Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
4d. yr un. GOMERYDD Y PLANT: Gwerslyfr i Ddosbarthiadau Cymraeg. Wedi ei ysgrif- ennu a'i drefnu o dan nawdd Undeb Ysgolion M.C. Lerpwl. Gan y Parch. OWEN EILIAN OWEN. MOSES O'r Cawell a'r Mor Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR Hm. 3d. yr un. ALUN, sef Barddoniaeth Rydd JOHN BLACK WELL, gyda Rhagymadrodd gan loLO CAERNARFON. COlf A CHADW am Eisteddfod Fawr Llan- gollen, 1858. Y prif fuddugwyr, eu llun gorchest. 2d. yr un. ADRODDIAD Y COMISIWN EOLWYS Ifl. CrynhodI ac Adolygiad. Gan y Panh. 0. L. ROBERTS. MOSES BACH: Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HIR. OWSSTIYNAU AR YR EPISTOL AT Y RHUFEINIAID. Gan y Parch. GRIFF- ITH ELLIS, M.A., Bootle. Rhan II ponodau 9-10. Y Ddrama. PWY BI AU' R G ADAIR f Drama ddig- rifol gan DEWI MAl o FEIRION. Amlen, 9d. MOSES: O'r Cawell a'r M6r Coch. Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HiR. Amlen, 4d. MOSES BACH: Drama at wasanaeth Gobeithluoedd. Gan PEDR HiR. 2d. BMYNAU DETHOLEDIG ar gyfer Cyfar- fodydd neilltuol. 75 o rai Cymraeg, ac 20 a rai Saesneg. Mewn amlen, 5s. 6d. y cant. Llyfrau Adrodd. CO DPR HWYL: Llyfr Newydd o Adrodd- iadau, wedi ei gynnull gan Olygydd Y BRYTHON. 154 o ddarnau, 200 tudalen. Y Sylltaid goreu a helaethaf yzi yr iaith. Trydydd Argraffiad. Amlen. Llian, 1/6. Y MORTHWYL; saith ugain o Adrodd- iadau. 200 tudalen. Amlen. YR AIL FORTHWYL: saith ugain o Adroddiadau. 200 tudalen. Amlen. Y ddau FORTHWYL wedi eu rhwymo ynghyd, mewn llian hardd, 2/6. Caneuon. 1 yr un. BRENIN Y MAES (King of the Meadow). Can i Bass. Yn y'ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. Y GARREG FILLTIR (The Old Mile Stone). Mewn dau gyweirnod—Tenor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant—Geiriau Cym- raeg a Saesneg. Gan JOHN HENRY, R. A. M. 6d. yr un. CLOD GWYL DEWl SANT (The Praise of St. David's Day). Song and Chorus Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saesneg. JOHN HENRY, R.A.M. DOLI ^FWYN (My Fairest Dolly). Can i Enethod. Gan PEDR ALAW. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Gymraeg a Saesneg. HEN AELWYD FY MAM (The Old Hearth Stone). Mewn dau gyweirnod- Tenor neu Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymareg neu Saesneg. Gan JOHN HENRY. AT THE CROSS (Wrth y Groes). Can Gysegredig mewn dau gyweirnod Sep- rano a Tenor, neu Contralto a Bass. Yn y Ddau Nodiant. Geiriau Cymraeg a Saes- neg. Gan JOHN HENRY, R.A.M. DWY ACTION SONG-THE LITTLE SOLDIERS (Y Milwyr Bychain), a THE v LITTLE NURSES (Y Mamau Bychain.) Y geiriau a'r gerddoriaeth gan PEDR ALAW. Tonic Solffa, 2d. yr un. Hen Nodiant, 6d. yr un. SELENE (Sister of the Dawn). Four-part Song (S.A.T.B.). By JOHN HENRY,R.A.M. Old Notation. SELENE (Sister of the Dawn). Part-Song arranged for S.A.S.A. English and Welsh words, by JOHN HENRY, R.A.M. Arranged especially for the Juvenile Choir Com- petition of the Royal National Eisteddfod of Wales, Liverpool, 1900. Tonic Solffa, id.; Old Notation, 4d. ANTHEM GYNULLEIDFAOL- GWREGYSA DY GLEDDYF, 01 GADARN. JOHN HENRY, R.A.M. Tonic Solffa, lid. Hen Nodiant, 4d. Hen Lvfrau LLYFR GWEDDI Y CATHOLIG, neu ymarferion y bywyd Cristionogol yn ol athrawiaethau gwir Eglwys Iesu Grist. Argraffwyd yn Lerpwl, 1837. Ychydi. gopiau (lledr), 1/6. BOM Ellis & SONS. Swyddfa'r Brython," 356-8 STANLEY RD., Liverpool. SALE OF WAICHES HUGE REDUCTIONS IN HIGHE ST GRADE WORLD-FAMED LADIES' AND GENT'S WATCHES, IN NEW CON. DITION AND GUARANTEED FOR 20 YEARS UPWARDS. See Windows this day for Extraordinary I Value by Benson, Russell, Hargreaves Waltham, Elgin, and other Noted Makers, including one month's trial and money refunded it not as represented, SALE PRICE LIST POST FREE. Savies's, 30 Low Hill LIVERPOOL. I CLOSE WED. AT 1. OPEN ALL f AT. Davies' Sale, £11/1 i 1-. Usually 130 dollars. Waltham 14c. adjusted Hunter Gent's Extraordinarily hearr 14-Ct. Solid Gold full-jewelled ADJUSTED" WAL- THAM Keyless Hunter, full plate, Brequet Spring, Compensated Chronometer balance, and latest improvements WARRANTED FOR PRECISION AND ACCURACY, in perfect condition, new last year 35 years' guarantee; month's trial. Also Gent's 18-ct. Gold Keyless English Lever Hunter, by Russell & Son, Church-street, Liverpool. Sale price £ 10/17/6. Approval. Exchanges. Deposit Secures. Davies's Sale 5/18/6. Usual £ 16. Gent's qussell's Gold Hunter. FULL HUNTING ENGLISH High-Grad. LEVER HUNTER, strong, reliable, heavy SOLID GOLD CASES, inside and out, Hall-marked and Government Stamped, High-Class i-plate movement, Non-Magnetic, FULL JEWELLED CHRONOMETER BALANCE, and Latest Improvements a beautiful Watch, PERFECT TIMEKEEPER new 6 months ago (proof). Russell's and Our Guarantee for 25 years. MONTH'S TRIAL. Also Gent's Solid 18-Carat Waltham Keyless Lever Hunter Sale price £ 5/18/6 usually £16. Approval. Davies's Price Y,.31161-. Usual £ 9. Russell's Gold Expanding Watch Bracelet. LADY'S LATEST PERFECT LEVER WATCH-BRACELET, RUSSELL AND SONS, Church-street, Liverpool, noted makers to Royalty, SOLID GOLD (Hall marked) throughout, 15 RUBIES, Chronomteer Bal- ance, Brequet Spring, patent keyless Beatrice, pattern; KEEPS ACCURATE TIME; warranted by makers and ourselves 25 years. New this year (proof). Approval. Others by noted makers at 92/9/ £ 2/19/- and 23/6, Usually 13131. RusselPs Silver Keyless Lever QUITE NEW THIS YEAR. GENT'S HEAVY HIGH-GRADE, THOROUGHLY RELIABLE KEYLESS SOLID SILVER OPEN FECE LEVER by RUSSELL AND SON, Church-street, Liverpool; new 1914 (proof), plain Sterling Silver damp and dust proof cases, sold hands, indestructible crystal glass. CHRONOMETER BALANCE, BRE- QUET SPRING. N ON -MAGNETIC, pat- ent keyless, and latest improvements without mark or scratch PERFECT TIME- KEEPER month's trial. Cash refunded if not as represented. Approval. Stored free. Also ditto Hunter, 25/ i — 14 Gent's Gold Double Curb. SALE PRIeD 46/- —STYLISH GOLD DOUBLE CURB, Stamped Every Link, 2 swivels ard bar; reliable quality. Also others as follow Solid Gold N"'at Curb, 25 Double Fetter, 32/ Double Curb, 36/ Graduated Single Curb, 39/- Double Curb, 45/ Also very heavy Single Solid Gold Curb, £ 3 /5 usually 7 Guineas. Also Solid Gold Double Curbs at £ 3/16/- and 94 /12 Also 12-Guinea very heavy Double Curb, now f,6118 an extraordinary bargain. EVERY CHAIN GUARANTEED. JE3 Lady's Solid Gold Guard SALE PEICE £ 1 IQlR —FASHIONABLE GENUINE I SOLID GOLD. Stamped and Warranted Sparkling Long Guard, the favourite DIAMOND CUT, equal to new. Also another at 29/6. Also another, Plain Round, Square-edge Links, at 35/ usually £ 3/15/ and another Heavier Diamond Cut, 39/ usually f4; SPECIALLY RE- DUCED. Also massive Round BELCHER GUARD, £ 2 /5 usually 1:5. Also Beautiful SECRET LINK, £ 2/19/ usually f6; and large DIAMOND CUT BELCHER GUARD £ 3 /5 /—, usually JE7; and Very Heavy SECRET LINK, £ 4/15/ usually 1:9. LARGE SELECTION. Money returned if not as represented. Deposit reserves. Ex- changes. Payments.— DAVIES'S, LOW HILL
0 Big y Lleifiad.I
0 Big y Lleifiad. I I CYMANFA'R SUN HALL- I Cynhaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol I Methodistiaid Calfinaidd Glannau Mersey yn y Sun Hall nos Lun ddiweddaf. Yr oedd y cyn- hulliad yn un llawn, a'r arweinydd—Mr. T. Hopkin Evans, Mus.Bac., Castell Nedd—yn arwain gyda medr a gafael a ddeffroai feddyl- garwch a defosiwn pawb drwy'r lie, a Mr. R. W. Jones yn arwain y gerddorfa. Mr. Wm. Patton, eglwys Newsham Park, oedd yn y gadair ac heblaw ei anerchiad ef, caed gair diddorol a gwerthfawr iawn hefyd gan y Proff. Levi, Prifysgol Aberystwyth, ac yn dweyd y sylw a ganlyn am eiriau Cymraeg Ftl, fel yr wyf :— Yr wyf yn adnabod awdur y geiriau Cymraeg mi a'i gwelaf yfory, yn hen wr "okos ei bedwar ugain oed. Wyddoch chwi pa bryd y cyfansoddwyd y rhain? Wrth fynd ar hyd y Dardanelles, o Alexandria i Constantinople. Gorweddai ar fwrdd y llong ar noson braf, a'r ser yn ogoneddus fel y maent yn y Dwyrain. Blinasid ef drwy'r dydd gan swyddogion yn holi am ei certificate of identification a certijlcate of good conduct ond, meddai, gallaf fynd ato Ef fel, fel yr wyf.' Yr oedd Mr. G. W. Hughes, G. & L.T.S.C., yno a daw ei farn a'i deimlad ef am y canu a'r arwain mewn Ilith helaeth yn Y BBYTHOW I nesaf. Ie, lAS YR HEN WLAD Y mae 8wn hiraeth a bias ar' bethau'r Hen Wlad yn y pwt a ganlyn a ddaeth i Biff y Lle-ifiad ddydd Mercher diweddaf oddiwrth Mr. Vincent Roberts, un o blant eglwys David Street yma gynt :— Daeth nifer dda o Gymry Johannesburg a'r eyffiniau ynghyd i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi yn y Carlton Hall, lie y eyri helid Cyfarchwel (At Home). Treuliwyd noson ddifyr dros ben, a rhoddwyd croeso cynnes i'r doniau Ileol oedd yno i swyno J eu cydwladwyr a'u lleisiau melysion. Cadeiriwyd gan Mr. Abe Jones, llywydd y Cambriaii Society, a wnaeth ac a wna gymaint i gadw'r hen ysbryd Cymreig yn fyw yn nhir estron. Cynhelir Eisteddfod flynyddol tan nawdd y Gymdeithas, a dyma sefydliad sydd erbyn hyn yn denu cannoedd o bob llwyth ac iaith. Diau y bydd ein cyfeillion yn yr Hen Wlad yn falch o glywed hefyd y cynhelir moddion Cymraeg yn Johannesburg y Saboth cyntaf o bob mis, a braint nid bychan i "Gymro mor bell o'i wlad ydyw cael crefydda yn iaith ei fam. Mirain iaith na chymrwn i Dunnell o aur amdani.' Anfonwch yn amlach, y Vinsent, a thipyn o drem ar fyd a helynt Cymry Affrica'n gyff- redinol. Y mae llawer ohonoch yn cripio i fyny'n uchel, uchel, yn eich gwlad newydd, ac yn trechu'r Byd Hwn heb golli'r Byd Arall. Rhybudd i Weintdogion, I At Olygydd Y BRY ( > r I ANNWYL SYR.—Byddaf ddiolchgar am Ie i roi gair o rybudd i'm brodyr yn y weinidog- aeth. Mae dyn o'r enw David Davies (brodor o Aberdyfi) yn feddiannol ar lythyr o'm heiddo wedi ei ysgrifennu at Messrs. Elder & Fyffe, Garston. Ar bwys y llythyr hwn, twyllir gweinidogion i ddangos caredigrwydd ato. Ar hyn o bryd, gweillidogion Abertawe sy'n dioddef. Byddaf ddiolchgar am ataliad y llythyr.—Yn frawdo! H. RIDEHALGH JONES Eglwys Breeze Hill, Lerpwl. IiYN AC ARALL- I Ebe un o Fethodistiaid leuamc y cylch wrthym, ar ol dod o Gymanfa Ganu'r Sun Hall nos Lun ddiweddaf :— Da chwi, gofynnwch i un o feirdd y BRYTHON wneud englyn i lygad T. Hopkin Evans,—y llygad mwyaf byw a threiddiol a welais ers tàlm, yn cynniwair i bob man, yr arweinydd yn dweyd mwy a'i lygaid nag a'i law, ac yn gwgu ar bob smic o dwrw symud ol a blaen yn dat- gan ei wrthwynebiad pendant ar y dechreu i bob clap a churo traed ac yn rhoi mwy o bris ar ddefosiwn ac-ysbryd gweddaidd a gwir addolgar nag odid i'r un arweinydd a welais erioed." k Fel hyn, heb nac enw na heol, y cyrhaedd- odd llythyr yma y bore o'r blaen, sef oddiwrth Abon y bardd a'r dyn llyfrau I athro gwlad, lythyr gludydd-dwg hwn Hyd i gell GOLYGYDD Y BRYTHON, a'r gwib areithydd, Batlo a'i bin yn BOOTLE bydd. k Wedi bod gyda'r milwyr yn Weston-super- Mare, mae'r Parch. H. Ridehalgh Jones, M.A., yn dioddef ers mis. Nid yw wedi pregethu er y trydydd Sul yn Chwefrol. CAPEL KENSINGTON.—Y Parchn. J. Ver- non Lewis, B.A., B.D., S. R. Jenkins, B.A., a R. R. Hughes, B.A., a weinyddai yng nghwrdd pregethu'r eglwys uchod y Saboth diweddaf; ac oedd grym ar y genadwri trwy'r dydd. Y TABERNACL.—Cynhaliwyd Sale of Work yn yr ysgoldy, ddyddiau Gwener a Sadwrn di- weddaf, i'r amcan o droi'n arian y nwyddau gweddill o'r Nodachfa fawr a gafwyd yn St. I George's Hall ddeunaw mts yn ol, ac er ¡ gostwng ychwaneg ar ddyled yr adeiladau. ¡ Bu'n llwyddiant mawr, ac yn ychwanegol i'r hwyl, y difvrrwch a'r cyniundeb brawdol a chynhesol, bu yno werthu a bargeinio rhag- orol, a'r elw ariannol uwchlaw hanner can punt. Agorwyd prynhawn dydd Gwener gan Mr. Thomas Morgan, Park Road, yn lie ei frawd Mr. R. H. Morgan, a chadeiriwyd gan y Parch. O. L. Roberts. Offrymwyd gweddi gan y Parch. D. Adams, B.A., datganodd Madame Beattie, a diolchwyd i'r cwblargyn- hygiad y Parch. T. Price Davies, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Rhys T. Williams. Ddydd Sadwrn, wedi gweddi gan y Parch. R. T. Williams, cyhoeddwyd y Sale yn agored gan Mr. J. W. Rowlands, Newsham Park. Y cadeirydd ydoedd Mr. Robert Roberts, Y.H., Fitzclarence Street, cafwyd unawd ac adroddiad gan Miss Rachel William, ac ar gynhygiad Pedrog, cefnogiad y Parch. Albert Jones, B.A.,B.D., ac ategiad y Parch. O. L. Roberts, diolchwyd yn gynnes i'r cwbl. PRINCES ROAD (M.C.).—Nos Fercher ddi- weddaf caed cyngerdd i wobrwyo y plant am eu sel dros y genhadaeth, y Parch. R. J. Williams yn eu canmol am eu gwaith y Parch. H. Hughes, B.A.,B.D., yn cyflwyno'r gwobrwyon; a Mr. R. Lloyd Phillips yn cad- eirio. Dyma'r rhaglen gan y plant eu hunain DADLEU Doctor Cot Hir a Mr*. Bonnet, Doris Evans a Martha Brown. ADRODD, Y gath a'r llwynog a'r Cristion yn y dafarn, May J ones Y Wialen Fedw, Arthur Cadnant Ellis Robin ar grwydr a Cweryl y Cathod, Gwerfyl Ellis Bedd Golart a'r Uwti poeth, Annie Robertt. CANU Penillion, David Griffiths Codiad yr Ehedydd, Doris Evan* Ar hyd y not a Cartref, Fiorria Owen Y dwylaw lluddedig, Jennie Lewis; O'r niwZ i'r nef, Glyn Jones. Parti plant yn eanu can ystum wladgarol, obn ddisain, a chan chwer- thin. Unawd ar y berdoneg gan Gracio Jones. Miss M. Jennie Edwards yn cyfeilio, a'r holl drefniadau yng ngofal Miss Evans, Eversley Street.—Cyfarfod Ysgol lleol y Sul diweddaf. Hwn yn sefydliad blynyddol, a threulir y bore a'r prynhawn i holi a gwobrwyo y plant. Dechreuwyd yr oedfaon gan Mri. Lewis Andrews a Cledwyn Hughes. Holwyd ft chyflwynwyd y gwobrwyon i'r plant gan y Parch. H. H. Hughes; Mr. J. Freeman Will- iams, arolygwr ysgol y plant, yn hwylio'r trefniadau. Miss Edith Jones, L.R.A.M., A.R.C.O., a Miss M. Jennie Edwards, B.A., gyda'r offerynau; Mr. Thomas Jones yn arwain y tonau o Lawlyfr y Gymanfa Ysgol- ion a'r Parch. H. H. Hughes yn pregethu yn yr hwyr.-O'r. Set Gtfn. Ddydd Mawrth, Mawrth 23ain, hunodd Lewis Lloyd, bachgen 13eg oed Mrs. Jones, 5 Wadham Road, Bootle. Ni fu ei iechyd erioed yn gryf ond er mor ieuanc, yr oedd yn addfed iawn i'r nef. Cydymdeimlir a Mrs. Jones a'r teulu yn eu galar. Yr oedd ei dad wedi ei ragflaenu rai blynyddau yn ol, yn hynod sydyn yn awr, dyma Lewis bach wedi ei ddilyn. Un o blant Ysgol Sul Bankhall ac eglwys Stanley Road ydoedd a chredwn mai efe yw'r cyntaf o'r bedwaredd genhedlaeth o rai mewn cysylltiad ag eglwys Stanley Road i gael ei alw gartref. Mae ei fam a'i nain yn para yn aelodau ffyddlon yno, a bu ei dad- Mr. William Jones—ei daid—Edward Parry, a'i hen nain—Mrs. Parry, yn aelodau ffyddlon yno. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys ddydd Sadwrn diweddaf ym mynwent Longmoor Lane, ynghanol dagrau perthynasau, a nifer dda o gyfoedion ieuainc. Yr oedd ei ddos- barth yn yr ysgol ddyddiol, ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul, aelodau Ysgol Sul Bankhall, ynghyda nifer o gyfeillion, wedi anfon pleth o flodau i roddi ar ei fedd fel tsyrnged o barch i'w gymeriad persawrus. Gweinyddwyd gan y Parch. O. Lloyd Jones, M. A.,B.D., Y trefn- iadau yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. TRINITY ROAD (A.).—Nos lau, y 25ain, cynhaliwyd cyfarfod i ddymuno'n dda ac i anrhegu Mrs. W. Roberts ar ei hymadawiad i fyw i Borth Dinorwig. Llywyddwyd gan Dr. Owen Evans. Wedi canu emyn, gweddi- odd y Parch. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., Park Road. Dywedai'r llywydd iddo fod mewn llawer o gyfarfodydd yn ordeinio, sefydlu, croesawu a ffarwelio a gweinidog, ond yn holl ystod ei oes faith, ni fu mewn cyfarfod tebyg i hwn, sef i ddymuno'n dda ar ymadawiad gwraig gweinidog. Yr oedd rhyw gyfaredd a swyn yn yr amgylchiadau, a naturioloedd i bawb ofyn beth oedd yn bod. Wel, dyma'r eglurhad nid oedd iechyd Mrs. Roberts o lawer y peth y dymunid iddo fod, a phenderfynodd Mr. Roberts adfiiladu palasty hardd ar lan y Menai, ac yno y bwr- iadai symud i dreulio ei nawnddydd. Nid yw Mr. Roberts yn torri ei gysylltiad a'r eglwys yn Trinity Road fel ei gweinidog, ac ymwel a hi ddwywaith yn y mis. Anerchwyd ymhell- ach gan y Parchn. D. Adams, B.A., Grove Street O. L. Roberts, Tabernacl; J. O. Williams (Pedrog); R. T. Williams, Great Mersey Street; G. J. Williams, Vittoria Street; Albert Jones, B.A.,B.D., Marsh Lane a W. Thomas, Marsh Street. Myneg- odd y cwbl lawer am rinweddau Mrs. Roberts, yn neilltuol am ei Iletygarwch a'i chroeso cynnes, i bawb yn ddiwahaniaeth, ond i'r gweinidogion a'r pregethwyr yn fwy. Colled fawr i'r eglwys oedd colli aelod mor ddefn- yddiol a pharod ei chymwynas,mor ffyddlon,a phoh amser mor astud i wrando. Ac o'rtu- allan i'r eglwys achosid bwlch ar ei hoi ym myd dirwest, y Women's Anxibary, ac yn v blaen,—gwaith a roddai gyfle iddi droi ymysg dosbarth tlotaf ein tref, ac yn hyn ni bu ei Haw hi na Mr. Roberta un amser yn gaead: y P.M. A. hefyd a bu yn is-lywydd i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion am bum mlynedd. Gofidid yn gyffredinol oherwydd fod ei hiechyd yn ei gorfodi i ymadael, ac eto teimlid yn hyderus y byddai i awelon peraidd Mon ac Arfon ei hadfer a'i dwyn yn ol. Yna caed lluniaeth. Cyflwynwyd rhodd o Japanese Tea Set hardd iddi, gydag yehydig eiriau doeth a syml, gan Mr. E. Thomas, Park Street (trysorydd) a Mr. J. Jones, Hero Street (ysgrifennydd). Derbyniwyd a diolch wyd gan Mrs. Roberts, gan ddatgan mor gar- trefol a dymunol y bu ei harosiad yn yr eglwys, ac yn amlygu gofid oherwydd gorfod ymadael. Caed gair o gydnabyddiaeth a diolch hefyd gan y Parch. Wm. Roberts; a chan nad oedd anrheg iddo ef." meddai'r llywydd yn chwareus, tybed ei fod yn edifaru na fuasai yntau'n mynd Y Diolchodd Mr. J. Rowlands, Viola Street, a Mr. D. Davies, Beech Street, yn gynnes i Mr. a Mrs. Thomas, Park Street, am y lluniaeth, ac i bawb am a wnaethant tuagat lwyddiant y cyfarfod. Terfynwyd drwy weddi gan Dr. O. Evans. CWYN COLL.—Claddwyd gweddillion ein cyfaill siriol, William John Parry, 119 Westminster Road, ma.b y diweddar E. M. Parry, ac wyr i Edward Parry, ddydd Mercher diweddaf, yn 29ain oed. Bu farw y Uleg o Fawrth, o'r darfodedigaeth, ar ol gorwedd ychydig ddyddiau. Ymdrechodd yn galed i orchfygu'r hen elyn sydd wedi torri i lawr ar y llwybr lawer bywyd ieuanc pan oedd gobeithion byd yn gwenu arnynt. Bu yng ngwasanaeth y National Telephone Co., ac wedi hynny y Llythyrdy, am un mlynedd ar ddeg, yn llenwi swydd bwysig, yn uchel ei barch gan yr holl swyddogaeth. Gweinydd- -.vS'h wyd yn yr angladd gan y Parchn. Stanley Rogers, Westminster Road Congregational, lie yr oedd yn aelod ffyddlawn; Rhys T. Williams, Great Mersey Street; William Thomas, Bootle. CYNGERDD RAMILIES ROAD.—Fe'i syn- haliwyd nos Sadwrn diweddaf, yn St. Barnabas Hall. Trefnodd yr ysgol i roddi'r te parti a'r cyfarfod blynyddol heibio am eleni, er mwyn i'r cyngerdd gael perffaith chwarae teg at amcan mor deilwng, sef cynorthwyo'r Belgiaid yn eu cyni a'u dioddef- aint, oherwydd y rhyfel, a rhoddi ychydig gynhorthwy yn ad-daliad iddynt am sefyll rhyngom a'r gelyn. Gwasanaethwvd gan y cor plant a pharti cymysg, dan arweiniad Mr. R. J. Jones Miss Lily Owen yn eanll pen- hillion sketch, Cyfoeth a Gofid, gan Miss M. Lloyd, Master Trevor a Victor Jones, Mri. John Hughes, Wm. Owen, J. Llewelyn Jea- kins a T. C. Davies. Gwnaethant eu rhan ym rhagorol i gyd, a mawr fwynhawyd eu per- fformiad. Cafwyd unawd hefyd ar fyr ry- budd gan Miss Phyllis Davies, Webster Road. Ond prif atdyniad y noson oedd y ddau unawdydd enwog, sef Mr. Griff Owen a Miss Annie Davies, Penrhyn Deudraeth. Caweant eu hail alw bob tro, a chawsant gymeradwy- aeth fyddarol y naill dro ar ol y 11all. Canodd Miss Davies Cymru Fydd, Y Bachgen ffcr- weliodd a'i Wlad, There's a Land, Good Byer Arglwydd,arwain drwy'r anialwch; a rhoddodd Mr. Griff Owen Pay fel fy Mam, Gwalim Dlos, Th. Veteran Song ac Unwaith eto yng N ghymru annwyl. Detholiad rhagorol, ae yn sicr cawsom wledd yn y rhan Gymreig hon o'r ddinas, a disgwyliwn elw sylweddol at yr amcan mewn golwg. Cyfeiliwyd gan Mr. J. J. Thomas, L.T.S.C., Edge Lane,« llannwyd y gadair gan Mr. John Hughes, Moneifion, yr hwn a gyfrannodd yn haelionus a chafwyd anerchiad rhagorol ganddo ar ein dyledswydd yn amgylchiadau presennol ein gwlad. Daeth y Belgian Consul yno hefyd traddododd anerchiad dwys, a rhoddwyd croeso calon a gwrandawiad astud iddo, fel cynrychiolydd y genedl fechan ond gwrol yr ydym mewn dyled neilltuol iddo am atal y gelyn rhag difetha ein cartrefi ninnau. Diolchwyd gan y Parch. W. Owen a Mr. J. W. Jones, y rhai a sylwent fod y pwyllgor wedi sicrhau rhai o brif ddoniau y byd cerddorol i wasanaethu, gan ddisgwyl elw mawr fel ffrwyth eu hymdrech- ion.-T.J.G. CYMDEITHAS POBL IEUAINC ANFTELD RD. —Terfynwyd tymor gaeaf yr uchod nos Wener ddiweddaf gyda'r arlwy arferol a rhaglen amrywiaethol yn dilyn. Eisteddodd tua chant i lawr i fwynhau y wledd fras a barato- wyd, o dan gyfarwyddyd deheig Mrs. W. Cernyw Jones. Ar ol i'r byrddau gael eu clirio, gwrandawyd gyda boddhad anarferol ar y rhai a ganlyn yn ein diddori, sef Madame Lilian Lloyd, Miss Lizzie Thomas, a Mr. J. R. Morris fel unawdwyr seinber Mr. 'Arthur Evans fel adroddwr campus, a Miss Gwen Morris mewn ymson (monologue) ddigrif a chelfydd tuhwnt. Cyfeiliwyd yn fedrue gan Miss Phyllis Venmore. Yn ystod seibiant daethpwyd a seigiau melys oddiamgylch gan chwiorydd y Gymdeithas, a'r rhai y gwnaed cyfiawnder. Llywyddwyd yn ei ddull siriol gan y Parch. John Owen. Yr elw at Gronfa y Groes Goch, a rhoddodd Mrs. John Owen adroddiad diddorol o'r hyn a wnaethid eisoes gan y gangen leol. Y mae clod yn ddyledus unwaith eto i'r ysgrifenyddion Miss Cissie Jones a Mr. Alun Roberts, am eu llafur diflia yn ystod y tymor. Ar gynhygiad Mr. Evan Williams a'r Parch. Ivor Hael Jones, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i bawb am eu gwasanaeth. Gresyn dweyd, er hynny, nad ydyw cyfarfodydd rheolaidd y Gymdeithas wedi eu cefnogi fel y dylesid gan ddynion ieuainc yr eglwys. CYMANFA UNEDIO T PLANT. Nos Sadwrn, yn yr Woodlands, o dan lywyddiaeth v Parch. O. J. Owen, M.A., arweiniwyd y canu gan Mr. W. Jones, Woodlands holwyd y plant gan Mr. Hugh Evans, B.A. rhodd- wyd anerchiad i'r plant gan y Parch. D. Adams, B.A. adroddwyd gan Masters Dan Davies (Vittoria Street), Ernrys Hughet (Clifton Road), a Miss Myfanwy Davies (Vittoria Street) canwyd gan barti o Vittoria Street, ao adroddwyd Salm 27 gan blant Rock Ferry. Diolchwyd i bawb gan y Parch. W. 0. Jones a Mr. W. Parry, Clifton Road, gan sylwi y dylasai mwy o rieni'r plant fod yno. Yr oedd amryw gyfarfodydd eraill yr un noson. Gresyn na thelid sylw wrth drefnu'r dyddiad. PARKFIELD.—Nos Fercher, y 24ain cyf., yr oedd ysgoldy Parkfield dan sang gan faint y cynhulliad ddaeth ynghyd i gyngerdd cor yr Ysgol Sul, sydd dan arweiniad Mr. William Jones, L.T.S.C. Eleni fe'i cynhelid i gefnogi ymgyrch Mrs. Lloyd George i gael ymgeledd i filwyr y Fyddin Gymreig. Mr. James Venmore,Y.H., oedd y cadeirydd estyniiodd yntau rodd deilwng at chwyddo'r gronfa, a gair da o gyngor gyda hynny i'r ieuenctyd i ymddwyn fel gwyr yn yr argyfwng difrifol hwn. Miss Annie Davies, Penrhyn Deudraeth, Mr. Griff Owen a Mr. J. R. Salisbury oedd y galwedigion Miss Jennie Roberts, cyfeilydd y cor, oedd wrth y berdoneg a Mr. W. Lloyd Williams, aelod o'r cor, oedd y baritone. Dyma'r tro cyntaf i lawer ohonom glywed Miss Annie Davies, a gwelem fod ganddi gyf- lawnder o lais, a'r dawn prin gyda hynny o gynhanu pob gair yn groew, fel yr oedd y mwyaf anhyffordd yn medru dilyn pob can. Afraid dweyd fod Mr. Griff Owen i fyny a'i safon arferol, ac fod Mr. J. R. Salisbury yn ei lawn afiaith. Cynhygiwyd y diolchgarwch i'r cadeirydd a'r datganwyr gan Mr. J. R. Owen a Mr. Gomer D. Roberts. Ysgrifen- nydd y cyngerdd oedd Mr. T. A. Lloyd, Arthur Street. Dyma'r rhaglen :—Dechreu- wyd gydag unawd ar y berdoneg gan Miss Jennie Roberts, a chanwyd y darnau canlynol gan y Cor Now by day's retiring lamp (Syr H. R. Bishop), Yr Haf (Gwilym Gwent), Be not afraid (Mendelssohn), Ye Mariners of England (H. H. Freison), The Village Chor- ister (Moscholeo), wythawd gaii aelodau o'r cor, In absence. Canodd Miss Annie Davies Gwraiy y Morwr (Dr. Parry), The Promise of Life (Cowan), a Yr Haf ac A Summer Night mewn atebiad i encor. Gan Mr. Griff Owen caed Mona (S. Adams), Marwolaeth Nelson Braham. a Pwy fel fy mam mewn atebiad i encor a rhoddodd Miss Davies ac yntau y ddeuawd Ercelsior. Y ddwy gan a roddwyd gan Mr. W. Lloyd Williams oedd Y Banerwr a The Mighty Deep. Diweddwyd gyda Hen Wlad fy Nhadau a Dllw gadwo'r Brenin, Miss A. Davies a Mr. Griff Owen yn arwain. -r'