Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

,AM L YFR. I i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AM L YFR. i Heb fyropwy with feio, Na gweniaith wrth ganmol. Cofiant yr Athro John Morys Dairies, M.A., Bala-Bangor. Gan y Parch. T. PRICE DA VIES, Liscard. Liverpool Hugh Evans & Sons, Swvddfa'r BRYTHON, 356-358 Stanley Road..2/6 nett. An- foner yr archebion i'r awdur, 14 Lathom Avenue, Liscard, Cheshire. Nm pawb a haeddodd gofiant, a'i eafodd ac nid pawb a'i cafodd a'i haeddodd eithr dyma un o anwyliaid y genedl a'i haeddodd ae a'i cafodd. Y mae'n amlwg, yn y lie cyntaf, fod awdur y Cofiant hwn wedi dirnad y rhaid i lyfr Cymraeg, os am ennill parch a chymeradwy- aeth pobl oreu a goleuaf y genedl, fod yn gyson ei orgraff a glan ei iaith ac yn ym- gyrraedd, goreu gallo beth bynnag, at arddull fo'n hyfrydwch ei darllen ae nid yn flinder. Y mae Cymraeg y llyfr yn raenus drwyddo, ac heb nemor un o'r idiomau Seisnig hynny sy'n berffaith iawn a chydnaws mewn cyfrol Saesneg, ond sy mor atcas a blewyn ar gawl mown cyfrol Gymraeg. Pa mor fanwl bynnag yr edrycho'r beirniaid a'r adolygwyr am bethau felly, ychydig iawn, iawn a gant o ddim i gwyno amdano yma, gan mor ystwytb. a naturiol y derllyn y cwbl. Y mae safon lenyddol y Wasg Gymraeg wedi esgyn yn gyflym iawn yn ystod y pum neu'r chwe blyn- edd diweddaf dyma gyfrol a blygodd iddi, ac a ymdrechodd yn deilwng i'w chydnabod a'i chyrraedd. Ni chaed neb eto a ysgrif- enna Gymraeg perffaitli,-na chaed, o lawer, ac nid oes neb call yn honni hynny ond y mae pawb o ddim pwys heddyw, ac eithrio ambell Fistar Cyndyn a Phengry' (ynteu Penwan, prun ?) draw ac yma, yn gwneud 3i oreu i fwrw'r Cymraeg Gwneud a chyfieith- iedig heibio, ac am byth, gobeithio, canys y mae'r naill mor wahanol ei flas i'r llall ag yw Bara Cartref i Fara Pryn. Dyma raniad a chynllun y llyfr 1, Cofiant Pen. 1, Ei Enedigol Fro 2, Dyddiau Mebyd 3, Gadael Cartref; 4, Birkenhead a Mostyn (ym Mostyn, gan y Parch. E. Pan Jones, M.A.,B.D.); 5, Yr Efrydydd (gan y Parch. D. Lloyd, Llwyd o'r Nant) 6, Ei Weinidogaeth 7, Yr Athro yn y Bala 8, Yr Athro ym Mangor (gan y Y Proff, JOHN MORYS DA VIES. I Prifathro T. Rees, M.A.) 9, Y Dyn Trwyadl j- (gan y diweddar Syr E. Anwyl, M.A.); 10, Y Gweddiwr; 11, Y Diwinydd (gan y Parch. T. Griffith, Bl. Ffestiniog) 12, Y Pregethwr; 13, Y Cyfaill; 14, Y Priod a'r Tad. II, Y Pregethau tair ohonynt. III, Barddoniaeth (tan olygiaeth Gwylfa). IV, Blodau'r A wen, sef teyrnged saith o feirdd i'r Athro. Brithir y gyfrol hefyd a dwsin neu ragor o luniau, a'r cwbl, y Uyfr a'r lluniau, wedi eu eyfleu'n ddestlus a'u hargraffu mor glir a difefl nes fod y gyfrol yn deg yr olwg ac yn hyfryd ei darllen o glawr i glawr. Un o Faldwyn oedd y Proff, ac un o Fal- dwyn yw ei gofiannydd ;-bu'r naill yn ddisgybl i'r llall; tyfodd cyfeillgarwch cryf cyd- rhyngddynt, ac addfedodd hwnnw nes mynd yn gwlwm o serch diddatod gan ddim ond yr angau. Y mae'n amlwg mai ffrwyth ac offrwra y cwlwm hwnnw yw'r gyfrol, ac nid llafur swyddogol a gosodedig eithr er fod yma arwyddion cyfeillgarwch cryf, cymedrolir y ewbl a gwirionedd a sobrwydd, heb ddim o'r trochion eithafol a disynrtwyr hynny sy'n codi bwrn a syrffed ar bob darllenydd cydwybodol ac o ddifrif. Peanod ddiddorol iawn yw'r gyntaf, lie yr olrheinir enwogion y rhan yma o Bowys; lie y dangosir pwy oedd y gwyr cryfion mewn Byd ac Eglwys a fagwyd ac a osododd eu delw ar fro mebyd y Proff. a lie y gosodir yr ardal a'i phobl mewn eyflead-mownqettiizq- cryno a hawdd ei ddilyn a'i ddirnad. Ac ymhellach ymlaen, wrth son am deithi medd- wl ac anian rhai o hen drigolion Dyffryn Tanat yn y dyddiau gynt a fu, dyma ddarn o'r hyn a ddywed y Cofiannydd — Mewn llawer cwm yng Nghymru, adoil- edid y tai yn y dyddiau gynt a'u hwyneb- au ar y creigiau, neu'r llethrau, oedd o'u blaonau, a thrwy hynny cyfyngid yr olygfa o fewn cylch ychydig o latheni, a "honno yn hynod o unffurf ac undonog. Pe buasai'r cynllunvdd a'r adeiladydd yn trefnu i'r ty wynebu i gyfeiriad gwahanol, gallesid lawer pryd, heb ychwancgu gronyn at y gost, gael golygfa 11 eang, amrywiol a swynol o'i flaen." Gellid, yn ddiau a mwy na hynny, pe troisid y ty a'i wyneb at y wawr yn lie at y wal, diau y cawsid golygfa fwy eang, amrywiol a swynol o flaen llygad diwinyddol yr hen dadau selog hyd y earn dros eu Pum Pwnc. Rhaid i bawb ohonom gael ein tg- ar y Graig, ond raid i neb ohonom fod a'n tipyn ty bach diwinyddol at y graig byth a hefyd. Y mae byd o wahaniaeth rhwng y ddau le a rhwng y ddwy olygfa. Eithr gofaler am barchu'r tadau, canys nid teg disgwyl i'r un oes fyw'n uwch na'i dat- guddiad. Ryfedd yn y byd fod greddfau enaid dyn da yn dod o hyd i'r goreu lie bynnag y bo ac wrth son am gyfnod Birkenhead yng ngyrfa'r Proff Davies, dyma un o'r pethau a ddywed y Cofiant :— Meddiennid ei ysbryd gan rhyw ddwyster anhraethadwy pan soniai am yr hyn a welodd, yr hyn a glywodd, a'r hyn a deimlodd ei enaid yn y cyfarfodydd byth- gofiadwy a gynhaliwyd gan Moody a Sankey yn ystod eu hymweliad cyntaf a Lerpwl. Tystiai na chlywodd neb erioed yn trafod gwreiddiau pechod gyda'r fath fedr ofnadwy ag y gwnai D. L. Moody. MedraFr gwr hwnnw drywanu'r galon ddrwg a'r gydwybod gysglvd i'r craidd, ac ar yr un pryd medrai dywallt y balm sy'n meddvginiaethu'r clwyfau i fewn i'r fynwes edifeiriol. Dyfnhaodd y Gen- hadaeth rymus honno ei argyhoeddiadau crefyddol, a. bu yn gymhelliad cryf iddo i "ymgysegl'u'n llwyrach i wasanaeth ei Arglwydd," A dyma i chwi l'eswm am ei boblogrwydd gyda phawb, yng ngeiriau Dr. Pan Jones, wrth son am arhosiad J.M:D. ym Mostyn :— Yn ystod blynyddoedd ein cydnabydd- iaeth, ni fu hanner gair croes rhyngom, ac £ i ni chlywais iddo wneud tro gwael a neb erioed. Byddai bob amser yn fcrechu ei wrthwynebydd drwy garedigrwydd. "Tiriondeb oedd nodwedd fawr ei bre- gethu, ac y mae ei enw yn berarogl d rwv'r wlad. Byddai bob amser yn trechu ei wrth- wynebydd drwy garedigrwydd," sef drwy'r un peth yn union ag y trecha'n Tad yr Hwn sydd yn y Nefoedd bawb hefyd,—" Tynnaf ef a rheffynnau dynol, a rhwymau cariad," ebe Hosea a gwyn fyd pawb a deimlo blwe y rheffyn diail hwnnw. Pennod fachog a Chymreig ei broddegau sydd gan y Parch. D. Lloyd arno fel efrydydd ac ebe'r Prifathro Rees amdano ym Mala- Bangor Ac onid oedd ei bregethu yn fodel o bopeth bron a ddylai pregethu fod ? Mor glir ei esboniadaeth, mor naturiol y tyfai ei fater o'i destyn, mor gywir a gonest yr esgynnai adeiladwaith y bregeth ar syl- feini'r testyn a'r pwnc, heb frawddeg ddiystyr na gair segur, heb ymgais am grechwen na chymeradwyaeth, nac ym- drech am ddagrau diamcan braidd yn araf ac undonog, ac yn dueddol i gerdded yng nghefn haul bywyd; ond mor briodol pob ystum, mor urddasol y d-adlennai ei genadwri, ac mor lan a choeth a chyfan y bregeth oil a'i thra- ddodiad." Ac er fod fy ngofod yn fyr, a'm llith yn faith, annichon peidio a dyfynnu'r talp a ganlyn o ysgrif Syr Edward Anwyl arno fel Dyn Trwyadl Cydnabyddaf yn rhwydd imi gyfarfod yn Rhydychen yn enwedig wyr dysgedicach nag ef, ond nid bob amser y ceir gyda dysg eithriadol ddynoliaeth hynaws a swynol, na'r gallu i ymadroddi yn glir, yn garuaidd ao yn gymwys. Nid bob amser y eel gwyr athrylithgar a threidd- gar eu meddwl, pan fo eu mynogiad o'u meddyliau yn archolli teimladau ac yn gwanu hyd at waed. Dyna un rheswm paham y gwna llawer ohonynt gynifer o elynion ac yr oerant serchiadau dynion. Yn ami myn balchter meddyliol ymwthio i'r golwg, ac ni cheisia llawr gwr galluog guddio dim arno. Y canlyniad ydyw fod i wyr felly yn ami lawer o edmygwyr, yn enwedig o bell, ond ychydig iawn o gyf- eillion, a'r rhai hynny yn gorfod maddeu, yn eu liymyl." Dyna ichwi gernod, finiog os boneddigaidd, i'r balchter dysg hwnnw sy'n cyd-drigo mor fynych a sychter dawn ac oerfel enaid, ond balchter nad oedd neb pellach a glanach rhag- ddo na mynwes wylaidd ddiragrith yr Athro John Morys Davies. Ysgrif alluog sydd gan y Parch. T. Griffith arno Fel Diwinydd, lie y gwelir mai ceid- wadol, fwy na heb, oedd anian athrawiaethol yr Athro, ond yn ddigon gonest ac ystwyth i blygu i wirionedd, newydd hyd yn oed, os byddai'i sail yn sier a phrofedig. Os oedd meddwl a chredo ei hynafiaid wedi byw'n o hir mewn ty a'i wyneb at y graig, fe fynnodd yr Athro ei droi bob yn dipyn nes ei gael a'i wyneb yn deg tua haul Beirniadaeth a Dat- blygiad. Ac y mae'r ty hwnnw'n iachach am ei fod gymaint goleuach. Diau ei fod yn crodu, ymhell cyn y diwedd, y rhaid i opin- iynau dynol ymgadw'n wastad ag ymchwil- j iadau dync l. j Hawdd y gallesid dwedyd llawer am ddwy bennod Y Cyfaill a'r Priod a'r Tad, ond rhaid ymatal gyda dim ond hyn :—Os oedd yn dywysog fel gwr cyhoeddus yn y coleg a'r pulpud, ei fod yn frenin yn ei dy ac ar ei aelwyd. A dyma'r coleg o'r colegau i gyd. Dengys ei lythyrau wr mor annwyl ydoedd mor addfwyn, ac mor egwyddorol yr un pryd mor llawn ei ddysg, ond mor barod, serch hynny, i gymryd ei ddysgu; a chan nad faint o dalentau cyhoeddus a roddwyd iddo, yr oedd ganddo fwy fyth o'r hawddgarwch personol a didwyll hwnnw sydd filwaith gwell a phrin- nach na phob dawn a dysg. Dyma Gofiant a biwch a geidw berarogl ei gymeriad yn hir yn y wlad a phwy bynnag a'i darlleno'n ystyriol, ni all na ISTn peth o'r perarogl hwnnw yn ei gymeriad yntau hefyd. Mor gu ydoedd a pha ryfedd i ysbryd mor bur ac addfwyn gael ei alw Adref o'i babell bridd mewn ffordd mor esmwyth iddo ef, ond mewn ffordd a barodd gymaint braw ac alaeth i'w enwad a'r holl gonedl. I J.H.J.

Wrth Golli -Gwrtheyrn,

Advertising