Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Beaty Bros ltd. THE A TT CELEBRATED TAILORS I PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church Stt, LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygkid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ,gael eu hedrych rhag blacii; eu-gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni, gyda'n hofler gwyddon- ol, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o Is i chwi. Galwch heddyw- ARCHER & SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, il I Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL 'Phone—3925 Bank. w. um & SOB, tailors 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc. 'Phone-S8G Bootle. Appreciated fa" 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bend Piano. fashionable Chippendale Rosewood Case, complete i Iron Frame, Metal Pressure Bar and Bridge, Check Aotion, beautiful tone and touch, unequal led value. 23 Guineas "Arthur Day Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond Piano. Latest style, artistic case, Overstrung Full Iron Fiame, Underdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. » Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music Fittings of all kinds, Strings. Kecotds. Kecords. LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS f Gramophones all prices.. BOND CO > 4 Lime Street, Liverpool. IF YOU WANT REALLY GOOD BOOTS 'L??s? La U NTS, 49 Paradise St; Liverpool The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool U select from, for Ladies 6 Gentlemen, Youths and Boys School Boots in great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., ete. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS. [VANS' HOUSEHOLD OIL The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago Dc Burns. Scalds, Cuts, Bruises ALWAYS HANDY IN THE HOMB iTS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL Get a Bottle at once from your Grocer or Chemis Price I/lid. 0 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co.. THSEMANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES, ROBERTS G EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirhdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
Trem I-Beth fydd nesaf ? I
Trem I-Beth fydd nesaf ? I Teimla pawb y dyddiau hyn fod y rhyfel yn prysur dynnu at ryw drobwynt mawr, neu gyfyngder difrif ar yr holl wledydd. Mae Germani 'n teimlo bellach fod yr adnoddau mewnol yn cael eu dihysbyddu, y gwrth- wynebwyr yn gwasgu'n fwy bygythiol ami, a'r gwledydd amhartiol yn sylwi ar ei symudiad- au diweddar yn fwy anffafriol nag o'r blaen. Torrodd ei chymeriad fel gwlad anrhydeddus i gyfamod pan gychwynnodd allan i'r rhyfel; torrodd ei hgnw da o ran ei diwylliant fel y dygodd y rhyfel ymlaen drwy farbareidd-dra annynol a chreulon ac mae hi'n awr yn angerdd ei hymdrech ofnadwy rhag torri ei chalon mewn anobaitli. Nid ydym yn medd- wl wrth hyn fod y diwedd yn agos, na bod Germani wedi rhoi i fyny'r gred mai hi fydd drechaf yn y pen draw. Rhaid i bethau mawr ddigwydd eto cyn y daw hi i hynny. Wedi i chwe mis fvnd heibio er dechreu'r rhyfel, mae'r gwahanol deyrnasoedd wedi cael cyfle i wueuthur rhyw baratoadau newydd neu ychwanegol, yn enwedig mewn milwyr ac arfogaeth. Ymddengys fod Germani'n honni fod ganddi- hi offer rhyfel newydd a mwy dinistriol na dim a wthiodd i'r ftiaes hyd yn hyn. Sibrydir yn gvffelyb am Loegr hefyd. Beth bynnag, naturiol i'r holl genhedloedd fu'n darpar byddinoedd newydd ddisgwyl llawer oddiwrthynt pan elont allan yn eu nerth. Mae Byddin Newydd Lloegr yn un gref, felly'n ddiau Ffrainc a Rwsia ac mae Germani eisoes wedi profi ddarfod iddi anfon allan luoedd lliosog tuhwnt i ddim a ddisgwyl- id gan nemor neb—yn enwedig gwybodusion arbennig ar fater y rhyfel Mae proffwydi'r rhyfel yn debyg i'r proffwydi am ddiwedd y byd,"—yr amser wedi ei gyhoeddi, ond yr amgylchiadau ddim yn digwydd. Bu budd- ugoliaethau ysgubol ar ddigwydd yn Ffrainc, ond ni wnaethant ac yn y Dwyrain, ond ni chyflawnwyd y proffwydol i aethau. Nid ar ein byddinoedd y mae'r bai, eithr ar y dynion a broffwydant heb wybod. Fel y saif pethau yn awr, mae'r Germaniaid yn gryfion yn y Gorllewin a'r Dwyrain. Tybid eu bod yn symud yn llanw eu grym yn erbyn Warsaw, ond yn erbyn y Rwsiaid yn Nwyrain Prwsia y mae'r rhuthr mawr diweddaf, ac enciliodd y Rwsiaid ymhell yn ol. Pa un a fedd y Ger- maniaid ddigon o fyddinoedd i barhau'r ymosodiad tua Warsaw ac yn Nwyrain Prwsia neu ynteu eu bod wedi tynnu oddiwrth bwyntiau eraill i allu ymgrynhoi i Prwsia, amser a ddengys. Diau y gwnant eu heithaf i yrru'r goresgynwyr yn ol o'r lie olaf,oherwydd pwysig i ymborth Germani fydd y tiroedd hyn. Ond y maent yn parhau i ymladd feI dreigiau, a'r un dibristod i fywydau eu milwyr yn ymddangos yn y Dwyrain ag a welwyd yn nechreu'r rhyfel, yn y Gorllewin. Ond nid annhebyg fod eu hymdrechion yn dechreu dwyn arwyddion ymwybyddiaeth o agos- rwydd y cyfyngbwynt a raid benderfynu eu tynged. Uchel y doll a godir ar eu dynion yn yr ymgyrchoedd mawrion beunydd, ac mae'r Cynghreirwyr, yn ami, yn cadw'u dynion wrth golli tir. Dywedodd Hindenberg dro'n ol nad oedd arnynt eisiau ond nerve i orchfygu'r Rwsiaid—"fel yr ydym yn sicr o wneud," ychwanegai. Ond os cyll ei ddynion fe gyll ei "nerves" hefyd. Ni ddaw fawr fudd o daro Berlin A, edmygedd at wrhydri milwrol, oni fydd grym y gwrthwynebydd yn cael ei daro'n gyfatebol. Ond ymddengys fod y Rwsiaid yn y Dwyrain, a'r Ffrancod a'r Pry- deinwyr yn y Gorllewin, wedi credu mai eu mantais fydd cadw'n gelyn ymhell oddiwrth ei gadarnfeydd, hyd nes y deuant hwy i'w llawn nerth, ac iddo yntau gael ei wanhau. Mae'n bur eglur ers tro bellach, os torrodd y Caiser y cyfamod a Belgium fe dorrodd y Cynghreir- iaid ei gynlluniau yntau'n yfflon.
I Trem II—Y Caiser a-. Jonathan.
I Trem II—Y Caiser a Jonathan. Ond mae'r Caiser am geisio ta.gu'r drafnid iaeth a ddwg ddefnyddiau cynhaliaeth i Loegr, ac wedi nodi'r diwrnod. Cyhoeddodd ei arfaeth a th6n anffaeledig, gan rybuddio'r gwledydd amhleidiol o'u perygl hwythau: Bu gwaith y Lusitania'n chwyfio fflag America yn foddion i beri cyffro dros ennyd, a da oedd gan Germani geisio manteisio arno. Ond os y goddefai unrhyw wlad golled drwy chware a llongau Lloegr a'i baner hi, boed rhwng y colledwyr a Lloegr, ebe'r gelyn. Ond siom- wyd ef yn yr effaith a gafodd ei ddatganiad ar y byd-yn enwedig America ac Itali. Tybid unwaith fod America'n rhy wyneblon ar Germani, a braidd yn chwyrn at Brydain. Ond newidiodd wen am wg at y wlad a fygyth- iai beryglu ei thrafnidiaeth a'i mordeithwyr mor ddiseremoni. Gymaint fu siom Ger- mani fel y chwerwodd ac y llidiodd trwyddi at Jonathan. Yr ydym yn ysgrifennu cyn i ateb y Caiser i Jonathan gael ei gyhoeddi ond proffwydir y bydd dan orfod i gymedroli peth ar y datganiad cyntaf. Cof gennym ddarfod i'r gynulleidfa yn Eisteddfod Lerpwl waeddi am en cor i gan y Cadeirio ond yr oedd y diddan Hwfa Mon yn erbyn. Ond fe fynnai'r bobl eu ffordd, ac aeth y canwr ymlaen i ganu. Beth bynnag, i achub urddas ac awdurdod yr Archdderwydd, cyhoeddodd cyfaill Gorseddog allan, Mae'r Archdderwydd yn caniatau y cais." Y mddengys mai mewn ysbryd tebyg y bydd cymedroliad Germani o'i bygythiad a gellir bod yn sicr y cais bob cyfle i droi yr hyn a ildia i'r America'n wasgfa ar Brydain. Ni chaiff Lloegr, ebr Germani, newynu ei phobl hi. Ar dyb bur gyffredinol yw fod y cri hwn yn arwydd fod Germani'n dechrou teimlo fod adnoddau ei chynhaliaeth yn prysur redeg allan. A chyda'r mater hwn yr ydym yn dod at y ffaith mai nid brwydrau'n unig bender- fyna, dynged yr Armagedon, eithr adnoddau ariannol, clydwch, ymborth, ac angenrheidiau cyffredin eraill y bobl. Mae'r elfen German- aidd yn America'n gref a dylanwadol, a chlybuwyd sibrwd am gynllwynion ymysg rhyw ddosbarth yno i godi gwrthryfel—oni chaent eu ffordd. Fe brawf hanes yr hyn wnaed mewn gwledydd eraill beth ellir ddis- gwyl gan yr un bobl yn America hefyd. Naturiol oedd i Jonathan wneud llawer o bethau i geisio sicrhau heddweh yn ei wlad ei hun ond mae'n sicr na wna bopeth, a phrin y credwn y rhydd i fewn i ofn yn y peth hwn. Ond fe wna'r Caiser ei oreu i geisio suddo'r trugareddau a ddaw i'n glannau ni. Ofer fyddai cymryd golwg ysgafn ar y mater, a gellir disgwyl llawer trychineb o bryd i bryd. -c: W
Trem III-Pwy syn ccdjI pris…
Trem III-Pwy syn ccdj I pris y dorth ? Ffaith ddifrifol yn ein gwlad ni eisoes yw'r prisiau uehel ar angenrheidiau cyffredin bywyd. Gwir ei bod yn amser rhyfel, ac mai syn ei bod cystal arnom ag ydyw tan yr amgylchiadau. Er hynny, mae sail i gredu fod rhywrai'n manteisio hyd yn oed ar gyfyng- der gwlad mewn rhyfel i fudr-elwa. Nid ydym yn honni deall mater mor fawr, mor eang, ac mor gyi-nhleth a masnach a thrafnid- iaeth ein gwlad a rhaid deall masnach a sefyllfa gwledydd mawrion y bvd cyn y gellir deall eiddo Lloegr yn drwyadl. Ond ffaith bur arwyddocaol yw, ddarfod i Mr. Bonar Law gyhoeddi mor ddifloesgni, yn Nhy'r Cyffredin, ei gondemniad ar fudr-elw. Dy- wedodd am berchonogion llongau, fod eu llongau yn gwneud elw aruthrol, a bod yr elw hwnnw'n dod o'r achos yr oedd pobl y wlad hon. yn gwneud ebyrth er ei fwyn ymhob cyfeiriad, a hyd yn oed yn rhoi eu bywydau. Ysgrifennydd o awdurdod a ddywed hefyd, y gall llwyth o wenith, gwerth £10,000 pan yn gadael y River Plate, gael ei werthu a'i ail werthu ddeg neu ugain o weithiau drosodd cyn iddo gyrraedd Liverpool, ac i'w werth erbyn hynny fod yn 915,000 Mae tystiol- aethau fel hyn yn peri i ddyn synnu'n aruthr. Ac os eywir y dystiolaeth, ni fydd yn hir heb ei datguddio hyd oni bo'n annioddefol i bobl sy'n dioddef yn amser rhyfel, ac yn eu mysg lawer o'r dosbarth y mae eu bywydau'n tariannu'n gwlad rhag difrod y gelyn. Os gwir y tystiolaethau hyn, mae cryn lawer o Gaiseriaeth yn rhywle heblaw Germani. -0-
Heddywr Bore
Heddywr Bore sef Bore Dydd Mercher I GOFIO'R DEWR.-Y mae coflech neu dabled i'w dodi yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, yn gof am y diweddar Gapten C. G. Taylor, a laddwyd ar y Tiger ym mrwydr Mor y Gog- ledd, Ionawr 24ain. UGAIN Y "GRAMPIAN."—Pan gyr- haeddodd llong yGrampian i Lerpwl yr wyth- nos ddiweddaf, yr oedd ugain o Gymry ieuainc, llawn o hoen ac afiaith ymladd, wedi dod drosodd bob cam o British Columbia bell i ymuno a'r Fyddin Gymreig. Telid eu traul bob dimai gan Mr. Rd. Marpole,—Cymro adawodd ei famwlad pan yn fachgen, ac sydd wedi dringo nes bod yn ben dyn ffordd naearn anferth y Canadian Pacific Railway. Y mae'r ugain wedi ymuno ag Adran Gwent yng Ngholwyn Bay, a dau ohonynt yn fechgyn Llandudno, sef R. W. Roberts, Heatherdale, a Harry Symonds. -0- PLUEN GAERGRA WNT.—Y inak, W. Owen, is-gadeirydd Cyngor Sir Mon, wedi cael llvthyr o Gaergrawnt, lie y mae Territor- iaid Mon ers wythnosau bellach, i ddweyd fod y dref honno i gyd yn siarad am fechgyn glewion Cymru, ac yn canmol eu sobrwydd a'u boneddigeiddrwydd eithriadol at, bawb o'r trigolion. + WYTH O R UN AEL WYD.—Y mae cynifer ag wyth o feibion y diweddar Martin Sullivan, bandmaster y Royal Welsh Fusilier?, yn perthyn i'r Fyddin,—rhai 'n lied agos i'w cartref a'r lleill led y byd. -.0- Y F If LET ARIAN RHAGOR Y FWLET BLWM.—Yn ei araith fawr ariannol yn Nhy'r Cyffredin ddydd Lhin diweddaf, dywedodd Mr. Lloyd George, fel ffrwyth ei ymweliad diweddar a Pharis, nad oes dim a dery ddyn yn fwy na gwold y gwroldeb hamddenol a siriol hwnnw yn y trigolion y tybid yn gyffredin sydd mor anghydnaws a thymer y Celt (chwerthin) gi a y bobl hynny sy ddim yn ei adnabod (rhagor o chwerthin). Teimla pawb yno fod y Ger- maniaid wedi colli eu llanw, ac nad oes bellach fwy o berigl iddynt fedru treehu na darostwpg Ffrainc nag oedd iddynt ruthro a chymryd planed Mawrth. A chwedl y Canghellor, gennym ni'r Cyng- hreiriaid y mae mwyaf o fwledi arian, sef o arian wrth gefn, ac a'r rheiny yr enillir y frwydr yn y pen draw, yn fwy nag a'r bwledi plwm. as IFSQ Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, Cynhauwyd cyfarfod adran Dwyreinbarth Morgannwg a Mynwy prynhawn Sadwra, Chwefrol 13, yn Ysgol y Gadlys, Aberdar. Yr oedd yr bin yn flin ryfeddol,ond daeth nifer dda ynghyd, a chaed cyfarfod llwyddiannus. Llywyddwyd gan y Cynghorwr Huw T. Rich- ards, Pontypridd, a chroesawyd y cynrychiol- wyr gan Mr. E. Ogwen Williams, Yr Ysgol Sir, Aberdar. Caed trafodaeth ar y pwys o ledaenu Llawlyfr y Bwrdd Addysg ar Wyl Ddewi. Cynhygiodd Dewi Fychan, Caerdydd, a chefn- ogodd y Parch. John Lewis, Aberdar, "Ein bod fel Adran o Undeb Cymdeithasau Cym- raeg Gwent a Dwyreinbartli Morgannwg, yn apelio at Gynghorau Addyeg yr Ysgolion Elfennol, a Llywodraethwyr yr Ysgolion Canolradd, ar iddynt wneud popeth er sicrhau fod pob plentyn o oed yn cael copi o'r llyfr a baratoir gan Swyddfa Addysg y Llywodraeth ar gyfer dathliad Gwyl Ddewi." Cynhygiwyd penderfyniad oddiwrth Undeb Cymdeithasau Caerdydd, gan Eluned, sef Y dylai pob Cymdeithas sydd ynglyn a'r Undeb ofalu fod cyflawjider o lenyddiaeth Gymraeg chwaethus yn cael ei rhoi o fewn cyrraedd pobl ieuainc y gwahanol ardaloedd." Sylwodd Eluned mai angen mwyaf Cymru ydyw gwasgaru llenvddiaeth ymysg teuluoedd y wlad. At ei gilydd, llwm iawn o lyfrau ydyw estyll y tai ac os nad oes lyfrwerthwyr yn yr ardal, dylai'r Cymdeithasau ymorol am lyfrau cymwys a'u gwasgaru i'r cartrefi. Byddai darllen llyfrau coeth a glan Cymru yn help i wrthweithio'r dylanwad mall sy'n llifo i fywyd yr ieuenctid drwy ddarllen llenydd- iaeth afiach y Saeson. A dyna gynllun buddiol ydoedd hwnnw a gaed gan yr Athro Ernest Hughes, M.A., Caerdydd, sef y dylai pob Cymdeithas ethol is-bwyllgor i baratoi rhestr o lyfrau Cymraeg i blant, a'r ysgrif- ennydd i'w dwyn i sylw y rhieni, a hwythau i roddi archeb iddo ef am y llyfrau. Y mae hwn yn gynllun rhagorol, oherwydd prinder siopau, mewn llawer tref a chwm, lie y gwerthir llyfrau Cymraeg. Sylwodd hefyd fod arferiad drwg mewn rhai eglwysi o roddi llyfrau Saesneg yn wobrau i'r plant, a'u cystal, os nad eu gwell, i'w cael yn Gymraeg. A phaham," meddai, nad allai 'r rhieni ddar- paru astell arbennig yn y ty, i bob un o'r plant gadw ei lyfrau ei hun ami ? Caed dadleu brwd hefyd ar Gyfundrefn Addysg y Bwrdd Canol, a'r arferiad sy'n ffynnu yn rhai o'r Ysgolion Sir o ddysgu Ffrangeg, a gwtliio'r Gymraeg o'r neilltu. Dywedir fod llawer o brif athrawon yr Ysgol- ion Sir yn rhwystro'r plant i gymryd Cymraeg a,'u gorfodi i ddysgu Ffrangeg, yn lie rhoddi cyile iddynt gymryd y ddwy. Siaradwyd yn hyawdl ar y mater hwn gan Miss Mary Wat-
Advertising
TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEH DRY SOAP THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
HAVE You TRIED i KEENONAI SELF RAISING FLOUR P Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of sue cess if you use Keenora Self-Raising Flour, Makes deliriously light Pastry, Cakes, Scones, Buns, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you will be delighted. SOLE AGENTS— MOHItlS and JONES, LIVERPOOL & MANCHESTER.