Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
4d. yr un. 'GOMERYDD Y PLANT; Gwerslyfr i Ddosbarthiadau Cymraeg. Wedi ei ysgrif- ennu a'i drefnu o dan nawdd Undeb Ysgolion M.C. Lerpwl. Gan y Parch. OWEN EILIAN OWEN. MOSES O'r Cawell a'r Mor Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIK. 3d. yr un. ALUN, sef Barddoniaeth Rydd JOHN BLACKWELL, gyda Rhagymadrodd gan TOLO CAERNARFON. COF A CHAD Wain Eisteddfod Fawr Llan. gollen, 1858. Y prif fuddugwyr, eu Hun a'u gorchest. 2d. yr un. ADRODDIAD Y COMISIWN EGLWYS- IG. CrynhodI ac Adolygiad. Gan y Pareh. O. L. ROBERTS. MOSES BACH: Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. VWESTIYNAU AR YR EPISTOL AT Y RHUFEINIAID. Gan y Parch. GRIFF- ITH ELLIS, M. A., Bootle. Rhan II pmaodau 9-10. Y Ddrama. P W Y BIAU'R GAD AIR ? Drama ddig- rifol gan DEWI MAl o FEIRION. Amlen, 9d. .B8SS&: O'r Cawell a'r Mor Coch. Drama j Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. Amlen, 4d. .MOSES BACH: Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HiR. 2d. BM YNA U DETHOLEDIG ar gyfer Cyfar- fodydd neilltuol. 75 o rai Cymraeg, ac 20 a rai Saesneg. Mewn amlen, 5s. 6d. y cant. Llyfrau Adrodd. <VODER HWYL Llyfr Newydd o Adrodd- iadau, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BRYTHON. 154 o ddarnau, 200 tudalen. Y Sylltaid goreu a helaethaf yn yr iaith. Trydydd Argraffiad. Amlen. Llian, 1/6. Y MORTHWYL: saith ugain o Adrodd. iadau. 200 tudalen. Amlen. YR AIL FORTHWYL: saith ugain o Adroddiadau. 200 tudalen. Amlen. Y ddau FORTH W YL wedi eu rhwymo ynghyd, mewn llian hardd, 2/6. Caneuon. 1/- yr un. BRMNIN Y MAES (King of the Meadow). Can i Bass. Yn y ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. 7 GARREG FILLT1R (The Old Mile S*ome). Mewn dau gyweirnod-Tenor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant—Geiriau Cym- raeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. 6d. yr un. CLOD GWYL DEWI SANT (The Praise of St David's Day). Song and Chorus Ya y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. JOHN HENRY, R.A.M. DOLI FWYN (My Fairest Dolly). Can i Enethod. Gan PEDR ALAW. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Gymraeg a Saesneg. HEN AELWYD FY MAM (The Old Hearth Stone). Mewn dau gyweirnod- Tenor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymareg neu Saesneg. Gan Jonz-T HENRY. AT THE CROSS (Wrth y Groes). Can Gysegredig mewn dau gyweirnod Sop- rano a Tenor, neu Contralto a Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saes- neg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. DWY ACTION SONG-THE LITTLE SOLDIERS (Y Milwyr Bychain), a THE LITTLE NURSES (Y Mamau Bychain.) Y geiriau a'r gerddoriaeth gan PEDR ALAW. Tonic Solffa, 2d. yr un. Hen Nodiant, M. yr un. SELENE (Sister of the Dawn). Four-part Song (S.A.T.B.). By JOHN HENRY,R.A.M. Old Notation. SELENE (Sister of the Dawn). Part-Song arranged for S.A.S.A. English and Welsh word,by JOHN HENRY, R.A.M. Arranged especIally for the Juvenile Choir Com- petition of the Royal National Eisteddfod of Wales, Liverpool, 1900. Tonic Solffa, U. Old Notation, 4d. ANTHEM GYNULLEIDFAOL- GWREGYSA DY GLEDDYF, 0 1 flADARN. JOHN HENRY, R.A.M. Tonio Solffa, lid.; Hen Nodiant, 4d. Hen Lyfrau. LLTFR GWEDDI Y CATHOLIG, neu ymarferion y bywyd Cristionogol yn ol athrawiaethau gwir Eglwys lesu Grist. Argraffwyd yn Lerpwl, 1837. Ychydi. gopiau (lledr), 1 /6. HUGH. IYRIS & SOBS, Swyddfa'r "Brython," 356-8 STANLEY RD., Liverpool.
[No title]
w@-g .0 Big y Lleifiad
w @ -g 0 Big y Lleifiad Set' Byd a flelynt Cymry LerpwL YR HAUL RHAGOR Y SEREN- Ni wyddwn i ddim erioed o'r blaen fod gan Pedrog elyn nes y gwelais sylwadau Gol. Seren Gomer ar englyn y Prifardd i'r Caimar. Gan fod yr ymosodydd eisoes wedi cael atebiad mor effeithiol, ond yn batrwm o Grist- ionogol a boneddigaidd rhagor ei ymosodiad of, ac na raid i'r Prifardd mwyn a galluog wrth gymorth neb i achub ei gam, ni waeth imi heb na'i godi i olwg y byd ar drostan Y BBYTHOIT. Yr unig beth ddywedaf yw hyn y rhaid i ddyn bach, os am gael dod i'r amlwi a ehreu dipyn o son amdano'i hun, ymosod ar ddyn mawr a mwy ddwywaith nag e'i hun. Ni chlywsoch yr un Cymro erioed, oddiyma i bedwar ban byd, yn gofyn Pwy ydyw Pedrog ? ond ar ol darllen Ffetan y Gol., fe glywyd cannoedd yn gofyn erli pythofnos bellach, Pwy ydyw'r Wyre Lewis yma, deudwch ? Ni chlywais i mo'i enw yrioed o'r blaen ? A dyna'r gwahaniaeth rhwng y ddau,—pawb yn gwybod am un, na neb yn gwybod am y llall, nac yh ei glywed chwaith nes iddo goethi a chyfarth ar un o'r dynion mwya'i barch a gloewa'i .bin drwy Gymru t gyd. Ac wrth feddwl am y ddau, ni fedrwn i yn fy myw beidio a chofio am Yr Haul, awdl fawr fuddugol Pedrog yn Eisteddfod Genedl- aethol 1891, ac un o rai goreu'r iaith, ebe'r Athro John Morris Jones, ac fay mor lawn o oleuni ao o danftidrwydd athrylith rhagor y goleu benthyg oer ac ail llaw sydd fel cannwyll frwyn yn ffenestr y Seren. Nid taflu bomb i lawr ddarfu dyn y Seren, ond ceisio'i thaflu ar i fyny at ddyn Yr Haul ond 'doedd dim digon o nerth yn eiffraich i gyrraedd cyn belled, a dyma'r bomb yn disgyn yn ol ar ei ben ef ei hun, i es ei ddiffodd yn glir o'r golwg. Dyna sy'n digwydd bob amser pan aiff rhyw Seron fach i lartshio o flaen yr Haul. Gwelais sylwadau ffraeth a chyrhaeddyar Huwco Penmaen yn y Rhyl Advertizer ar y peth ac os mynnai'r Parch. Wyre Lewis wybod beth yw barn ddieithriad y wlad am y gwr yr ymosododd mor amherthynasol arno, dyma hi, sef allan o awdl Yr Haulei hun :— Gosgorddog was y Gwirdduw— Gwas o dan ar neges Duw. YR HEN B WEB A U- Y Parch. J. G. Moolwyn Hughes, M.A. Ph.D., Aberteifi, a'r Parch. T. Chas. Williams M.A., Porthaethwy, oedd dau wahoddedig eglwys Crosshall Street eleni i gadw ei chyfar- fod pregethu blynyddol. Pregethai'r ddau yn yr oedfa nos Sadwrn, a'r adeilad dan ei sang eithaf o Gymry dau tu'r afon, Olil nad pellach na hynny. Drannoeth, sef y Sul, pregethai Dr. Moelwyn Hughes y bore a'r nos, a'r Parch. T. C. Williams yn Saesneg yn y prynhawn. Os na ddaw ffrwyth ar ol hyn, nid ar yr had na'r ddau heuwr y bydd y bai, canys yr oedd yr Efengyl yno yn ei grym a'i hurddas, ac yn cael ei thraddodi gyda phob ymgais i'w hanelu a'i suddo i ddyfnder calon pob un o'r tyrfaoedd mawrion oedd yno'n ei gwrando mor achlust a llawn o fwynhad. Yr oedd Pen y Bryn yno nos Sadwrn a synnwn i ddim ei weld o yn rhoi'r oedfa honno a'i dau dan ei bwyntil yn Y BRYTHON mass o law, yn debyg i'r fel y gwna Ag oedfa arall ar tudal. 5 o'r rhifyn hwn. Oedfaon fei y rhain bair i ni gredu gyda Dyfed Mae'r Hen Bwerau eto yn y wlad, Pwerau cariad a maddeuant rhad Yn plygu'r byd yn dyner ar ei lin, A'r sanctaidd dan yn llosgi ar ei fin Mae creigiau'n symud ac yn toddi'n llyn, A Gwaed y Groes yn troi y du yn wyn A gwelir ffydd, fu yn y storm cyhyd, A'i breichiau'n nghlwm am wddf Gwaredwr byd. NOSON FAWR FITZCLARENCE- Y mae hi yn noson fawr, fawr, yn oglwyø Fitzclarence Street nos Sadwrn nesaf, sef noson dathlu agor y capel hanner can mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1865. Dengys yr hysbysiad pa ryw wyr enwog ac o bell sy'n dod yno i siarad, a diau y bydd y lie dan ei sang o bobl y lie ac o eglwysi eraill y ddinaa a'r cylch. Ac heblaw'r cyfarfod a'r anerchiadau gwerth eu clywed, bydd yno beth gwerth ei weled hefyd, sef Llyfr Cronicl yr Eglwys, o'i chychwyn cyntaf yn Rose Place yn 1826 hyd yn awr, wedi ei gasglu gan Mr. Stephen Roberts, sydd inor ddyfal a hyddysg a'r hanes i gyd. Bydd yn hwnnw fyr-gofiant o'r gweinidogion enwog fu'n bugeilio'r eglwys, a'r blaenoriaid, cryfion iawn rai ohonynt; fu yn set fawr yr eglwys; llun y diweddar Ddr. John Hughes a'r Parch. J. Hughes, M.A., a llun hen gapsl Rose Place ac adeilad presennol Fitzclarenee Street. Y mae'r cwbl wedi ei argraffu'n lan a hudol yr olwg, ac wedi ei drefnu'n daclus a hawdd ei ddilyn a rhwng popeth, bydd Llyfr Cronicl Fitzclarence yn gof-a-chadw gwerthfawr ar y Noson Fawr Jiwbil Agoriadol y Capel. Nos Lun nesaf, Mawrth laf, bwriedir cynnal cyfarfod i'r eglwys, a gwahodda'r swyddogion bob cyn-aelod i fod yn bresennol yn y t. a'r cyfarfod dilynol. SIOM FAWR A MYMPWY IPWY- Er na ddeil Neuadd Y.M.C.A. Grange Road, Birkenhead, fwy na rhyw wythcant neu naw, yr oedd miloedd a'u bryd ar ymwthio amle ynddi nos Iau ddiweddaf, sef i'r cyfarfod mawr milwrol oedd i'w gynnal ynddi at chwyddo rhengau'r Fyddin Gymreig yn Llandudno. Euthid i draul fawr i argraffu posters mawr a bach, hysbyswyd y peth yn y papurau, Cymraeg a Saesneg yr oedd Arglwydd Derby, y Brigadier-General Owen Thomas, Capten Rd. Lloyd George, Mr. Big- land, A. £ a Mr. G. C. Rees i f od yno'n siarad, a chor meibion o fechgyn y Fyddin yn dod yno'n unswydd o Landudno i ganu dech- reuodd y bobl hel yno ddwyawr o flaen amser dechreu ond druan oeddynt dyntt lle'r oedd rhenc o blismyn syth yno i ddweyd fod y sy,farfod wedi ei wahardd, ac a gyfeirient eu fion at T Cancelled oer a mympwyol oedd wedi ei argraffu ar draws y poster wrth ddrws y nouadd. Mr. T. T. Rees oedd trefnydd lleol y cyfarfod, a chydymdeimlid ag ef a'i gyn- orthwywyr, am fod yr awdurdodau wedi gorchymyn nad oedd y cyfarfod i'w gynnal, a hynny ddim ond ychydig oriau cyn ° ei ddechreu. Sibrydid mai eidd- igedd oedd wrth wraidd y gwaharddiad, sef rhag ofn iddo niweidio'r ymrestru k chatrawd leol y ChHhirN. Sut bynnag, collwyd eyfle campus, sanys buasai'r neuadd yn orlawn o Gymry m Saeson, ac a gawsent ymuno a'r gatrawd a fynnent, llool neu arall. Mawr oedd y siom, a mwy fyth y fympwy. IP r DDA U WELD Gofynnwyd i hen frawd yng Ugha»tell nedd a cedd ga ddo ofn marw. Ac ebe fo 'Does gen i ddim orw marw, ond maf) gon i GYWILYDD MARW." Mae'r Iesu'n ein gweled ni'n WABTH nag yr ydym yn ein gweled ein hunain, am ei fod yn edrych arnom drwy'r GWAED, a thrwy hynny yn gweled pechod yn dra phechadurus end diolch, y mae yna wirionedd gwrth- gyferbyniol hefyd mae Itsu Grist yn ein gweled ni'n WELL nag yr ydym yn gweld ein hunain,—fe'n gwel ni drwy'r GWAED nid fel yr ydym, ond fel y BYDDWN !—Dr. Moelwyn Hughes yn Crosshall Street. 'III WRTH GOLLI LEWIS MORRIS- Bu Mr. Lewis Morris, Llys Tanat, Laird Street, Birkenhead, farw ddydd Sul diweddaf, yn anterth ei ddyddiau, tua'r hanner cant oed, ac wedi rhai wythnosau o gystudd blin, gan adael gweddw a dau blentyn i alaru am dad a phriod na fu ei dynerach na mwy gwir gref- yddol ar aelwyd. Brodor o'r Briw, ger 1 Llanrhaeadr ym Mochnant, ydoedd, ac oedd yma ers tua dwy neu dair blynedd ar hugain. Bu rai blynyddoedd yn y Fyddin ym more'i oes; dyna'r adeg y cafodd droedigaeth amlwg, ac yr ymroddodd i waith crefyddol dros ei gyd-filwyr ymhob man lle'r elai gyda hwy. Wedi ymsefydlu mewn busnes fel groser, a llwyddo, cysegrodd un o ystafelloedd ei dy uwchben y siop i gynnal moddion crefyddol bu'r lie hwnnw ar blan cylchdaith y Wesleaid Oymreig am fiynyddau, a cheid cyfarfodydd gwedc io, pregethu ac yn y blaen yn yr y3tafell honno a fu'n fendith ysbrydol i lawer un. Yr oedd yn flaenor era blynyddau yn eglwys Wesleaidd Claughton Road, yn drysorydd y Trust, ac yn bregethwr cymeradwy a pharod I ei ymadrodd yn y ddwy iaith. Ar yr oedd ei reatr a'i ddosbarth-a, rifai'n fynych o drigain i ddeg a thrigain-yn un o'r rhai mwyaf byw a I gwasanaethgar a gwir adeiladol a geid yn unrhyw eglwys. Dyn addfwyn ydoedd, hoff o o heddwch a thangnefedd yn anad dim; gonest a thrwyadl i'r gwraidd ac yn gref- yddol, nid am fod arno ofn cosb nae eisiau gwobr, ond am fod ynddo reddf ac anian i'w hoffi er ei mwyn hi ei hun. Dyma un o'r colledion trymaf a gafodd yr eglwy. hon er pan y mae ac fe'i perchid ac a'i hanwylid gan bawb a'i hadwaenai y tuallan i gylch ei gyfundeb. Cleddir heddyw (ddydd Iau) ym 1 mynwent Flaybrick Hill; a daw gair am y cynhebrwng yn y rhifyn neaaf. .n IpNILL Y BRYN IAU ETO- I Wedi gweld cyfieithiad Mr. Ernest Hughes I yn Y BRYTHON diweddaf o'r emyn 0 Fryniau Caersalem ceir gweled, etc., dyma ddau arall i law, y cyntaf yn waith y diweddar Mr. W. G. Jones, Lleyn, Camden Street, Birkenhead :— From Salem's high hills shall be surveyed The paths of our pilgrimage all; Their joys and their sorrows together In sweetness I then shall recall And look on my fears and the tempest On horrible death and the grave, Secure, in love like an ocean, In peace I shall float on its waye. A'r ail o waith y Parch. John Thomaa, M.A., Myrtle Street gynt From Salem's bright -ummit. beholding, The desert's long track we shall view; Ah then 'twill be sweet to remember The mazes that we have pasted through I To see all the storms and the trials, And death with its terrors and throw, While we far above them are laving In fountains of love and repose. I Beth mor anodd ei gyfieithu ag emya, kale golli'r peth hwnnw sydd ymhob un iawn. » HYN AC ARALL— I Y n lieu cinio Uwyl Ddewi arferol, y inae Cymry Cilgwri-xef Cymdeithas Genedlaethol Wallasey a'r cylch-wedi trefnu cael Cwmni Martin's Lane i berfformio drama Helynt a Heulwen, y manylion i'w gweld yn yr hysbys- iad ar tudal. 8. Mawr yw clod y cwmni hwn, a chewch noson o ddiddanweh glaa a* o wersi buddiol yr un pryd. k Dyma ddisgrifiad byr a ehryno un oedd I yno o Gyfarfod Dirwestol Fitzclarence Street nos Fercher yr wythnos ddiweddaf :— "Cadeirydd mawr, cynhulliad mawr, disgwyliadau mawr, mater mawr, gelyn mawr, dyledswyddau mawr, ac ynghanol rhyfel mawr mawr, cawsom fendith ac adgyfnerthiad mawr." Y mae'r Parch. John Thomas, M.A., bugail eglwys Fedyddiol Saesneg Myrtle Street am un mlynedd ar hugain, ond a'i rhoes hi i fyny y Ilynedd, wedi cydsynio a galwad eglwys Sutton, Surrey, ac i ddechreu yno fill Hydref nesaf. •5b Cynhelid cyfarfod pregethu eglwys Anni- bynol Vittoria Street, Birkenhead, fel y canlyn Nos Sadwrn ddiweddaf, pregethodd y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Laird Street bore Sul, y Parch. O. L. Roberta, y Tabernacl y prynhawn, y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Claughton Road a'r hwyr, y Parch. W. M. Jones, Parkfield. Caed cenadwri a bias ami a hyfryd iawn oedd cael clywed cenhadon tri enwad gwahanol yn cyhoeddi'r Cymod mor frwd ac enillgar. 'l'r01:'r dwr yn win oedd testun pregeth yn un o gynu'liadau Cymreig Birkenhead nos Sul ddiweddaf ac ar ei diwedd dyma hen wreigan at y pregethwr, ac ebe hi Y mae'ch sylwadau yn galw i'm cof y cwcsuwn a ofynnwyd i feddwyn oedd wedi cael troedigaeth Ydych chwí'n credu fod Iesu Grist wedi troi y dwr yn win ? Credu ydwyf, debyg iawn, achos mi wn i iddo droi'r cwrw'n ddod- refn i nii. pl- Cafodd Cymdeithas Lenyddol M. C. Princes Road wledd flasus anarferol nos Fawrth yr wythnos hon, yn gwrando Mr. J. J. Thomas. blaenor hysbys yr eglwys, yn traethu ar ei Atgofion am Ddiwygiad '59. Da a diddorol tuhwnt, ac o lygad y ffynnon, nid yn ail llaw. Mr. R. Lloyd Phillips yn y gad air a'r Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., a Mr. J. Frimeton yn talu teyrngod o ddiolch cynnas iawn ar y diwedd.
I DAU TLJ R AFON. I
I DAU TLJ R AFON. GRHAT MHMIY STBIRBT.NLeilltuwyd y Sul diweddaf yn arbennig fol Gwyl yy Ysgol Sabothol, a ehafwyd cyfarfodydd grymus air hyd y dydd. Wele'r prif bethau :—Yn y bore Adrodd Math. v, 1-21, Miss Jeanio Hughes gweddi, Mr. James Owen unawd, Y Pennill adroddai fy nhad, Miss M. E. Roberts; arholi y rhai mewn oed ar Math, vi 1-21, y Parch. Rhys T. Williams. Yn y prynhawn, cyfarfod y plant a'r bobl ieuainc Detholiadau o raglen y Gymanfa Ganu gan y plant, o dan arweiniad Mr. W. A. Humphreys. Deuawd, Plant bach dedwydd, Lily Jones ac Eveline Jones adrodd Psalm xix, gan bed- war o'r plant Maggie Thomas, Eva Overton, Aneurin Humphreys, a David Jones, o dan ddisgyblaeth Mr. David Davies (arolygwr y plant) adrodd Heb. i, 1-14, Ethel Lewis. Arholi'r plant a'r bobl ieuainc gan y Parch. Rhys T. Williams. Yn yr hwyr adrodd Math. vii, 7-29, Miss Elsie Foulkes. Pregeth yr Wyl, y Parch. D. Adams, B.A. Diar. ii, 22-25, Math. x, "Derbyniaaoeh yn rhad, rhoddwch yn rhad." Gwyl lwyddiannus iawn ymhob ystyr, ag eithrio'r presenoldeb. Pregethodd Mr. Adams yn gryf anarferol, a gobeithiaf y gwelir ffrwyth da o'r hyn a wasgai adref i bob aelod. Dymunaf gydnabod fy niolch i bawb fu'n gwasanaethu at wneud yr Wyl yn llwyddiant.—Arolygwr. LAIRD STREET.—Nos Fercher, yn y Gym- deithas Lenyddol, caed dadl, Pa un ai merch o'r wlad ynteu merch o'r dref wna'r wraig oreu ? Y Wlad-Mr. Alun Thomas y Dref-Mins Evans, Haldane avenue. Caed dadl fywiog a doniol a chynhulliad da, a chymerwyd rhan gan Mrs. Vaughan, Mrs. Thomas, Mrs. R. J. Griffiths, Miss Eluned Jones a Miss Williams (Alderley Street), Mri. Emmanuel Evans, Evan Evans, David Evans, John Evans, R. E. Roberts, W. Edwards, Gough Williams a Rd. Rowlands. Ni roddwyd y mater i bleidlais. Llywyddwyd gan y Pfurak. T. J. Rowlands, M.A.,B.D.—R.J.Q. Dyma hanes diweddar rhai o feahgyn Pitzelarence Street aeth i't Fyddin:— 1. Al d O. Roberrts, Judges' Drive, wedi ei benodi yn 2nd Lieutenant yn 17th Regimsnt y Royal Welsh Fusiliers yn Llandudno 2. G. Yale Lloyd, Argyle Road, wedi ei dros- glwyddo o'r 20th Kings Liverpool Regiment, Prescot, i fod yn 2nd Lieut. yn y 10th Welsh Regiment yn y Rhyl. William Lewis, Heyes Street, o'r 18th Kings Liverpool Regiment, wedi ei benodi'n Assistant Paymaster yn y Llynges. Y mae John E. Williams, Wylva Road, yn y ffosydd yn Ffrainc arm wythnosau, ond yn iach a chalonnog. Dau arall sydd yn y peryglon yw T. Glynn Williams, Kemlyn Road, assistant paymaster yn y Llynges, a Howel P. Williams, mab y diweddar Ddr. Hugh Will- iams, sy'n surgeon probationer ar H.M.S. Martin. CYMDEITHAS POBL IETJAINO AKHILB RD. Nos Wener ddiweddaf, croesawyd y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Laird Street i'n plitH, ac yr oedd y cyfarfyddiad yn un hynod o hapus. Testyn ei anerchiad oedd Ficer Prichard a Channwyll y Cymry, a chafwyd noson ddiddan ac adeiladol tuhwnt. Ar ol bras-linelliad o brif ddigwyddiadau bywyd y Ficer, dangosodd safon isel gwerin Cymru mewn dysg a moes y pryd hwnnw. Yr oedd caneuon dichwaeth mewn bri mawr, ac er mwyn denu'r bobl, cyfansoddodd y Ficer benhillion yn yr un dull o ran mydr ac arddull, ond o nodwedd uwch mewn testyn a chynnwya. Canlyniad hyn oedd y easgliad a elwir Cannwyll y Cymry. Cawsant ddylan- wad mawr ac iach ac y maent hyd heddyw yn smau doethineb. Darllenodd Mr. Rowlands enghreifftiau ar amrywiol destynau, a gwnaed argraff ffafriol neilltuol gan y gweinidog ieuanc, gyda'i ddull naturiol a phleserus o drin ei destyn. Diclchwyd iddo'n galonnog gan y Parch. John Owen a Mr. Samuel Roberts, so hefyd i'r eadeirydd-Mr. James Veamore, Y.H.—am lywyddu mor ddeheig. CBItMABAtTH DREFOL CHWIORTDD M.C. LERPWL.—Cynhaliodd y ehwiorydd sy mor ddyfal gyda'r gwaith hwn gyfarfod yng nghapel Princes Rd. brydnawn Mawrth yr wythnos hon. Mrs. E. R. Jones yn y gadair,a'r Chwaer Evans yn dechreu drwy weddi. Caed ei hadroddiad gan ysgrifennydd y mudiad, sef Miss Owen, Rhianfa, ac eglurodd fod Mrs. Wm Thomas, llywydd y pwyllgor, a Miss Morris, un o'r trysoryddion, y* methu bod yn bresennol. Dangosai'r adroddiad fod y gwaith yn mynd rhagddo, er nad yn camu'n fras a chyflym hwyrach. Hysbyswyd fod y Chwaer Williams a'i bryd ar yr ystad briod- asol a datganodd Mrs. E. R. Jones a Miss Owen eu gofid a'u chwithtod o'i cholli hi a'i gwasanaeth ffyddlon, ac a ddymunent Dduw yn d6 dros ei haelwyd newydd. Mrs. Shilston Watkins, llywydd cangen Lerpwl o'r B.W.T.A., oedd y prif lefarydd, ac a dra- ddododd anerchiad campus ar waith ataliol ac arbedol, ac yn y blaen, gan olrhain yr hyn a ystyriai hi oedd achosion cymaint anfoes ac afledneisrwydd. Bu'r rhyfel yn foddion i ddangos llawer peth da, yn enwedig ymysg y merched, a dileodd bob gwahaniaeth dos- barthiadau ac yn y blaen. Y peth sy'n eisiau ydyw gwasgar y daioni hwnnw, a'i gael i dreiddio i galon y genedl, er mwyn i ddiwygiad cymdeithasol lwyddo a chyflymu ymlaen ar 01 i'r rhyfel beidio. Yr oedd Uiaws o'r chwior ydd a weithient ym mharthau isel y trefi yma yn diffygio a thorri eu calonnau wrth weld cymaint o feddwi; ond dal i weithio'n ddewr ddi-ildio ddylem er cyd o ffordd oedd rhyngom a medru codi'r bobl o ffosydd eu chwant. Caed y daflen ariannol gan Miss Ethel Thomas, a chymeradwywyd ei bad- roddiad hi ac eiddo'r ysgrifennydd.—Yna caed anerchiad gan y Chwaer Williams ar ei gwaith hi yn Lerpwl—yn bennaf gyda'r genethod. Canodd y Chwaer Williams hefyd yn ystod y cyfarfod, a Miss Nita Lloyd yn cyfeilio. Wedi gair pellach gan Mrs. E. R. Jones, diolchwyd i Mrs. Watkins, a chyfraaog- wyd o'r te a'r Iluniaeth darparedig gan chwiorydd caredig eglwys Princes Road. o
I Cryblnion.
I Cryblnion. Caed wedi boddi oedd dedfryd y teaag- holiad ar gorff John Williams, un e weisioa Bryn GIas, Prion, ger Dinbych, ddydd Sadwrn diweddaf. Trigai gyda'i fam weddw, ae aethai at ei waith fel arfer bore ddydd Gwtnei; ae ol ei golli, a chwilio amdaae, te'i MfWJd. yng agwaelod llyn gerllaw y pirn. •& ."}I un diwmod, mewn ewest yn y ftkji ar gorff F. de Roover, Belgiad pedwar a fcfcrigaia oed a gafwyd yn farw yn ei wely, dywedwyd ei fod wedi dioddef llawer o galedi wrtk 4diame o'i wlad a thorri ei galon, druan. k Bu Mr. Peter Evans, Bron Eirion, Yseetfiog, farw ddydd Gwener diweddaf. Y fo'm mn o ffermwyr amlyca'r ardal, yn Warcheidwad y Tlodion ac yn aelod o'r Cyngor Dosbar* as a edy weddw a thylwyth o blant. it Cychwynnodd 150 o filwyp Cymreig Lian- dudno ddydd Llun diweddaf ar ymdaitk drwy Sir F6n, i hudo'r hogiau i neidio i'r rhenc. Capt. Evans, Bataliwn Gymreig Llundain, sydd yn arwain y cant a hanner, ac eir o Ian i bentref bob dydd hyd ddvdd Sadwrn. It- Nid gwir y si yn un o bapurau blebrog Llundain fod Mr. Wm. Jones, A.S., a'i fryd ar ymneilltuo o'r Senedd. Y mae'r aelod tros Arfon yn gwella'n dda o'i afiechyd diweddar, ac a fydd yn barod i'r llwyfan ar fyrder. Y mae Mr. T. Osborne Roberts, Llandudno, wedi cyflwyno'i gan newydd, Britain, i Mr. Lloyd George. Ar eiriau Saesneg o waith Ceiriog y'i cenir. 15b Y mae tri o feibion Mr. a Mrs. Morgan Owen, Llwyn Derw, Llandinam. gyda'r Fyddin. Lladdwyd dau weithiwr ar y ffordd kaearn nos Sadwrn rhwng Gwrecsam a Brymbo. Eu henwau oedd Thos. Jones, Southsea, a T. Merriman, Tan y Fron. Anelu adref a thorri'r ffordd yr oeddynt ar ol noswylio, pryd y daeth y tr6n ar eu gwarthaf. k Y mae Mr. Lloyd George wedi rhoi ei gy- hoeddiad sicr yn Llandudno a'r Rhyl ddydd Llun nesaf, sef Dydd Gwyl Ddewi. Bydd yn ddiwrnod mawr yn y ddau le-yn un o'r rhai mwyaf ei phobl a'i fflam wladgar a weliryd erioed. Dyma ai, prudd fod y Lieut. Hilary U. Evan Jones, ail fab ficer Llanllwchaear*. ger y Drenewydd, a nai Syr Edward Evans. Lerpwl yma, wedi eael ei ladd yn y rhyfel. Perfckjraai i'r Gatrawd Gymreig. + Y mae gan Mr. a Mrs. Daniel Riekwdo, Dillwyn Street, Llanelli, saith mab a mab yn nghyfraith yn y Fyddin; ajphump o'r saMi ym owyddogion taledig. + Caed hyd i Miss Mary Jones, Saawdon Street, Porthmadog, yn farw yn ei thl, itoo Lun ddiweddaf. Yr oedd yn ddeuddeg a thrigain oed yn byw ar benaiwn yr kox a'i chorff wedi sgrythu at ei gilydd ynghaaol mwg o flaen y tan. + Y mae Cymry Llundain wedi penderfymtt sefydlu Cwmni CAn a Drama, a'i anian i berfformio dramau ac opera. Ymdreehio* llwyddiannus Cymdeithas Gwyr Dinbyeh y Brifddinal roes fod i'r mudiad newydd. Cyrhaeddodd eryn ddeucant o ffoaduriaid Belgiaidd i Dreffynnon nos Lun ddiweddaf, i gael noddfa ae ymgeledd yno dan gyfar- wyddyd y Cyngor. + Y mae'r Parch. G. Parry Williams, M.A., bugail eglwys Bethesda, yr Wyddgrug, wedi cael gair fod y diweddar Brifathro Ellia Edwards y Bala wedi gadael canpunt yn ei ewyllya at gael llyfrau newyddion i gypyrddau yr hen eglwys lle'i maged, a He y bu ei dad. bugeilio a Daniel Owen yn athrawiaethm am lawer blwyddyn. + Cleddid Mr. Samuel Roberts (Eos yr AFryri) yng Nglyn Ceiriog ddydd Mawrth yr wythnot hon. Efe'n dair a thrigain oed ya orueh- wyliwr Chwarel Lechi'r Pandy yn arweinydd corawl pybyr iawn yn ei ddydd ym bur hyddysg yn llenyddiaeth Cymru; as ya ganwr penhillion ail i Eos Dar. Gedy weddw a theulu mawr o'i ol; a daeth ei feibioa afdd gyda'r Fyddin i'r angladd yn eu khaki. + Y mae'r heth wedi dod unwaith eto, a mya- yddoedd Cymru dan eu cnu o eira ddoe & heddyw. Beth pe byddai'm bushedd mor wyn a' mynyddoedd ? Y mae'r Aelodau Rhyddfrydol Cymreig i gyfarfod ddydd Mawrth nesaf i Yltyried y sefyllfa sydd wedi digwydd gan air y Prif Weinidog yn Nhy'r Cyffredin fod mesurau ar droed i geiaio cael cyd-ddealltwriaeth hedd* ychol ar bwno Dadgysylltiad a Dadwaddoliad.
Advertising
MHCMLL BROS. Marsh Lane, Bootie. Eagllsh Maeafactured MAPLE BLOCK PLOOIUN. AU Sixes kept in Stock. Largest Stock in the Klngd e P oae 6Sg Bootle. Tel Ad. "Peremptory," Llverpoe EVERY WOMAN JHOOLD send 2 stamps tor our 32 page Illustrated Book containing valuable information how all Irregularities tnd Suppressions may The entirely avoided or removed oy simple means. Recommended by eminent Physicans, ts the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never fail Thousands of Testimonials. Established r862. Mr. PAUL BLANCKARD; moat, itiouse. Oalston Luc, LO