Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
YMDDIHEURAD.
YMDDIHEURAD. Yr ydym ni, Mri. HUGH EVANS A'I FEIBION, 356-8 STANLEY ROAD, LER- PWL, Argraffwyr a Chyhoeddwyr Y BRYTHON," trwy hyn yn tynnu'n ol yn llawn a IIwyr yr haeriadau cynwysedig yn y nodyn canlynol a ymddangosodd, fel y mae yn bur cidrwg gennym, yn ein rhifyn Rhagfyr 17, 1914, parth yr Hawlydd, Mr. Arthur TTMIIO Johnson, Awdwr The Perfidious Welshman Troi ar ei sodlati.-(-,welsomi hanes awdur The Perfidious Welshi-nan yn llys methdaliad, Llundain, yr wythnos di- weddaf. 'Does fawr er pan ydoedd yno blaen, ac heb ganddo nemor fwy na ehwrligwgan i'w gynnyg i'w dclyledwyr 11 ahud. Nid rhyfedd ei fod ar lawr ac yn troi ei sodlau, a'i fod bellach yn gorfod byw ar ei boeryn a'r sorod Satan a fwr- iodd am ben y Cymry yn y gyfrol g'lwydd- og honno." Addefwn fod yr haeriadau y bu awdur The Perfidious Welshman]" yn Llys Meth- daliad, a'i fod mewn tlodi, yn hollol anwir- ecldus. Datganwn ein gofid dwfn am i'r cyfryw haeriadau a sylwadau ymddangos ac am y niwed a'r blinder a barasom iddo drwy eu eyhoeddi. Cydnabwn ddarfod i Mr. Johnson, ar ein eais ni, gydsynio i atal cyngaws am athrod a, ddygasai i'n herbyn yn Adran Maine y Brenin o Uchel Lys Cyfiawnder ar ein gwaith yn hoeddi y gwadifd a'r ymddiheurad hwn- thalu iloo iddo fel iawn a'i dreuliau cyf- rei thiol. Dyddiwyd y 7fed dydd o Ebrili, 1915.
Heddyw'r BoreI
Heddyw'r Bore I sef bore dydd Metcher. I DlOFRYD Y BEEN IN Nid ysgrifennodd yr un brenin erioed well llythyr na hwnnw ysgrifennodd ein brenin ni at ein cydwladwr Mr. Lloyd George, yr wyth- nos ddiweddaf, yn datgan ei sylweddoliad o fawredd drwg y.diota, ei berygl i'r wlad, ei rwystr i'n llwyddiant yn y rhyfel, a'i bender- tyniad i lwyrymwrthod ei hun, i alltudio'r diodydd o'i dy, a'i wahardd i holl weinidogion a swyddogion ei lys. Hyderai y bydd y wlad, yn ei bonedd a'i gwreng, yn dilyn ei esiam.pl, a chan Dduw, gobeithio y gwnant Dywedir fod Arglwydd Kitchener wedi dilyn y Brenin ac ymddiofrydu nag vf yii tau'r un dafn o gwrw na gwirod. Pe gwnelai pob penteulu ddiofryd gyffelyb, byddai'r wlad yn anodd ei hadnabod ymhen yr banner blwyddyn, gan mor fawr fyddai'r diwygiad a'r drefn arni, a byddai mwy 0 gynnydd ar grefydd a moes, heb ion am bethau materol, mewn tri mis o sobrwydd cyffredinol nag a gaed mewn tair canrif hebddo. Ddoe (ddydd Mawrth, y Ged eyfisol) y dechreuodd y Brenin roi ei ddiofryd mewn grym a gobeithio mai am byth y bydd ac nid tra parhao'r rhyfel, canys wedi i ddir- west gael ei lie vn Llys y Brenin, gresyn fydda' iddi gael ei bwrw- oddiyno byth mwy. Gwasgfa ofnadwy yw'r hon yr ydym ni a chen- hedloedd Ewrop yn ei gafael ond bron na ddiolchai dyn amdani, er ei herchylled, oblegid iddi esgor ar ddinoethiad mor ddi- cwnwys o ddrwg a pherygl gwladol, heb son am foesol ac ysbrydol, y Fasnach Feddwol, a gorfodi Penadur y Deyrnas i deimlo fod rhwymedigaeth arno i wneud y peth mwyaf grasusol a wnaeth erioed,—rhoi her ac esiampl i'w holl ddeiliaid i fwrw'n gelyn mwyaf i gyd dros y drws. Y mae pendefigaeth y wlad yn brysio i ddilyn ac efelychu'r Brenin ymhob ffasiwn dillad a defod: brysied yr un mor gyfiym i'w ddilyn a'i efelychu yn ei ddirwest. 7 EDIPEIRWCH GWELY MARW- Deillia rhyw dda o bob drwg ac er ei gwaed a'i hofnadwyaeth i gyd, dyma'r Rhyfel ofnadwy hwn wedi esgor ar un o'r bendithion mwyaf mewn hanes, sef cael I wrop i gyd, yn genhedloedd a llywodraethwyr, i gydnabod fod y diodydd meddwol yn gwanio'u dynion, yn eu haneffeithioli fel ymladdwyr, ac felly'n peryglu ein diogelwch a'n buddugoliaeth yn y Frwydr Fawr. Gwyddent hynnv'n eithaf da cynt; ond yr oeddynt yn ddiofal ac ysgat'ala ac yn awr, dyma Ragluniaeth yn eu gosod mewn gwasgfa na chawsant ei chyffelyb erioed o'r blaen, a hwythau, mawr ddiolch iddynt, yn troi at ddirwest, nid am eu bod yn ei charu, ond am y rhaid iddynt, neu ynteu golli'r dydd. Ond da gweld pob edifeirweh, hyd yn oed edifeirwch gwely marw fel hwn o eiddo cenhedloedd mawrion lwrop, a Phry- dain yn eu mysg. Dyma gydnabod a dyrch- afu Dirwest i'r man uchaf o ran yr angen- rheidrwydd gwladol amdani, ac ni fydd raid i'r egwyddor lwyrymwrthodol byth ymddi- heuro na chwilio am resymau drosti ei hun mwy. Dyma'r rheswm mawr materol wedi dod i'r amlwg a chael ei gydnabod unwaith ac am byth yn Ilys y cenhedloedd. 4 CYNHADLEDD LLANDR1ND0D t Cyfarfu'r Seneddwyr Cymreig a ganlyn yn Llandrindod ddydd Mercher diweddaf, i ystyr- ied cynhygion y Llywodraeth parth oedi Mesur yr Eglwys yng Nghymru :-Syr J. Herbert Roberts (yn y gadair), Syr Frank Edwards, y Parch. Towyn Jones, Mri. E. J. Griffith, Sydney Robinson, Edgar Jones, J. Hinds, E. T. John, Ellis Davies, Llewelyn Williams, W. F. Roch, Haydn Jones, J. H. Edwards, a T. J. Williams. Ac yr oedd y gwyr canlynol yno'n ddirprwyaeth o Gyn- hadledd y Rhyl a gynhel'sid y dydd Llun cynt :-y Parchedigion J. Williams, Bryn- siencyn; Thos. Hughes, Felinheli O. L. Roberts, Lerpwl; D. Gwynfryn Jones, Fflint; y Prifathro Rees, M.A., Bala- Bangor Syr Henry Lewis, Bangor a Mr. Wm. Lewis, Llundain. Yr oedd y Parch. Hywel Parry a Mr. Abraham Thomas i fod yno fel cynrychiolwyr Cyngor Eglwysi Rhyddion De Cymru, ond nid oeddynt wedi cyrraedd pan alwyd eu henwau. Rhoes y Parch. John Williams achos y ddirprwyaeth gerbron ac ar gynhygiad Mr. W. Roch, a chefnogiad Mr. Edgar Jones, pasiwyd penderfyniad canlynol :— 4
I APOLOGY. I
I APOLOGY. WE, R. E. JONES AND BROTHERS of The Quay, Conway, Printers and Publishers of The North Wales Weekly News do hereby fully and unreservedly withdraw the state- ments contained in the following paragraph which we greatly regret appeared in our issue of the 31st December, 1914, relating to the Plaintiff Mr. Arthur Tysilio Jones the Author [- of The Perfidious Welshman I ROEWEN. I The following paragraph appeared in the Brython for December 17th :— Troi ar ei sodlau.— Gwelsom hanes awdwr 'The Perfidious Welshman' yn llys y methdaliad, Llundain, yr wythnos diweddaf. 'Does fawr er pan ydoedd yno o'r blaen, ac heb ganddo nemor fwy na chwrligwgan i'w gynnyg i'w ddyledwyr ehud. Nid rhyfedd ei fod ar lawr ac yn troi ar ei sodlau a'i fod bellach yn gorfod byw ar ei boeryn a'r sorod Satan a fwr- iodd am ben y Cymry yn y gyfrol g'lwyddog honno." We admit that the statements that the Author of The Perfidious Welshman had been in the bankruptcy court and that he was in poverty are entirely untrue. We express our deep regret that such statements and comment should have appeared and for the injury and annoyance we have caused him by such publication. We acknowledge that at our request Mr. Johnson has consented to stay proceedings in an Action for libel which he has brought against us in the King's Bench Division of the High Court of Justice upon our publishing this full retraction and apology and paying him 9100 as damages and his Costs of Action. Dated this 7th day of April, 1915.
Advertising
Rbifyn y Gwanwyn. Y BEIRNSAD CYLCHGBAWK CHWABTEBOI. dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y ColegN4 CenedlaothoJ a than oiygiaeth J. MORRIS JONES. Cynnwys— Y RHYFEL Y Parch. John Williams ACHOSJON Y RHYFEL Y Seneddwr Ellis W. Davies PETHAU YNGLYN A CHYMRU 1 Y Parch. R. S. Rogers BYRON Y BARDD Y Parch. D. Ambrose Jones GWERTH ENWADAETH Y Parch. D. Tecwyn Evans YSBRYDOLIAETH Y BEIBL Y Parch. R. S. Thomas HAWL AC ATEB T. Roberts, D. Arthen Evans, a'r Got NODIADAU IEITHYDDOL W. J. Gruffydd ac Ifor Williams ADOLYGIADAU gan yr Athrawon W. Jen- kyn Jones, Ifor Williams, T. Hudson Williams, y Prifatliro T. Rees, a'r Gol. Hugh Evans a'i Feibion, Argraffwyr, 356, 858 Stanley Road. Lerpwl COOK & TOWNSHEND. SPECIAL VALUE THIS WEKK. Boys' Smart Black Oil Mack- intoshes, 10/6. Boys' Tweed Sport Suits, 15/6 Boys' Covert Coats, 15/6 Gentlemen's Business Suits Mode to order, 50/- Byrom St. & St., LIVERPOOL. 7 t?BBBtm CYYlMAY/ Y Sychfwp (ireii i tiywion PA DDIBEN MEDDWL AR&ED? drwy brynnu bwyd rbad a cholti banner etch ha'sied pan altech. prwy dalu ychydig seintogau'n rhagor FAGU POp. liN O'R CYWION GWRKTHFAWR Fe fág cvdaid 81d. Arm-tagefl/- drwy'r po t) 12 o gvwion ne^ y b6nt yn bythefnos oed Samples rhad oddiwrth v gwneuthurwyr. I t pwys. 2/8. 3'2 a chyn- nw.N S v cludiad; 28 pwys, 5/4 neu 6/ rhwng cludiad. Ar werth ymhob storfa yd a h-idau T^'V; ( COME ALONG! 1 I ,{ |ITmm| i ts A R MITA C E'S ;|'J III 5 \1111,/1\' !Ih.,   !I- £f.A ,( b. -=-. 4í .=-==-=..I ManufaGtured by -V I ARMITACE BROS.LtP, NOTTINGHAM. I < HiiwiiniiiiwwiiiiniiiMiii iii11 mi Hi mm "the experience of millions a million times repeated." After an exhaustive study extending over a period of M four years a special commission appointed by the French Minister of War summarized their finding as follows :— The growing use of white flour among civilised people is founded upon the experience of millions a million times repeated. Bread made from Millennium" Flour is the best and cheapest food it is possible to buy. It is rich in the nourishment of the best wheats, and being free from all impurities it is more completely assimilated than any other. Millennium Bread retains its freshness for days.* "MILLENNIUM" FLOUR in 3-121 bs., 7 1 bs., 14 1 bs. & 140 lbs. Cotton bags GUARANfEfO UNBLEACHED AND UNADULTERATED. W. VERNON & SONS, London & Liverpool FLOUR MILLERS TO H.M. THE KING. PEiBsWOH A DIODDEF TYNNU DANT IACH f I IJ r"^ HIT sy I (Peidiwch byth a mynd T R E I W C" (Peidiwch bytha mynd I TREIWCHIlofnus a chan grynnu). 92=== SAFE CURE For TOOTHACHE, WForTOOTHACHE, ?M?N ALL NERVE PAINS ??Nf)BSjNW in the Head, Face, or Limbs from OoIds, OhiUs, etc. Post free, 13id. tN Wy y ? R.W8TEVEMSON.?o.osMA8TOt)Ro..eEMY. And ALL CHEMISTS. ?'' ? Testimonials from all parts. Estab* 70 Years, GWELLHAODD FILOEDD, A MEDR EICH GWELLA CHWITHAU PAM ? MITCHELL BROS. Marsh Lane, Bootle. English Manufactured MAPLE BLOCK FLOORING All Sixes kept In Stock. Largest Stock in the Kingdom P one 639 Bootle. Tel. Ad. Peremptory, Liverpoo Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. WALTER ROBERTS & CO., Colliery Agents, LIVERPOOL. LIVERPOOL The 4 SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, About 4 mins. walk trom Lime st. tIJ Central Stat m> A First-class Temperance Hotel. Moderate ck Tels.: Shaftesbury Hotel, L'pool." Phone  ALLAN RMI H?jL To CAN ADA LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON & HAVRE TO CANADA, NEWFOUNDLAND & U.S.A. ALLAN'S, 19 James St., Liverpool; 14Cookspar St., S.W., and 103 Leadenhall St., London, B.C. Llyfrau Cyfrifon Ysgol Sul. LLYFR YR YSGRIFENNYDD, gyda da- lennau byrion i wasanaethu am iwyddyn heb ail ysgrifennu yr enwau, dwy golofn ar gyfer pob Sul; crynhodeb ar ddiwedd pc chwarter, a nifer o ddalennau ar y diwedd gadw cofnodion. Rhif l-Ar gyfer ysgolion yn cynnwys 20 o ddosbarthiadau I/V Rhif 2-35 0 ddosbarthiadau 2/8- Rhif 3-50 0 ddosbarthiadau 3/- Cludiad gyda'r Post 4c. LLYFR CYFRIF Y DOSBARTH, wedi ei gyfaddasu i wneyd am 12mis heb ail ys- grifenu yr enwau i gyfateb i Lyfr yr Ys- grifennydd. Llyfrau Cyfrifon i'w cael yn dechreu o Ionawr I Ragfyr. neu o Ebrfll i Mawrth* Pris 1/- y dwsin. Cludiad-Un dwsin 3c., a cheiniog y dwsin ar ol hynny. HUGH EVANS A'I FEIBION, 35B 358 Stanley Road, Liverpool CRISTIONOGALTH A CHYMDEITHAS, GAN IY PARCH. J. H. HOWARD. RHAGAIR GAN Y GWIR. ANRHYDEDDUS D. LLOYD GEORGB. Y mae darllen y gyfrol yn goleuo y meddwl, yn cynhesu y galon, ac yn tyneru y gydwybod."—Y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. Fel ymdriniaeth hanesvddol a beirn- iadaeth o'r cwestiwn cymdeithasol, nid oes dim yn yr Iaith ddeil i'w gymharu a'r llyfr hwn ac y mae dawn y pregethwr a choethder y lAenor yn argraffedig ar bob dalen o'r gyfrol."—Y Ptu-ch. O. L. ROBERTS yn Y Dysgedydd. tlyfr hyfryd i'w ddarllen, mewn Cym. raeg swynol, llawn nororiaeth. cymwys yw Mr. Howard, o ran teithi meddwl a brwdaniaeth ysbryd, i ddadleu dros iawnderau gwerin, a,c i ddangos addaster yr Efengyl i gyfarfod a dyhewyd y bobl."—Yr Athro IFOE WILLIAMS, M.A., yn Y Beirniad. Y mae ei ysbryd yn eirias, a'i fraw ddegau yn llosgi ac yn goleuo gan frwd. frydedd pur. "-ANTHROPOS yri Y Faner. Fw cael gan bob Llyfrwerthwr ac o Swyddfa'r Brython," 356 Stanley Road, Liverpool' Pris 2s. 6c- neu 2s, 9c» trwy'r posts fI
Heddyw'r BoreI
Fod y cyfarfod hwn o aelodau seneddol Cymru,—gan bwyso ar yr addewid a roes "y Prif Weinidog ar y 30ain o Orffennaf 11 diweddaf, ac a gadarnhawyd gan arwein- ydd yr Wrthblaid, Awst y Slain, sef na ddygid unrhyw ddeddfwriaeth ddadleuol ymlaen. yn ystod y rhyfel, tra y byddid yn barod ar ei therfyn i ymwneud âg unrhyw golled ariannol a ddigv.'yddai i'r eglwys drwy'r rhyfel,—yn gwrthod mynd ym mlaen i ddadlu dim yn. rhagor ar fil nad I: oes dim rhaid wrtho ar hyn o bryd, bil sy'n cythruddo a pheri dadlu miniog ar adeg o gyniod gwleidyddol, a bil, o'i basio, a aneffeithiolai weithrediad y Parliament Act." Pleidleisiodd pawb o'r aelodau dros yr uchod ond Mr. Llewelyn Williams, y fo'n cynnyg y gwelliant fel y cynlyn Fod y cyfarfod hwn o'r Blaid Gymreig yn datgan ei benderfyniad i wrthwynebu Bil yr Oedi drwy ei holl adrannau, oni bydd i'r Llywodraeth ei gymedroli fel ag y bo i'r Aelodau Cymreig deimlo'n sicr y "daw Mesur yr Eglwys yng Nghymru i rym llawn ac effeithiol cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, yn unol a darpariadau y Parliament Act." CYNHADLEDD GAERDYDD—— Daeth cryn drichant o gynrychiolwyr Ym- neilltuaeth y De ynghyd i Gaerdydd ddydd Mawrth yr wythnos hon, i drafod yr un peth ag a drafodwyd yng Nghynadleddau y Rhyl a Llandrindod. Y Parch. H. M. Hughes, B.A., golygydd Y Tyst, oedd yn y gadair; ac a sylwai, wrth agor y cyfarfod, ei fod yn gobeithio, er uchod eu teimlad a'u hargy- hoeddiad hwy'u hunain, na ddywedid dim eithafol na thramgwyddus am bersonau, canys dros egwyddorion yr oeddynt yn ym- ladd, ac nid yn -erbyn personau'n y byd. Pa mor fawr bynnag y'u siomwyd yn y ffordd a gymerodd rhai gwyr i gudd-hyrwyddo Ril yr Oedi, peidier ag anelu geiriau brathog at yr Aelodau Cymreig, canys yr oeddynt ar hyn o bryd ye unol a phenderfynol eu hamdditlyn- iad i Fesur yr Eglwys yng Nghymru. Ein busnes ni yn y gynhadledd hon ydoedd dweyd wrth y Llywodraeth yn bur blaen a diamwys, fod Cymru, tra'n barod i aros ychydig yn hwy i'r Ddeddf Ddadgysylltiol ddod i rym, yn pwyso'r un pryd am gael y sicrwydd eithaf na bo dim diddymu'r Act. Sylwai'r Parch. Thos. Hughes, Felin heli- oedd yno fel cynrychiolydd o Gynhadledd y Rhyl-fod pawb yn unfarn fpd y Blaid Gym- reig wedi cael ei hanwybyddu, a'r genedl Gymreig, yn sgil hynny, wedi cael ei dirmygu. Lie'r sawl a hyrwyddodd y Bil Oedi oedd dod at yr Aelodau Cymreig gydag awgrymiadau ae yn y blaen, ac nid disgwyH'r aelodau hynny drafod darpariadau mesur na alwyd monynt i lunio'r un sillaf ohono. Cynrychiolydd arall oedd yno o Gynhadledd y Rhyl oedd y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl ac mewn araith danllyd, amlygai y dig a deimlai am frad Cymru. Rhaid i Dde a Gog- ledd Cymru, meddai, ddeall ei gilydd ar y pwnc a chydweithredu; a chofier hefyd y rhaid i'r Aelodau Cymreig ddeall ei gilydd a chadw lies a hawliau Cymru'n union nod o flaen eu llygaid yn hytrach na'u lies a'u hawl- iau personol. Gofid mawr iddo ef oedd medd- wl fod yr Aelodau Cymreig yn y gorffennol wedi bod mor ddawnus ar y gwaith o edrych ar ol eu nyth hwy'n hunain ac mor llac i hyrwyddo delfrydau'r genedl drwyddi draw. Ond heddyw dyma'r Aelodau Cymreig yn un a chytun am y tro cyntaf erioed, ac wedi mynd ymhellach nag y gofynesid iddynt fynd gan y rhai a'u hetholodd. Diolch byth am y fath dro a newid yn ei hanes Dichon mai rhyw "ddynion bach" oedd cynadleddwyr y Rhyl a Chaerdydd, ac yn boblach syml a diwybod; ond dymunai atgoffa y rhai a luchient y lach honno atynt, ei bod yn ffaith go ryfedd fod y "dynion bach yma yn gwybod digon rai blynyddau'n ol i roi bon- eddwr neilltuol yn y Senedd sydd bellach yn fawr ei ddylanwad a'i allu yn llysoedd y Llywodraeth a'r Ymherodraeth. Teimlai'n gryf na ddylasai Mr. Lloyd George byth mo'u galw'n ddynion bach. 'Does dim ond dwy flynedd er pan oedd y gwyr a alwodd y Cabinet atynt i hyrwyddo'r Mesur Oedi yn galw Mr. Lloyd George yn dwrne bach o Gricieth"; ond yr oedd Mr. Lloyd George heddyw'n ddigon cryf a dylanwadol i fod yn rhyddfrydig a dymunai ef ar i'r gwr hwnnw golio, os oedd ei gyfeillion yng Nghymru yn ddynion bach, mai dynion bach oeddynt a adeiladai eu tai ar y Graig. Siaradwyd ymhellach gan y Parch. Hywel Parry (Llansamlet), Mr. Rd. Morris (Barri), y Prifathro Edwards (Caerdydd), y Parch. Ungoed Thomas (Caerfyrddin), Mr. Lewis Jones (Merthyr) a Mr. Morgan Reynolds ac wedi bwrw gwelliant o'r naill du, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn hollol unfryd :— Fod y Gynhadledd hon yn galw ar yr Aelodau Seneddol Cymreig i wrthwynebu Mesur Oedi'r Ddeddf Eglwysig Gymreig a'u holl nerth, gan fod ei ddarpariadau, i'n tyb ni, yn rhwyddhau'r ymdrechion i erthylu'r Parliament Act, ac i andwyo, os nad i ddiddymu, Mesur yr Eglwys yng Nghymru a'n bod yn eu cymell i ddal yn ddisyfl yn eu gwrthwynebiad i'r bil yn ei ffurf bresennol, hyd yn oed at bleid- leisio yn erbyn y Llywodraeth os bo raid. Yrnhellach, yn wyneb yr ymrwymiad i beidio a dwyn unrhyw ddeddfwriaeth ddadleuol ymlaen yn ystod y rhyfel, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i dynnu'r bil yn ol neu ynteu ei gymedroli mewn cydymgynghoriad a'r Aelodau Seneddol Cymreig yn y fath fodd ag i ddiogelu gweithrediad llawn ac effeithiol i Fesur Eglwysig Cymru ar ddiwedd y rhyfel neu cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, prun bynnag or ddau beth ddigwyddo gyiitaf. Wedi hyn, rhoed ar bwyllgor penodedig i ddethol deuddeg cynrychiolydd o'r Deheudir i gydweithredu a deuddeg cyffelyb o'r Gogledd, ac i ymgynghori a'r Aelodau Cymreig gyda golwg ar unrhyw newid neu gymedroli ar y bil a ddichon gael ei awgrvmu gan y Llywodraetk neu'r Blaid Eglwysig.