Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y Goi Oddicartref

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Goi Oddicartref i I'r hen Sir annwyl unwaith eto. I Dowch i guro'r Twmpathau [ YN hen Senedd-dy Glyn Dwr ym Machynlleth yr oeddym yn y druth ddiweddaf a chan i'r llun gyrraedd yma'n rhy hwyr i'w ddodi yn ei le yn honno, 'does dim i'w wneud bellach ond ei fwrw i fewn y fan yma, gyda diolch i bobl dirion y Cambrian News am roi benthyg y bloc mor barod ac ewyllysgar Ond erbyn meddwl, purion peth oedd cael cip ar yr hen Senedd-dy, canys ar y 15fed o Fedi nesaf bydd y genedl i gyd, tufewn a thufaes i Gymru, yn dathlu'r pum canrif aeth heibio er pan gladded Glyn Dwr na wyr neb ymhle, mwya' gresyn. O na wyddwn ymhle y mae ei Iweh yn dirgel-lechu, gael imi fynd a dweyd wrtho fod y Prifysgolion y breuddwydiodd o yn gyntaf un amdanynt, bellach wedi eu cael, ond fod erthyl estronaidd y Twrch Trwyth wedi hen wneud ei wal ymhob un ohoiiynt a rhyngddo fo a'i lwdn-y Die Shon Dafydd dirmygus—fod arogl ffiaidd yr Hengist ffals ar bob sefydliad cenedlaethol sy drwy'n gwlad, yn goleg a llyfrgell a chwbl. Prin fod mwy na saith neu wyth Proff. drwy- ddynt i gyd nad yw'n edrych ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth fel sbwrial saith waith islaw eu sylw, ond mewn cinio Cymrodorion ar Wyl Ddewi. A'n helpo, werin wirion Cymru A'i at hyn y cyfranasom Ond rhoswch chwi i'r hen ryfel yma ddarfod fe wyddom ni am dclyn a wyr eich hanes yn dda, a hynny o'r tufewn, ac yr ydyni am ofyn i hwnnw ysgrif- eiinu cyfres o lithoedd i godi'r lien ar y bradychu a'r mingamu sydd ar hoff bethau'r Cymry yn y colegau a'r Llyfrgell a godwyd yn un swydd i'w meithrin a'u' mawrhau. HELA'R TWBCH TRWYTH fydd enw'r gyfres egrifau ac yr ydym am hysio'r wlad i gyd i ddod allan i guro ,r twmpathau yn yr hunt fawr honno. Ac os delir y Twrch mewn pryd erbyn Eisteddfod Genedlaethol Aber- ystwyth, fe ofynnwn i'r Archdderwydd Dyfed—a go fach o waith cymell fydd arno fo, mi wn !—wanu Cledd yr Orsedd drwy'i fyWyd, er mwyn i'r dorf glywed sgrech ola'r anghenfil wrth farw ac yna, wedi i Lew Tegid o'r Gogledd a Dyfnallt o'r De offrwm gweddi o ddiolchgarwch oddiar y Maen Llog am y fath ymwared i'r genedl, fe alwn ar bob Eistedd- fodwr a gwladgarwr, pob bardd a lienor, pob gwleidydd a dyn Senedd, pob Proff. a darlith- ydd, pob athro a macwy, pob Eglwyswr a Chapelwr, a chynrychiolaeth o blant ysgol pob un o'n deuddeg Sir, i droedio heibio'n un orymdaith fawr, gan daro bawb ei sawdl drwm ar ei wegil marw, cyn i Pedrog a Phedr Hir gydio yn ei gorffyn a bwrw'i sgerbwd atgas i bydru dros byth yng Nghors Fochno. 0 hyn i hynny, gadewch inni gyd droi allan i guro'r twmpathau i'w gael o'i ffau ae ar y clwt. -Dweyd y Drefn. Ond ahai y mae'n rhyhwyr glas cychwyn am y Penrhyn (ni welais i mo fath y merlyn yma am droi i bori bob tusw a gwelltyn a welo hyd ochrau'r ffyrdd, yn lie mynd yn ei flaen). Gadawyd Machynlleth tuag wyth ar gloch y bore ac wrth fynd drwy'r gorsafau o Aber- dyfi ymlaen, gofidiem na fuasai cyfle i ddisgyn am egwyl a seiat a'r Clwydydd, plethwr hydd- ddysg a medrus Y Cymry Amlwg sydd mor wiw gan bobl Y BRYTHON weld ei bortreiad bob tro y daw. Clywaf mai'r Parch. John Hughes, Fitzclarence Street, fydd dan ei bwyntil nesaf. Cofiwch alw yn Stabl Stanley Road y tro nesaf y byddoch ym mhulpudau Lerpwl, y Clwydydd ni chlywais i mohonoch yn Dweyd y Drefn ers blynyddoedd; a phwy bynnag arall na wyr, diau gennyf y gwyddoch chwi yn eithaf da mai nid Tafodi ydyw ystyr iawn y gair hwnnw, ond Pregethu'r Efengyl, -yr olaf yw'r ystyr wreiddiol ac a olygai'n tadau wrtho; ohono ef y deilliodd yr ail ystyr, ond ei fod wedi dirywio a chael cwymp nes mynd i olygu peth mor dra gwahanol. Ydyw, yn ddigon gwir pan gaffo dyn gwymp, fod ei eiriau'n cael cwymp i'w ganlyn. Nid Dweyd y Drefn y byddwch chwi a finnau pan wedi gwylltio a mynd oddiar ein hechel, ond dweyd yr anhrefn ffolaf a mwyaf ffyrnig, nes profi i bawb a'n gwelo ac a'n clywo mai tu- allan i'r Drefn yr ydym ac nid tufewn Iddi, druam brau! Rhaid, wir, rhaid i chwi fod yn y Drefn, wyddoch, cyn y medrwch byth ei dweyd Hi. Digon gwir y gallwch gael pobl- ogrwydd a chymeradwyaeth dynion, ond ffroth diwerth a darfodedig iawn ydyw hwnnw ar y goreu, ac yn berygl mawr meddwi arno oni fydd rhywbeth dyfnach a mwy dwyfol o'i flaen ac ar ei ol o. Gwin meddwol iawn ydyw gwin clod, a llawer iawn o yfed arno. Nid ysmalio na gwamalu'r ydwyf. 0 nage canys cofiwch y gall rhyw bitw bach o ddyn papur nevydd chwedlchwithau wrth luchio'ch lach anianol mor fynych ato., fod gymaint o ddifri a neb ohonoch geill, siwr a bod a'i afael cyn dynned yn y Drefn a neb ohonoch chwi sy'n ei dweyd Hi, ond fod ganddo'i ffordd ei htm o gydio ynddi. Ac yn enw pob rheswm, ouid Dweyd y Drefn y mae yntau hefyd os yw ei bapur yn un glan a gonest ac yntau'n ystyried i Bwy y mae'n gyfrifol ac i Beth y mae'n ymgysegru ? Ac erbyn meddwl, Dweyd y Drefn yr ydym i gyd, ffrindia annwyl, pa gylch bynnag y'n gosodwyd ynddo os ydym yn ceisio'i byw Hi'n gyson ac ymhob man. Ac hwyrach mai'r dyn sy'n ei dweyd Hi oreu a m. wyaf eymeradwy gan y Nef ydyw'r ambell lane o Gymro a deflir gan Rag- luniaeth o'r wlad i ganol haid o gydweithwyr rheglyd eu hiaith ac aflan eu moes yn y trefi yma, ac yn hytrach na phlygu i'w ffordd hwy, sydd a digon o egwyddor ac asgwrn cefn yn- ddo i ddweyd wrthynt yn blaen ei air ond yn dirion ei ysbryd :— Na chymraf yr un dafn o'ch diod ni fetiaf yr un ddimai o'm cyflog drud ar yr un o'ch ceffylau; ac er eich holl berswad a bygwth, ni chymrwn fy mywyd am ddod efoch i'r man a enwch nos yfory. Ond os medraf wneud cymwynas a chwi, fe'i gwnaf ar fy mhen, er mwyn yr Hwn a wnaeth un mor fawr a mi wrth fy achub. Nid mown ymffrost hunan- gyfiawn y dywedaf hyn, na chan ystyried fy hun ronyn yn well nac uwchlaw i'r un "ohonoch. Dim ary fath beth ond amy rhaid i mi, cyn y medraf gysgu a gwrando yr Efengyl yn esmwyth y Sul nesaf." Dyna ichwi Ddweyd y Drefn iawn A phan fyddwn ar ollwng yr hen derm ucheldraa hwn dros y wefus o hyn ymlaen, cofiwn o ble y tarddodd a beth yw ei wir ystyr, canys dweyd meddyliau Duw dan ddylanwad yr Ysbryd Glan y mae pawb sy'n Dweyd y Drefn ond dweyd meddyliau dyn dan ddylanwad yr Ysbryd Drwg y mae pawb sy'n tafodi ac yn ymollwng i lafoeri cynddaredd y cnawd. Wedi ymdroi cýd i roi un o'n geiriau gwlad yn ei le iawn, fe awn ymlaen bellach rhyngom a'r Bermo. I Danoeg y borfa Lom. I I Yr wythnos cyn y Nadolig yr oeddwn ar y daith hon, a'r ddaear ar y pryd dan glo'r gaeaf ac wrth weld Meirion yn sir mor greig- iog a llwm ei phorfa, a'r hen glogwyni sgyth- rog yn cuchio arnaf fel gwrach a'i Ilewys drwy ei dau benelin, dyma gofio yn y fan mai i un un o eglwysi'r llethrau a basiwn heddyw'r bore y nolwyd y Parch. Joseph Thomas, Carno, i swatio cynnen oedd wedi codi yno. Y fo oedd heddychwr mawr y Corff yr adeg honno, ac ymhle y caed,ei ail ? canys yn lie I dwrdio a chynghori'r pleidiau fel a'r fel a thraethu ribi-di-res o platitudes dwysion ond diafael, megis y gwnaethai dyn dylach a llai ei athrylith, fe wyddai'r Hen Garno annwyl am ffordd well a mwy effeithiol lawer,canys dyma'r ddameg dlos a chyrhaedd- gar ei phwyth a draethodd yng ngwydd y ddwyblaid :— Wrth deithio tuag yma yn y tren heddyw'r bore, a dod i olwg sir y Mwythig o odre Sir Drefaldwyn, fe sylwn mor wastad oedd y dolydd mor drwm a thoreithiog y borfa mor dew a graenus eu golwg oedd yr holl anifeiliaid mor fodlon a diddig y porai pob buwch a dafad at eu clustiau ym meillion mwynhad na dim ond rhyw bwt bach o gorn ar ben pob un, a hwnnw wedi ei gladdu o'r golwg tan gnu o gynhesrwydd. Ond wrth nesu at Sir Feirionydd yma, fe sylwn mor wahanol oedd y wlad—a'r anifeiliaid. Mynydd ar ol mynydd, a'r rheiny'n llwm a noeth o borfa yr anifeil- iaid yn brefu yn He pori a'r cwbl wedi magu'r cyrn hwyaf a hyllaf a welais erioed, ac yn cornio'i gilydd nes oeddynt yn waed diferol. Ac yn awr, frodyr a chwiorydd, dowch i lawr, da chwi, i ddolydd y porfeydd gwelltog sydd yng Nghrist a'r drydedd bennod ar ddeg o'r Cyntaf Corinthiaid, yn lie cornio a thwlcio'ch gilydd ar glog- wyni a chomins llymion y Cythraul. A dyna'r ddwyblaid ddig yn un," heb fod eisiau nol yr un cymodwr byth wedyn i'r eglwys honno, tybed. Chwarae teg i bob dyn gael dweyd ei farn a gosod ei gwyn gerbron, cyd ag y byddo'n dirion ei ysbryd a gonest ei amcan ond lie bynnag y clywoch gecryn diflas yn codi o hyd ac o hyd, ymhob pwyllgor a chyfarfod a chynhadledd, i gnecian a phlannu'i gorn yng nghalon ei frodyr, traethwch ddameg Joseph Thomas, a dwed- wch wrtho na achubir mohono byth nesy newidia'i borfa ac y berwo'i gyrn. Buasai'n hawdd iawn aros colofn neu ddwy arall gyda'r Hen Garno, ond rhaid symud i'r stesion nesa', onite dyma lie byddaf. Merched y 'Menyn I Gwragedd ffarm oedd yn yr un cerbyd a mi' gan mwyaf ac yn mynd bawb a'i basged fenyn a llysau i farchnad yr Abermaw. A dyna lle'r oeddwn innau'n glust i gyd wrth glywed hen eiriau'r inaes a'r buarth a'r beudy a'r ty llaeth a'r fuddai gnoc yn diferu fel y diliau oddiar eu deufin. Clywais Elidir Sais yn sylwi mai un o brif orchest,ion Joseph Addison a Richard Steele-dau draethodwr mawr eu hoes yn Lloegr-oedd eu gwaith yn achub y Saesneg iawn a naturiol oedd ar dafod gwerin oreu a glana'r wlad a'i hadfer i'w Hen- yddiaeth, yn 110'1' Saesneg goeg a mursenllyd oedd wedi cymryd ei lie yn llenyddiaeth y dydd. Ac yn wir i chwi, fe garwn i weld rhyw Joseph Addison a Richard Steele yn gwneud yr un gymwynas a Chymru, ac yn disodli'r Gymraeg Wneud ac annaturiol yma allan o'n newyddiaduron, a'n llyfraua'n pulpudau a'n pobman, ac yn rhoi Cymraeg ystwyth a char- trefol Merched y Menyn yno'n ei le. Y mae hi yn dod, o ran hynny a rhai o'r gwyr cyn- dynnaf yn dechreu stwytho i'r drefn. Daliwn i wasgu ar eu gwynt. Fairbourne, wir I I Trechais innau f'yswildod o'r diwedd, ac a holais dipyn ar un neu ddwy o wragedd y basgedi, er mwyn eu hannos i sdn rhagor am y dail tafol a'r hen gaseg wen acw a Phero'r ci defaid a'r iar oedd yn gori a'r hen hesbwrn, gwae iddo fo, oedd wedi dringo dros eu gwrych o gae'r ffridd nesa' Ond dyn! dyma'l' tren honciog yn cyrraedd y Friog-ie, 'r Friog os gwelwch yn dda, canys dyna'i enw iawn, ond fod Cwmni'r Cambrian, yn boeth y bo fo wedi crwcwd i Saeson a gwybed yr ha' yma drwy fedyddio'u gorsaf yn Fairbourne, sef ar enw'r tai sydd wedi eu codi mor smic a ffasiynol ar y morfa islaw iddi. Fairbourne wir Y mae'r Friog lawn mor bersain a hawdd ei ddweyd, ond fod y dieithriaid min- fain a diystyrllyd yma yn ei andwyo drwy'i alw Ffreiaug, y garsiwn iddynt A pham y goddefwyd i'r un busnesyn newid hen enw oedd a darn, beth bynnag, o hanes yr ardal wecu mwsogli a nongian wrtho mor gu,ac am un dieithr nad oedd fwy a wnelo a hwn mwy na rhyw lecyn tlws arall. Onid oes yna ugeiniau o Fair Bournes yng Nghymru cyn dlysed ag yntau, ond dim end un Friog a phe'r aech i enwi mannau ar sail tlysni'n unig, yn lie ar sail hil a hanes y wlad, wel yn enw dyn, galwch ein hen Gymru i gyd yn Fair Bourne, canys felly y mae hi bob torlan ohoni, o Wynedd i Went, ag eithrio'r ambell ffatri a phwll sy'ii ei baeddu. Wrth sbio ar y Bermo. I Dyma Arthog, He y mae'r nwrphologist dysgedig Dr. G. P. Williams yn byw, ac y buasai'n fraint cael seiat a sgwrs a dyn mor lawn ond mor hoff o'r encilion rhagor ei lai. Dyma Bont y Bermo; a dyma Aber y Faw- ddach, y dywedai Ruskin ar ei wir na wnaeth y BreninMawr mo'i thlysach erioed. A dyma'r Abermaw, yn gymysg o'r hen a'r newydd, o ran moes a ffasiwn, tai o siopau, iaith a phobl- oedd, ac yn bur wahanol bellach i'r hen Fermo wledig mewn cymhariaeth oedd yma pan ddeuwn i iddi gyda thrip yr Ysgol Sul o Dalsarnau yn agos i hanner can mlynedd yn ol. A'r rhyfeddod mwyaf y mae gen i rhyw frith go amdano y pryd hwnnw oedd elywed deryn du pigfelyn yn chwibianu naillai'r Hen Ganfed neu ynteu Hen Wlad fy Nhadau, ar ol rhyw longwr oedd wedi ei ddysgu. Y mae'r Bermo Newydd yn dlysach ac iachach ei thai na'r hen, a hawdd y gallai; ac y mae ei lluniau'n fwy byw, ond nid wy'n sicr fod ei I chrefydd yn fwy byw nag y byddai. Y mae gen i ofn y Living Pictures yma oes, wir, er na waeth i mi, belican tuchanllycl o'r oes o'r blaen, heb na chwymu ar y chwidredd, canys I wedi dod i aros y mae o, meddant hwy i mi. Felly, 'does gen i ond gobeithio fod gan y Nef rhyw gynllun i'w sancteiddio a'u cadw rhag llwyr ferfeddu bias bechgyn a genethod Cymru, er na wn i ar y ddaear sut y mae Hi'n mynd i wneud ychwaith. Ond" un ryfedd iawn yw Hi," chwedl rhyw hen emynydd oedd yn ei hadnabod Hi'n well na mi. Fe fagodd yr Abermaw un bardd,—Robert Owen y Tai Croesion, ond a fu farw o'r darfod- edigaeth yn Awstralia, Hydref 23, 1885, yn saith ar hugain oed,a chyn i'w awen gael amser i braffu ac ymberffeithio. Dywedir ei fod yn medru deall a darllen deg o ieithoedd, a siarad chwech o'r deg yn rhwydd ac ystwyth. Ond nid o Bicturedromes y cewch chwi'r un I Robert Owen. Wrth sbio ar dde ac aswy. I Bu raid newid tr6n yn y Bermo a threul- iwyd yr hanner awr o aros am y llall drwy sbio ar dde ac aswy. Ar fy chwith, dyma'"r mor a leibiodd Gantre'r Gwaelod pan adaw- odd Seithenyn Feddw lifddorau Sarn Badrig heb eu cau; ac er y gwyddom ni mai dy- chymyg byw oes bell a greodd y stori, ac fod ei chyffelyb ar gael am bob traeth drwy'r byd, braidd na'm temtid, er hynny i gyd, i roi m dust ar y tywod i glywed gwaedd ac adwaedd y miloedd a foddwyd pan sgubodd y cenlli ar eu gwarthaf yn y gwastadedd,ffaith a brofir, chwedl yr etymologist lleol anfTael- edig, yn yr enw a arhosodd hyd heddyw ar yr ardal tu arall i'r traeth oddiyma, Cricieth,sef y Cri Certh Y mae rhywbeth hudol iawn yn yr hen draddodiadau hyn a dreiglodd atom o'r Cynfyd pell; bu'n achlysur i Jarett Roberts ganu oratorio iddi, ac yn achlysur hefyd i rai o feirdd goreu'r ganrif ddiweddaf—Gwilym Hiraetbog yn eu mysg—i ymryson awdlu arno, ac i gIoFr stori a'r cwpled a ganlyn :— 'E geir, He bu yd a gwin, Fawr grugiau o for gregin. Ar y dde, dacw Gadair Idris, ac aruthredd ar bob Haw iddi; ond wrth ei godre dacw wlad Dafydd Ionawr ac Ieuan Gwynedd a Dr. Wm. Owen Puw ac yma ddyn yn byw yn y Bermo a wyr am bob modfedd ohoni, ac sy wedi'n cymell ers talm bellach i ddod gydag o am sgawt drwyddi,—y caem faint fynnir o fwyd i'r merlyn. A'r dyn hwnnw ydyw David Roberts (Dewi Mawddwy) sy mor annwyl o'i delyn, ac yn eydio yncldi'n union fel y cydia mam yn ei chyntafanedig. Nid yw ei laisi wrth ganu gyda'r tannau, ddim yn fawr, ond y mae rhyw oslef toddedig ynddo yrr y galon yn Hyn o hiraeth am ddiddanwch yr hen Gymry. Dyma ni wedi ymdroi gormod fel arfer, nes methu cyrraedd pen y daith, ac yn gorfod gado'r gweddill-sef i'r Penrhyn a Llan Ffestiniog ac adref i Birkenhead drwy'r Bala —hyd rhyw dro eto. Cefais fy synnu a 'mriwo braidd gan un peth a walais yn y Bala. Llygad y Waivr J.H.J.

Advertising