Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I Ein Oenedl ym Manceinion.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ein Oenedl ym Manceinion. Dyddiadur. CHWEFROL 19—Cyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol 20-Cyfarfod Dirwestol y Chwiorydd yn Victoria Park MAWPvTH 27-Cymanfa y Gobeithluoedd Cenhadon y Sul Neaat. Y METHODI3TIAID OALFINAIDD. MOSS Sii)z-10.30 W W Jones, 6-30, D R Rogers PJNDLETON—10.80, D J Hughes, lerpwl 6, J E Da vies HEYWOOD ST-10-30, D R Roger 6. W W Jones VICTORIA PK—10.30, R Williams 6, D J Hughes LMGH—10-30 a 6, WARRINGTON—10.30 a 6, PARHWORTH—2.30 a 6, T J Williams, Rock Ferry BARLESTOWN-10,30 a 5.45, ASHTOS-TTNDIII LYNE—2.30 a 6, Griffith Jones, Lerpwl BLACKBURN- ■SGLWYB UNDBBOL ECCLES-ll a 8-30, W G Jones YR ANNIBYNWYB CHORLTOS ED-JO.30 a 6.15, D Davies, BL. Fjestiniog SOOTH ST-IO.SO.D D Williams 6-15, R Ernest Jones HD DUNCAN ST., SAWOBD-10-S0, Stanley Roberts 6-15, D D Williams QtriBS'S RD—10-30 a 6-15, T E Jones HOMJNWOOD—10.30 a 6.15 WAAffz-10.45, R Williams 6, Wyn Roberts Y WESLEAID DEWI SA.NT-10-30, Wyn Roberts 0, Stanley Roberts HOBSB—10.30, D R Rogers. 6, W Rowlands SION—10.30, it Ernest Jones. 6, E Humphreys BZULAH-IO.30, J Roberts 6, G Tibbott OALVARIA—30.30, John Felix 6, T Hefin Evans BCCLES-10-30, T Hefin Evans, 6.30, Harold Roberts Y BEDYDDWYR UP. MSDLOCI ST.-10.30, E Humphreys 6, M Llewelyn LOHOSIGHT—10.30 a 6.30, ROBIN'S LANJI, SUTTON-10.30 a 5.30 GOLOFITY CYFRIN. Tusw Cymysg yn ei dro. AR derfyn y diwrnod dyrnu, cyfrifa'r amaethwr ei sachau yd, a dibynna mawredd neu fychander y rhif ar gnwd a chynhaeaf y flwyddyn. Gellir ystyried yr adeg hon o'r flwyddyn megis diwrnod dyrnu yr eglwysi, canys y mae eu holl gynnyrch gweledig yn cael eu casglu ynghyd yn yr adroddiadau a gy- hoeddir gan yr eglwysi. Y rhai mwyaf pryd- Ion gyda'r gwaith hwn bob blwyddyn yw eglwysi'r Gylchdaith Wesleaidd. Derbyniais restr gyflawn o enwau aelodau a phob cyfrifon perthynol i'r chwe eglwys. Y Wesleaid yw'r unig enwad yma sydd yn credu mewn galw'r eglwysi wrth enwau bedydd. Mae hyn yn fanteisiol iddynt hwy, ond yn anfantais i rai oddiallan. Dyma'r enwau Dewi Sant yn Hardman Street, Horeb yn Harpurley, Sion yn Greenheys, Beulah yn Openshaw, Calfaria yn Manley Park. Pan dyf yr eglwys yn Eccles yn ddigon o faint i gael capel, caiff hithau enw. Ceir achos i ryfeddu'n galonnog eleni wrth sylwi ar adroddiad yr eglwysi hyn am y flwyddyn ddiweddaf, blwyddyn a ddi- weddodd mor anffortunus mewn llawer ystyr. Ar waethaf y rhyfel yn achosi dirywiad mas- nach ac hefyd symudiadau aelodau mwy nag arfer, ceir nad yw cyfanrif yr aelodau ddim ond pedwar llai'r flwyddyn ddiweddaf rhagor y flwyddyn flaenorol. Onid yw hyn yn eithr- iadol dda ? Hefyd mae'r cyfraniadau yn destyn ymffrost. Er enghraifft, wrth gyfar- talu swm y cyfraniadau at y Weinidogaeth yn unig, ceir ei fod yn cyrraedd bron yn ddeg swllt ar gyfer pob aelod, cyflawn neu ar brawf, a phob plentyn. Mae dau reswm yn amlwg am hyn, sef cyfundrefn y rhestrau a sel eu gofalwyr, ac hefyd y manylder ynglyn a, chy- hoeddi'r cwbl o'r cyfrifon. Cyhoeddir sut ac am ba beth y gwerir pob swllt ynglyn a'r achos. Mae masnach wedi ymdreiddio ddyfn- ed i'n cyfundrefnau crefyddol fel y mae anwybyddiaeth y Haw aswy o weithredoedd y llaw dde wedi cael ei ysgubo ymaith o gredo'r cyfnod hwn, ac ni raid teithio ymhell i'r dyfodol cyn y daw yn angenrhaid pob eglwys o bob enwad i fynegi yn amlwg bopeth fydd a wnelo arian a hwy. Mae'r merched, ynglyn a dyfodiad eu Cymdeithas Ddirwestol i oed, yn gwahodd y meibion hofyd i'w cyfarfod nos Sadwrn yng nghapel Victoria Park. Darparant ychydig luniaeth a cherddoriaeth wrth groesawu Mrs. Ellis James Jones, eu cadeirydd cyntaf. 3p.c Un noson yr wythnos ddiweddaf, clywais Mr. Guppy, Uyfrgellydd y Rylands'Library,yn dweyd fod yno hen ysgrif o'r KorAn-Beibl y Mohametaniaid-a'r geiriaipynddo mewn tair iaith, yr Arabaeg yw'r gyntaf, yna y Bersaeg, ond ni wyddai neb hyd o fewn tair wythnos yn ol pa iaith oedd y llall. Wedi dyfal ymchwil gan lawer, darganfuwyd mai'r hen iaith Dyrcaidd yw y drydedd,—iaith sydd wedi llwyr ddarfod, fel nad oes fawr o olion ohoni yn yr holl fyd. Cyfrifir yr ysgrif uchod yn awr yn un o drysorau gwerthfawrocaf v llyfr- gell odidog hon. 15b Y Sul diweddaf gwnaed casgliadau ymhob addoldy at yr Ysbytai. Manteisir lawer ar y sefydliadau hyn gan lawer o Gymry bob blwyddyn. Os oes cleiflon yng Nghymru mewn angen meddygiaeth, cant fynediad i fewn yn rhad a rhwydd trwy gyfrwng gweini- dogion ein heglwysi, a ymwelant yn barhaus a'r cleiflon Cvmreig. I Gofldns iawn yw pawb ohonom fod priod y Parch. D. D. Williams, trwy waeledd sydyn, yn gorfod myned dan driniaeth lawfeddygol. Ni phalla ein cydymdeimlad ati, na'n gobaith am ei hadferiad buan a llwyr. •5? Darlithir i'r Gymdeithas Genedlaethol nos Wener nesaf gan y Parch. Wm. Owen, gweinidog Bedyddwyr Seisnig Queen's Park. Mae yno ers deunaw mlynedd, ac wedi gwrth- od galwadau i Lundain a lleoedd eraill. Cafodd ei eni yn Abertawe, a'i addysgu yng Ngholeg Bedyddwyr y dref hon. Pregethodd bron bob Sul ar hyd y blynyddoedd yn ei gapel ei hun rhaid fod ei lafur yn fawr i wneud pregethau newydd yn barhaus. Mae'n hynod fel darlithydd, a rhaiadra ei eiriau allan. Nid oes yma yr un Cymro yn berchen cymaint arabedd a ffraethineb. k A welsoch chwi bennill A. Conan Doyle i'r milwr Cymreig, mawr ei glod ? Os naddo, darllenwch ef, Who carries the gun ? A lad from the hills of Wales. Then let him go, for well we know That Taffy's as hard as nails. Mae'r syniad yn werth cais i'w Gymreigio; boed i'r hwn a wel fai arno wneud ei well. Pwy garia y gwn ? LIane o fryniau Cymru fad. Gadewch o fynd mewn pryd, gwyddom i gyd Mai'r Cymro yw'r dewra'n y gad.

I ARGIP. I

Advertising