Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ARGRAFFU LLYFRAU Mae cyhoeddwyr y Brython wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lytrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac id aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd llawer o bethau wedi codi, fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn llawn waithyn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython: 356-8 Stanley Road, Liverpool, TELEPHONE 591 BOOTLE CAETHDRA Ymae A MEDDYGINIAETH BRONCEITUS ???X?S?? DarUennweh hwn oddiwrth 1'& FREST PHILIP C. CREAGHE. yn rhol gollyngdod parhaol ac ar unwaith rhag Caethdra, Bronceitus a Ynad Trigiannol Ballymena. Chlwy'r Owair. Y mae Mrs. Creaghe yn dioddef ers llawer blwyddyn oddiwrth Glwy'r Gwair a Chaethdra. Gallaf ddweyd yn ddibetrus iddi dreio pob meddyglyn y gwyddid amdano, ond i ddim diben. Yr haf hwn y elywais gyntaf am Feddyginiaeth Vaughaa. i'r Freat, a da iawn gennyf gael dweyd iddo roi gollyngdod parhaol ac ar unwaitb. Y mae ei effaith ar anhwylderau'r anadl yn rhyfeddol tuhwnt. a/1 a 3/. yn rhad drwy'r post oddiwrth KILO & CO., LTD., GWELLHAD British Agents,  108 Patrick Street, CORK. YN "Y FAN.
FFETAN Y GOL i
FFETAN Y GOL Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau NITHIO'R GAU A NVTHU'R GWIR. Mesur oedi Padgysylitiad a Dad-I waddoliad. At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Dymunwn hysbysu y cynhelir Cyn- hadledd yn Ysgoldy Clwyd Street, Rhyl, am 1.30 nawn dydd Llun, Mawrth 29ain, i drefnu moddion i wrthwynebu y Mesur uchod, sydd yn awr gerbron y Senedd. Taer erfynir ar i holl Gymdeithasau Rhyddfrydol ac Eglwysi Ymneilltuol Gogledd Cymru, Eglwysi Cymreig Lerpwl, Manceinion, Llundain, a rhannau eraill o Loegr, anfon cynrychiolwyr i'r Gyn- hadledd, a gwahoddir yno hefyd yr holl weinidogion Ymneilltuol o bob enwad.- (Parch.) JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn (Parch) THOMAS HUGHES, Felinheli Eisteddfod Gadeiriol Birlienhead, I Pasg 1914. At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR,-Fel un -a gymerai ddiddor- deb yn yr uchod, ac oedd yn ei chyfar- fodydd, syndod mawr i mi oedd darllen llythyr elir a theg y ddau frawd oedd yn y lleiafrif pan yn dwyn y gweithrediadau i derfyn. A ellir, o unrhyw safle o edrych ar bethau, feddwl am weithred fwy hunanol a shabby na'r hyn a wnaeth yr wyth aelod o'r deg ar y Pwyllgor gyda'r arian gweddill ? Yr wyf yn edmygu gonestrwydd a phlwc y ddau frawd Evans a Hughes yn yr achos hwn, a chlywais iddynt ymladd yn galed dros eu barn yn y Pwyllgor, ac hefyd iddynt rybuddio y gweddill o'u bwriad a'u bygwth o'r hyn fyddai'n sicr o ddilyn eu gwaith. Diddorol fydd clywed pa esgus roddir gan yr wyth am y weithred. Ymddygiad cywilyddus o sal fel hwn bair i'n gelynion ein gwatwar. Mae'r peth yn annioddefol, Mr. Golygydd, a hyderaf y cyfyd y cyhoedd fel un gwr mewn protest yn erbyn peth sydd yn gymaint o sarhad arnom fel Cymry.—Yr eiddoch yn bur, 14 Alderley Avenue, D. T. JONES Birkenhead Eisteddfod Gadeiriol BirKenhead, I y Pasg 1914. At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Drwg gennym ddeall fod rhai cyf- eillion yn ameu fod a wnelom a'r Eisteddfod uchod, a byddwn yn ddiolchgar os caniatewch fodfedd i ni hysbysu nad oedd gennym ran na chyfran yng ngweithrediadau'r Pwyllgor mewn modd yn y byd.—Yr eiddoch, etc. ISAAC DAVIES BEN THOMAS [Ysgrifenyddion Pwyllgor y Cais am gael yr Eisteddfod Genedlaethol i Birkenhead yw'r ddau frawd uchod, ac nid oedd a wnelont hwy na neb arall o aelodau'r Pwyllgor hwnnw ddim o gwbl a Phwyllgor Eistedd- fod y Pasg, 1914. Gofaled pawb sy'n dilyn y drafodaeth bresennol gadw'r ddau bwyll- gor yn hollol ar wahan, a pheidio a chydio neb o swyddogion y Cais Genedlaethol wrth yr hyn a wnaeth wyth aelod Pwyllgor Eisteddfod y Pasg diweddaf.—GOL. j, i At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Yn ysgrif Ap Gwarnant yng Nghen. inen Gwyl Ddewi defnyddia'r gair anos mewn dau neu dri o fannau. Wele enghraifft Onid yw yn anos dod o hyd i fardd heb gadair nag i fardd cadeiriol ?" Wele frawddeg arall o'i eiddo Anodd yw hyn heddyw, eithr anos oedd i un heb fod ond rhyw ddau aeaf neu dri yn yr ysgol, lie ni ddysgid ac ni pherchid yGymraeg. Gan na welais y gair anos yn cael ei ddefnyddio fel hyn o'r blaen, hoffwn wybod a ydyw'r gair yn cael ei ddefn- yddio mewn rhyw gylchoedd yng Nghymru ? Gwelaf "anllos" a'i ystyr yng ngeiriadur Spurrell, dan olygiaeth Mr. Bodfan Anwyl; ond beth am "anos ? Beth yw barn y Parch. Tecwyn Evans, tybed amdano ?—Yr eiddoch, ARDWYN "Draw mi welaf ryfeddodau." At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.-Fel darllenydd cyson ar I Seren Gomer—cylchgrawn Dau-fisol Bed- yddwyr Cymru, a olygir gan y Parch. D. Wyre Lewis, y Rhos-tarawyd fi'n anghyffredin a'r englyn a ganlyn ar dud. 68 o rifyn Mawrth eleni. Y drwg yw nad wyf yn fardd o gwbl, er imi ddysgu mymryn ar y cynganeddion unwaith dro byd yn ol, ac yr wyf mewn tipyn o benbleth uwchben yr englyn hwn oblegid hynny,—sef nad wyf yn ddim bardd ac heb fedru dim ond ychydig ar y cynganeddion. Ond gan fod pob bardd Cymreig trwy'r byd yn darllen Y BRYTHON, eredaf nad yn ofer yr apeliaf at y frawdoliaeth farddol i'm goleuo parthed yr englyn anghyfiredin hwn, Dyma fo'r englyn, Syr :— Y CYBYDD. Bara sych, heb arw son—a thoddion Yw eithia'i ddanteithion A gwisga'i unig hoson I ddal aur-addola hon. Goronwy. A dyrna'r cwestiynau y dymunaf ar rywun eu 1 hateb (1) Beth yw neges "heb arw s6n yn y llinell gyntaf ? A oes iddynt neges o gwbl heblaw eu bod yn gyfleus ddigon i gynganeddu a "bara sych ? (2) A ydyw'r gynghanedd yn y gair cyrch a'r ail linell yn gywir ? Onid rhywbeth fel a thoddion O'th eiddo sy'n gywir (o ran cynghanedd) ? Ac hyd yn oed a'i gymryd fel y mae, onid oes "proeat" ynddo,- th, dd, n th, dd, n ? (3) Pa beth yw ystyr eithia ? A ydyw yn perthyn rhywbeth i eitha tybed ? (4) A yw cynghanedd y drydedd linell yn iawn ? Yn un peth, ai cywir yw fod gh yn ei rhan olaf yn ateb i g yn ei rhan gyntaf-onid ateb i c a wna'r cyfuniad gh ? Apheth arall oni ddylai fod g ar ol yr 8 yn hoson i ateb yr sg yn gwisga" ? Oni ofyn y gynghanedd rywbeth fel "A gw;sga'i unig fisgwrn" ? (5) Yn anad dim, dymunaf oleuni ar y gair hoson ? Pa faint o amser sydd er pan aeth hosan yn hoson tybed ? (Cwest- iwn i'r ieithwyr ydyw hwn, nid i'r beirdd). Nid gwall orgraff yw hwn megis y gwall a ddigwyddodd yn englyn Pedrog i'r Caiser annwyl,—yr englyn a gywirir ar dud. 112 o'r Seren hon—eithr gofyn yr odl am hoson ac nid hosan." Anfarwol hoson Pwy a'i heglura ? (6) Os yw "unig hoson" y cybydd yn dal aur," sut yn y byd y llwydda'r gwr piau hi i'w gwisgo ar yr un pryd ? Ai cybydd tlawd iawn yw hwn gan mai un "hoson" sydd iddo, a gwisga honno, a rhydd ei aur ynddi (a hithau am ei goes) ? (7) A yw Goronwy yn perthyn—o bell efallai—i Goronwy Ddu o Fon ? (8) Arwydd o beth a ddangosa unrhyw Olygydd wrth gyhoeddi englyn fel hwn ? Yr eiddoch yn ddisgwylgar, AP GOMER Defosiwn Arweinwyr Canu. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Swydd bwysig ac anrhydeddus yw swydd y Dochreuwr Canu nid rhyfedd fod tipyn o ymgiprys amdani weithiau. Ac fel doabarth mai y rhai ddeil y swydd yn deilwng ohoni maentyngwneudgwasanaethgwerth- fawr i ganiadaeth cysegr Duw, ac yn helpu i wneud ei fawl Ef yn ogoneddus. Nid bychan eu llafur a'u ffyddlondeb, ac nid bychan rhwymedigaeth a dyled yr eglwysi iddynt. Ond y mae gennyf gwyn yn erbyn rhai ohon- ynt,-rhai, sylwer, nid y cwbl. Nid yw eu hymddygiad bob amser yn deilwng at rannau eraill y moddion. Pan el y darllen ymlaen, ceir rhai yn brysur yn troi dalennau en Llyfr Tonau, heb dalu sylw o gwbl i'r darlleniad. Ac hyd yn oed pan fo'r gweinidog yn ceisio arwain y gynull- eidfa mewn gweddi, elywir suy troi dalennau yn myned ymlaen yr un morrysur. Mewn un amgylchiad a ddaeth dan fy sylw yn ddi- weddar, pan weddiid, eisteddai'r dechreuwr canu i fyny'n benuchel gerbron yr holl gynulleidfa, ac yn troi dalennau ei lyfr yr holl amser. Nid oedd modd taflu mwy o ddirmyg ar yr oedfa. Prcfai'n amlwg nad oedd gronyn o ysbryd defosiwn yn ei fynwes ef. Ac heb- law hynny yr oedd ei ymddygiad yn rhoddi esiampl ddrwg i'n plant a'n pobl ieuainc, ac yn rhwystro eraill i weddio. Mewn amgvlch- iadau eraill sylwais fod y dechreuwyr canu yn penlinio neu yn plygu pen gyda gweddill y gynulleidfa, ond yr oedd su y troi dalennau'n cyrraedd fy nghlustiau yr un mor amlwg, yr hyn a brofai nad oedd dim gweddio yn myned ymlaen yn eu hachos hwy. Anodd peidio a gofyn, gyda mesur o syndod, beth all fod syniad y bobl hyn am natur addoli ? Mor arwynebol, mor anianol, bron na ddy- wedwn mor ragrithiol, raid fod gwasanaeth crefyddol y cyfryw rai Mewn rhai achosion, modd bynnag, tueddir fi i gredu fod y cyfryw ymddygiad yn codi'n fwy o ddiffyg meddwl na dim arall, oblegid yr wyf wedi sylwi ar ddyn- ion gwirioneddol dda a duwiol yn syrthio i'r camwedd. Ond beth bynnag all fod yr achos ohono, rnae'n hen bryd ceisio darbwyllo y rhai sy'n ouog o wrthuni ac hyd yn oed pechadurusrwydd yr ymddygiad. Dylai'r blaenor canu, fel pob blaenor eglwysig, fod yn wr o ysbryd defosiynol, a dylai'r ysbryd hwnnw lywodraethu ei holl ymddygiadau yn ei ymwneud ag ordinhadau ty Dduw. Ni ddylai adael i'w sel dros y canu beri iddo ddiystyru rhannau eraill y moddion, na gwneud dim all dynnu oddiwrth eu hefieithiol- rwydd. Dylai fod yn un y gall y bobl ieuainc edrych i fyny ato am esiampl dda, a dweyd y lleiaf. Cwynir yn fynych, ac nid heb achos, oherwydd diffyg defosiwn yn ein moddion crefyddol. Os ydym am gael gwellhad, yn sicr dylai'r arweinwyr roddi esiampl dda yn hyn o beth. Eiddigedd dros gysegredig- rwydd y moddion yn unig a'm cymhellodd i alw sylw at y diffyg pwysig hwn. GWEINIDOG Hanesydd Fitsclarence Street. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Drwy garedigrwydd cyfaill, sy'n swvddog yn yr eglwys, cefais gopi o'r Ilyfr difyr a hylaw hwnnw, Hanes eglwys Fitz- clarence Street, o waith Mr. Stephen Roberts. Y mae wedi ei argraffu yn brydferth, ac yn chwaethus, wedi ei drefnu yn gampus, a'r darluniau yn dda. Mae'r atgofion yn felys, ac nis gall neb ei ddarllen drwyddo heb deimlo'n llawer gwell, ac heb fod yn fwy o edmygwr o'r hen bobl gywir yr adroddir eu hynt ynddo. Mae'r arddull yn syml a chlir, ond yn gryf a darluniadol, a'r cwbl yn ffrwyth llafur mawr. Rhydd y llyfr gipolwg ar lawer o agweddau'r cyfnod yr ymdrin arno (1826- 1900) a dwg i'r amlwg rai o brif gymwynaswyr distaw y Methodistiaid yn Lerpwl,—dynion o ran cymeriad a gweithgarwch sy'n gynllun ac yn esiampl i ieuenctid yr oes hon. Ond er ei fod yn gynnyg teg i roi disgrifiad o'r hen saint, ac yn gasgliad cryno o ffeithiau am Rose Place a Fitzclarence Street, nid yw'n hollol gyflawn, nac yn rhydd oddiwrth fân wallau. Er enghraifft 1. Yn 1824 (ac nid yn 1816) fel y gellir casglu oddiwrth tudalen 5, y cynhelid gwas- anaeth yng nghapel y Bedyddwyr yn Great Crosshall Street (GwelerMethodistiaeth Cymru) 2. John (ac nid Thomas) Hughes, Mansfield Street, oedd enw tad y Parch. Josiah Hughes (gweler y Drysorfa, 1843, tud. 128). 3. Dylesid rhoi clod i Edward Morris am gychwyn Ysgol Sul yn Birkenhead yn 1834, a buasai dyfyniad o alareb y Parch. Owen Jones, Manchester, ar ol yr hen bererin,yn werth ei chadw. 4. Nid yw chwiorydd yr eglwys wedi cael eu lie priodol,—dwy yn unig enwir. Dymunol fuasai taflu blodeuyn ar fedd ami un arall,— Rebecca Jones, Mrs. Williams (chwaer Glan Collen), Mrs. Joseph Williams, Mrs. Edwards, Gregson Street, etc. 5. Y mae cyfrifon eglwysi Lerpwl o 1835 hyd 1842 ar gael, a swm casgliadau Rose Place am y blynyddoedd hynny oedd £ 4,130/2/2. 6. Diddorol fuasai crynhodeb o ambell bregeth yn Rose Place, megis pregeth fawr y Parch. John Parry, Caerlleon, yn Ionawr, 1832, ar y geiriaw A phan ddel, efe a argy- hoeddo'r byd." Ac onid yn yr un capel, ar nos Sadwrn y Sulgwyn, 1864, y daeth y Parch. Hugh Jones i ffrynt ei Gyfundeb fel pregethwr hyawdl a grymus ? Ond nid yw'r meflau yn amharu dim ar y I darlun, ac mae'r gymwynas olaf hon o eiddo Mr. Stephen Roberts yn haeddu diolchgarwch cynnes pawb sy'n cymeryd diddordeb yn hanes Cyfundeb y Methodistiaid. Boed i eglwysi Crosshall Street a Princes Road wneud cyffelyb waith am y fam eglwys yn Pall Mall, a'i merch hynaf yn Bedford Street. —Yr eiddoch, Birkenhead ISAAC DAVIES Ceisio Codi Ysgyfarnog. I At Olygydd, Y BRYTHON I SYR,—Yn Y BRYTHON diweddaf y mae brawd dienw yn ymddangos fel pe huasai ar fin darganfod ffaith bwysig, sef yw honno,— mai nid Mr. Charles yw awdur y Oeiriadur. Ac yn ei chwys ysgrifennu rhuthra i geisio codi cad i fyned allan i ddienyddio yr hen eiriadurwr. Ar adeg fel hon, mwy cydnaws fuasai ymuno i dorri pen rhyw Ellmyn neu Dwrc mawr, a gadael i'r Cymro annwyl dawel orffwys yn y bedd y mae ynddo bellach ers can mlynedd. Ond fel hyn y gwneir a'r proffwydi er dechrouad y byd. Daw'r helynt hwn i fyny yn y papurau bob rhwy ddeng mlynedd, er yr amser y cyhoedd- wyd Llyfryddiaeth y Cymry gan Wilym Lleyn. Y mae gennyf gred nad oes gan eich gohebydd yr un arf newydd i dorri enw Charles i ffwrdd. Gwybyddus yw i Sion Robert Lewis, sef John Roberts, almanaciwr Caergybi, gyhoeddi ei Etrlyfr Ysgrythyrol yn 1773, ac i'r gwr cywrain a gweithgar hwnnw fwriadu dwyn geiriadur mwy allan, ac yn debyg wedi cychwyn ysgrifennu pan alwyd am i Thomas Jones a Thomas Charles, gan W. C. Jones, yr argraffvdd yng Nghaer, i gymeryd y gwaith mewn Haw. Syrthiodd y cyfrifoldeb ar unwaith ar Mr. Charles, ac y mae (31 ei law gelfydd a chrefyddol ef drwy'r gwaith. A gaf fi roddi cyngor i'ch gohebydd i ymofyn copi o Eirlyfr John Roberts yn 1773 a'i ddarllen, ac yna ddarllen Geiriadur Charles i gyd ? Gwr y mae ei goffadwriaeth i fod yn barchus iawn yng Nghymru yw Sion Robert Lewis. Llafuriodd yn ddyfal, ac yr oedd yn rhifyddwr tan gamp. Gallai fod Mr. Charles yn ddyledus iddo of am rai cyfeiriadau at seryddiaeth yn y Geiriadur. Ond hawdd i'ch gyhebydd—os gwnaiff y peth a ofynnwn ganddo-weled nad oedd a fynno awdur Geiriadur 1773 lawer a, Geiriadur Mr. Charles. Efallai fod rhai pobl yn meddwl fod geiriadur yn ffrwyth meddwl y dyn a elwir yn awdur." Er mor fawr yw meddwl dyn, terfynol iawn ydyw. Casgliad o wybodaeth gan wyr medrus a dyfal yw y geiriaduron goreu. Pwy feddyliodd erioed fod Meildejohn neu Reynolds, dyweder, wedi caboli yn eu meddyliau eu hunain bob ffaith a welir yn eu Geography of the World ? Rhaid arfer synnwyr eyffredin ynglyn a phethau fel hyn. Felly yr oedd Geiriadur Charles yn eiddo i'r gwr da hwnnw un o ddynion sanct- aidd Duw a gynhyrfwyd gan yr Ysbryd Glan, ac a lafuriodd yn galed am y wybodaeth oreu ymhob maes i roddi'r goleuni goreu allent ar Air Duw i genedl y Cymry. Pa hanes cywirach eHir ei gael am waith Charles na'r hyn a ddywed ef ei hun yn ei ragymadrodd i'w Eiriadur :— Fod enwau yr awdwyr a ddefnyddiwyd fwyaf yng nghyfansoddiad y Gwaith hwn "yn cael eu rhoddi i lawr yn nghorff y Gwait-h. Ac ymhellach: "Nid oes dim yn fwy ar fy meddwl ddydd a nos na helaethiad gwybodaeth iachusol a defnyddiol yn mhlith fy nghydwladwyr hawddgar ac anwyl. Yr ydwyf o gyd- wybod yn rhwymedig yh eu gwasanaoth, "ac yn eu cydnabod yn deilwng o bob ffrwyth llafur a fedraf fi byth eu anrhegu ag ef." Bendith ar ei enw a'i goffadmriaetli f Mor ddyledus ydym i'n tadau Cofus gennyf i 17/w ohebydd arall ddweyd yn Y BRYTHON fod Geiriadur Charles out of date. Felly yr aiff pob geiriadur. Felly yr aeth Cruden ac Eadie a Smith, ac felly yr aiff hyd yn oed Hastings ar fyrder. Yr hyn sydd yn rhyfedd i mi am Eiriadur Charles yw ei fod mor gynorthwyol i'r Cymry eto,ac mor ddiogel ar ol mwy na chan mlynedd o amser. Pan godir rhyw Hastings o Gymro o'r un naws a nwyf a barn a'n henwog Charles, mawr fydd ein braint. Yn y cyfamser anwylwn yr hen Eiriadur.—Yr eiddoch, etc. HUGH LLOYD 2 Argyle Road, Liverpool I Y Berf=Enw ac yn y blaen- I I At Olygydd Y BRYTHON I I ANNWYL SYR,—Un o'r pethau mwyaf diddorol i mi, ynglyn a chystrawen y Gym- raeg, yw'r Berf-enw," ac yr wyf yn hoff iawn o froddegau wedi eu llunio a berf-enwau, megis Aeth adref dan ganu; daeth yno ar redeg y mae canu da yn werth ei wrando gan larpio y llarpiwyd Ioseff; gan ddarfod dy gystuddio cyn fy nyfod (before my coming) gall fyned (he can go) medr ysgrifennu (he is able to write) cyfarfod pregethu haearn gyrru haearn bwrw clywed canu elywais gaitu pot llaeth cadw diwrnod corddi tresio bwrw chwipio rhewi ffac/lu cynneu. Am hynny, Mr. Gol., fe'm synnwyd braidd wrth ddarllen cwyn Mr. Manuel, Llanidloes, yn Y BRYTHON am yr wythnos ddiweddaf. Dywed mai "craig rhwystr efrydwyr y Gymraeg yw'r Berf-enw. Ebr ef :— One of the great stumbling-blocks, if not the greatest, in the way of students of Welsh is the so-called verb-noun.' The vague treatment of this part of speech by "teachers of Welsh in general has driven hundreds of anxious students to despair." Gwir nad yw'r hen ramadegwyr yn son dim am y berf-enw, fel y cyfryw; ceisiant hwy esbonio'r priod-ddulliau hyn a rheolau wedi eu cyfieithu'n llythrennol o ramadegau Seis- nig. Ond ymysg gramadegwyr diweddar, y rhai fu'n fwyaf o gynhorthwy i mi, yn y peth hwn, oedd Syr Edward Anwyl yn ei Welsh Grammar (parallel series), adrannau 229-241 a 536-556, a'i First Welsh Reader and Writer, c.d..50-53, ac hefyd Mr. S. J. Evans, M.A., Llangefni, yn ei Elements of Welsh Grammar. Ni raid i neb sydd wedi astudio'r rhain fod mewn penbleth o gwbl wrth geisio meistroli'r pwnc. Hwyrach mai Sais yn ceisio dysgu Cymraeg ydyw Mr. Manuel. Os felly, cyf- addefaf yn rhwydd ei fod yn waith anodd iawn iddo, ond ni ddylai'r anawsterau fod yn anorfod. Dyry Mr. M. yn erbyn yn un enghraifft, eithr nid berf-enw mo'r gair erbyn," ac nid yw'n enw ar weithred o fath yn y byd (yn ein dyddiau ni, beth bynnag am ddyddiau a fu). Ystyr yn erbyn yw against (a person or thing) Welsh Grammar J. Morris Jones, td. 414 (4). Cyfeiria Mr. M. yn ei lythyr at ateb a rodd- wyd yn ddiweddar i ymofynnydd gaii One who is doubtless an authority on Welsh philology." Yr oeddwn eisys wedi sylwi ar yr ateb," yn Y Cymro yr oedd am Mawrth lOfed, yn y Golofn Gymraeg gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., a theg yw imi ddy- wedyd fod Mr. Manuel yn gwneud cam dybryd a Mr. Tecwyn Evans drwy gam- ddyfynnu ac hefyd gam-Iythrennu'r gair dan sylw. Un n sydd gan Tecwyn yn dychrynu a dywed yn eglur mai berf-enw ydyw, ac felly nid oedd yn deg i neb gasglu oddiwrth yr "ateb" mai berf yw'r gair 'dychrynu.' Heblaw hynny rhydd ddwy gymhariaeth, sef can, canu, barn, barn 11. Rhaid i'r neb a fynno ddeall y pwnchwn, yn gyntaf peth, ddysgu adnabod y gwahanol rannau ymadrodd, yn enwedig y Berf-enw. Sylwer ar y rhestr a ganlyn gwaith, enw gweithio, berf-enw ofn ofni *medr medru *cred credu „ *cwsg cysgu *y mae'r rhain yn ferfau hefyd, eithr nid berf enwau. Dyma hefyd enghreifftiau campus sy'n cadanrhau yr hyn a ddysgir yn F Cymro gan Tecwyn :— Nid ofni rhag dychryn nos (Salm 91, 6) Ac heb eich dychrynu mewn un dim (Philip. 1, 28); Ac wele ddychryn a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef" (Gen. 15, 12); "Heb neb i'w dychrynu (Micaii 4, 4). Gyda golwg ar y frawddeg arall y cyfeiria, Mr. M. ati, sef A'r Iesu yn rhodio wrth for Galilea, a ganfu," etc-" And Jesus walking by the sea of Galilee," etc., ebr ef "Walking is a participle in English, but there is no such thing in Welsh." Gwir, frawd, ond dylasech ychwanegu fod yn y Gymraeg gyfuniad sy'n gyfystyr a rhangymeriad (participle), sef, Berf-enwau dan lywodraeth arddodiaid (parti- ciple eijuivalenls, i.e., verb-nouns governed by prepositions), gan hynny paham na dderbyn- ier hwynt fel y cyfryw ? Enghreifftiau r yn rhodio, gan rodio, walking wedi rhodio, having walked ar ddyfod, about to come; dan ddyfod, while coming erbyn dyfod, by the time that (he) came or dyfod, though (he) came. Geilw'r gramadegwyr y rhan flaenaf o'r frawddeg dan sylw yn Ymadrodd pen- dant (absolute phrase or clause). Dywed Mr. S. J. Evans, M.A., Llangefni, yn ei lyfr- The Elements of Welsh Grammar,—" The absolute phrase is always introduced by the conjunction A, AC, and The absolute construction in Welsh, as in Latin, is very characteristic of the language, and should be freely used." Y mae'r Bardd Cwsc a'r Mabinogion yn dryfrith o'r dull hwn. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Golygydd, am agor eich colofnau i ymdrin a phynciau ynglyn a'r Gymraeg. Ni wyr neb yn well na chwi pa mor bwysig yw eu trafod. Grassendale G. GRIFFITHS
Advertising
D. GRIFFITHS & SON. 221 Breck Road and 9 Moss St., Liverpool PIANOS AND ORGAlIS from By allthe 8 PER? leading MONTH makers.- TF-LEPRONE-456 Antisid We undertake to curelyour SKin Complain with our Vansyl SKin Treatment The guaranteed cure for Eczema andm all skin affections. j YOUR MONEY RETURNED if no care i8 effected. Price, 2/6. Trial Size, 111 post free. D. H. EVANS. M.PS., Pharmacist 148 Lodge Lane, Liverpool. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAPFIAD. Is. HUGH EVANS A'I FEIBION, 356-8 Stanley Rd., Liverpool Pence ,If Envelopes FOR CHURCH; COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered Jb, Special Machine.  Hugh Evans Sois, ?B rythco 356.8 Stanley Itoads L'pool.