Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EOS DAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EOS DAR. YM inarwolaeth yr Eos, gwnaed .bwlch amlwg yn y ejdchoedd eisteddfodol yng Nghymru. Yr oedd iddo boblogrwydd mawr ar gyfrif ei ddawn a'i fedr fel datganwyr eraill ond safai wrtho'i hun fel datganwr gyda'r delyn, ers tro bellach. Cvfunai wybodaeth drwyadl o'r gangea hon o ganiadaeth a llais cyfoethog, treiddiol. Llanwai ei lais unrhyw babell yn rhwydd a hyfryd fyddai gwra.ndo arno, oddi- ar y Maen Llog, yn gyrru ei seiniau clir i'r pellterau. Gall fod eraill wedi deall y grefft gystal ag yntau, ond prin y bu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar ei hafal fel cyfuniad o gelfyddyd a llais ar gyfer torfeydd. Anfynych y ceid yr Eisteddfod, yn Ne na Gogledd, na byddai Eos Dar yn ei Gorsedd ac ar ei llwyfan, yn cymryd rhan effeithiol ac amlwg. Un o'r pethau difyrraf yng Ngorsedd y Beirdd yn flynyddol fyddai clywed yr Eos yn canu penillion cyfansoddedig i'r achlysur, o waith Dyfed, Watcyn Wyn, ac eraill. Bu cysylltiad agos iawn rhyngddo a'r diweddar Watcyn Wyn, yn enwedig pan elai Wat. i ddarlithio ar y Delyn, ac Eos Dar yn canu gyda'r tannau i egluro'r ddarlith. Amhos- ibl fuasai i'r cysylltiad hwnnw gael ei gyfleu yn fwy tarawiadol nag y gwnaed gan Penar, pan fu'r annwyl Wat farw :— Mae'r Delyn wedi colli car, A'i thannau'n alar gwelw, Mae hanner arall Eos Dar Yn Watcyn wedi marw. Ond erbyn hyn dyma'r Eos hefyd wedi mynd, a tharawiadol yw pennill olaf Penar:- Ond byw, ie byw, yw Watcyn Wyn, A'r Delyn ni raid wylo Mae'n aros yr Eos ar y Bryn, A thelyn arall ganddo. Caws om fenthyg Ilyfr yr Eos pan ddisgyn- nodd o'i ganu ar y Maen Llog yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908, ac a gopi- asom y pethau a ganlyn allan ohono :— Unwaith eto wele dant O gant y meini gwynion Unwaith etc i'r Corn Gwlad Atebodd cad o ddynion Mae Baner Heddwch Cymru Wen Heb len yn chwifio'r awrhon. Cysegredig dir fy ngwlad Sydd dan fy nhraed yr awrhon, Hen delynau CymruFu Sy'n canu pell acenion, Mor hyfryd, mewn barddonol fro Itoi tro i'r hen alawon. J Cawn heddyw Gymru gu heb goll A'i lluoedd oil yn llawen, Yn frwd ei hwyl, a'i hyfryd hedd, Fydd canu ar fedd cynnen Mae calon gwerin o'i blin bla Yn gwella yn Llangollen. Ni clielr yn hwy un chwerw nad Na bradwr i'n gwlad bridwen. A Die Shon Dafydd sydd a'i swn Tan anair Pastwn Onnen." Ni ddv/g yr un ei ddagr hell, Na'i gyllell i Langollen. H wn yw dydd Eisteddfod Cymru, Hwn yw dydd i'w hanrhydeddu, Mae ein cenedl yma'n canu, Yn Llangollen yn llawn gallu. Os ych am Eden Cymru, Llangollen hardd amdani. > Mi wnaf fy IIw nad oes un. Ilø 0 dan y ne'n rhagori. Saeson sydd yn son a synnu, A diarbed foli'r Derby Coffa helynt eu ceffylau Ydyw hanes penna'i doniau. Cenwcli y clychau trwy'r wlad ymhob man, Chwifiwch fanerau ar ben bob mynydd ban Seinir yr utgorn ar y twr ac yn y glyn Cymru sy'n ymdaith, ei dewrion a fyn. Hen Gymru fach ddaw'n Gymru fawr, Bob awr y mae yn tyfu Ei meibion sydd mewn gwir fwynhad A'r wlad wna'i hanrhydeddu Yr Hen Gymraeg yw SWIl pob tant Gan blant anwylaf Cymru. Llawer sen a, roed cyn hyn I delyn Cymru loew A phroffwydwyd lawer gwaith, Fod iaith yr Wyl yn marw Ond mae'r Eisteddfod megis Unnc Yn ieuanc ac yn hoew. Llawer gelyn fu'n Uwyr goelio Gwelai hon yn diogel huno Er darogan brad, a rhegu, Byw yw hen Eisteddfod Cymru. Dewch Gymry gwladgar, dyma'l' dydd, A'n gilydd o un galon Cawn uno'n gryf, gan ennyn gwres Mwy cynnes i'n hamcanion I gadw iaith gan godi'r hwyl Ar ethawl wyl y Brython. Os aiff y Saesneg dros y lie, 0 eitha'r De i'r Gogledd, Fe ganaf fi o dent i dent Hyd gyrraedd Gwent a Gwynedd A ehaiff yr hen Gymraeg barhau Yng ngenau y Gynghanedd. Rhowch i'r Sais geffylau teg I redeg am anrhydedd, Rhoweh i'r Ffranewr balch ei fryd Ffasiynnau'r byd a'u gwagedd, Rhoweh i galon Cymro glan Eisteddfod, can, a Gorsedd. Dysgir can yr Wyl Gymreig Ar uchel greig Columbia, Ac mae'r tan yn llosgi'n glir Ar heulog dir Awstralia A bydd cadeirio cyn bo hir Ar randir poeth yr India. Ninnau ganwn glod yn gynnes, Ein Heisteddfod hynod hanes, Gwalia annwyl sydd yn glynu Wrth Eisteddfod hen y Cymry. Dal i ounill wna'i dylanwad, Ar ei chyfer i ddyrchafiad, Nid yw henaint yn dihoeni Hen Eisteddfod gadarn Cymru. Mae Llundain fawr yn rhoddi bri Ar wyl barddoni Prydain, Ond myn ein hen Eisteddfod ni Ro'i mwy o fri ar Lundain Mae'r uchaf wyr mewn dawn a gras, Yn eirias yn ein harwain. Fe ga'r awenau heddwoh llawn A difyr iawn eu defod, Ac ni ddaw cloch un Suffragette, I yarp.t yr Eisteddfod, Eistedda'r merched yn ein mysg, A'u terfysg wedi darfod. Lion a bywiog yw'n llawn bywy d, Ni wanycha hoen ei hiechyd, Tra yr erys twr Eryri Byw fydd hen Eisteddfod Cymrvi. Yntau'r Sais, heb falais, fydd Yn lion ymwelydd llawen, Ni ddaw y gwr yn bigwr bai- Ei fwgwd a'i genfigen Fe aeth ar goll, ni thraethir gair 0 gellwair yn Llangollen. Eisteddfod fy ngwlad, ti fuost lawer tro Gynt ar lawer bryn ac mewn llawer bro, Ond ni chest dy dderbyn yn unman mwy hardd, Na dyffryn Llangollen, medd awen pob bardd. Swyn y Gwanwyn sy'n ei gwenau. A gwareiddiad ar ei gruddiau Swyn a chynnydd sy'n ei charm, Hen Eisteddfod annwyl Cymru. Atgofion glan fel tonnau'r Hi' Am '58 ddaw etc Gwelaf Eben loew gerdd Fel pencordd yma'n pyncio, A'r Llew yn derbyn coron bur Yn wobrwy Hafur Llwyfo. Ond un mi a welaf yno'n wyl, Un annwyl iawn i'w enwi, Ni raid wrth glod yn bennod faith I'w lanwaith ef eleni John Ceiriog Hughes, ar orchest wen Ei awen nid oes tewi. D..acw G.astell D.inas Bran, Ddeffroes ei gan i'r feinwen Braidd nad yw Myfanwy gu Uwch Uu yn gwenu'n llawen, A Cheiriog mwy a'i henw'n glir Byth unir ar beithynen. Cynnal dawn a wnawn yn wyl A'n gwyl mewn hwyl a heuhven, Ei chodi wnawn a'i chadw'n werdd. Ac ieuo cerdd ac awen, A gwlad ddirodres gynnes gawn, 0 gelloedd llawn Llangollen. Mae tri math ar Gymry hynod Cymry nad ant i Eisteddfod, Cymry nad ynt hoff o ganu, A rhai na want byth geintachu. Mae tri math ar feirdd yng Nghymru Beirdd na cheisiant gynghaneddu, Beirdd a wnant bob pill yn ddiwall, A beirdd nad oes neb a'u deall. Mae tair math ar gan yng Nghymru Can nas gellir peidio'i chanu, Can i'w chanu am wobrwyon, A chan fain heb ben na chynffon. Tra byddo gwladgar Gymro brwd Yn byw ar uwd a llymru, Tra tyfa'r hen geninen werdd A thra bo cerdd yng Nghymru, Adseinia'r dyner Omeraeg 0 graig i graig heb grygu. Tra paro daear Cymru gu I fagu pendefigion, Tra paro gwaed o fryniau'r fro, I guro da y goron, Bydd Llundain fawr o hyd a'i dor Yn agor i'w henwogion. Tra bo ty, a thra bo tan, Ac aelwyd lan i ymgomio, Tra bo bryn, a thra bo pant, A thra bo tant yn tiwnio, Byth fe gedwir mewn coffhad Alawon gwlad y Cymro. Canodd Ceiriog am y feinwen Welai serch yn hollt y dderwen Ac os yw y bardd yn huno, Mae ei gan o hyd yn effro. Aeth y dcherwen yn falurion, Aeth y Castell yn adfeilion Ond mae'r ferch a'r gwallt modrwyog Heddyw'n fyw yn awen Ceiriog. Can y Sais pan fyddo'r huan Yn pelydru ar ei gaban Can y Cymro heb belydryn Yn tywynnu ar ei fwthyn. Merched Lloegr sydd yn bloeddio Am gael Ilodra-Li'r gwyr i'w gwisgo, Merched Cymru, bendith arnynt, Sydd yn trwsio Ilodrau iddynt. Mae Eisteddfodwyr pybyr poeth A rhai'mor ddoeth a minnau. Yn methu'n lan a sicrhau Pa un o'r ddau-sydd oreu Pa un ai bardd ag awen bop, Neu un o'i dop yn dipiau. Blynyddau meithion wedi mynd A llawer ffrynd o Gymru, Aeth hen gyfeillion ar eu hynt Ar amser gynt i golli; Ond mae y wlad, er hyn i gyd, Yn dal o hyd i ganu. Telyn fy ngwlad, brenhinol dy hynt, Telyn tywysogion Cymru gynt; Mawr yw dy fraint, mawr yw dy fri, Cydymaith brenhinol o hyd wyt ti. Gall Canghellydd y Trysorlys Gwympo cawr heb dorchi llewys, Ond gwyr yntau beth yw ofni Moesol anaf Miss Maloney. Daw'r Canghellydd i Langollen I hel bri ar Iwybrau awen, Ar ganghennau'r ber gynghanedd, Ni cha synnwyr barch y Senedd. Ni wel Senedd loew swynion Ar ororau deuoor hirion." Ni fu nodwedd Prif Weinidog I dywynnu'n Broest Gadwynog. Pryd y myn fe fyn Eifionydd- II Barchu gwead braich o gywydd, Ond diobaith at un diben Yw ei grefydd mown ysgrifen. Mae'r hen ormeswyr yn y glyn, A neb -yn gofyn aberth, A thangnefoddwr daear lawr Yn awr yw'r Brenin Iorwertli, I hedd y byd mae'n wr o farn Yn gadarn heb ei gydwerth. Gwaradwydd ar gartiefi llwyd Anadlwyd gan genhedloedd, Ond angof heddyw ar y tant Yw soriant hen amseroodd, Ac mae brenhinoedd yn mawrhau Aneddau y mynyddoedd. Yn galondid enw Glyndwr, Beri'n asbri ac yn gryfdwr, Er dirywio'r hen Gaer Drewyn, Dal o hyd mae swyn y delyn. Glyndyfrdwy-dyma'r glyn, Ar fore gwyn i ganu Llef y gwydd sy'n llif o gan, Ac anian oil sy'n gwenu Deffry awen gwawr y byd, Y cysglyd feirdd sy'n casglu. Ni chafodd gorsedd fan mor glws Er dydd Pardwys Eden, Pwy yw'r craffus wr a all Weld gwall ym mro Llangollen ? Dyma'r unig le drwy'n bro Sy'n gallu curo Corwen. Clywsoch son am Bastai Awen Yn Eisteddfod fawr Llangollen Y mhon hanner canrif yma, Mai; ei hanner heb ei bwyta. Bu yma gynt Eisteddfod fawr, A ddygodd wawr ar werin, Ni fu ei mwy dtfn awyr las I farddas er Caerfyrddin Ond dyma'r wyl, medd pob rhyw gar, liyfedda'r cstron fyddin.

Advertising

PORTHi'R PELL A LLWGU'R AGOS.I

Advertising