Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
j TO SECURE HAPPY HOMES, USE 4 9 cRO ss LEY IS DRY SOAP I THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER. I
Advertising
'KEENORA' SELF-RAISING FLOUR. PERFECT FOR PASTRY EVERYBODY LIKES IT @@@ SOLE WHOLESALE AGENTS— MORRIS and .TONES. LIVERPOOL & MANCHESTER.
Advertising
Beaty Bros Ltd.  TAILORS CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good-Class Tailoring AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES: I London Rd. and Church St., Closed on LIVERPOOL. .11 day Saturday.. I Closed on Wednesdays at I Pam. Open all day Saturdays. A yw'ch -I Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd Ilethdod y Ilygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu-gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddon- ol, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a 'barai fwyaf o les i chwi. Galwcii heddyw- ARCHER & SONS Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, IL £ Sefydlwyd 1848. LIVERPOOL- I 'Pbone-3925 Bank. w. Grlls & soi, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO All 34f STANLEY ROAD, BOOTLE. .0 MILITAR. Y .;I- OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc.- "Phone—580 Bootle. Appreciated fat" 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. fashionable Chippendale Rosewood Case, complete Iron Frame, Melal Pressure Bar and Bridge, Check Action, beautiful tone and touch, uuequalled value. 23 Guineas "Arthur Day" Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), Iron Frame. Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artistic case, Overstrung Full Iron Frame, I nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or IÎIt of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music Fittings of all kinds Strings. Records. Records, LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS (gramophones all prices.. CO., [4 Lime Street, Liverpool. „????.  ?.???  ?.?   ?_.? j t..  .?.?  ?.  ..? ?. IF YOU WANT REALLY GOOD BOOTS TRY 1A U N TS, 49 Paradise St; Liverpool The Largest Stock of Boots and ghoes In Liverpool te aalect from, for Ladles e4 Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVANIS9 HOUSEHOLD OIL The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago 6c Burns, Scalds, Cuts, Bruises ALWAYS&WANDY IN THE HOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Chemit Price 1/1id. e 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE-.MANUFACTORY, FESTINIOG, NI WALES. ROBERTS 6 EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirftdale^ Rd., Liverpool Telephone 2193 Royal.
Trem ll-Ar y Ffordd i r Gynhadledd.-
Trem ll-Ar y Ffordd i r Gynhadledd. Yr oedd cvnrychiolaeth bur liosog o Lannau Mersey yn y Rhyl. Ymysg eraill yr oedd yr Hybarch Ddr. Owen Evans--un o arwyr Ymneilltuaeth Gymreig yn yr ymgyrch dros Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad, er cyn geni rhai o'r cynrychiolwyr a anfonesid gan eglwysi Ymneilltuol a Chymdeithasau Rhydd- frydol i'r Gynhadledd yn y Rhyl. Ar y ffordd, deuthom o hyd i gynrychiolwyr o leoedd eraill. Yn y Rhyl, cwrddasom a gwyr lien a lleyg o amryfal barthau yng Ngogledd Cymru. Ar y fforcld yno, ac wedi cyrraedd i'r dref, gwelsom y byddai'r Gynhadledd yn un liosog a brwdfrydig. Ni welsom erioed ddyn- ion wedi eu meddiannu'n llwyrach gan eu neges, na mwy o unfrydedd barn ac ysbryd ynglyn ag unrhyw bwnc—hyd y cawsom ni gyfle i sylwi. Teimlai pawb fod argvfwng wedi dod pan elwid ar bob Ymneilltuwr egwyddorol i sefyll dros ei fodolaeth fel y cyf- ryw, deued a ddeuai. Ymddangosai pob un fel pe'n ofni fod ei frawd yn wannach nag ef ei hun yn y mater. Nid oedd cyfaddawd i fod. Yr oedd Cymru Ymneilltuol wedi ei sarhau. Yr oedd yn amser inni osod ein cefn ar y wal, ac ymladd yn erbyn y fradwriaeth ar ein hawliau teg hyd yr eithaf. Teg yw inni ddywedyd yr ymddangosai amryw fel pe wedi colli pob ymddiried mewn rhai yr arfer- ent eu cyfrif fel cyfeillion pennaf Cymru yn y Weinyddiaeth. Yr un mor deg yw inni ddywedyd na chydsyniem a'r cwbl o'r cyfeill- ion hyn. A thybiem, os nad oedd ein barn ar y mater ymhell iawn ar gyfeiliorn, y ceid yn y Gynhadledd o leiaf ddwy ochr, a digon o ddeu- nydd dadl. Braidd na phenderfynasom, rhyngom a ni ein hun, pe na buasai neb arall yn ceisio cadw chwarae teg i rai o aelodau'r Weinyddiaeth, y buasem ni yn mentro ar y fath gais ein hun. Ond yr oeddym yn go- beithio na fyddai angen am y fath ebwch. Llawer gwaith y buom yn ceisio dychmygu beth allasai fod teimlad dyn wrth barablu, am y tro cyntaf erioed, mewn Cynhadledd ar fath yr un a gyfarfu yn y Rhyl Ar ryw ystyr, braidd na ddymunem, am unwaith, brofi'r fath deimlad Beth bynnag, drwy dru- garedd, ni fu angen y tro hwn am inni gymryd y dieithr lam."
Trem I-Cyn y Gynhadledd I
Trem I-Cyn y Gynhadledd I CLYWSOM fynegi siom am na fuasai i'r BRYTHON roi lie wythnos yn gynt nag y gwnaeth i'r Mesur Oedi (Postponement Bill) a gynhygiwyd gan y Llywodraeth gyda golwg ar ddygiad Deddf Dadgysylltiad a Dad- waddoliad i rym effeithiol ar ddiwedd y rhyfel presennol. DymunwA ddatgan yn groew mai nid ar y Gol. gwladgar y bu'r bai am hynny ac nid, vehnvaith, o'n diffyg parodrwydd ninnau i sefyll, hyd y gallem ni, yn erbyn unrhyw ymyriad anghyfiawn ac annheg a hawliau Cymru Ryddfrydol ac Ymneilltuol yn yr achos mawr y maent wedi ymladd a diodd- ef cymamt erddo yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Mae'r golofn hon o'r BRYTHON, ar hyd y blynyddoedd, yn ddigon o brawf o hynny. Model bynnag, ysgrifenasom ein barn ostyngedig ni ar y mater yn y Drych diweddaf, ac mae'n achos o foddhad nid bychan gennym ddarfod inni oedi ac yni- bwyllo rhag bwrw barn ehud ar fater mor bwysig a'r Mesur Oedi--fel y Cymreigir ef. Teimlem mor siomedig a neb ar y Mesur, ac nid ydym eto'n barod i ymddiheuro am yr hyn a ysgrifenasom-eyn y Gynhadledd gofiadwy yn y Rhyl. Buomt yn ofalus i ddal ar bob tystiolaeth a ddaeth i'n meddiant, ac i beidio a bwrw cyhuddiadau personol yn erbyn undyn ymhellach nag y'u profid gan ffeithiau di- ymwad. Yr ydym o'r dechreu wedi gosod ein hymddiried mewn rhai dynion amlwg yn y Weinyddiaeth bresennol, ac yn enwedig yn y Canghellor, y Prif Weinidog, a Mr. McKenna. Mynegasom ein barn yn bendant na fynnem gredu fod yr un ohonynt hv/y, yn fwriadol, wedi gwneuthur cam a ni. Er hynny, buom yr un mor bendant yn ein barn ddarfod i rhywun beri ein hanwybyddu a'n sarhau. Yn credu hynny, ysgrifenasom a ganlyn cyn y Gynhadledd yn y Rhyl, a beiddiwn ei osod i fewn yn y Drem hon:—Er na fu awyrgylch ein gwlad erioed yn llawnach o gymylau trym- lwythog nag ar hyn o bryd, cywir y gellir dywedyd, o ran yr Y mneilltuwyr Cymreig, fod ymddygiad diweddar y Llywodraeth ynglyn a Deddf Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yn follt o'r awyr las. Nid oedd Ymneilltuwyr a Rhyddfrydwyr y wlad yn breuddwydio am y fath beth ac os oedd yr aelodau Seneddol a gymrent arnynt gynrychioli Rhyddfrydwyr Cymru'n gwybod am y brad, dylasent fod wedi gwneuthur mwy o swn yn ei gylch. Cytunai'r Ymneilltuwyr yn gyffredinol a'r .hyn a ddeallent oedd yn ymrwymiad ar ran pob piaxd yn y benedd i beidio a. dwyn ymlaen unhryw fesur dadleugar a plileidiol, a hynny er mwyn cymorth y Llywodraeth yn wyneb ei thrafferthion dirfawr ynglyn a'r rhyfel. Beth bynnag, pan y gorffwysent hwy yn dawel yn yr ymddiriedaeth y cedwid at y cytundeb hwnnw, dvma'r lien yn cael ei chodi oddiar y ffaith ddarfod i'r Llywodraeth, yng nghefn yr Aelodau Seneddol Cymreig, ac arweinwyr Ymneilltuol Cymru, ddwyn i fewn i'w cyfrin- ach a'u liymgynghoriad gynrychiolwyr o'r blaid Eglwysig, a setlo'r mater gyda hwy yn unig. Beiddiwn ddywedyd fod y fath ym- ddygiad yn anamddiffynadwy. Y mae felly hyd yn oed pe, gellid profi fod y fargen yn ffafriol i'r Ymneilltuwyr; oblegid ym- ddengys i ni y golyga un o ddau beth, neu y ddau fel ei gilydd,—fod cynrychiolwyr Ym- neilltuaeth Gymreig yn rhy anwybodus neu anfedrus i gyfleu ac amddiffyn eu hachos neu, ynteu, yn. rhy anghyfiawn i fod yn deg mewn bargen. Mae'r naill syniad a'r Hall yn sarhad ar genedl o Ryddfrydwyr ac Ymneill- tuwyr. Nid ydym yn fodlon ar waith y Llywodraeth yn cipio mater y Dadgysylltiad a'r Dadwaddoliad o'n dwylo, fel petaem wedi bwnglera ag ef, ac yn analluog i drafod ein L hochr ni ynddo ein hunain. Mwy anfodlon fyth ydym ar y dybiaeth fod ein harweinwyr yn rhy anghyfiawn i gymryd eu rhan mewn unrhyw drafodaeth ar y mater. Mae'r naill dybiaeth yn sarhad ar ddeall ein harweinwyr, a'r llall yn sarhad ar eu cydwybodol- rwydd. Pe bodlonai'r Ymneilltuwyr Cym- reig i driniaeth ar y fath, buasent yn profi nad oeddynt deilwng o'u galw i gyfrinaeh y fargen, ac mai iawn oedd eu gadael allan ohoni. Ond nid ydym yn fodlon i'r dull yma o'u trin. Gallesid yn hawdd liosogi rhesymau am ein hanfoddogrwydd. Er enghraifft, yr ydym o'r farn fod yr hyn a wnaed yn creu rhagreol (precedent) beryglus i'r eithaf. Dyma'r Ddeddf Seneddol wedi ei phasio, yn wyneb y gwrthwynebiad mwyaf pendant. Pwy all anghofio agwedd y blaid a arweinid gan Arglwydd Halsbury yn erbyn y Ddeddf hon ? Ar ddechreu'r ymgyrch olaf yn erbyn traha'r Arglwyddi, dywedodd Mr. Lloyd George, yn un o'i areithiau cofiadwy, We have got them now Yn wyneb yr hyn a ddigwyddodd yn ddiweddar, gellid tybio fod y tro wedi dod i'r Arglwyddi ddywedyd am yr Ymneilltuwyr a'r Rhyddfrydwyr Cymreig, "We have got THEM now. «&>
Trem lll-Yn y GynhadleddI
Trem lll-Yn y Gynhadledd I Yn raddol, cafodd Capel Heol Clwyd ei lenwi. Yn gyntaf oil, cafwyd anerchiad gan Mr. Powell, Gwrecsam, 3m egluro mai Due Dyfneint oedd gyfrifol am y Gynhadledd yn Rhyl. Profodd hynny'n eglur. Ond yr oedd amryw o'r farn fod yf araith yn afreolaidd. oherwydd nad oedd eto gadeirydd yn llyw- yddu'r cwrdd. Ond fe gymrodd y Parch. John Williams y gadair wedi hynny, a llan- wodd hi hyd yr ymylon. Ni wnaeth neb ei waith yn well dan amgylchiadau mor anodd. Cadwodd ei dymer yn wyneb temtasiynau i'w cholli; bu'n amyneddgar a ffraeth, a chad- wodd y Gynhadledd wyneb yn wyneb a'r pwnc arbennig oedd o bwys iddi. Gwiriddi unwaith sefyll dros ffyddlondeb y Canghellor i Gymru mor herfeiddiol a bygythiol, fel y teimlodd rhai ei fod yn diystyru annibyniaeth barn y Gynhadledd. Ond buan y cafwyd dros hynny, ac yr argyhoeddwyd pawb fod gan y Cadeirydd reswm da dros y cwbl a ddy- wedai. Yr oedd y cadeirydd yn uno a'r Gynhadledd yn ei gondemniad o'r camwri a wnaed a Chymru yn y modd y dygwyd y Mesur Oedi ymlaen, a'r penderfyniad o wneu- thur yr hyn oedd ddichonadwy i symud ymaith bob perygl oedd ynddo i Ddeddf Dadgysylltiad. Modd bynnag, yr oedd yn sicr o un peth,yr oedd tynnu'r Mesur Oedi'n ol yn amhosibl. Yr oedd ei gondemniad ar Esgob Llanelwy yn ddifloesgni a deifiol. Hawdd oedd deall yn ystod anerchiad y cadeirydd beth oedd meddwl a thymer y Gynhadledd yn gyffredinol. Yr ergydion trymaf ar y cam a wnaed a Chymru a gai y gymeradwyaeth uenaf; ond, er hynny, fe roddid ystyriaeth bwyllog a dwys i bob awgrym a dueddai i droi goleuni mwy ffafriol ac addawol ar y sefyllfa. Yr oedd y Gyn- hadledd hon yn un o ddifrif. Gyda llaw, dy- wedid rhywbeth yn y Manchester Guardian bore Llun am "smàZZ men." Disgynnodd hynny hefyd dan wawdiaith ysol y cadeirydd. Beth bynnag, yr oedd y gynulleidfa, fawr honno'n cynnwys dynion 0 farn glir ar egwy- ddorion rhyddid gwladol a chrefyddol, a dewrder i'w hamddiffyn hyd yr eithaf. Mae Kitchener yn synied yn uchel am y Bantams yn ei Fyddin. Ac os Bantams" o ddynion oedd yn y Rhyl, yr oeddynt wedi profi tan llawer brwydr, ac yn arfog a pharod i frwydr arall os byddai galw. Dyma hen wroniaid, a'u pennau wedi gwynnu a'u gwarrau wedi crymu tan bwysau oes faith o ymdrech dros yr hyn y credasant oedd, o'r diwedd, wedi ei selio'n ddiamheuol,—Dr. Owen Evans, Dr. Pan Jones, Dr. Hugh Jones, ac eraill. A phwy yw y gwr Ilesg a arweinir i'r set fawr yng nghanol croeso twym y dorf ? Rhaid aros hyd nes y gosodir ef i eistedd, gan mor egwan ydyw. Ac efe yw y Parch. T. J. Wheldon, B.A.arwr brwydrau fil,-wedi arogli brwydr j bwysig unwaith eto. Dyma rai o'r hen gad- fridogiofi nerthol a hyfedr, oedd yn arwain cadau cyn i lawer o'r rhai amlwg yn y Gyn- hadledd hon ddechreu llawio cledd. A theimlai llawer yn siomedig am nad oedd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn bresennol. Ond mae yma ddilynwyr teilwng iddynt, fel y gwelwyd yn ystod y cyfarfod, k k pl,
Trem IV-Dynion Od.
Trem IV-Dynion Od. Ceir y rhain ymhob cynhulliad fel hwn. Wrth syllu o'n cylch, a gweled cynifer o wvr enwog ein cenedl, dychmygem y fath hyotledd carcharedig a ddisgwyliai ei ollyngdod mewn areithiau Beth pe digwyddasai i'r holl areithiau hyn ruthro allan mewn llafar ar unwaith Un o anawsterau mawr y cadeir- ydd oedd atal bursts yma ac acw, a thopio amryw dyllau oedd yn agor ar unwaith. Ond yn wir, ni fu plumber erioed yn fwy deheig yn ei grefft. Carasem glywed rhai gwyr grymus a phrofedig nas clywsom. Ond gan mai Cyn- hadledd agored, rydd, oedd hon, fel y bu yr oeddynrhaididdifod. Llefarodd rhai y bydd yn hyfrydwch gan bawb eu clywed bob amser, ac maent yn deall gwaith cynhadledd i'r dim. Daw penderfyniadau allan o'u meddwl fel gwe o'r pry copyn. Meddant graffter i ganfod y pwynt fo dan sylw, ac i ddadrys anawsterau. A gallant draethu eu meddwl yn glir, a deffroi cynulleidfa. Buasai cynhadledd heb y rhai hyn yn dlawd, a dylem eu gwerthfawrogi. Ond, yn sicr, mae rhai pobl od mewn cynadleddau. Waeth yn y byd beth fo'r amgylchiadau, na pha reolau a osodir ar glebran, bydd y rhai hyn yn rhwym o dorri allan i'r amlwg. Y diweddar a'r diddan Lwynog Llwyfo oedd yn nodedig am drechu pob arweinydd eisteddfod a geisiai gadw'r bardd a'i englyn o'r llwyfan. Ym- nyddai'r hen gyfaill diddorol rhwng pob' barbed wires a osodid ar ei ffordd,a byddai wedi adrodd ei englynion cyn i'r llwyfanwyr sylweddoli'r digwyddiad. Tebyg yw rhai ymwelwyr a chynadleddau. Ceir ami un ohonynt yn ddynion digon call a medrus mewn cylchoedd dyffredin, ond unwaith y cant i fewn i gynhadledd, ni allant yn eu byw ymforteisio i fewn i'w thrafodaeth fel eraill. Nid ydynt yn ffitio i unman. Ni raid iddynt ond codi ar eu traed na fydd pawb yn teimlo'n ddigrif neu ddig. Hynny yw, meddwn eto, maent yn bobl od. Ac yr oeddynt yng Nghynhadledd y Rhyl. Cododd un gwr golygus yn gynnar yn y cwrdd i ofyn cwest- iwn, ond dechreuodd y dorf aflonyddu arno. Ymgeisiodd am glust wrandawiad lawer gwaith, ond mewn dull nad ystyrridynrheol- aidd neu briodol. Chwarae teg iddo, clywem amryw frodyr o'n cylch yn ei amddiffyn, ac yn awyddus am iddo draethu ei fyfyidoiau. Ond nid dyn i ildio'n fuan oedd hwn a chyn diwedd y cwrdd galwyd ef, gan y cadeirydd, i'r set fawr. Bu yno am beth amser yn disgwyl ei dro, ac ofnem y terfynid y Gyn- hadledd heb i ddirgeledigaethau meddwl y gwr ieuanc hyawdl hwn gael eu dadorchuddio. Beth bynnag, cafodd ei gyEe, a thraddododd anerchiad digon didramgwydd a. synhwyrol. Yn wir, ni welem ni fod dim gwrthwynebus yn ei eiriau. Fe dybid ar y cyntaf ei ddyfod yno i rwystro gwaith y Gynhadledd. Fe welwyd, er hynny, mai'n amddiffyn y Cang- hellor yr oedd. Ei gamgymeriad fu meddwl fod y Gynhadledd wedi cwrdd i gyhoeddi collfarn ar y gwr sy'n eilun ei genedl, ac yn I