Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Ein Cftnedl ym Manceinion.
Ein Cftnedl ym Manceinion. Cenhadon y Sul Nesal. Y METHODISTIAID OALFINAIDD. Moss SIDE-IO.30 a 6-30, R P Jones, Warrington PENDLETON-IO.30, E Wyn Roberts fI, R Williams HETWOOD ST-10-30, R Williams 6, E W Roberts VICTORIA PK—10.30, a 6. LEIGH-IO-30 a 6, W ABRISGTON—10.30 a 6, FAR.VWOKTH—2.30 a 6, EARLER'l'OWN-] 0.30 a 5.45. ASHTON-CNDER LYNE—10-45 a 6-30, D D Williams, Manceinion BLAOKBURN- EGJ-WYS USDEEOX, ECCLES-ll a 6-30, Huwco Penmaen Rhyl YR ANNIBTNWYR GHORLTON RD—10.30, M Llewelyn, 8.15.Edmund Davics Seven Sisters BOOTH ST-1r,.30 Edmund Davips 6-15, M Llewelyn LP DTTNCAN ST., SALFOKD-IO-SO a fi-15. J Morris QUKKS'S RD—10-30 a fi-15, George James iioiimwoon—10.30 a 6.15, WEASTE—10.45 a 6, W Jones, Ashton-in-Makcrfield Y WESLEAID DEWt SANT—10-30, D R Rogers 6, J T Ellis HOREB—10.30, Harold Roberts, 6, John Felix ezl,)N-10.110, 6, Efrydvdd BEUrLAU-10.30, Jolin Felix <?, Harold Roberts CALF A-RIA- 10.30, Efrydvdd II, D R Rogers EWLES—10-30.. J T Ellis, fi.30, W Rowlands Y BEDYDDWYB UP. WEDLOCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONGSIGHT— 10.30 a 6.30, BORIS'S LANE, SUTTON-IQ.30 a 6.30 COLOFN Y CYFRIN. I 0 MMIBION CERDDGAR I Mos Fawrth yr wythnoa ddiweddaf, bu gan y I C6v Meibion Cymreig, gyda'u harweinydd Mr. LIew Hughes, noson lawen yng nghapel Lord Duncan Street, Salford. Y cadeirydd oedd Mr. R. J. Williams, Eccles, yr hwn a ddywedodd ei fod yn cymryd diddordeb mawr yn y cor, obJegid cor yn myned rhagddo oedd hwa yr oedd eu sel a'u cariad at gerddor- iaoth yn amlygiad o hynny, a thra y parhant felly maent yn sicr o Iwyddo. Rhoddodd Mr. Williams, sydd yn gerddor graddedig, amryw gynghorion ac anogaethau gwerthfawr i'r cor, ac eraill sydd yn caru eerddoriaeth fel y naae yn ddatguddiad o fywyd trwy gelf. Canodd y C or Emryw ddarnau gyda swyn ac effaith r- eillttiol, y pedwar llais yn cyd-doddi'n rhagorol fel un ffrwd o gynghanedd. Peth lied eithriadol yn y Cor hwn ydyw fod nifer faivr o'r aelodau yn alluog i gann unawdatl, a'u llaie yn soniarus a chyfoethog. Caed amryw enghreifEtiau y noson hon. Darparwyd te a ehoffi a danteithion i bawb oedd yno, a mawr fwynhawyd y wledd ddeublyg. Miss Morfudd Williams, fel arfer, oedd yn cyfeilio. Caed ychydig sylwadau hefyd gan ei thad, Mr. Owen Williams,—efe yw llywydd y Cor. Dyrchafodd y Cor mown amser lied fyr i lwyddiant a pherffeithrwydd uchel, ac y mae yn llawn arwyddion bywyd calonnog, cymdeithasol, a dyngarol, sydd yn ddigon i argoeli pethau gwell eto yn y dyfodol. Haedda bob cefnogaeth. r Y CHWIORYDD IBUAINC- I Cylihaliodd aelodau Guild Moss Side eu cyfarfod amrywiaethol nos Fercher. Llyw- ydd, y Parch. D. D. Williams. Aed trwy y rhaglen ganlynol God save the X?Q', gan Mrs. Walker a'r gynulleidfa yn ei chynorth- wyo. Gipsy Chorus, gan aelodau y Guild. Adroddiad, Miss Coleman. Can, Miss Sepho- rah Hughes. Ymgom, Dewis gwr i Mary, gan Misses Davies a Ilicketfs, a chawsant hwy eu hunain, heblaw y gjmulleidfa, ddifyr- rwch mawr. Dawns Gwerin, yn nodedig o dda, gan nifer o enethod ieuainc, tan ofal Miss C. Wiliams, Victoria Park. Can. gwerin, Cyfri'r Geifr, gan ferched y Guild. Ar ol seibiant, dechreuwyd yr ail ran trwy ganu Aberdaron gan Miss Gwladys Owen, ac aelod- au eraill. Yna sylwodd y cadeirydd yn ei anorchiad ar y gwaith da y mae merched y Guild a'r rhai ofala amdanynt yn ei wneud ynglyn ag eglwys, ac y maent yn cael mwyn- had yn y gwaith. Hefyd buont yn foddion i gynhyddu Cronfa Ariannol yr Adeiladau i'r swm o £29 -is., mewn pedair blynedd. Hyn yn aberth mawr i'r chwiorydd ieuaine. Dilynwyd gyda Dawnsiau Gwerin dan ofal Miss Wiliams. Can gwerin gan yr aelodau. Adroddiad gan Miss Coleman. Can gan Mrs. Walker. Sketch, Y Ddynes Newydd, gan y Mri. Lewis ac Owen a'r Misses Owen a Roberts, a chawsant hwyl dda. Terfynwyd wedi diolch gan y Parch. D. D. Williams a Mrs. O. R. Williams, trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau gan Miss Sephorah Hughes. CANU'N IACH- Cyrhaeddodd Cymdeithas y Ford Gron ei deuddegfed blwydd, ac aehubwyd y cyfle trwy gynnal cyfarfod nos Wener i ganu'n iach a'r Parch. D. D. Williams, Moss Side, ar ei yirtadawiad oddiyma i Lerpwl. Mae ei safle fel lienor a'i wasanaeth llenyddol i'n cenedl yn hollol gydweddol a gwaith a nod y Gymdeithas hon, felly gwahoddwyd ef i'r cyfarfod i gyd- nabod ei wasanaeth, ac i gyflwyno rhodd fechan yr aelodau yn amlygiad o'u parch tuag- ato. Caed cynhulliad lluosog o aelodau v Gymdeithas, ynghyd a nifer fawr o gyfeillion yr aelodau a Mr. Williams. Yr oedd y Parchn J. H. Hughes, M. Llewelyn, a Robert Williams yn eu mysg. Mr. Hugh Jones oedd.y llvw- ydd,—un o'r gwyr mwyaf rhadlon, diddig, a chyfeillgar, ac yn feistr ar ddweydgairvnei bryd. Rhoddwyd y lie mwyaf arbennig ynglyn a'r annerch i'r dieithriaid. Cyfeiriodd y Parch. M. Llewelyn at gysylltiad y dref hon a. Uonyddiaeth Gymreig, a'r gwyr mawr oedd yma yn aelodau o hen Gymdeithas y Cymreig- yddion, fel Meudwy Mon, Huw Tegai, Ceiriog, Creuddynfab, Ap Ithel, ac eraill o dro i dro, hyd i'r Parch. D. D. Williams, yntau yn rhestr y cewri. Cyflwynwyd y rhodd, sef cyfrol o waith yr Athro Timothy Lewis, M.A., gan Mr. John Dayies, i'r Parch. D. D. Williams, gydag anerchiad byr, pwrpasol, a geiriau caredig ac edmygol amdano. Darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yn y llyfr gan Mr. W. J. Jones, y geiriau fel y canlyn Cyflwynedig i'r Parch. D. D. Williams ar ei ymadawiad o Fanceinion, gan Gvm- doithas y Ford Gron. Derbyniwch hwn fel arwydd o'n serch tuag atoch, a'n diolch am y gwaith wnaed gennych ym mysg Cymry'r ddinas, am eich sel a'ch || ymdrech dros Len Cymru, ac yn enwedig am eich nawdd i'n Cymdeithas a'ch diddordeb diball yn ei gwaith. Dymun wn ni sydd a'n henwau yn y gyfrol hon "bob rhwyddineb ichwi barhau i lafurio dros lenyddiaeth ein hannwyl wlad- Ewch rhagoeh i gyfoethogi ein hiaith, i feithrin ein lien, ac i noddi ysbryd cen- edlaethol ein cenedl'" Diolchodd y Parch. D. D. Williams yn galonnog am y caredigrwydd a'r cyfeillgarwch a ddangoswyd. Yr oedd wedi ceisio meddwl ana y rheswm o hyn, ac yn credu ei fod ef a'r Gymdeithas yn hoffi yr un pethau, ac yn cael eu llywodraethu a'r un ysbryd, sef ceisio gwneud ein rhan i gadw traddodiadau llen- yddol y ddintis. Mae yma awyrgylch len- yddol na cheir ei chyffelyb trwy Gymru i gyd. Mae math ar undeb cyfriiiiol- cydrhwng y Ford .Gron a'r Gymdeithas Genedlaethol i I weithio i'r cyfryw gyfeiriad. Mae perygl mewn gwrando ar ddarlithoedd yn unig, os na cheir cyfle i ddarllen a chyfuno meddyliau a syniadau ond gwneir y diffyg yna i fyny trwy y Ford Grou. Gworth mawr yw cael nifer fechan parod i aberthu arian ae amser i gadw lien ein cenedl. Yr oedd rhywun wedi gofyn iddo am gyfrinach ei lwyddiant cys- tadleuol. Ymhlith rhai pethau gallai ddy- wedyd mai liafurio yn galed a clia-el y dcfnydd- iau goreu oedd y pethau pwysicaf, cymryd trairerth i grvnhoi y cynnwys yn ofalus, a dysgu bod yn gynnil i fod yn gryf. Mae llawer mewn meddwl yn glir, a dweyd mewn mor lleied o le ag sy fodd. Cafwyd anerchiadau byrion hefyd, a chan- euon a barddoniaeth, gan amryw o'r aelodau. Yn eu mysg yr oedd J. W. Meredith, T. D. Jones, Francis Williams, E. D. Evans, R. Ed- wards, R. G. Edwards, H. E. Roberts, G. Caradoc Thomas, T. J. Rowlands, Rd. Williams. Cyfarfod hyfryd oedd, heb neb yn rhagrithio cynrychioli neb arall. Pob un drosto ei him trwy air a phresenoldeb yn dystiolaeth o ddymuniadau da a diftuaiit ei galon. Melys fydd cofio am y canu'n iach hwn, yn y Java Cafo, Corporation Street, lie helydy darparwyd ymborth i bawb ddaeth yno. Canmolodd y Parch. J. H. Hughes y Gym- deithas am fod ganddi lygad i weled rhagor- iaeth, ac yr oedd ei gwaith y noson hon yn synied yn uchel am y Parch. D. D. Williams. Ceir colled yma trwy ei ymadawiad, ond ni raid iddo ef betruso wrth fyned i Lerpwl. Bu yntau (J. H. Hughes) yn Lerpwl pan yn ieuanc, a bu'r tymor hwnnw yn fendith fawr iddo. Mae rhywbeth ym Manceinion yn ddylanwad i gael llenorion Cymreig. Dyn a anghofir yn rhy fy, nycli gennym ydoedd David Rhys Stephens, un o ddynion mawr Cymru fu yma'n weinidog i'r Saeson yn Grosvenor Street. Un o'r elfennau amlycaf yn y Parch. D. D. Williams yw caredigrwydd a chy- mwynasgarweh. Y Parch. Robert Williams a dystiodd fod llinell Goronwy Owen Dyrchafiad offeiriad rfur" (" ffnr "doeth, dysgedig) yn briodol iawn i'r Parch. D. D. Williams. Yr oedd wedi gwneud peth ria allai ond yr ychydig ei wneud. Mantais i weinidogionoodd mynod i gylch y tuallan i'r weinidogaeth. Rhyfedd gymaint o gynyrchion gaed gan Gymry yn y Sir hon. Dichon yr ysgrifennai Mr. Williams draethawd o hanes y cynyrchion hynny efe yw y dyn cymliwysaf i'r gwaith. GWLEDD Y PLANT- Ddydd Sadwrn cynhaliodd Gobeitliluoedd Manceinion a'r cyffiniau eu cymanfa gerddorol Mr. W. Wilfred Jones, Lerpwl, yn arwain. Cyfarfod y prynhawn yn Gore Street, a'r hwyr yn ysgoldy Moss Side. Daeth llu mawr o blant ynghyd fel arfer, a chaed canu rhagorol. Arholwvd mewn gwybodaeth Ys- grythyrol gan Mi,s E. S. Williams, Stockport,
Bara Brith.I
Bara Brith. Bob yn Dsfell. I (Allan o Hen Yd y Wlad Mr. J. Lloyd Jones, J (Blaenau Ffestiniog). YR oedd Sion Jones, Cwmorthin, a'i fra-wd yn myned i flair Llanrwst un tro. Cerdded yno oedd raid iddynt, am nad oedd tren na dim arall i'w cludo yno y pryd hynny. -Pan oeddynt ar gychwyn y daith, gofynr odd Sion Jones i un o'i gymdogion, "Sawl milltir sydd oddiyma. i Lanrwst ? Pedair ar ddeg," ebai'r cymydog. Wel ar i hoi i ta, Harri," ebai wrth ei frawd, dim ond saith bob un." Un tro aeth Thomas Jones y Rhosydd i ofyn profiad hen chwaer pur hynod oedd yn per- thyn i eglwys Bethel, o'r enw Jennie Owen. Oes gen ti adnod, neu rhyw air arall ar dy feddwl, leicet ti ddweyd wrthym heno, Jennie Owen ? Fyddi di yn. trio gweddio weithia, Jennie ? gofynnai T.J. "Be wyt ti yn gofyn peth mor wirion dwad, a thithau yn gwybod fod yr hen grydcymala vma rnor ofnadwy yn fy aelodau i ond mi fvdda i yn trio gweddio fy ngoreu pan bydd hi yn storm o fellt a tharanau, ebai Jennie. Byddai Thomas Jones yn ofalus o gofio ar ei liniau ar y ddyledswydd deuluaidd am ddaioni Duw yn ei ragluniaeth. Un tro yr oedd ganddo restr faith o drugareddau Duw, yn diolch amdanynt ar ei liniau, enwau rai bach a mawr. Mewn rhyw ddireidi megis, cododd y mab ieuengaf o'r tu ol iddo, a sibryd- odd yn ei glusb cyn iddo godi, Beth am y priciau i ddechreu tan, nhad ? Aeth Humphrey Williams, Llan, at nifer o fechgyn ieuainc yn y Seiat un tro, a gofyn. nodd i un ohonynt, R-d, machgen i, fyddi di yn darllen dipyn?". "Byddaf," ebai y bachgen, Beth fyddi di yn ei ddar- llen ? "Mi fyddaf yn darllen dipyn ar y Beibl a'r papur newydd." Da iawu," ebai H. W., P'run fyddi di yn ddarllen amlaf ? "Papur newydd," ebai'r bachgen. "Yr oeddwn innau yn tybio felly hefyd," ebai H. W., "oblegid fe fydd lliw y dail ar y lindys." Y tri chyfarfod y byddai H. W. ar ei oreu ynddynt ydoedd y Cyfarfod Gweddi, y Cyfar- fod Eglwysig, a'r Cyfarfod Dirwestol. Yr oedd yn elyn anghymodlawn i'r tobacco a'r ddiod feddwol, er y bu yn gwerthu tobacco am gyfnod, ond rhoddodd hynny i fyny, a hynny am reswm neilltuol. Yr oedd yn areithio ar ddirwest un tro, ac yn ymosod yn erwin ar y tafarnwyr wrth areithio, pryd y gwaeddodd rhyw frawd, Pa un waethaf gwerthu diod, ynteu gwerthu tobacco ? ac iddo yntau ateb, Wei, prun bynnag ydyw'r gwaethaf, ni werthaf fi yr un geiniogwerth o dobacco byth mwyach," ac fe dynnodd y sign i lawr drarmoeth.
Arddangosfa Fawr San Francisco.
Arddangosfa Fawr San Francisco. ÐIPYN yn wlyb ydyw, ond mao'n dyner a chlaiar. Enthum i edrych am lalydd i Los Gatos ddydd Llun diweddaf, dydd pen blwydd George Washington 55 miJltir gyda char modur; ac wrth fynd trwy ddyfftyn Santa Clara, ces olwg hardd a dymunol ar y coed ffrwythau yn dechreu blaguro ar bob llaw ac ymhen y pythefnos bydd yr holl gwm yn ei ogoniant amryliw,— miloedd ar filoedd o aceri'n blodeuo a mawr gyrchir yno o'r I r gyrehir no (?'r trefi. Eirin a gellyg, ap?,icot?? ac eirin blewog ydyw r prii gynhyrchion, ac yntau 'r Ialydd a. i berllan ar un o ysgwyddau uchaf Los Gatos I' yn gallu mwynhau un o'r golygfeydd harddaf yng Jvghaliffornia gweld ag un gipolwg dros y Dyffryn am ddeugain milltir, ynghyda'i holl brydferthweh. Yr oeddym tu ol i'r un cown- ter yng Nghaer yn 61 a 62, a'r gyfeillach yn aros ac yn blaguro byth, a difyr ydyw noswylio yn iach a heini yng ngwlad yr haf, gan gysgu allan y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Rhyw dair blynedd sydd erpan y mae yno buom ill dau yn byw yma am a.gos i 40 mlynedd, a cholled i'r Cymry oedd ei ymneilltuad. Dipyn yn ansefydlog oedd y tywydd yn y bore, ond trodd yn brynhawn hvfryd a heulog i r ymwelwyr fwynhau'r ffair a'i harddangos- iadau ysblenydd, y rhagoraf o holl ffeiriau'r byd, ac arddangosiadau o bob parth o'r byd, oddigerth Germani. Cymer 635 o aceri i gartrefu yr holl flair, 5 j acer i ddangos model o r gamlas, a 65 o acerii wasanaothu difvrrwch amrywiol, yr hon sydd stryd lydan a hir, a phob math ar ddyfeisiau i ddifyrru'r ymwel- wyr mae'n fan trystiog ddydd a nos. Gorwedda ar lan y mor, neu yn agos i'r Porth Aur, prif fynedfa i'r bau a'r Mor Tawel, yn dair milltir o hyd, a hanner milltir o led gorwedd o dan gesail rhan harddaf y dref-y Pacific Heights, ac o fewn dwv filltir i ganol y dref. Yr oedd seremoni'r agor, ddydd badwrn diweddaf, yng ngwydd dau neu dri chan mil, yn olygfa nas anghofir byth aed yn orymdaith o'r dref ar draed- dim cor- bydau-llywodraethwr y dalaith yn blaenori, y iigohon, y dieithriaid, y gwahanol gym- deithasau, ac yn eu plith y Cymry, yn cario baner ag arm Eisteddfod 1915 ac wrth Ðwr y Gemau, cafwyd areithiau a chanu, a cherddoriaeth holl wledydd cred a phan fu i'r Arlywydd, ar ganol dydd, roi gorchymyn i Agor agorwyd pob drws oedd yn y Ffair, a phob ffynnon yn dylifo, a'r holl faneri'n chwyfio o ben y cannoedd adeiladau, a'r holl bei:ríannau yn dechrou mynd, a man prysur oodd hyd y nos i'r chwilfrj-dig a'r nos wedyn cawsom dan gwyllt, a'r goleuadau sydd yn adlowyrchu ar yr holl neuaddau, searchlights, a thynfa ar Uwr y Gemau. Mae ar hon filoodd os nad mihynnau o wydrau o bob lliw yn crogi, yn adeilad gorwych dros 100 troed- fedd o "chter» a phan droid y goleuadau nerthol hyn arnynt, ga.dawent argraff ddy- munol ar y llygad. Fol yna y mae flair fawr San Francisco wedi ei hagor, ac argoelion y deil yn ei phoblog- rwydd ar hyd yrhaf Po, phan ddaw Gorffenn- af, pan fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, bydd Cyniry r holl wlad yma wrth y miloedd, a chant weled cywreinrwydd a dyfais ddi- weddaraf yr ugeinfed ganrif mewn amaeth- yddiaetli, mwnyddiaeth, peirianwaith. celfyddyd, dysg, bwydydd, etc., etc. I So. Perkelcy, California RD. JONES
Advertising
Yn awr yn Barod. COflANT THOMAS GEE, GAN — THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfroJ 650 o dudalenau yughy, ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn llian hardt 6;- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. cve., Dinbych Yn awr yn barod. ARGRAFFIAD NEWYDD A HELAETH- EDIG. If laiiti Eymraeg: EI HORGRAFF A'I CHYSTRAWEN. Gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. PRIS 1/6. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. HUGH EVANS A'1 FEIBION, 356-8 Stanley Rd., Liverpool Telephone Royal 1157 Established 1864 ROBERT ROBERTS ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South HAS Property to Let In rsricus parts of the own. Mortgages arranged. VataatlooB mcd 205 Established 1884. Phone 1140 Royal 547 WOOSNAM ROBERTS. F.A.I., Estate Agent, Bootle lstate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY R OAO, BOOTLE. (2 doors from Bedford Boa <) Telegrams WOOSNAM. BOOTLE." Talephcne No. 7909. J. LEWIS JONES, EBTATL AGENT St VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents per sonally collected. Purchases and Sales ne gotiated. Mortgagee arranged and Insurance effected. THOMAS a JONES. ESTATE AGENTS VALUERS. I38V»STMSMf BStLBSSOa. 67 Lord Street, Liverpool, Telephone- No. -3868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rente collected TEL. 21 7 AANTUJ. ESTABIOSHAJD 1871 Stephen Roberts & Son, BSTATB AGENTS 6 VALUERS. 137 Everton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Rents pet sonallv Collected. Purohasea a-nd ut-gotiat-ed. Mortgages arranged end b inrancee affected Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool THI Baxx 4084. Excellent Building Land for Sale in the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards ESTATE AGENTBj 102 Kirhdaie Rd. Liverpool Tel. 1840 Royal, 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., SSTAT* AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1885. Telephone: 567 Royal. Talephme 8586 Ba nk JONES S HUGHES, ESTATE OFFICE, 13 Whitechapelj Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE. Advances Made. R. E. HUGHEb, Estate Agent, Surveyor Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Bents Collected, and Property carefully managed. ——— L A;D 1 £ S BLANCHARD PILLS Are unrivalled tot an Irrogalarities, &a.. they spoedl h afford relief and never (ail to alleviate all 8611eI1018. tbey supersede Pennyroyal, Pit Oochla, Bitter Apple, as SLANCHARDIS are the best of all Pill for Women." sold is boxet). t/H by Boots' Branches, TAYLoRlt Branobes, and all Ohemiste, or post free, same prise, tram LBSLIB MaRTVN, Lte. Chemists.34 lialaten Line, Loadon YN AWR YN BAROD. CWRR y LLEN Ysgrifau syml ar a Faterion Gwyddonol GAN GWILYM OWEN, M.A. D-SC Athraw mewu Athroniaeth yn Ngholeg y Brifysgol Auckland N.Y. (gynt o Goleg y Brifysgol Lerpwl). Llian 2/6. HUGH EVANS & SONS, Swyddfar Brython. I DIM TALU Y ML AWN LLAW. ARIAN YN FENTTTYG (yn ddistaw bach), n ewn symiau bach neu fawr (heb fod Ilai na ClO) AR ADDAWEB T BBNTHYCIWft EI HUB* SBFYDLWYD ER3 41 MLYNEDD. ac yn awr yn hoi [80,000 YN FBNTTHYG BOB BLWYDDT5 Am dafien a thelerau ymofFij&r a George Payne a'i Feib., 3 Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool. Ar gael bob prydnawn drdd lau 15 KING STREET, CAER. If you want The most Comprehensive POLICIES .¡ THE BEST TERMS. write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDEN1 Insurance Offices. Head Offtce. St. Mildreds House Poultry, LONDON. E.C. ftrancb Office $,e:xch.O.;è Vtd LIVERPOOL JAMES 0. SCOTT, General Manager I Ceinion Rhuddfryn Vn cynnwys pigion o'i englynion a'i gvwyddas, wedi eu dethol gan ANTHROPOS a than olyg- iaetb ei fab, y Parch. LEWIS MORRIS. Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodladau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rbad (mewn am Jen), 6 cb Trwy'r post, 7c. HUGH EVANS A'} FEIB Moses: O r Cawell i'r Mor Cocb. Drama at wasanaeth Gobeithluoedd a Chyfarfodydd y Bob! Ieuainc. Gan PEDR HIR. PRIS: GROT. MAE y ddrama uchod wedi ei pher- fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. MOSES BACH Drama at wa sanaeth Gobeithluoedd. Mae hon yn gymwys i blant ienengach na'r ddrama uchod. Pris = Dwy Geiniog. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I FEISI-ON. Esboniad Cyflawn AR YR HOU FElBL am bris KsboDiad ar y Test. Newydd ya unig. Y J (I < it J {{ Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. Joha Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swvddfa'r Brython YN A WR. YN BAROD.! ARGRAPHIAD NEWYDD 0 FARDDONIAETH GORONWY OWEN, gyda Bywgraphiad byr gan PEDROG a LLYFRBRYF. PRIS SWLLT. K K LLYTHYRAU GORONWV OWEN, dan Olygiaeth yr Athro J. MORRIS JONES. PRIS SWLLT. k 3PR Y Farddoniaeth a'r I-lythyrau wedi eu cydrwymo mewn Llian 2/6. HUGH EVANS AND SONS, Swyddfar U Brytboa.