Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Telephone Royai 1117 Established 1864 ROBERT ROBERTS I E8TATB AGENT, 33 Netherfield Road South Has Property to Let In various parts of the own. Mortgages arranged. Valuations mad, Established 1884 'Phones 205 Bootlc —— 547 T. WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Ettate Agent and Valuer, Rootle Estate Office, Practical, Prompt and Reliable Management of all Prwtical, "roC- =.Pz Estate. 52 STANLBY ROAD. BOOTLB, (I doors from Bedford Road). Telegrams: WOOSNAM, BooTL. Telephone No. 7000. J. LEWIS JONES, ESTATL AGENr VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Renta per. aonally collected. Purchases and Sales ne- gotiated. Mortfafes arranged and Insnranoe effected. THOMAS & JONES, ESTATE AGENTS VALUERS. IMVMYMBIIT BMILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No. -3868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgage* arranged. Valuations made, Rents collected 1"m.. SI 7 Asnuo. Established 187S. Stephen Roberts & Son, ESTATE AGENTS ct VALUERS. 137 Lverton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Rents per uonaliy Collected. Purchases and Salet aegotlated Mortgages arranged and Is auraocee affected Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Ttmo Bin 404, Excellent Building Land for Sale in the Vale of Clwyd. i pwis & Bromley Edwards. 213TATB AOENTSf 102 KirHdale Rd. Liverpool Twt 1840 Royal 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., STATIC AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. ises. Telephone I 561 Royal. fate jhoa* 8586 Ba ok JONES HUGHES, ESTATE OFFICE, 13 Whitechapeli Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE, Advances Made. R. E. HUGHEb, Estate Agent, Surveyor & Valuer, l traring Cross, Birkenhead. Telephone No.—M B'head. Has Booses to Let and for Sale in various parts of the Town and oat districts Also Land to be Sold for Baiiding purpeaiM. Adv&ooM made to Builders. Estates laid out. Bmtkpollooted.and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON, 22) Brech Road and 9 Moss St., Liverpool PIANOS AND ORGANS hOlD B? AlUhe a i PEK !?adu? 8/0 ?ONTH makeM.-M L. A-JD I E S BLANCHARD PILLS ue aørtvalled foi all Irro^aianttea, &o„ they spwdl 11 afford reHet ami anver fall to kUavtste all Maertmn. fhey supersede Pennyroyal, PI I Oochla, Bitter Apple. Ii BLANCHARWS are the best of all Pill for Womea." sold In boxes. iiii by BooM* Branches. ?Aymals BrMtChe* and all Chemlsta or poet fMe. BMM tMt«. (ton LBSL'B «A?TVN. Ltt Chemoxr t fm saw,Lo mo I IDIM TALU YMLAKN LLAW. ARIAN YN fiFENTHYG (yn ddistaw bach), irewn symiau bach neu fawr (heb fod llai na fIO) AR ADDAWEB Y BENTHYCIWR EI HUN, SBFYDLVVYD ERS it MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi £ 80,000 YN FENTHYG BOB BLWYDDYN Am dafien a thelerau ymofyner a GEORGE PAYNE A'i fflB. 3 CRESCENT ROAD. RHYL. A 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL Ar gael bob prydnawn dydd Iau 15 KING STREET, OAER.  ..Lost Property.. I I UMBRELLAS. ?W? Railway, Tramway, PoHce ?? <<  Beautiul UmbreHas & Sunshadea, 1 1/4, 1/9, 2/- upwards. WaltiDr Sticks, 2d upwards. These are gooa I knock-about umbrellas. Northern Umbrella Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church at We undertake to cure your Skin Complaia with our Vansyi Skin Treatment The guaranteed cure for Eczema and all akin affectiona. YOUR MONEY RETURNED if no care is ofieeted. Price, 2/6. Trial Size, ] /1 post free D. H. EVANS, M PS, Pharmacist 148 Lodge Lane, Liverpool. If you want The most Comprehensive POLICIES AID THE BEST TERMS, write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Bead Office: St. Mildreda House Poultry, LONDON. E.G. Branch Office i I OI4iExchange S'lda I LIVE RPOOLaJ JAIOESTH. SCOTTj General Manager? f Yn awr yn Barod. COflANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyc- ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn Ulan hardd e/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cvf., Dinbych Llyfrau Cyfrifon Ysgol Sul. LLYFR YR YSGRIFENNYDD, gyda da- lennau byrion i wasanaethu am flwyddya heb ail ysgrifennu yr enwau, dwy golofn ar gyfer pob Sul; crynhodeb ar ddiwedd pe chwarter, a nifer o ddalennau ar y diwedd i gadw cofnodion. RMf I-Ar gyfer ysgolion yn cynnwys 20 o ddosbarthiadau 119 Rhif 2-36 o ddosbarthiadau 2/6 Rhff 3-50 o ddosbarthisdau 3/- Cludiad gyda'r Post 4c. LLYFR CYFRIF Y DOSBARTH, wedi ei gyfaddasu i wneyd am 12mis heb ail ys- grifenu yr dnwau i gyfateb i Lyfr yr Ys- grifennydd. Pris !/■ y dwsin. Cludiad-Un dwsin 3c., a cheiniog y dwsin ar ol hynny. HUGH EVANS A'I FEIBION, 356 358 Stanley Road. Liverpool Pence 4 4 Envelopes FOR CHURCHJ COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered" Special Machine.T* Hugh Evans D Sons. librythos 356-8|Stanley Road' L'pool.
Basgedaid o'r Wiaii. I
Basgedaid o'r Wiaii. I rBydd yn dda gennym gyhoeddi pob rhyw newydd a ddavj yma o'r wlad, hyd y eania'ao'ti gofod. Boed pawb yn fyr ac yn flasus, ac ni welsoch chui erioed gymaint o nwyddau'l' wlad y gettir eu pacio i'r Fasged fach. ] FRIODAS DDL IF YDDELEN.—Yr 17eg o'r mis hwn, priodwyd Mr., Robert Williams, Ty gwyn, ger Llanrwst, a Miss Owen Ellen I Lloyd, merch hynaf Mr. a Mrs. E. B. Lloyd, Gorddinen, Dolyddelen. Cymerwyd rhan wrth orsedd Cupid, yn addoldy M. C. Moria, gan y Parchn. O. J. Griffiths, B.A., y gweinidog a John Jones, Talysarn. Y gwas ydoedd Mr. David Thomas, eyfreithiwr, Llanrwst, a'r forwyn Miss Annie Lloyd, chwaer y briodferch. Daeth cwpled y bardd i'n meddwl wrth edrych ar y clymu,— Rhoi cwlwm nad oes cilio—o'i afael Nes dyfod i'r amdo Ar air rhwydd, y rhoddir o, Ei ddatod nid rhwydd eto. Yr oedd llawer o'r trigolion wedi dod i weld y seremoni, ac i ddymuno'n dda i'r par ieuanc. Yn eu plith y Parch. Peter Price, B.A., a'i briod, a lliaws eraill, na chaniata eich gofod i ni groniclo eu henwau. Yn ystod y dydd, taniwyd cyflegrau, nes oedd eu swn yn dias- bedain trwy greigiau Eryri. Nid oedd yr hin yr hyn fuasai pawb yn ei ddymuno, oherwydd y glaw a'r cymylau duon a hyrddid gan y gwynt er hynny yr oedd yr haul yn parhau i dywynnu tucefn i'r cymylau. Eiddunwn i Dad y glaw a'r haul dywynnu ar eu holl fywyd. Ar ol cinio, ymadawodd y ddau i dreulio eu mel-fia. Y mae nifer yr anrhegion yn rhy liosog gennym ddechreu eu henwi.— Cymydog. 0 NFFY YN.TVrth golli Wm. Joite8.-A Wm. Jones, paentiwr, Bodeinion, yn dweyd ei brofiad yn y gyfeillach nos Iau, yr lleg eyfisol, cafodd ergyd o'r parlys, ac ymhen deuddeng awr ohedodd fry i'r Wlad Ddiboen. Efo'n ddiacon gyda'r Wesleaid ym Moria. Claddwyd ddydd Mawrth. Daeth Ilu i dalu'r gymwynas olaf iddo. Cyn mynd i'r fynwent, cafwyd oedfa yn y capel, lie a talwyd teyrnged o barch iddo gan Mr. Joseph Jones, fu yma am bedair blynedd yn was cylchdaith, ond sy'n awr ym Mon. Rhoes bortread ohono fel dyn a Christion a gwleidydd. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiadau cryfion, a pha beth bynnag wnai fe'i gwnelai'n gydwybodol. Siaradwyd hefyd gan Mr. Jones, Cricieth, a'r Parch. O. Pritchard (M.C.). Bu W. Jones yn flaenllaw iawn gyda Dirwest yma yn yr amser a fu. Efe hefyd oedd ysgrifennydd y Gymdeithas Ryddfrydol, ac aberthodd lawer yn ei ddydd er mwyn yr achos, a hynny'n ddiddiolch hefyd. Barnwr y weddw ofalo dros ei briod yn ei hunig- rwydd. 0 Grafanc y Gelyn.-Wedi hir ddisgwyl, daeth criw y North Wales anffodua, aeth yn aberth i un o longaii'r gelyn yng nghy- ffiniau Deheudir America, adref. Edrychai pawb yn dda wedi'r cyffro a'r profiad dieithr annymunol. A dydd Iau, dyma'r newydd yn cyrraedd fod criw yr Hemisphere wedi glanio yn Valparaiso, a'u Hong wedi mynd yn aberth 1 gynddaredd y gelyn. Yr oeddem wedi dech- mn anobeithio era tro byd amdani, gan nad oodd yr un gair wedi dod yn ei chylch er pan hwyliodd, Ionawr 4ydd, o dan awel drom. Nis gall y perthynasau lai nag wylo o lawen- ydd am y newydd da.—J. Dames. O'R PISTYLL.-Nos Ynyd.—Ym Meth- ania (M.C.), caed cyfarfod cystadlu mewn 116n, can, etc., a dan arweiniad Mr. W. H. Roberts, Llithfaen, a llywyddiaeth Dr. O. Wynne Griffith, Pwllheli. Beirniad y canu, Mr. Orwig Williams, Caernarfon; lien ac .adrodd, etc., Mri. Tom Lloyd, Arifog (Pwll- heli), Hugh Griffith, C.S. (Llithfaen), Robert Jones (Cerniog bach), John Owen (Nefyn), a Ure. Thomas (Woollen Depot, Pwllheli). Cyfeiliodd Mrs. Morgan Owen, Morfa Nefyn. Cyfarfod llewyrchus nifer y cystadleuwyr yn llu, a'r adail dan ei sang er gwaethaf yr hin,— prawf fod yr ysfa gystadlu hob edwino yng nghanol y rhyfel. Dyma'r ffodusion Pen- hillion, Darluniad o'r byd a'r Iesu'n frenin, Gwerinwr." Emyn, Y Trysor pennaf, W. M. Parry, Fourcrosses. Englyn, Sub- marine, J. Jones (Edeyrnfab). Adroddiad addas i blant, John Evans. Detholiad o'r deg cwpled mwyaf barddonol o Alun Mabon Aidan Davies, Llithfaen. Stori Gymraeg, John Evans. Ysgrif, Adar y fro a'u harferion, Blodwen Roberts, Llithfaen. Llythyr caru Blodwen Roberts, allan o 22. Gramadegu John Davies, Nefyn. Unawd, Seren dlos 1, Florrie Williams 2, Annie Owen 5, Kate A. Owen, Llithfaen. Eto, 0 Iesu, derbyn fl I Anm Owen 2, Florrie Williams 3, Mag- gie Williams, Llithfaen. Parti o blant, Y Bugail da, Llithfaen. Deuawd, Mair Magdalen 1, Matth. Williams a'i chwaer 2, Gracie Simons a Dinah Evans 3, Florrie a Maggie Williams, Llithfaen. TTnrhyw unawd allan o Songs of Wales: 1, W. G Jones, Llithfaen 2, J. M. Owen, 'Ceidio 8, Dinah Evans, Llithfaen. Goreu am unawd Cartref fy nghalon Llinos yr Eifl. Unrhyw ddeuawd W. Jones, Edeyrn, a H. E. Rob- erts. Llithfaen. Pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon parti Harri Owen, Llithfaen. Parti meibion, Mi welaf mewn adgol, Llithfaen. Y brif gystadleuaeth gerdd orol, Dewi Sant a Gweddi'r Argltvydd parti Llithfaen (H. E. Roberts). Top c6t y tebot (1M cosy), Mrs. Baum, Llithfaen. Cau bwlch cerrig (agored) 1, W. Jones, Mynydd Nefyn 2. Evan Jones, Llithfaen; 3, Robt. Roberts, Worn. Eto, cyfyngedig i Gapel Pistyll W. Hughes. Ladlwy bren W. Jones, Mynydd Nefyn. Darlun J. Williams, Bod- eilias. Eto, i bob oed Jamesie Williams, Llithfaen. Adrodd Yr eneth ddall 1, Elwy Davies; 2, O. H. Owen, Llithfaen. Eto, Beday dyn tylawd: cydradd, T. J. Williams & J- G- Williams, Llithfaen. Prif adroddiad, Wl ??<m ? y??aM'f c?oc R. J. Williams, Lhthfaen. Ar ol cystadleuaeth Caneuon Cymru, caed anerchiad gan y llywydd. Anelodd wersi'r caneuon arwrol at gydwybod. au gwyr ieuainc yr Eifl, nes iddynt swilio bron i waelod y set]. Awyddent roi taw arno a øwn. eu traed, ond ofnent y bobl, oblegid mae cymaint hyd yn oed o ardal y Pistyll wedi puno a'r Fyddin. Wele yr englyn arobryn i'r Snechfad, sef y Submarine Ystoriwyd dinistr, o'i danio-ysig don Mewn rhwysg deifl i'r cyffro Bad enbyd is dyfrllyd do, A goddaith yn ymguddio. J.T.W. 0 WREG8 A M. —Gymdeithas Lenyddol Heol y Frenhines.—Bu'r Parch. J. Howell, y Ponciau, ar ymweliad a, ni yma, a thraddod- odd ddarlith hynod nos Fercher diweddaf (yr 17eg) ar Pennod yn Hanes Crotnwett. Mae'r darlithydd yn bregethwr cryf ac effeith- iol, ac ni siomwyd neb yn ei allu i draddodi darlith benigamp. Yr unig siom oedd fod cyn lleied yn bresennol i fwynhau'r wlodd. Talwyd diolch i'r darlithydd a'r cadeirydd (yr Henadur T. Jones, Y.H.) gan Mr. Cooke, a'r Preifat T. J. Williams, R.W.F.—Bonar. 0 GROESOSWALLT.—Dirwest a'r Blodyn Gwyn.—Cynhaliwyd Cyfarfod y Blodyn Gwyn (Snowdrop) yng nghapel Seion, Chwefrol 17, dan nawdd Cangen Ddirwestol Chwiorydd Cymreigy dref; y Parch. H. E. Griiffth, M. A., yn y gadair. Caed dadl Misses C. Roberts a M. J. Evans. Can, Y Faner Wen: Misses M. J. Evans, Ceinwen Roberts, Doris Davies, Hilda Pritchard. Dadl: Misses Hughes. Yna adroddiad o'r pwyllgor a fu yn Abergele, gan Miss Griffiths, Bailey Head, CAn Mr. E. E. Davies. Anerchiadau gan y Parch. I T. Well Jones, Mri. E. R. Jones a J. Morris, ar Burdeb Cymoriad a Dirwest." Heblaw'r gwaith a wneir yn y dref hon, y mae'r Gym- deithas hon wedi casglu ac anfon nifer o ddilladau trwy Mrs. David Jones, Maes yr ha', i Mrs. Lloyd George, i'r milwyr Cymreig, a Miss Williams, y Central Dining Rooms, wedi ymgymeryd a chasglu wyau, a 300 eisoes wedi eu danfon i'r milwyr. Y mae'r League I of Honour wedi cychwyn yn ardderchog yma, y mae nifer fawr o wragedd a merched ieuainc wedi ymuno, a gwneir gwaith da drwyddi yn yr eglwysi a'r Ysgolion Sul. Tua phythefnos yn ol, agorwyd y Women's Welcome Club yn Willow Street gogyfor a theuluoedd y milwyr. Mae'r gangen wedi cynorthwyo gyda hyn o waith hefyd. Nid cyflawn fy adroddiad heb enwi dwy chwaer selog gyda gwahanol achos- ion da Croesoswallt Mrs. T. Peredur Roberts, yr ysgrifennydd, y hi'n hysbys i Gymry a Saeson y dref, er nad oes ond blwyddyn er pan ddaeth yma i fyw. Gall adrodd yn benigamp, a bu ar Iwyfannau'r Eisteddfodau, ac ariii hi y disgyn rhan dryma'r gwaith gyda Dirwest yn y dref. Mae Miss A. C. Pritchard, ein llywydd, yn adnabyddus i lu trwy Ogledd Cymru fel un llawn eel a brwd- frydedd gyda Dirwest, ac yr ydym yn ddvled- us iawn iddi hi am yr olwg lewyrchus sydd ar y cyfarfodydd y tymor hwn. Addurnid y festri heno yn dlws odiaeth a'r blodyn gwyn. Rhwydd hynt i'r chwiorydd selog.-Arn fod yn wyn. 0 DDYFFRYN NANTLL.E.-Y chwar. elwr yn rhoi o'i brinder.-Mewn atebiad i wahoddiad calonnog pobl y Dyffryn, trefnwyd i deulu o Belgiaid, yn dad a mam a thyaid o blant, ddod i aros i Bias Tanrallt. Cartrefent gynt mewn fferm eang ar wastadedd Antwerp, ond gorfu iddynt adael eu haelwyd glyd a'u da byw, a dianc am eu bywyd o flaen yr anghenfilod Germanaidd. Ni chawsant am- ser i gymaint a dod a cherpyn o ddillad gyda hwy, a chroesasant i'r wlad hon yn y gwisgoedd gwynion haf a ddigwyddai fod amdanynt fis Awat. Canlyniad eithaf natur- iol hyn oedd i fisoedd oorion ein gaeaf amharu ar eu hiechyd, a hynny i'r fath raddau ag i droi'n angeuol i Joseph y teulu, a fu farw yr wythnos cyn y ddiweddaf, yn ddwyflwydd oed. Cyhoeddwyd hyn yn y gwahanol addoI. dai nos Sul, ac erbyn dydd Mawrth, yr oedd y teulu anghenus yn gyfoethocach nag y buont erioed mewn gwisgoedd o wlan dafad y mynydd. Er fod ein Seiadau a'n Hysgolion Sul yn ddigon teneu eu cynulliadau, ac fod y Parch. Rhys Lewis, Salem, yn edliw i ni fore Sul diweddaf mai yn eu gwelyau yr oedd rhan helaeth o'r rhai a gyfrifant eu hunain yn Filwyr Crist, tra'r oedd Milwyr y Brenin yn effro yn y trenche8, r y cwbl, meddaf, nid yw Ysbryd Crist wedi ein gadael. Chwarae teg i'r chwarelwr, onite Fe ran ei galon pan ddaw angen. Tipyn o beth fydd i deulu Plas Tanrallt droi'n ol tua Belgium a gadael yr anwylun yng nghlo tan bridd ein Dyffryn. Nid anghofiant byth mo fan fechan ei fedd,— na wnant; na thynerwch calon y chwarelwr, a rannodd ei ddillad â hwy tra'r oedd ei gefn ei hun yn ddigon llwm, a'i logell bron yn wag.-Tall) o Graig Nantlle. 0 BEN Y GROES, LLANLL YFNI.— Genethod y Groes Goch amdani hi !-Dyma'n ddios y Gymdeithas fwyaf byw a gweithgar sydd yn ein mysg. Ac nid Cymdeithas undydd-unnos ydyw ychwaith, ddaeth yn swn y frwydr ac i farw pan deyrnaso heddweh. Cychwynnwyd hi tua thair blynedd yn ol, a meithriniwyd hi,- aeaf ar ol gaeaf, gan y tirion Ddoctor E. Shelton Roberts, a thyfodd, fel y tystia ei Chwpan Arian hardd, nes bod y Gymdeithas Groes Goch fedrusaf yn Sir Gaernarfon, a hynny cyn bod sdn am ryfel. 'Does ball ar aberth y genethod, er mwyn eraill. Ceir hwy wrthi'n barhaus, ben a chalon, nodwydd a gweill; a nos Lun yr wythnos ddiweddaf, cafwyd enghraifft o'u medr i dynnu bwledi arian" o'nllogellauer chwyddo'r gronfa. Paratowyd noson o adloniant yn Neuadd y Dref, o Luniau Byw, adroddiadau diguro Llew Deulyn, Humorou8 Sketch gan ddwy o enethod y Groes Goch, a chan Gallant Little Belgium, gan facwyaid Wm. Parry,—y cwbl yn cael eu cynorthwyo gan y berdoneg, dan fysedd ystwyth Miss Louise Williams, Cae mawr. Cadeiriwyd yn ddoeth gan ein periglor, a bu gwasanaeth y bywiog Linton fel llywydd y llwyfan yn hynod lwyddiannus. Y Neuadd yn orlawn a'r elw'n drwm. Syndod gymaint oedd derbyn- iadau'r Benywod gwyneplon a werthent dda-da yn ystod y seibiant; ond dyna, wiw dweyd faint, neu ni choeliai neb ein bod mewn amgylchiadau cyfyng yn yr hen Ddyff- ryn gwan yma.-O'r Seti Oefn. 0 ROS HIRWAEN, LLEYN.-Cynhal. iwyd cyngerdd yn Ysgol Llidiardau nos Fawrth Ynyd. Eisteddfod arferid ei gynnal yno, ond gan fod teimlad gwladgar yn uchel yma, penderfynwyd cynnal cyngerdd, a thros- glwyddo'r elw i liniaru angen y ffoaduriaid Belgiaidd sydd yn y fro, a chaed gweddill tros ben o dda, a'r ysgol wedi ei llenwi bob cornel ymhell cyn amser dechreu. Arweiniwyd gan Fugeilfardd. Dyma'r cantorion soprano, Miss Gwenonwy Griffith, Nefyn contralto, Miss Hannah Jones, Tyddyn Meirion, Rhiw tenor, Mr. Wm. J. Hughes; baritone, Mr. John Hughes-y ddau o Efail newydd a Misses Griffith Trewan, Bottwnog, yn cyfeilio. Cawsant hwyl anarferol i gyd,—canu ac ail- ganu oedd raid, gan nad oedd distewi ar y dorf. Yr oedd Bugeilfardd yn ei hwyliau goreu, ac eisiau cael cyngerdd tebyg bob lleuad (sef bob mis), gan iddo gaol ei foddhau mor fawr. Deallwn fod Miss Griffith ym Mhwll- heli y nos Iau blaenorol, yn diddori'r milwyr yno, sef yn cynnal Cyngordd Catrawd.— Yn glust i gyd. WESLEAID YR W YDDGR UG.—Cyn haliwyd eu Heisteddfod hwy yn Neuadd y Dref, Chwefrol 18fed. Llywydd, Dr. Roger B. Edwards; arweinydd, y Parch. Hugh Evans (Cynfor), Rhyl cyfeilydd, Miss Blodwen Morris beirniad-J. Tudor Owen, Ysw., A.R.C.M. (Pencerdd Meirion), Blaenau Ffestiniog yr adrodd-y Parch. W. Morris Jones, B.A., a W. T. Roberts, Ysw., B.A. amryw, Mrs. R. E. Jones (N. P. Bank), Mrs. W. Morris Jones, B.A. Dyfarniadau :— Brush P(M)!,?y Mr. Maid wyn Roberts. Table Centre Mr. J. Harley. Adroddiad i rai dan 16, Paid rhoi /?:?/ (Elfed) 1, Dilys Roberts 2, Tudur Jones, Woodlands. Adroddiad i rai dros 16, Guto'r Cam Mawr Parry Jones, Ffynongroew. Cyfansoddi t6n ar emyn 567, Mae'r Brenin yn y blaen Llew Williams, Broughton. Unawd ar y berdoneg i rai dan 16: Maldwyn Roberts, Unawd i fechgyn dan 16, Ymadawiad y Brenin 1, Emlyn Pritchard 2, Edwin Trevor, Coedllai. Unawd i enethod dan 16 Alice Gordon, Agnes Bellis a Florence Jones yn gyfartal. Her-unawd J. Ffoulkes, Rhes y cae. Unawd baritone, Chwyfivm Faner J. Foulkes. Unawd tenor Maelor Davies, Broughton. Unawd soprano Miss M. A. Evans, Halkyn. Parti o wyth Elphin Davies, Wyddgrug. Can ystum Parti Miss Arthur, Wyddgrug. Cor Meibion, £ 10. a chwpan arian Broughton (R. W. Griffith), Rhos (Ben Evans), Ffynnon groew (J. E. Jones), Halkyn (Wm. Jones), Elwy (Jos. Jones), Wyddgrug (E. Drury) yn cystadlu. Ffynnon groew yn oreu,—Cefnder Wil Bryan. 0 F ACHYNLLETH.-Caed noson i'w chofio yng Nghymdeithas Gwyr Ieuainc y dref yn Senedd-dy Glyn Dwr nos Lun yr wythnos ddiweddaf, sef yn dadlu ar y pwnc hwn Ai camsyniad y dywediad Yr hen amser (da) gynt ? Mr. Hugh Davies yn dal ei fod yn gamsyniol, a'r Parch. H. Williams, 'I B. A., nad oedd. Cefnogid un ochr gan Mr. J Jones (Gwladwr) a'r llall gan Mr. Evan Owen, B.A., B.Sc. 0 LAN IDLOES.—Cymru a'i Neges,- dyna destyn anerchiad Miss J. Helen Row- lands, B.A., y Drenewydd, o flaen Cymdeithas Pobl leuainc China Street (M.C.), nos Fercher ddiweddaf. Megis y dywedodd Mr. John Owen ar y diwedd, da fyddai i bawb ei chlyw- ed, a dal yn well ar y perlau sydd ynddi nas ceir mewn llyfrau. I bawb sy'nfadwaen Miss Rowlands fel darlithydd, neu ynteu fel ysgrifennydd, y mae'r dywediad yn cynnwys calon y gwir. Creadigaeth ei meddwl mawr ac ystwyth, a ffrwyth sylwi wedi ei drwytho a barn aeddfed, geir ganddi bob amser. Caf- wyd gwledd flasus a bendithiol. Mr. W. O. Jones, B.Sc., yr ysgol Sir (un o feib Ffestiniog) a Mr. John Owen ddiolchodd i Miss Rowlands. Y llywydd oedd Mr. J. H. Manuel. 0 BEN Y GROES, LLANLLYFNI, eto. —Cymdeith&s Pobl Ieuainc Soar.-Daeth tymor y Gymdeithas i ben eleni ychydig wythnosau yn gynt nag arfer, yn herwydd fod cynifer o'r dynion ieuainc parod i waith yn absennol o'n plith,—rhai yn ninas Y BRYTHON eraill yng nghrombil y ddaear yn y De, a llu mawr yn y Fyddin. Ond er mai byr fu'r tymor bu'n hynod gynyrchiol. Ni welwyd erioed gymaint o fywyd a gwaith yn y Gym- deithas, ac y mae hynny i'w briodoli i raddau pell i egni a diwydrwydd y gweinidog, a dd wedi ennill serchiadau pawb. Newydd-beth y gaeaf hwn fu "Beirinadaeth Lem a Di- gwmpas bob wythnos ar y cyfarfod blaen- orol. Bu'r rhai hyn yn hollol straight a didderbynwyneb, ac yn foddion effeithiol i berffeithio a dyrchafu chwaeth. Daeth y tymor i ben noa Iau, gyda gwledd i gorff ac yabryd. Yn rhan flaenaf y rhaglen, eaf- wyd awper danteithiol,—rhad rodd y chwior. ydd, a phawb yn ei ganmol. Yna adloniant o anerchiadau, dadl, adroddiadau a chaneuon gan yr aelodau hyn a'r llall gan ychydig wahoddedigion Miss Dilys Griffith yn canu The Gospel of Peace yn llawn teimlad, a Mr. D. W. Lewis yn cyfeilio gyda medr hen law Mr. R. H. Jones, is-athro newydd yr ysgol I ddyddiol, yn canu penhillion, yn dynwared, ao yn canu'r ddeuawd Megan, ddoi di am dro ? gyda Miss Maggie Owen, nes cael clap fyddarol gan y gynulleidfa a llawchwith chwim gan y llywydd, sef y buasai yn amhosibl i'r ddau ei chanu mor dda heb lawer iawn o ymarferiad." Da gennym weled Mr. Jones yn ymdaflu fel hyn yn ddiymdroi i fywyd ein pentref, ac eiddunwn iddo hir oes gyda'r Athro Parry.- Ni waeth pwy, am wn i. 0 FLAENAU FFESTINIOG.—X di" weddar Mr. Jonathan Edwards, Llys Gweunydd —Yr lleg eyfisol, bu farw Mr. J. N. Edwards, un o fasnachwyr mwyaf adnabyddus Ffes- tiniog, ac un o wyr blaenaf Cyfundeb y Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru. Yr oedd wedi ymneilltuo oddiwrth ei fasnach fel gwerthwr dodrefn a nwyddau haearn yn Berlin House ers tua phum mlynedd, ond cafodd gryn lawer o afiechyd yn ystod ei neilltuedd. b' i ganed yn Mryntrystion, Cynwyd, Chwefrol 3ydd, 1847. Pan tua deunaw oed, symudodd i Flaenau Ffestiniog, ac wedi gweithio rhai blynyddoedd fel crefft- wr, agorodd fasnachdy iddo'i hun, a llwydd- odd yn fawr, nes trwy ei ymroddiad a'i fedr ef y ffurfiwyd Limited Company pan ym. neilltuodd ef rai blynyddoedd yn ol. Yr oedd wedi ymuno ag Eglwys y Bedyddwyr yng Nghynwyd cyn gadael yr ardal, a bu'n aelod blaenllaw yn Nhan y grisiau am flynyddoedd, ac wedi hynny'n flaenor yn yr eglwys yng Nghalfaria, Blaenau Ffestiniog, er pan wnaethpwyd yr addoldy yn 1881. Bu hefyd yn drysorydd yr eglwys am tua 34 mlynedd, yn athro yn yr Ysgol Sul, ac yn fawr ei sSl gyda'r achoa yno hyd ei farwolpeth. Bu'n drysorydd Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion am bedair blynedd ar ddeg, nes y gorfuwyd iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd yn 1911. Cyflwynwyd iddo anerch. iad hardd ynghydag album gan aelodau'r Gymanfa ar yr achlysur hwnnw. Yr oedd yn gyfranwr haelionus i gronfeydd yr enwad, a dangosai wyneb siriol a llaw agored bob amser at unrhyw achos teilwng a rhai mewn angen. Ni fu iddo ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus,—gwell oedd ganddo we thio o'r golwg. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cyd. wybodol a'i gydymdeimlad yn eang a'i am. can ion bob amser yn gywir. Ar yr aelwyd yr Parhad ar tudal. 2.