Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Adgofion yr Hen flaenor i…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Adgofion yr Hen flaenor am Salford. I III I Y « 1854, adeg rhyfel y Crimea, yr oeddwn yn blif-atin gyda John Owen, timber merchant, Salford a clian fy mod wedi dysgu darllen Saewneg yn lied rwydd cyn gadael cartref, byddai galw arnaf ar awr ginio bob dydd i ddarllen y newyddion diweddaraf am y rhyfel iIr gweithwvr. Yr oedd un papur newydd foliv yn gwneud y tro i bawb. Yr oedd y diddürdeb a gymerai y gweithwyr yn y rhyfel hwwnw yn angerddol. Ni chafodd yr un pregethwr erioed wrandawiad mwy astud nag gawn i y pryd hwnnw gan ddwsin neu ragor o wrandawyr. Yr oedd yn ymarferiad rhag- orol i minnau hefyd, heblaw ychwanegu ystor o wyfeodaetli am symudiadau y rhyfol ofn- adwjr hwnnw. Peth arall yr oedd y dynion yn eithafol o frwdfrydig yn ei gylch y pryd hwmw oedd y cwffio," chwedl pobl Sir Fon, fu J'hwng Tom Sayers a Heenan, yr American- wr, Yr oedd y bendefigaeth a'r dosbarth gwejibiol a phob gradd, am wn h trwy'r deyrn- an, wedi ynfydu y pryd hwnnw gyda'r hyn a elwid y "noble art of self-defence." Wrth gwm, Tom Sayers oedd yr arwr ac o& wyf yn cofio yn iawn, efe a enillodd y fuddugoliaeth, eir llawenydd mawr ;'r holl wlad. Er nad oeddwn yn dygymod yn dda iawn a darllen i'r dynion am ymladdfeydd fel hyn, ystyrrid fy mod yn cael braint anhraethol i fod yn lay reader ar achlysuron o'r fath. Nid anghofiaf byth fel y byddai'r dynion yn berwi mewn brwdfrydedd pan ddarllenwn gwrs yr ymladd- fa, o round i round, a'r Hwre fawr wedi dyfod at round olaf y fuddugoliaeth, nes byddai'r lie yn diaspedain. Er yn ieuanc y pryd hwnnw, byddwn yn synnu at bobl mewn oed a synnwyr yn cael cymaint bias ac yn rhoddi cymaint cefnogaeth i arferia.d mor wrihun a bwystfilaidd. Tuallan i'r cylch Cymreig, y dyn mwyaf poblogaidd, yn fy meddwl i, yn Salford yr adeg honno, oedd Canon Hugh Stowell, clerigwr yn Eglwys Loegr. Hen wr tal, praff, syfch, o ymddangosiad urddasol a boneddig- aidd, Ilawn ynni a bywyd. Mae'i ddarlun i'w weled yn ei lawn faint yn gallery y museum yn Peel Park, Areithiwr hyawdl, ffafryn gan bawb ond y Pabyddion. Yr oedd yn elyn anghymodlawn i'r Babaeth. Yr oedd enw'r Pab yn atgas a ffiaidd yn ei olwg, a defnyddiai bob cyfle yn ei areithiau a'i bregethau i roddi ergyd a hergwd i'w barchedigaeth. Yr oedd ynhynod boblogaidd gy<la'r dosbarth gweith- iol. Cymerai ddiddordeb mawr yn eu cysur a'u llwyddiant. Darlithiai yn fynych iddynt ar faterion perthynol i gysur a llwyddiant eu cartrefi, traethai lawer wrthynt am garn, priodi, a byw, ac ni byddai dim yn ei foddio'n fwy nag i rywun o'r gynulleidfa ofyn cwestiwn iddo ar rywbeth a fyddai ef wedi ei draethu. YTwyf yn cofio iddo gael ei gornelu unwaith, er mawr ddifyrrwch i'r cyfarfod, pan ofynnodd rhywun iddo, When do you think, Canon Stowell, is the proper time for a man to get married ? "He ought not," meddai yntau, to get married until he gets whiskers, any- how" Well, Dr," meddai'r dyn drachefn, what is to become of those who never get whiskers ? Chwerthin braf gan bawb oedd, yw unig atebiad a gafwyd i'r cwestiwn. Dywedai na ddylai'r un gweithiwr briodi heb fod ganddo ddeugain punt wedi eu casglu ar gyfer dechreu byw, ac fe enwodd res o'r pefchau yr oedd raid eu cael i wneud cartref eysurus i'r gweithiwr ac er bod yn gymedrol iawn. yn ei estimate, a rhoddi pris isel ar bob un o'r nwyddau oedd yn angenrheidiol, yr oedd pob ceiniog o'r deugain punt wedi mynd. Yr oedd gan Canon Stowell gurad neu assistant rhagorol iawn o'r enw Mr. Darby,— llatfo o Wyddel golygus, wedi bod unwaith yn offeiriad Pabaidd. Byddai Mr. Darby yn cynnal cyfarfodydd unwaith yn yr wythnos mewn ysgoldy heb fod ymhell o'r lle'r oeddwn yn lletya. Amcan y cyfarfodydd hyn oedd dmoethi cyfeiliornadau y Babaeth ac fel y gellid disgwyl, yr oeddynt yn gyfarfodydd iluosog a brwd. Byddai'n dechreu bob amser gyda gweddi fer, ac wedi hynny anerchiad am hanner anvr ar un o athrawiaethau y grefydd Babaidd, mewn ysbryd hamddenol a phwyll- og, ac yn hynod deg a boneddigaidd. Wedi hynny, am yr hanner awr olaf, yr oedd y cyf- arfod yn rhydd i'r neb ddewisai ddod ymlaen i geisio gwrthbrofi gosodiadau Mr. Darby, y ddadl i'w chario ymlaen yn ol y drefn arferol pum munud i bob siaradwr, a phum munud i Mr. Darby ateb. Nid oedd yno byth brinder dadleuwyr, a dadleuwyr go dda hefyd yn yr ochr Babyddol (Gwyddelod, wrth gwrs). Deuent yno bob wythnos gyda beichiau o authorities Pabaidd, ond yr oedd Mr. Darby yn berffaith gyfarwydd a phob authority a ddygid gerbron, ac yn gallu eu dymchwel i'r llawr bob cynnyg, ar eu tir eu hunain, gyda'r rhwyddineb mwyaf. Tra'r oedd tymer y Gwyddel poethlyd yn tanio mewn cynddaredd nwydwyllt, oherwydd eu bod yn colli'r dydd, -eisteddai Mr. Darby a'i freichiau ymhleth yn hollol dawel a digyffro ynghanol y cynnwrf -a'r berw i gyd. Gwelais falurio ffenestr i'r yegoldy yn ysgyrrion gan y mob nwydwyllt, a chawodau o gerrig yn cael eu taflu at y cerbyd a gludai Mr. Darby gartref. Byddai mewn enbydrwydd beunydd am ei fywyd ond nid oedd d'm yn ei darfu nac yn ei atal i ddyfod yn 01 drachefn i wynebu ei wrthwynebwyr. Deuai i'r cyfarfodydd yn gyson, mor dawel a airiol ag erioed. Nid oedd dim yn ei gyffroi na'i gythruddo. Dyma'r dadleuwr goreu a glywais erioed yr oedd ei resymau a'i osod- iadau yn erbyn y gyfundrefn Babyddol yn ymddangos i mi, ac i bawb ond Pabydd rhag- farnllyd, yn anwrthwynebol. Os oedd yn cynhyrfu rhagfarn y Pabydd, credaf y bu'n foddion i wreiddio a chadarnhau llawer yn y ffydd Brotestanaidd. Coffa da amdano. Yn ystod y blynyddoedd a dreuliais yn Salford, adegau diddorol iawn i mi ydoedd y Pasg a'r Sulgwyn, ond gadawaf hyn tan y tro nesaf.

Advertising

tin Gineal ym manieinion.

Advertising