Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

I Llith Glannau'r Afan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Llith Glannau'r Afan. Gadael adtvy ar ei hol.-A hi'n eistedd wrth ei swper wedi dychwelyd o'r eglwys nos Sul, Ion. 24, bu farw Miss M. Morris, Prif athrawes Ysgol y Merched, Cwmafan. Er mai brodores o Ferthyr Tydfil ydoedd, fe'i cydnabyddid bellach fel un o drigolion hynaf y Cwm. Bu'n athrawes yma am tua deugain mlynedd. Cafodd gychwyn cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth o blant, a phlant eu plant. Yr oedd yn ddinesydd o'r iawn ryw,—hael ei chalon a'i phwrs, a'i phleser oedd gwneud daioni. Gadawodd adwy lydan yn agored ar ei hoi. Cael Pump i r Rhu-yd. —Dewiswyd Mri. David Thomas, Jenkyn James, Jolm Joseph, Evan C. Davies, a John Williams yn flaenor- iaid yn Salem (M. C.), Cwmafon, lie y bugeilia'r Parch. W. J. Levi, brodor o Bont y berem sy newydd ymsefydlu yno. 0 ddarlith i ddarlith.-Anorchodd Mr. David Jones, Tabernacl Terrace, Gymdeithas Pobl leuainc y Tabernacl ar Martin Luther, Chwefrol 2, yn adeiladol a difyr.-Ionawr 23, cafwyd darlith wych gan y Parch. Morlais Davies, B.A., o flaen Cymdeithas Ddiwylliadol Seion, lIe y gweinidogaetha, ar Anfarwoldeb yng ngoleuni gwyddowiaeih ddiweddar. Medd Morlais ddawn arbennig yn y cyfeiriad yma. Er fod ei destyn yn un eang, gwasgodd ef i le bychan heb ei dorfynyglu. 0 flaen yr un gymdeithas, Ionawr 6ed, caed Hyfreithon i draddodi ei ddarlith ddawnus ar Dunn o'r Nard. Mawr yw y canmol ar ddarlithoedd Seion ar hyd y tymor. Hiraeth am Ellis Edwards.-Nos Sul, Chwefrol 7fed, o flaen y bregeth yn y Taber- nad, cyfeiriodd y Parch. J. O. Jones yn ann- wyl a pharchus iawn am ei ddiweddar athro Dr. Ellis Edwards. Y mae'n amlwg fod y diweddar brifathro yn ffafrddyn arbennig gan Mr. Jones, canys yr oedd ei sylwadau amdano yn ddyrchafol iawn. Canwyd y don Innoc- ence o waith Dr. Edwards. Mynd a'r Gymraeg gydag o.—Allan o amryw ymgeiswyr am y swydd bwysig o glerc tref Aberafan, dewiswyd Mr. Moses Thomas, Y.H., cvfreithiwr, Aberafan, a mab Mr. J. A. Thom- as, blaenor hynaf eglwys Salem, Cwmafan. Dewiswyd ef yn faer Aberafan yn 1900, ac yntau'n ddim ond 29 oed. Yn 1906 gwnaed ef yn henadur, ac yn ynad hedd yn 1912. Mae wedi llenwi swyddau pwysig yn wleid- yddol ac addysgol. Mae'n Gymro twym, a'i Gymraeg yn llawer glanach na dwfr yr Afan Mae'n aelod defnyddiol o Gymdeithas Cymro- dorion Afan a'r cylch, ac o eglwys Carmel (M.C.), Aberafan. Llongyfarchwn ef o galon a dymunwn bob llwydd iddo yn ei swydd newydd a gwyddom pie bynnag yr aiff Moses Thomas yr aiff a'i Gymraeg gydag o, ac nid ei gadael ar ol fel y gwna'r gwannach eu ponnau.

Am Lyfr.I

Advertising

. FFETAN Y GOL 0 I i