Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Ffetan y Gol.I
Ffetan y Gol. I Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair syJJ ar ei gettati: NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. H Bomb H a ddisgynnodd arnaf o Seren Gomer." At Olygydd Y BRYTHON I sy.Itl-Dan,oswyd imi rifyn Seren Corner am f onawr, yn yr hon yr ymosodir arnafgan y Oolygydd-y Parch. D. Wyre Lewis, Rhos, Ruabon. Er imi synnu peth at yr ymosodiad, ni fwriedais ar y cyntaf wneuthur sylw cyhoeddus ohono. Beth bynnag, erbyn hyn, gwelaf fod y mater yn cael son go holaeth amdano, ac anfonwyd i mi gopi o'r Seren. Credaf mai'r peth tecaf a Mr. Lewis yw dyfyn- 1lU cytnaint a hyn o'i Nodictdati ay Lyfrall,- Yn y eyfnod presennol y mae bron yr oil o'r llyf'rau a gyhoeddir yn ymwneud a'r rhyfel flin oddiweddodd y gwledydd, a blin ydyw eydnabod fod llawer o'r hyn "gyhoeddir yn anheilwng o wlad Grist- nogol. Ae ychwanegir at ein golid wrth ganfod gweinidogion yr efengyl yn ben- "thyea eu doniau i ennyn cynddaredd yn eu cyd-ddynion tuag at ein gwrthwyneb- wyr. Gellir dosranu'r llenyddiaeth a gvnhyrchir i dri dosbarth. Y cyntaf a'i amean yn nnig i bardduo'r gelyn, a'i alw << wrth enwau drwg ond ysywaeth nid niweidio'r gelyn a wneir, ond clwyfo'r goreu sydd ynnom ni. Gwnaeth y wlad hon yehydig or Ileihau drygioni'r fasnach feddwol trwy gwtogi oriau gwerthu diod mewn llawer lie, a da yw'r gwaith. Ond tybed nad yw'r llysnafedd a'r parddu deflir at ein gwrthwynebwyr yn gwneud mwy o ddrwg na'r ddiod feddwol ? Y mae meddwi'r meddwl a chasineb yn fwy pechod na diffrwytho'r corff a alcohol. Fel engraifft o'r sothach deflir allan i wenwyno'r meddwl, cymerwn y canlynol sydd ar ddull barddoniaeth ( Llofrudd hedd fynnai wledda —ar ddin- Ro'i dynion i'r lladdfa [istr O'r llafur oil e fawrha Domen ei Aceldama.' Pedrog (gweinidog i lesu Grist) a'i cant i'r Emprwr." Ychwanega'r Golygydd, ar ol yr englyn: j Teifi y wasgSaesneg beth au gwaeth no. hwn," i a dvry enghreifftiau amryw. Diau y dymunai Gol. y Seren gyhoeddus- rwydd helaeth i'w sylwadau, a da gennyf innau roi cyfle teg i'r neb a deimlc- ddiddordeb yn y mater i ffurfio barn arno. A phrin y teimlaf fod angen gwneuthur mwy. Modd bynnag, gwnaf sylw neu ddau. Dywed fy meirniad fod fy englyn i'r Emprwr ar ddull barddoniaeth." Ond nid yw hyd yn oed y dull cywir arno, fel y copiwyd ef yn y Seren. Fel y cyhoeddwyd ef yn Y BRYTHON, yr oedd gan yr englyn ei H ddull cynghaneddol. Beth bynnag, bu Mr. Lewis yn euog o drywanu'r englyn a gwall cynghanedd, a gwneud syniad clir—gan nad beth am ei werth-yn gymysgfa hollol. Gwnaeth imi ddywedyd fod dynion yn rhoi dinistr i'r lladdfa," yn lie i'r gwrth- wyneb. Dyma'r "dull" a roddais i i'r englyn,— Gelyn hedd fynnai wledda-ar ddinistr Ro'i ddynion i'r lladdfa, etc. Ond Bjdwch ar y "dull" a roes Gol. y Seren iddo. Ai dyn teg a newidiai waith un arall i'w niwed, ac yntau'n sylfaenu ymosodiad mor ddifrifol ar y gwaith hwnnw ? Tybiais unwaith y gallasai mai llithriad y cysodydd fu'r gwall yn yr englyn. Ond er- byn eraffu ar Nodiadau y Golygydd, gwelaia nad eithriadol oedd ei wallau .1 Ilenyddol am- Iwg. Ceir a ganlyn yn y Nodiadau,,—di- ffrwytho'r corff a alcohol." a phan cofiwn," "delfryd genedlaethol Prydain yn werth I ymladd drosto," "canolfur gwahanaethol," dros bwy rlldd trigolion Gogledd Affrica eu bywyd, dros bwy roddodd y miloedd Prydeinwyr a Boeriaid," etc., aberth neu wastraff ydyw rhyfel ? ni phetruswn ddweyd mae gwastraff yw." A cheir a ganlyn yn y dyfyniad o waith y Parch. Herbert Morgan, by the influence that are." Pe dilynaswn ddull Mr. Wyre Lewis, dywedwn ar ol y fath frychau Ilenyddol eglur,—y Parch. D. Wyre Lewis, Golygydd I Seren Gomer, a'u hysgrifennodd. Yr oedd gan Mr. Lewis berffaith hawl i feirniadu fy nhipyn englyn i. Byddaf fy hun yn ceisio beirniadu eraill. Pe gwelsai yn fy ngwaith ryw syniad anghyson a safle neu broffes gweinidog i lesu Grist," ni allaswn ei feio am fy ngalw i gyfrif ond, yn sicr, buas- Wl1 yn disgwyl iddo geisio egluro a phrofi'r anghysondeb tybiedig. Ni wnaeth hynny. Yr hyn wnaeth oedd son am barddu," llysnafedd," sothach," gwenwyn, bonthyea eu doniau i ennyn cynddaredd," clwyfo'r goreu sydd ynom ni," etc. Ac fel un enghraifft o hyn oil, cam-ddyfynnodd fy englyn i'r Caiser A'r ddedfryd a gyhoedda arnaf am yr englyn yw fy mod yn annheilwng o weinidog i lesu Grist." Mor dyner yw'r Parch. W. Wyre Lewis o'r Caiser Mor angharedig ac annheg at frawd o weinidog Cymreig A fuasai englyn fel hwn yn dder- byniol ?— 1 Beirdd hyf y farbaraidd hwyl,—gwerylgar Helgwn,-brwnt eich gorchwyl; Beio'r tyner Gaiser gwyl Beiwch oen--beth bach annwyl Ond rhaid i mi, o ran barn a chydwbyod, ddal at fy englyn cyntaf. Methaf ganfod ynddo air amhriodol. Beth svdd o'i le ynddo ? Mae tomen ac Aceldama 'n Ysgryth- yrol a hollol nodweddiadol o'r sefyllfa. Byg. ythiai Nebuchodonosor wneuthur tai yn domen ac onid yw'r Caiser wedi cyhoeddi lgn 0 I druth, annynol ynghylch ei ddymun- iad i domennu'r gwledydd a wrthwynebant ei ewyllys ef ? Yn ol hynny o oleuni sydd ¡ gennyf fl, mae'r englyn yn wir bob gair. Ni I wnaeth Mr. Lewis ddim i geisio profi'n wahanc 1. Beiddiaf honni fy mod yn caru hedd gystal ag vntau a gall, wedi'r cvfan, nad mwy ei ofid ef na'm gofid i oherwydd yr Armagedon ofnadwy hon. Oni ddarllenodd ac oni chlywodd efe ymadroddion am y Caiser, gan weinidogion Cymreig eraill, a nes ato, gryfed a dim sydd yn fy englyn. i ? Os do, pa,ham y'm neilltuodd i, wrthyf fy hun, yn wrthrych ymosodiad mor bersonol ? Yr wyf I yn credu'r eyngor Ysgrythyrol "Ynigais A thangnefedd, a dilyn hi," ac yn ceisio ei I wneuthur. Honna fy marnwr nad wvf ar lwyhr Tangnefedd. Wei, os yw ef yn fab iddi, mae'n syn ei fod yn dadlu drosti a llysnafedd," sothach," gwnewyn, "parddu," "cynddaredd," etc. Synnais, yn anad dim, at gyfeiriad flippant Mr. Lewis at ddrygioni cymharol y ddiod feddwol. Ebt efe Y mae meddwi'r meddwl a chasineb yn fwy pechod na di- ffrwytho'r corff a alcohol." Gwell fuasai gennyf fod wedi cyfansoddi awdl o fil o lineliau, yn llawn tan a brwmstan," ar Emprwr Germani-fel y mae'n Arglwydd Rhyfel—na bod wedi ysgrifennu'r frawddeg yna Ni fedd na gwyddonydd na gweini- dog i Iesu Grist hawl i dybio moddwdod ar alcohol fel gelyn a fedr gyfyngu ei niwed i ddiffrwytho'r corff." Mao ergvdion dam- niol hwn yn taro'r dyn i gyd, gorff ac enaid, gymeriad a dcdwyddwch, personol a chym- deithasol. Gellir, yn ddiameu, ddywedyd am hwn ei fod yn clwyfo'r goreu sydd ynom ni." Os eir i gymharu meddwdod ag unrhyw ddrwg arall, er mwyn y neb sydd mown perygl oddiwrtho, dyweder yr holl wir amdano Heblaw hynny, yn ol y goleuni sydd gennyf fi ar Emprwr Germani, yn y rhyfel hwn, yr wyf yn hawlio fod fy nghasineb ato mor sanct-aidd i mi ag ydyw eiddo'r Parch. D. Wyre Lewis ataf innau fel awdur yr englyn a gondemnia. Beirniaded Gol. Seren Gomer unrhyw waith o'm heiddo, a chan croeso iddo. Ond, yn ddiau, ni ddylai ddirmygir truan ddyn heb yn gyntaf geisio rhesymu'r achos. Nid beirn- iadaeth a fwriodd ataf, ond bomb Beth bynnag, er disgyn ohcni o uchter y Seren, ni wnaed crac newydd yn fy mhen gwirion. Da yw bod yn ben-galed ar achlysur fel hwn. Boed pob llwydd a bendith i'r Seren a'i Golygydd ond gobeithiaf nad amlheir yn ei rhifynnau dyfodol yr ysbryd chwerw, aii- frawdol, a anedlir drwy'r Nodiadau ar Lyfrau yn y rhifyn diweddaf onite, gwna i ddyn feddwl am enw a goir yn Llyfr y Datguddiad Y seren a elwir Wermod."—Yr eiddoch, etc. --0-- I o  PEDROG. f I I
| Meddy
| Meddy<!c?r Go*on. O iaith i iaith- I Y MAE araith fawr Mr. Lloyd George-eef honno ar y Rhyfel a Chenhedloedd Bychain, a draddododd yn Llundain yn union wedi dechreu'r gyfiafan-wedi cael er-chyfleithu a'i chyhoeddi ymhob iaith fyw drwy'r byd bron. Fe'i trowyd i Gymraeg a'rGaeleg, i ieithoedd Ffrainc, Sbaen, Portugal, yr Eidal, Rwsia, Siberia, Holland, Denmarc, Roumania, Groeg, Hebraeg, a Hindustani. A diau y bydd yr ieithoedd hynny'n gynhesach nag y buont erioed o'r blaen wedi i lava eirias Cymro Cricieth lifeirio i mewn iddynt. Byddai Rowland Hill yn gwahodd Christmas Evans i lawr i brogethu i'w bulpud o yn Llundain ambell dro, a dyma ddau sylw yr arforai eu dywedyd amdano, ar ol i'r hen Gymro droi adref n, L-Oå ctigon o aan yn ei un nygaa I oieuo catrawd o filwyr drwy goedwig ddeng milltir o drwch. j 2-Fod yr iaith Saesneg yn toddi fel cwyr cannwyll wrth geisio dal ei feddyliau Cymreig a phoethion. Sef ffordd ddeheuig yr hen Rowland o ddy- wedyd meddyliwr mor swynol ond Sais mor sal oedd yr hen Fedyddiwr dihafal hwnnw. Ond pan gaed Paxton Wood i ysgrifennu Cofiant Christmas, fe gaed yr iaith Saesneg yn ddigon durol i fedru dal rhai o'i feddyliau poethaf ac y mae'n debyg nad oes yr un hyfrydwch melysach i areithiwr cyhoeddus na chael sbio ar ei feddyliau'n mynd o iaith i iaith gylch y byd yn grwn, fel yr aiff meddyliau Mr. Lloyd George yn yr araith hon. Dim rhagor o sathru'r Cenhedloedd bychain dyna oedd ei baich a'i rhybudd i'r cenhedl- oedd mawrion a gorthrymus. Son am feddyliau byw yn llifo o iaith i iaith, ychydig a feddyliau Thomas Charles, wrth sgrifennu'r Hy[forddwr ers talm, y byddai niloedd melynddu'r India, ymhen blynyddau wedi ei gladdu o, yn eu dysgu a'u I hadrodd yn y Khasiaeg, ac yn pwyso arnynt I wrth fynd o'r naill fyd i'r Llall. Daliwn i I hau, canys ni wyddom pa bryd nac ymhle y medwn. All i Joseph Thomas am Gymhariaeth. Y mae'r Canghellor yn ail i Joseph Thomas I Carno, am gymhariaeth naturiol. Yr oedd y traethiad uchod yn llawn ohonynt, ac addi- bennai gyda chymhariaeth y Cwm a'r Myn. I ydd a chan fod papurau Lloegr yn dywedyd ar y pryd fod hwnnw'n un o'r darnau godidoc- af a glywyd erioed oddiar lwyfan, fe'i codaf yma fol y'i cyfieithiwyd i'r BRYTHON ar y pryd :— Wedi dangos fel y byddai byd newydd a gwell, Ewrop glanach a mwy gogoneddus, yn cyfodi o ludw'r rhyfel hon, dibennodd y Cynghellor ei araith odidog gyda'r ddameg a ganlyii Dyma ni'n gweld y pethau sylfaenol, y pethau sydd o bwye mewn bywyd, y pethau oedd wedi eu cuddio rhag ein llygaid gan dwf toreithiog llwyddiant. A gaf fi ddweyd wrthych, ar lun dameg syml, beth y mae'r rhyfel hon yn ei wneuthur erom ? Gwn am ddyffrvn yng Ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a'r môr-dyffryn tlws, clyd, cysurus, a gysgodir gan y mynydd- oedd rhag pob gwynt gerwin, ond y mae I hynny'n bur chwannog i liprynnu dyn, a I dayr wy'n cofiofely bydds,i'r bechgyn yn "dringo'r bryn uwchben y cwm i gael cipolwg ar y mynyddoedd mawrion yn y pellter, i gael eu bywiocau gan yr awelon a chwythent o bennau'r bryniau, a chan yr olygfa a ymledai o'u blaen yn y rhe« mynyddoedd. Yr ydvm ninnau I wedi byw mown cwm cysgodol am genodl- aethau, wedi bod yn rhy gysurus, rhy foethus, a llawer ohonom yn rhy hunanol, hwyrach, a dyma law drom tynged wedi ein chwipio i ben clogwyn, o'r lie y gwelwn y pethau tragwyddol, y pethau sydd o bwys i genedl,—bannau uchelfrig an- rhydedd a anghofiasom,—dyledswydd, gwladgarwch ac wedi ei wisgo mewn gwisg ddisgleirwen oleu, dacw binacl aberth yn pwyntio'i fys gerwin tua'r nef. Bydd raid arnom ddisgyn i'r dyffryn- noedd drachefn bydd, ond cyhyd ag y I "pery y genhedlaeth hon o feibion a merched, fe gludant yn eu calonnau ddelw o drumau'r mynyddoedd mawrion hynny sydd a'u sylfeiiii'n ddisyfl, er i Ewrop grynnu a siglo ym merw a rhyferthwy y rhyfel fawr. -9- I Mae dy ginio n oerL wit., I Broliai'r Caiser ar ddechreu y rhyfel y byddai'n bwyta'i ginio Nadolig ym Mhlas y Brenin ym Muckingham ac yn ei weld mor hir yn cyrraedd, y mae rhyw walch o sglibrwr crafog yn un o'r papurau yn gweiddi,— Brysia, Wil, canys y mae dy ginio'll oeri Ni chafwyd erioed cystal cocyn hitio ag yw'r William arglwyddiaethus o Germani ac wrth ei fod o wedi ymchwyddo'n dwmpath mor fawr a hunanol, y mae pob ysmaliwr yn anelu ei wawd ato, ac yn ei saethu'n unionym mhwll ei wynt. Ac ni fydd yno ddim byd ar ol wedi i hwnnw fynd allan. 4 -9- + I Pigo Ymennydd. I Y mae llawer math ar bigo yn y byd yma, megis pigo testun at bregethau'r Sul, pigo pregethwyr at y gymanfa pigo pwnc at yr ysgrif pigo cantorion at y cyngerdd pigo'r chwydd allan o ambell stordyn balch a gwyntog,—pigo da ac angenrheidiol yw pob un o'r rhai yna ond pigo gwael ac anonest iawn yw pigo ymennydd,-sef lladrata meddyl- iau heb gydnabod o ble nac oddiar bwy— canys 'does gan y dyn sydd yn gwneud peth felly ddim ymennydd i'w heboor at dalu'n ol i chwi pan y'i dalioch. Hynny yw, ni fedrwch chwi ddim pigo lie na fo peth, a fedrwch ? Er mwyn i chwi ddallt y ddameg, cyfeirio'r ydwyf at waith un o'r papurau enwadol sy'n codi talpiau o bethau'r BRYTHON, heb gymryd arno ddim nad y fo a'u gwnaeth. Cofiwch hyn nid wy'n cwyno dim fod y dyn yn dyfynnu; dim o gwbl, dyfynned faint a fynno pluen i'w chwaeth o ydyw hynny ond dyma wy'n ddweyd os yw pethau'n werth eu codi, y maent yn werth eu eydnabod. Gan nad beth yw maint a rbif fy mhechodau, dyna un peth na fyddaf byth yn euog ohono, —codi nodion dyn arall, a rhoi berfad ohonynt ynghanol fy rhai fy hun, heb ddywedyd gair yn amgen wrth y darllenydd. Ond os bo rhywbeth ym mhen hwnnw, fe wAl drwy'r cast bob yn dipyn, canys rhaid wrth awm o ,science i ladrata'n daclus ac heb eich dal, ac anodd iawn ta.ro clwt o frethyn newydd ar un hen heb i'r gwniad fod yn y golwg, ac nid yw darn o sidan byth mor amlwg a phan y'i gwnier ar siwt o shoddy. Pam na wnewch chwi yr un fath a'r Goleuad, sef dethol darnau o'r amrywiol bapurau, rhoi enw'r papur y dyfynnir ohono wrth y darn, nes eu cael yn golofn flasus ac addysgiadol dan y pen Barn a Rh,ag.farn ? Dyna newyddiadura'n onest ac adeiladol; ond amdanoch chwi,—sy'n newid tipyn ar y pennawd, ac yna'n codi'r cwbl yn ei grynswth i'ch papur heb gymryd arnoch nad y chwi a'i sgrifennodd bob gair—yn booth y bo chwi a'ch castiau. Ffordd hawdd a rhad i olygu papur enwadol a chrefyddol ydyw siswrno hanner ei lond bob wythnos o feddyliau pobl eraiil. Cofiwch fod NA LADRATA" yn cynnwya peidio a dwyn meddyliau cystal a pheidio a dwyn meddiannau. Dyna ddigon am heddyw. Os na ddiwyg. ia'r dyn o hyn ymlaen, ni fydd dim i'w wneud ond cyhoeddi ei enw, ei lusgo i olwg yr holl genedl ar ben y Maen Llog ddydd Gorsedd ac Eisteddfod ac wedi ei dynnu bedwar aelod a phen, fe'i cleddir tan garnedd gwarth, gan orffen gyda dodi llinellau Islwyn ar g arreg ei fedd.- Difai yw lladron defaid A'r hwn a ddygo o raid, Wrth y dyn o ragrith dwl A feiddio ddwyn drychfeddwl. A fynno fri ar gefn ei frawd Ddielir a thragwyddol wawd. Ca wialen cywilydd A sarn llaid i feirniaid fydd. Ni roddes natur bur i'w ben Hanner ymennydd cylionen. Hynny o fri fo ar fy rhan Fo yn fy enw fy hunan. Rhedaf ar fy nhracd fy hun Hyd balas urddas arddun, A gonest heulog wyneb I Uwch dyled, niwed, i neb, Mil gwell fydd dwy linell Ida Nag ofer gyfrol gyfan Lawn o ffug yspeil-len ffol, Hyll druanwaith lladronol. Gwell gen i, gwell gan awen Frath y neidr na'r enw Lleidr Lien. I IY Beibl ei hun, r-hnnvn. I Y mae gan rywun ysgrif flasus a bachog iawn yn y Tyst Annibynnol yr wythnos ddi- weddaf. Matthew Henry, wir ydyw ei phennawd, a dyma enghraifft o'i ddireidi cyrhaeddgar :— Mor bell ag y gwela i, tri math o 'sponwyr "sydd, sef 'sponwyr hanes, 'sponwyr geirie, a 'sponwyr adnode. Do's gyda ni ddim 'sponwyr y Beibil yto. Ma pren- tised gyda ni, ond ma'r 'sponiwr mawr heb ddod. Un tebyg iawn iddo o'dd Mathew Henry. Ishe'r Beibl i hunan sy I arna i. 'Chaiff dim cyfryngwyr fynd rhwng dynion a Duw 'nawr ond ma nhw yn llwyddo'n 'sponwyr i fynd rhwng adnode a Duw. A gweyd y gwir wrthoch chi, rw i wedi hen laru ar y cyfryngwyr bach yma a rydw i yn ymhwedd am rai i 'sponio'r Beibil, a nid i 'sponio 'sponiade." Twca main ac yn cael ei wånu at y byw yw twea'r Tyst ac a bair inni go io'r pefch tebyg, miniocach fyth, a ddywedodd Nicander a Dafydd Ddu Eryri wrth bawb elai rhyngddynt I' a'i Beibil ei hun. Y mae dwr dwyfol y Gair yn glir i'r gwaelod pan gaffo lonydd proc- iwch o efo'ch ffon esboniadol, a dyna'r dwr ) wedi tywyllu nes na welwch chwi ddim ond opiniwn dyn a dail daliadau sect hyd ei wyneb ymhob man. Grosyn na chaffai'r Dwr lon- ydd, ac na chaem ninnau" lonydd i glosio at y Beibl ei hun, gan ddywedyd wrth ein Tad yr hyn a ddywedodd Ceiriog wrth ei fam— Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Beth fedr esboniad wneud &g adnod o deimIad dwfn fel honyna ? Dim ond ei handwyo. J.H.J. j
4'R DDAINT Y GRIBIN.
4'R DDAINT Y GRIBIN. Y mae'r blaid Senodd ,I Gymreig i gyfwrdd heno yn Llundain, i ddewis cadeirydd ac yn y blaen. 15b Y mae Pwyllgor Addysg Amaethyddol Sir Ffiint a Sir Ddinbych wedi trefnu fod Mr. W. Hopkins Jones, eu s'wyddog trefniadol dros y ddwy Sir, i roi cyngor yn rhad ac am ddim i ffermwyr a phawb a'i ceisio mewn ffarmio, garddio, a magu ieir ac yn y blaen. Yr amcan ydyw cael y goreu allan o'r tir, a. chael v goreu hefvd allan o'r da pluog. Fisoedd yn ol, dyfarnwyd iawn i briod John Williams, Bodafon Street, oddiar y Llandudno Coaching Co., oblegid iddo gael ei ladd pan yn dilyn ei orchwylion fel ystablwr yn eu gwas- anaeth hwy. Apeliwyd yn erbyn y ddedfryd y dydd o'r blaen i Lys Apel Llundain ar y tir fod y dyn yn feddw ar y pryd. Ond cadarn- han'r dyfarniad cyntaf ddarfu'r barnwyr, gan nad oedd y meddwdod yn gwneud dim gwahaniaeth i'r ffaith mai gweithio iddynt hwy yr oedd ar y pryd y'i lla,ddwyd. k Bu'r Proff. Firth, dysgawdr Hanes Di- weddar yn Rhydychen, yn darlithio i Gymro. dorion Llundain yn fiafr dymud Cofnodion Cymreig o swyddf a'r Llywodraeth yn y Brif- ddinas. i Gymru. Cam dybryd a Chymru, ac a'r cofnodion eu hunain, ydyw eu hel a'u cadw yn Llundain, ebe'r Proff. Firth. IP2 Dyma ddau sylw a ddywedwyd mewn cyfarfod dirwestol ynglyn a'r milwyr yng Ngholwyn Bay nos lau ddiweddaf :— 1—Gan Lieut-.Gen. Ivor Phillips, A.S. 'Rwy'n dal fod y Fyddin Brydeinig heddyw mor sobr a pharchus ag unrhyw ddosbarth o ddynion y tuallan iddi. 2-Gan Syr Hamar Greenwood, A. S. Y mae yna bedair mil o filwyr yn y dref hon a champ i chwi gael neb sobrach na hwy y tuallan i'r Fyddin. Pe buasai gennych bedair mil o flaenoriaid eglwysig yma, chwi gaech lawer mwy o drafferth i'w cadw mewn trefn a dweyd y gwir, ofnaf y buasai raid eu saethu cyn y caech byth drefn ar bedair mil o wyr y Set Fawr. •S Dirwywyd Hugh Roberts—chwarelwr deu- naw oed-i ddeg swllt ar hugain gan ynadon Penrhyn doudraeth ddydd Iau diweddaf, am lesteirio'r ymrestru a'r Fyddin. Pan oedd dau lane yn mynd gyda'r swyddog i gael eu harchwilio gogyfer ag ymuno, gwaeddodd Roberts rywbeth tebyg i hyn arnynt,— Peidiwch a bod mor wirion, hogiau dowch yn eich holau, a pheidiwch a mynd i'w ganlyn." Syr Osmond Williams oedd cadeirydd y Fainc, ac a ddywedodd wrtho'i fod yn warth i'r dref a'r wlad. 3P;Ll Y mae ynadon Dolgellau wedi dyfarnu fod Rowland Williams (53) ac Edward Williams (56)--dau frawd yn byw yn fferm Hafod y Fedw, Ganllwyd, i sefyll eu prawf yn Llye Chwarter nesaf Sir Feirionydd ar y cyhuddiad o ladrata dwy ddafad, eiddo Mr. Lewis Price, Dolmelynllyn. Y mae Soldiers' Rest wedi ei agor yn Llandudno, tan nawdd Cyngrair y Pocket Testament. Rhannwyd dau gant o Desta- mentau, a chaed 250 eisoes i ardystio dirwest. Bu Mawr Conwy, tan arweiniad Mr. J. P. Griffiths, yn cadw cyngerdd yn Neuadd y Y.M.C.A., sydd ar y Morfa, nos Fercher ddi- weddaf, sef i Fataliwn o Pals sydd yno o Salford. Ym Mrawdlys Lerpwl, ddydd Mercher di- weddaf, dyfarnwyd E900 o iawn i Robt. Stanley Roberts, plumber, Lerpwl, oddiar Mr. Nathan, Llundain, a Dr. White, Lerpwl, oher- wydd y niweidiau a gafodd gan motor car y dda u fis Mai diweddaf, ar ffordd Pentre foelas. Yr oedd Roberts yn ei faglau yn y llys, a'r tebyg yw y bydd yn gloff tra bo bvw. k Bydd yn ddrwg gan y wlad i gyd glywed fod iechyd y Parch. Rhys J. Huws, Glanaman, —Bethesda cyn hynny-wedi torri i lawr, I ac fod yr eglwys wedi ei ollwng i fynd i'r Barry, Caerdydd, am seibiant a gorffwys nes yr adfero. WK Y mae'r Parch. R. Peris Williams (A.) Gwrecsam, wedi cael ei benodi gan y Swyddfa Ryfel yn gaplan i'r Fyddin Gymreig, ac i ddechreu ar ei waith rhag blaen gyda'r milwyr sydd yng Ngholwyn Bay. k Y mae hen waith mwn enwog Cae Coch, Sir Fflint, i'w ail agor gyda hyn, ar ol bod ynghau am ddeng mlynedd ar hugain. Bydd gwaith i gannoedd o ddynion, gan fod yno ystor ddi- hysbydd o sulphur a phlwm, ebe'r papurau. Fe gofir mai yng Nghae Coch y gweithiai Bob, yn Rhys Lewis Daniel Owen. Y mae Wm. Williams, cigydd, Afon Wen, Caerwys, i ddod o flaen ynadon Treffynnon, heddyw (ddydd Iau), argyhuddiad o ladrata oen, eiddo Robert Matthews, fferm Maes y Coed, Caerwys. Mr. J. T. Jenkyn, B.Sc., sydd wedi ei benodi'n gyfarwyddwr Botaneg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor, yn lie Dr. Lloyd Williams, yr hwn sydd wedi cael ei benodi'n Broffeswr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y mae dau o feibion Syr Henry Jone3, Glasgow, ar faes y gwaed,—y naill fel meddyg I a'r liall fel negeseuwr. Mewn trengholiad yng Nghaergybi at gorff Mrs. Ellen Roberts, gwraig drigain oed, dyfarnwyd iddi ddibennu ei heinioes drwy foddi ei hun mewn crwc dwr yr elusendy lie y trigai. Anfonodd Mr. Evan Davies Jones, Y.H., Pen twr, Abergwaen, ac Addison Road, Llun- dain, fil o b-ciiinau at Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Rhoisai £10.5 o'r blaen. Hefvd, v mae Mr. O. Harrison Williams— ymddiriedolwr ystad y diweddar Syr Alfred Jones, Lerpwl—wedi anfon y £ 1,200 a addaw- sid at godi ystafell goffadwriaethol i'r gwr enwog hwnnw yn y Llvfrgell. Caed o hyd i John Jones, fferm Pen Palmant, y Waen, Dyffryn Clwyd, yn farw ar I heel Lower Street, Llanelwy, fore dydd Sadwrn diweddaf; ac yn y cweat a fu amo'r pryhnawn, barnai'r meddyg iddo drengu drwy effeithiau oerfel a'r diodydd meddwol. Chwech a deugain oedd ei oed, a byddai'n aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid y Tlodion a'r Cyngor Dosbarth ar un adeg. i 1 Merch-sef Miss Emily Jones, Rhes y cae— ydyw llvwydd newydd Cyngrair Athrawon Ysgolion Bob-Dydd Sir Fflint. k Y mae gan y Parch. G. Ceidiog Roberts, gweinidog eglwys M.C. Llanllyfni, bedwar mab yn y Fyddin,—Elwyn gyda'r Manchester Chums, Ivor Glynn gyda'r King's Rifles, Goronwy gyda'r Transports, ac Idwal Rob. erts. B.Sc., ar fin cael comisiwn. Y mae Mr. Tennyson Smith-" J. B. Gough yr ail," fel y'i gelwir oherwydd ei hyawdledd a'i danbeidrwydd-yn cyfarch milwyr Llandudno ar Ddirwest, dan nawdd Cymdeithas y Y.M.C.A. Ardystiodd 177. Bendith ar ei genhadaeth. k Ofnir na fydd Mr. Lloyd George yn abl i gadw'i gyhoeddiad fel y bwriadai ym Mangor, sef i gyfarch cyfarfod byddino. Eithr deuaf gynted gallaf yw ei air. DROS GARTREFI'N GIFLAD.-Allaii o tua phum mil o swyddogion, o bob oed, yn y London City and Midland Bank, y mae dros un cant ar ddeg o'r gwyr leuainc wedi ymuno a'r Fyddin i ymladd dros eu gwlad, -i .—I—
Advertising
W. & J. VENMORE9 Estate Agents & Valuer* 200 SCOTLAND RO. f »vefOOCi| TWJBPHOIOS We-, 5168 Soys: J. Lloyd Jones, & (o.f ESTATE AGENTS, &c 6 Lord Street, Liverpool r&lSPaOMB Ult MAN A 0, W. UUGIIESPO. & L.T.See (Ar"nya v Qanti rw Nghapti M.O. Prineu BMd., Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir 1 mgeiswyr at Dystysgrifau uwehai I Colea y Solffa, Hen Nodiant a Sol ft a, 70 KINGSLEY ROAD LEApw ——————————— —————————— .—f L 1M. DAYIES, Conductor, Adjudicator, Accompanist, Teaciiep of Slaiiai, Alalia, & I'li i jforta I Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodau. ¡ At HAFOD. DEGANWY, N Wales Y DDRAIG GOOR." THOMAS a JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adeiphi Hotel). Largs stock of Welsh Books, new and second hand P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR 364 Stanley Road, L'pool. TltLEPHONIt-Z61 BOOTLE. TELEPHONE—575 Anfield.1 J. T. JONES, Fiiiierqg 1.1 n de rtokt: r, EVERTON, LIVERPOOL Funerals personally arranged to all parts. Telephone—215 Old Swan." 16 Whltiand Rd., near Shell Rd., Fairfield. R. W. EVANS- Funeral and Wedding Director, (Agent for Thomas Porter dc Sons, Ltd.). All orders personally attended to throughout at moderate charges Highest testimonials oas be seen. HARTLEY & CO., Liverpool 202 LONDON ROAD. SALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE SATURDAY NIGHTS AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITUBB OF ALE DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTE8, LARGE VARIETY OF BEDSTEADS BEDDING Ac EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAS* 80 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK. AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY GOODS STORED. On view S 30 a.m. to 9.30 p.m.: Saturday 1 D m. Telephone 1703 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALS OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESM SALES. BEST RESULT GUARANTEED.