Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
w. & J. VENMORE, Estate Agents & Volueri 200 SCOTLAND RD, Liverpool ItaLBTKOXB No. 5163 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c. 6 Lord Street, Liverpoo rULMPUOMM MSBAJVX 0, W. HUGHES,g. & L.T.S.C UrwrfntKtt p OGR- yng Sghaptl M.C. Prineu R"d), Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir 1 mgeiawyr at Dystysgrifau uwehaJ Celeg y 8olffat Hen Nodiant a Solffa, 70 KINGSLEY ROAD LERPW W. DAVIES, Conductor, AdJudicator. Accompanist. Teacher of Singiass Vlolla, 3 Pianoforte Terms for Festivals, Concerts, Bisteddfodan. At HAFOD. DEGANWY. N. Wales Y DDRAIG GOCH." THOMAS a JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel),^ Large stock of Welsh Books, new and second hand. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. I TELEPHONE—261 ROOTLE. TELEPHONE-575 Anfield.9 J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVERTON, LIVERPOOL Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215 Old Swan." 16 Whitland Rd., near Shell Rd.. Fairfield. R. W. EVANS Funeral. and Wedding Director, (Agent for Thoinas Porter Jo Sons, Ltd.), All orders personally attended to throughout at moderate charges. Highest testimonials ou be seen. HARTLEY & GO., Liverpool 202 LONDON ROAD. SALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE SATURDAI NIGHTS AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF All DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTES, LARGE VARIETY OF BEDSTEADS BEDDING &c EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAS? 10 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OP SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK, AND ANYTHING MAY BE PURCHASEE BY PRIVATE TREATY GOODS STORED. On view 8.80 a.m. to 9.30 p.m.; Saturday 1 p.m Telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALl OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESB SALES. BEST RESULT GUARANTEED. ALLAN w? LINE To CANAIDIT LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON & HAVRE TO CANADA, NEWFOUNDLAND & U.S.A. ALLAN'S, 19 James St., Liverpool; 14Cookspur St., S.W., and 103 Leadenhall St.. London, E.G. ? .?     ?  ??Y?/???????r??? ?!' ?m ?HE\'ANS?5o? ? ?f??35635????J? ? ?   ?? LiVE?PML. ? J Tair C&n Newydd gan I J. PRYCE HUGHES, L.T.S.C. (Awdur "Arglivydd arwain drwy'r anialvich. efrc,) "GOlEUNI YN YR HWYR (Light at Eventide). CystaHeuo] yn y prif Eistedd, fodau (Buddagol yn Utica, N. Y.), i S. neu T Drwy'r posr, 1/0|. "HOFF BEMLL FY NHAD (Er eM), I unrhyw lais. Drwy'r post, 6ich. BYDDIN LLWYD 0 WYN -zDD." I Faritone. Pris 6Jch. Llawn gwlidgarwch tanbaid. Cyflicynecfig i llr. Lloya George, ac fe'i cenir yn y Cyfarfodydd Ymrestru. I w cael (gyda blaendld) gan y Cyfansoddwr, LILY HOUSE, COEDPOETH, WREXHAM. ANWYD, PESWCH, INFLr KNZA Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsa-dd gyf-ew- idiol fod llawer o ddioddpf oddi wrth Beswofe. Brnnehitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Cfiethdra, DiflEvg Anadl. Y mae yr hen feddv tuniaetb "DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ao yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag, erioed, bob amser wrth Jaw, yn felys, yn cynhest, y frest, ao yn rhTddhan y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. Is. He, a 2& 9c. (poshge. mew 'n ?UGif DAVIES, Chemist. MACHYN- LLETH GWYNEB PRYDFERTH.—" Sarzine Blood Mixture at glirio y croen, a phnro y gwaed. Y mae yn myned at wraidd y ID-wg, ymlid ymaitfe bob math o pimples, coohai, ysfa, scurvy, Pail, ddynod. Gwena hen ddolariRa. coesu drwg, crydgymalau, gan adfer y cro?n i'w hardd Zt naturiol. 2a 6c. y botel gan bob DruggIst;: yn ychwanegol gyda'r post —HUGH DAVIES bemist. MACHYNLLETH. Coupon Rhad=Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd). BTDD J'A GRESHAM Fire ond Accident Insurance SOl iety ltd St.:Mildred' House, Poultry LONDON, E.C. dalu £ 100 (can punt) i g;n-yii,,Iv,i i (-vfrAitbio a phersonol y Fmwl a fo'n dd'if s-dd-lr- r y toupon hwn, os y bo iddo fo neu hi gae* pu lladd yn hollol ac yn unit)ngvrobtl drwy d^am -ain o fewn y Deyrnas Gyfunol i dren m ryw GwmTJi Keil £ Ford<^ Trarncar, Omnibus, Cab. neu G. ibyd Trwydddig a Llog yn yr hwn y bo'r dal wr yn cael ei gludo fel teithiwr tocyn a chlud, yn ddarostyn edig bob amser i'r amodau arb-nn g a ganlyn sydd i'w ystyried fel rhao a chyf/an o'r cytundeb- (a Pod y marw'n d fiwydd o fewn deng niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain b) fod rhybudd ohoni n cael ei roi i'r G mdeithas o fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ya LIun iain (c fod y cyfryw dystiolaeth ies- ymol parth achos y far- olaei h yn cael ei gyfiwyno ag n fo'r Gymdeithas yn ei "fyn (d) fod y daliwr wedi 'sgritennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag inc yn y lie darpa edig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag un person parth mwy nag un coupon yn y papar hwn i a'r un cyhoeddiad arall (f) na bo'r ys- wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonau. tao ddeuddeg na thros-ddegathritainmlwydd oed, lie a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i codir. Arteyddnod y Daliwr Trigfo,t I Danysgrifwyr. Raid i dderbyv, wyr cyson v papur hwa ddin3 arwyddo'r Coupon os ca'r Gvmdeithas gwbl sicrwydd a ihra-f el fod yn cael ew anfon iddynt yn ddifwlch. GERAIMT AC ENID A Chaniadau Eraill GAN Machreth Cynhwysiad: B DARNAU CYNGANEDDOL.-Geraint ae Enid.-Y Celt.—Telynau Duw.—Y Asgellog.-Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor.— I'r Athro J. Morris Jones, M.A., ar ol darllen ei Ganiadau.—Dychweliad Arthur.- Elis Wyn o Wyrfai.—Dr. John Thomas.- Herber.—Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl. —Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd.— Telyn Cymru.—Peroriaeth.—Yr Ehedydd. —Can yr Angylion.-Y Parch. William Nicholson.—Nac Oeda.—Edifeirwch.— -Wrth fynd i orffwys.—Ar ol Noswaifeb Dymhestlog.-Gwynt Garw.—Y Tri Llano. -Yr Wybren Hwyrol.—Dau Weinidog.— Alawon Cymru.—Y Gwynfryn.—Ci y Bugail.—Ewyllys Adda i'w Blant. D YRIA U.-Taith ac Oedfa. Derwea Arthur.—Crwydro Bum.— Y Delyn Friw.— Wyt Ti'n Cofio.—Morfudd.—Hwiangerdd. —Can y Forwynig.-Palmwydd a Helyg.— Cyfaill y Tlawd wyt li.-Emyn Priodaa. OYFIEITHIADAU AO EFELYGHIAD- AU.—Herv6 Riel.—Y mae Gwrid at ruddiau'r Rhosyn.—Mae'r Ffrwd yn llifo'o gref, fy mian.-Y Bardd a'r Baban.—Y Nefol Gan. Ychydig eopiau yn weddille Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEIBION, Swyddfa'r Brython," Lerpwf. Ar werth gan y Llyfrwerthwyr. Llian = = = Pris 2/6 Hals o Lundain YSGRIFAU fMYFYRDOD GAS PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. HUGH EVANS A'l FEIBION
OEDFAON NOS SADWRN Glannau…
OEDFAON NOS SADWRN Glannau Mersey. Y Braslun Cyntaf. [GAN BEN Y BRYN.] YR oedd yn nos Sadwrn digon digynnyg i droi allan,—rhywbeth rhwng glawio a pheidio. Ond yr oedd dau allu yn peri i ni fanteisio ar yr oedfa hon. Neilltuolrwydd y He ac enwog- rwydd y doniau. Dau gymhelliad digon anianol, meddweh poed felly, hawdd cael eu gwaelach. Saif y capel hwn, fel teml Moria, yng nghanol y ddinas. Wrth enwi'r capel, ymdaena ton o orchwyledd drosom, gan gofio'r gwr seintiedig a fu'n bugeilio'r praidd o fewn ei fagwyry !d. Heno yr oedd dau o wyr blaenaf y pulpud Ymneilltuol i gyd-bregethu, ac yn ol y trefniant y Saboth dilynol. Yr oedd peth newydd-deb yn y cynllun, sef sicrhau gwr o lwyth arall yn Israel i gydwasanaethu. Daeth cynhulliad enfawr ynghyd, nifer dda o weinidogion ac aelodau y ddau enwad a gyn- rychiolid, heblaw brithiad lied gryno o'r enwadau eraill. Efallai fod pregethwr yn tynnu mwy pan mewn pulpud dieithr. Modd bynnag troes y syniad yn llwyddiant, ac efallai fod awgrym i'w gael yma o agoshad yr enwadau at ei gilydd. Y diwrnod hwnnw daeth brysneges nad oedd y llwybr yn rhydd i'r gwr yr oedd gan yr eglwys hawl gyntaf arno i gadw ei addewid. Yr hyn a fawr ofnwyd a ddigwyddodd, gan fod cynulleidfaoedd ei enwad wedi eu paratoi, ysywaeth, at siomedigaeth o'r fath. Nid oedd neb, mae'n amlwg, yn fwy siomedig na'r pregethwr dieithr ond nid mor ddieithr ychwaith, gan ei fod yn arfer croesi ffin enwad ac yn eiddo cenedlaethol. Oherwydd fod gennym wr mor dda i syrthio'n ol arno nid oedd ein galar yn orlethol drwy hyn cafodd ef fwy o hamdden a'r gwirionedd well chwarae teg. Omega ein hysgrif gyntaf ydyw Alpha y braslun hwn. Nodasom fod ein gwrthrych yn gymeriad amlweddog. Rhaid fydd i'w gof- iannydd gadw wrth ei law wahanol liwiau i'w lennu yn holl amrywiaeth ei hanes. Nid bob dydd, na phob blwyddyn, y deuir o hyd i gymeriad mor gyfartal ei ddoniau, yn cael eu nodweddu gan gymesuredd, a'r cwbl mown cydgord a'i gilydd. Ymddengys ei fod yn fardd o'i febyd, os nad cyn hynny. Bu'n ymgeisydd peryglus, a daeth allan o ornestau cenedlaethol yn goncwerwr. Gelwir am ei wasanaeth ym mhrif wyliau llenyddol ei genedl heb eithrio'r Olympia fawr ei hun. Parod y cystadleuwyr, wedi deall mai efe fydd yn dal y glorian yn ei law, i eistedd yn ewyllysgar ynddi, gan fod yn hyderus y bydd y ddedfryd yn gyfiawn, boed yn gymeradwyol neu'n gollfarnol. Pe mwy o farnwyr fel y beirniad hwn, deuai llu o oreugwyr can, rhaith a chelf i'r gad o ddiffyg hyn erys yr ymgeis- ydd hwn rhwng corlannau y defaid, ac arall yn trigo yn ystlysau y llong. Ond cofier nad yw yfed yn helaeth o ddyfroedd yr awen bur wedi ei ddiflasu i brofi o ffynhonnal1 eraill. Y mae yn bin ysgrifennydd buan mewn mwy nag un iaith, fel pe wedi ei eni yn Gymro a Sais ar un waith. 'Fydd dim ganddo nyddu yagrif glodwiw yn y tren rhwng gadael cartref a chyrraedd pen ei daith, a rhoddir y lie blaenaf iddi yng nghylchgronau enwocaf ein gwlad. Y mae ganddo gyfrol o bregethau wrth ei enw, llyfr o ganiadau yn dwyn ei ddelw, a chofiant yn tyngu mai efe ydyw ei awdur. Nid marwanedigion chwaith mohonynt, ac nid cyfrolau prynadwy yn unig, ond darllenadwy gan wreng a bonedd y tir. Y mae'n ysgrif- ennydd parod, ond nid yw byth yn dodi pin ar bapur heb fod ganddo rywbeth i'w ddweyd, nac un amser yn agor ei enau heb fod ganddo genadwri. Hawlia pob cymdeithas ran ynddo, o'r Cymrodorion hyd Gymdeithas y Traothodau os bydd eisiau cychwyn unrhyw fudiad rhaid ei gael ef i daro ei ysgwydd wrth yr olwyn, a bydd gair ganddo am lyfr a farno n haeddu ei ganmol yn help i'w awdur ysgoi tywallt heilltion ddagrau edifeirwch. Ond fel pregethwr yr erys enw ein gwron ar gof a chadw gan genedlaethau i ddyioo Clywsom ef y neton hon er r ad yn ei oreu, eto ar ei oreu. Yr oedd cyfuniad hapus wedi cyd- gwrdd, ac addewid am oedfa dda, ac ni'n siomwyd. Gwr o daldra canolig ydyw, ei wallt yn dechreu teneuo, a dau wydr crwn, tew, rhyngom a'i lygaid. Nid arwydd hen- aint mo hyn, gan nad yw ond yng nghyffiniau awr ei anterth, a cheir digonedd o rai ieueng- ach yn gwisgo'r un nodweddion. Derllyn ei destyn mewn llais clir, peraidd, yn y ddwy iaith, a hynny mor syml a phlentyn. Rhag- ymadrodda'n fyr, cryno, ac i'r pwrpas,— angenrhaid llwyddiant yr oes hon, oblegid y mae ugain munud o arwain i mewn wedi llwyr ddiflannu a'i gladdu heb obaith adgyfodiad gwell. Cododd dri phwynt, gan eu trafod yn ddeheig a grymus. Gofala roddi'r pen cyntaf yn gyntaf, a'r ail yn ail, gan adael llwybr ei bregeth, fel eiddo'r cyfiawn, i oleuo fwyfwy i ganolddydd ei ddiweddglo. Gallasai gymryd ei gyweirnod nodyn neu ddau yn is y tro hwn, ond daliodd ati hyd y diwedd heb unrhyw arwyddion o or-lafur, yr hyn sydd aflednais mewn pregethwr. Cariodd ei gynulleidfa gydag ef ar hyd gydol y ffordd yn ddiflino, ac ymadawodd y gynulleidfqf fawr gan deimlo ei bod wedi sangu mynydd Duw. Nid bawdd rhoddi bys ar guddiad ei gryfder, na nodi allan ei brif wendid,—prawf eto o'r gwir bregethwr. Er nad yw'n meddu llais clochaidd, nac yn feistr ar esgyn na disgyn, na llwytho ei bregethau a straeon man a hen ac ystrydebol, nac yn fedrus ar yr hyn a elwir weithiau yn f" driciau sanctaidd," eto ennyn sylw'r cyffredinolion heb fradychu chwaeth afiach. Tlysni, sirioldeb, a swyn ddywedai rhai ydyw ei brif nodweddion gwir fod hyn yn ffaith, ond rhaid eu cyplysu a'r arddunol a'r mawreddus, oblegid y mae'n gymaint ffefrddyn gyda'r ysgolhaig, y beirniad, a'r dysgedig. Tyfiant pren ydyw ei bregeth, gweithia o fewn i'r tu faes. Nid pentyriad ar ei gilydd ydyw ei arawd, o bob math ar feini, mewn lliw, llun, a rhyw. Gwlad Canan ydyw ei bregeth, yn llifeirio o laeth a mel. Nid mel yn unig ond o laeth a mel. Dichon i'r ehud dybio'i fod yn colli mewn nerth, a'i fod yn brin mewn diwinyddiaoth, ond diffyg craffter bairi neb feddwl felly. Gwir nad yw'n euog o ebychu, chweithach ymfflamychu; ond tery graig y gwirionedd a ffon ei weinidogaeth, nes ffrydia allan ddyfroedd bywiol, gan lifo ymlaen yn afon lefn, Ion, ddofn, gan ymledu a dyfnhau hyd nes cyrraedd yr Amen. Mae ei bregeth mor fires ag awel, mor newydd a'r bore. Tretha fyd hanes am eglurebau, goresgynna deyrnas natur am gymariaethau. Mae fel pawb, weithiau'n uwch ac weithiau'n is, ond byth yn niwlog. Nis gellir dweyd amdano Yn y daran 'roedd yn aros, Yn y cwmwl 'roedd ei le. Pwy erioed, wedi iddo ddarllen ei destyn, gadd achos i yngan A chwmwl a'i cipiodd ef ymaith." Nid llef un yn llefain yn y diffaeth- weh mohono. Nid loan Fedyddiwr o bre- gethwr ydyw, gan ymddangos ym mhulpud yr anialwch a gwg ar ei ael, daeargryn yn ei lais, taran yn ei oslef, a drycin yn ei wedd, gan son beunydd am dan, bwyell, a gwae. Nid ei ffordd ef i fod yn upright ydyw bod yn down- right ar neb. Na, ymdebyga i loan arall-y disgybl annwyl, gan ddilyn ei Feistr i'r briodas, esgyn gydag Ef i Fynydd y Gwedd- newidiad, ac eistedd wrth ei draed yn yr Oruwchystafell. Mae yn gennad sydd wedi dod o hyd iddo'i hun, a datblygu ar linellau ei greadigaeth ei hun. 0 bell, gallasai rhai dybied ei fod yn ochri gormod at y cywrain, os nad at y ffansiol, gan adeiladu pregeth fawr ar sylfaen gul ac anhysbys, a dosraniadau pell- gyrhaeddol. Ond nid rhaid iddo wrth hyn i hudo clust ei genedl, a sicrhau calon ei wlad,ac y mae o ysbryd rhy ddifrif i ymhel a'r cyfryw betheuach. Er yn gweinidogaethu yn y Brif Ddinas, ac wedi treulio tafell o'i oes gan fugeilio diadelloedd Saesneg, eto picia'n fynyph i Wlad y Bryniau sieryd ei hiaith mor groew ag undyn, a pharha'n Gymro i'r gwraidd. Pe'n caru esmwythyd, a chwannog i elw, gallasai gael y naill a'r llall yn rhatach yn nes i'r He y mae, ond byddai'r aberth yn ddrud ganddo ef, ac nis gallwn ninnau fel cenedl fforddio'i hebgor. o
IAR GIP.I
I AR GIP. I TESTUN NEWYDD.-Cryfder y Cymro I a Gwendid y Cymro,—rhywbeth yn debyg i hynyna oedd testyn traethawd yng nghyfar- fod cystadleuol Methodistiaid y Rhiw, Bl. Ffestiniog, ddydd Sadwrn diweddaf. Un da, a hawdd traethu arno. GRAFIAD Y GASGLWR.—Y mae'r Germaniaid yn dioddef gan brinder copr at amcanion y rhyfel Wel," ebe un o weilch casglyddol Lerpwl yma, mi wn i ymhle y mae llawnder ohono.—ym mlwch casglu'r capel acw, na dim digon o ddarnau gwyn ynddo mewn blwyddyn i wneud cymaint ag un fwlet arfan." URDD YR ELLYN.-Tery'r rhyfel yn drwm iawn ar y barfwyr, canys (1) y mae cynifer o'u ewsmeriaid wedi mynd i'r Fyddin, a'u hwynebau gyda hwy (2) Bydd y rheiny, pan ddychwelont, yn medru eillio'u hunain, canys rhaid iddynt ddysgu gwneud hynny yn y Fyddin (3) 'Does dim modd cael ellyn newydd, gan fod y bobl a'u gwnai yn Sheffield, etc., wrthi bellach yn gwneud bidogau,-sef y bladur angeuol a elwir bayonet. ADNOD AN YSBR YDO LED 1G.—Son am farfwyr ac eillwyr, y mae yna un adnod yn y Beibl nad oes neb o'r urdd honno'n credu ei bod hi'n ysbrydoledig, ac y dylid ei thynnu allan, sef honno yn Numeri vi, 5 Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben nes cyf- lawni y dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r Arglwydd, sanctaidd fydd gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu." k GWEDDJO DROS GEFFYL.-Yr ydym ni Brydeinwyr wedi arfer galw'r Rwsiaid yn hanner barbariaid ond y mae pobl y wlad honno'n gweddio dros eu ceffylau yn y rhyfel cystal a thros y dynion. Ni feddyliodd neb ohonom ni weddio tros yr anifeiliaid druain, a phethau i'w chwipio a'u cystwyo'u giaidd ydynt gan filoedd o bobl Gristionogol y I wlad hon. •5. SIOM FANGOR.- Y mae Mr. Lloyd George wedi gyrru i Fangor i ddweyd ei fod yn gwbl analluog i ddod yno i siarad, fel y disgwyliai, nos Sadwrn nesaf. Parodd hyn siom fawr; ond disgwylir iawn am y siom ymhellach draw ar y flwyddyn. 15? Y GWAS FFARM AR I FYNY.- Y mae cymaint galw am labrwyr a chrefftwyr ynglyn a chodi'r gwersyll mawr milwrol ym Mharc Kinmel, Abergele, nes fod gweision ffermydd yn anodd enbyd eu cael, er fod y eyflog a gynhygir yn llawer uwch nag y byddai. Ifc OES GENNYGH LE ?-Y mae clerc trefol Bangor wedi cael gair oddiwrth y Swyddfa Ryfel yn gofyn oa gellid cael lie i frigad artileri yn y ddinas. 3k- GWYLIWCH Y DYSG YMA YPrif- athro D. R. Harris, Coleg Normalaidd Bangor, a rannai'r gwobrwyon yn Ysgol Sir Pwllheli ddydd Iau diweddaf, ac a dynnodd amryvr wersi buddiol oddiwrth y cam-ddefnydd dybryd a wnaeth Germani o'i chyfundrefn addysg. Fe'i darostyngodd i oferedd, ac a'i defnyddiodd i amcanion materol ac anysbryd- ol; gwyliwn ninnau wneud yr un peth. DYNA'R YSBRYD.—Yr oedd Mr. J. D. Jonea-eyn bostfeistr Bangor, sydd bellach yn byw ar ei bensiwn-wedi anfon at y Llywodr- aeth i ddweyd y cymerai le unrhyw un a ddymunai fynd i'r rhyfel; ac y mae bellach wedi cydsynio i gynorthwyo Llew Tegid yn swyddfa ymrestru Bangor. Chwarae teg iddo am ei blwc a'i aberth, ym mhrynhawn ei oes. Y DYN YN FARW OND EI WAITH YN FYW.—Yn eu Hid at y gelyn, yr oedd llawer o bobl Cymru a Lloegr wedi mynd i gau pob cerddoriaeth Germanaidd oddiar raglen pob cyngerdd ond mewn cyngerdd yn y Trallwng (W elshpool) yr wythnos ddiweddaf -(a gedwid gan Mri. M. Lavareux, pianydd Llys Brenhinol Belgium, a Meolas Lauareuq, crythor y Brussels Opera, dau sy'n cynnal cyfres o gyngherddau yng Nghymru'r dyddiau hyn)-porf forraiwyd gweithiau Beethoven a Brahms. Debyg iawn Pa ddiben glafoeri Hid ar weithiau athrylith sy'n fyw er fod eu hawduron yn farw ? DA 'NGWAS I.-Dyna, a'i roi mewn iaith gartrefol, oedd ystyr y llythyr a gafodd Mr. Archibald, 26 Park Street, Gwrecsam, o Bias Buckingham y dydd o'r blaen, yn diolch iddo am roi pum mab i'r Fyddin. k- SNECH-FASNACHU AR Y SUL.- Dirwywyd tri o fan-siopwyr Aberystwyth, ddydd Mercher diweddaf, i goron a'r costa. ] am snech-fasnachu 'n groes i'r gyfraith ar y Sul. Ac ebe un o'r tri, yn wyneb galed :— I Pam y gwnewch fwch diangol ohonof fi, ac y gadewch lonydd i'r rhai sy'n gweiddi a gwerthu papurau, yn marchog yn eu moduron, ac yn chwyrnellu ol a blaen i Bont y Gwr Drwg ? k UN FEL HYN A'R LLALL FEL ARALL.-Y mae pobl Llangollen, drwy gyfarfod cyhoeddus a chael llais y prif drigol- ion drwy fynd i'w ofyn o dy i dy, wedi pen- derfynu rhoi heibio Dydd Gwyl Fai-sef y May-Day-am yleni, ar y tir mai nid rhyw weddaidd iawn fyddai cymaint o firi a lla- wenydd ynghanol cymaint o dristwch a thywallt gwaed. Ond yn rhyfedd iawn, yr oedd pobl y Rhyl, yr un noson yn union, yn penderfynu cadw'r wyl a'r helynt eleni fel arfer. TRI PHETH LEWIS THOMAS.- Wrth siarad ym Mwrdd Gwarcheidwaid Ffestiniog yr wythnos ddiweddaf, dywedai Mr. Lewis Thomas fod pobl y Gofeb Genedl- aethol yn gwario wmbredd gormod o arian ar godi adferdai (sanatoria) costus a phalasog ac ar baratoi ystadegau golygus ac mai llawer gwell fyddai gwario'r arian ar roi gwell bwyd i'r darfodedigion tuallan cystal a thufewn i'r adferdai. Ni wellwch chwi'r un claf byth a'ch ffisig, pe'r yfai alwyni, ohono, ebe Thom- as, ac os am gael y goreu ar yr hen nychtod hwn, dyma'r unig ffordd i chwi cael y ty'n lan, yr awyr yn ffres, a'r bwyd yn faethlon. Tri pheth go dda, Lewis Thomas a phe caem ni un peth arall atynt—calon ddidwyll a diolchgar i'r Rhoddwr-dyna hi'n o low j arnom o ran y ddau fyd wedyn. LLEISIAU H UDDERS FIELD. — Bu Cor Meibion hyglod Huddersfield, yn bed- war ugain o leisiau, yn cadw rhes o gyng- herddau ar lan m3r Cymru'r wythnos ddi- weddaf, tan arweiniad Mr. G. H. Moody. Canent ym Mhafiliwn Piar Llandudno nos Wener yng Nghonwy brynhawn dydd Sadwrn ac yng Ngholwyn Bay nos Sadwrn a phrynhawn a nos Sul. Nid eisiau mynd a dim o'u gogoniant oddiar leisiau Huddersfield sydd arnom ond y mae'n wir fod poblogaeth swydd Yore yn fwy Cymreig na Seisnig yn y bon, byth er yr adeg y darostyngwyd y darn hwnnw o'r wlad gan y Sacsoniaid a dyna'r pam fod yno gystal corau'n codi o hyd. Gwenwyn sydd arnoch ebe rhywun. Nage, wir Rhoi rheswm yr ydys pam y maent yn gantorion mor fwynion, canys cofiwch mai prin y mae bugeiliaid ffriddoedd uchaf sir Efrog eto wedi darfod cyfri'r defaid yn Gymraeg. Oes, y mae rhywbeth yn y peth, yn siwr i chwi. k LLENORION Y LLAN.-Y mae Cym- deithas Lenyddol Llangollen am gadw Gwyl Ddewi heno (nos Iau), a dyma'r llinellau, gwaith Glanceri,sydd ar glawr y rhaglen dlos ei hargraff a'i chyflead:- Hoff Walia Wen 0 cwyd dy ben A gwel y nen yn gwenu Mae'r euraidd wawr ar dorri'n awr, Mae'r diwrnod mawr yn nesu Rho'th ffydd yn Nuw. Mae'th iaith yn fyw Yn sain dy swynol gerddi, A meibion glan Hen Wlad y Gan Fel cedyrn cad yn codi. Y mae cryn dipyn o 61 Mr. A. Parry Morgan, yr ysgrifennydd a'r ysgolfeistr medrus, ar y I rhaglen. I BWYD AO NID BWLEDI.—A barnu oddiwrth a ddywed Miss Mary Jones, sydd newydd fedru cyrraedd adrcf i Lanbedr, sir Aberteifi, o Berlin, lie y gwasanaethai fel governess yn nhy'r postfeistr, gellid meddwl mai prinder bwyd ac nid amledd bwledi sy'n mynd i benderfynu'r rhyfel. Dywed fod ymenyn yn hanner coron y pwys yno pan oedd hi'n ymadael, a chig ac felly'n y blaen yn gyfatebol ddrud. Diafliaid duon y gelwid yr Indiaid a ymladdent gyda'rPrydein- iaid, a gwell gan y Gerrraniaid sgrythu yn y trenches, er eu gwlyped a'u butred, na dod i'r clwt a'r wyneb i gael eu trywanu a llafnau hirion yr ymladdwyr teigraidd a chyflym eu naid hynny. OEDWN HI ;-Y mae pwyllgor Eistedd- fod Prestatyn, oedd wedi ei chynnal yn ddi- fwlch bob dydd Llun y Sulgwyn ers pymtheng mlynedd, wedi ei rhoi heibio am eleni oherwydd clem y rhyfel. k MAB LLECHWEDD CANOL.-Daeth gair i Harlech fod y Preifat Wm. Owen, catrawd y 3rd Welsh, a mab Mrs. Margt. Owen, Llechwedd Canol, wedi ei ladd yn Givenchy, lonawr 25ain. Yr oedd yn bump ar hugain oed, ac yn Ffrainc er cyn y Nadolig. GYMRTTN GWNEUDEI RHAN.- Mown cinio milwrol yng Ngholwyn Bay nos Iau ddiweddaf, dywedodd y Cyrnol Syr Hamar Greenwood, A.S., ei fod yn falch, fel mab i Cymro o Sir Faesyfed, fod Cymru'n tynnu allan mor ardderchog; fod rhwng 60,000 a 70,000 o fechgyn yr Hen Wlad yn y Fyddin heb gyfrif yr un o'r miloedd oedd wedi ymuno a'r Fyddin Gymreig; ac wedi i'r awdurdodau ganiatau inni gael catrawd o Welsh Guards, y dylem sythu bellach am gael Welsh command, ac nid bodloni ar fod yn Cinderella'r Deyrnas Gyfunol. BENDITH Y BONT.- Y mae pont newydd Llangernyw bellach wedi ei gorffen ac yng Nghyngor Llanrwst ddydd Iau di- weddaf, dywedodd Mr. Robert Williams ei fod yn disgwyl pethau go bwysig oddiwrth ei hagor, canys clywai fod gormod o lanciau dibriod ar gael yn ochr Gwytherin iddi, a gormod o ferched dibriod ar ochr Llan- gernyw; ac felly, wedi ei hagor fel hyn, gobeithiai y byddai'r bont yn foddion i ddod a'r meibion drosodd at y merched y tu arall iddi" ac y caent fyw i fendithio'r bont am roi achlysur iddynt ddechreu caru a gwneud eu dyledswydd at y wladwriaeth. A chlwcian chwerthin dros y lIe ddarfu gwedd- ill aelodau'r Cyngor. -c-c GWRYCHYN CAERNARFON.-YN bur naturiol, yr oedd gwrychyn Caernarfon wedi codi'n syth iawn y dyddiau diweddaf yma oblegid gwaith rhyw Sais sydd yno'n edliw i'r dref mai bach iawn o'u bechgyn rhagor ddylasai oedd wedi ymuno a'r Fyddin ond aed i chwilio, a'r ffaith yw fod yn agos i chwe chant ohonynt gyda'r Fyddin neu'r Llynges, allan o boblogaeth o 9,200. Hyn o fechgyn y dref yn unig, heb gyfrif neb o'r plwyfi cyfagos y tuallan iddi.