Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
.BHWJIlBTtG Be -iHMWYUEl -Y…
BHWJIlBTtG Be iHMWYUEl Y IDHEY. I TRINIVETH HAD. I Y MAE rhiwmatic yn gan!yniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfan-ioddiad, a'r acid hwn yw'r hehos pennaf o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, carreg grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi E tora yn driniaeth eff ithiol a llwyddianntis ar gyfer hyn, ac wedi g-ella llu o achosion wedi i feddygininethau eraill fethu, yr hyn a syfrif am y ffaith eu bod yn eyflym gymeryd lie meddyginiaethau "ar ol yr oes"- By'n ami allan o gyrraedd pawb ond y eyfoethog, Y mae nifer cyfvngedis o focses o DaMedi Estora yn eael eu CYKNYG Y, RHAD er profi eu bod yn lIawn warantu eu disgriflad-meddyginiaeth onest at y Kidney am bris gonest, 1 /It y boca o 40 o dabledi, neu 6 boc- am 6/ Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fleryllwyr. Y mae'r cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i rldarllenwyr Y BRYTHON am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ac ar yr -moii fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda :1e. mewn stamps, onite fe anwybyddir y ceisiadau; a'r amcan ydyw, diogelu rhag rhai nad oes »rnynt angen am y •ynnye. *??inad: ESTO?A Co., H2 Charing Cross Eoad London, W.C.
Trem V-Y Pwsic Mawr. I
Trem V-Y Pwsic Mawr. I Condemniwyd gwaith y Llywodraeth am dorri'r cytundeb o hedd oddiwrth bynciau dadleugar, ac am benderfynu bargen a'r blaid Eglwysig a Thoriaidd yn ein cefnau. Yr oedd y Gynhadledd yn hollol barod i'r bleidlais ar hyn, a gwastraff ar amser fuasai ftreithiau. Y cynhygiad y bu dadleu arno oedd yr un a roddwyd i'r Gynhadledd gan ein cyfaill abl, y Parch. 0. L. Roberts, ac a ategodd ag araith gref. O'r diwedd, bodlon- odd Mr. Roberts i gysylltu penderfyniad o eiddo Mr. Beriah Gwynfe Evans,fel ychwaneg- iad at yr eiddo ef. Cnewyllun y cynhygiad oedd ein bod yn apelio at yr Aelodau Cymreig yn y Senedd i wrthwynebu'r Mesur Oedi, yn ei ffiirf bresennol, hyd at fotio'n erbyn y Llyw- odraeth. Cafwyd sylwadau diamwys a chryf gan y Parchn. Thomas Hughes, y Prif- athro Rees, y Parchn. Gwynfryn Jones, Owen Owens, David Jones (W.), Mr. James Ven- more, etc. Ac wedi pasio'r penderfyniad. yn unfryd dywedodd y cadeirydd eiriau a roes ollyngdod i feddyliau trallodus y Gynhadledd ar y pwnc mawr y daethpwyd ynghyd yn ei gylch. Nid oes angen ymhelaethu ar y mater yma, ond credwn, erbyn hyn, na ddigwydd i Gymru Ymneilltuol yr hyn a ofnodd. Hyd y gallem ni ddeall oddiwrth bawb a glywsom yn son am y mater wedi datganiad y Parch. John Williams, cafodd eu hofn ei symud ymiith. Llawen iawn oedd gennym am y dystiolaeth a ddygid yn y Gynhadledd i'r safie Tanol a chadarn a gymerth yr Aelodau Cymreig ynglyn a'r Mesur Oedi; a pha beth bynnag fu'r difrawder o'r blaen, fe anghofir hynny bellaoh. Pasiodd y Gynhadledd bleidlais gynnes o ddiolch iddynt. Yr un mor briodol, ar 01 hyn, fydd claddu'r hyn a gredem oedd yn gamwri a ni ar ran y Llywodraeth-ei gladdu ym medd addefiad y Prif Weinidog o'r cam, a'i ofid o'i herwydd. A chyda golwg ar Mr. Lloyd George, yr ydym yn awr lle'r oedd- ym wrth ysgrifennu'r Drych diweddaf,—rhaid inni gael tystiolaeth na chaed eto cyn credu iddo ef fod yn anffyddlon i Gymru. A phe deallem y cwbl, nid rhyfedd pe gwelem nad oedd y Gynhadledd yn y Rhyl, mewn gwir- ionedd, ond cymorth i'r Canghellor i ennill yr hyn y bu'n ymladd amdano yn y cylch uchaf, a thufewn i ddorau caeedig; neu, efallai, i gadarnhau yr hyn a wnaeth efe. 0 hyn ymlaen, bydd Pwyllgor cryf o Ryddfrydwyr ac Ymneilltuwyr mewn cysylltiad union- gyrchol a'r Aelodau Seneddol Cymreig, ac maent i gyfarfod am y tro cyntaf yn Llan- drindod y fory (dydd Mercher). Dyma rywbeth i bwrpas, a da fu cael Cynhadledd y Rhyl i'w sicrhau. Bydd y Gynhadledd hon yn gofiadwy i bawb fu ynddi. Cliriodd yr awyr, a thywynnodd yr haul drachefn. --0-- I
Advertising
EVERY WOMAN UHUULU seaa j stamps for oui yi page LUustrated Boo) coQt&iBUig viluiiblc information how all Irrcgulintic anfS -luppressioa? niai *<- .ntireh avoided Of removed by simple means. Recommended by eminent Physiains as the only Sate Sure and Genuine Sieinedy. Nevei tail Thousands of restun<>m<iK Ssmolisiied r862. Mr PaUt BLANCHAff'S Met aunt House. OeUtoa Lane, i NDON
Call) nid cltognI
Call) nid cltogn PenaetHiaid lerdydd mwya'r Deyrnas yn mynd at Mr. Lloyd George i ddweyd wrtho fo a r Llywodraeth y rhaid setlo'r Pdiod cyn y setlir byth mo'r Rhyfel. CAIS CRYF A DIAMWYS DHRBYNIODD y Canghellor lawer dirprwyaeth yn ei ddydd, ond yr un bwysicach ei neges na mwy brawychus ei ffeithiau na honno aeth ato i Lundain ddydd Llun diweddaf, sef o yn agos i ugain o benaethiaid ierdydd mwya'r wlad, yn Lloegr a Sgotland, i ddweyd eu teimlad a'u tystiolaeth ddiamwys mai'r ymyfed ymysg y gweithwyr yw'r prif rwystr i gyflenwad arfau rhyfel, ac y rhaid cymhwyso mesurau cryfach a mwy effeithiol at y drwg nag a wnaed yn y wlad hon hyd yma. Cynrychiolai'r ddirprwyaeth ierdydd a gweithfau a firms' mwya'r deyrnas, sef o Birkenhead (Laird), Barrow, Sunderland, Hartlepool, Newcastle-on-Tyne, Glasgow, Greenock, Dumbarton, Govan, Jarrow, Heb- burn on Tyne, Wallsend on Tyne, ac yn y blaen a dyma grynhodeb o'r hyn a ddywed- asant wrth y Canghellor a rhai o wyr ucha'r Fyddin a'r Llynges oedd yno gydag ef Os am i weithfeydd y wlad fedru cyfarfod y galw mawr sydd arnynt am reidiau'r rhyfel, rhaid cau'r tafarnau'n gyfangwbl nes terfyno'r rhyfel. Credent hwy na fyddai cwtogi'r oriau, na gwaharddiad llwvr ychwaith os na byddo ond o fewn rhanbarthau neilltuol He cynyrchid modd- ion rhyfela, ddim yn effeithiol, gan y diangai dosbarthiadau neilltuol yn glir o afael hynny. Dylai'r gwaharddiad fod yn gyffredinol a thrwy'r wlad i gyd, a chau'r clybiau cystal a'r tafarnau. Sicrhaent fod 80 y cant o'r golled bres- ennol mewn oriau gwaith i'w olrhain yn ddigamsyniol i ymyfed. Effaith cwtogi'r oriau oedd peri mwy fyth o ymyfed yn ystod oriau'r agor, a pheri cynnydd yn yr arfer felltithiol o brynnu I gwirod wrth y botel a mynd ag o i'w yfed mewn lie arall. Gan nad faint a gwtogir ar yr oriau, ceid nifer o'r gweithwyr a dorrent holl reolau'r iard a'r gwaith i snechian allan i yfed gormod, nes methu dod at eu gorchwyl drannoeth, a bod yn rhy sal i wneud hynny ddylent pe deuent. [ ATEBIAD Y CANGHELLOR A dyma atebiad y Canghellor, wrth ryfeddu ac arswydo at y ffeithiau diymwad a glywsai gan wyr mor gyfrifol ac o lygad y ffynnon PROFI EU PWNCLA FFEITHIAU DISYFL- Nid oes dim rhaid i chwi gynnyg y gair ileiaf o ymddiheurad i neb ohonom am yr amser a gymerasoch i draethu'ch neges, oher- wydd y mae'r hyn a ddywedasoch yn beth o'r pwys mwyaf difrifol i les a sa r genedl. Ond er cryfed y pethau a lefarasoch, llwydd. asoch i'w cadarnhau, bron nad yw'n ddrwg gennyf ddweyd, a thystiolaeth a ymddengys i mi yn hollol amhosibl ei dymchwel. Braidd na ddymunaswn fedru taflu ias o amheuaeth ar osodiadau mor frawychus. Ond yr wyf yn berffaith argyhoeddedig fod yr hyn a ddywed- asoch yn wir, a hynny oblegid y ffeithiau ddaeth i'm clyw'n fwyaf arbennig er pan ymchwiliais i anawsterau llafur yn y cyfwng presennol. fes fit te COLLZ AMYNEDD JVRTH Y LLYTI"- Clywaf swn rhyw gymaint o goll amynedd •—ac nid drwg gennyf am hynny-am fod y Llywodraeth, hyd yma, heb weithredu'n gryfach nag y gwnaethant. Ond y mae rheswm neu ddau am hynny. Y cyntaf ar pwysicaf ydyw hwn cyn yr ewch ati i wneud peth fel hyn, rhaid i chwi fod yn bur sicr nad ydych yn camu'n gyflymach a phellach na barn y bobl, onite gwneir mwy o ddrwg nag o dda. Rhaid i chwi deimlo fod pob dosbarth wrth eich cefn pan fyddoch yn mynd i ymyryd, a hynny'n bur llym a di- amwys, a, rhyddid personol gwreng a bonedd y wlad i gyd. Y WLAD YN DECHREU AGOR EI I LLYGAID- Ond nid oes dim dwywaith gennyf fi nad yw'r wlad yn dechreu sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa. Peth pur anodd i WeinidogiOn y Goron ydyw dweyd wrth y wlad mor dra difrifol ydyw. Gellwch chwi sy'n gysylltiedig a'r ierdydd lie y cynyrchir moddion ac arfau'r rhvfel, gasglu'n bur deg sut y saif pethau, a da gennyf fod y gweithwyr eu hunain yn dechreu dod i deimlo'r un peth, a'u bod yn dod yn fwyfwy parod i ddygymod a mesurau mwy trwyadl ar bwnc y ddiod. EISIEU RHYW BETH MWY NA. CH [VTOGI ORIAU Yr ydych wedi dod i'r farn na byddai rhyw gwtogi dipyn ar oriau'r yfed ddim yn ddigon. Cred rhai ohonoch y caffai hynny effaith gwerthfawr ar y drwg. Cred eraill ohonoch y dichon y byddai'r cwtogi o rhyw les. Ond yr ydych yn credu i gyd y byddai'n annigonol i gyfarfod y niwed aruthrol a wneir i'r wlad gan y gormod yfed yma sydd mor remp ymysg adran-adran fach, hwyrach, ond un bwysig iawn serch hynny—o'r gweithwyr sy'n gyf- logedig i gynyrchu moddion ac arfau rhyfel yn y wlad hon. Yr oedd yn dda gennyf oddiar y safbwynt hwnnw-ond dim ond oddiar y safbwynt hwnnw,Ocofiwel-i-glywed Mr. Henderson yn dywedyd mor ddiamwys ar gychwyn y drafodaeth nad oedd dim cymaint ag un llwyrymwrthodwr yn eich mysg. Mr. Carter Gallasem fod wedi dod a rhai gyda ni. Y Canghellor Bydd mwy o bwys a grym o gymaint a hynny yn eich apel a'ch pender- fyniad, oblegid i chwi beidio a dod at y pwnc oddiar safbwynt dynion a chanddynt rhyw ddamcaniaeth neilltuol i'w hyrwyddo. Daethoch at y pwnc oddiar safbwynt dynion ag iddynt un nod ac amcan i anelu ato, a hynny ydyw helpu'r wlad i ddod allan yn llwyddiannus o'i thrybini. Dyna'r peth apelia at galon y wlad. I RHAID SETLO'R DD10]) CYN SETLO Y RHYFEL Gan imi chwilio i fewn i'r mater hwn yn fanylach yn ystod yr wythnosau diweddaf yma, rhaid imi ddweyd fod gennyf argyhoedd- iad cynhyddol, a hwnnw'n seiliedig ar fwy a mwy o dystiolaethau disyfl, na thai dim gyda'r drwg hwn ond mynd ato'n drwyadl,wraidd a changen. Credaf mai dyna'r teimlad cyff- redinol. Y teimlad ydyw, os ydym am setlo militariaeth Germani,y rhaid inni'n gyntaf oil setlo pwnc y ddiod feddwol (clywch, clywch). Y TRI HYN: A'R MWYAF {O'R TRI, I Y DDIOD- Yr ydym wrthi'n ymladd Germani, Awstria a'r ddiod, ac hyd y gwelaf fi y mwyaf o'r tri gelyn marwol hyn yw'r ddiod (clywch,clywch). Cael digon o arfogaeth sydd i benderfynu llwyddiant yn y rhyfel, a dim arall. Yr wyf yn dweyd hyn, nid ar f'awdurdod i fy hun, ond ar awdurdod ein cadfridog mawr, Syr John French. Y mae ef wedi datgan ei argyhoeddiad ar y pwnc yn hollol glir. A chrdHaf y gallaf anturio dweyd mai dyna argyhoeddiad yr Ysgrifennydd Rhyfel hefyd, ac argyhoeddiad pawb a wyr rywbeth am y broblem filwrol, sef, er mwyn inni ennill, mai y cwbl sydd arnom eisiau ydyw cynnydd, a hwnnw'n gynnydd anfert.h, yn rhifedi a swna yr arfogaeth y rhaid wrthynt i'w hymladd i'r pen. BARN A PHRYDER Y BRENIN- I Yr ydych wedi profi i mi heddyw'n bur eglur fod yr yfed gorrrtodol yn y gweithfau yn ymyryd yn ddifrifol iawn a, swm yr arfogaeth. Hyn yn unig allaf ei addaw i chwi ar y funud yma, sef y caiff y geiriau a ddywedasoch wrth fy nghydweinidogion a minnau yr ystyriaeth fwyaf dyladwy pan ddeuwn i benderfyniad terfynol ar y pwnc hwn. A hwy'n dyfod oddiwrth rai a wyr beth yw'r ffeithiau, a rhai sydd wedi siarad gan lawn sylweddoli eu cyfrifoldeb, yr wyf yn bur sicr y caiff eich geiriau ddylanwad mawr-mawr iawn—yn y cylehoedd hyn. Cefais y fraint o gael ym- gynghoriad a'r Brenin heddyw'r bore, a dyna'r pam na fedrwn gadw at yr awr bonod- edig ar y cyntaf i dderbyn y ddirprwyaeth. Ac y mae gennyf ei ganiatad ef ei hun i ddy- wedyd ei fod yn teimlo'n ddwfn-yn ddwfn iawn-ar y pwnc hwn, ac nid oes gennyf ddim amheuaeth nad yw ei ddeiliaid trwy'r wlad i gyd yn teimlo'n gyffelyb iddo. Yr wyf yn ddiolchgar tuhwnt i chwi am y ffeithiau a ddygasoch o fy mlaen, ac hefyd am yr awgrymiadau cryfion a gymellasoch arnaf. Os oes gennych ychwaneg o ffigyrau neu ffeithiau heblaw y rhai a roisoch eisoes, byddai'n dda iawn gennyf eu cael, er mwyn i mi allu eu crynhoi a'u cyfiwyno i'm cyd- weinidogion, a chael yr ystyriaeth a haedda'ch awgrymiadau pwysig. Wedi clywed yr atebiad, ciliodd y ddir- prwyaeth, a bydd y wlad i gyd yn achlust bellach i glywed beth fydd dyfarniad a llwybr y Llywodraeth ar bwnc mor hanfodol i'n diogelwch tymhorol ac ysbrydol.
Advertising
?'"   li ^ff .IV, ..Lost Property.. UMBRELLAS. Railway, Tramway, Police Beautiul Umbrellas & Sunshades, 1 f- 1/4, 1/9, 2 upwards. Walking Sticks. 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. Northern Umbrella Depot 28a Bold St. ■ upstairs), few doors from Church 8t We undertake to cureyoUr SKin Complain with our Vansyl SKin Treatment The guaranteed cure for Eczema and" all skin affections. YOUR MONEY RETURNED if no cure is effected. Price, 2/6. Trial Size, I '1 post free. D. H EVANS M.PS., Pharmacist 148 Lodge Lane, Liverpool. P 1 .CYWMARW. I Y Svchfwyfl Goreu i Gywion PA DDIBEN MEDDWL ARBED? drwy brynnu bwyd rbad a cholil hanner eich hatsied pan allech, "rwy dalu ychydig geiniogau'n rhagor FAGU POR UN O'R CYWION GWERTHFAWR Fe f&g cydaid 8id. Armitage (I/- drwy'r po t) 12 o gvwion nei y bont yn byttiefnos oed Samples rhad oddiwrth y gw neuthurwyr. H pwys. 2/8. 3 2 a chyn- nwys y cludiad 28 pwys, 5/4 neu 6/- rhwng cludiad. Ar werth ymhob storfa yd a hadau. ■ COME ALONCll .? imiTlfTl] IT'S ARhjl ITAdEls -ft.llplji'.ii ¡Jill nll\['  I'.) > t.    ,I ..I ?s??'?-??-???   -?, ?????????=\'?'?'??- 'ManufaGtured by :=- !*—ARMITACE BRO.LTD. HOTTINOHAM.  J • — j ftB???B I "?'?"" I i To obtain at the lowest cost the highest percentage of nourishment contained in the best wheats, get "MILLENNIUM" FLOUR. in the maker's original packages, as illus- trated, 3t lbs., 7 lbs., 14 lbs., and 140 Ibs. Cotton Bags. The registered mark" Millen- nium" guarantees to you the pure and unadulturated product of the wheatberry. MILLENNIUM!" Nourishes without taxing the system. W. VERNON & SONS, London and liverpool, FLOUR MILLERS TO H.M. THE KING. PEID* Well A DIODDEF lYNNU DANT IACH! mm ill 7/ifi (Peidiwch bytha mynd T R E I we" (Peidiwch bytha mynd ? Jt\L?m W ??)tm ofnusa chan grynnu). SAFE CURE For TOOTHACH7EE, WForTOOTHAOHE, ALL NERVE PAINS ???JJtB?JMtf in the Head, F"C, or Limbs from Colds, Cbille, etc. PoBtfree,13td. Bw W?? y R.WSTEVENSON.neosMtSTONRo.DERBY. ? And ALL CHEMISTS. ? ? Testimonials from all parts. Estab, 70 Years. GWELLHAODD FILOEDD, A MEDR EICH GWELLA CHWITHAU! PAM? O'RMWG I'R MYNYDD Llithoedd Gol. y Brython Oddicartref 24 0 LUNIAU ENWOGION CYMBU 170 tudal. 2g, 60. o'r SvryddEa hoa a oha bob L'yfrwerthwyr Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to each purchaser of a King. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. WALTER ROBF RTS A CO., Colliery Agents, LIVERPOOL. LIVERPOOL I he 4 SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, About 4 mint, walk from Lime st. & Central Stag at. A First-class Temperance Hotel. Moderate ch Tels.: Shaftesbury Hotel, L'pool." Phone ,t I ?<'ya?  tfk !r A.H.A? -n' ?!?t To CANAÐP, LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON & HAVRE TO CANADA, NEWFOUNDLAND & U.S.A. Allan's, 19 Jame- St., Liverpool; 14 f'ookspar St., KW., and 103 Leadenhall St. London, E.G. Llyfrou Cyfrifon Ysgol Sul. LLYFR YR YSGRIFENNYDD, gyda da- lennau byrion i wasanaethu am Iwyddyn heb ail ysgrifennu yr enwau, dwy golofn ar gyfer pob Sul crynhodeb ar ddiwedd pc chwarter, a nifer o ddalennau ar y diwedd > gadw cofnodion. Rhif 1—Ar gyfer ysgolion yn cynnwys 20 o ddosbarthiadau 1/V Rhif 2-35 o ddosbarthiadau 2/6 Cludiad gyda'r Post 4c. LLYFRCYFRIF Y DOSBARTH, wedi ei gyfaddasu i wneyd am 12mis heb ail ys grifenu yr enwaa i gyfateb i Lyfr yr Ys- grifennydd. Lly'rau Cyfrifon i'w cael yn decbrti o IODawr i Ragfyr neu o Ebrlll I Mawrth. Pris 1/- y dwsin. Cludiad-Un dwsin 3c., a cheiniog y dwsin ar ol hynny. HUGH EVANS AI FEIBION, qfili 358 Htahley Road, Liverpool CRISTIONOGALTH A CHYMDLITHAS, GAN LY PARCH. J. H. HOWARD. RHAGAI GAN Y GWIR ANRHYDEDDUS D. LLOYD GEORGE. Y mae darllen y gyfroryn goleuo y meddwl, yn cynhesu y galon, ac yn tyneru y gydwybod."—Y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. Fel ymdriniaeth hanesvddol a beirn- iadaeth o'r cwestiwn cymdeithasol, nid oes dim yn yr Iaith ddeil i'w gymharu a'r llyfr hwn ac y mae dawn y pregethwr a choethder y uenor yn argraffedig ar bob dalen o'r gyfrol. "-Y,.P"ch. O. L. ROBERTS yn Y Dysgedydd. Llyfr hyfryd i'w ddarllen, mewn Cym- raeg swynol, lIawn -nororiaeth. G*r cymwys yw Mr. Howard, o ran teithi meddwl a brwdaniaeth ysbryd, i ddadlea dros iawnderau gwerin, ac i ddangos addaster yr Efengyl i gyfarfod a dyhewyd y bobl."—Yr Athro IFOR WILLIAMS, M.A., yn Y Beirniad. "Y mae ei ysbryd yn eirias, a'i fraw ddegau yn llosgi ac yn goleuo gan frwd- frydedd pur.ANTHRopos yn Y Faner. I'w cael gan bob Llyfrwerthwr ac 0 Swyddfa'r Brython," 356 Stanley Road, Liverpool Pris 2s. 6c- neu 2s. 9c. trwy'r post. 4
Trem IV-Dynion Od.
cael ei edmygu gan y byd gwareiddiedigl Na, nid oedd dim drwg yn y llefarwrhyawd, hwn-dim. ond ei fod, rywsut, dipyn yn od yn ei ffordd. Ac yr oedd yno un odiach nag yntau. Un o faintioli y Bantams oedd efe. Cododd i fyny'n gynnar yn y cwrdd, ac aeth yn ferw o'i gylch yn union. Dywedid mai brawd o Lanelwy ydoedd, a gallesid tybio, oddiwrth y berw, a fu amdano, fod yr Esgob wedi ymrithio fel lleygwr, ac ymddangos yng Nghynhadledd ei wrthwynebwyr, i'w ther- fvsgu. Ond os dewr y brawd arall y cyfeir- iwyd ato, dewrach oedd hwn. Gallai siarad yn rhwydd yn y ddwy iaith, 'ac ni theimlem fod dim croesineb neilltuol yn ei ddadl. Credai llawer amdano yntau mai cynhyrfwr ydoedd 0 Lanelwy yn hylam,—a ddysgodd Esgob ffordd i'w Falam ? fag Ond yn ei gwrs, dyna'i gam,— Go ddi bwynt oedd gwaedd Bantam. 0.41 fe ddaliodd ati, drwy bopeth. Cafodd ei hiiia yn y set fawr; ac er fod y twrf yn ami yn boddi ei eiriau, gwelem ef yn dal i fyny, ei wymeb yn siriol, ei wefusau'n symud, a'i ddwrn yn cadw amser a gosod pwysla:s ar ei ymadroddion gwerthfawr. Cafodd fuddug- oliaeth deg a chyflawn ar ei holl wrth- wynebwyr, a chlymodd ei berfformiad i fyny mewn datganiad o'i foddhad. Yn sicr ddigon yr oeddymyn hoffi plwc y dyn bychan hwn, ac mid oedd dim anaddas yn ei eiriau. Dangosai allu i feddwl a llefaru. Ac yn lie bod yn wrthwynebus, yr oedd yntau hefyd yn sefyll dros yr achos mawr y daethpwyd i'r Rhyl o'i blegid, ac yn amddiffynwr pybyr i Mr. Lloyd George. Beth, ynteu, oedd yr achos o'r holl helynt ? Dim ond hyn—fod y cyfaill pybyr dipyn yn od yn y ffordd y dech- reuodd barablu ar ei bwnc. Nid oes ynnom amheuaeth nad yw'r brodyr hyn yn gystal Rhyddfrydwyr ac Ymneilltuwyr a neb oedd yn y Gvntiadledd, ac na pharhant i fod felly etc. Beth bynnag, purion peth, rhag i ddynion da gasl eu camfarnu, ac iddynt wneu- thur cam a hwy eu hunain, fyddai iddynt ymbwyllo ychydig cyn bwrw ymholion aIDwys i Gynhadledd pan fo'r awyr yn 11awn trydan canys gwnant eu hunain felly'n agored i gael eu cyfri'n ôd, ac mae cynadledd- au bob amser yn gosod gordd ganpwys ar goryn y dyn od Parodd rhai golygfeydd a gafwyd yn y Gynhadledd inni ddymuno am I eu gweled eilwaith ar lenni'r "darluniau byw." «5e «Sfe