Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ein Genedl ym Mansion.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ein Genedl ym Mansion. Dyddiadur. I MAWRTH v 27-CYnianfa y Gobeithluoedd I Cenbadon y Sui Nessi. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD. MOSS SIDE—10.30 a 8-30, D D Williams PINDLETON-10.30, E Wyn Roberts 6, R J Jones HSYWOOD ST-10-30, R J Jones, Bangor 6. E W Roberts VICTORIA PK—10.30 a 6. John Williams, Corwen LIOIGH-10-30 a 6, WARKIKGTON—10.30 a 6, FARNWORTH—2.30 a 6, Thos. Hughes, Stockport EASIESTOWN—10.30 a 5.45, ASHTON-UNDER LYNE-2.30 a 6, BLACKBURN— EGLWYS UNBEBOL ECOLES-11 a 6-30,R]jWil!iam» Crewe YR ANNIBYNWYR OHORLTON RD-IO.30, M Llewelyn, 6.15,Edmund Davies Seven Sisters BOOTH ST-10.30 Edmund Davies 6-15, M Llewelyn LD DUNOAN ST., SALIPORD-10-30, J E Roberts, Bangor 8-15. J Morris QUEEN'S RD-IO-30 a 6-15, J William?, Lerpwl HOLLINWOOD—16.30 a 6.15, WRASTI-10.45-a 6, E Evans, Golborne Y WESLEAID Dswi BANT—10-30, J David Owen 6, J M Williams HOREB-10.30, J T Ellis. 6, G Tibbott glON—10.30, J M Williams, 6, John Felix BITTLAH—2.30 a 6, D R Rogers OALFARIA—10.30, John Felix «, Harold Roberts BCOLBS-IO-30, D R Rogers, 6.30, J David Owen Y BEDYDDWYR UP. MEDLOOK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONQBIOHT—10.30 a 6.30, ROBIN'S LANE, BUTTON-10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. I OYMANFA FLYNYDDOL Y METHOD- ISTIAID- SEFYDLWYD hon yn 1792, ond nis gwn a wyr rhywun a gafodd hi ei chynnal yn gyson er hynny. Bu am gyfnod maith yn cael ei chynnal ar Wyl y Groglith a'r Pasg, ond sy- mudwyd hi i ddyddiad arall oddeutu ugain mlynedd yn ol, a'i hamser y tro hwn oedd nos Wener, nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Gwein- yddwyd gan y Parchn. Joseph Jenkins, Blaenau Ffestiniog J. H. Howard, Birken- head; J. Puleston Jones, M.A., Pwllheli; R. Aethwy Jones, M.A., Lerpwl. Pregethodd y pedwar nos Wener a theirgwaith y Sul, un waith bob un ar gylch yn y pedwar capel canlynol Moss Side, Heywood Street, Pen- dleton, a Victoria Park. Y SEIAT PAWR- Cynhaliwyd hon yng nghapel Moss Side nos Sadwrn. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. D. Williams, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. M. Llewelyn (A.). Llywyddwyd gan y Parch. Robert Williams, Pendleton, a dywedodd fod hon yn cael ei chvnnal dan amgylchiadau eithriadol oher- wydd y rhyfel. Wrth edrych dros yr eglwysi am y flwyddyn ddiweddaf, yr oodd yn Ila- wenydd i ni fod gennym un deml newydd, sef Victoria Park ac hefyd caed bugail newydd, sef y Parch. R. Ernest Jones i Oldham. Gofidiai golli pedwar o flaenoriaid, sef Wm. Charles, Tyldesley Wm. Edwards, Bolton Jesse Roberts, Heywood Street; Robert Williams, Earlestown a rhoed gair da iddynt i gyd. Collir bugail yn fuan iawn o'n mysg, sef y Parch. D. D. Williams, sydd yn symud i Lerpwl, y "lie goreu y tu yma i'r nefoedd i woinidog y Methodistiaid," yn ol bam rhyw hen frawd. NITHIO'R YSTADEGAV Ymddiriedwyd y sylwadau ar ystadegau y Cyfarfod Misol i'r Parch. R. Aethwy Jones. Llongyfarchai yr eglwys. am ddal eu tir yn rhifedi'r aelodau y flwyddyn ddiweddaf,—dim ond pump o leihad. Gallai y ffigyrau fod yn wahanol wrth gymharu dau adeg gwahanol. Fel y maent yn awr ni chymherir ond dau ddiwrnod, terfyn dwy flwyddyn, ac felly nid yw'r ystadegau yn wir i gyd. Awgrymir llawer o ofal ac arolygiaeth trwy'r ffigyrau. Ni ddeellai amcan colofn y dirwestwyr os nad oedd yn dweyd y gwir,i beth y mae dda ? ond os dywed y gwir y mae'n ddifrifol, am fod 1,139 allan o 1,938 o aelodau heb fod yn ddirwestwyr. Credai nad oedd y ffigyrau'n dangos yr agwedd yn briodol, ac nad oedd y mwyafrif mawr yn llymeitian; oblegid nid oes achos all fod yn well llawrforwyn i grefydd. Gwelai fod 50 o blant yn llai yn y cylch eleni. Yr oedd fod]teuluoedd a phlant yn lleihau yn yreglwysi yn bethalaethus. Ystyrhynywy ffaith fod y dosbarth gweithiol yn cael llai o sylw. Wele ffigyrau a roddodd ynglyn a'r Ysgol Sul 1,336 o aelodau, a 756 ynddi ar gyfartaledd bob Sul; dengys hyn fod nifer fawr o aelodau eglwysig heb fod yn aelodau o'r ysgol. Ni all neb, meddai, gael lies teilwng yn yr Ysgol Sul ond y rhai cyson. Mae cadw'r Ysgol yn fyw yn hanfodol angen- rheidiol i fodolaeth y-Cyfundeb. N;d y gweinidogion yw cymwynaswyr pennaf cref- ydd, ond athrawon yr Ysgol Sul. Mae lefel y weinidogaeth yn dibynnu ar yr Ysgol Sul, ac yno caiff pawb rywbeth i'w wneud. Llon- gyfarchai'r eglwysi am eu llafur ariannol er fod ychydig leihad. Yr oeddynt hefyd yn ffyddlon i gasgliadau'r Cyfundeb, a bychan mewn cymhariaeth yw dyled yr addoldai. Gofidiai fod 77 wedi ymadael heb docynau. Ofnai mai pobi ieuainc oeddynt, heb ddysgu gwerth aelodaeth eglwysig. Tocyn aelodaeth yw'r darn papur gwerthfawrocaf a gawn yn ein hoes. Peidio a bod yn ffyddlon i scrap 0 bapur achosodd y rhyfel. Mae holl gyfoeth Duw y tucefn i docyn aelodaeth. SWYDDOGAETH STORM- I Testun ySeia t oeddSalm xxix, 10, 11. "Hyder yr eglwys ar Dduw yn amser adfyd. Agor- wyd y drafodaeth gan y Parch. J. Puleston Jones. Salm ystormus yw, meddai, ag eithrio'r ddwy adnod gyntaf ac adnodau'r pwnc. Storm o fellt a tharanau yn ysgubo dros Ganan. Mae Duw yn siarad ynddi, ond nid yw'n dweyd pob peth. Yn y deml y gwna hynny. Salm wedi ei chanu i'r deml ydyw hon. Emyn yn cael ei gwneud i'r deml wrth ddisgrifio'r ystorm. Yn y deml y gwelodd y Salmydd pwy oedd y meistr, a chan bwy yr oedd yr awdurdod. Mae'r Cylieithiad Diwyg- iedig yn dangos mai'r diluw fcddylir wrth y llifeiriant." Gwelodd Edmwnd Prys yr ystyr o'i flaen, c&nys dywed Yr Arglwydd gyni yn J?renin oedd Ar y llifddyfroedd mawrion." Mae stori'r diluw yn dangos fod rhyw ddinistr ffiaw wedi bod rywdro ar wareiddiad y byd. NiV^oedd dim i'w wneud ond ysgubo ymaith yr hen haid ystyfnig o annuwiolion, ond 'chollodd Duw mo'i orsedd y pryd hynny. Mae'r storm yn dweyd ei fod yno. Yr oedd y storm yn arwyddlun o storm ym myd dynion, ond yr un Duw all wastrodi'r ddau. Gall waredu dyn yn yr ystorm, a defnyddia'r ystorm i'r diben hwnnw. TRIN Y MATER YN 8AESNEG- Ymddiriedwyd hyn i'r Parch. J. H. Howard. Seiliodd ei ymdriniaeth ar dri gwirionedd, yn I ei eiriau ei hun The Psalm emphasised three truths, the first fundamental truth is that the Lord Jiketh the second, that the Lord reign- eth and the third, that the Lord saveth. If the Psalmist in the dim ages of the twilight of history could find comfort, surely we should find comfort in the same way at the present time. The living God watches over the whole world, and careth for us. We cannot get much but of esboniadau on this verse, but he heard an old saint say that God broodeth over us. This is not a stir of death, it is the stir of new life. He applied the storm in the Psalm to the turmoil of the present time, and Europe will profit thereby. The Lord that reigneth is controlling the forces that are at work today. He is ruling for the good of His people My turning points are in Thy hand. War has always been the civilizing agent of the world. This war has revealed the nobility of our young manhood. What a contrast is the present to the gloomy picture drawn by some of our Jeremiahs. We see the stability, the sacrifice, and there never was such a con- secrated life and friends of countries are attracted to each other. They come from the city office and the Scottish moors from Plinlimmon and the coalpits of Glamorgan from Buckingham Palace and the Birkenhead workhouse. Do we think they can go back from the present social conditions ? The whole nation will be drawn nearer together after this war is past. Even Germany will be nearer the truth than before. The Lord reigneth, and the Lord saveth. He is leading humanity to peace. War is only an accident. Peace and peace alone is permanent. War would not have been possible if the Church had been true to its message. We have tried commerce, and education and Parlia- ment. Shall we try God ? We shall not have authority, might and majesty until the Cross of the Lamb appears. GWEDD ARALL Y Mae y testyn (meddai'r Parch. Joseph Jenkins) yn golygu fod gennym hvder. Mae'r taranauyn dychrynu llawer, ond yr eglwys wel y dirgelwch. Adnabyddiaeth yw yn codi o'i bywyd hi. Pan gaiff plentyn ysbryd ei fam yn ei enaid, 'daiff dim a hwnyna oddiarno. Nid oes tangnefedd iawn heb storm, rhyw mine-sweeper mawr o eiddo Duw yw hi. 'Fedrwn ni ddim deall dim ond trwy'r cyfer- byniol. Gwyddom am y storm fwyaf i gyd,— honno ddaeth a'r tangnefedd mwyaf. Dywed traddodiad am Pilat ei fod ar ol ymgrogi yn ymddangos yn barhaus i geisio glanhau ei ddwylaw ond cynhyrfai y dyfroedd yn ofn- adwy bob tro y rhoddai ei ddwylaw yn y llyn ond mae lie y gallwn ni ymolchi mewn tang- nefedd Caed ffynnon o ddwr ac o waed." Mae storm wedi bod yn hanes gwledydd ac ymerodraethau bu'r Aifft,a Groeg a Rhufain yn ceisio golchi eu dwylaw mewn delfrydau, ond rhoddodd y storm ddiwedd ar eu gwar- eiddiad. 'Ddaw pethau ddim yn iawn ond trwy oruchwyliaethau ofnadwy. Mae pob dyn ysbrydol yn cynrychioli y greadigaeth, ac y mae defnyddiau ystormydd y tufewn i'r dyn ei hun. Ca'r nefoedd drafferth i wneud trefn ar y ddaear. Credwn fod Duw yn gwneud trefn ar y byd am mai Ef sy'n gwneud trefn arnom ni. CRYNHOI Y MA TER- Ar y diwedd gofynnodd y Parch. R. Aethwy Jones y cwnstiwn, A ydym yn credu yn Nuw ? Wna yr enaid ddim gorffwys heb grodu mewn Duw byw, personol, y tu ol i'r greadigaeth i gyd. Yn Nuw yn unig y gall yr enaid orffwys. Efe'n unig sydd yn llywodraethu ar bob peth, bach a mawr, y drwg a'r da. Amhosibl iddo lywodraethu unpeth heb lywodraethu popeth; yn ol ei arfaeth a'i dragwyddol ewyllys. Credwn fod y diafol hefyd dan ei lywodraeth. Ni pharodd y rhyfel yma ddim anfantais i Dduw, oblegid yr un broblem sydd yn hon ag sydd yn rhyfel pechod.

OVDA"'R MILWYR GYMBEIG I

Advertising