Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

.O) DD BARN I WROP. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O) DD BARN I WROP. I Ein noddfa a'n Nertb yn nydd y I y Ddrycin. I LGAN Y PARCH. JOHN EVANS, B.A., LLANNOR. ] MAE gan un o'r hen Biwritaniaid mwyaf hawddgar a hoffus, sef Dr. Richard Sibbes, bregeth nodedig ar Ddiogelwch y duwiol yn y dydd drwg The saint's safety in evil times." Amser blinder ydyw hwn i Jacob yn y gwledydd hyn ac felly yr ydoedd pan dra- cldodwyd y bregeth oddeutu tri chan mlynedd yn ol. I'r mwyafrif ymhob oes dyna ydyw eu hamser ar ei hyd. Ychydig ydyw y rhai sydd heb fod mewn blinder fel dynion eraill; ao yn y golwg y maent hwythau gan mwyaf yn eithriad, ae nid yn y galon. Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul." Eto rhaid addef fod a,degau gwaeth na'i gilydd yn dod i ran personau unigol, ac hefyd i dylwythau a chenhedloedd cyfain. Mae i wae ac ing ei orllanw, neu ni fuasai dim gobaith am ei drai. Felly y dengys geiriau y Gwared- WT, Canys y pryd hwnnw bydd gorthrym- der mawr, y fath ni bu o ddechreu y byd hyd yr awrhon, ac ni bydd chwaith." Diau mai at ddinistr Jerusalem gan y Bhufeiniaid y cyfeiriai ein Harglwydd ond yr oedd y ddinas wedi bod rai gweithiau o'r blaen yn gorfod cwynfan A oes y fath ofid a'm gofid i ? Mewn cyfyngder yr ydys yn barnu pethau wrth y teimlad, ac mae yn naturiol i hwnnw ddweyd eu bod yn edrych yn brudd a thywyll. Dyna ydyw dechreu can odidog Bernard yn y Canol-Oesoedd, er mai ei ham- can ydyw gwrthweithio y digalondid trwy bortreadu llonder a disgleirdeb y Wlad Well, "The world is very evil, The times are waxing late Be sober, and keep vigil, The Judge is at the gate TheJ udge that comes in mercy, The Judge that comes with might, To terminate the evil, To diadem the right." Cyfieithiad go lac ydyw hwnna, ac er mwyn y cyfarwydd dodwn y llinellau gwreiddiol yma, "Hora novissima, temp ora pessima sunt, vigilemus. Ecce minaciter imminet arbiter ille sup re- mus. Imminet, imminet, ut mala terminat, oeqtia coronet. Recta remuneret, anxia liberet, aethera donet. Brad y Powdr Gwn oedd y drwg y cyfeiria pregeth Sibbes ato, ond trwy ei ddarganfydd- iad fe drodd y dydd oedd i esgor arno yn ddydd o ymwared a llawenydd. Mae'n debyg fod or hynny fwy nag ugain mlynedd pan dra- ddodwyd hi argylchwyl i goffa'r waredigaeth. Yr oedd saint y dyddiau hynny yn gwybod gwerth eu dihangfa, ac yr oedd eu diolch amdani yn rhywbeth amgen na ffurf. Ac nid oedd treiglad amser ddim wedi ei gwneud yn .ddiangenrhaid i Sibbes gysuro'r saint yn wyneb euhofnau, olierwydd yr oedd y dydd- iau drwg yn parhau, ac mewn ystyV yn gwaethygu. Wedi'i; profiad a gawsid o ddichellion a chreulonderau y Pabyddion, gallesid disgwyl i benaethiaid gwladol ac eglwysig y deyrnas ymgadw rhag ochri at grefydd Rhufain, am rai oesau beth bynnag. Ond mor siomedig y trodd pethau allan Cyn diwedd ei oes yr oedd y brenin, a fu bron myned yn aberth i'r brad, ynghyda'i gyn- ifonwyr lien a lleyg, yn gwneud eu goreu i lethu Piwritaniaeth ac i ffurfio Pabyddiaeth. Cafodd Sibbes ei hun, oedd yn bregethwr ac ysgolor yng Nghaergrawnt, ei fwrw allan o'i gymrodoriaeth ac o'r pulpud lie y gweini- dogaothai ond bu ef yn fwy ffodus nallawor o'i frodyr, gan iddo gael ei benodi'n gaplan i wyr y gyfraith yn Gray's Inn, ac felly mwyn- haodd dawelwch o hynny allan. Ond bljn- derau a pheryglon oedd yn amgylchu y gweinidogion efengylaidd na feddent gyfeillion pur ddylanwadol i gymeryd eu plaid. Mae'n wir fod teyrnasiad Iftgo y Cyntaf yn rhydd oddiwrth ryfel, ond mae'n debyg nad felly y buasai pe mwy o wroniaeth a llai o wrachiaeth yn ei natur. Yr oedd ei ferch wedi priodi Etholwr y Palatinate, yr hon sydd yn awr yn rhan o Bavaria, Wurtemberg, etc. Yr oedd ef yn Brotestant, a darfu i'r blaid honno yn Bohemia ei ddewis i fod yn frenin y wlad. Tebyg hefyd eu bod yn disgwyl cyn- horthwy iddo o Loegr, end ofer fu'r gobaith hwnnw, ac ofer fu ymgais Frederick ei hun i feddiannu'r orsedd. Prin y gellir galw yr hyn a wnaeth yn ymdrech a chan iddo clynnu "r Pabyddion yn ei ben collodd y Palatinate yn ogystal. Dechreuodd Rhyfel y Deng Mlynedd ar Hugain, a bu'n gyfyng iawn ar Brotestaniaid y Cyfandir. Bu farw Iago yn 1625, a dilynwyd ef gan ei fab, Siarll, ac o ddrwg i waeth yr aeth pethau, nes o'r diwedd y gorchuddiwyd yr holl wledydd hyn gan don- nau cythryblus y Rhyfel Cartrefol. Tywyll a stormus yn wir a fu'r ail ganrif ar bymtheg bron ar ei hyd ac er ymroddiad a gweith- garwch llawer o ddynion da, ni ddaeth nemor o lewyrch ar grefydd efengylaidd hyd godiad a chynnydd y Diwygiad Methodistaidd yn y ganrif ddilynol. Ond mae yn bryd i ni nodi'r testyn a ddewisodd Sibbes i draethu arno, sef Salm vii. 14. Efo llawer o bregethwyr Lloegr yn yr oes hon nid oes berthynas hanfodol rhwng y testyn a'r traethiad ac nid yw deall yr adnod fawr o gymorth at ddeall y bregeth, na vice versa. Pe dewisai'r llefarwr gallai newid y cyfrwy heb newid y ceffyl,-hynny yw, traethu yr un sylwadau oddiwrth wahanol destynau. Ond mae pregethwyr Cymru yn gyffredin yn amcanu gwneud y bregeth yn dyfiant neu ddatblygiad allan o'r adnod. Dyna sydd yn iawn, os yw y pregethwr i lefaru megis geiriau Duw." A dyna oedd dull y Piwritaniaid. Yn awr dyma yw'r adnod, Wele, efe a ymddwg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd." Mae'n amlwg ar yr wyneb fod yr adnod o'r dechreu i'r diwedd yn perthyn i'r annuwiol, ac mae yn anodd gweled ar unwaith sut y mae'r pregethwr yn cael dim am y duwiol ynddi, chweithach sicrwydd am ei ddiogelwch. Trown at esboniad ynteu. Y nesaf wrth law ydyw Dr. Addison Alexander, ac nid yw ef yn ymddangos yn chwalu'r anhawster yn llwyr, er ei fod yn gyffredin yn bur dda. Hyn a ddywed ef Behold he (the wicked man) will writhe or travail with iniquity (towards others), and conceive mischief (to himself), and (t bring forth falsehood, self-deception, "disappointment. The meaning seems to be, that while bringing his malignant schemes to maturity, he will uncon- sciously conceive and bring forth ruin to himself." Ond mae yntau, chwarae teg iddo, wrth sylwi ar y teitl, yn cymeryd mai Salm Dafydd pan ar fio rhag dialedd Saul ydyw, ac felly fod methiant hwnnw i'w ddal a'i ddifetha yn golygu ei achubiaeth a'i ddiogelwch. Ac mae y rhain wrth gwrs yn cynrychioli pawb ei ddosbarth, y naill y duwiolion a'r Hall yr annuwiolion. Yr oedd dweyd fod cynlluniau yr olaf yn troi yn siomiant, yn un peth a dweyd fod y blaenaf yn sicr o'i fywyd a'i ryddid, aflwyddiant y gelyn drygionus yn gwarantu diogelwch y credadun. Mae un anhawstor eto i gymhwyso'r adnod fel yna nid ydyw'r berfau ddim yn ym- ddangos yn dilyn ei gilydd yn naturiol ynddi. Mae'r ail, yn ol trefn natur, yn mynd o flaen y gyntaf, oherwydd ar un a fo beiehiog y daw gwewyr bob amser. Nid yw esboniad Alexander yn gwneud cyfrif o hyn, ond mae Calvin yn talu sylw iddo. Dywed ef fod rhai esbonwyr yn ystyried fod yr adrannau wedi eu trawsddodi ac mewn ystyr y maent felly eto gallai darllenydd deallus eu dodi yn iawn trwy ynganu yr ail adran mown cywair is, fel pe rhwng cromfachau. Ond mae dull Calvin oi hun o wastadhau yn fwy syml a boddhaol, sef dodi quia, neu ohorwydd, i gysylltu yr ail a'r gyntaf. Efe a ymwinga neu a fydd mewn gwewyr ar anwiredd, ar ddrygedd tuag at arall oherwydd mae wedi beichiogi ar gamwedd, ar dryblawdd a'r canlyniad ydyw efe a esgor ar gelwydd, ar aflwydd a siomiant iddo ei hun." Bhywbeth tebyg ydyw golygiad Sibbes, a dodwn ef yma; yn ei eiriau ei hun Behold, he travaileth with iniquity, and hath conceived mischief, and brought forth a lie." These be the words of David. The title shews the occasion, which was the malicious slander and cruel practices of Ahitophel or Shimei, in the time of Absalom's rebellion. The words express the conception, birth, carriage, and mis- carriage of a plot against David. In which you may consider, 1, What his enemies did. 2, What God did. 3, What we all should do: his enemies' intention, God's pre. vention, and our duty his enemies' intention, he travaileth with iniquity and conceiveth mischief God's prevention, he brought forth a lie our duty, Behold." Dyma ddyfyniad pellach i ddangos beth yw rhediad meddyliau Dr. Sibbes :— Now I come to their miscarriage. They brought forth a lie a lie in regard of their expectation, their hopes deceiving them, but a just defeating in regard of God. It was contrary to their desire, but agree- able to God's justice. Neither were they disappointed only so as to miss of what they intended, but they met with that misery they intended not; yea., even with that very misery which they thought to bring upon David. "This defeating ariseth by five steps: 1, they were disappointed 2, they fell into danger; 3, they were contrivers of this danger themselves 4, there was a penal proportion, they fell into the same danger which they plotted for another 5, they were a means of doing good to him whom they devised evil against, and raised him whom they thought to pull down. David sped the better for Shimei's malice, and Ahitophel's policy. See all these five likewise in the example of Haman and Mordecai. 1, Haman missed of his plot; 2, he fell into danger 3, he foil into the same danger which he contrived himself 4, he fell into the same danger which he contrived for Mordecai; and 5, was the means of Mordecai's advancement. It had been enough to have woven a spider's web, which is done with a great deal of art, and yet comes to nothing but to hatch a cockatrice's egg that brings forth a viper which stings to death, this is a double vexation. Yet thus God delighteth to catch the wise in the imagination of their own hearts, and to pay them in their own coin. The wicked carry a lie in their right hand for they trust in man, which is but a lie and being liars themselves too, no marvel if their hopes prove deceitful, so that while they sow the mind they reap the whirlwind.—Hosea viii, 7." Ymddengys i mi fod y sylwadau uchod yn gymwysiadol iawn at amgylchiad Germani yn bresennol. Mae yn wir nad yw y gweithred- iadau wedi cwbl orffen. Yn yr esgoreddfa, ar ganol ei gwewyr, y mae eto ond can belled ag y mae pethau wedi myr ed eisoec, maent yn cyfateb yn hollol i'r hyn a ddywedir gan y Salmydd a chan Sibbes. Mae pedair blynedd a deugain er pan fu mewn rhyfel o'r blaen, ac am yr hanner cyntaf o'r cyfnod yr oedd yn casglu nerth ac yn cyweirio ei chartref ac wedyn mae yr Ymerawdwr newydd yn gafael yn yr awenau, ac o dipyn i both mae'r genedl yn myned yn anesmwyth, eisieu mwy o sylw oddiwrth bobl eraill, eisiau mwy o diriog- aethau i feistroli arnynt y tuallan. Mae adfer- iad ac adfywiad annisgwyliadwy Ffrainc yn peri poen iddi; mae yn dechreu cenfigennu, mae'n dechreu beichiogi. Wedi ymledu dipyn dros y byd mae yn dod i gyffyrddiad a thref- edigaethau Prydeinig mae yn llygadu ar fawredd ein llynges ac ar fawredd ein trafnid- iaeth, ac mae'r gwenwyn yn gafael yn gryfach yn ei gwaed, mae ei chwydd yn cynhyddu. Mae ganddi bellach elyn arall i anelu ato, ac arfaetha ymddial ar hwn hefyd pan egyr y cyfle. Gwelwyd beth a fynwesai yn amser ein cweryl efo'r Boeriaid ond nid oedd ganddi ddim modd i'w weithio allan y pryd hwnnw. Yna mae fel hanner gwallgof yn ceisio llunio llynges, ac wedi dod y blynyddoedd diweddaf i feddwl y gallai fentro nodi dydd ein dinistr. Yr oedd ei hymchwydd era tro yn amlwg a bygythiol i bawb o'i chwmpas, ac yn dyfod yn faich annioddefol iddi ei hunan, ac wele hi yn awr yn ildio i loes ei thrafel, neu yn ol yr adnod,mewn pangfeydd wrth ym- ddwyn ei hanwiredd. A'r fath frad a dichell, y fath dwyll a geudeb sydd wedi bod yn nod- weddu ei gweithredoedd amgylch-ogylch. Mae hynny fel pe wedi dyfod yn ail natur iddi; mae yn ei arfer pryd nad oes fawr o'i eisiau. Dyma enghraifft:-Dde-ng mlynedd ar hugain yn ol chwenychai gael tafell o East Africa. Yr oedd y tiroedd yno mewn enw yn perthyn i Sultan Zanzibar, a hwnnw wedi dyfod dan nodded Lloegr. Rhwy ddiwrnod wele dri German, yn cymeryd arnynt fod yn grefftwyr, yn glanio gyda'r bwriad o groesi o'r ynys i'r Cyfandir. Crafty, cyfrwysddrwg oeddynt mewn gwirionedd; oherwydd cenhadau o Berlin oeddynt, a'u neges oedd perswadio'r penaethiaid brodorol i dderbyn nawddogaeth Germani, a dechreu felly gael gafael ar eu tiriogaethau. Pe daethent yn eu gwieg eu hunain yn ddigel, prin y buasai neb yn eu rhwystro ar y pryd, er i'r Sultan wrthdystio yn ofer yn ol llaw. Ar ol hynny y pender- fynodd Prydain feddiannu'r rhanbarth tua'r gogledd, a darn o hwnnw ydyw Uganda. Mewn amser gwnaed rheilffordd o Mombasa i fyny at y llynnoedd, sef llynnoedd y Nile a ddarganfuwyd gan Brydeinwyr. A beth a wnaeth y Germaniaid ? Wei, cawsant yn raddol afael ar diriogaeth eang, ac ychydig flynyddoedd yn ol ymwelodd Herr Dernburg, oedd ar y pryd yn weinidog trefedigaethol, a'r parth hwnnw o'r byd. Daeth i olwg ein trefedigaeth ninnau yn Uganda, a gwelodd a chanmolodd bawb a phopeth a ganfu yno. Yn neilltuol, meddai Major Legett mewn papur o fiaen y Royal Society of Arts y dydd o'r blaen, diolchai i Brydain am wneud yn bosibl i gynnyrch parthau y llynnoedd per- thynol i Germani i gyrraedd y mor hyd y rheil- ffordd Brydeinig. Ni wnai Germani, meddai ef, ar unrhyw gyfrif, adeiladu llinell gyd- ymgeisiol o'r arfordir i Lyn Victoria. Yna aeth drosodd i German East Africa, ac yno rhoes gychwyn i archwiliad, a mesuriad at wneud y cyfryw linell. Gwthiodd hefyd eu. prif linell ymlaen at Lyn Tanganyika, a gorch- mynnodd ei gorffen erbyn 1914, yr hyn a wnaed. Sylwer ar y dyddiad, a chofier fod Camlas Kiel wedi cael ei orffen i ganiatau i'r ,vr?- i httf 191,4, llongau mwyaf fyned trwyddo yn haf 1914, ac amryw o'r cyffelyb bethau. Geiriau denu, cnau gweigion, ydyw addewidion ac areithiau gwleidyddwyr Germani wedi bod i raddau mawr. Twyll a rhagrith ydyw yr hyn y maent wedi ei hau ac yn ei ddiwyd hau pa ryfedd os cant fod y ffrwytn o'r un natur pan ddaw yn ol—yn gelwydd, yn siomiant, yn ddymchweliad ac yn ddinistr ? Torrodd bwll," medd yr adnod nesaf, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth. Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, ei draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun." Y mater pwysig i Brydain ydyw bod ar yr ochr arall a theilyngu rhagorfraint y duwiol. Mae'n sicr ei bod, wrth fyned yn groes i Ger- mani yn y cyfwng hwn, yn pleidio cyfiawnder, gonestrwydd, a gwirionedd. Mae hefyd hyd yma yn rhagori yn anhraethol yn ei thosturi ac yn ei dyngarweh, Mae erchyllderau'r Ellmyn yn wrthun ac atgas i Brydeinwyr. Gall fod hynny'n deillio mewn rhan oddiwrth ddoethineb ddaearol, ond credwn ei fod i fesur mawr yn gynnyrch crefydd, yn ffrwyth y ddoethineb sydd oddiuchod a'r hyn a wir ddeisyfwn ydyw ar i'r dymestl hon fod yn foddion i ledu a dyfnhau bywyd ysbrydol ein teyrnas. Arhosed gyda Duw "—mae hyn- ny'n dda ond mae eisiau gwneud y cyngor arall hefyd-" Neshewch at Dduw, ac efe a nesha^atoch chwi." Carem ddeall fod pawb megis o un galon yn eidduno gyda'r prydydd Yn nes, fy Nuw, i Ti, Nes atat Ti." Ni fyddai wedyn ddim achos i bryderu llawer ynghylch y canlyniad. Gallai pob un a. phawb gyda'i gilydd ddweyd geiriau'r Salm- ydd yn y ddegfed adnod, Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon." Mae llynges enfawr yn ddymunol, mae byddin gref a gwrol yn werthfawr, ond o Dduw y mae'r amddiffyn wedi'r cwbl. Mae yn hanea y byd esiamplau lawer o lyngesoedd mawrion yn cael eu gwasgaru a'u gwneud yn ddiddym, a byddinoedd lliosog yn cael eu taro A dychryn ac a. dinistr pan oeddynt fel ar fin goruchaf- iaeth. Ond ni raid i ni ofni cyd ag y gallom ddweyd gyda gwylder, ac eto gyda hyfder, Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni, amddi- ffynfa i ni yw Duw Jacob." Os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn ? "Ein nerth a'n noddfa yw Duw hael, Mae help i'w gael mewn cyfwng Ped ai'r mynyddoedd oil i'r m6r, Nid ofnaf f'angor deilwng." A phe doi'r moroedd dros y byd Yn genllif garw coch i gyd (fel y maent wedi dod yn llythrennol o'r bron) Nes soddi'r bryniau fel o'r blaen Mae afon bur i lawenhau, A'i ffrydiau ddinas Duw'n ddidrai, Preswylfa ei saint a'i babell lan." — ■

Advertising