Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y C * Oddicartref .-.-.i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y C Oddicartref Wrth 'nelu am fachynlleth a'r Penrhyn. Wrth 'nelu om fachynileth u'r Peorhyn. Cyn gadael Croesoswallt. I DYMA ddeufis wedi llithro heibio er pan ysgrif- ennwyd y ddiweddaf o Lithoedd y Merlyn, sef am ei daith a'i garlam i Fachynlleth a'r Pen- rhyn ddiwedd Rhagfyr diweddaf. Ffwrdd a ¡ hi a'u gorffen fwriadem ar y pryd eithr a'n helpo daeth galw anorfod am le i bethau I eraill mwy eu pwys a rheitiach wrthynt, nes y bu raid gadael hon hyd heddyw. Cyn belled a Chroesoswallt yr aed yn honno a diolch am y llythyrau—amryw—a ddaeth yma am yr atgyfarfod-gair awgrymiadol hen wreigan rynllyd Cyrn y Bwch. Mynnai un o olyg- yddion trylen y Gogledd mai'r un ydoedd a brad-gyfarfod-hen air gwerin Meirion, ebe fo, am Yr Eryr, sef shingles y Saeson. Morfryn (Lerpwl) yn dal mai'r ystyr a roddid iddo yn y llith—sef rhyw oerfel ar y gwaed-oedd yn gywir, ond mai brad-gyfarfod oedd ei ffurf iawn. Pedr Hir yn rhyw led-gredu mai'r un peth olygid wrtho a'r gafod,-gair Dyffryn Clwyd a mannau eraill o'r Gogledd am y crud neu'r cryndod hwnnw a yrr dyn i ymgladdu yn ei wlanen o flaen y tan tae hi'n ganol mis Awst. Eifion Wyn a Chybi'n tystio fod atgyfarfod i'w glywed hyd heddyw ar dafod pobl Eifionydd, ac yn synnu braidd fy mod heb ei glywed, eithr cofied y ddau fy mod i yma er pan yn llefnyn tair ar ddeg, nac wedi cael fawr o gyfle byth wedyn i ddychwelyd i'm hen gynefin nes yr euthum i gadw merlyn rhyw bum mlynedd yn ol. Ys gwn i ydyw'r hen wraig ar dir y byw ai peidio ? Os ydyw, hwdied ddiolch y crwydryn swil a sychedig a ddaeth at ei drws y bore poeth hwnnw, am y gair ao am y llaeth ennwyn. Pe cawn i hwnnw, a thafell o fara cetal wedi ei chrasu aphoethwal ar fuarth ffarm yn yr awyr agored, can croeso i'r Brenin gael hynny o seigiau ffasiwn-Ffrainc sydd yn Llundain o'm rhan i. Ar ol sgrifennu'r uchod, fe'm hatgofiwyd mai atgyfarfod y bydd efrydwyr y colegau diwinyddol yJl, galw eu students' reunion; yatyr go wahanol sydd i hwnnw, a gobeithio na chaiff yr un ohonynt hwy byth chill bulpud. Soniais yn y llith o'r blaen am Thomas Williams, swyddfa'r Oswestry Advertizer. Wel, cefais ami i dro diddan gydag o, megis hwnnw ar y Saboth i gyfarfod ysgolion Glyn Ceiriog ac ar droion felly y clywais i o yn enghreifftio'r Saesneg rhyfedd a glywir yn y parthau hynny o Faldwyn sydd wedi anghof- io'jf Gymraeg, ac wedi c-yfioit hu hen dermau eu crefydd i ryw fath ar Saesneg, megis honno am yr hen flaenor yn codi ar ei draed yil y Gyfeillach nos Sul ac yn lie gofyn Oes yma. rhywun wedi aros ar ol o'r byd heno ? a ddywedai "Has any un stoppet back from the wyrld to-neit ? a fuasai'n ddigon a'm gyrru i allan i'r byd yn f'ol wrth J glywed hen dermau'r seiat yn cael y fath 1 gwymp, a Threfn y Cadw wedi mynd yn I Plan of Salveshiwn neu Specificeshiwn of Gres. Y fo'n gwarchod 015 dyna ey'n digwydd lie trengo'r Gymraeg, daIiwTa. ein gafael ynddi, bobol annwyl Lincyn-Loncyn drwy Bowys. Ond dyma.'r 2.40 i fewn, a finnau'n cychwyn drwy Bowye yn nhren hamddenol, lincyn- loncyn y Cambrian. Dyma fynd drwy Lynclys a Llan y mynech, ond fod y gen- hedlaeth sy'n byw yno heddyw wedi mynd yn rhy lipa a gwan eu gen i fedru dywedyd nac ell nag ech, a Linclis a Laniminek ebe'r garsiwn finfain Ar y dde, drwy':r coed, dacw Lan y Blodwel, lie y curadai Tudno pan enillodd Gadair Gwreesam am Awdl Peror- iaeth yn 1898. Lie deiliog ac i'r dim i wneud Awdl a Phregeth, ac i le snec a chyegodol fel hwn y bydd pob rhyw chwa yn mynd adre i farw, ebe'n cefndryd y Llydawiaid. Ac yn wir, wrth ail edrych arni, dyma gongl digon tlws a thawel i deilyngu'r bluen a roes Thoreau i'w New England yntau: Whoever is fortunate enough to be born in it, needs not to be re-born." Sylw'n union fel y to -&-< & ?  Tre Robert Owen. Dyma Drallwng, sef Welshpool yr oes hon ond nid oesgennyf fi ddim a ddywedwn wrthi hi na'i Chastell Coch-dim Ac felly, fe awn ymlaen i'r Drenewydd; a phe caniataeai lie, hawdd fuasai nyddu colofn neu ddwy am y dref a roes Robert Owen y Sosialist i Gymru a'r byd. Diau eich bod yn rhy hyddyeg a'i hanes y fod yn rhaid i mi ddywedyd dim am- dano fel Diwygiwr a Dyrchafwr y, ddynol- iaeth, eithr rhag fod rhywun ohonoch na welodd mo'i lun, ac a garech gael rhyw syniad sut un ydoedd o ran ei bryd a'i wedd, dyma fo ichwi, a'i hugan Lflewog droe .i ysgwyddau :— Mor ddwys a phrudd yw hanes diwedd y dyn mawr hwn Unwaith yr aeth o Gymru, draw led y byd y treuliodd weddill ei oes bron i gyd, y tu yma a thu arall i'r Werydd ond pan heneiddiodd, ac y clywai swn ei babell bridd yn dechreu cracio, a gwynt oer yr Angau yn dechreu dod i fewn drwy'r hie, cododd hiraeth ynddo yntau, megis y cododd ym mron Ilawer Cymro arall o i flaen ac ar ei ol, am gael dy- ehwelyd i fro'i febyd, a chael cydgymysgu a phridd yr Hen Wlad. A hynny gafodd, canys drwy frawr frysio, medrodd gyrraedd y Dre- newydd ddau ddiwmod cyn trengu, a chael marw y drws nesaf ond un i'r t, Ue'i ganed. Clywais ddweyd fod dydd ei gladdu yn un o'r rhai tywyllaf a thrweha'i niwl a welodd Maldwyn erioed,—fod rhyw dawch wedi sefyll yn un cen dros y dref, nes gyrru'r bobl ofer- goelus hynny i gredu mai arwydd o farn a llid y Nef ar yr anghredadun oedd y duwch annaearol hwnnw, ac fod mwg Uffern wedi codi'n un cwmwl i fyny i'r ddaear wrth i enaid Robert Owen anuniongred gael ei hyrddio ar ei ben i ganol y "Tan Mawr!" Yn debyc- ach o lawer gen i mai niwl rhagfarn yr an- wybodua oedd wedi tywyllu'r lie, canys nid oedd neb o'r rhai boerent y gair an- ffyddiwr am ei ben yn deall dim arno, nac yn deilwng i ddatod carai ei esgid o ran nerth meddwl na glendid cymeriad na mawredd ymroddiad i leshau a dyrchafu dyn lie bynnag y'i caffai. Bu ei fedd heb garreg na cholofn am flyn- yddau neb yn galw heibio i sbio na rhoi blodyn arno ond caffai'r Danadl Poethion, a'r Dail Crach a Thafol, a'r Cas gan Gythraul, a phob rhyw chwyn a charthion, dyfu drosto er mwyn ei guddio a olwg ei genedl. Ond nid dyn i'w guddio a chwyn rhagfarn mo Robert Owen ni allai ef fod yn guddiedig," mwy na'i Feistr o'i flaen a phan ddaeth Cymru'n gallach, ac i beidio a mesur gwerth a daioni dyn a llathen fer a gwyrgam ei chredo a'i cheidwadaeth, fe oddefwyd i'r Gymdeithas Gydweithiol-sef Go-Operative Society y deyrnas—roi colofn deilwng ar fedd ei sylfaen- ydd, ac eithaf peth fyddai dodi ei Iluii yma,- llun a gafwyd gan Mr. Park, y gwr sy bellach yn byw yn y ty lie ganed Robert Owen ynddo- Ac y mae yna Gymro arall yn gorwedd yi. lied agos i Robert Owen, na wyr y wlad fawr amdano rhagor ddylai,Richard Williams, F.R.H.S. (Geiynog), a gyfoethogodd ein llen- yddiaeth ag ami i ysgrif werthfawr a llawn ymchwiliad trwyadl i'w bwnc, ac a gynorth- wyodd gymaint ar y Llyfrbryf gyda chy- hoeddi'r Mabinogion. Cyfreithiwr wrth ei grefft, ond na chododd o yr un chwech ac I wyth erioed ar ei wlad am yr un o'r llu ysgrifau llafurus a ysgrifennodd i'w ham- ddiffyn a'i mawrhau. <4- Cymru ynteu Khasia ? I Wel, ie erbyn cofio, yn y Drefnewydd yma y mae Lena hefyd, sef Miss J. Helen Rowlands, B.A., sy'n dysgu Ffrench a Chymraeg yn Ysgol Sir y dref. Ond hwda di, Lena ai gwir y si a glywais y dydd o'r blaen dy fod a'th fryd ar faes cenhadol yr India Aeth dau deimlad go wahanol i'w gilydd drosof pan gly wais-gofid i ddechreu, a llawenydd wedyn. Teimlad o lawenydd, oblegid clywed fod geneth mor lawn o allu a dysg yn cael ei thueddu i gysegru'r cwbl i'w Christ a'i Cheidwad, gan roi un prawf arall. at y lluaws a gaed eisoes, mai nid pobl diddawn a diddysg mo'r bobl sy'n troi'n genhadon teimlad o ofid,am fod y graen oedd ar dy ysgrifau yn Y BRYTHON wedi codi'm calon, a'm gyrru i ddisgwyl a chredu y tyfet ac y cryfhaet fel llenores nes bod yn ddigon mawr i lenwi lie Gwyneth Vaughan maes o law. Ond os wyt ti wedi clywed y Llef Ddistaw Fain, Lena, mi wn i yn eithaf da na waeth i mi na neb arall heb geisio'th droi; a choelia fi, er cymaint fyddai'm colled i a'r BRYTHON, na roddwn i mo'r rhwystr lieia; 0 th flaen hytb, achos ni wn i am ddim tebycach o ffaglu'r India a, goddeithio'i phaganiaeth na rhoi pen a chalon fel dy rai di ar dan a'th daflu i'w chanol. Ond fe fentraf ddweyd hyn, yr un pryd, sef dy fod yn caru iaith a lien Cymru mor angerddol nes fy mod yn bur sicr na fyddi di yno'r un pythefnos cyn bod wedi sefydlu Cymdeithas o Gym- rodorion, a threfnu rhaglen o ddarlithiau yn y Khasiaeg ar Wm. Llyn a Goronwy Owen a Cheiriog Hughes, a chael had yr eglwysi brodorol i gydadrodd Ti wyddo8t beth ddywed fy nghalon a theleidion eyffelyb ar goedd yn yr ysgolion bob yn ail a'r Hyfforddwr. Ac os bydd Ysgolion Sul Khasia yn arfer cael tripiau yn yr haf, fel byddwn ni'n gael yng Nghymru, ni synnwn i ddim clywed dy fod ti wedi codi ar dy draed yn y cyfarfod athrawon rhyw brynhawn Sul i gynnyg ein bod yn mynd ar bererindod i Ddolwar Fach i weled y fan lie ganed Ann Griffiths, sydd bellach yn Tragwyddol syllu ar y Person A gymrodd arno natur dyn.' Ac felly, 'rwy'n dychmygu dy glywed yn hofran rhwng y naill deimlad a'r llall ac yn gofyn ac ail ofyn y cwestiwn hwn i ti dy hun, "Cymru yntau Khasia, Khasia ynteu Cymru, prun ? Ond rhaid i mi fynd at fy mharagraff nesaf. Pe'r trSn yn aros, mor felys fuasai cael disgyn am awr o ymgom a Mr. Phillips, y diacon Methodistaidd sy'n cofio Robert Owen mor dda, ac a wyr fwy am y Drenewydd nag odid neb sydd ynddi. Ond rhaid mynd, gan sbio drwy ffenestr y tren tua gwlad Joseph Thomas ac S.R. a J.R. a Mynyddog a Dr. Owen Evans ac yn y blaen. Dyma Moat Lane a dacw Gaersws, ac ynddo un Cymro digon cynnes i feiriol tipyn ar y barrug Saesneg sy'n iygwth rhewi'r lie,—Dr. Rees (Ap Gwyddon) ydyw hwnnw. Dyma'r trfin yn troi ar y chwith, a.c yn gadael Llanidloes ar y dde, ond wrth sbio tuag ato, dyma gofio imi fod yno'r llynedd ar aelwyd y Cymrodorion, ac i mi gael cwpaned o de a chroesoSir Feirionydd gan Mr. BQwen, y gorsaf-feistr, a hynny yn yr ystafell lle'r arferai Ceiriog fwyta'i damaid yntau pan lanwai'r un swydd yn yr un t9 tua'r 80's. Ac yr wyf yn bur sicr y bydd yno Gymraeg yn Llanidloes cyd ag y bo Bowen a'i briod yno, sut bynnag y bydd hi wedyn. Yr oedd hi'n dywyll erbyn hyn, na dim i'w wneud, bellach ond gwrando ar y tri milwr- dau yn swyddog-oedd yn yr un cerbyd a mi, yn ymddiddan draws ac ar hyd am y rhyfel. Pa hyd y pery hi, feddyliech chwi ? ebr un wrth y llall. Wel, fe gymer inni tan ddiwedd mis Mawrth i hel y Germaniaid o Ffrainc a Fflanders, ac o hynny tan y Nadolig i dyllu drwy'r caerau cryfion tuhwnt i ddim dirnadaeth sydd yr ochr arall i'r afon Rhine." ebe'r llall, gan awgrymu ei fod o wedi teithio drwy'r Almaen cyn y ryfel, ac yn gwybod am bob gwal a thwll ynddi. Ond ni ryfeddwn i ddim na wyddai'r Germaniaid lawn mwy na fo am bob twll a gwal ym Mhrydain yma. Yn hen Senedd-dy Glyn I Dwr. 1 I 11.,r 1 "J 1 I oyrnaeaawya macnynuecn ar giaw n pis- tyllio. Cefais nyth noson tan nenbren derw fy hen facwy adrodd yn Birkenhead gynt,- Mr. John Williams, Rock Villa a chan fod y tad a'r fam yn meddu'r dawn hwnnw i raddau mor helaeth, disgwyliaf y bydd eu hepil yn adroddwyr hafal i Lew Llwyfo yn ei anterth. Cafodd John lawer clap ac encor ar Lanriau Mersey acw ers talm am adrodd Die I fan y Ddol, bob amser ar ol, er nad oes dim byd ar ol yn John ei hun, canys y mae'n cripio i fyny'n ddygn yn ei alwedigaeth, ac yn mynd a'r Gymraeg i'w ganlyn i bob man, a honno'n gywir dilediaith, er ei eni a'i fagu yn Lloegr. Gwylia di Gymraeg dy blant, efo'r forwyn Saesneg yna, John Gyda Chymdeithas y Meibion leuainc yr oedd y cyhoeddiad—yn y Glyn Dwr Institute, sef hen Senedd-dy'r arwr a brynnwyd ac a roddwyd yn anrheg tros byth i'r dref gan Seneddwr haelfryd Llandinarn, ac heblaw cael ei roi, sydd hefyd wedi cael ei gyweirio a'i bincio drwyddo, a'i addasu at ddibenion ymarferol y dydd heddyw heb ei or-ddiweddaru nac andwyo dim ar y swyn a'r henafiaeth sydd wedi mwsogli mor gysegredig amdano. Lie hyfryd a than gamp i siarad ynddo ac os oes rhywbeth yn eich clop a'ch calon o gwbl, wel yn enw'r taid, fe ddylai ddod allan a sgleinio ar ei oreu mewn lie mor hen a hanesyddol a hwn. Yr oedd parwyd- ydd derw'r ystafell yn frith o luniau enwogion Cymru a'r un ddigwyddai fod yn union o flaen fy wyneb i oedd llun fy hen ffefryn, Daniel Owen yr Wyddgrug. Diolch byth canys pan elai'r dawn yn brin a'r meddwl yn hysp, dim ond sbio i lygad awgrymiadol creawdydd Mari Lewis a Wil Bryan, a dyna ddigon o ysbryd a hwb i lifeirio 'mlaen am chwarter awr arall heb yrun dot na choma i faglu'r frawddeg. Ac o lygad Daniel y deuent, ac nid o unlle ynnof fi. -? -?  Sarff yn y Seiat! I Wrth sbio o gwmpas yr hen Senedd-dy, a gweld yr hen drawstiau trymion ac yn y blaen, fe gofiais am y Seiat Fawr a Chyd- Genedlaethol fu ynddo yn 1404, sef yn erbyn Harri'r Pedwerydd, Brenin Lloegr. Dyma gip ar flaenoriaid y Seiat honno yng ngeiriau Enwogion Cymru Isaac Foulkes Yna ffurfiwyd cynghrair rhwng y tri, sef Glyn Dwr, Hotspur, a Mortimer. Yr oeddynt i gyd-godi arfau yn erbyn coron Lloegr,—yr oeddynt i ennill wrth gwrs, ac yna rhannu y deyrnas rhyngddynt. Yr oedd Mortimer i gael yr holl wlad o du'r dehau i'r Trent a thu'r dwyrain i'r Hafren y Percies i gael yr holl wlad o du'r Gogledd i'r Trent a Glyn Dwr i gael Cymru oil. Yr oedd efe'n aros yn anterth "ei rwysg a'i ogoniant. Gwysiodd holl "bendefigion Cymru i'w gyfarfod ym Machynlleth cydnabuwyd ef yno'n Dywysog Cymru dodwyd coron ar ei ben a dywedir fod cynrychiolwyr Ffrainc a Sbaen yno, ac yn rhannog yn y ddefod. Yn y gynhadledd ar ol y coron- iad, bu agos i Owen golli ei fywyd. Ymhlith y rhai a ddaeth i dalu gwarog- ogaeth iddo yr oedd borieddwr o Sir Frycheiniog, a elwid Dafydd Gam. Y gwr hwn, er ei fod yn briod a chwaer Owen, a ddygii y fath gasineb tuagato fel yr ymddangosodd ym Machynlleth gyda'r bwriad o'i lofruddio. Ond daeth ei frad yn hysbys cymrwyd gafael arno, a char- charwyd ef am ddeng mlynedd (Wyth mlynedd ebe llyfryn Mr. L. J. Roberts, H.M.I.S.). A dyna hi y mae rhyw sarff ymhob seiat a gynhalia'r hen Gymry druain, o seiat Medrod nai a bradwr Arthur Fawr i lawr heibio Daf- ydd Gam hyd at Seiat rith-Ymneilltuol a sarffaidd Syr Henry Lunn ac F. B. Meyer yn Senedd-dy'r Dadgysylltiad. Ond caffed y Mesur fyw, a hwythau ill dau ddeng mlynedd o'r un peth a Dafydd Gam. Yr oedd yn dda iawn gen i weld Undeb Newydd Llandrindod yn troi'r Dafydd Gam allan o Seiat Ymneill- tuol Cymru. Ni fu trefn yn y byd ar bethau byth er pan ddaeth o i fewn iddi, canys ei amcan o o hyd oedd "shywio" C'lomen Cymru er mwyn cael nyth i Gigfran Lloegr. Dal Scyfarnog—a'i dofi. I Peth arall y cofiwn amdano, wrth sbio ar barwydydd Senedd-dy Glyn Dwr, oedd Mabinogi dlos Melangell; a rhag fod rhai heb wybod y stori, hyd yn oed ym Machyn- lleth, heb son am fannau pellach a dieithrach, dyma hi wedi ei chwtogi Santes a fywiai yn y 6ed cant oedd Melangel i ferch Cyfwlch Addwyn, a ddisgynnai o Facsen Wledig; eithr merch Tudwal Tuddclud medd eraill. Ethni Wyddeles oedd ei mam, a Rhydderch Hael ei brawd. Cedwid ei gwylfabsant Mai 27. Y mae'r chwedl amdani ar led y byd mewn ieithoedd eraill; Monacella y'i gelwir yn Lladin, a dywedir mai merch i frenin Gwyddelig y hi, ac y mynnai hwnnw iddi briodi pendefig ucheldras o'i lys eithr gan fod y fun ddiwair eisoes wedi tyngu llw o foryndod ffodd i'r Werddon glaniodd yng Nghymru; ymguddiodd ym Mhennant, gerllaw Mach- ynlleth yma ac a dreuliodd bymtheng mlynedd yn ei gwal gudd heb weled wyneb dyn. Ac felly y bu hyd oni ddaeth Brochwel Ysgithrog heibio ar ddamwain wrth hela yn y fl. 604. Dyna lle'i cafodd hi mewn ogof yng Nghraig y Gwely—lie a elwir hyd heddyw yn Gell Melangell a chan rai yn Wely'r Gawres. Dywedir fod yr yscyfarnogod wedi eu dofi ganddi, ac yr adwaenid pob ceinach yn y cwr hwnnw fel wyn M> langell am oesoedd. Pan welai hen bobl Machynlleth yscyfarnog yn llamu am ei hoedl o flaen yr helgwn, Duw a Melangell a'th gadwo!" ebent hwy; ac unwaith y dywedent hwy hynny, ffarwel i'r own na neb ei dal na chael o hyd i'w gwal byth mwy. Rhoddes Brochwel dh iddi adeiladu mynachty arno. Byddai Pennant lVI, langell yn noddfa i ffoaduriaid byth er dyddiau'r hen fynaches, ac yno'r ymguddiodd Iorwerth Drwyndwn yn y 12fed ganrif rhag Hid a dial Dafydd ei frawd" Ferched annwyl Cymru clustymwrandewch a'r Fabinogi a gwyliwch ei gwers, canys nid oes neb yn ei bwyll a'ch gorfodai heddyw i dyngu llw o foryndod, nac a fynnai gael eich priodi a'r un pendefig poethfalch priodwch a garoch, pwy bynnag fo; eithr er mwyn Duw a Chymru a'ch enw da chwi'ch hunain. gofalwch fod mor bur a diwair a Santes y Pennant a phan fyddoch i gyd felly, buan y bydd holl sgyfarnogod chwant a blys wedi eu dofi a'u troi'n WYN MELANGELL" o -< nysio Pero ar y Twrch T rwyth. J.' Ia Ar 01 y cytartod, yn 01 y tmondeb sydd mor naturiol iddo, aeth John Jones (y Gwladwr) a fi drwy'r ystafelloedd yn yr hen Senedd-dy, i fyny ac i waered, ac a ddywedodd fil myrdd o bethau amdano fo a holl hynodion Machyn- lleth o'r hen amser i lawr ac os byth yr eloch i'r cyffiniau, ac y bo arnoch eisiau gwybod pwy ydyw pwy, ac ymhle y mae pawb a phobman, gafaelwch ym motwm cot y Gwladwr a chewch wybod y cwbl, rhyngddo fo a'r rhai a eilw ato. Arfaethwn gael llun Senedd-dy Glyn Dwr yn niwedd y paragrafE hwn; ond ni chyrhaeddodd y bloc mewn pryd. Nid yw Machynlleth heb ei llenorion hedd- yw mwy nag y bu un amser. Hoffaswn eu henwi, eithr peidiaf, rhag i mi anghofio rhyw un cyn deilynged a neb o'r lleill. Ar er fod yno ambell Ddafydd Gam yn ceisio brad- ychu'r Gymraeg yn y seiadau, y mae'r lleill sydd yn y Seiat wedi ei adnabod o drugaredd.. ac yn gwylio na chaiff iaith nac ysbryd Glyn Dwr mo'u, Iladd,-yr un o'r ddau. Ac yn awr, Gymdeithas Meibion leuainc Machynlleth, goddefweh air o ddiolch i chwi a'ch ysgrifennydd, Owen Roberts, am eich mwynder tuag ataf, ac am roi eyfle i mi weld a sbio ar hen Senedd-dy Glyn Dwr am y waith gyntaf yn f'oes. Gwyn yw eich byd yn cael cyfwrdd a chadw'ch cyfarfodydd bob wythnos mewn lie mor enwog a chysegr- edig ac yn sicr i chwi, fe ddylech fagu to o lewion llenyddol ac ynddynt ddigon o gariad at iaith a hanes Cymru nes mynd yn un haid i'r dref nesaf atoch i ddal a lladd y Twrch Trwyth sydd a'i droed mor drwm a Hengistaidd ar estyll y Llyfrau yn Aber- ystwyth. Ac er fod y Twrch yn fforchogi'r ewin ac felly'n cael dod i fewn i'n colegau a'n llyfrgelloedd ac yn y blaen, ac yn traflyncu'n swyddi a'n cyflogau brasaf, sbiwch chwi i'w safn o, mechgyn i, a buan y gwelwch mai anifail aflan ac anghymwys i'r aberth ydyw, canys nid yw'h cnoi cil ar iaith a llenyddiaeth Cymru ac felly, hys iddo fo, Pero Machyn- lleth Dyma'r llith yn faith a rhag i garna.tr r Merlyn gicio pethau gwell na fo'i hun dros erchwyn Y BRYTHON, rhaid gadael gweddill y branc-sef at Gymreigyddion y Penrhyn, ae yn ol adref drwy'r Bala—hyd ddau neu dri rhifyn pellach draw. Llygad y Water J.H.J.

Advertising

Advertising