Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ARGRAFFU LLYFRAU Mae cyhoeddwyr y Brython wedi ennill enw iddynt eu hunain fel Argraffwyr Llyfrau. Ni wneir gwell gwaith mewn unrhyw Swyddfa yng Nghymru na Lloegr. Da fyddai i rai sydd ganddynt Lytrau i'w hargraffu, anfon am y prisiau ar unwaith, ac id aros hyd nes bo'r Rhyfel drosodd pan fydd llawer o bethau wedi codi, fel y galluoger ni i gadw y gweithwyr mewn llawn waith yn wythnosau dyfodol, ac felly wneud ein rhan i gadw Masnach ar fynd. "UG" EVANS & SONS, Swyddfa'r 'Brython,' 356-8 Stanley Road, LiVCrpOOl, TELEPHONE 591 BOOTLE CAETHDRA Ymae A MEDDYGINIAETH I BRONCEITUS VAUGHAN Darllennwch hwn oddiwrth J R FREST PHILIP C. CREAGHE, y" ?? goHyngdod parhao! ac ar unwaith rhag Caethdra, Bronceitus a Ynad Trigiannol Ballymena. Chlwy'r Gwair. Y mae Mrs. Creaghe yn dioddef era llawer blwyddyn oddiwrth Glwy'r Gwair a Chaethdra. Gallaf ddweyd yn ddibetrus iddi dreio pob meddyglyn y gwyddid t amdano, ond i ddim diben. Yr haf hwn y clywais gyntaf am Feddyginiaeth Vaughan i'r Frest, a da iawn gennyf gael dweyd iddo roi gollyngdod parhaol ac ar unwaith. Y mae ei effaith ar anhwylderau'r anadl yn rhyfeddol tuhwnt. a /i a 3 yn rhad drwy'r post oddiwrth K"iX fh £ &td" GWELLHAD British Agents, 108 Patrick Street, CORK. YN Y FAN.
.FFETAN Y GOL -1
.FFETAN Y GOL 1 Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Codi ofn ar Die. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,—Mae'n dda gan gannoedd glywed eicb bod yn myned i hela'r Twrch Trwyth o'r Colegau ac o Lyfrgell Genedl- aethol y Saeson yng Nghymru," fel y galwodd un hi. Rhoddwch help hefyd i gael ei lie i 'r delyn yn yr ysgol newydd. Y mae gan Y BRYTHON ddylanwad mawr, ac y mae ar y Die Shon Dafyddion yma ei ofn.— Maelor. ISCOED CELYDDON. Eisteddfod Gadeiriol Birkenhead, 19 14- Parth y Pres. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR.-Carem ysgrifennu gair ynglyn a'r mater uchod mewn atebiad i lythyr Mr. Tom Morus. Cred Mr. Morus na ddaw dim daioni o ymohebu ar fater fel hwn, ond credwn ni y deuai llawer llai o beidio a gohebu, oblegid y mae'r cyhoedd yn ymholi ynghylch yr arian, a'r tanysgrifwyr yn owestiyno i ble yr aethant ? Ac yn sicr ddigon, ni ddaw dim drwg o ddadlennu'r gwir. Os mai ni sydd i'n beio, boddlon ydym i gymeryd y bai; os mai yr wyth aelod arall sydd yn y cam, bydded y cyfrifoldeb arnynt hwy. Barned y cyhoedd. Beia Mr. Morus ni am neidio i'r wasg, Atebwn ninnau i ni oedi wythnosau lawer cyn gwneuthur hynny, a rhoisom bob cyfle i'r Pwyllgor ddod i derfyn boddhaol i bawb. Rhoisom rybudd hefyd o'n bwriad i wneud y peth yn hysbys, fel y mae'r Pwyllgor wedi cael mwy na chwarae teg yn y cyfeiriad yna. Beia ni hefyd am geisio pardduo'r gweddill, pryd na wnaethom ddim ond gosod y ffeithiau v- gerbron y cyhoedd. Nid ydym ni eto wedi j dweyd ein barn arnynt; ac os ydyw'r ffeith- moelion hyn yn bwrw parddu ar y brodyr, wel, rhaid iddynt ddygymod a hynny. Dywed Mr. Morus ymhellach mai colled ariannol fuasai'r Eisteddfod pe wedi dibynnu ar nawdd Cymry Glannau'r Mersey gwir, efallai; ond cyn wired a hynny, colled fuasai 't heb y nawdd hwnnw hefyd. £ Yna ceisia ateb dau gwestiwn (1) Paham f na chynhelir yr Eisteddfod eleni ? Ni raid manylu ar hwn, yr oedd pob aelod o'r Pwyll- t gor yn unfryd unfarn i beidio a'i chynnal, nes gorffen y rhyfel. (2) Beth ddaeth o'r cyllid ? r Yn hyn o beth yr ydym ni yn gwahaniaethu h' oddiwrthynt. Barnai gweddill y Pwyllgor mai eu heiddo hwy oedd yr arian (fel y dywed p Mr. Morus yn ei lythyr). Barnem ninnau mai c eiddo'r cyhoedd oeddynt. Barnent hwy fod hawl ganddynt i'w defnyddio at unrhyw bwr- pas a fynnent. Barnem ninnau nad oedd gennym hawl i'w defnyddio i ddim ond am- canion Eisteddfodol. Barnent hefyd nad i oedd gan y cyhoedd unrhyw hawl i wybod beth wneid a'r arian ? Daliem ninnau mai ein dyledswydd oedd rhoddi cyfrif o'n goruch- wyliaeth, a bod gan bob tanysgrifiwr, a phob un a wariodd swllt ddiwrnod yr Eisteddfod, hawl i wybod y cwbl, a pha angen celu dim didwyll ? Yna dywed Mr. Morus fod rhan rhai ohon- ynt hwythau hefyd yn y Banc. Hwyrach fod, ac y mae yn ddigon tebyg fod rhai hefyd wedi gwario eu cyfran hwythau; dim gwa- haniaeth pa un, y mae yr hyn y cwynem o'i blegid wedi ei gyflawni gan yr wyth aelod. Nid ymholwn ychwaith beth a wneir a'r arian yn y dyfodol. Hwyrach y ceisia rhai ohonynt dynnu'r cywilydd oddiar eu hwyneb- au drwy ddefnyddio'r arian at amcanion cyhoeddus, ond ni wna hynny ddim gwahan- iaeth. Y mae'r arian ar hyn o bryd yn eiddo* personol i'r wyth aelod. Bwriadant (medd ef) fyned ymlaen gyda'r Eisteddfod pan ddaw adeg cyfaddas i hynny ond dyma benderfyniad y Pwyllgor, yn llawysgrif Mr. Morus ei hun It was finally passed to abandon the idea of holding the Eisteddfod. Os oedd yn eu bwriad i fyned ymlaen, paham na chydsynient a'n cais i adael y E30 yn y bane hyd yr amser cyfaddas ? Sut bynnag, dyma ddyfyniad o lawysgrif Mr. Morus ei hun :— That each member of the Ten Committee men receive jE3 as his share, and the remaining 9 /6 to be equally divided c, between the two Secretaries and Treas- urer. This resolution was also unani- mously passed." Sonnia'r ysgrifennydd ar ddechreu ei lythyr i'r Pwyllgor gael cryn anrhydedd. Credwn ninnau mai dyledswydd pob aelod yw gwneuthur ei ran i gadw i fyny'r anrhydedd hwnnw. Yn awr, Gymry'r cylch, a ellir cyfiawnhau ymddygiad fel hwn ? EVAN EVANS, 1 Laird Street RICHARD HUGHES, South Road, West Kirby Eisteddfod Gadeiriol Birkenhead, Pasg, 1914. To the Editor of Y BRYTHON I DEAR SIR,-It is interesting to note the particularly careful phrasing of the corres- -pondence sent to you by Messrs. Richard Hughes and Evan Evans, with regard to the above. It is still more interesting to see the dark clouds which lie behind these lines, and float over the heads of the remainder of the Committe. One would gather from the opening letter that the Committee (apart from the two members whose signatures were attached to the letter) had merely arranged the Eistedd- fod, and when all moneys, etc., had been collected and expenses paid, recklessly squan- dered the balance between themselves. Mr. D. T. Jones' letter is ample proof of this impression. But what was the position of the Committee at the meeting arranged for dis- cussing the advisability of cancelling the Eisteddfod for this year ? It may be, if one could get at the root of things, that something had happened which tended to divide the Committee; but not being in very close touch with any of them, I am not in a position to say definitely. However, after a long discussion, it was resolved to cancel the Eisteddfod, and another meeting bad to be called for the purpose of discussing what should be done with the cash in hand. After a prolonged discussion it was deemed advisable to share the profits equally between I the ten members. Evidently this did not meet the wishes of certain members,—hence ¡ the correspondence. Personally, I am not disposed to disclose my views in full at the present time.—Faithfully yours, 75 Claughton Firs, O?oM. TOM LLOYD. J 15 Claugh,ton F,irs, Oxtoti. TOM LLOYD. I Cweatiwn neu ddau. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR,—Yn rhestr Testy nau Eis- teddfod Genedlaethol Aberystwyth ceir a ganlyn Penillion Singing with the Harp (North TVales Style), Prize F,3.131-. (a) Eryri Wen, (b) Plygiad y Bedol Fach from 'Llyfr Cerdd Dannau (Robert Griffith), (c) To a melody of competitor's own selection. Carwn gael gwybod (1) a fydd raid i'r dat- geiniaid osod ar yr alawou (a) a (b) fel y mae Mr. Griffith wedi eu trefnu, neu a fydd hawl ganddo i osod fel y n-tyli arnynt ? (2) A oes sicrwydd y bydd y telynor yn gwybod yr holl alawon gosod ? Nid ydyw y program yn dywedyd fod yn rhaid anfon enw'r alaw a ddewisir (c) i'r Pwyllgor ymlaen llaw. (3) A fydd raid i'r cystadleuwyr ganu mewn cylch ar yr alawon (c) ?—Yr eiddoch, etc. UN A GARAI WYBOD Englyn cystal- ag adnod i Gymro., I At Olygydd Y BRYTHON SYR,- Y mae cynifer o bethau mor dda a buddiol wedi ymddangos yn Y BRYTHON yn ddiweddar fel mai pur hawdd ydyw gadael iddynt basio heb ddal sylw priodol arnynt. Credaf fod englyn da yn nesaf peth at adnod yn nhyb y Cymro felly, yr wyf o'r farn ein bod dan gryn rwymedigaeth i'r Prifardd Pedrog am yr englynion gwych a gawn ganddo o bryd i bryd. Y mae yna rhyw feddwl mawr neu gyffyrddiad melys ym mhob un (ond i chwi beidio a cheisio eu trwsio eich hun, fel ag y bu arfer rhai). Clywch ei englyn eto i'r Pader yn Ysgol y Llan." Y mae yn werth i chwi ei ail brintio, syr :— 'Roedd naws ebrwydd i'n sobri—o'r Pader Peidiem a phob gwegi; Mae hedd y symlaf weddi Yn rhywbeth mawr byth i mi. Sylwch, da chwi, ar y ddwy linell olaf, fel y mae y bardd wedi myned i oed (nid yn hen, cofiwch) yn dangos effaith adrodd y pader wrth ddesg yr ysgol arno. Bravo, Pedrog Ac os-y bydd ar ddyn,wedi i'r rhyfel a'i helynt fynd trosodd,awydd dadleu yn erbyn addysg grefyddol yn yr ysgol bob dydd, sisialer englyn Pedrog rhyngddo a fo ei hun ni cha fawr o hwyl ar y dasg wedyn, mi wn. A dweyd y gwir, heb ddiystyru dim ar yr Ysgol Sul, fe ddysgai ami i hen sgwl fwy o Ysgrythyr i chwi mewn pythefnos nag a ddysgech mewn blwyddyn o Ysgol Sul. Dyna'r hen berson hefyd, rhyw atgof go dyner sydd gan lawer ohonom amdano yntau. Cawsom ddisgrifiad tlws gan ddyn y 'Drych yn ddiweddar o berson y pentref gwledig lie y magesid ef Y dyn da, duwiolfryd hwnnw," meddai; ac mewn lie arall, dywed wedi iddo oleuo ei ffordd a'i wen, ac edrych bendith ar y plant." Mor debyg i'w Feistr, onite, Syr ? Go debyg oedd atgofion Eben Fardd hefyd am Roberts, beriglor hybarch, Y mwyn wr, mae yn ei arch O'r hen ddull ei rinwedd oedd, Caredig mewn cur ydoedd; Da i'r tlawd, er atal loes, A diddanu dydd einioes," etc. Ond yn ol a glywsom gan wr mawr yn ddi- weddar, rhyw atgofion go smala sydd gan bobl Sir Fon am yr hen berson DANIEL 0. JONES 17 Sefton Square, Lerpwl Ysgubor Ty Mawr. ai e ? At Olygydd Y BRYTHON SYR,-Darllenais lythyr ar y cwestiwn uchod yn Y BRYTHON diweddaf gan Deme- trius ond er ei ddarllen a'i ail-ddarllen, methaf yn deg a gweled beth ydyw amciin ei lythyr. Ymddengys ei fod yn cydweled a. mi parthed y gosodiadau mai yn y lie uchod y cychwynnodd Ymneilltuaeth yng Nghymru, ac y cynhaliwyd yr Ysgol Sabothol gyntaf yng Nghymru, a disgwylia Demetrius, fel y finnau, am ddatguddiad awdtir y gosodiadau. Tybia Demetrius, fel y finnau, hefyd, mai yr un ydyw awdur y ddau osodiad, ond ffroma'n aruthr at y geiriau a ddefnyddiais i fynegi hynny ond gresyn iddo, wrth geisio codi ei frawd o'r ffos, gyffroi cymaint nes syrthio mor ddwfn iddi-ei hun. "Y meddyg, iacha dy bun." Gofynna Demetrius a wyr Veritas rywbeth am hanes yr hen ysgubor enwog hon. Gwyr, gryn, dipyn, drwy ddarllen hanes Ymneill. tuaeth yng Nghymru, a chafodd y fraint un waith o'i gweled pan ar ymweliad a'r hen ardal enwog. Rhydd Demetrius wahoddiad cynnes imi daflu goleuni ar y cwestiynau dyrys o gychwyn Ymneilltuaeth, etc., ond bradycha ei ddilysrwydd drwy ddweyd na ellir hanesydd dilys ohono. Pa fodd bynnag, ni honnais fod yn hanesydd, a chredaf nad oes angen bod yn hanesydd i alw sylw at gyfeiliornad amlwg mewn hanes. A dyna i gyd a wnaethum i. Gallwn feddwl oddiwrth lythyr Demetrius ei fod ef yn honni bod yn rhyw gymaint o hanesydd, ond ofnaf na ellir hanesydd dilys ohono yntau chwaith, oblegid dywed fod yr hen ysgubor hon wedi gorfod rhoddi ffordd ers tua 30 mlynedd, i welliantau eraill. Nid oes 20 mlynedd ar pan fum i yn ei gweled, ac y mae i unrhyw un a wnel 10 mlynedd o gam- gymeriad mewn cyfnod o 30 mlynedd,—a'r rhai hynny y 30 mlynedd diweddaf,—yn ei wneud yn hollol ddiwerth fel hanesydd. Gyda llaw, ai cywir cyfeirio at y lie fel Ysgubor Ty mawr ? Yn ol yr hanes a ddarllen- ais, Ystafell o'r Ty mawr ddywedir. Dangos- wyd i mi y tý ac ystafell gysylltiedig lie y dywedid y byddai hen seintiau y dyddiau gynt yn addoli, ac yr oedd y rhai hyn yn hollol ar wahan i'r ysgubor. Gwir mai fel ysgubor y'i defnyddid pan welais y lie, ond nid yw hynny yn cyfreithloni galw hen dy a gysegrwyd mor ogoneddus yn ysgubor. Gwnai Demetrius gymwynas drwy geisio cael y darlun y sonia amdano i'r BRYTHON.—Yr eiddoch, etc. VERITAS y Berf-Enw. I At Olygydd Y BRYTHON J SYR,—Diolch i Mr. Manuel am ei lythyr caredig. Oherwydd byrder yr amser ac aml- der fy ngorchwylion, hwyrach na ddarllen. aswn oi lythyr cyntaf yn ddigon manwl i wneud perffaith chwarae teg ag ef. Os gwnaethpwyd cam a Mr. Manuel, heb geisic y gwnaed hynny. Nid amddiffyn gramadeg- wyr ac athrawon Cymraeg yng Nghymru (pe medrwn) oedd fy amcan, eithr amddiffyn y berf-enw a'i ddefn} dd, a chredwn mai dyna oedd testyn sylwadau Mr. M. yn ei lythyr cyntaf. Nid oedd gollwng fy o'r geiriad yn fy erbyn yn gwneud dim rhithyn o wahaniaeth i'r ddadl, oblegid ychwanegiad yw fy yn y fan hon, ac y mae'r ddau air yn erbyn," fel y'u dyfynnwyd gennyf fi, yn rhan ymadrodd cyfansawdd, sef Arddod- iad." Ni ellir gwneud berf-enw o'r gair erbyn yn y geiriad yn fy erbyn," er i ddyn ei barsio yn ol awgrym Mr. M. Serch hynny, gwelaf yr anhawstcr, ond nid oes a fynno hynny a'r pwnc dan sylw. Y mae'n bleserus gennyf ddweyd fy mod yn cytuno a llawer o'r hyn a ddywed Mr. M. yn ei lythyr diweddaf. Nid wyf finnau, chwaith, yn hoff o'r termau dieithr a ddefnyddir wrth ymdrin a chystrawen y Gymraeg, ond ni raid i ni, y Cymry, ymgochi yn wyneb hyn. Onid eu benthyca ddarfu i'r Saeson a'r Ffrancod hwythau ? 0 na chawsern ramadeg, teilwng o'r oes hon, yn ein hiaith ein hun Yr wyf wedi bod yn rhyw led-ddisgwyl i Mr. Gwynn Jones ddwyn allan argraffiad newydd o Gamrau Emrys ap Iwan, wedi ei helaethu wrth reswm. Ar yr un pryd, nid oes gennyf fi fawr i gyd o ffydd mewn dysgu iaith drwy ei gramadeg. Gwell o lawer, goeliaf fi, yw ymarfer a siarad a darllen ac ysgrifennu Cymraeg bob cyfle geir; ac yn y cysylltiad hwn y mae gwers Emrys ap Iwan yn werth ei dyfynnu Y mae lie i ofni y daw yn fuan gyfnod arall a mwy dirywiedig, os nad ymetyl "corff ein siaradwvr a'n hysgrifenwyr rhag cyrnryd arnynt addysgu ereill, o'r pulpnd a thrwy'r wasg, hyd nes y byddont eu hunain wedi trwytho eu meddwl yn iaith Ysgrythyr Lan, y Mabinogion, y Gweled- igaethau, a Hanes y Ffydd. Pe na ddar- "llenai dyn ddim ond y Beibl yn unig, megis y dylid darllen, byddai hynny ei hun yn ddigon i'w gadw rhag ysgrifennu'n wael. Ond y gwir ydyw, mai ychydig sydd yn darllen er mwyn coethi eu hunain --er fod llawer yn darllen er mwyn caffael gwybodaeth, a chwaneg fyth yn darllen er mwyn caffael difyrrwch." Rhwng cromfaehau megis-onid yw'n resyn na buasai Mr. Manuel yn mentro ysgrifennu ei lytliyrau i'r BRYTHON yn Gymraeg, er mwyn esiarr-pl i eraill, yn enwedig os yw'n athro ac yn addysgu ereill yn yr iaith ? Grassendale G. GRIFFITHS Hen Delynor yr Efail Isaf. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,—Mewn cysylltiad a. theith- iau Eos Dar a Watcyn Wyn drwy'r wlad dylsid hefyd enwi y telynor enwog, Mr. John Bryant, yr Efail Isaf. Er ei fod yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, deil i ganu ei hoff offeryn o hyd, a Uithra ei fysedd yn hoew ar hyd y tannau. 'Does odid neb a ddysgodd gymaint i ganu y Delyn, ac y mae dyled Cymru yn fawr iddo. A oes yna rywun arall yn fyw -fit fel efe yn Delynor Teulu ? Per- thynasau agos a disgyblion iddo ef yw'r Mri. Tom Bryant a Tudor Powell.—Ydwyf, etc. LLORFDANT CyfeJlwyr trwstan a disut. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Drwy gyfrwng eich papur clodwiw, dymunaf alw sylw pwyllgorau cyngherddau Cymreig y ddinas at y pwysigrwydd o ddewis cyfeilwyr medrus a phrofiadol i wasanaethu ynddynt. Ychydig ddyddiau'n ol, euthum innau, fel amryw eraill, i dda,u gyngerdd neilltuol i glywed rhai o brif gantorion y Gogledd yn canu a drwg gennyf orfod dweyd i mi fethu cael gronyn o fwynhad yn y naill na'r llall, am fod y cyfeilwyr yn anfedrus, ac yn hollol annheilwng i gyfeilio i gantorjon mor uchraddol. A dweyd y gwir yn bla n, nid oedd yr nn a gyfeiliai yn yr ail gyngerdd yn deilwng i ganu piano mewn penny reading. Mae peth o'r fath yn hollol annheg a'r cantor- ion, ac yn ddirmyg ar y gwrandawyr. Mae digon o gyfeilwyr profedig yn Lerpwl, fyddai yn fn-Ich o wasanaethu am chwarter y pris a delir i rai o'r cantorion. Ac felly, os am gyngerdd da, mynnwph un da i ganu'r piano,— peth sydd llawn mor bwysig a dewis cantorion da.—Yr eiddoch, etc. TRISTAN. Hanes Eglwys Fitzclarence Street. I At Olygydd Y BPYTHON I SYR.—Yn eich rhifyn cyn y diweddaf, ceir sylwadau gan Mr. Isaac Davies ar y pamffled yn cynnwys yr hanes uehod, a chyfeirir at rai gwallau ynddo, a gosodir hwy allan dan chwe pennawd; dymuna-f roddi ychydig eglurhad arnynt bob yn un ac un. I. Dywed Mr. Davies mai yn 1824 ac nid yn 1816 fel y gellir casglu oddiwrth tudal. 5, y cynhelid moddion yng nghapel y Bedyddwyr yn Great Crosshall Street." Y mae hyn yn hollol gywir, ond nid wyf yn deall pa fodd y mae Mr. Davies yn tynnu'r casgliad oddiwrth yr hyn a ddywedir ar tudal. 2, sef ar ol helaethiad ar y capel yn Pall Mall yn 1816, a fod yr holl eisteddleoedd wedi eu cymeryd, cyn dydd yr agoriad, gwelwyd yr angenrheid- rwydd am gapel arall yn y rhan hon o'r dref." Yn tudal. 6 datgenir yn glir mai mewn Cyfar- fod Misol yn Pall Mall y 9fed o Fawrth, 1824, y penodwyd dau frawd, sef John Hughes a Rice Price, i fyned i Great Crosshall Street i ofalu am achos yn y lie hwnnw golyga hynny mai dyna'r amser y dechreuwyd yr achos yno. II. John ac nid Thomas Hughes oedd tad Josiah Hughes mae yn anffodus fod y gwall hwn wedi llithro i mewn trwy amryfus- edd hollol, gan irtai John Hughes oedd yr enw yn yr ysgrif hyd y proof diweddaf, pan wnaed y camgymeriad anffodus. Mae'n dda gennyf fod Mr. Davies wedi rhoddi cyfle i mi gywiro hyn yn gyhoeddus. III. Dylesid rhoddi clod i Edward Morris am gychwyn Ysgol Sul yn Birkenhead yn 1834, a buasai dyfyniad o alareb y Parch. Owen Jones, Manchester, ar ol yr hen bererin yn werth ei chadw." Cydwelaf a Mr. Davies mai dymunol fuasai cael llawer mwy o hanes yr hen bererin hwn, gan ei fod yn- un o'r cy- meriadau hynotaf fe allai a fu'n perthyn i'r eglwys. Gallesid ysgrifennu cyfrol amdano, ond ni chaniatai gofod ac a'i gysylltiad ag eglwys Rose Place yr oedd a fynnom ni yn fwyaf neilltuol, ac nid a Birkenhead. Y mew* yn lied debyg y caiff yr hen flaonor ei anrhyd- eddu am y gwaith rhagorol yma pan ysgrif- ennir hanes eglwys Birkenhead. IV. Nid ydyw chwiorydd yr eglwys wedi cael eu lie priodol, dwy yn unig a enwir," etc. Dichon ond i Mr. Davies fyned eto yn fwy- manwl drwy y pamffled y gwel y caiff chwech o leiaf o'r chwiorydd sylw, ac yn eu plith Mrs. Joseph Williarns y cyfeirir ati gan Mr. Davies fel wedi gadael allan,-gwel tudal. 34. V. "Cyfrifon Eglwysi Liverpool Yr hyn a ddywedir yw nad oes gyfrifon cyflawn am y deunaw mlynedd cyntaf yn Rose Place y gellir dibynnu arnynt, a thybiwn. gan na ellid eu cael yn gyflawn a chywir, mai gwell eu gadael allan. Cyfeirir yn y llyfr at gyfrifon 1841 hyd 1848, a chyfeiria Mr. Davies at gyfrifon 1835 hyd lS42,-cyfnod o dair biynedd ar ddeg. VI. Dywed Mr. Davies dan y pen hw mai diddorol fuasai cael erynhodeb o arabell bregeth a bregethwyd yn Rose Place, a ohyf. eiria at ddwy yn iioilltuol,gall y Parch. John Parry, I Caer, a'r Parch. Hugh Jones. Profa hyn fod maes eang eto heb ei gyffwrdd yn hanes Methodistiaeth Liverpool. Diddorol fyddai cael pennod yn Y BRYTHON o dro'i dro gan Mr. Davies a brodyr cyffelyb, sy'n cymryd diddordeb yn hanes Methodist- iaeth y Glannau. STEPHEN ROBERTS 4 X Nonfood Grove Geiriadur Charles ynteu pwy ?' At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Nid yw ateb eich gohebydd, Mr. Hugh Lloyd, i holiad Ymofynnydd yn clirio dim ar anhawster yr olaf. Yn wir, dengya H);thyr Mr. Lloyd nad yw'n hysbys ag elfen- nau'r I)roblem awdurol a llyfryddol sydd y tu ol i ofyniad Ymofynnydd. Nid oes a wnelo"r Geirlyfr Ysgrythyrol a gyhoeddodd Sion Robert Lewis yn 1773, a'r mater yn union- gyrchol o gwbl. Y rheswm am y dyryswch— ac y mae'r broblem yn ddyrys iawn i'w datod yn eglur a boddhaol—yw, fod rhan gyntaf y Geirlyfr I Isgrythyt-ol a gyhoeddwyd yng Nghaerlieon yn niwedd 1801 yn waith gwir- ioneddol Sion Robert Lewis, ac fod yr argraff- iadau cyntaf o'r ail a'r drydedd ran, yn rhan- nol, yn waith yr un gwr. Yr wyf wedi troi ugeiniau o goplau cyfrol gyntaf argraffiad cyntaf Geiriadvr Charles o dro i dro, ac wedi gweled y rhan gyntaf a'r ail a'r drydedd, fel y daethant allan yn eu ffurf gyntaf mewn amryw goplau. Ychydig iawn o'n gwyr lien a gyfsrfyddais yn gwybod am yr an- hawster, llai fyth yn alluog i esbonio'r mater yn foddhaol. Gwelodd Gwilvm LIeyn y rhan gyntaf o Eirlyfr Ysgrythyrol Caerlleon, 1801, ond y mae'n amlwg na welodd yr ail a'r dry- dedd a'r bedwaredd a'r burned yn eu hamlenni gwreiddiol, ac na welodd, neu o leiaf na sylwodd, ar argraffiadau newydd Charles o'r rhan gyntaf a'r ail a'r drydedd, o'i waith mawr ef. Dyma'r stori'n fer heb fyned i'r manylion. Paratodd Sion Robert Lewis Eirlyfr Ysgrythyrol newydd rliwng 1788 a 1793. Bu'n ymdreehu cael cyhoeddwr iddo rhwng y blynyddoedd 1793 a 1799. Yn y flwyddyn olaf a enwyd, llwyddodd i gael argraffydd yng Nghaerlieon—Mr. W. e- Jones. Dyma brawf yr adran flaenaf o'r gosodiad hwn. Ar amlen Cylchgraion Cym- raeg Morgan John Rhys am Awst 1793 ceir yr hysbysiad canlynol :— Yr ydym yn meddwl hefyd y bydd i Eirlyfr Ysgrythyrol Mr. John Roberts o Gaergybi gael ei gyhoeddi yn rhannau chwe cheiniogau, ac yn cynnwys o gylch "wyth rhan. Pwy bynnag sy'n cawen- "nych annog y gwaith hwn, derbynied enwau yn ei gymdogaeth, ac anfoned eu rhifedu at oruchwylwyr y Cylchgrawn." Pan gymerodd W. C. Jones, Caerlleon, y gwaith mewn llaw, trefnodd i Thomas Charles neu Thomas Jones i edrych dros y gwaith. Mr. John Humphreys, Caerwys, oedd un. o ddarllenwyr proflenni gwasg Caerlleon y pryd hwn. Thomas Charles ac yntau olygodd y rhan gyntaf o Eirlyfr Ysgrythyrol Sion Robert Lewis trwy'r wasg, ond y mae digon o le gen- nym i grodu na wnaeth Charles nemor ddim o'r gwaith oherwydd ei brysurdeb gyda phethau eraill. Daeth yr ail ran allan wedi ei diwygio'n fawr—fel y mae'n amlwg i'r neb a sylwo ac a'i cymharo a'r cyntaf. Daeth y drydedd wedi ei diwygio yn helaethach eto. Pan ddaeth y bedwaredd allan o wasg newydd Charles yn y Bala—hawdd y gwel y cyfar- wydd mai gwaith Thomas Charles oedd hoimo i gyd. Bu anghydwelediad rhwng Charles a John Humphreys, torrwyd pob cysylltiad rhyngddynt, cyn belled ag yr oedd cyd- weithrediad ar y Geirlyfr yn mynd. Ysgrif- ennodd a chyhoeddodd Charles y rhan gyntaf o'r newydd, a dygodd allan argraffiad newydd o'r ail a'r drydedd ran yn ol ei gynllun ei hun. Yn ail argraffiad y gyfrol gyntaf yn 1813, didolwyd y cwbl o waith Sion Robert Lewis o lyfr cyntaf Geiriadur Charles, ac y mae Geiriadur Charles fel y mae heddyw vn waith Mr. Charles i gyd, yn ymarferol. Gall y sawl sydd am y manylion eu cael yn llawn yn L?fe of Thomas Charle8 gan fy nghyfaill D. E. Jenkins (vol. ii, 462-491). Pan yn casglu llyfryddiaeth Charles yn niwedd y gwaith mawr hwnnw, cesglais y rhannau i gyd yn eu dalenni gwreiddiol, ac yr oeddynt wrth benelin Mr. Jenkins pan yn ysgrifennu'r hanes sydd bellach wedi ei benderfynu'n derfynol.— Yr eiddoch, Coleg y Gogledd. Coleg y Gogledd. T. SHANKLAND. Rhagor ar tudal 2. ._n_-
Advertising
CYNYRCHION EISTEDDFODOL. (0 dan olygiaeth Syr E. VINCENT EVANS). I-DYLANW AD Y RHUFEINIAID A R IAITH, GWAREIDDIAD A GWAEDOL- IAETH Y CYMRY. II-ADDYSG CYMRU YN Y CANOL OESAU. III-HANES MYNACHDAI JGQGLEDD CYMRU HYD EU DIDDYMIAD. Y tri llyfr uchod gan y Parch. D. D. WILLIAMS- Cyhoeddedig gan Gymdeithas yr Eistedd fod Genedlaethol. Ar werth yn swyddfa'r BRYTHON. pria 6d, yr un, trwy'r post 7d. yr un