Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Basgedaid o'r Wlad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Basgedaid o'r Wlad. Diwrnod Mawr Llandudno. Bydd dydd Llun wythnos i'r nesaf-sef I Dydd Gwyl Ddewi—yn ddiwrnod mawr, mawr yn Llandudno, gan yr achubir y eyfle i'w gadw yn y fath fodd ag i ddeffro'r teimlad gwladgar ac yna'i gydio, tra bo'n chwilboeth, wrth y ddyledswydd filwrol i ymuno a'r Fyddin ac achub cam ein gwlad. Tebyg y bydd miloedd o berthynasau ac anwyliaid y milwyr yn anelu tuag yno, canys wedi'r pared a'r ymdaith a'r oedfa, bydd y dynion yn rhydd weddill y dydd. Bydd y Brigadier O. Thomas yn gwadd 120 o swyddogion a haid o gyfeillion i ginio yn y prynhawn yn y Grand Hotel ac yno ceir y delyn a chanu gyda'r tannau a phob rhyw ganu a mwyniant glan a rhaid i bob swyddog ifanc na fu mewn cinio Gwy Ddewi o'r blaen tan nawdd y gatrawd, brofi ei hawl i wisgo'r wisg filwrol, drwy fwyta cenhenin amrwd, tisied o a disio Disgwylir urddasolion milwrol yno oddidraw ac yma, swyryddion a mawrion y Gogledd, a Mr. a Mrs. Lloyd George. Bu eglwysi Methodistaidd Llandudno yn croesawu saith gant o'r milwyr mewn ym- gomwest anferth yn yr Hippodrome ddydd Iau diweddaf, Mr. D. Davies, A.S., yn llyw- yddu, y Parch. E. 0. Davies, B.Sc., a'r Caplan yn eu cyfarch a'u croesawu. Dyma gan Pedr Hir, cyflwvnedig i Ll. ap T.S., 13th Batt. R.W.F., ac i'w chanu ar Don y Melinydd Os wyt ti'n mynd i ryfel, Bydd wrol heb dy fath Os cei di frath a, chleddyf, Rho dithau frath am frath. Ffal la la la la la la la Os wyt ti'n mynd i ryfel, NVel dos, a thyrd yn ol A thestyn marwnad lawen I lawer Prwsiad ffol. J Ffal la la Nae arbed neb o'r giwed, Mae llawer iawn o frain 0 Belgium hyd i Poland Yn blysio cnawd y rhain. Ffal la la Os wyt ti'n mynd i ryfel, Na feddwl am dy fam, Rhag ofn i'th galon soddi, Fel dyna'r rheswm pam. Ffal la la Os wyt ti'n mynd i ryfel, Wel dos a'r bwriad byw I ddisgyn ar y gelyn Fel bareud balch ar gyw. Ffal la la Ha fydd yn galon feddal, N a'th wefl yn llipryn laes Anrhydedd penna'r milwr Yw marw ar y maes. Ffal lal a Wel dos i gosi'r Caisar, A phaid a throi yn ol Jfes clywed hwnnw'n gweiddi- Mi fum yn ffwlcyn ffol." Ffal la la 0 Ddyffryn Clwyd. I Newydd da ar ol newydd drwg. Fy mab hwn oedd yn farw, ac aeth yn fyw drachefn oedd profiad tad Frank Ainsworth, Llanelwy. Yr oedd wedi bod yn galaru amdano fel un wedi ei ladd yn y frwydr, ac wedyn yn cael gair ei fod yn garcharor, nes peri i ni feddwl am T sylw "Mae gobaith mab o ryfel, 'Does gobaith neb o'i fedd." €hvr Dol Hyfryd.—Ar fin y ffordd fawr rhwng hen Senedd-dy Rhuddlan a gorffwysfan Die Aberdaron, yr oedd gardd mor brydferth a ehelfydd fel y byddai ymwelwyr, trefwyr a dinaswyr yn ymhyfrydu wrth sylwi arni. Ddydd Iau, cleddid perchennog Dol hyfryd ym mherson Dr. A. E. Davies, Y.H., yn 84 mlwydd oed. Bu'n iachau a lliniaru poenau a briwiau ar fwrdd llongau o Australia. Wedi dod i Lanelwy gwnaeth waith rhagorol gyda'r Rhyddfrydwyr; ond yn adeg y rhwyg politicaidd ar bwnc y Werddon, trodd yn Undebwr. Dyn caredig ydoedd, ac yn aelod o'r Cyngor Plwyf am flynyddoedd. A'i waed yn cochi'r tir.- Yr oedd y twrne ieuanc a laddwyd yn y rhyfel, J. Arthur Hughes, Llan- elwy, yn frawd i Miss Lena Hughes, sydd yn y Royal Academy of Music. Dyma fel y bu ei broffwydoliaeth pan yn ysgrifennu i un o newyddiaduron y wlad hon :— Do ymladd'som fel disgwyliem- Gwresog, gwrol, gobaith llawn Dwedent yn garedig inni Wneuthur yn ardderchog iawn Mae fy mywyd 'n araf dreio, Ac a'm gwaed yn cochi'r tir, Fel 'rwy'n gorwedd yn fy mhabell Mown rhyw garthffos fudr, hir Miloedd ar filoedd.-Dros gant o gabannau i'r milwyr sydd wedi eu codi ym Mharc Kinmel -digon ar gvfer 3,000, ond y mae eisiau digon o le i 45,000 meddir. Ac er hwyluso'r gwaith mae ffordd haearn wedi ei gwneud o'r Foryd at eglwys Bodelwyddan. Cael Saibfach. Gwr a enwir yn llythyrau'r swyddogion yw'r Col. Noel Birch, mab ein prif ustus, Llanelwy ac y mae wedi cael dod adref am ychydig seibiant. Efe'n perthyn i Headquarter Staff y Fyddin Brydeinig yn Ffrainc. Y ddau aneipar.-Mae cyn-glochydd Eglwys y Plwyf, Dinas Elwy-Robert John Evans, wedi ei ddyrchafu o fod yn lance-corporal yn cor. poral, fel y caiff wisgo dwy streip ar ei fraich chwith a chodiad cyflog. Mae ef a Tom Hughes wedi ymenwogi fel snipers. Cast cyfrwys.—Llawer cynllun sydd gan gar. charorion o Gymru i anfon newydd- ion i'w perthynasau fel na all yr Ellmvn eu deall gadawant i'r postcards ddod heb i dybio mai nid at bersonau yr anfonant eu cofion. Dywedant am bethau y maont yn brin ohonynt Kindest regards to BARA A THAN MENYN A SIWGK," etc. 0 FACH YNLLETH.—Chwi wyddoch mai merch y diweddar Syr John Edwards, Plas Machynlleth yma, oedd mam yr Arglwydd Londonderry a gleddid y dydd o'r blaen, ac oedd yn un o wyr amlwg y Blaid Doriaidd, a'i frawd, Arglwydd Herbert Vane-Tempest, yn byw yn hen bias ei daid yma. Caed oedfa goffa amdano yn eglwys y plwyf ddydd Iau diweddaf y Ficer Pryce yn gweinyddu, a'r Parchedigion Hughes, Machynlleth, a Thomas Corris. Canwyd emynau Saesneg a Chym- raeg, a'r ddwy hyn yn eu mysg, Beth sydd imi yn y byd," a Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu.Caed dadl bur fywiog yn y Glyn Dwr Institute nos dydd Llun diweddaf, tan lywyddiaeth Mr. Hugh Davies y fferyllydd, ar A yw y teimlad cenedlaethol a'i duedd er lles y byd ? Dadleuwyd ei fod gan Mr. Roberts, Tre Gerddi, a chefnogwyd gan Mr. Thomas y Bane dadleuwyd nad ydoedd gan Mr. Davies yr Yswiriant Cenedlaethol, a chefnogwyd yntau gan y Parch. Madryn Jones (M.C.). Dilynodd amryw, a chaed ymresymu cyndyn ac eirias ond heb wylltio na glafoeri cyn- ddaredd.—Nos Fercher hefyd, yng Nghym- deithas y Cymreigyddion, bu Mr. T. Powell, prifathro Ysgol y Cyngor, yn traethu ar Emlyn Evans. Y Parch. Cunllo Davies yn y gadair. Aed dros hanes y cerddor galluog, a'r beirniad llymgraff o Lan Ceri i Fron y Gan. Papur rhagorol, ac a ddylai gael lie yn un o'n cylchgornau cenedlaethol. Y mae'r Wnion yn ysgrifennydd pybyr a than gamp i'r Cymreigyddion.—J. JONES (Gwladwr). 0 F AELOR-TRISTWCH Y RHOS.—Trist- hau mawr sydd yma wrth gIywed lladd pump o fechgyn y Rhos ym mrwydr La Bassee, Ffrainc, Ionawr 25, sef y Corp. Robert Parry, 30 oed, ac iddo briod a dau blentyn y Preifat Edward Evans, priod a dau blentyn, a brawd iddo, ymladdwr arall, yn gorwedd yn glwyf- edig yn un o ysbytai'r Ysgotland y Preifat Wm. Jainl, gweddw a dau blentyn Preifat John Griffiths, 22 oed, ei fam yn weddw, a'i frawd hynaf gyda'r Pals yn Llandudno. Bu oedfa goffa yn y Capel Mawr ar ol tri ohonynt, oedd yn aelodau yn yr eglwys honno,—y lle'n orlawn, y gweinidog yn pregethu, ac amryw filwyr yno wedi cael seibiant adref o Ffrainc, —Lieut. Chas. Davies, mab Plas yn Nhre, yn dychwelyd i faes y frwydr, ar ol gwella o'i glwyfau.—Collodd Mr. Benjamin Jones, Tem- perance House, ei briod y dydd o'r blaen, gan adael saith o blant ar ei hoi, a thri ohonynt mewn safleoedd o bwys ym Manchester ei phriod yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr ym Mheniel, a hithau'n wraig weithgar iawn gyda Dirwest a Rhyddfrydiaeth. PRIODAS GLAN DWR.-Miri mawr fu yn ardal Glan dwr, Penfro, y dydd o'r blaen, ar briodas Miss Caroline Owen, Islwyn (un o ferched y diweddar Barch. O. R. Owen, Park Road, Lerpwl, a Mrs, Owen) a Mr. Harry Roberts, o Borthmadog,—y ddau yn gyfar- wydd i gylch helaeth o Lerpyliaid. Fe'u cyfamodwyd gan y Parch. P. E. Price, yng ngwydd tyrfa fawr o ewyllyswyr da. Mwyn- hawyd y mis mel yn Llandrindod, a gwna'r par ieuanc eu cartref newydd yn y Trallwng, lie y mae'r priodfab yn swyddo g cyfrifol yng ngwasanaeth y Trysorlys,-Cly wedog. YR EIDDO CESAR I CESAR.—Yng nghyfrol cyfansoddiadau arobryn y Fenni, dywedir mai awdur y caneuon i'r Chwe Crefft- wr yw'r Parch. John Lewis, Llanfairmuallt," ac nid fel y dylasai fod, sef Blaen y coed, Conwyl Elfed, Caerfyrddin. Digwydd bod ar ei wyliau yn ardal Buallt wnai'r bardd pan yrrodd am y wobr, a thybiodd yr awdurdodau ei fod yn byw yno,er dodi ohono ei gyfeiriad yn gywir. Bugail ar yr eglwys lie dechreuodd Elfed bregethu yw Mr. Lewis, a chanddo nifer dda o gadeiriau pwysig o Dde a Gogledd yn addurno'i dy, helbaw ennill amryw wobrwyon yn y Genedlaethol.—Ar fhediad. 0 BONT Y BODCIN.—Bu Miss Rosina Davies (De Cymru) yn cynnal cenhadaeth yng nghapel yr Annibynwyr, yn dechreu bore Saboth, Chwefrol 7, hyd y nos Fercher dilynol. Bore Saboth caed oedfa arbennig i'r plant. Credir y bydd yr oedfa fyw yn hir yn ein cof. Am ddau, caed oedfa Saesneg ac am 6, oedfa Gvmraeg, ac felly'r tair noson ddilynol. Daeth cynulliadau mawrion i bob oedfa; mawr fwynhawyd y genadwri, ac yr oedd yn amlwg fod dylanwad yr Ysbryd Glan yn cyd- fynd a'r holl foddion. Pan oedd Miss Davies yma o'r blaen, cafodd beth o weddill gwres y Diwygiad yr oedd hynny Rhagfyr 1905. Er fod y gwres mawr wedi darfod bron o'r eglwysi, yr edd y genadwri'n parhau yr un, ac mor swynol ag erioed.—Chwefrol 6ed, bu Mrs. Jane Williams, priod Mr. Robert Will- iams, Victoria Terrace, farw, wedi ond ychyd- ig ddydd iau o waeledd. Gadawodd briod ac wyth o blant bach i wylo ar ei hoi. daddwyd y dydd Mawrth dilynol. Gwasanaethwyd wrth y ty gan Miss Rosina Davies a Mr. David Jones, Hartsheath. Claddwyd ym Mynwent Treuddyn gwasanaethwyd yno gan y rheithor.—Mae oddeutu 70 o blant ynglfn a'r Gobeithlu yn y lie hwn, ac ar hyn o bryd yn llafurio ar gyfer Saboth y Plant ddech- reu Mawrth.—Saboth, Chwefrol 14, pregeth- wyd yn y bore gal-t-yr Hybarch R. Roberts, Rhos, ac yn yr hwyr gan Mr. David Jones, Hartsha:eth,oedfa.'r hwyr er coffhad am y ddiweddar Mrs. Elizabeth Bellis a Mrs. Jane Williams.-Selog tros f ardal. 0 Gaerdydd. I OFFRWf CYMRY'R AMERIG.-Ar ran Canghellor y Trysorlys, galwodd Mrs. Lloyd George nifer o bobl yn cynrychioli pob rhan o Gymru ynghyd ddydd Gwener cyn y diweddaf yng Nghaernarfon, i benderfynu'r modd goreu i rannu'r arian a gasglwyd gan Gymry'r Amerig i leihau angen yng Nghymru yn vstod y rhyfel. Cymerodd Mrs. Lloyd George y gadair, a dywedodd fod cyfanswm o E 1, 500 wedi eu casglu yn barod yn yr Amerig a'u gyrru i'r Canghellor. Penderfynodd y cyfarfod fod Mrs. Lloyd George, Mri. Joseph Davies, Caerdydd, R. Silyn Roberts a J. Owain Evans i fod yn Bwyllgor Gweithiol i rannu'r arian fod pwyllgorau lleol neu blwyf i apelio am gynhorthwy trwy gyfrwng eu hysgrifenyddion at y Pwyllgor Gweithiol, ac fod Mr. J. Owain Evans i fod yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gweithiol. Ar gynhygiad Syr John Roberts, penderfynwyd cadw arian y I gronfa hon i gyfarfod yr achosion hynny nas gellir ymwneud a hwy o dan reolau Cronfa Tywysog Cymru. Cyfeiriad Mr. J. Owain Evans, Ysgrifennydd y Pwyllgor Gweithiol, yw c/o The National Health Insurance Commission (Wales), City Hall, Cardiff. 0 WRECSAM Cymdeithas Lenydclol Heol y Frenhines.—Cafwyd cyfarfod tra diddorol nos Wener, y 12fed cyfisol, tan lyw- yddiaeth Mr. J. T. Davies, sef Ffug Etholiad. Dyma'r ymgeiswyr Rhyddfrydwr, Mr. Ben Roberts Ceidwadwr, Mr. Caradog Dowell Sosialydd, Mr. John Hughes a'r Ymgeisydd Annibynnol, Mr. Howel Cook. Wedi gwrando areithiau'r pedwar ymgeisydd, ac ar ol iddynt atob nifer o gwestiynau, aed i bleidleisio, a ehaed fod yr Ymgeisydd Annibynnol wedi ei ethol gyda mwyafrif byehan. Terfynwyd cyfarfod difyr iawn trwy i'r aelod dewisedig ddiolch am yr anrhydedd o sefyll dros ran- barth Caerfantell, a chydnabyddid gwaith y llywydd yn cadw heddwch a threfn rhwng y ploidiau.Etholwr.

YSUFELL Y BEIRDDI

Advertising

Heddywr Bore