Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Adgofion yr Hen flaenor !…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adgofion yr Hen flaenor am Salford. I ii. MAE'r Methodistiaid wedi symud o Salford ers blynyddoedd, ac wedi cartrefu mewn capel hardd ym Mhendleton ond yr hen gapel plaen, diaddurn, yn Rigby Street, sydd wedi aros yn y cof yn annwyl a chysegredig i mi, a hawdd iawn rhoddi eyfrif am hynny yno y derbyniwyd fi'n gyflawn aelod,—amgylch- iad pwysig yn fy hanes yno y profais gyntaf werth a dylanwad bywyd crefyddol, ac y deuthum i deimlo gwir hyfrydwch yng nghysegr Duw ac yng nghymdeithas y saint; yno y cefais fwynhau gweinidogaeth Hawer o'r hen bregethwyr fu'n ysgwyd Cymrll yn v dyddiau gvnt,— Jones Talsarn/ Roberts Amlwch, Cadwaladr Owen, a llu eraill o'r Gogledd a'r De sydd wedi tewi ers blynydd- oedd lawer bellach. O'r pum blaenor a arweiniai'r adeg honno, yr oedd dau mewn gwth o oedran,—Dafydd Dafis a Dafydd Hughes. Yr oedd cael bod mewn seiat gyda'r ddau batriarch yma yn fodd'on gras mewn gwirionedd, ac i fachgen ieuanc ynghanol temtasiynau tanllyd tref fawr wyllt fel Salford, "yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl." Llyfrau seiat Dafydd Davies bob amser fyddai y Beibl, Taith yPerenin aChristion yr hen Gurnal yn ei Gyflawn Ar/ogaeth, a tham- eidiau melys yn ami oddiar ford yr hen cnarnoek a Matthew Henry. A pha gyf- ryngau gwell ellid gael i arwain praidd Duw i'r "porfeydd gwelltog, a cherllaw y dyfroedd tawel ? Hen wr tal, teneu, eiddil, yn cael ei flino n fawr y pryd hwnnw gan ddiffyg anadl, oedd Dafydd Hughes. Edrychai ef ar fywyd bob amser fel adeg i farchnata ar gyfer byd arall, a'i gwestiwn mynychaf, yn enwedig ar ddiwedd y Saboth, fyddai hwn Beth ydan ni, 'nghyfeillion bach, wedi ELWA heddyw yn y farchnad ? Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.' Rhaid ein bod yn ennill neu'n colli, myned yn ol neu ymlaen 'does dim man canol y gallwn ni sefyll arno. Gweddiwn am. i ni gael cyfrif pob peth yn dom, fel yr enillom Grist yn eiddo i bob un ohonom.' Yr oedd Dafydd Dafis am inni wisgo'r holl arfogaeth yn y rhyfel ysbrydol, a Dafydd Hughes am i ni wneud ein goreu i sicrhau y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarnom. Y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig. Meddyliwch am eich blaenoriaid ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymar- weddiad. Caffai Dirwest sylw arbennig gan gyfeillion Salford y pryd hwnnw, ac er fy mod yn Nazaread cyn dyfod yno, dyfnhawyd yr argy- hoeddiad yn fy meddwl o ddrygedd y diodydd meddwol, fel y penderfynais Y matal a dal yn dynn Hyd farw heb un diferyn. Bu'r penderfyniad yna yn dipyn o anfantais i mi ar lawer achlysur, trwy fod yn destun gwawd a chwerthin cydweithwyr, a chael fy amddifadu o bethau oedd lawn mor ddy- ledus i mi eu cael a hwvthau, ond deliais ati I yn ffyddlon i'm hymrwymiad trwy bob j anhawster, er cywilydd a cholled i lawer oedd yn fy erlid. Dyma un o beryglon mwyaf bechgyn ieuainc yn nhrefi mawr Lloegr. Mae cannoedd a miloedd wedi eu llusgo i ddinistr a cholledigaeth trwy gellwair a'r diodydd meddwol. Yr oeddwn yn diolch am y seiat ar adegau fel hyn, fel y man goreu i gael help i ymladd a'r gelynion a'u gorchfygu. Mawr oedd y son yr adeg yma ymhlith. dir- westwyr am y Maine Law. Fel y gwyr eich darllenwyr, talaith yn America ydyw Maine, a deddf wedi ei phasio yno yn gwneud i ffwrdd yn llwyr a'r fasnach feddwol trwy'r holl dalaith. Yr oedd teimlad cryf wedi codi am gael pasio ddedf gyfielyb yn y wlad hon. Gresyn na fyddai hynny'n bosibl, onite ? Daeth Neal Dow--aelod o Senedd Maine, ac awdur y ddeddf—drosodd i'r wlad yma i'w hegluro, a dadleu o'i phlaid. Yr oeddwn yn y Free Trade Hall yn gwrando arno—y neuadd fawr yn orlawn o wrandawyr astud, ac wedi eu codi i bwynt uchel o frwdfrydedd gan hyawdledd yr areithiwr. Mae'r Alliance, er yr adeg honno, wedi newid dipyn ar ei safle, yn lIe myned i mown am Maine Law,et phwynt yn awr ydyw Local Option, hynny yw, rhoddi hawl i ddiddymu'r fasnach feddwol mown tref neu gymdogaeth os bydd dwy ran o dair o'r boblogaeth yn galw am hynny. Gan mai y preswylwyr sy'n dioddef fwyaf oddiwrth y fasnach dadleuir mai yn eu Haw hwy y dylai ei rheolaeth fod, ac nid yn nwylo ychydig o ustusiaid. Mae synnwyr a barn y wlad yn prysur addfedu i hyn, ac yr ydym i ddiolch am hynny, mown rhan helaet-h, i yrndrechion dyfal a llwyddiannus yr Alliance. Byddwn yn arfer myned i gyfarfodydd yr Alliance bob blwyddyn, ac yn cael y fraint o glywed areithwyr mwyaf dysgedig a hyawdly genedl yn siarad ar ddrygedd y diodydd meddwol ond y mwyaf ei ddylanwad y glywais erioed ar y mater yna ydoedd John Gough, yr areith- iwr dirwestol bydenwog o'r America. Nid yw yn rhyfedd yn y byd felly, fel y gwelwch, fod yr Hen Flaenor wedi ei wroiddio mor gadarn yn y ttydd dcurwestol. Er fy mod yr adeg hon, fel yr oedd yn naturiol, yn troi ymysg cyfoedion ieuaine tebyg i mi fy hun, ac yn mwynhau eu cwmni yn fynych, yr oedd tynfa fy ysbryd, fel mae'n rhyfedd dweyd, yn fwy at gyfeillion llawer hyn. Treulais fwy o amser gyda dau hen frawd—digon hen i fod yn dad i mi—nag a dreuliais erioed gyda chyfoedion ieuainc. Synnais lawer gwaith eu bod yn caniatau i fachgen mor ieuanc ddyfod i gylch eu eyf- rinach, ond buont yn garedig a thyner iawn. wrthyf, ac yr wyf yn ddyledwr mawr iddynt hyd heddyw am eu cynghorion a'u haddysg- iadau gwerthfawr. Eu henwau oedd Richard Davios a William Jones. Heblaw bod yn ddynion crefyddol, yr oedd ganddynt synnwyr cryf, barn addfed, a gwybodaeth eang mewn Hawor cyfeiriad. Brodor o Fangor oedd R. Davies, wedi treulio rhan fwyaf ei oes yn Salford. Brodyr iddo oedd Wm. Davies, blaenor enwog y Tabernacl, Bangor, a John Davies (Owyneddon), Caernarfon, a nai iddo, fab ei frawd William, oedd y diweddar W. Cadwaladr Davies, y gwr ieuanc athrylithgar a wnaeth gymaint dros addysg uchraddol yng Nghymru. Ac yntau'i hun cyn diwedd ei oes yn flaenor gweithgar ym Mhendleton, ac iddo fab yn flaenor yno eto. Gwolir ei fod o deulu enwog mewn gallu a defnyddiol- deb ac er nad oedd mor gyhoeddus a'i frodyr, yr oedd i raddau helaeth yn gyfrannog o'r un dalent. Yr oedd yn Rhyddfrydwr pybyr a goleu, ac yn dra chyfarwydd a sy- mudiadau gwleidyddol ei ddydd, a chanddo allu neilltuol i ogluro'i feddwl mewn iaith goeth a dillyrr. Yr oedd yn gyfaill pur ac annwyl. Ymwelai a Chymru bob blwyddyn, ac ni byddai'n anghofio galw i edrych am yr "Hen Flaenor" yn ei gaban bach yn Sir Fflint. "Gofid sydd arnaf amdanat ti, cu iawn fuost gennyf fi." Hen lane oedd Wm. Jones, Ym Man- chester y ganed ef. Yr oedd y Parch. Richard Jones, y Bala, yn ewythr iddo frawd ei dad. Yr oedd wedi cyrraedd oedran gwr cyn ymuno a chrefydd. Ymroddodd yn ddyfal i lafurio am wybodaeth casglodd lyfrgell ragorol, a gwnaeth ddefnydd da ohoni ae yn ei awydd i roddi pob help i minnau, cefais drwydded ganddo i wneud y defnydd goreu allwn ohoni. Yr oedd hyn, i fachgen ieuanc prin o lyfrau ei hun, yn fraint a mantais neilltuol; a chan mai efe oedd fy athro yn yr Ysgol Sul, byddai y disgybl yn cael y pleser weithiau, mewn tipyn o ddireidi, o'i lorio yn deg mewn dadl a'r arfau yr oedd ef ei hun wedi fy nghyn- ysgaeddu. Chwarddai'n harti ar adegau fel hyn. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn gof- iadur manwl, yn hanesydd da ac yn Gymro twymgalon, er ei eni ym Manchester. Yr oedd yntau, fel ei gyfaill Davies, yn cymeryd diddordeb anghyffredin mewn cwestiynau politicaidd, yn enwedig y cwestiynau a ddygai gysylltiad a Chymru. Heddwch i lwch y ddau hen gyfaill.

Advertising

YS1AFELL Y BE!RDDI YS1Af£LL…