Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP THE GREAT LABOUR I SAVER AND DIRT I REMOVER.
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE A TT C CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE I ONLY ADDRESSES: Î I London Rd. and Church St., CtoMd on Wednesdays at 1 p»m. Open all day Saturdays. Clo sed 0 n Wedn e s LIVERPOOL. pen al¡1 da7 satu rd a7so I _0. A yw'ch Llyg-aid, yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd Ilethdod y Ilygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu'gwaethygu wna'u kesgeuluso. Gallwnni, gyda'nhoffergwyddon- ol, ddweyd wrthych os oes amoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galsvch "heddyw— ARCHER A SONS Eyesight Specialists. 73 LORD STREET. I Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL 'Phone—3925 Bank. W. filittii & SOD, TAILORS- 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AS 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. > MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE JACKETS, BREECHES, etc. 'Phone—580 Bootle. Appreciated fo.. 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. fashion* ble Chippendale Rosewood Case, complete Iroa Frame, Me! al Pressure Bar and Bridge, Check Aetion, beamiful tone and touch, uuequalled value 23 Guineas "Arthur Day Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame. Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artist,c case, Overstrung Full Iron Frame, I nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music Fittings of all kinds, Strings. Records. RecordsJ LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS gramophones all prices.. BOND 0 CO., 4 Lime Street, Liverpool. jm glP IF YOU WANT REALLY t GOOD BOOTS TRY La L) or. s 49 Paradise St.; Liverpool The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool t« Mtect ftom, tor Ladies & Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago iifc Burns. Scalds, Cuts, Bruises &c ALWAYS HANDY IN THE HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or ahemi. Price 1/lid. & 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THRaOMANUFACRORY, FESTINIOG. Ni WALES, ROBERTS A EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirRdale Rd., Liverpool Telephone :!2193 Royal.
Basgedaid o'r Wlad.
Basgedaid o'r Wlad. [Bydd yn dda gennym gyhoeddi pob rhyw newydd a ddaw yma o'r wlad, hyd y caniatao'n gofod. Boed pawb yn fyi- ac yn flatus, ac ni.welsoch chiii erioed gymaint o nwyddau'r wlad y gellir eu pacio i'r Fasged fach. EISTEDDFOD PREST ATYN.-Cynhal. iwyd hon am y pumed tro blynyddol yn Neuadd y Dref, ddydd Mercher diweddaf Mr. G. O. Roberts yn y gadair Mr. D. D. Parry, Llanrwst, yn feirniad y canu a'r rhain yn ennill y prif wobrwyon Her- unwad, Mr. Frank Nicholson, Gwespyr unawd soprano, Miss B. Wilson, Gronant cor plant, Bryniau unawd contralto, Miss D. Lloyd, Ffynongroew unawd bari- tone, Mr. W. O. Ellis, Ffynongroew corau cymysg, Prestatyn Glee Party. I gefnogi gwneuthuriad teganau Prydeinig, cynhygid gwo br am y cynllun goreu o degan ymsymudol, ac enillwyd gan T. H. Williams, Prestatyn, efo Y Mul Diorffwys." 0 DRE'R CA lVS.-Coffhaodd Cymreig- yddion Caerffili, godre Caerdydd, Wyl Ddewi eleni drwy chwarae drama Emrys Owen, y Cynghorydd Sirol, gwaith y Parch. D. Tafwys Jones. Y Parch. E. Pryce Evans, B.A., yn y gadair tua 350 yn bresennol a'r cwmni talentog-sef Cwmni y Twr Cam, fel y'u gelwir-yn peri dwyawr o'r chwerthin mwyaf gogleisiol a glywsoch erioed. Dyma hwy'r actwyr Tom James, Atal bwyswr, Pwll Aberdwr, Mr. W. J. Thomas; Mrs. I fans, Bod Hyfryd, Aberdwr, Jle y lletya Miss Eira Huws), Mrs. Wm. Peters Miss Eira Huws, Ysgolfeistres Aberdwr, a chariad Torn James, Miss L. M. Roberts y Parch. Gomer Richards, gweinidog Carmel, Aber- dwr, Mr. J. D. Hughes; lfan Morgan, Ty Gwyn, Cwm Tawel, Cyng. D. T. Salathiel; Beti Morgan, mam Ifan Morgan, Mrs. Wm. John Morfydd Morgan, nierch Feti Morgan, Miss Gwen Lewis Emrys Owen, G.S., Bod Unig, Cwm Tawel, Mr. D. L. Jones; Huws y Plisman, Ownt Tawel, y Parch. E. P. Evans, B.A. Gwilym Mor- gan, saer, Cwm Tawel, Mr. A. Jenkins, B.A. Bob Davies, cofrestrydd genedigaethau, etc., Mr. Celyn Jones Mr. Rhys Pywel, Y.H., Parcy Rhos, Mr. Joseph Howells, C.S.,Y.H.; Mrs. Rhys Pywel, Mrs. J. D. Hughes; Miss Rhys Pywel, Miss Rowlands, B.A. Ann, morwyn Pare y Rhos, Miss Irene M. Roberts. Heblaw hyn, caed caine ar y-delyn gan Miss Irene Evans, can gan Mrs. J. H. Hughes, a deuawd gan Mri. D. Peters a W. Williams. Emrys Owen yw'r ail ddrama i Tafwys ei chyfansoddi, a chael ei hactio yma ac fe ddaw Caerffili mor enwog maes o law am ei chware ag am ei chaws.— Yn glust i gyd. COFIO'R SANT YN LLANELLI.- Yng nghapel Lloyd Street (A.) y cynhaliodd Cymrodorion y dref ei gwyl coffa flynyddol eleni. Daeth tyra enfawr ynghyd, a chyda hwy gatrawd o filwyr,tua thri cant o honynt, sef y 4th Welsh. Dr. R. Gwylfa Roberts, llywydd y Cymrodorion, lanwai'r gadair, a'i gantawd godidog, sef Gwlad y Tadau, a ber- fformid gan gor plant y Tabernacl, dan arweiniad Mr. L. W. Adams, a wnaeth ei waith yn rhagorol dros ben, a hynny'n rhydd a rhad. Cafodd y gwrandawyr noson wrth eu bodd. Yn wir, mae'r gantawd ddi- ddorol, newydd, ac addysgol hon, yn rhwym o foddloni'r neb a'i gwrandawo. A buddiol fyddai i ysgolfeistri Cymru eiphwrcasu, oher- wydd y mae ynddi wersi buddiol ar brif ddig- wyddiadau'r genedl Gymreig, a'r cwbl wedi eu gwisgo mewn iaith dlos a gwir farddonol. Heblaw hynny, mae'r ysbryd crefyddol sy'n rhedeg trwyddi yn ei chymhwyso i fod o was- anaeth i blant yr Ysgol Sul. Yr oedd ein dathliad eleni yn deilwng o'r Sant a'r genedl. Y Parch. T. Orchwy Bowen (brawd Ben Bowen) fydd y llywydd y tymor nesaf. %0"'SHOTTON, SIR FFLINT.-Dath- lwyd Gwyl Ddewi Mawrth laf, ac ni chafodd ei dathlu'n well yn unman yn y Sir. Yn y bore gwelwyd plant Y sgol yCyngor yn gwerthu llumanau. Gwahoddwyd holl rieni y dref i'r ysgol y prynhawn i weld y plant gyda'u gwersi ac hefyd i'w gwrando'n canu hen alawon Cymreig ac yn adrodd. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. R. Charmley, ac anerchwyd y plant a'r rhai mewn oed gan y Parch. J. J. Robin- son a H. Dennis-Jones. Cafwyd areithiau penigamp. Yna ffurfiodd y plant yn or- ymdaith drwy'r lie, dan -ganu a drilio a chasglu at y Milwyr Cymreig. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyngerdd, a chafwyd adrodd a chanu yn llawn gwladgarwch brwd. Cadeir- iwyd gan Mr. Alex. Harris, a chafwyd anerch- amserol iawn, yn annog y rhieni i siarad Cym- areg. Wele'r rhaglen :—Can, Y Banerwr Mr. W. J. Davies can, Y Gwcw Fach, Miss Maggie Evans unawd ar y crwth, Miss May Hopkins; ctln, Merch y Capten, Mr. John Evans; can, Mae M am yn dweyd gwell peidio, Mr. Solomon Jones (Alaw Cadfan),- encor, Dafydd y Garreg Wen can, Caru,'n Hiaith, Miss Bronwen Thomas can, Mr. Stanley Hughes adroddiad, Miss Eira Miles can, Hen Iaith fy Mam, Mr. Willie Rees; can, Hen Gadair Ti reichiait, fy nhad, Mr. Solomon Jones unawd ar y crwth,Miss May Hopkins can, Miss Ada C. Jones can, Suogan, Miss Maggie Evans; can, Gwalia Annwyl, Mr. Lewis Griffith deuawd ar y crwth, Mr. Olwyn Davies a'i Gyfaill can, Chwyfiwn Faner, Mr. W. J. Davies can, Miss Ada C. Jones can, Mentra Given, Mr. John Evans. Diolch- wyd i'r pwyllgor am drefnu'r fath wledd, ac i'r cadeirydd a'r cantorion, gan y Parch. H. Dennis Jones a Mr. W. M. James, ysgolfeistr. .Teg dweyd fod Mr. James a'i staff yn yr ysgol wedi gweithio'n rhagorol ynglyn a'r dathlu, a chredwn fod elw sylweddol wedi ei wneud at gynorthwyo'n milwyr sydd yn ymladd trosom. Saif Shotton tua chwe milltir o Gaer, ac y mae yn lie hynod a phwysig ar lawer ystyr. Eiff ar gynnydd parhaus. Y mae yn yr amgylch- oedd weithfeydd glo a brics, ond y prif un yw Gwiath Haearn Summers, a rhai miloedd yn gweithio ynddo. Dywedir fod dros fil o ddynion o'r gwaith hwn wedi ymrestru a'r fyddin, ac fod Connah's Quay a Shotton a'r cylch wedi gwneud yn rhagorol yn hyn. Ceir poblogaeth gref o Gymry'n byw yma,-Ilu wedi dod o'r De i'r gwaith.O. 0 LANBRYNMAIR GU EI HENWOG- ION.-Mawrth laf, dathlwyd Dydd Gwyl Ddewi yn ysgol y Cyngor. Ar ol chwifio'r Union Jack ar fuarth yr ysgol a'r Ddraig Goch yn un o'i ystafelloedd, cyfarfu'r plant ac aed drwy raglen faith, yn cynnwys Caneuon Gwerin, adrodd a darllen papurau. Cafodd Glyn Dwr a Phicton sylw arbennig y tro hwn. Ar y muriau yr oedd sketches o waith y plant a'r athrawon o'r Diosg (cartref S.R. a J.R.), Ysgubor Ty Mawr (lie y cydnabyddir yn gyffredinol y cychwynnodd Ymneilltuaeth yng Nghymru), y Ddraig Goch, Senedd-dy Owen Glyn Dwr, a Mynyddog. Y cadeirydd oedd y Parch. Samuel Roberts. Trwy gared- igrwydd Mr. Daniels, y Post Office, derbyn- iodd pob plentyn aurafal cyn ymadael. Dyma benillion a ysgrifennodd Mr. Vaughan Evans (Athan) i'w canu gan y plant ar Aberystwyth a Crug y bar :— Aberystwyth. Cadwn wyl i Ddewi Sant, Eilun Cymru Wen a'i phlant Gwisgwn oil geninen werdd, I'w fawrhad y canwn gerdd Gwisg ei enw fythol fri, Ysbrydolodd Cymru fu, Nertha eto Gymru sydd I feddiannu gloywach ddydd. Crefydd gydag addysg ddaw I'w fawrygu law-yn-llaw, Cbdodd demlau mawr eu bri, Chwyddai glod fel tonnau'r lli' Gelyn gormes ydoedd ef, Cariai lusern fawr y nef; Nertha eto Gymru sydd I feddiannu gloewach ddydd. Crug-y-Bar. Adseinia pob clogwyn yng Ngwalia Glodforedd didrai Dewi Sant, A chymysg a'n huchel folawdau Yw mwynion ganeuon y plant; Tra bydd y Geninen yn werddlas A Mawrth mewn arwriaeth distaen, Bydd ebyr tryloewon edmygedd Yn cludo ei glodydd ymlaen. Mae rhyddid, wrth adsain ei enw, Yn dawnsio ar fynydd a dol, A Chymru mewn mawredd yn esgyn I'w gorsedd wrth ddilyn ei ol Gwladgarwch anfarwol ei ysbryd A deimlir drwy oes ar ol oes, A choron anrhydedd gyflwynir I arwr llenyddiaeth a moes. YN YR EFAIL, SEF CYMDEITHAS CYMRY GIVPECSAM.-Yinunodd aelod- au'r Gymdeithas uchod, ynghyda nifer e wahoddedigion, i ddathlu Gwyl Ddewi trwy gynnal cyfarfod y delyn, Mawrth 3ydd, y* Neuadd y Cyngor Llafur, Heol y Bryn. Gwas- anaethwyd yn bennaf gan ddau oenwogiony delyn a chan gan dant, sef Mr. D. Francis, y Telynor Dall o Feirion, a Dewi Mai o Feirion, beirniad y canu penhillion yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Yr oedd y ddau yn eu hwyliau goreu, ac yr oedd astudrwydd y gwrando a phybyrwch y gymeradwyaeth yn tystio'n amlwg eu bod wrth fodd y cynhulliad. Cafwyd traethiad byr gan Ddewi Mai ar gelfyddyd canu gyda'r tannau, a chanodd nifer fawr o siamplau yn ei ddull dihafal ei hun, gyda digon o amrywiaeth mewn alaw, mesur a thestyn. Cadwyd at yr elfen wladgar yn bennaf, ond cafwyd amryw ddarnau eraill rhai'n lleddf, megis Hwiangerdd Sul y Blodau Eifion Wyn, a rhai'n lion, megis Cerdd yr Adain Sior Meirchion. Gwnaeth y telynor yntau ei ran yn ardderchog, ac yr oedd y mwynhad yn amlwg ar bob gwedd fel y llithr- ai ei fysedd yn ystwyth hyd y tannau. N'id gormodiaaith fyddai dweyd fod Pob nod fel pe bai'n neidiaw Yn gawod wlith gyda'i law. Heblaw hynny, yr oedd Telynor y Gymdeith as (Mr. J. Arllwyd Jones, B.A.) a'i delyn yno hefyd, ac yn ddiddadl un o emau'r cyfarfod oedd Deuawd y Telynau gan y ddeuddyn hyn,—y naill yn canu Cadair Idris a'r Uall Llwyn Onn, a'r ddau wedyn yn canu Pant Corlan yr Wyn yn eilgan. Canwyd penillion hefyd gan ddau o aelodau'r Efail, Mri. W. J. Ellis a T. Roberts. Rhoes y cadeirydd air o groeso, a chafwyd anerchiad galluog a hyawdl ar Ddewi Sant." Cafwyd gair hefyd ar Yr Efail gan yr ysgrifennydd, Mr. T. Roberts. Cadeiriwyd yn ddeheig tros ben gan lywydd yr Efail, Mr. W. M. Roberts, yr Eisteddfodwr a'r cerddor adna- byddus. Mae'n werth crybwyll hefyd na chafwyd brawddeg o Saesneg drwy gydol y cyfarfod, peth na ellir ei ddweyd am ami i gyfarfod o'r fath yng Ngwrecsam. Y farit gyffredinol oedd mai dyma'r peth goreu a gaed yng Ngwrecsam ers llawer dydd. [Diolch i ohebydd arall, Cenedlgarwr, am hanes yr Efail ond yr oedd yr uchod yn helaethach.-GOL. ) PONT Y BODCIN.-Cynhaliwyd Saboth y Plant Mai 7fed, ac fel arfer bu'n llwyddiant mawr. Daeth tyrfaoedd ynghyd. Canwyd yn ystod y thri chyfarfod gan Miss Mabel Owen, Wyddgrug; Miss Gwennie Blackshaw, Coed poeth a Miss Olwen Jones, Rhos ddu. Llywyddion y dydd oedd Mr. Thomas Jones, Bryn tirion; R. Allen, Ysw., Y.H.,C.S., Hope Mr. David Jones, Hartsheath a chwaraewyd yr offerynau gan y Mri. John Davies, T. J. Hughes, Misses Sissie Davies a Lollie Davies. Y Parchn. P. Price, D.D., Rhos, a'r Prifathro Rees, Bangor, ydyw'r dewisedigion at wyl bregethu Mai nesaf, ac y maent wedi addo dod. Cynhaliwyd. cyngerdd gan blant y Band of Hope tan lyw- yddiaeth Mr. David Jones, Hartsheath. Aeth y plant drwy raglen faith yn llwyddiannus, a mwynhawyd y cwbl gan dyrfa o bobl. Chwaraewyd yr offeryanu gan y Mri. John Davies, T. J. Hughes, Misses Sissie Davies a Lottie Davies. Mae yma Obeithlu llwydd- iannus yn rhifo 80—pawb mewn hwyl gyda'r gwaith, a Mr. Thomas Jones, Bryn Tirion, yn llafurio gyda'r canu. EISTEDDFOD YN LLANGOLLEN Cynhaliwyd hon ddydd Sadwrn diweddaf, dan nawdd eglwysi Methodistaidd y lie Mr. E. H. Lloyd yn llywydd. Dyma'r prif wobrwyon Cor plant 1, a medal aur, Pen- Ilyn 2, Rehoboth. Wythawd Parti Evan Roberts. Pedwarawd parti Mr. T. B. Davies, Berwyn. Deuawd Mri. Evan Roberts a J. W. Kyffin. Uhawd (unrhyw lais) Miss Annie Edwards, Regent Street, Llangollen. Unawd i blant Daisy Williams, Rhysgog) a Mary Edwards (Penllyn) yn gydradd. Cyfansoddiad cerddorol Mr. J. 0 Parry, Compton House. Traethawd," Pry- dain Fawr a'r Rhyfel Miss Lena Davies, Holborn House. Llythyr agored at y Caiser Mr. J. W. Kyffin. Penillion, Ein milwyr vn y ffosydd Mr. J. W. Kyffin.
Advertising
HAVE You TRIED 'KEENORA' SELF RAISING FLOUR P Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of suc. cess if you use Keenora Self-Raising Flour. Makes deliciously light Pastry, Cakesl Scones, Buns, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you willbe delighted. SOLE AGENTS- MORRIS and JONKS, LIVERPOOL & MANCHESTER.
Advertising
MAE POWDR POBI dim drutach. BORWICK POWDR POBI gore'r byd.