Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ARGRAFFU LLYFBAU Mae cyhoeddwyr y Brython" wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lytrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac id aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd llawer o bethau wedi codi, fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn Uawn waith yn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython/ 356-8 Stanley Road, Liverpool, TELEPHONE 591 BOOTLE THE New Wales: Some aspects of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY EDWARD T. JOHN, Esq, M.P. Price, 6d.; By Post, 7d. Published by HUGH EVANS SONS 356.8 Stanley Road, Liverpool
Y PEDWAR BLAENOR.
Y PEDWAR BLAENOR. 2—Evan Simon—y blaenor Sentars Y JPETH cyntaf i'w hysbysu am Evan Simon y Gamfa Front yw nad blaenor mohono. Adwaenir ef ymhlith ei bobl ei hun fel diacon. Nid wyf yn ddigon hyddysg mewn termau diwinyddol i fedru dywedyd beth yn union yw'r gwahaniaeth rhwng diacon a blaenor heblaw fod y geiriadur yn dysgu mai ystyr y gair diacon yw gwas." Ond gwell imi ymgadw rhag rhyfygu i esbonio chwaneg rhag ofn fy rhwymo draed a dwylo a'm dwyn gerbron Y Tyst i'm colfamu. Am y tro, ynteu, cytuned pob dyn byw i alw Evan Simon yn flaenor. Nid mor hawdd yw tynnu darlun o E.S. ag ydoedd o Job Tomos ei gymydog o Fryn Goleu. Y mae Job Tomos yn un o lawer sydd yr un ffunud ag ef ei hun. Er fod pob un yn y dosbarth a gynrychiola E.S. yn flaenor nid yw pob blaenor unrhyw flaenor o gryn dipyn yn Annibynia fawr. Y mae i flaenor- iaid Annibynwyr lai o'r peth hwnnw sy'n gyffredin iddynt fel dosbarth nag y sydd yn y genhedlaeth o ddynion da a elwir yn flaenor- iaid Methodus. Gwelais gapel yn y De yn rhywle a'r argraff hon ar ei dalcen "Addoldy Annibynnol." Peth braidd o'i le yw son am annibyniaeth adeilad, hwyrach, hyd yn oed pe dywedem hynny am y ty sydd ar goryn yr Wyddfa. Os nad yw'n briodol galw capel yn un anni- bynol yr wyf yn bur sier na ddylid galw E.S. yn flaenor annibynnol, oblegid y mae'n bopeth ond hynny. Gall efe o bawb daeru mai bod dibynnol ydyw. Cyfyd anhawster hefyd o'i alw'n flaenor Annibynwyr, oblegid y gwir yw mai'r annibynwyr yw ei flaenoriaid ef. Rhaid mynd yn ol eto at y geiriadur a'i alw'n was annibynwyr." Yn hyn y mae ei ymffrost. Y noson cyn ei wneud yn flaenor breuddwyd- iodd gwr y Gamfa Front hen freuddwyd cas iawn. Pwysasai y ddiaconiaeth yn drwm ar ei feddwl am ddyddiau bwygilydd. Gwyddai fod un arall ar y bwrdd, ys dywedir gan wneuthurwyr blaenoriaid, sef Morgan Dafis, hwsmon y Ffridd. Gwyddai E.S. hefyd fod rhai, beth bynnag, yn frwd dros y dywededig Forgan Dafis. Yn ei freuddwyd gwelodd E.S. gapel Annibynwyr arall yn yr ardal ac ar ei dalcen yr oedd y sgrifen hon mewn llyth- rennau breision-" Capel y spJit a godwyd pan etholwyd Evan Simon yn ddiacon yng Ngharmel." Sicrhai ei wraig ef gydol y dydd drannoeth mai croes pob breuddwyd o'i ddehongli, a'r unig split oedd i Forgan Dafis a rhyw hanner dwsin o'i gefnogwyr newid eu porfa. Nid dyn i boeni uwchben man ymfudo fel hyn yw E.S., a melys fu'r cysgu dan gwrlid y ddiaconiaeth. Gair mawr gwr y Gamfa yw cynulleidfaol- iaeth. Poera'n wawdlyd am ben y peth a eilw ef yn dra-arglwyddiaeth ei gymydog o Fryn Goleu. Cynrychiola yn y cylch cref- yddol yr ysbryd gwerinol sy'n ymbabellu ar bob llecyn lie y gallo heddyw. Daw hyn i'r golwg yn naliadau gwleidyddol E.S. Prin y cytuna a Rhyddfrydiaeth geidwadol Job Tomos. Gogwydda ef at rywbeth mwy eithafol a chyflymach a cheir llawer o'i flaen ef i siarad yn angharedig am Ceir Hardi a'i wehelyth. Efallai fod E.S. yn fwy ei gyd- ymdeimlad a'r ymdrech i sefydlu gweriniaeth na'r un blaenor arall yng Nghymru. Sicrheir a grymusir ei syniadau yn y cyfeiriad yma o dro i dro gan bregethwyr a dreulia'r Sul yn y Gamfa. Efrydwyr yw llawer ohonynt, wedi arfer trafod y materion hyn yng nghymoedd Morgannwg. Dyma ogwydd y Parch. S. Cymog Jones, gweinidog ieuanc Carmel hefyd, ond ei fod dan ychydig orfod i gymedroli ei eiriau oherwydd ei berthynas serchog a Daisy Tomos. A'r ysbryd gwerinol neu gynulleidfaol yn ei ddysgu, cymer E.S. olwg eang ar fywyd, a threth ar ei amynedd yw pwyll a chulni Job Tomos, oblegid felly yr ymddengys iddo ef. Ond cofier hyn hefyd, nid yw E.S. mor eang na ellir ei dramgwyddo yntau. Meddylier wedyn am ei gredo ddiwinyddol. Y mae honno cyn eanged a'r holl fyd diwin- yddol. Y mae ganddo'r dawn i gredu pob dim ac i ymaros a. phob dim, dros dro beth bynnag. Pan wfftiai Job Tomos y Ddiwin- yddiaeth Newydd, ymbwyllai E.S. yn ddi- gyffro, a hynny nid oherwydd fod ei chreawd- wr yn Annibynwr. Ni ddisgyblwyd E.S. erioed i osod canllawiau cyfyng caeth i'w syniadau am na Duw na dy fel y dysgwyd fel y dysgwyd J. T. Caiff y pregethwr lonydd yng Ngharmel i ddywedyd mai nid Moses ysgrifennodd hanes ei gynhebrwng ei hun heb i daran ruo uwch ei ben. Ond yn eangder E.S. y mae ei berygl, hwyrach. Peth anfuddiol iawn yn ami yw credo ddiganllaw. Yn y pen draw y mae cyn waethed a chredo gul, ragfarnllyd. Y mae math ar ryddid sydd yn benrhyddid ac ar- wydd weithiau o ben rhydd yw'r olaf mewn pynciau diwinyddol. Trowch eto i fywyd bob dydd E.S. a chewch ef yn ffyddlon i'r ysbryd gwerinol. Nid yw'n agos mor ofalus a blaenoriaid yr enwadau eraill ynghylch ei osgo a'i d6n a lliw ei frethyn. Gwr lleyg iawn yw E.S. A oddiamgylch heb roi'r argraff ar ddieithriaid ei fod yn flaenor ac er fod yn hoff ganddo'r Tyst, nid yw'n gaeth i'w olygiadau. Gwerth mwyaf y Tyst i E.S. yw ei fod yn hysbysu pwy yw etholedig- ion y Cymanfaoedd a phwy elwir yn fugeil. iaid o eglwys i eglwy«. Gogleddwr yw gwr y Gamfa, ac eto clywir ef yn llithro weithiau yn ddiarwybod i arfer ychydig o lediaith y Deheudir, yn enwedig pan yn siarad am grefydd. Er ei fod yn werinwr ac yn cynrychioli'r ysbryd gwerinol,y mae tuedd ynddo weithiau i orthrymu, a defnyddio'r gair yn ei ystyr esmwythaf. Gwyr y gweinidog na chaiff wneud fel y dewisa, ac mewn llawer o bethau y mae at drugaredd E. S. Peth rhyfedd yw fod y gwr hwn, a gred yn ddiball yn hawliau dyn, yn tueddu weithiau i anghofio hawliau gwas yr Arglwydd ym mhethau'r byd a'r bywyd hwn. Awgryma E.S. weithiau fod y gweinidog, a dderbynia £75 yn y flwyddyn, yn cael gormod o gyflog. Y mae ganddo eto i ddysgu cydnabod yn iawn hawliau'r gwas. Tra y mae Job Tomos yn or-ofalus yn ei fodd o siarad am bregethwyr, nid mor ofalus a pharchus E.S. yn hyn o beth. Mynych y sonia mewn ysmaldod wrth J.T. mai hoff air y Methodus yw'r gair mawr." Ond y gair mynych ar dafod E.S. yw "bach," a defn- yddia ef yn ami yn ddibris a difeddwl ac nid yn wawdlyd. Onid efe sy'n gyfrifol am alw'r dyn mawr hwnnw o'r Senedd yn D r* bach .? A dyna Hughes bach y fan a'r fan, a'r hen Jones bach." y lie arall a Sam a S. T. ac yn y blaen. Meddylia E.S. gymaint o'i bregethwyr ag undyn, ond nid yw wedi dysgu atal ei dafod wrth son amdanynt. Yn ei berthynas a'r enwadau eraill y mae'n Uydan ei gydymdeimlad. Nid poen iddo ef, fel i Job Tomos, yw rhoi'r gyfeillach o'r neilltu pan fo rhyw gyfarfod arbennig yn uno'r ddau gapel arall. A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn, sef mai efe yw'r blaenor a wna'r ymdrech decaf i gyfarfod â chri democrataidd yr oes, ac y mae ganddo genadwri i Gymru hehdyw. Gofaled am gymedroli'r ysfa sy'n barod i'w amgylchu a graddau o geidwadaeth iach. J. AELOD JONES I
Advertising
'YN AWR YN BAROD. CWRR y LLEN Ysgrifau syml iar a Faterion Gwyddonol GAN GWILYM OWEN, M A. D SC Athraw mewn Athroniaeth yn Ngholeg 5 Brifysgol Auckland N.Y. (gynt o Goleg y Brifysgol Lerpwl). Llian 2/6. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython.
. FFETAN Y GOL 0 I i
FFETAN Y GOL 0 Cofied pawb fo'n anfon i r Ffetan mai dyina'r gair sydd ar ei genau NITHIO'R GAU A NVTHU'R GWIR. Y Bomb o Seren Gomer- At Olygydd Y BRYTHON SYR,-DA iawn gennyf ddarfod imi ddy- fynnu yn fy llythyr ar y mater i'r BRYTHON ddigon o eiriau'r Parch. D. Wyre Lewis ei hun, modd y gallai unrhyw ddarllenydd diragfarn weled, mor eglur ag y gallasai geiriau ddangos, ystyr ei ymosodiad arnaf am yr englyn a gyfan- soddais i'r Caiser o Germani. Goddefwch imi ofod i sylw neu ddau ar atebiad Mr. Lewis i'm cwyn yn ei erbyn. Cyhuddais fy nifriwr o wneuthur gwall yn fy englyn. Eddyf yntau i'r gwall ddi- gwydd," gan ychwanegu ei fod yn an- fwriadol," ac y gallai ddarfod iddo ddi- gwydd fel y digwyddodd yrtoyn awdwr fynd yn 1l mewn englyn yn Y BRYTHON yn ddi- weddar." Teimla fod y sylw hwn yn ergyd buddugoliaeth, canys dywed "Dyna ddigon i chwalu awgrym Pedrog ar y pen hwn." Nac ydyw, yn sicr, ddim yn ddigon i chwalu fy awgrym na'm haeriad. Ceisia ddianc drwy ddywedyd mai gwall cynghancdd yn unig oedd y gwall ond fe ddangosais yn eglur ei fod yn wall synnwyr hefyd. Canys gwnaeth imi ddywedyd fod dynion yn rhoi dinistr i'r lladdfa," yn lle'n hollol i'r gwrth- wyneb. Gesyd Mr. Lewis y chwyddwydr ar yr hyn a dyb yn fai ynnof fi, caua'i lygaid ar ei fai ei hun. Beth yw awgrym Mr. Lewis yn yr ymadrodd Hwyrach iddo ddigwydd," etc. ? Mae'n eglur i'r neb a ddeallo reolau englyn mai gwall argraff oedd gosod awdur yn lie awdwr yn yr enghraifft y eyfeiria ati yn Y BRYTHON. Ond, fel y dangosais yn fy llythyr cyntaf, yr oedd gwallau llenyddol yn ysgrif Mr. Lewis yn Seren Gomer mor lliosog fel y bernais fod gennyf sail deg i gasglu mai efe fu'n gyfrifol amdanynt, ac mai un ymysg y lliaws oedd yr un wnaed yn fy englyn i.. Dyfynnais y gwallau, ac nid yw Mr. Lewis yn eu gwadu. A yw efe am inni gredu mai gwallau'r cysod- ydd, ac nid yr eiddo of, yw y rhai a ddyfynnais o'r Se?,en ? Hyd yn oed pe buasent yn wallau cysodydd, gallesid disgwyl i Olygydd yr hen gylchgrawn, disglair ei hanes, eu cywiro. Ni allaf yn fy myw weled ddarfod i sylw Mr. Lewis ar y gwall cynghanedd chwalu awgrym" na haeriad a wneuthum i ar y mater. Dywed Mr. Lewis, ymhellach, nad oedd "rhan helaeth o'm llythyr yn perthyn i englyn Pedrog a'r cwbl a wna ydyw dangos fod Pedrog a minnau yn meddwl yn wahanol am ryfel." Pa, fodd y gallasai dyn a ddy- munai fod yn deg at gyd-ddyn—pa mor an- nheilwng bynnag y barnai fi o fod yn weini- dog i lesu Grist "-ysgrifennu fel hyn, ni wn i. Yn ei Nodiadcin yn y Seren, fel y gellir gweled yn eglur o'r dyfyniad a wneuthum ohonynt yn Y BRYTHON, ceir y canlynol—unwaith eto Y mae meddwi'r meddwl a chasineb yn waeth na diffrwytho'r corff a alcohol. Fel enghraifft o'r sothach deflir allan i wenwyno'r meddwl cymerwn y canlynol sydd ar ddull barddoniaeth Llofrudd hedd fynnai wledda--ar ddinistr Ro'i dynion i'r lladdfa O'r llafur oil e fawrha Domen ei Aceldama. Pedrog (gweinidog i Iesu Grist) a'i cant." Mae'r c yfeiriad uniongyrch ataf fi yn y geiriau uchod yn fy ngorfodi i gredu fod mwy na gwahaniaeth barn am ryfel rhwng Mr. Lewis a minnau. Os oes ystyr i iaith, cy- hudda fi o waeth peth na phe buaswn yn ceisio peri i ddyn feddwi ar alcohol. Pechais fwy yn ei olwg na phe hudaswn gymydog i dafarn Os nad yw am arddel ti eiriau, paham yr ysgrifennodd hwynt ? Yr unig beth a wel Mr. Lewis yn y drafodaeth rhyng- om yw ei fod ef a minnau yn meddwl yn wahanol am ryfel." Os dyna ei olygiad ef o'r mater, nid dyna'r eiddof fi. Yr wyf yn hawlio fod mwy na gwahaniaeth barn rhyng- om, sef gwahaniaeth ymddygiad yn wyneb gwahaniaeth barn. Pe buasai Mr. Lewis yn beirniadu fy syniadau cyhoeddedig i ar un- rhyw bwnc, a clieisio dangos eu hanghysondeb a Christionogaeth, ni fuasai gennyf le i'w feio. Ondpanddyfynno englyn-a cham-ddyfynnu hwnnw,—heb ymgais i'w feirniadu, ac estyn bys gwawd ataf, fel un yn gwneuthur peth annheilwng o weinidog i Iesu Grist," yr wyf yn synnu at ei anfrawdgarwch. Ac nid wyf yn foddlon i'r ymadrodd meddwl yn wa- hanol am ryfel. Gallai un feddwl oddiwrth ymadrodd mor benagored ag am ryfel fy mod i o blaid rhyfel ynddo'i hun, fel y ffordd briodol a Christionogol i benderfynu cwerylon rhwng teyrnasoedd. Gwyr Duw nad dyna'r gwir Yr wyf yn cashau rhyfel a'm holl natur. Ni fum erioed yn ei garu. Hyd yr wyf yn cofio, ni fum erioed yn ymladd-hyd yn oed a neb o'm cyfoedion pentrefol. Nid wyf yn enwog, chwaith, am fod yn gwerylgar mewn cynadleddau na phwyllgorau ar unrhyw fath, er yn datgan fy marn yn ddifloesgni pan gredaf fod angen am hynny. Ond teimlais i, fel llawer eraill, fod y rhyfel presennol, o ran perthynas Prydain ag ef, yn un eithriadol, a bod y Caiser-yn ol fel y deallaf fi—a'i hachosodd, yn cyfiawnhauei atal, hyd yr eithaf, ar. ei ymgyrch farbaraidd. Os yw Mr. Lewis yn barnu'n wahanol, gwnaed ond yr wyf yn hawlio rhyddid Cristionogol i farnu'n wahanol iddo. Dywed Mr. Lewis nad yw yn protestio'n erbyn y milwr fel y cyfryw, eithr yn erbyn y galluoedd a wna'r milwr yn angenrheidiol yn y byd. Da gennyf allu cydsynio ag ef ar y PWYllt hwn. Yr wyf yn protestio yn erbyn Satan fy hun, ac yn erbyn y drwg sydd tan wraidd rhyfel-nid yn unig yn y rhyfel yn erbyn y Bweriaid, eithr pob rhyfel arall hefyd, -heb eithrio yr un presennol. Ond eddyf Mr. Lewis ei hun fod y milwr yn angen- rheidiol yn y byd." Os yw'r milwr yn angen- rheidiol, paham y dirmygir y neb a ddywed fod rhyfel yn angenrheidiol ? Yr hyn sydd angenrheidiol, pa fodd y gellir ei osgoi ? Nid oes rym o gwbl yng nghyfeiriad Mr. Lewis at Ryfel De Affrica. Yr oeddwn yn erbyn y rhyfel hwnnw fy hun, fel yr oedd llawer eraill. Ond y gwahaniaeth rhwng y rhyfel hwnnw a'r un-presennol, yn ol fel y gwelaf fi, yw hyn,—yr oedd y cyntaf yn ymosodol, a'r ail yn amddiffynnol. "Ymffiamyehiad Pedrog y geilw Mr. Lewis fy sylw ar ei sylw ef gyda golwg ar niwed cymharol alcohol a'm henglyn i i'r Caiser. Yn ei sylwadau yn Seren Gomer, dy- wedodd fod gwenwyno'r meddwl a ehasineb yn fwy pechod na diffrwytho'r corfi a alcohol. Yn y frawddeg hon, meddwl yn cael ei wentvyno, a chorff ei ddiffrwytho, a geir. Ond yn ei ateb i mi, eddyf Mr. Lewis y gwyr, trwy fyfyrdod a sylwadaeth, fod alcohol yn niweidi 0 dyn yn ei gorff a'i feddwl a'i ysbryd." Dyna gryn helaethiad ar ddiffrwytho'r corff." Canys beth mwy sydd mewn dyn na'i "gorff, ei feddwl, a'i ysbryd" ? Soniai Mr. Lewis am "bechodau" cyferbyniol. Ond ni phechodd cali)' erioed ei hun. Cyn i feddwdod, nag un weithred gnawdol arall, fod yn bechod, rhaid i'r cyfryw fod mewn undeb ag ewyllys foesol. Ond digon i mi, yn y cysylltiad presennol, fod Mr. Lewis wedi egluro'r ymadrodd diffrwytho'r corff," a, dangos fod ergydion y gelyn yn torri trwy ddyn hyd i'w ysbryd." Esgeulusodd hyn y tro cyntaf. Gyda golwg ar raddoliad Mr. Lewis o bechodau'r cnawd" a chasineb calon, nid oes angen imi ddilyn ymhellach na'i waith yn priodoli imi'r amcan o geisio gwenwvno meddyliau a, cliasineb. A wad efe i-iad oes gasineb pur a ehyfreithlon ? A pha hawl oedd ganddo i briodoli i mi y cymlieilydd (motive) o geisio gwenwyno meddyliau a chasineb ? Yr wyf yn ymwybodol fod ei gyferbyniad rhwng meddwdod a gwenwyno meddyliau-mor bell ag y mae fy englyn i'r Caiser yn mynd,—yn gyferbynu meddwdod a'r hyn nad oedd yn bod. Mae gennyf ddigasedd moesol at y Caiser a'i ddosbarth milwrol, ac mae'r digasedd yn fwy angerddol am fy mod yn weinidog i Iesu Grist Terfyna Mr. Lewis ei lythyr trwy ddyfyniad o'r Manchester Guardian, a hysbysiad ddarfod iddo ddarllen yn y New Scotsman feirniadaeth lymach ar benhillion Begbie na'r eiddo ef. Hawdd y gallaswn innau ddyfynnu lliaws inawr o eiriau cefnogol, hyd yn oed i'm syniad i am y rhyfel. Yn wir, mae'r homili o'r Guardian yn darawiadol yn y cysylltiadau-y dylai'r Eglwys avoid the use of all angry and provocative language, and if such is used by the other side should reply with gentle, friendly, and polite language, and should at all times avoid imputing base motives. Yr hyn sydd ryfedd yw, fod peroria,eth hyfryd yr homili'n cael ei chanmol a'i chymell gan y dyn mwyn a ysgrifennodd y fath oiriau am eraill a llysnafedd,' "sothach," "gwen- wyn," "parddu," "cynddaredd," a'n hys- bysu o'i ddarganfyddiad ffodus yn y New Scotsman o waith rhywun eryfach ei iaith nag yntau How" gentle, friendly, and polite Nid yw llythj-r Mr. Lewis ond gorchudd neis ar wyneb hagr yr ymosodiad brwnt a wnaeth arnaf yn Seren Gomer.—Yr eiddoch, PEDROG Gloywi'r Gymraeg. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.—Nid oes imi hamdden yn wir i ateb yr holl holion a ddaeth trwy'ch papur a thrwy lythyrau wedi imi yrru'rllith dan y pen uchod ddiwedd y flwyddyn. Ond teimlaf y dylwn yrru gair pe na bai er mwyn dim ond egluro i lawer nad cychwyn Colofn Gymraeg yr oeddid yn y llith honno,—dim ond dywedyd gair ar rai pethau y sylwais arnynt yn ddiweddar. Ceir Colofn felly yn Seren Cyiitrit-y papur enwadol a olygir mor fedrus gan Gwili—o dan olygiaeth y Parch. R. S. Rogers, B.A., Aber Pennar ac er nad yw Mr. Rogers mwy na minnau'n gwbl anffaeledig, colofn werthfawr iawn yw honno, ¡ ac y mae digon o'i heisiau ymysg y Bedydd- wyr megis ymysg pob enwad. (Er enghraifft, y mae rhagor rhwng Seren Cymru a Seren Gomer mewn gogoniant, o ran yr iaith beth bynnag). 1. Aflawen. Gwir a ddywed Morfryn mai yn yr ystyr o fudr, after y defnyddir aflawen yng Ngorllewin Weirion,-o leiaf yn y Gogledd Orllewin. A gellir ychwanegu yr arferir ef hefyd yno fel expletive; dywedir ei bod yn oer aflawen," a bod pregethwr yn un da (neu sal) aflawen": cymharer Ilafar gwlad tlws ofnadwy," "dol arswydus," braf gynddeiriog," etc. (Ac onid ystyr merch fach lan fidir yn y Deheudir yw un lan odiaeth ?) Eithr nid cywir Morfryn pan ddywed mai not merry yw'r unig ystyr a rydd y geiriaduron iddo yng Ngeiriadur y Dr. W. O. Pughe ceir ystyr Sir Feirionydd,— heblaw not merry, ceir hefyd itntidy ac felly y ceir yng Ngeiriadur y Canon Silvan Evans hefyd. Defnyddir ef yn nhueddau Dyffryn Clwyd am ddyn garw (i-ough), didoriad, per- yglus bron. Am ei darddiad, ofnaf mai ffansi yw tybio mai o llaw-wen y daw; gwelir hynny ond cofio mai un n sydd ynllawenydd, pryd y mae yri gwyn a gwen, 'white,' ddwy. Daw'r ddwy i'r golwg mewn geiriau'n tarddu ohonynt: I guynnach, 'gwynnaf.' Nid oes a wnelo'r gair ddim a gwen (smile) chwaith, fel y dywed y Dr. W. O. Pughe, canys felly ni ellid esbonio'r Ua-. Ni wn beth yw tarddiad y gair. 2. Diddorol. Mi dybiaf fod yr hyn a ddywed Mr. David Samuel, iddo glywed ni'm diddawr ganwaith, ond na chlywodd erioed ni'm dyddawr," mi dybiaf yn wir fod hyn eto'n gadarnhad i'r athrawiaeth a ddysg- ais yn yr ysgrif. Dywed Mr. T. Roberts mai dyddorol a glywodd ef gan bawb bron, ac nid 'duddorol.' Cyn wired a hynny di- ddorol a glywais innau gan bawb ond gan ambell bregethwr teilwng oedd, a'r amcanion goreu'n bod, yn cynhanu'r gair a dy-, megis y gwnaent hefyd a dyben, dysgwyl, etc., gan gredu mai dyna'r ffordd goeth a phriodol. Wrth gwrs, dylanwad llenyddiaeth y cyfnod oedd yn cyfrif am hyn, ac nid ydys yn eu beio. Ond ni chlywais i neb yn dywedyd dyddorol I wrth sgwrsio'n gyffredin, eithr duddorol. Diddorol iawn gennyf oedd deall fod Mr. Sam- I] el wedi arfer a chlywed ni'm diddawr ar afar naturiol y werin, a diolch iddo ef a Morfryn a Mr. Roberts am ysgrifennu mewn ysbryd mor fonheddig. (Atebodd Mr. G. H. Jones lythyr gwyllt Mr. T. J. Cynfi mown modd mor ddeheig fel nad oes alw am roddi rhagor o sylw iddo ef). .3. Awdwr. Dirgelwch j m.i yw'r holl helynt ynglyn a'r ll'urf hon. Pwy a ddy- wedodd fod awdwr yn atighyivir ? Ceir ef yng Ngeirfa'r Iaith Gymraeg rhwng cromfachau, ac ystyr y cromfachau yw .ei fod i'w oddef,-yr union both a hawlia Mr. T. Roberts. Eithr nid yw i'w oddef ond yn yr un ystyr ag y goddefir pobol, llivybyr, cwbwl am pabl, llwybr, cwbl. Y mae'n ddigon cyfleus, dy- weder, mewn englyn weithiau, a chamwri yw ei newid mewn achos felly os bydd ei eisiau yn yr odl. Ond dwy ffurf iawn y gair yw awdr o'r Lladin au( c )tor, ac awdur o'r LIadin. au(c)torem cymharer pechadur o peccatorem, a Creaivdr o creator. Yr hen swarabbaJdi vowel-neu fel y geilw J. Morris Jones hi the parasitic vowel—yw'r 10 olaf yn awdwr a Creawdwr cymharer ffafar,' trefen,' 'llyfyr,' abal,' (abl), etc. Ceir awdur o leiaf ddwywaith yn y Beibl,-I Cor. xiv, 33, a Heb. v, 9 ac hefyd yn yr Apoeryffa, DoetJiineb Solomon, vii. 15, Duw yw awdur doethineb a chyfarwyddwr y doethion." Un rheswm dros beidio a defnyddio awdwr, yn enwedig mown llenyddiaeth, yw fod pobl yn chwannog i dybio mai "awdwyr" yw'r lluosog (yn He awduron, awduriaid), fel ped fai a wnelo'r terfyniad rywbeth o gwbl a gwr. Y mae awdwyr mor anghywir a sawdwyl fel y lluosog o sawdl. 4. Ni wn ym mhle i ddechreu ateb llythyr maith y Parch. D. Emrys James. Clywais fod Mr. Emrys James wedi gwneuthur gwaith rliagorol yn ei ddosbarthiadau Cymraeg ym Mhont y pridd. (i) Ond rhyfeddaf ato'n. hoffi'r idiom Saesneg talu ymweliad." Y mae'n iawn cadw cyfathraeh rhwng ieith- oedd a'i gilydd, ond y mae i bob iaith ei hidiomau'i hun,. a chamwri yw cyfieithu'n llythrennol idiomau un iaith i iaith arall. (ii) Gwir yw na chynhwysa'r Iaith Gymraeg y cwbl y dylid ei ddywedyd, ond rhaid cofio mai llyfr bach deunaw ceiniog ydyw. (iii) Y mae disgyblion Mr. James wedi tramgwyddo'n ddiachos wrth y frawddeg mater o ffaith yw iaith, ac nid o resymeg." Y mae'r gosodiad hwn, fel pob un o'i fath, i'w ddeall yn ei gysylltiadau a'i gymhwysiad priodol. Ni fuasai neb byth yn darganfod trwy rym ymresymiad mai gwell ydyw gradd gymharol da yn Gymraeg, ac mai better ydyw gradd gymharol good yn Saesneg. Mater o ffaith yw pob un o'r ddwy ffurf a dyna yn y pen draw yw iaith oil. Nid wyf mor ehud na wn fod gwahanol ddosbarthiadau o ffeithiau, a bod rhaid i ddyn arfer ei reswm i'w trefnu a'u dehongli. Y mae'n ffaith fod dy-ddordeb wedi'i ysgrifennu am genedlaethau ond y mae'n ffaith hefyd mai ar dwyll ymresymiad y gorffwys y ffurf. Cyn i rywim goeg-ymres- ymu mai dy- yw'r blaenddod i fod pan fo'n gadarnhaol, ni feddyliodd neb am ysgrifennu'r gair a dy-. Dyna'r ffaith lywodraethol yn y fan hon. Wrth ddywedyd mai ffaith yw'r sylfaen ni feddyliodd neb am haeru nad yw dyn i arfer ei farn a'i reswm i adeiladu arni. (iv). Ni allaf fanylu llawer mwy, ond cymerer enghraifft arall o'i lith lie tripia Mr. James yn arswydus,—mor arswydus ag yw o hyawdl. Pan ddywedaf fi mai'r un gair yw bath a math geilw Mr. James hyn yn ffiloreg noeth," ae yn "gymysgedd diobaith," ac yn goeg- ni." Aie li wir ? Dylasai Mr. James wybod. fod b aem yn chwannog i newid a'i gilydd, ar ddechreu rhai geiriau cymharer 6aban f ',ni,abaii 'baeddu,' waeddu 'bawd,' I -nioitt' (Hen Gymraeg) megis ym modrwy thumb-ring (ar y fawd y rhoddid y fodrwy briodas gynt) 'ianon,' manou (queen) 'benyw,' .?izeiiyw' inn,' raun (-maid). Dylasai, meddaf, wybod mai enghraifft arall o hyn yw bath a math, cyn ymollwng i'r fath anferth ryferthwy o gondemnio. Dyma a ddywed y Canon Silvan Evans BATH AR (=MATH AR), a kind, sort, or species of. The expression baih ar is now more usually written math ar for which some recent writers have introduced math o, apparently in imitation of the English idiom, and in ignorance of the force of bath or math." A dyma a ddysg yr Athro J. Morris Jones ( W elh Grammar, tud. 163) :— In a few cases m- and b- interchange, as bath and math." Eto tud. 228 bath, or iitath 'kind.' A gweler Job xii. 10 "pob math ar bobl." Yn wyneb hyn ol], beth mewn difrif yw barn eich darllenwyr am Mr. Emrys Jamos yn rhuthro i'r wasg i ddywedyd a llef uchel mai bythol anghywir yw'r ymadrodd math ar ac mai gresyn yw gwaled Y BRYTHON yn anurddo'i degweh a'r liurf hon ? Dalied Y BRYTHON a phawb arall ati, ac ymbwylled Mr. James dipyn erbyn y tro 7tesal. Er hyn oil, da yw ei fawr set tros yr iaiili, a'i eiudgarwch ynglyn a hi bob amser.—Eich ffyddlon, D TECYVYN EVANS Fennill y Pridd. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.—Gwelais Mr. John Davies Nefyn, yn crybwyll hen bennill yn Y BRYTHON a adroddwyd wrtho gan hen wreigan yn ymyl ei phedwar ugain. Dysgais innau y pennill yn nyddiau maboed, ond ychydig yn wa hanol, a ch^wn wybod pa'r un sydd gywiraf Ces dtaed o bridd i gerdded I mewn i Eglwys Dduw Ces glustiau pridd i wrando Am ffordd i'm eadw'n fyw Ces dafod pridd i ddarllen Am aberth mawr y Groes,— Rho galon i'th glodfori Tra paro dyddiau'm hoes. ,Pwy yw yr awdu-r, tybed ?—Yr eiddoch yn w ir, J. MORGAN JONES Pen yr heol, Gaerffiili. Cofio'r Hen Bethau. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Gwelwn lawer o holi yn Y BRYTHON am hen bethau y dyddiau gynt, ac am ba beth gwell y gellir holi ? Dyna Y dyn duwiol yn marw o hunan-gofiant Emrys, a gawsom gennych ychydig amser yn ol,—un o'r pethau goreu a gafwyd erioed. Clywais fy mam yn adrodd pan oedd hi yn ifanc yn Llandderfel, fod cyhoeddiad Dafydd Cadwalallr o'r Bala yno un Sul poeth yn yr