o fan wlith, heb beryglu'r blodeuyn tyneraf. Yr oedd ei ffyddlondeb i'w Gyfundeb yn amlwg. ac nid oedd ei lwyddiant masnachol mawr yn peri iddo anghofio y gwersyll y dygwyd ef i fyny gydag of. Carai Ymnsilltuaeth a Rhydd- frydiaeth yn angerddol. Nid oedd yn hoffi'r cyhoedd, ond carodd yr encilion, eithr pan gyfodai i fyny i siarad, fe geid ganddo sylwad- au pert, tarawiadol a Ilawn o synnwyr, gan daro'r hoelen ar ei phen bob tro. Nid geiriau ond gweithredoedd Mr. Morris sydd yn llefaru yn effeithiol. ac yn sicr o aros yn hir mewn coffadwriaetl-t. Yr oedd yn fab tangnefedd ymhob cylch, a gwelwyd ef lawer gwaith, yn y cylchoedd mwyaf anghyhoedd, gyda gair siriol, yn gwastatu mor a fyddai'n dechreu ymgynhyrfu a brochi, ac yn bygwth dinistr. Nid oes neb a wyr pa sawl trychineb y bu ei ddylanwad distaw ef yn foddion i'w osgoi, ac nid heddwch ar unrhyw delerau oedd ei arwyddair ef. Na, safai dros egwycldor yn bybyr a gwrol, nes ei gweled yn concro, a byddai ei gymeriad ef ei hun yn elfen gref yn y goncwest. Ar ei aelwyd yn Parkfield Road y gwelid ef ar ei oreu, ac ymhlith ei gyfeillion yn eglwys David Street. Cadwodd y tra- ddodiadau sanctaidd y dygwyd ef i fyny yn eu canol, ac ychwanegodd lawer atynt, yn eti- feddiaeth i'w deulu ar ei ol. Gallaf yn ber- sonol ddweyd amdano-" Gofid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd cu iawn fuost gennyf ft." W. JONES Ardwyn, Con-ivy, Chwefrol 1, 1915. ANNTWYI, GYFATLI,.—Yr oeddwn yn adna- bod Mr. John Morris er yn agos iawn i ddeng mlynedd. Pan welais ef gyntaf, yn ddyn dieithr, rhoddodd dderbyniad cynnes a chroesawgar i mi. Yr ail dro, cefais fyned yn nes i mewn o lawer. Yr oedd gennyf ddau beth oedd yn rhwyddhau fy ffordd i'w galon yn fawr: yn un peth, pregethwr oeddwn, ac yr oedd ganddo Ie tyner iawn i bregethwr, beth bynnag oedd ei sect a beth bynnag eedd ei faint. Peth arall, erbyn yr ail dro y gwelais ef yr oeddwn wedi addo bod yn weinidog i eglwys David Street, ac yr oedd yr eglwys honno a'r cwbIa berthynai iddi fel cannwyllei lygad ac yn y fan fe daflwyd pob drws led y pen, a chefais fynediad helaeth i'r cyntedd nesaf i mewn. Mae'n dda iawn gennyf feddwl heddyw fy mod wedi cael aros yno hyd y diwedd. Ar ol rhyw dair blynedd deuthom, er fod gwahaniaethau mawr iawn rhyngom, yn gyfeillion mawr. Byddwn yn ei weld yn ami, ac yn treulio llawor o amser yn ei gwmni. Dywedai lawer wrthyf o helynt byd ac eglwys, gwyddwn dipyn am ei fasnach, a llawer iawn am obeithion a breuddwydion ei galon. Drwy'r cyfan, cefais gyfle da iawn i'w adna- bod ac wrth ei adnabod," i feddwl mwy ohono a'i garu yn fwy. Dyma'r dyn mwyaf caredig a'r mwyaf boneddigaidd yn ei garedig. rwydd a welai s erioed. Lawer tro y gwelais ef ynghanol ffwdan ei fasnach yn rhoddi darn pur fawr o'i amser prin i ddyfeisio'r ffordd fwyaf didramgwydd i estyn cymwynas i ryw frawd y gwyddai fod ei hangen arno, neu i baratoi ryw surprise hyfryd i un o'i gyfeillion. Gwelais frodvr da eraill a roddai fwy na Mr. Morris at ambell i achos da,—rhoddi symiau tywysogaidd drwy lefain cryf a dagrau, ac wedi wythnos o ympryd a gweddi ond ni welais neb erioed ag yr oedd caredigrwydd a haelioni wedi mynd yn gymaint o reddf yn ei natur ag yr oeddynt ynddo of. Yr oedd ei law a'i logell yn agored i bawb rhoddai at bob peth, ac yr oedd cymwynasau ac elusennau yn Ilifo oddiwrtho mor naturiol a siriol a dirodres ag un o aberoedd broydd Hiraethog. Yr oedd wedi Ilwyddo yn fawr. Yr oedd wedi datblygu a lledaenu ei fasnach, o flwydd- yn i flwvddyn, ac wedi ymroi i ennill meistrol- aeth Iwyrach ar bob rhan o'r gwaith, ac i berffeithio ei drefniadau, ac ni chollodd ei wobr. Coronwyd ei ymdrechion a llwyddiant ac a llwyddiant cynhyddol. Ond drwy'r cyfan parhaodd yn hollol syml a diymhongar, ac yn un o'r rhai hawddaf agoshau ato. Cafodd lawer dyrchafiad ac anrhydedd yn ei oes, a gwn, fel ffaith, y gallai fod wedi cael ychwaneg. Ond clywais ef yn dweyd fwy nag unwaith, a hynny mewn lie ac o dan amgylchiadau nad oedd dim ynddynt i feithrin teimlad na chvffes o'r fath, mai dau anrhydedd yn unig oedd yn werthfawr iawn yn ei olwg,—bod yn flaenor yn eglwys David Street ac yn aelod o Bwyllgor y Genhadaeth Drefol. Nid oedd yn amlwg am ei ddoniau cyhceddus. Ac eto, yn y blynyddoedd di- weddaf yr oedd y rhain yn gloywi'n rhyfedd, ac yntau'n dod yn fwy parod i'w defnyddio. Ond er nad yn ei ddawn yr oedd ei ogoniant, yr oedd yn deilwng fab Llansannan-bro y doniau mawr, ac y mae ganddo berffaith hawl i orffwys yn ei daear sanctaidd. Yr oedd yr Efengyl a bregethid mor ogoneddus gan rai o'i meibion hynaf wedi dod yn anian ac yn reddf i'r mab hwn, ac fe rodiodd oddi- amgylch gan wneuthur daioni. Bydd y byd yn wacach byth i mi ac i lawer eraill oherwydd ei ymadawiad, a daear Llansannan yn fwy cysegredig nag erioed. Bydded nodded y nefoedd droa ei weddw a'i blant. Gwn i ryw gymaint am garedigrwydd a thynherwoh ei galon gwyddent hwy lawer iawn mwy. Cu iawn oeddynt ganddo ef, rhyfeddol oedd ei gariad tuag atynt.—Yn gywir iawn, JOHN ROBERTS 77 Ninian Road, Cardiff.