Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ffetan y Gol.-I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. I Cofied pawb fon an/on Vr Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:— I NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. I Ysgubor Ty Mawr, ai e ? I At Olygydd Y Brython I HYR,—Gyrla'ch caniatad, Mr. Golygydd, wele air ymhellach ar yr uchod. Y mae'r hen ysgubor gysegredig hon, lie y bu Anghyd- fIurfwyr eglwys Sir Drefaldwyn yn addoli am genedlaethau, hyd 1739, wedi gorfod rhoddi ffordd ers tua 30 mlynedd i welliantau eraill. Da iawn gennyf feddwl fod darlun rhagorol o honi ar gael. Edrychai'n grand ar fron Y BRYTHON. Wel, rhyfeddais innau, fel Veritas, weled yn argraffedig y ddau osodiad a'i brawychodd gymaint, sef mai yma y cychwynnodd Ymneilltuaeth yng Nghymru, ac y cynhaliwyd yr Ysgol Sabothol gyntaf yng Nghymru. Mae'n debyg mai yr un y w awdur y ddau osodiad, a disgwyliaf am ei ddatgudd- iad ar y pynciau dyrys hyn, ac y dyry hynny ysbryd cyffrous Veritas i lawr. A wyr Veritas rywbeth am hanes yr hen ysgubor enwog hon, ys gwn i ? Gallwn dybied ei fod yn oracl, Un peth a wn i yw, na ellir hanesydd dilys ohono, a seiliaf y gosodiad hwn ar ei feidd- garwch anfoesgar tuagat ysgrifennydd y gosodiadau dan sylw. Y mae brawddeg fel corddi yn yr un coryn," etc., yn anrasol i'r eithaf. Bydded Veritas foneddigeiddied a chydnabod ei hyfdra, ac yna eled ymlaen i (-tynnu y ty gwellt hwn i lawr." Gallaf ei sicrhau mae rhuddin derw oedd defnydd yr Hen Ysgubor, a bod ffeithiau ei hanes yn meddu cadernid mwy parhaol. Hwyrach fod Veritas yn alluog i ddweyd wrthym y lie a'r pryd y cychwynnodd Ymneilltuaeth a'r Ysgol Sabothol gyntaf yng Nghymru. Carwn i ac eraill y gwn amdanynt yn fawr gael rhyw fath ar sicrwydd ar y pwyntiau hyn. Lle- wyrched eich goleuni, Veritas, a byddwn fel cenedl yn eich dyled. Gyda'ch caniatad, Mr. Gol., bydd gennym air ymhellach ar Y sgubor Ty Mawr Llanbrynmair. DEMETRIUS Eisteddfod Gadeiriol Birkenhead, Pasg 1914. To the Editor of Y Bkython I DEAR SIR,-I note the correspondence in your columns re above, and as one of the members of the Committee I shall certainly take the opportunity of putting my case before the public. I regret, however, that I am unable to do so just at present, but hope you will permit a little room in your issue of Thursday week.—Faithfully yours, TOM LLOYD IS Claughton Firs, Oxton Eisteddfod y Pasg, Birkenhead, a'i harian gweddill. At Olygydd Y Bkython ANNWYL SYR.Braidd ita wyddom heb ofyn bron y eaniatewch gornel i lith fechan ar yr ohebiaeth parth yr uchod. Cas beth gennym ohebiaethau o'r natur hyn, gan na ddichon da ddod o'r cyfryw, ac yn ami, ysywaeth, gadawant ganlyniadau heb fod y goreu. Pell fyddom o geisio difrfo syniadau na dolurio teimladau y ddeuddyn sydd a'u henwau tan ysgrif yn Y BRYTHON am Fawrth 18, 1915. Nid ydym ni, o leiaf, am wadu ein oysylltiad a'r Eisteddfod uchod nac a gweith- rodiadau terfynol ei phwyllgor. Ond gosod- wyd eryn anrhydedd arnom ni a gweddill y pwyllgor fu a'u hysgwyddau tani. Ni fuasai y llwyddiant a fu ynglyn a hi, er llafur swyddogol di-ildio a thrwm, onibae i ni fod mor ffortunus a denu cynifer o gorau, a thrwy hynny ganlynwyr lu i'r Eisteddfod. Gellir dweyd heb ofni cywiriad mai colled ariannol fuasai ei hanes pe wedi dibynnu ar nawdd Cymry Glannau y Mersey. Mae dau gwestiwn yn gofyn ovi hateb 1. Pam na chynhelir hi eleni ? I 2. Beth ddaeth o'r cyllid ? I GolIir ateb y cyntaf drwy ddweyd mai oher- wydd y cyfwng eithriadol y mae ein gwlad ynddo ar hyn o bryd, ac yn ol pob rhagolwg yn debyg o fod ynddo am gryn amser. Buwyd yn ymdrin a'r mater cyllidol droion, a barn wyth o'r deng aelod oedd m ai eiddo'r pwyll- gor fel y cyfryw ydoedd, a bod hawl ganddynt i'w ddefnyddio i'r pwrp,s doethaf yn eu izctlwg hwy eu hunain. Yn unol a phenderfyniad mwyafrif y pwyllgor, anfonodd yr ysgrifen- nydd ran o'r gwala i bob aelod, ac ni ddaeth dim yn ol i'r ysgrifennydd yn wrthodedig. Medd y ddau ohebydd Maent yn y banc i bwrpas Eisteddfodol," ac felly yn eu henwau hwy eu hunain yno. Meddai gweddill y pwyllgor, Mae rhai ohonom ninnau a'u rhan yn yr un man, ac yn bwriadu eu defn- yddio pan fydd yr adeg yn gyfaddas i hynny, i yrru ymlaen gyda'r anturiaeth a gychwynn- wyd y llynedd." Mawr feiwn y ddau "appstol cyfiawnder am neidio i'r wasg i gcisio pardduo'r gweddill. Er rhoddi prawf ar yr egwyddor a bregethant, fe ddaw'r ysgrif- ennydd ar eu gofyn cyn pen hir, pan welir y ffordd yn glir i symud ymlaen, am eu cyfran sydd wrth eu henwau yn y Bane. Pam na roesech y cyllid at gronfa y rhyfel ? medd rhywun. Am fod yrn mwriad y rhai cryfaf dros beidio a symud ymlaen i Eistedd- foda eleni i ailgychwyn pethau wedi cael gweledigaeth glir fod popeth yn ffafriol. Am fod digon eisoes wedi ei gyfrannu i'r cronfau hyn, a mwy o lawer nag a werir byth. Buasai yn agoriad llygad i filoedd pe ceid y gwir am eu dosbarthiad. Yn eich rhifyn diweddaf, gwelaf fod cloch- ydd deuddyn rhifyn Mawrth 18fed wedi dod i'r maes. Ni adwaenom ef. Bid a fynno am hynny,tebyg y buasai'n Ilawer amharotach i helpu'r pwyllgor o drybini a cholledion arian- nol nag ydoedd i neidio i'r wasg i ymdrin a mater na wyddai odid ddim amdano ond a glywsai, efallai, gan y ddau y canasai eu pill. —Yr eiddoch yn bur, I TOM MORUS, Ysgrifennydd. Twt, lol I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Wythnos i'r Sul diweddaf, euthum i, fel miloedd lawer eraill, i lawr y dref, lle'r oedd Arglwydd Kitchener yn progethu ar risiau St. George's Hall, ae 0 fore Sul byth gofiadwy Yr oedd edrych ar y mil- oedd edrychwyr ynddo'i hun yn bregeth tadau a ma,m1.U nid ychydig, a'u calonnau yn curo wrth weled y milwyr ieuainc yn myned heibio. Effeithiodd yr olygfa yn fawr iawn arnom. Ond mor wahanol ym mhregeth yr hwyr Honno'n hollol i'r gwrthwyneb, a'r pregethwr parchus yn ein sicrhau ni m--ii Duw yn ein coryddu ni" ydyw y rhyfel. Credwch fi. yn onest, dymt'r tro cyntaf erioed i mi edifarhau myned i le o addoliad. Nos Sul ddiweddaf, ein tro ni oedd gwarchod, ac yr ydym yn diolch i Dduw nad euthom ni ddim i'r capel y nos, achos yr oedd y pregethwr hwnnw drachefn bron yn yr un rhych— Duw yn cosbi drwy'r rhyfel." Twt lol Nis gallwn ni yn ein byw feddwl am Fed Anfeidrol, Duw cyfiawn, Tad trugarog, yn dwyn y fath ddinistr fel hyn ar wledydd sydd yn gydwybodol yn ymladd dros gyf- iawnder a rhyddid a thros ei Achos m vvvr ei hun." Nid dweyd yr ydym nad oes yma fynyddau uchel o bechodau yn codi eu pennau yn y wlad, ond yr ydym yn dweyd mai gwaith dynion ydyw y rhyfel hwn, a'r dynion hynny wedi eu trwytho gan ddylanwad yr un drwg, a'r Caiser ei hun yn bennaeth arnynt. Hwn yw y llofrudd hedd y sonia Pedrog am dano, ac am yr hyn (gyda llaw) y dioddefodd gymaint. Carwn i wybod, Syr, os oddiwrth yr Arglwydd y daeth y rhyfel hwn, onid oedd yr Emprwr yn ei le pan honnai ei fod yn offeryn yn llaw yr Arglwydd, God's right- hand man," the Star of God," ac hyd yn oed yn bygwth troi y Bod Mawr dros y drws os na chariai ei gynlluniau ef allan ? Nid wyf am ymhelaethu yn awr, ond dymunwn roddi gair o gyngor i'r gwyr parchus hyn, rhag i'r awdurdodau ddod i wybod, achos mae'r Llywodraeth yn troi pob math ar weithiau yn ffatri iddynt eu hunain. Nid wyf am lechu o dan gysgbd unrhyw enw ond yr eiddof fy hun, .56 Faraday Street D. T. JONES Y Berf=Enw etc. To the Editor of Y Brython Dear Sir.—It is a rule which I rigidly adhere to, whenever I quote any passage, never to alter the author's construction or spelling. When I saw the printed matter of my letter I was surprised by the appearance of dychrynnu where I had put" dychrynu," but I thought you, Sir, had your reasons for inserting the twon's. It is fair ot me that your correspondents should know this. Mr. Griffiths has misquoted one of my examples. Yn erbyn is not in my letter, but yn fy erbyn," and this difference will prove to be important if Mr. Griffiths will parse the two expressions. If he will do so word for word in the light of the grammar he refers me to, he will see the reason for my remarks. The elaborate and masterly treat- ment given by Mr. Griffiths of the uses and functions of the verb-noun are very similar to what I have seen in the notebooks of students of Welsh, but I say again in all earnestness (I hate wrangling over these important matters) that to students of Welsh, English- men and Welshmen alike, this method of bringing in foreign terms to define parts of Welsh Syntax is most unsatisfactory from the standpoint of teaching. I suppose that Mr. Griffiths has not had much, if any, experience in teaching. The fact that Mr. Griffiths says that tre verb-noun should not be difficult to understand does not alter the evidence of those who have tried to learn what the real nature of the verb-noun is. Mr. Griffiths cannot have read all my letter, surely, for these are the sentences following the one he quotes What, then, does the Welshman do ? He expresses the same thing by means of preposition noun A'r Iesu yn rhodio wrth for Galilea. Grammar- ians say that yn rhodio is a participle but it is true that 'rhodio is a noun, And still Mr. Griffiths thinks it necessary to reply, True, brother, but you should add that in Welsh there is a construction which is equivalent with a participle, namely, parti- ciple equivalents, that is, verb-nouns govern- ed by prepositions." What, in the name of justice, is there more in his sentence than I had already suggested ? I Mr. Griffiths admits that the terms he uses are foreign to the genius of Welsh, that is.to say they are really modern adoptions from other languages. Now, Sir, when we consider the history of these terms (participle, ground, infinitive) they are really only vague terms even in English, which, owing to the indefin- iteness of their meaning, have been described by philologists as terms which grammarians in despair have invented under the impression that to give a thing a vague name is the same thing as clearly explaining it, and that such terms should only be employed for conven- ience, with the express understanding that they refer to modern usage, which has arisen from a succession of blunders." What I say is, let the teacher of Welsh keep before his students the substantial character of the "names of actions." Let any idea of their relationship with verbs be secondary. If I said that "Mae John yn cerdded and Mae John yn ty are ident- ical in Welsh syntax,as far as John's relation- ship to cerdded and ty is concerned, what would Mr. G. say, I wonder ? I still suggest that dychryn and dy- chrynu are both pure nouns, but it is not easy to the average student, I should rather say the majority of students, of Welsh, to exclude the verbal notion.Faithfully yours, JOSEPH H. MANUEL. School of Commerce, Llanidloes Diolcbgarwch. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR.A fyddwch chwi mor gar- edig a chaniatau i mi gydnabod gyda diolch- garwch drwy Y BRYTHON dderbyniad amryw roddion mewn arian, llyfrau, a dilladau, a anfonwyd yn ddiweddar gan gyfeillion. i'r milwyr Cymreig yn Llandudno ? Derbyniwyd oddiwrt^.y rhai canlynol yn ystod yr wyth- nosau diweddaf Un yn caru'r milwyr Chwaer o Brestatyn," trwy Mr. Goronwy Jones Gwladgarwr Miss Enid Davies, Deganwy chwiorydd eglwys Stanley Road, Bootle, drwy Mrs. Griffith Ellis "Un o F6n" M.G. chwiorydd eglwys Princes Road, drwy Miss Myfanwy Roberts Cyfaill." Gwelir fod amryw yn dymuno cadw eu henw- au o'r golwg. Priodol, er hynny, yw cyd- nabod eu rhoddion yn gyhoeddus, gan ddis- gwyl na ddianga heb iddynt ei weled. Anfonwyd tua chant a hanner o nwyddau gan chwiorydd eglwys Stanley Read, i'w rhannu i'r bechgyn,ac anfonwyd hefyd oddeutu yr un nifer gan chwiorydd Princes Road. Yr oedd y dilladau o'r naill eglwys a'r Hall o'r defnyddiau goreu, ac yr oedd yn amhosibl anfon dim mwy pwrpasol. Gallaf sicrhau y cyfeillion hyn dfo y beehgyn yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd yn fawr, a'u bod yn dymuno diolch o galon iddynt. Bendith y Nefoedd fyddo arnynt am y llafur cariad hwn tuag at fechgyn Cymru sydd wedi dod allan i amddiffyu eu cartrfie. Y mae coisio cael allan yr anghenus a gwasgaru y rhoddion hyn yn eu plith yn un o rannau mwyaf hyfryd y gwaith a berthyn i mi yma, ac os oes cyfeillion eto yn teimlo awydd gwneud yn debyg i'r cyfeillion uchod, bydd yn bleser mawr i mi gyflwyno eu rhoddion dros- tynt i'r bechgyn.-Yr eiddoch yn gywir, D. HOSKINS Bewsey House, Lloyd Street, Llandudno. -0-

Wrth Grybinio a MydYlu.

Advertising