Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
HAVE You TRIED 'KEENORA' SELF RAISING ffLOUR ? Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of suc. cess if you use Keenora Self-Raising Flour. lrJükes deliciously light Pastry, Cakest Scones, Buns, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you will_be delighted. SOLE AGENTS— MORRIS and .TONKg, LIVERPOOL & MANCHESTERe1
Advertising
Beaty Bros Ltd. CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS £ h EXCELLENT VALUE I ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church St., I LIVERPOOL. I Closed on Wednesdays at 1 p.m. Open all day Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig f Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eugwaethyguwna'u hesgeuluso. Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddon- 01, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a I barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw- I ARCH ER & SONS | EYesight Specialists. I I 5e£' 73 LORD STREET, 5 Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL 'Phone-3925 Banll, A 0 0 "ul W. Sillfii k SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc.- 'Phone-580 Bootle. Appreciated fo- 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. fflll.ion" ble Chippendale Rosewood Case, complete Iroa Frame, Metal Pressure Bar and Bridge, Check Astion, beaut iful tone and touch, uuequalled value 23 Guineas "Arthur Day" Piano. Mxgnificeiit Walnut Case (Dark), Iron Frame Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artist c case, Overstrung Full Iron Frame, t nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or Set of Second-h and Instruments, all guaranteed. Musical Instrnmemti, Music Fittings of all kinds Strings. Records. hecords, LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS Cir#mophoneS an prices.. BOND & CO., 4 Lime Street, Liverpool. IF YOU WANT REALLY f; $ GOOD BOOTS ;tfj: TRY laUNTS, 49 Paradise St; Liverpool The Largest Stock of Boots and Shoes in Liverpool tc select from, for Ladies ê Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS '?Bf*? 'z < 'vwr?  Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. BDRIS & CO., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANS9 HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago i:4c Burns Scalds, Cuts. Bruises c ALWAYS HANDY IN THE HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Ohemi. Price I/IJd. Q 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THF^MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES. ROBERTS a EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirKdalef Rd., Liverpool Telephone:12193 Royal.
I Y DIWEDDARI
I Y DIWEDDAR I I MR. WM. THOMAS, Y.H. I CHWITH yw gorfod rhoi'r gair diweddar o flaen enw Mr. vVm. Thomas,—un o'r dynion llawnaf o fywyd ac ynni a adnabum erioed gwr cryf a llu ilia id d o gorff, cryf a bywiog ei feddwl, gwrol a phenderfynol. Brodor ydoedd o Lanrhyddlad, Mon. Daeth i Lerpwl yn fach- gennyn 17eg oed, a chafodd le mewn swyddfa longau. Cyn bod yn un-ar-hugain oed, yr oedd wedi eychwvn masnach oi hun, wedi prynnu llong ac ennill digon i dalu amdani ar y fordaitb gyntaf. Dongys y ffaith lion ei fod o gynheddfau meddwl cryfion, a'r rhai hynjay wedi datblygu pan oedd yn ieuanc iawn. Meddai ragwolediad, a gallu neilltuol dy- wedir nad oedd ei hafal am wybod i ba ran o'r byd fyddai oreu anfon llong erbod yn sicr o lwyth, a thai da amdano i ddychwelvd. Trwy ei ynni a'i benderfyniad, cynhyddodd ei fasnach yn gyflym, a daeth ei enw a'i longau yn hysbys led-led y byd, a meddai lynges fawr, a adwaenid bellach ers amser fel William Thomas Sons, & Co., Ltd., Lerpwl a Llundain. Cydnabyddid ef fel un o'r Cymry cyfoethocaf, os nad y cyfoethocaf, yn Liverpool. Pan ddaeth yma gyntaf, ymunodd a chapel Pall Mall, lie y bu yn weithgar a ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Yn 1865 dewis- wyd ef yn flaenor yno pan nad oedd ond saith ar hugain oed. Tua'r flwyddyn 1879, sy- mudodd i Bootle, ac ymunodd ef a'r teulu ag eglwys Stanley Road ond gan ei fod yn byw ym Marsh Lane pan oedd ysgol Rhyl Street yn symud i Peel Road, bu ganddo ran flaenllaw gyda chychwyn eglwys Peel Road, a chyfran- nodd yn helaeth at y capel newydd yno. Bu yn weithgar yn eglwys Stanley Road. Er ei fod bob amser yn llawn prysurdeb, yr oedd i grefydd le mawr yn ei galon. Yr oedd yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sul, yn wr o farn, yn gyflym iawn i ddod i bender- fyniad ar unrhyw fater o bwys ac or 01 gwneud ei feddwl i fyny, cariai ef allan yn ddi- droi'n ol. Gallai osod ei feddwl allan yn glir, mewn araith gref a hyawdl weithiau pe wedi ymarfer rhagor, gallasai fod yn ddylanwad ar yr esgynlawr. Yn 1887 dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Stanley Road daliodd y ewydd hyd 1901, pan ymadawodd i ben deheuol y dref i fyw, ac yr ymunodd ag eglwys Chatham Street. Teimlodd eglwys Stanley Road ei cholled ar ei ol i'r byw. Er ei fod yn gyfoethog ac yn troi mewn cylchoedd mchel, yr oedd yn hawdd myned ato, yr un mor hawdd i'r gweithiwr cyffredin a'r boneddwr pennaf. Ni wnai fuss gyda neb, ac ni ddir- mygai neb. Ar ddyn yr edrychai ac nid ar y pethau oedd d'i gwmpas. Adwaenai yr holl aelodau a fynychai'r cyfarfodydd, a chyfarch- ai hwy ar yr keol fel pe y mwyaf cyffredin ohonynt. Yn y seiat, nos lau ddiweddaf, datganodd amryw o aelodau, eglwys Stanley Road eu hedaiygedd o Mr. Thomas, a phas- iwyd i anfon pleidlais o gvdymdoimlad a Mrs. Thomas a'r teulu. Yn 1904 dewiswyd ef drachefn yn flaenor yn Chatham Street, am y trydydd tro. Bu yn nerth ac yn gefn i'r eglwys yn Chatham Street, a theimla'r eglwys ei bod wedi colli cysgod cedrwydden. Yng Nghyfarfod Misol Tachwedd, rhoddodd gyngor i'r blaenoriaid oedd newydd gael eu dewis tri o Crosshall Street a thri o Stanley Road—y ddwy eglwys lie y bu yntau yn flaenor. Mae'n amhous a fu neb arall yn gwneud yr un peth. Efe oodd llywydd dewis- edig y Cyfarfod Misol am yr hanner diweddaf o'r flwyddyn hon. Gresyn na chawsai fyw i lenwi'r swydd. Er nad oedd yn gallu bod yn gyson yn y Cyfarfod Misol, gwyliai holl sym- mudiadau y Cyfundeb; gwyddai hanes eglwysi ac ystafelloedd cenhadol Lerpwl yn well na neb bron, medrai holi eu hanes i bwrpas. Cymerai ddiddordeb neilltuol mewn gwaith cenhadol. Bu yn bleidiwr selog i'r Ystafelloedd Cenhadol pan oeddynt yn ddigon amhoblogaidd. Pryderai a oedd yr eglwysi yn ddigon llypadog i gychwyn lleoedd newyddion pan fyddai'r Cymry yn symud. Pechod anfaddeuol yn erbyn ambell un yw cychwyn achos newydd neu ystafell genhadol. Gwae chwi os ewch a hanner dwsin o'r eglwys y bydd ef yn flaenor ynddi, er i honno fod yn un gref, pe yr enillech hanner cant o esgeuluswyr trwy hynny. Mae arddang- osfa fawr o'n heglwys ni yn llawer pwysicach yn ei feddwl nag achub pechadur- iaid. Nid felly Mr. Thomas. Codi a chadw dynoliaeth oedd yn bwysig ganddo. Bu iddo ran helaeth yng nghael chwaer i weithio yng ngwaelodion y dref dan y Cyfarfod Misol yr oedd yn aelod o'r pwyllgor hyd yn ddiweddar, a mynychai'r pwyllgorau a chymerai ddiddor- dob dwfn yn y gwaith. A phwy sydd wedi gwneud mwy na Mrs. Thomas i godi merched cvfeiliorn Lerpwl ? A da gennym fod yr un ysbryd ym Miss Thomas. Cyfeiriwyd yn y BRYTHON yr wythnos ddiweddaf at amryw o'i gymwynasau a'i roddion tywysogaidd. Bu'n coledd y syniad o gaol ystafell ganolog yn y ddinas hon, i gynna! cyfarfodydd Cymraeg ac amrywiol ystafelloedd mewn cysylltiad a hi, lie y gallai y Cymry gyfarfod i newid syniadau a dod i gymundeb agosach a'i gilvdd, a thrwy hynny fod yn foddion dvrchafiad ei gilydd, a rhoddi'r rhai ieuainc ddeuai yma ar ben y ffordd i gael gwaith, etc., aei Gymrufel gwiad. Gresyn iddo gael ei dorri i lawr cyn i'r bwriad hwn dyfu ac addfedu. I Ni wnaeth ef ddim er mwyn ymdda.ngos. Gwnaeth ei holl gymwynasau, a chyfrannodd ei holl roddion, yn ddistaw, ac ni fynnai glyw, ed son amdanynt yn y newyddiaduron. Yr oedd Mr. Thomas yn Rhyddfrydwr crvf a golcuedig yn 1889 llwyddwvd i gael ganddo sefyll yn ymgeisydd dros Mersey Ward, Bootle, ac etholwyd ef i'r Gorfforaeth. Gwnaed ef yn gadeirydd y Pwyllgor Ariannol, ac ymdaflodd i waith gydag ynni a phender- fyniad. Dywedir na chaed oi debyg yn Bootle yn ei fedr i ofalu am gyllid y Gorffor- aeth. Meddai ar ryw drylwyrodd a gofal am fanylion, gallu i weled o'i flaon a gorcbfy" gu anawstorau. Bu'n faer y dref 1892-3. Y flwyddyn honno cynhaliwyd y Gymanfa Gyffredinol yn Bootle, a gwahoddodd Mr. Thomas yr holl aelodau i neuadd v dref. a rhoddodd groeso teilwng iddi. Bu ei fiwydd yn fel maer yn Uwyddiannus a dymunol. Dewiswyd ef yn henadur y flwyddyn gan- IyuoI, a rhoed yr un anrhydedd arno drachefn yn 1899. Dewiswyd ef yn ynad heddwch yn 1893. Pan ymneilltuodd o Gorfforaeth Bootle ar ol symud oddiyno i fyw, Gorffennaf 23, 1904, pasiwyd i roddi'r ponderfyniad hwn ar y cofnodion That the Council receive with regret the resignation by Mr. William Thomas, of his office of Alderman of the Borough, in consequence of his removal from the town, and desire to express their high appreciation of the important period of thirteen years as Councillor, Alderman and Mayor of the Borough, and particul- arly as Chairman of the Finance Com- mittee for the past nine years." Yn 1897 bu yn uchel siryf dros ei sir enedigol -1,16n. Daeth i Lerpwl yn fachgen ;euanc dwy ar bymtheg oed treuliodd yma drigain mlynedd o fywyd llawn o maith- Yn awr mae wedi dychwel i FAn, i orffwys hyd ganiad yr udgorn. Hyderwn y bydd bechgyn yn hogi eu harfau ar garreg ei fedd, i baratoi eu hunain i fyw bywyd llawn o waith a defn- yddioldeb fel yntau. Ni wyddom am ddim all fod yn fwy o symbyliad i fechgyn Cymru na ckofgolofnau ei gwroniaid. Cydymdeimlir yn ddwys a Mrs. Thomas (ei weddw), Miss Ethel K. Thomas (sydd y- Lerpwl), a'i dri mab, Mri. R. J. Thomas. William M. Thomas, a George H. Thomas (sydd yn Llundain). Yr angladd yn fLlanrhyddlad, Aed a'r corff o Lerpwl i Lanrhyddlad bore dydd lau diweddaf, gan gychwyn am 8.80 o I orsaf Lime Street, lie yr oedd nifer o weinidog- ion a blaenoriaid ac cnvil wedi ymgymiull i'w hebrwng. Pan gyrhaeddwyd ei bentref genedigol, yr oedd yno dyrfa fawr wedi ym- gynnull yng nghapel y Methodistiaid, lie y cynhaliwyd oedfa'r angladd tan arweiniad y Parch. R. R. Hughes, B.A., Chatham Street darllenodd y Parch. O. Parry, Cemaes, ran o'r Ysgrythyr gweddiodd y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., Princes Road a chaed anerchiadau gan y llywydd a'r Parch. John Williams, Brynsiencyn, a gair gan y Parch. Venmore Williams. Y rhain oedd y peif alarwyr Mr. R. J. Thomas (mab) a Mrs. Thomas, Mr. W. M. Thomas (mab) a Mrs. Thomas, Mr. George Thomas Henry (mab) a Mrs. Thomas, Miss Ethel Thomas (merch), Mr. Robert Thomas (brawd), Mr. O. W. Owen (mab-yng-nghyfraith), Mrs. Birtles a Mrs. Parry (chwiorydd), Miss Minnie Jones, Mrs. Edward Jones, Mrs. W. Williams, Misses Annie a Maggie Parry (nithoedd), Mri. R. A. Thomas, W. Thomas, Alfred Thomas, J. Thomas (noiaint), Mri. Cecil a Leonard Owen (wyrion), Mri. Richard Jones ac Evan Griffiths (brodyr-yng-nghyfraith), cynrychiolid ffirm Mri. William Thomas, Sons & Co., gan y Mri. R. S. Farrell (swyddfa Llundain), W. O. Hughes (marine superintendent), H. C. Gaffikin a J. A. Jones (swyddfa Lerpwl), a chynrych- iolid Mri. Thomas Bros., Llundain, gan Mr. W. J. Wheldon. Cludid yr arch gan bedwar capten fu yng ngwasanaeth yr ymadawedig. Lluddiwyd ei frawd-yng-nghyfreith, Mr. Ed- ward Hughes, West Kirby, rhag bod yn yr angladd gan afiechyd. Yr oadfa goffa yn Chatham Street. Daeth tvrfa fawr o wahanol barthau'rd ref i'r oedfa-goffa yn Chatham Street nos Sul ddiweddaf. Yr oedd y cantorion, yn dorf liosog, dan arwoiniad blaenor y gan, Mr. O. R. Hughes, yn llen .vi'r soddau blaen, a Mr. J. H. Roberts, Mus.Bac., wrth yr organ. Canwyd y chant Trwy ddirgel ffyrdd, a hoff benmll Mr. Thomas, Gwnes addunedau fil, ynghyda'r emyn Jesu, Lover of my soul-yr olaf ar Aberystwyth, ac wedi datganiad byw o'r anthem Ar lan lorddonen ddofn gan y cor, pregethwyd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A., oddiar Eph. iv, 25-29 Gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir," etc. Dyma rediad y sylwadau Mae sylfeini'r ysbrydol yn y moeRol. Mae gwahaniaeth mawr rhwng ysbrydolrwydd a moosoldeb, ond ni cheir ysbrydolrwvdd ar wahan i foesoldeb. Blod- euyn persawr dýf ar gyff moesoldeb ydyw ysbrydolrwydd, or nad ydyw yn gynnyrch naturiol y cyff. Byddwn yn son am ddyn a gwaelod da iddo, wrth yr hyn y golvgwn ddyn a sylfeini dr. i'w gymeriad, ac un o'r cyfryw ydoedd Mr. Thomas. Yr oedd y rhinweddau a enxvir gan yr apostol yn amlwg ynddo Geirwiredd,-peth c-ithriadol ydyw dyn per- ffaith eirwir, a rlunwedd y dyn cryf ydyw geir- wiredd. Dywedai un am Mr. Thomas ei fod yn gneuen anodd ei hollti, ond wedi iddo roddi ei air,nad oodd eisiau cerpyn o dystiolaeth oblegid meddai,-His word was his bond. O'i gywirdeb y tarddai ei farn, oedd bron yn ddi- fet h, a'r hyn ydyw llyw i Iong,dyna ydyw barn gywir i fasnach. H unanly wodraeth, ac hefyd onestrwydd a diwydrwydd. Ni weith- iodd yr un dyn yn galetach na Mr. Thomas yn ystod y 60 mlynedd diweddaf, ac ni wariodd neb lai arno'i hun. Yr oedd yn y pegwn eithaf oddiwrth y rhai y mae eu holl fryd ar weithio mor ychydig oriau ag sydd fodd, a gwario cymaint allant arnynt eu hunain. Mae'r Efengyl yn argymell diwydrw^ydd ar- nom. Nid yw'r syniad nad oes yna ddim ond rhyw swm arbennig o gyfalaf yn y byd, ac na fedr un dyn ddim meddu cyfoeth ond ar draul dyn arall, nac Efengyl na gwleidyddiaeth, na dim ond anwybodaoth. Mae'r dyn sydd trwy ei ddiwydrwydd a'i egni a'i anturiaeth a'i fedr yn creu cyfalaf, yn gymwj-nasydd ei hil, oblegid er elwa'i hun, mae yn cyfoethogi erailL Mae'r mwyafrif ohonom yn byw ar chwys ymennydd dynion fel Mr. Thomas. Mae i fywyd masnackol, fol i bob bywyd, ei berygl- OR., yn arbennig y perygl o gymeryd y short view o bethau. Cwestiwn o bersbectif ydyw crefydd. Gwyddai Mr. Thomas—oedd wedi llwyddo yn fwy na phawb ohonom i gasglu ccyfoeth,-yn well na nemor un ol-ionom beth oedd oi worth. Y diwrnod yr oeddym yia ei hebrwng i Lanrhyddlad, yr oedd yr aw^Tgylch rmor glir fel yr oedd mynyddoedd y Werddon i'w gweled mor eglur a phe buasent o ferwn rhyw bum milltir i Fon. Weithiau y digwydd hynny. Ac yr oedd Mr. Thomas or yn fachgen wedi cael golwg ar y pethau pell, ac ar y cyfoetk gwell C«ddiedig draw ar fryniau pell, fel yr oedd ganddo safon, a standard of values oedd yn ei alluogi i farnu pob peth." Terfynwyd cyfarfod oedd o'r dechreu hyd y diwedd mown chwaeth berffaith ac mewn ysbryd dwye ond dymunol, a chyfarfod oedd yn deyrnged doilwng i goffadwriaeth gwr hymod yn ein plith, trwy ganu Nis gaUodd angau du ar y don Iliverpool.