Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
KEENORAA SELF-RAISING FLOUR. PERFECT FOR PASTRY EVERYBODY LIKES IT @@@ SOLE WHOLESALE AGENTS— OHIlIS and .TONK8, UVERPOOL & MANCHESTER.
Advertising
Beaty Bros ltd. THE qr A TIT f)1RLQ CELEBRATED TAILORS THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good-Class Tailoring AT REASONABLE PRICES. ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., I LIVERPOOL. Closed on Wednesdays at I P-m. Open all day Saturdays. I A yw'ch n Llygaid yn eich btino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna srwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu'gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddon- .1, ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a barai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw- ARCHER & SONS Eyesight Specialists. <73 lord Street, IL I Scfydlwyd 1848. LIVERPOOL 'Phone—3925 Baafe, V. Gfils & SOD, TAILORS. 20 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO AN 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. j. MILITARY .0 OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc. 'Phone—580 Bootle. Appreciated ro,- 124 Ypars. Bond's Pianos. 20 Guineas M Bond Piano. lashioHsble Chippendale Rosewood Case, complete Iron Frame, MeTsl Pressure Bar and Bridge, Check Action, beautiful tone and touch, uuequalled value. 23 Guineas C Arthur Day Piano. Magnificent Walnut Case (Dark), lion Frame Check Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artist c case, Overstrung Full Iron Frame, I nderdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Musical Instruments, Music Fittings of all kinds' Strings. Records. Records., iarge SELECTION OF WELSH RECORDS Gramophones all prices.. BOND CO., 4 Lime Street, Liverpool- IF YOU WANT REALLY GOOD BOOTS liUNTS, 49 Paradise St, Liverpool The Largest Stock of Boots and Shoes In Liverpool tt select from, for Ladies id Gentlemen, Youths and Boys School Boots It) great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc- IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL am"ORRIS EVAi%S' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago Sc Burns, Scalds, Cuts, Bruises Oc ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL Get a Bottle at once from your Grocer or Chemie Price 1/1 id. 6 2/6 Or direct from- MORRIS EV4NS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES. ROBERTS a EiJWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirhdale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
Trem I-Dameg y bore Niwlog.
Trem I-Dameg y bore Niwlog. NID oes fawr o amser er pan geisiem ddal y Drych crynedig ar Wyl v Geni. Aeth honno heibio yn nhwrf a chyffro'r rhyfel mawr hwn. Teimlasom fod crochlefau utgyrn Armagedon Daear yn boddi pereidd-der Anthem Hedd y nefoedd. Yt-, lie mwynlais angel yn dywedyd Nae ofii-,veh,ceiet Brenin Dychryniadau o Germani'n dibrisio pob anrhydedd ac union- deb moesol, gan fwrw ei ofn ar y cenhedloedd. Ac yn awr, dyma'r rhyfel yn parhau, ac yn rhuthro'n ei rym a'i rwysg dinistriol trwy wyliau cysegredig y Groglith a'r Pasg. Mae hi'n fore Sadwrn, haul y Groglith wedi mach- lud, a gwawr y Pasg heb ddod. Dyma ni, mewn ystafell dawel, gysurus, wrthym ein hun, yn ceisio myfyrio'n ddifrif rhwng Croglith a Phasg. Mae'r ty hardd ymha un y cawn garedigrwydd llety ar un o'r safleoedd mwyaf eyflens i gael Trem amgylchog, eang, ac amrywiol, ar ogoniant mor a mynydd. Yn wir, cawsom olwg ar ogoniant y lloer echnos nad ydym yn cofio'i odidocach nemor erioed, Ymddangosai mor fawr, a phob modfedd ohoni'n wrid fflamgoeh. Cyn mynd ohonom i huno—a hithau'n bur hwyr, oherwydd melys- ter yr ymgom !—dywedodd ein cyfaill wrth- ym am y weledigaeth a gaem yn y bore, trwy ffenestr ein hystafell wely, ar y mor. ac ar l'ynyddoedd Meirion sydd yn ei fframio a chadernid tragwyddol. Yn wir, cymersom drem i'r gwyll heno, a diddorol oedd sylwi ar Oleudy St. Tudwal, a'i fflam, ar gylchdro, yn fflachio allan, ac yn rhybuddio llongau'r mor o berygl, yn gystal a'u gwahodd i noddfa mewn ystorom. Ond gosodasom ein pen ar oben- nydd esmwv th, a chysgasom yn dawel-yn breuddwydio am y weledigaeth ehangfawr, gyfoethog, a gaem fore trannoeth. Daeth y bore, a gosodasom y Drych mewn trefn i'w droi ar sylwedd yr addewid a roddasid i ni. Ond och Mawr fu'n siom Yr oedd yr. wybren yn gymylog, y glaw yn disgyn, a niwl yn gorchuddio mor a thir. Ni chawsom y weledigaeth—y tro hwn, beth bynnag. Er hyn oil, nid oeddym yn ddigysur. Diolchem am aelwyd glyd, am gwmni siriol, ac am Wyl y Groglith unwaith eto. Ac nid oeddym, er yn analluog i'w gweled yn glir ar y pryd, yn ameu dim nad oedd yr haul yn y ffurfafen, y mor yn ymrolio o fewn ei derfynau. a'r mynyddoedd heb eu symud ymai th. Pe buasai holl ddyfai s a gallu Germani wedi cydymgrynhoi, nid allem gymaint a dychmygu iddynt ddiffodd haul, sychu m6r, na symud mynyddoedd. A daliem i gredu y caem, ryw fore, weld y gorchudd wedi ei symud, a'r broffwydoliaeth garedig yn cael ei chyfiawni—y caem weledig- aeth ogoneddus ar ddarn o greadigaeth y Brenin Mawr. Ac, yn wir, ymddengys i ni fod Natur yn cyfleu inni dds.meg yr hyn oil. Petaem yn meddu mwy o "feddwl Crist," canfyddem fwy o'r ysbrydol trwy ddrych y naturiol. Onid tebyg i'r hyn a gawsom yn y bore drycinog, glawog, niwlog, a gaed yn y Groglith hefyd ? Mor dymhestlog a thywyll y dydd pan groeshoeliwyd Gwaredwr y byd Swn drycin, lliw tywyllwch, cyffro brawychus, oedd o gwmpas y Groes. Ceir rhai o gy- ffyrddiadau aruchelaf barddoniaeth Gymreig ynglyn a'r Croeshoeliad. Islwyn, os iawn ein cof, a ddarluniodd y wybren gymylog uwch- ben y Grog,— fel elor-gerbyd du, A'r haul o'i fewn yn farw. Hwfa Mon hefyd, a ganodd,— Y ddaear a'i gruddiau'n dduon,-—a'r graig. Er mor gref, yn yfflon Awyr brudd yn curo'i bron, A lialu yn torri'i galon. Ac nid ydym yn meddwl fod yn ein hiaith ergyd farddonol fwy aruchel nag eiddo'r di- weddar Mr. Humphreys, Utica, U.D. Yr haul draw i wylo drodd,—a'r ddaear I ddianc gyfododd. Gall dyn wledda art oriau la-wer ar feddwl fel hwn. Yr haul mawr yn methu dal i syllu ar y trychineb, ac yn troi ei wyneb draw i wylo a'r ddaear yn teimlo fod dal i fyny groes gwaradwydd ei Chreawdwr yn annioddefol i ddi, A' l' ddaeat. i ddianc gyfodùdd .I" Ac nid oedd yr arwyddion rhyfeddol a ddisgrifir yn natur allanol heb gyfatebiaeth ym mhrof- iadau mewnol disgyblion yr Iesu. Tybient fod eu gobaith wedi ei siomi am byth. Dis- gwyliasant i'r Meseia gyflawni rhyw wrhydri a barai iddo ymorseddu'n Frenin, a chodi'r genedl i oruchafiaeth ar ei holl elynion, a gwneuthur Jerusalem yn brifddinas y byd. Ond yn lie hindda, drycin yn lie goleuni, tywyllwch yn lie Gorsedd, Croes; yn lie gorchfygu, marw. Mor gynhwysfawr fel mynegiad o siom a phrudd-der ac anobaith yr ymadrodd, Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai Efe oedd yr hwn a waredai yr Israel." Dyma'u beddargraff i'w gobaith. Disgwyl- iasent y welediageth ogoneddus, y sylweddol- iad o'u gobeithion disglair; ond tynnodd Angau lenni duon y bedd dros y weledigaeth, a phlygasant hwythau eu pen mewn prudd- der, hiraeth, a siomiant chwerw. Ond er hynny, yr oedd yr Addewid am y Meseia'n aros, ac ni allasai gair Duw gael ei ddirymu. Hyd yn oed pe na chlywsent air mwy oddi- wrth yr lesu a gladdesid, a phe profesid iddynt nad efe oedd y Meseia, eto, buasent yn rhwym o syrthio'n ol ar yr Addewid, gan ddisgwyl am un arall i'w chyfiawni Ie, cyfnod tyng- hedfawr yn hanes y byd—dynoliaeth i gyd, ac nid Iddewon yn unig-oedd yr un rhwng y Groglith a'r Pasg. Yr oedd yr Haul wedi machlud, achos dynoliaeth tan lenni nos a niwl a thyinestl. A oedd yr Haul a fach- ludodd i godi mwy ?
,Trem l-Y GwyliauI I Cysegredig.
Trem l-Y Gwyliau I I Cysegredig. Yn ddiameu, mae'r modd y c-ynhelir y Gwyliau Cysegredig yng Nghymru'n amlygiad lied gywir o ansawdd meddwl a chalon y bobl. Ni fvnnem ar un cyfrif feio'r rhai a ddaliant ar gyfle'r dyddiau hyniymweled a'u cartrefi, eu perthynasau, a'u cyfeillion, a cheisio ad- newyddiad iechyd a hoen. Treulia llawer eu hamser mewn galwedigaethau digon caeth, a lleoedd digon afiach, fel mai angenrhaid iddynt yw gollyngdod i awyr agored a golyg- feydd newyddion a chymdeithas ddifyr. Bendith arnynt Er hynny, mae crefydd Cymru wedi arfer dal ar ystyr y Gwyliau Cristionogol. Ofnwyd, mewn blynyddoedd diweddar, fod y nodwedd grefyddol iddynt yn cyflym golli, ac mai plesera oedd yr unig beth poblogaidd arnynt. Credwn na cheid cymaint bri ar gyrddau pregethu ag a fu gynt, a chredwn ddarfod i rai eglwysi ildio'r oedfi grefyddol i chwarae'r bel droed, neu gyrddau o adloniant a difyrrwch. Teirnlai pobl fwy o fwynhad iddynt mewn 'melysion digrifwch nag yn yr ymborth a barai i ysbryd ymgryf- hau arno. Oni thueddai hyd yn oed crefydd- wyr i fyw'n unig ar hynny o grefydd a chwar- aeai ar eu nerfau ? Da gennym, cr hynny, fod eto ddynion a wyddant mai nid rhyw swyn yn ymgripio dros arwynebedd anianyddol natur dyn yw crefydd, eithr trafodaeth ysbrydol ddofn yn yr enaid—Duw a dyn yn cydgwrdd ym mhwynt yr ysbryd. Aelmae eto ddynion a gofiant fod y Groglith a'r Pasg yn sefyll am ffeithiau a gwirioneddau ag y mae gobaith y byd yn gorffwys arnynt. Cedwir ni mewn coffa argyfwng na fu ei gyffelyb yn hanes y byd, ac na bydd byth. Er pwysiced argyfwng y rhyfel hwn, nid yw i'w gymharu a'r hyn a olygai Croglith a Phasg. Yr oedd pethau mwyaf nef a daear, amser a thra- gwyddoldeb, ar eu prawf y tridiau rhyfedd ,%Tn y tridiau rhyl'edd hyn. Yr oedd Cristionogaeth ar ei phrawf yn y Crist. Ceid y prawf o'i gwirionedd yn ddarostyngedig i ffaith. Y gwirionedd yd- oedd, fod y Crist yn Waredwr y byd y ffaith a brofai hynny fyddai iddo adgyfodi oddiwrth y meirw. Yr oedd y gwirionedd yn an- hraethol fwy na'r ffaith neilltuol lion eto, yr oedd y gwirionedd i gyd yn pasio trwy'r ffaith, ac yn cael ei brofi ganddi. Rhyfedd fuasai i'r Eglwys Gristionogol anghofio'r hyn sy'n sylfaen i'w bodolaeth, a ffynhonell i'w bywyd a'i hysbrydoliaeth. Diameu y dy- lasai'r Gwyliau arbennig hyn ennill mwy o sylw, bryd, a myfyrdod yr Eglwys nag a wnaent yn ddiweddar. Ond tueddwn i gredu fod ymwybyddiaeth ddofn a thawel o ystyr y sefydliadau hyn yng nghalonnau llaw- er mwy nag a feddylir. Er gwaethaf y pethau erchyll ynglyn a'r rhyfel, yr ydym yn argyhoeddedig ers tro fod y -difrifweh meddwl a'r teimlad awyddus am bethau arhosol a sier ar gynnydd. O'n rhan ni ein I hun, gallwn yn gydwybodol ddywedyd am yr argraff a wnaed arnora gan bump o bregethau y cawsom y fraint o'u gwrando ddoe ac echdoe ger Bau St. Tudwal, ym Mhen Lleyn,—eu bod, mewn gwirionedd yn ein harwain i fewn, ymhell i wirioneddau ysbrydol a hanfodol y Groes a'r Bedd Gwag. Eglur oedd fod y cenhadon hyn wedi meddwl,eu cenadwri yng nghanol cyffroadau'r rhyfel, a chymhwyso'r Efengyl at gyflyrau pobl sydd heddyw'n fyw. Nid ein meddwl yw fod y pregethau'n rhyfel- gar. Ni chlywsom erioed gondemnio mwy llym a difrifol ar ryfel ynddo'i hun, neu fel moddion i benderfynu materion rhwng cen- hedloedd a theyrnasoedd. Ond yr oedd y fjaiili o ryfel yn amlwg yn y genadwri bob tro. Ac ni wyddom ni pa fodd y gall neb na gweddio na phregethu heddyw heb fod y rhyfel yn bradychu ei hun ynddynt. Y neb a fedrai wthio gweddi na phregeth allan o'i galon heb ei gyrru trwy ganol y teimlad o'r trallod hwn, nid allwn ei amgyffred. Ond yn yr hyn a wrandawsom ni, cawsom help i sylweddoli'r j: ysbrydol, nad all rhyfel ei ddinistrio,—noddfa enaid, nad all ergydion Armagedon yrru ias o gryndod trwyddi. Cawsom oedfaon, ymha rai y megid ysbrydion. Heblaw hynny, ceid cynulleidfaoedd Iluosog a gwrandawiad astud. Ni sylwasom ers talm ar cyn lleied o warual- rwydd a Ilygaid gwibiog. Credem, yn sicr, fod y bobl yn awyddus am genadwri o gym. orth iddynt yn yr amgylchiadau presennol, eu bod yn dal i gredu fod yr Efengyl yn meddu'r awdurdod uchaf ar ddigwyddiadau mawr y byd. Ac mor sicr a hynny, yn y pregethau y cyfeiriwyd atynt, ni chawsant eu siomi. A phan gofir y digwydd fu ar Wener y Groglith cyntaf, teimlwn fod ynddo rywbeth sy mewn cytgord hyd yn oed a'r rhyfel,dicddefaint ac aberlh. Trychineb creulon fu croeshoelio'r eyfiawn, ac nid dieuog y bernid y rhai a'i cyflawnodd. Ond trwy y trychineb gwarad, wyddus hwnnw, fe brofwyd ac fe ddatgudd- iwyd cariad Duw at y byd mewn modd nas gwnaed cyn hynny. Daeth goreu Duw i'r golwg trwy waethaf dyn. Ond, gofynnwn eto, a gyfyd Haul Bywyd ar nos ddu y Bedd
Trem -III—Y Bore -Clir.
Trem III—Y Bore Clir. Gwyr y rhai a edrychodd allan trwy ffenestri, ar fryniau Lleyn, fore Sul y Pasg diweddaf, fel yr oedd yr hin wedi newid, a'r haul yn tywynnu mewn nerth. Tein.lem fod y byd wedi ei weddnewid, a'r golygfeydd ardderchog ar for a thir yn ymgodi i'r gofwa, Yr oedd y glaw wedi peidio, a'r niwl ar encil. Wedi'r gwyll a'r niwl a'r ddrycin, cododd yr haul yn ei ogoniant. Wrth wrando'r adar yn canu, a sylwi ar flagur y coed, teimlem fod ysbryd y Gwanwyn yn cerdded y wlad, ac yr adnewvddid wyneb y ddaear cyn hir. A dyma Basg yn dilyn Croglith Cyfododd yr Iesu o'i fedd, adfywiodd gobaith y disgyblion, cil- iodd niwloedd eu hamheuon, a goleuwyd nos eu tristweh, gan Haul Anfarwoldeb. Troes yr hyn a ymddangosai'n fethiant yn oruchaf- iaeth i'r lesu. 0 hynny allan, mae'r lesu Byw yn llywodraethu'r byd. Mae eto gyf- nodau o niwl a nos a drycin ar Ei achos, a'r drefn o hyd yw-y Pasg wedi'r Groglith, y fuddugoliaeth wedi'r dioddefaint, a'r haf wedi'r gaeaf. Ni all y derfydd am Eglwys Crist, nac y metha yn ei hamcanion, canys mae'r Groes a'r Bedd Gwag tu cefn iddi. Heddyw, mae'r niwl a'r dymestl yn ein dallu i weld y tir pell a'r Brenin yn Ei degwch yn Ewrop. Tybiwn fod rhuadau megnyl yn boddi mwynder caniadau'r Nef, a'u mwg yn cuddio wyneb Mab y Dyn. Waeth yn y byd, mae Haul Cyfiawnder yn y nen, mae mor- oedd gras yn eu cyfiawnder, ac mae myn- yddoedd cyfiawnder Duw'n ddisyfl. Cyn hir, fe gwyd yr Haul ar Ewrob, cilia mwg yr Armagedon, djstawa taranau'r rhyfel; a gwelir hindda hedd yn deffro'r teyrnasoedd i fywyd a llawenydd. Tybiwn fod y wawr eisoes yn britho'r gorwelion, a diwygiadau n.awrion ar ddyddhau. Ni chafwyd erioed y fath gyfarfod dirwestol ac a gaed yn y rhyfel hwn Ac Nid yw eto ond dechreu gwawrio, Cwyd yr haul yn uwch i'r lan.
Advertising
Pence 4 # Envelopes FOR CHURCH COLLECTIONS Good Quality. Correctly Numbered bi Special Machine. Hugh Evans 6 Sons, Brythoes 356-8 Stanley Road; L'pool.