Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
4d. yr un. •«GOMERYDD Y PLANT Gwerslyfr i Ddosbarthiadau Cymraeg. Wedi ei ysgrif- ennu a'i drefnu o dan nawdd Undeb Ysgolion M.C. Lerpwl. Gan y Parch. OWEN EILIAN OWEN. MOSES: O'r Cawell a'r Mor Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. 3d. yr un. ALUN, sef Barddoniaeth Rydd JOHN BLA.CKWELL, gyda Rhagymadrodd gan IOLO CAERNARFON. ■ COF A CHADW am Eisteddfod Fawr Llan- gollen, 1858. Y prif fuddugwyr, eu llun a'u gorchest. 2d. yr un. ADRODDIAD Y COMISIMN EGLWYS- IG. CrynhodI ac Adolygiad. Gan y Parch. 0. L. ROBERTS. MOSES BACH Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. ■ C WEST IYNAU AR YR EPISTOL AT Y RHUFEINIAID. Gan y Parch. GRIFF- ITH ELLIS, M.A., Bootle. Rhan II ponodau 9-10. Y Ddrama. PWY BIAU'R O AD AIR? Drama ddig- rifol gan DEWI MAl o FEIRION. Amlen, 9d. MOSES: O'r Cawell a'r M6r Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. Amlen, 4d. MOSES BACH: Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HiR. 2d. EMYNAU DETHOLEDIG ar gyfer Cyfar- fodydd neilltuol. 75 o rai Cymraeg, ac 20 a rai Saesneg. Mewn amlen, 58. 6d. y cant. Llyfrau Adrodd. 'OODI'R HWYL Llyfr Newydd o Adrodd- iadau, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BRYTHON. 154 o ddarnau, 200 tudalen. Y Sylltaid goreu a helaethaf yn yr iaith. Trydydd Argraffiad. Amlen. Llian, 1/6. Y MORTHWYL: saith ugain o Adrodd- iadau. 200 tudalen. Amlen. jYR AIL FORTHWYL: saith ugain o Adroddiadau. 200 tudalen. Amlen. Y ddau FORTHWYL wedi eu rhwymo ynghyd, mewn llian hardd, 2/6. Caneuon. 1 yr un. .BRENIN Y MAES (King of the Meadow). Can i Bass. Yn y ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. Y GARREG FILLTIR (The Old Mile Stone). Mewn dau gyweirnod-Tenor neu I Bass. Yn y Ddau Nodiant-Geiriau Cym- raeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R. A.M. 6d. yr un. CLOD GWYL DEWI SANT (The Praise of St. David's Day). Song and Chorus Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. JOHN HENRY, R.A.M. "DOLI FWYN (My Fairest Dolly). Can i Eneihod. Gan PEDR ALAW. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Gymraeg a Saesneg. HBN AELWYD FY MAM (The Old Hearth Stone). Mewn dau gyweirnod— Tenor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymareg neu Saesneg. Gan JOHN HBNRY. AT THE CROSS (Wrth y Groes). Can Gysegredig mewn dau gyweirnod Sop- rano a Tenor, neu Contralto a Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saes- neg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. DWT ACTION SONG-THE LITTLE SOLDIERS (Y Milwyr Bychain), a THE LITTLE NURSES (Y Mamau Bychain.) Y geiriau a'r gerddoriaeth gan PEDR ALAW. Tonic Solffa, 2d. yr un. Hen Nodiant, 6d. yr un. SELENE (Sister of the Dawn). Four-part Song (S.A.T.B.). By JOHN HENRY,R.A.M. Old Notation. SELENE (Sister of the Dawn). Part-Song arranged for S.A.S.A. English and Welsh words,|by JOHN HENRY, R.A.M. Arranged especially for the Juvenile Choir Com- petition of the Royal National Eisteddfod of Wales, Liverpool, 1900. Tonic Solffa, 2d. • Old Notation, 4d. ANTHEM GYNULLEIDFAOL- GWREGYSA DY GLEDDYF, 0 I GADARN. JOHN HENRY, R.A.M. Tonic Solffa, lid. Hen Nodiant, 4d. Hen Lyfrau. LLYFR GWEDDI Y CATHOLIG, neu ymarferion y bywyd Cristionogol yn ol athrawiaethau gwir Eglwys lesu Grist. Argraffwyd yn Lerpwl, 1837. Ychydi. gopiau (lledr), 1/6. HUGH, ETHNS S soils, Swyddfa'p U Brthon," 356-8 STANLEY RD., Liverpool. SKLE OF WATCHES HUGE REDUCTIONS IN HIGHEST- GRADE WORLD-FAMED LADIES' AND GENT'S WATCHES, IN NEW CON. DITION AND GUARANTEED FOR 20 YEARS UPWARDS. See Windows this day for Extraordinary Value by Benson, Russell, Hargreaves Waltham, Elgin, and other Noted Makers, including one month's trial and money refunded it not as represented. 3 SALE PRICE LIST POST FREE. f 1 uovios 9 3930 LOW Hill LIVERPOOL. CLOSE WED. AT 1. OPEN ALL SAT. Usually 130 dollars. Waltham 14c. adjusted Hunter Gent's Extraordinarily heavy 14-Ct. Solid Gold full-jewelled ADJUSTED WAL- THAM Keyless Hunter, full plate, Brequet Spring, Compensated Chronometer balance, and latest improvements WARRANTED FOR PRECISION AND ACCURACY, in perfect condition, new last year 35 years' guarantee month's trial. Also Gent's 18-ct. Gold Keyless English Lever Hunter, by Russell & Son, Church-street, Liverpool. Sale price £ 10/17/6. Approval. Exchanges. Deposit Secures. Davies's Sale 5/18/6. Usual £ ib. Gent's ^ussells Gold Hunter. FULL HUNTING ENGLISH High-Grade LEVER HUNTER, strong, reliable, heavy SOLID GOLD CASES, inside and out, Hall-marked and Government Stamped, High-Class -plate movement, Non-Magnetic, FULL JEWELLED CHRONOMETER BALANCE, and Latest Improvements a beautiful Watch, PERFECT TIMEKEEPER new 6 months ago (proof). Russell's and Our Guarantee for 25 years. MONTH'S TRIAL. Also Gent's Solid 18-Carat Waltham Keyless Lever Hunter Sale price £ 5/18/6 usually JE16. Approval. Davies's Price £ 3/16/ Usual £ 9. Russell's Gold Expanding Watch Bracelet. LADY'S LATEST PERFECT LEVER WATCH-BRACELET, RUSSELL AND SONS, Church-street, Liverpool, noted makers to Royalty, SOLID GOLD (Hall marked) throughout, 15 RUBIES, Chronomteer Bal- ance, Brequet Spring, patent keyless Beatrice pattern; KEEPS ACCURATE TIME warranted by makers and ourselves 25 years. New this year (proof). Approval. Others by noted makers at £ 2/9/ £2/19 f- and, £ 3/10/ 23/6, Usually £3/3/- Russell's Silver Keyless Lever QUITE NEW THIS YEAR. GENT'S HEAVY HIGH-GRADE, THOROUGHLY RELIABLE KEYLESS SOLID SILVER OPEN FECE LEVER by RUSSELL AND SON, Church-street, Liverpool; new 1914 (proof), plain Sterling Silver damp and dust proof cases, sold hands, indestructible crystal glass. CHRONOMETER BALANCE, BRE. QUET SPRING. NON-MAGNETIC, pat- ent keyless, and latest improvements without mark or scratch PERFECT TIME- KEEPER month's trial. Cash refunded if not as represented. Approval. Stored free. Also ditto Hunter, 25/ 14 Gent's Gold Double Curb. SALE PRICB 46/- —STYLISH GOLD DOUBLE CURB, Stamped Every Link, 2 swivels and bar reliable quality. Also others as follow Solid Gold Nat Curb, 25 Double Fetter, 32/ Double Curb, 36/ Graduated Single Curb, 39/- Double Curb, 45/ Also very heavy Single Solid Gold Curb, £ 315 usually 7 Guineas. Also Solid Gold Double Curbs at £ 3/16/- and £ 4/12/ Also 12-Guinea very heavy Double Curb, now £ 6/18/ an extraordinary bargain. EVERY CHAIN GUARANTEED. .£3 Lady's Solid Gold Guard SALD PRICE £ A1//QC7//U fi —FASHIONABLE GENUINE SOLID GOLD. Stamped and Warranted Sparkling Long Guard, the favourite DIAMOND CUT, equal to new. Also another at 29/6. Also another, Plain Round, Square-edge Links, at 35/ usually £ 3/15/ and another Heavier Diamond Cut, 39/ usually t4; SPECIALLY RE- DUCED. Also massive Round BELCHER GUARD, £ 215 usually 95. Also Beautiful SECRET LINK, £ 2/19/ usually 96 and large DIAMOND CUT BELCHER GUARD £ 3 /5 usually JE7 and Very Heavy SECRET LINK, f,4 /15 usually 99. LARGE SELECTION. Money returned if not as represented. Deposit reserves. Ex- changes. Payments.— DAVIES'S, LOW HILL
[No title]
0 Big y Lleifiad
0 Big y Lleifiad Sef Byd a fielynt Cymry Lerpwl. I Y BRYTHON DEG OED- Cychwynnai'r BRYTHON ar ei ddegfed fhvydd ddydd Ian diweddaf ac y mae ei barabl yn groewach a'i goesau'n gryfach o lawer nag ydoedd y pryd hwmnv. 'Does dim dyeiáu arno, ennill pwysau y mae, ac nid colli, ac yn galw hJbio pob plwy, Dde a Gog- ledd, o Lerpwl i Lanandras. DIM 'CWILYDD 0'1 PEIsrpR-- Gwelais beth da a tharawiadol iawn i mi y nos Sul cyn y ddiweddaf, sef yn lifft y twnel, James Street. Wedi mynd iddi yn y gwaelod, a newydd gychwyn i fyny tua'r wyneb, dyma ddyn canol oed, parchus yr olwg a Beibl neu rywbeth tebyg tan ei gesail, yn gweiddi'n sydyn dros y lie :— Have you heard the Good Neivs ?—Jesus died for the ungodly." Yr oedd tipyn o saib rhwng y ddwy frawddeg a chyn elywed yr ail, tybiodd y bobl fod y dyn newydd glywed rhywbeth da a diweddarach am y rhyfel, ac fod pedair neu bump o Dreadnoughts y Caiser wedi mynd i'r gwaelod dan fwledi angeuol Syr David Beatty a'i longwyr ond O 'r siom oedd ar eu gwep pan glywsant yr ail frawddeg Chwarddent yn ddirmygus am ei ben, gan dursio arno a chil-awgrymu mai rhyw loerig penboeth a hanner-pan ydoedd. A methodd un ddal heb droi ato a'i ddwrdio am eu siomi a newyddion mor sal rhagor a ddisgwyliai ond y cwbl a wnaeth y dyn oedd ei ateb yn dawel a boneddigaidd, a chyda'r edrychiad a'r don ddisyfl honno sydd yn llais pob dyn sicr o'i gyflwr a'i gadwedigaeth I heard that news eleven years ago Gwyn ei fyd, pwy bynnag ydoedd, a bendith arno am fod yn ddigon eofn i arddel ei Feistr ynghanol y dyrfa anianol a di-ddeall a grawcient ei gwawd arno. Ac yn onest yrwan, faint a gymer'sech chwi a finnau, sy'n proffesu Crist, am weiddi'r Newyddion Da o Lawenydd Mawryny fathle, ac yn y fath fodd ? Yr un canpunt, mwyaf c'wilydd inni. |» COy?HFC? CH14J?AM YR ???FD- Y mae'r digwyddiad uchod yn dwyn i'm cof sylw jOr. Owen Thomas, sef pan yn ieuanc a dibrofiad fel pregethwr, ei fod yn disgwyl i rywun aros ar ol ymhob seiat gyda fod y bregeth wedi ei thraddodi; ac yn myndadre yn siomedig a digalon oni fyddai ond daeth yn gallach wrth fynd ymlaen a dechreu deall y Nefoeddynwell, canys clywodd, ebe fo'i hun ymhen blynyddoedd wedyn, am rhyw ddyn yn cynnyg ei hun yn aelod ym Mangor neu rywle, a'r blaenor neu rywun yn gofyn iddo Beth barodd i chwi droi i fewn atom, frawd ? 0, rhyw sylw, glywais i ganOwenThomas, Nerpwl yna, ugain mlynedd yn ol," ebe hwnnw, nes dangos i'r Doctor mai ei fusnes ef oedd rhoi'r abwyd ar y bach, ei daflu i'r dwr, a gadael rhwng Duw am y dal canys er i'r pysgodyn hwnnw ystrancio yn erbyn cymhellion yr Ysbryd am ugain mlyn- edd, i'r lan y daeth o o'r diwedd. Y chwi genhadon sy'n mynd adre'n ddigalon o'ch oedfaon weithiau, codwch eich calonnau,— cofiwch yr ugain mlynedd, a daliwch i osod yr abwyd mor enillgar byth ag y galloch chwi gewch glywed y plwc ar y bach toe, ac fe gewch yr hyfrydwch dieiriau o gael tynnu'r edifeiriol i'r lan cyn eich marw. PROFEDIGAETH TECWYN EVAATS- Y mae'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Birkenhead, newydd golli ei fam, a'i holl gydnabod yn cydymdeimlo ag ef yn ei drallod. Bu hi farw yn 26 Dorvil Street, Blaenau Ffes- tiniog, ddydd Sul diweddaf, yn bedwar ugain oed. Merch Wm. a Catherine Owens, Maes y Llan, LIandecwyn, ydoedd, ac yn un o ddisgynyddion ochr ei mam o Elis Wyn y Las Ynys, awdur y Bardd Cwsc. Bu'n weddw ddeuddeng mlynedd, a chafodd Mr. Teewyn Evans, ei hunig fab, y fraint o fod mor garedig a thirion wrthi yn nyddiau ei henaint ag y gallai'r un mab fod, a chafodd bob chwarae teg am saith mlynedd olaf ei hoes gan briod hanner brawd iddo, sef Mrs. John Evans, yn y Blaenau. Yr oedd yn wraig hynod am ei charedigrwydd a'i hawddgarwch didwyll, a diau gennym fod englyn Huw Derfel yn eithaf gwir am Catherine Evans :— Afon angau ddwfn ingoedd—nid ofnai, Er dyfned ei dyfroedd Cafodd lan, o ran yr oedd Ar losu-Craig yr Oesoedd. HEN BENNILL YR AFON YN SAESNEG Dyma gyfieithiad Mr. Ernest Hughes,— ysgrifennydd Dosbarth Demi Gymreig cylch Lerpwl—o'r emyn 0 Fryniau Caersalem From regions eternal we gladly Shall view all the wilderness drear For then all the turns of our journey Will as a fair prospect appear All past storms and fears now surveying, E'en death and the grave's terrors cease, Whilst safe we beyond them are soaring In spheres where reign pure love and peace. GOREU C ROE SO CROESO ANFIELD- Mewn llythyr atom yr wythnos ddiweddaf cwynai Gwr o Leyn leied o urddas a chroeso a gaiff cyfarfodydd ysgolion-sef yr Ysgol Sul- ym Mon ac Arfon rhagor gaiff yn Lerpwl; ac ebe fo ymhellach ymlaen yn ei lythyr :— Nid wyf yn gwybod am un cynhulliad eyhoeddus, ymhlith holl sefydliadau crefydd sydd yn cael/ei ddarostwng yn fwy na'r Cyfarfod Ysgolion ym Mon ac Arfon. Ond yng nghapel Anfield Road y Sul diweddaf, cawsom weledigaeth dra gwahanol. Yn lie bod yn un math ar ddarostyngiad i'r Ysgol Sabothol trwy anwybyddu ac esgeuluso'r cyfryw gynull- iadau. Gwelsom un o'r cyfarfodydd mwyaf Iliosog a pharchus oedd yn bosibl ei ddymuno,—y capel-un o'r capelau mwyaf yn Liverpool-yn orlawn ymhob sedd oddieithr y llofft, a'r gynrychiolaeth o bob cwr o'r ddinas yn wir deilwng o'r dosbarth mewn rhif ac ymddangosiad. Dynion goreu pob ysgol wedi eu dewis a'u Jianfon i gynrychioli'r Ysgolion, a'r canu mewn nerth a gogoniant mawr. BEND, COFI IVCH Gwelir oddiwrth yr hysbysiad ar tudat. 8 fod cyfarfod mawr byddinol i'w gynnal yn Y.M.C.A. Birkenhead heno (nos lau) sef at chwyddo rhengau'r Fyddin Gymreig. yn Llandudno, ac fod mab Mr. Lloyd George, Arglwydd Derby ac eraill i fod yno'n siarad, heblaw fod cor meibion hanner cant o rifedi, sef o filwyr Llandudno, i fod yno'n canu alawon cynhesa'r Cymry. DYFNALLT A'I FARCHOGION- Y Parch. J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin, oedd gwr gwadd y Gymdeithas Genedlaethol nos Wener ddiweddaf, ac a draddododd anerchiad ar Arthur a'i Farchogion Mr. J. H. Jones yn llywyddu, a'r Parch. D. Adams, B.A., a Mr. Arthur Venmore, yn diolch am- dani ar y diwedd; y darlithydd a Mr. J. T. Jones, pennaeth Cor y Cymric, i'r cadeirydd a Mr. Henry Davies (Abon) yn dangos ei deimlad a'i fwynhad drwy adrodd yr englyn- ion a ganlyn i'r darlithydd :— Trwy'r Rhamant, i bob antur,—y ddarlith Oedd orlawn o gysur I'n gweini heb ball ni gawn bur Gynorthwy Marchogion Arthur. Yn nodwedd yn y cain awdur—Dyfnallt, Nid yw ofni'n natur Dangosodd, gwelodd, heb gur, Nerthol Farchogion Arthur. Lienor dillyn, dyn yn dallt—ei wir bwne Yw'r bardd, er heb hirwallt Mewn cred, er hired yr allt, Nid ofnwn ddilyn Dyfnallt. Gwel hwn werth roi gwialen hallt-ar wait Rhyw weis anystywallt Fel athro, nes gwynno'r gwallt, Defnydd o'i ddawn wnaed Dyfnallt. Wedi rhagymadroddi i ddangos lie a swydd- ogaeth Rhamant mewn llenyddiaeth, aeth Dyfnallt ymlaen i brofi mai creadigaeth y werin oedd y Mabinogion nid gan y bardd na'r lienor na neb felly y'u caed ar y cyntaf, ond ar dafod y werin, a hwy yw'r allwedd i deyrnas Rhamant. Nid oedd llenyddiaeth yr un genedl yn Ewrop nad oedd yr hen ramant- au hyn wedi bod yn fwyd a diod iddi; a buont yn ysbrydoliaeth i bob bardd Seisnig, o Filtwn hyd Tennyson a Swinburne a John Davidson. Hwy lefeiniodd boll lenyddiaeth y Cyfandir, ac a ireiddiodd y cwbl a'u hud a'u hysbryd. Ychydig a wyddid am wraidd a chychwyn y storiau, ond addefai prif awdurdodau llenyddol Ewrop bellach mai Cymreig oedd eu tarddiad. Dadeni'r ddeu- ddegfed ganrif oedd symudiad llenyddol mwyaf Ewrop a dyna ddarfu beirdd Cymru cipio'r storiau hyn oddiar dafod y werin, a buan y teithiasant i Ffrainc a gwledydd eraill. Arhosodd y darlithydd yn bennaf gyda thri Marchog-Gwalchmai, Peredur a Lawnslot; ac a ddangosodd yr ystyr gyfoethog oedd dan holl ffigyrau'r stori, ac fel yr oedd pob marchog yn amlygu rhyw deithi meddwl ac ysbryd a urddai neu a anurddai fywyd ein cenedl yn yr oes bell honno. Darlith alluog a swynol odiaeth, ac yn datod y gwirioneddau gwerth- fawr a thragwyddol oedd wedi eu gwau mor gyfrin yng nghyfrodedd Storiau'r Ford Gron, nos eu bod yn glir a grymus o flaen meddwl y cynhulliad. A dyma deimlad un o wran- dawyr y ddarlith :— At Olygydd Y BRYTHOIT I SYR,—Digwyddwn fod yn un a gafodd y fraint o glywed y Parch. Dyfnallt Owen nos Wener. Dyma'r peth goreu a glywais ers cwrs byd, yn ddiddadl cawsom wledd i'r ysbryd a'r galon. Rhoddodd oleuni newydd inni ar lawer peth Yllglyn a'r,Mabinogion, a dangosodd yn eglur fod y ffigyrau a geir yn- ddynt yn arwyddluniol a bod ganddynt eu gwers i ni yn yr oes hon. Dangosodd inni fod delfryd yr hen Gymry am ddiwylliant neu gwrteisrwydd, neu beth bynnag y gelwch yr hyn sydd yn gwneud boneddwr, yn dra uchel; yn wir, meddai, edrychid ar y Cymro ar gyfandir Ewrop fel patrwm yn hyn o beth. Yr oeddynt wedi rhoi eu delfryd ar y sylfaen briod, sef cymeriad a chalon bur ac mi dybiaf i, Syr, mai dyna'r pam yr oedd yr hen Gymry yn medru deall y cyfriniol cystal. Chwi wyddoch fod y gair yn dweyd y gall y rhain weld yn amgenach na neb. Ond y syndod ydyw ein bod ni-a ninnau wedi cael y Goleu-wedi disgyn cymaint o raddau oddi wrth y peth oedd ein cyndadau. Dywedodd mewn rhyw gysylltiad nad oes dim barddon- iaeth yng Nghywydd y Farn Goronwy —dim ond rhamant. Wel, rhyngddo fo a phobl Sir F6n Wrth ei glywed yn trin mor ddiddorol am y ffin rhwng y ddeufyd, a'r gallu i glywed a gweled yr anweledig, daeth aylw o eiddo'r diweddar Ddr. Ellis Edwards i'm meddwl (a godais o'r Daily Pott) The world must be full of music, which the dulness of our ears prevents us from hearing, for even the bursting of buds, and the growing of grass, must be accompanied by perfect music." Pwy sydd yn ddigon main ei glust i glywed y rhain ? Wel, y tebycaf o bawb, goeliaf fi, ydyw Dyfnallt. Brysiwch yma eto. DANIEL O. JONES 17 Sefton Square, Lerpwl tSb SICR 0'1 D'RAWIAD Daeth cynulleidfa bur dda o Fethodistiaid y cylch i gapel Crosshall Street nos Sadwrn ddiweddaf, i gael eu paratoi gogyfer a Chy- manfa Ganu'r Sun Hall ddiwedd Mawrth. Yr oedd Mr. T. Hopkin Evans, Mus.Bac., yr arweinydd o Gastell Nedd, wedi cyrraedd ac yn amlwg ei fod yn wr o egni mawr ac a fyn gael y goreu dichonadwy allan o bob ton a llais. Go anystwyth oedd y canu ar yr anthem Be not afraid ar y cyntaf eithr dygn- odd ami, ac a gafodd y basswyr a'r lleisiau i gyd ganu eilwaith a theirgwaith nes o'r diwedd fod pawb yn ystwytho ac ymdoddi i'w gilydd yn rhagorol. Caed arddeliad neilltuol ar y don Penlan (Jenkins). ar yr emyn Pa le, pa fodd dechreuaf ar Gwylfa (D. Lloyd Evans) ar y geiriau Fel, fel yr wyf, yn ddall, yn dlawd ac ar Heatherdale (Dr. Caradog Roberts), ar Iesu, cyfaill f'enaid cu A theimlad pawb, wrth droi adref, yd- oedd hwn fod yna argoel am gymanfa dda tan arweiniad cerddor mor sicr o'i drawiad ac mor ddygn i gael pawb a phopeth yn y cywair iawn cyn rhoi ei fatwn o'i law. k- YR TT, y L DDIRWESTOL Daw hanes ei chyfarfodydd a'i chynadledd- au hi yn ein rhifyn nesaf, i gyd gyda'i gilydd. pl- Cy wiriad.—Yr ail oedd Blodwen Hughes yng nghystadleuaeth unawd Tros y Garreg yn Eisteddfod Plant Bootle, ac nid y 3ydd. 15? HYN AC ARALL- Yr oedd yna amryw ddieithriaid ym mhul- pudau Lerpwl a'r cylch y Sul diweddaf. Dr. Gwylfa Roberts, Llanelli, a'r Parch. W. J. Nicholson yn Park Road a'r Tabernacl; y Parch. J. Dyfnallt Owen yn Clifton Road, Birkenhead, fore a hwyr; Dr. Moelwyn Hughes, Aberteifi, yn Stanley Road a'r Parch. J. Bodfan Anwyl, Pont y Pridd, ym Martin's Lane, Liscard a dengys yr hysbys- iadau fod seigiau breision ac o bell i'w disgwyl y Sul nesaf ac ymlaen. 31 Gwyddis fod Bodfan yn frawd y diweddar Syr Edward Anwyl, Aberystwyth ac mai y fo sy'n dysgu a gofalu am y deucant mudion a byddariaid sydd mewn sefydliad ar eu cyfer ym Mhont y pridd a mannau ereill rhwng yno ac Abertawe. Ei orchest lenyddol olaf oedd gwneud y Geiriadur Cymraeg campus sydd a'i argraffiad cyntaf wedi ei lwyr werthu, ac ail argraffiad, cywiredig mewn ambell fan, yn y wasg. Y mae wrthi'n ysgrifennu Cofiant ei frawd hefvd. Pan weddiech, cau dy ddrws "-y fraw. ddeg yna o eiriau'r Iesu oedd testyn ei bregeth nos Sul,—pregeth fer, wreiddiol, a buddiol tros ben ac ebe fo rywle tua'i chanol, wrth rybuddio'i wrandawyr i ymgroesi, beth byn- nag wnaent, rhag hunan wrth weddio :— Cyn imi golli'm clyw, ac y byddwn yn gweddio'n gyhoeddus, fe glywn ambell un yn porthi a dangos ei gymeradwyaeth. Yr oedd perygl yn hynny i borthi balch- ter a deffro'r hunan yn fy nghalon ond pan gollais fy nghlyw, ni chlywais i ddim chwaneg o borthi, a bu hynny'n help imi fod yn fwy pur f'amcanion gerbron Duw a dynion," gan ddangos fod y Nef, os byddo hi'n mynd ag un peth oddiarnom, yn gofalu rhoi rhywbeth llawer iawn gwell yn ei le, sef ei chymeradwy- aeth Hi vn lie canmoliaeth y Ddaear. Dyma un o sylwadau Dr. Moelwyn Hughea ym mhulpud Stanley Road y Sul diweddaf Nid addysg yw popeth. Y mae Germani ganrif o'n blaen mewn addysg ymhob ffurf ami, ond eto dyma ddynion dysgedig wedi troi'n gythreuliaid; a dyma genedl wedi ei meddiannu gan yr ysbryd drwg, os bu cenedl felly erioed, o'i llywodraoth- wyr i lawr." Pregethai Dr. Moelwyn Hughes tan grylt anfantais gorfforol ym mhulpud Stanley Road y Sul diweddaf. Yr oedd wedi cael gwynt i'w lygad, a'r ddau wedi llidio a mynd mor boenu. nes y bu raid ymofyn a'r meddyg yn gynnar ddydd Llun. Erys ym Monfa, gyda'r Henadur Wm. Jones, gan ddisgwyl bod wedi ymadfer digon i gadw'i gyhoeddiad yng nghyfarfod pregethu Crosshall Street no* Sadwm a'r Saboth nesaf. Ac ebe cyfaill, wrth glywed am ei lygaid, Wel dyna'r gwahaniaeth rhyngddo fø a llawer; cael gwynt y bydd Moelwya ei roi y bydd pobl llai eu hathrylith:" Cafodd Cymdeithas Ieuenctyd eglwys Saes- neg Catharine Street wledd amheuthun nos Wener ddiweddaf, sef yn gwrando anerehiad ar Ddechreuad Methodistiaeth gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., Princes Road. Mr. H. Humphreys Jones, y Liverpool Phar- macy, Colquitt Street, yn y gadair Mri. O. R. Owen, Morris, a'r Parch. Talog Davies yn diolch ar y diwedd a'r darlithydd, wrth gydnabod, yn annog Talog i ymroi ati i ysgrif- ennu hanes dechreuad a chynnydd adran Seisnig y Cyfundeb. Darlith ragorol, ae yn codi mawrion y Diwygiad yn fyw gerbron, y naill ar ol y llall. Dymunir arnoin hysbysu fod yna leoedd gweigion eisiau eu llenwi yn rhai o rengoedd y Fyddin Gymreig yn Llandudno, sef yn y 14th a'r 16th Batt., gyda'r rhai y mae amryw o Gymry Lerpwl. Y mae bataliwn newydd hefyd yn cael ei ffurfio,-y 17th, heblaw'r Bantams-y 19th, ac arnynt hwythau eisiau rhagor atynt i'w cael i'w llawn nerth a rhifedi. Ymohebwch a Mr. W. O. Thomas, 108 Robson Street, neu ynteu a Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertford Road, Bootle.. k t Fel y gellid disgwyl oddiwrth allu a phoblogrwydd y doniau, cafwyd cyfarfod pregethu grymus a bendithiol yng nghapel Park Road a'r Tabernacl y Sul diweddaf. Dyma drefn y r oedfaon yn y Tabernacl nos Sadwrn a nos Sul, y Parch. W. J. Nichol- son, Porthmadog; fore Sul, y Parch. R. Gwylfa Roberts, D.Litt., Llanelli; m'r Parch. S. R. Jenkins, B.A., yn y prytihawn, ym Saesneg. Park Road Nos Sadwrn a nos Sul, Dr. Gwylfa Roberts bore Sul, y Parch. W. J. Nicholson.
Advertising
Li 8180, Main -1 YSGRIFAU fMYFYRDOD CAN PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. HUGH EVANS A'I FEIBION